Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd
Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Ni
dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni
dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 21 RHAGFYR PDF 155 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr 2021 fel rhai cywir. |
|
DATHLU DYDD GWYL DEWI PDF 452 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: a.
Dynodwyd dydd Gŵyl Ddewi yn ddiwrnod o
wyliau ychwanegol i staff y Cyngor sy’n gweithio ar delerau gwaith gweithwyr
llywodraeth leol, ar gyfer dathlu diwrnod ein nawddsant cenedlaethol i’w ariannu
yn unol a paragraff 2.10 o’r adroddiad. b.
Awdurdodwyd swyddogion i ymchwilio i opsiynau
posib i wneud trefnant o’r fath yn un parhaol ac i’r perwyl hwnnw cynnal
trafodaethau pellach gyda’r undebau llafur cydnabyddedig a parhau i lobio am
gefnogaeth Llywodraeth San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru y grym
iddynt fedru sefydlu gwyliau banc i Gymru. Cofnod: Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNWYD
TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod y Cyngor Llawn ar y 7 Hydref wedi penderfynu gofyn
i’r Cabinet ystyried dynodi Dydd Gŵyl Ddewi yn swyddogol drwy roi diwrnod
o wyliau i’w gweithlu ynghyd a galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli y
grym i Lywodraeth Cymru i fedru creu gwyliau banc i Gymru fel y drefn sydd i’w
gweld eisoes yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Pwysleisiwyd fod y penderfyniad a
wnaethpwyd yn y Cyngor Llawn yn un unfrydol a trawsbleidiol a oedd yn dangos
awydd clir i weithredu. Eglurwyd
nad oedd y mater yn un hawdd a fod cost ynghlwm a’r penderfyniad ond diolchwyd
i’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol a’r Pennaeth Cyllid am wneud y gwaith
ymarferol i wneud hyn yn bosib. Mynegwyd
fod y llythyr a dderbyniwyd gan Lywodraeth San Steffan yn ymateb i’r lythyr y
Cyngor yn warthus ac yn arddangos anealltwriaeth lwyr
o ddatganoli a Chymru. Eglurwyd fod yr Aelod Cabinet yn deall fod rhai
unigolion yn anghytuno gyda’r penderfyniad oherwydd y gost i Gyngor Gwynedd,
ond ei fod yn rhoi’r cyfle i ddangos gwerthfawrogiad i staff y cyngor am eu
gwaith yn ystod y cyfnod y pandemig. Ychwanegwyd fod
cefnogaeth wedi ei dderbyn gan unigolion ar draws y wlad ac fod angen ei weld
fel cyfle i ddefnyddio yr ŵyl banc i roi hwb i’r economi. Gofynnwyd i
Lywodraeth Cymru i ddilyn Cyngor Gwynedd ac i alw am yr hawliau i’w galluogi i
sicrhau fod Dydd Gŵyl Dewi yn troi yn Ŵyl Banc Cenedlaethol. Ychwanegodd
Pennaeth yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol fod yr adroddiad yn egluro fod modd
i’r Cyngor allu ystyried gwneud y penderfyniad i roi diwrnod ychwanegol o
Wyliau Banc i rhan helaeth o weithlu’r Cyngor, ond gan fod amodau gwaith
Athrawon yn cael ei penderfynu yn genedlaethol nad oes modd eu cynnwys yn y
penderfyniad hwn. O ganlyniad nodwyd fod y penderfyniad yn berthnasol i holl
staff y Cyngor gan eithrio Athrawon. Yn dilyn y penderfyniad bydd 1 Mawrth yn cael ei gyfri fel Gŵyl Banc arferol, gan nodi y bydd lleoliadau megis llyfrgelloedd ar gau ond y bydd gwasanaethau gofal yn parhau. Eglurwyd y bydd y staff fydd yn gweithio yn cael diwrnod o wyliau ychwanegol neu addasiad cyflog, ac fod y £200,000 yn cynnwys ystyriaeth o’r holl ffactorau. Eglurwyd o ran ail ran y penderfyniad fod hyn yn rhoi hawl i Swyddogion barhau gyda’r trafodaethau a undebau i drafod y syniad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Geraint Owen |
|
CYLLIDEB REFENIW 2020/21 - ADRORDDIAD DIWEDD TACHWEDD 2021 PDF 87 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: ·
Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd
Tachwedd 2021 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf
parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth. ·
Nodwyd fod effaith ariannol Covid
yn parhau yn 2021/22, sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion incwm a
llithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i
ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng. ·
Nodwyd fod cyfundrefn cymorth Covid Llywodraeth Cymru drwy gronfa caledi yn parhau, ond nad
yw’n cyfarch gorwariant oherwydd llithriad yn y rhaglen arbedion. ·
Nodwyd fod gorwariant sylweddol gan yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol eleni. ·
Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau
ariannol canlynol ar gyllidebau Corfforaethol, fod: ¾
Tanwariant o (£20k) yn ymwneud â chostau cyfalaf
yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf. ¾
Tanwariant net o (£1,846k) ar gyllidebau
Corfforaethol yn mynd i Gronfa Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo i
wynebu’r heriau ariannol sydd yn wynebu’r Cyngor yn arbennig felly o ganlyniad
i’r argyfwng Covid. Cofnod: Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNWYD
¾
Tanwariant
o (£20k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r
rhaglen gyfalaf. ¾
Tanwariant
net o (£1,846k) ar gyllidebau Corfforaethol yn mynd i Gronfa Cefnogi’r
Strategaeth Ariannol i gynorthwyo i wynebu’r heriau ariannol sydd yn wynebu’r
Cyngor yn arbennig felly o ganlyniad i’r argyfwng cofid. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi ei fod yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb
refeniw’r Cyngor a’r rhagolygon tuag at diwedd y flwyddyn ariannol. Eglurwyd
fod adroddiadau blaenorol wedi amlygu fod effaith ariannol y pandemig wedi bod yn sylweddol i’r Cyngor gyda cyfuniad o
gostau ychwanegol ynghyd â cholledion
incwm werth dros £20miliwn yn 2020/21 ac yn £10miliwn hyn yn hyn eleni.
Ychwanegwyd fod ceisiadau i ad-hawlio yn cael ei wneud yn fisol o gronfa caledi
Llywodraeth Cymru. Mynegwyd
yn dilyn llunio rhaglen ddiwygiedig o
arbedion ar gyfer 2021/22 drwy ddileu, llithro ac ail broffilio cynlluniau
arbedion nodwyd fod oediad mewn gwireddu arbedion yn parhau mewn rhai meysydd,
gyda oediad o ganlyniad i’r pandemig yn ffactor
amlwg. Tynnwyd sylw at y prif feysydd ble mae gwahaniaethau sylweddol. Mynegwyd
fod yr adran yn rhagweld gorwariant o bron i £1miliwn yn yr Adran Oedolion,
Iechyd a Llesiant eleni gyda methiant cyflawni arbedion gwerth £855k yn ffactor
amlwg. Nodwyd mai y prif feysydd gorwariant yw gwasanaeth pobl hŷn,
anableddau dysgu a gofal cymunedol. Pwysleisiwyd fod effaith pandemig wedi cael
ardrawiad sylweddol ar yr adran gyda gwerth dros £3miliwn wedi ei hawlio gan
Lywodraeth Cymru tuag at gostau ychwanegol yn y cyfnod. Esboniwyd
o ganlyniad i’r Cyngor yn dyrannu £1.8miliwn ychwanegol i’r Adran Blant a
Cefnogi Teuluoedd yn y gyllideb 2021/22 i gwrdd â phwysau cynyddol, ynghyd â
dileu gwerth £1.1 miliwn o gynlluniau arbedion, fod rhagolygon ariannol yr
adran yn addawol iawn. Tynnwyd sylw at broblemau gorwariant yn y maes casglu a
gwaredu gwastraff yn yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol sydd yn parhau.
Eglurwyd fod yr adran yn wynebu costau ychwanegol yn ymwneud a’r pandemig ond fod yr adran yn ffyddiog y bydd y Llywodraeth
yn parhau i ddigolledu’r adran am weddill y flwyddyn. Yn Gorfforaethol, nodwyd fod rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb 2021/22 yn gyfrifol am gynnyrch treth ychwanegol ac hefyd yn cyfrannu at y tanwariant ar Ostyngiadau Treth Cymru. O ganlyniad i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Ffion Madog Evans |
|
RHAGLEN GYFALAF 2021/22 - ADRODDIAD DIWEDD TACHWEDD 2021 PDF 216 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd
(sefyllfa 30 Tachwedd 2021) o’r rhaglen gyfalaf. Cymeradwywyd ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r
adroddiad, sef: ·
lleihad o £15,000 mewn defnydd o fenthyca, ·
cynnydd o £3,134,000 mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau, ·
cynnydd o £104,000 mewn defnydd o dderbyniadau
cyfalaf, ·
cynnydd o £75,000 mewn defnydd o gyfraniadau
refeniw, ·
lleihad o £1,000 mewn defnydd o’r gronfa
gyfalaf, a ·
cynnydd o £363,000 mewn defnydd o gronfeydd
adnewyddu ac eraill. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNWYD Derbyniwyd yr adroddiad ar
adolygiad diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2021) o’r rhaglen gyfalaf. Cymeradwywyd ariannu
addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef: ·
lleihad
o £15,000 mewn defnydd o fenthyca, ·
cynnydd
o £3,134,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau, ·
cynnydd
o £104,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf, ·
cynnydd
o £75,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw, ·
lleihad
o £1,000 mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf, a ·
cynnydd
o £363,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi prif ddiben yr adroddiad oedd i gyflwyno’r
rhaglen gyfalaf ddiwygiedig a cymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol.
Mynegwyd fod yr adroddiad yn nodi dadansoddiad fesul adran o’r rhaglen gyfalaf
o £127.7 am gyfnod o dair blynedd. Mynegwyd fod gan y Cyngor gynlluniau pendant mewn
lle i fuddsoddi oddeutu £52.1 miliwn eleni, gyda £27.4miliwn wedi’i ariannu
drwy grantiau penodol. Eglurwyd fod effaith y pandemig
yn parhau ar y rhaglen gyfalaf ac mai dim ond 37% o gyllideb eleni sydd wedi ei
wario hyd ddiwedd Tachwedd, o’i gymharu a 51% ddwy flynedd yn ôl. Nodwyd fod
£22.1miliwn o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2021/22 i 2022/23 a
2023/24 gyda’r prif gynlluniau yn cynnwys £6.2miliwn Cynlluniau Strategaeth
Tai, £5.8miliwn Cynlluniau Atal Llifogydd a £5.4miliwn Cynlluniau Ysgolion
Ganrif 21. Tynnwyd sylw at y rhestr grantiau ychwanegol a
lwyddodd y Cyngor ei ddenu ers yr adolygiad diwethaf a oedd yn cynnwys
£2.3miliwn Grant Cynnal a Chadw Ysgolion, £1.4milwi i Atal Llifogydd a
£0.4miliwn Grant Cronfa Symbyliad Economaidd. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Diolchwyd am yr adroddiad a
holwyd pam fod lleihad yng ngwariant y
rhaglen gyfalaf yn ystod 2023/34. Mynegwyd fod hyn o ganlyniad i ansicrwydd
maint y grantiau yn ystod y flwyddyn hon. ¾
Amlygwyd fod addysg a tai yn cael blaenoriaethu pan yn buddsoddi. Awdur: Ffion Madog Evans |
|
TROSOLWG ARBEDION - ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION PDF 592 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag
at wireddu cynlluniau arbedion 2021/22 a blynyddoedd blaenorol. Nodwyd fod effaith Covid19 wedi cyfrannu at lithriad yn y
rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a
bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng. Wrth baratoi cyllideb 2022/23, yn unol â’r hyn a nodir yn
Atodiad 3 o ran cynlluniau arbedion 2022/23: - cydnabod fod y sefyllfa bellach
wedi newid cymaint fel na ellir cyflawni cynlluniau arbedion gwerth £489,750
gan eu dileu o’r gyllideb, sef ·
Adolygiad Dechrau i'r Diwedd (Adran Plant a
Chefnogi Teuluoedd) gwerth £279,750 ·
Trosglwyddo meysydd chwarae i eraill (Adran
Priffyrdd a Bwrdeistrefol) gwerth £210,000 ¾
symud y proffil cyflawni ar gyfer cynlluniau
gwerth £1,290,250 i 2023/24 a blynyddoedd dilynol ¾
nodwyd mai £595,000 yw gwerth arbedion y
cynlluniau gweddilliol i’w tynnu o gyllideb 2022/23, fel a nodir yn Atodiad 3. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag
at wireddu cynlluniau arbedion 2021/22 a blynyddoedd blaenorol. Nodwyd fod effaith Covid19 wedi cyfrannu at lithriad yn y
rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a
bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng. Wrth baratoi cyllideb 2022/23, yn unol â’r hyn a nodir yn
Atodiad 3 o ran cynlluniau arbedion 2022/23: - cydnabod fod y sefyllfa bellach
wedi newid cymaint fel na ellir cyflawni cynlluniau arbedion gwerth £489,750
gan eu dileu o’r gyllideb, sef ·
Adolygiad Dechrau i'r Diwedd (Adran Plant a
Chefnogi Teuluoedd) gwerth £279,750 ·
Trosglwyddo meysydd chwarae i eraill (Adran
Priffyrdd a Bwrdeistrefol) gwerth £210,000 ¾
symud y proffil cyflawni ar gyfer cynlluniau
gwerth £1,290,250 i 2023/24 a blynyddoedd dilynol nodwyd mai £595,000 yw gwerth
arbedion y cynlluniau gweddilliol i’w tynnu o gyllideb 2022/23, fel a nodir yn
Atodiad 3. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr adran yn crynhoi sefyllfa arbedion y Cyngor. Eglurwyd
ers 2015/16 fod gwerth £35miliwn o arbedion wedi eu cymeradwyo i’w gwireddu ar
gyfer cyfnod 2015/16 – 2021/22. Nodwyd bellach, fod dros £32.8 miliwn o’r
arbedion yma wedi eu gwireddu sydd yn 94% o’r swm gofynnol dros y cyfnod. Mynegwyd ers Ebrill
2020 fod adrannau’r Cyngor wedi bod yn canolbwyntio ar ymateb i’r pandemig ac o ganlyniad fod llithriad wedi bod yn
gwireddu’r rhaglen arbedion. Wrth edrych ar gynlluniau arbedion am y cyfnod
2015/16 i 2020/21 amlygir fod 96% o’r arbedion wedi ei gwireddu. Ategwyd mai’r
prif gynlluniau i’w cyflawni yw cynlluniau gan yr Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Amlygwyd fod 45% o
arbedion 2021/22 wedi eu gwireddu ond eto mai’r adrannau gyda gwerth uchaf o
gynlluniau eto i’w cyflawni yw’r Adran Briffyrdd ynghyd â’r Adran Oedolion.
Pwysleisiwyd fod gwireddu gwerth £32.8miliwn o arbedion ers Ebrill 2015 wedi
bod yn heriol, ac amlygwyd risgiau i gyflawni gwerth £0.8miliwn o gynlluniau. Eglurwyd yn dilyn
adolygiad diweddar gan y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Corfforaethol a
Swyddogion Cyllid o’r cynlluniau arbedion ar gyfer 2022/23 rhaid cydnabod fod y
sefyllfa wedi newid cymaint fel na ellir cyflawni dau gynllun arbedion gwerth
£489,750. Tynnwyd sylw at y ddau gynllun
‘Adolygiad Dechrau i’r Diwedd’ yn yr adran Blant a Teuluoedd a cynllun
‘Trosglwyddo Meysydd Chwarae i eraill’ gan yr adran Briffyrdd a gofynnwyd i’r
Cabinet i ddileu’r ddau gynllun o’r gyllideb. Gofynnwyd yn
ogystal i ail broffilio cynlluniau arbedion o fewn yr Adran Economi a Chymuned
ac yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant o 2022/23 i 2023/24 o ganlyniad i
ardrawiad y pandemig ar yr adrannau yma. Yn dilyn
dileu a llithro arbedion, nodwyd mai £595,000 yw gwerth arbedion y cynlluniau
sy’n weddill yn 2022/23. Awdur: Dewi Morgan |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GYLLID PDF 199 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD Derbyniwyd
a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ar y cyfan fod
perfformiad yr adran yn gyffredinol dda er gwaethaf yr heriau sydd yn eu
wynebu. Amlygwyd o ran cynllun Trosglwyddiad Unedau Gwyliau o’r Dreth Gyngor i
Drethi Busnes, ei bod yn ymddangos fod Llywodraeth Cymru yn dechrau deall maint
y broblem. Ategwyd fod yr adran wedi cydlynu ymateb y Cyngor i ymgynghoriad
Llywodraeth Cymru ar drethiant lleol. O ran cynllun Cyflawni Arbedion, mynegwyd fod yr
adroddiad blaenorol wedi amlygu fod £34.8miliwn o arbedion wedi ei cyflawni
sydd yn tanlinellu perfformiad da yr holl adrannau ar draws y Cyngor. O ran
perfformiad yr adran ar y cyfan amlygwyd fod Datganiad o’r Cyfrifon yn dilyn yr
archwiliad, ynghyd ag adroddiad yr archwiliwr allan wedi ei gyflwyno i’r
Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu , ac unwaith eto cyhoeddwyd barn diamod ar y
Datganiad o Gyfrifon. Llwyddwyd yn ogystal i gwblhau adroddiad blynyddol y
Gronfa Bensiwn cyn y dyddiad statudol o 1af o Ragfyr. Amlygwyd fod nifer o ceisiadau taliad cefnogi hunan
ynysu yn parhau i gynyddu, gan nodi fod hyn yn faich ychwanegol ar y Gwasanaeth
Budd-daliadau. Eglurwyd o ganlyniad i hyn fod cynnydd yn nifer y dyddiad a gymryd
ar gyfartaledd i brosesu cais budd-dal newydd.
Nodwyd fod gwytnwch systemau mewnol technoleg gwybodaeth y Cyngor yn
parhau’n iach, ac fod gwaith sylweddol wedi ei wneud i gryfhau gallu’r adran i
amddiffyn ymosodiadau seibr. Er hyn, nodwyd pryder am
systemau cenedlaethol sy’n cael eu gwesteia tu allan
i’r Cyngor sydd ddim yn cyrraedd y safon disgwyliedig. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Holwyd gyda’r adran yn
gweinyddu grantiau’r Llywodraeth amlygwyd nad oes cyfeiriad at hyn yn yr
adroddiad, ar pwysau ychwanegol fydd ar yr adran. Eglurwyd y bydd y cynllun
grantiau newydd ychydig yn wahanol gan fod angen tystiolaeth gan y busnesau i
ddangos eu bod yn parhau i fod yn gwmni gweithredol sydd yn masnachu. Ategwyd
fod unedau gwyliau wedi ei heithrio o’r cynllun grantiau yma gan nad oedd y
cyfyngiadau yn eu heffeithio. Awdur: Dewi Morgan |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS ADDYSG PDF 384 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Cemlyn
Williams PENDERFYNIAD Derbyniwyd
a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod perfformiad yr
adran yn parhau i fod yn dda. Diolchwyd i staff yr adran am y gwaith arwrol
maent wedi ei wneud dros y pandemig yn cefnogi
ysgolion. Ategwyd fod cydnabyddiaeth am waith yr adran wedi ei amlygu gan
benaethiaid y sir yn ogystal ac Estyn. Mynegwyd fod y berthynas rhwng yr adran
ar ysgolion yn sicr wedi cryfhau yn ystod y cyfnod anodd. Tynnwyd sylw at Strategaeth Addysg Ddigidol, gan
ddiolch i’r Cabinet am eu cefnogaeth i’r gwaith arloesol sydd yn symud yn ei
flaen. Nodwyd fod y cyfnod pandemig wedi dal dau
gynllun yn ei ôl sef Cynllun Ôl 16 a Cyd-Weithio Rhwng Ysgolion Uwchradd
Meirionydd. Eglurwyd y bydd y gwaith hwn yn cael ei flaenoriaethu pan yn dod
allan o gyfnod y pandemig. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Diolchwyd i’r adran a’r
Ysgolion am ei gwaith arbennig dros gyfnod y pandemig.
¾
Tynnwyd sylw ar Ysgol y
Garnedd gan nodi fod y cynllun hwn yn adlewyrchu uchelgais y Cyngor o beth
mae’r adran eisiau ei ddarparu i blant Gwynedd. ¾
Diolchwyd i’r adran am roi
arweiniad i’r ysgolion ac i sicrhau diogelwch plant a pobl ifanc. Awdur: Garem Jackson |