Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a
Swyddogion i’r cyfarfod. Ni dderbyniwyd unrhyw
ymddiheuriad. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid
oedd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd y cofnodion fel rhai cywir. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn dilyn y
drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y datglir gwybodaeth eithriedig
o dan Baragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth
ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys
yr awdurdod sydd yn dal yr wybodaeth hynny) a Paragraff 16 o Atodiad 12A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â’r sawl y byddai modd
cynnal hawl o fraint cyfreithiol proffesiynol mewn achos cyfreithiol. Mae’r adroddiad
ynglŷn a sefyllfa ac opsiynau ar gyfer rheolaeth elusen y mae’r Cyngor yn
ymddiriedolwr ohono. Felly, mae’r swyddogaeth yma ar wahân oddi wrth sefyllfa y
Cyngor fel awdurdod cyhoeddus statudol ac yn ddarostyngedig i ofynion a chyfrifoldebau
penodol rheolaeth elusen. Mae budd cyhoeddus mewn cael gwybodaeth am sut mae’r
Cyngor yn gweithredu mewn swyddogaeth o’r fath. Fodd bynnag mae hyn yn cael ei
gyfarch drwy gyfraith elusennau, Mae’r adroddiad yma ynglŷn a thrafodion
busnes ac opsiynau y dylai’r ymddiriedolwyr gael cyfle priodol i’w trafod a
chloriannu mewn modd rhydd ac agored cyn dod i gasgliad gorau er budd yr elusen.
Byddai cynnal y drafodaeth yn gyhoeddus yn tanseilio eu gallu i gyflawni hyn. Y
Cabinet yn eistedd fel ymddiriedolwyr yw’r unig fforwm priodol ar gyfer gweithredu
hyn. Felly mae’r budd cyhoeddus o blaid eithrio. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Penderfynwyd cau allan y wasg
a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei
bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff
14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â
thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod
sydd yn dal yr wybodaeth hynny) a Paragraff 16 o Atodiad 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â’r sawl y byddai modd cynnal hawl
o fraint cyfreithiol proffesiynol mewn achos cyfreithiol. Mae’r adroddiad ynglŷn a
sefyllfa ac opsiynau ar gyfer rheolaeth elusen y mae’r Cyngor yn ymddiriedolwr ohono.
Felly, mae’r swyddogaeth yma ar wahân oddi wrth sefyllfa y Cyngor fel awdurdod
cyhoeddus statudol ac yn ddarostyngedig i ofynion a chyfrifoldebau penodol
rheolaeth elusen. Mae budd cyhoeddus mewn cael gwybodaeth am sut mae’r Cyngor
yn gweithredu mewn swyddogaeth o’r fath. Fodd bynnag mae hyn yn cael ei gyfarch
drwy gyfraith elusennau, Mae’r adroddiad yma ynglŷn a thrafodion busnes ac
opsiynau y dylai’r ymddiriedolwyr gael cyfle priodol i’w trafod a chloriannu
mewn modd rhydd ac agored cyn dod i gasgliad gorau er budd yr elusen. Byddai
cynnal y drafodaeth yn gyhoeddus yn tanseilio eu gallu i gyflawni hyn. Y
Cabinet yn eistedd fel ymddiriedolwyr yw’r unig fforwm priodol ar gyfer
gweithredu hyn. Felly mae’r budd cyhoeddus o blaid eithrio. |
|
CYNLLUN BUSNES I GEFNOGI'R OPSIWN O GYNGOR GWYNEDD YN PARHAU I REDEG AMGUEDDFA LLOYD GEORGE Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cefnogwyd
y cynnig i wneud gwaith pellach i finiogi'r diffyg ariannol tebygol ac i
wneud cais i Gyngor Gwynedd i asesu'r risgiau ynghlwm a’r cynllun busnes ac yn
sgil hynny eu gallu i ymrwymo i gyfraniadau ariannol pellach i'r dyfodol. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNIAD Cefnogwyd y
cynnig i wneud gwaith pellach i finiogi'r
diffyg ariannol tebygol ac i wneud cais i Gyngor
Gwynedd i asesu'r risgiau ynghlwm a’r cynllun busnes ac yn
sgil hynny eu gallu i ymrwymo i gyfraniadau ariannol pellach i'r
dyfodol. TRAFODAETH Trafodwyd yr adroddiad. |