Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cyng. Catrin Wager. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan Cyng. Nia Jeffreys ar gyfer eitem 8
gan ei bod yn aelod o’r Grwp Llywio ar gyfer cynllun Dementia Go. Roedd yn eitem
a oedd yn rhagfarnu a bu iddi adael y cyfarfod ar gyfer yr eitem. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION Y CYFARFOD GYNHALIWYD AR 7 MAI 2019 PDF 86 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar y 7 Mai 2019 fel rhai
cywir. |
|
YSGOL LLANAELHAEARN PDF 504 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Rees Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd rhoi caniatâd ‘r Adran Addysg i gynnal cyfarfodydd ffurfiol
gyda’r corff llywodraethol a budd-ddeiliaid perthnasol eraill i drafod ystod o
opsiynau posibl ar gyfer dyfodol yr ysgol. Cofnod: Cyflwynwyd gan
Cyng. Cemlyn Rees Williams PENDERFYNIAD Penderfynwyd rhoi
caniatâd i‘r Adran Addysg i gynnal cyfarfodydd ffurfiol gyda’r corff
llywodraethol a budd-ddeiliaid perthnasol eraill i drafod ystod o opsiynau
posibl ar gyfer dyfodol yr ysgol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr adran yn awyddus i gynnal cyfarfodydd ffurfiol a’r
Corff Llywodraethol a budd-ddeiliaid perthnasol i drafod ystod o opsiynau posib
ar gyfer dyfodol yr ysgol. Mynegwyd fod pryderon wedi codi am y cwymp sylweddol
yn y nifer o ddisgyblion yn yr ysgol, a bod amcangyfrifon yn dangos fod y
niferoedd yn mynd i leihau ymhellach. Nodwyd fod y
trafodaethau cychwynnol wedi ei cynnal gyda’r Bwrdd Llywodraethol a
phwysleisiwyd mai ymgynghoriad fydd yn cael ei gynnal er mwyn adnabod a thrafod
opsiynau posib. Ychwanegodd y Swyddog Addysg fod gan yr ysgol capasiti o 53 o
ddisgyblion, ac ar hyn o bryd fod y niferoedd wedi disgyn i 11. Ychwanegwyd fod
niferoedd wedi lleihau ers 2013 gyda nifer o blant yn y dalgylch yn mynychu
ysgolion eraill. Mynegodd yr Aelod
Lleol fod Ysgol Llanaelhaearn yn ysgol fechan sydd wedi gweithio yn galed dros
y blynyddoedd diwethaf i godi safon addysg a chyrhaeddiad y plant. Nododd ei
fod yn siomedig a trist am sefyllfa’r ysgol a bod y Llywodraethwyr yn gweithio
yn galed i geisio cynyddu nifer y plant yn yr ysgol. Ychwanegodd ei fod yn
ymwybodol y bydd problemau cyllid sylweddol gan yr ysgol os na fydd niferoedd
yn cynyddu, ond gofynnodd i’r aelodau Cabinet i ystyried ansawdd yr addysg a
hapusrwydd y plant tra’n trafod yr opsiynau. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Holwyd
gyda newid yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion y llynedd a fydd hyn yn addasu'r
ffordd y bydd yr adran yn gallu edrych ar opsiynau. Nodwyd fod yr ysgol yn
disgyn o dan gategori Trefn Cau Ysgolion Gweledig, ac felly rhan o’r drefn yna
fydd angen edrych ar bob opsiwn gan roi gwir ystyriaeth i effaith cau ar
addysg, ar y gymuned ac ar deithio i ysgolion eraill. ¾
Nodwyd
o ran amserlen cyfarfodydd y bydd angen cyfarfod cyntaf cyn diwedd tymor yr
haf, ac yna’r ail gyfarfod ym mis Medi yn dilyn gwneud gwaith ymchwil pellach
yn ystod yr haf Awdur: Gwern ap Rhisiart |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd dyrannu
£116,000 o adnoddau un tro o’r Gronfa Trawsffurfio ar gyfer ariannu swydd
Arweinydd Therapi Galwedigaethol fydd â chyfrifoldeb am arwain a datblygu'r
gwasanaeth Therapi Galwedigaethol ar draws yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant
(cyfnod o 2 flynedd). Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNIAD Penderfynwyd dyrannu
£116,000 o adnoddau un tro o’r Gronfa Trawsffurfio ar gyfer ariannu swydd
Arweinydd Therapi Galwedigaethol fydd â chyfrifoldeb am arwain a datblygu'r
gwasanaeth Therapi Galwedigaethol ar draws yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant
(cyfnod o 2 flynedd). TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adran yn gwneud cais un tro o’r
Gronfa Trawsffurfio am £116,000 i ariannu swydd Arweinydd Therapi
Galwedigaethol am gyfnod o ddwy flynedd. Ychwanegwyd mai’r rhesymeg dros hyn
yw’r agenda o newid sydd gan yr Adran yn benodol yn y maes ataliol ac i sicrhau
ffyrdd i geisio cadw defnyddwyr gwasanaeth adref mor hir â phosib cyn mynd i
ofal. Mynegwyd fod rôl Therapyddion Galwedigaethol yn allweddol i sicrhau
cefnogaeth yn y cartrefi. Ategwyd fod y
rôl newydd yn allweddol er mwyn newid diwylliant o fewn y gwasanaeth er mwyn
sicrhau fod y dinesydd yn ganolog i’r gwasanaeth sydd yn cael ei gynnig iddynt. Ychwanegodd y Uwch Reolwr Gwasanaethau Oedolion y bydd y rôl yn trawsnewid
y gwasanaeth gan roi pwyslais penodol ar waith ataliol. Ychwanegwyd y bydd y
rôl yn gwneud gwaith o ail fodelu ac integreiddio rolau therapi rhwng yr
Awdurdod Lleol a’r bwrdd Iechyd i sicrhau fod adnoddau presennol yn eu
defnyddio yn y modd mwyaf effeithiol ac y bydd y gwasanaeth yn fwy person canol
i’r defnyddiwr gwasanaeth. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth -
Holwyd
os yw’r Bwrdd Iechyd yn barod i gyd-weithio yn nes gyda’r Cyngor. Nodwyd fod
gweledigaeth gyson gan y Pwyllgor Integredig Rhanbarthol i weithio yn nes ac
ychwanegwyd fod angen edrych ar brosesau ar y cyd i leihau dyblygu. -
Dangoswyd
cefnogaeth i’r cynllun gan nodi ei fod yn cyd-fynd a blaenoriaethau'r Cabinet.
Ychwanegwyd pwysigrwydd gwaith ataliol gan fod pethau bach yn gwneud llawer o
wahaniaeth i sicrhau fod pobl yn gallu aros adref am gyfnod hwy. -
Pwysleisiwyd
mai cais un tro am gyfnod o 2 flynedd yw’r cais yma gan ychwanegu y bydd angen
ail edrych ar y cynllun ar ddiwedd y cyfnod. -
Holwyd
os bydd posibilrwydd o brentisiaethau o fewn y maes, nodwyd fod trafodaethau yn
cael eu cynnal a Phrifysgol Glyndŵr er mwyn hyfforddi staff yn y maes i
ennill cymwysterau Therapydd Galwedigaethol. -
Cadarnhawyd
fod y Cabinet, wrth dderbyn adroddiadau ar gyfrifon terfynol 2018/19 yng
nghyfarfod 21 Mai, wedi adolygu’r cronfeydd a darpariaethau, a throsglwyddo £3m
i’r Gronfa Trawsffurfio ar gyfer y prif flaenoriaethau yng Nghynllun y
Cyngor. Felly, bod arian digonol wedi’i
neilltuo yno ar gyfer ariannu’r gofynion un-tro gerbron yma, sef Hybu
Annibyniaeth trwy gynyddu capasiti Therapi Galwedigaethol, a’r cynllun
gwasanaethau Cefnogi Dementia yn y Gymuned, fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn
i rai o drigolion Gwynedd Awdur: Aled Davies |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng, Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd
dyrannu £97,660 o’r Gronfa Trawsffurfio i ariannu Cynllun Gwasanaethau Cefnogi
Dementia yn y Gymuned (sy’n cynnwys Dementia Go), i ariannu 2 swydd llawn amser
(ym Mhwllheli a Porthmadog) a dwy swydd 7awr yr wythnos wedi eu lleoli yn
Nhywyn a Chaernarfon hyd at 31 Mawrth, 2020. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNIAD Penderfynwyd
dyrannu £97,660 o’r Gronfa Trawsffurfio i ariannu Cynllun Gwasanaethau Cefnogi
Dementia yn y Gymuned (sy’n cynnwys Dementia Go), i ariannu 2 swydd llawn amser
(ym Mhwllheli a Porthmadog) a dwy swydd 7awr yr wythnos wedi eu lleoli yn
Nhywyn a Chaernarfon hyd at 31 Mawrth, 2020. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod y cais am arian yn dilyn cyfnod peilot llwyddiannus o
ddwy flynedd. Mynegwyd fod elfen Dementia Go yn rhaglen a ddatblygwyd yng
Ngwynedd a oedd yn cyfrannu at fywydau pobl a’u gofalwyr sydd yn byw a
dementia. Ychwanegwyd fod Dementia Go yn gyfle i ddod a phobl sydd yn byw a
dementia at ei gilydd yn gymdeithasol ac yn gymorth i cynorthwyo pobl i aros yn
eu cartrefi am gyfnod hwy. Nodwyd fod 11 o
grwpiau Dementia Go yn cael ei gynnal ar draws y sir gyda 4 aelod o staff
penodol i’r cynllun. Ategwyd fod y pedwar aelod o staff yn bencampwyr yn y maes
ac yn rhannu gwybodaeth ac yn trafod dementia yn y gymuned. Mynegwyd fod
pwyslais ar ymarfer corfforol drwy sesiwn Dementia Go, a drwy ddod a phobl at
ei gilydd yn lleihau unigedd. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ¾
Tynnwyd
sylw at yr elfen o ddatblygu technoleg yn yr adroddiad, a holwyd pa fath o
ddatblygiadau a fyddai’r rhain. Mynegwyd fod y gwasanaeth wedi datblygu teclyn
sydd yn rhoi dealltwriaeth i bobl yn y gymuned drwy declynnau rith wirionedd
sut beth yw byw gyda dementia. ¾
Nodwyd
fod yr arian ar gyfer un tro yn unig, holwyd os oes modd hyfforddi staff o fewn
Canolfannau Byw’n Iach fel bod modd iddynt barhau i gynnal y sesiynau. Mynegwyd
fod staff Dementia Go yn cynnal sesiynau hyfforddiant ac yn benodol mewn
cartrefi preswyl. ¾
Pwysleisiwyd
fod ymchwil yn cael ei wneud ac y dylid yn ystod y flwyddyn i werthuso’r
cynllun yn fwy ffurfiol i’n galluogi i ystyried a ddylid ei gyllido yn dilyn y
flwyddyn hon. Awdur: Aled Davies |