Lleoliad: Rhith-Gyfarfod
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Dyfrig Siencyn, Cyng.
Catrin Wager a Iwan Evans (Swyddog Monitro).
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu |
|
COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 4 AWST 2020 PDF 214 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Awst
2020 fel rhai cywir. |
|
STRATEGAETH DDIGIDOL YSGOLION GWYNEDD PDF 448 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo derbyn grant Llywodraeth Cymru er mwyn buddsoddi mewn cyfarpar i ysgolion Gwynedd a chyfarch y gost ‘cynaladwyedd’ o adnewyddu’r cyfarpar mewn blynyddoedd dilynol, gan ofyn am adroddiad pellach a chyflawn ar fabwysiadu’r Strategaeth derfynol gael ei gyflwyno i’r Cabinet cyn gynted a bo modd. Cofnod: Cyflwynwyd gan
Garem Jackson. PENDERFYNIAD Cymeradwyo derbyn grant
Llywodraeth Cymru er mwyn buddsoddi mewn cyfarpar i ysgolion Gwynedd a chyfarch
y gost ‘cynaladwyedd’ o adnewyddu’r cyfarpar mewn blynyddoedd dilynol, gan ofyn
am adroddiad pellach a chyflawn ar fabwysiadu’r Strategaeth derfynol gael ei
gyflwyno i’r Cabinet cyn gynted a bo modd. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi siom yr
aelod Cabinet nad oedd yn gallu cyflwyno’r eitem yn y cyfarfod blaenorol gan ei
fod yn gais i fuddsoddi yn dyfodol plant a pobl ifanc Gwynedd. Amlygwyd fod y
cynllun hwn yn cyd-fynd a’r blaenoriaethau sydd i’w gweld yng Nghynllun y
Cyngor. Pwysleisiwyd fod cyfnod y clo diweddar wedi
tynnu sylw at pwysigrwydd y defnydd o gyfarpar digidol o fewn y maes addysg
ynghyd ac amlygu annhegwch o ran cyfarpar digidol disgyblion. Mynegwyd fod y
cynllun hwn yn un arloesol sydd yn rhoi cyfle i roi y ddarpariaeth ‘orau i holl
ddisgyblion Gwynedd. Ychwanegodd y Pennaeth Addysg yn ystod y
cyfnod clo fod ysgolion wedi goresgyn llawer o broblemau ac ei fod wedi
amlygu’r angen am strategaeth ddigidol. Nodwyd fod y cyfnod clo wedi dangos y
ffordd ymlaen ac ei fod yn strategaeth hir dymor yn rhoi cefnogaeth i blant a
pobl ifanc. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Nodwyd fod y
cynllun yn un arloesol sydd yn amlygu pwysigrwydd cydraddoldeb i blant sydd heb
gyfarpar cyfrifiadurol adref ac sydd wedi gofod defnyddio ffonau symudol neu
hen gyfarpar yn ystod y cyfnod clo. Mynegwyd fod hwn yn gais arbennig ymlaen i
addysg Gwynedd ac yn falch fod modd gallu buddsoddi i roi arfau effeithiol i
athrawon gael cefnogi’r disgyblion. ¾ Holwyd os oes asesiad cydraddoldeb wedi ei wneud ar gyfer yr adroddiad
er mwyn sicrhau fod plant a phobl ifanc sydd ag anawsterau gweld er enghraifft
yn cael y cyfarpar maent eu hangen. Nodwyd nad oedd asesiad wedi ei wneud
gyda’r adroddiad hwn gan nad oedem yn mabwysiadu’r strategaeth heddiw ond yn
hytrach yn caniatáu i ni osod archeb ond y bydd un cael ei wneud pan fydd y
strategaeth yn cael ei chyflwyno ar gyfer ei mabwysiadu’n derfynol.
Pwysleisiwyd y bydd ymgynghoriadau yn cael ei wneud gyda’r ysgolion i sicrhau
fod y cyfarpar yn diwallu anghenion pob plentyn. ¾ Nodwyd fod y buddsoddiad yn un aruthrol a bod angen sicrhau cynaladwyedd
i’r cynllun. Amlygwyd angen am ymrwymiad ariannol gan ysgolion. ¾ Dangoswyd cefnogaeth i’r cynllun a'i fod yn gam yn y frwydr yn erbyn
tlodi digidol sydd i’w gweld ar draws y sir. ¾ Mynegwyd fod y chwe mis diwethaf wedi bod yn anodd ond nodwyd ei bod yn
dda gweld rhywbeth positif a rhoi cyfle i blant y sir. ¾
Nodwyd
fod angen i’r penderfyniad angen gweithredu yn syth i sicrhau ei fod yn cadw at
amserlen. Awdur: Garem Jackson a Huw Ynyr |