Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ymddiheuriad Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd
unrhyw faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 8 MAWRTH 2022 PDF 154 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 8fed o Fawrth 2022 fel rhai cywir. |
|
PENODI UWCH GRWNER ARDAL GOGLEDD ORLLEWIN CYMRU PDF 278 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a)
Dirprwyo’r
hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i baratoi manylion swydd a phersonol
ynghyd a threfn benodi ar gyfer swydd Uwch Grwner a threfnu i hysbysebu b)
Sefydlu
Panel yn cynnwys y Prif Weithredwr, Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol a Phennaeth Adran i’w ddynodi gan y Prif Weithredwr
er mwyn
tynnu rhestr fer a chyfweld ymgeiswyr, ac i benodi Uwch Grwneriaid yn ôl
yr angen Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNWYD a)
Dirprwyo’r hawl i’r
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i baratoi manylion swydd a phersonol ynghyd a
threfn benodi ar gyfer swydd Uwch Grwner a threfnu i hysbysebu b)
Sefydlu Panel yn cynnwys y Prif Weithredwr, Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol a Phennaeth Adran i’w ddynodi gan y Prif Weithredwr
er mwyn
tynnu rhestr fer a chyfweld ymgeiswyr, ac i benodi Uwch Grwneriaid yn ôl
yr angen TRAFODAETH Cyflwynwyd adroddiad yn amlinellu trefniadau ar gyfer penodi
Uwch Grwner parhaol ar gyfer
Gogledd Orllewin Cymru. Yn dilyn ymddeoliad Mr Dewi
Pritchard Jones (cyn Uwch Grwner) ym mis Tachwedd 2020, rhoddwyd trefniadau interim ar waith wrth ystyried
priodoldeb uno ardal Crwner Gogledd Orllewin Cymru gydag ardaloedd eraill y
rhanbarth. Yn dilyn trafodaethau rhwng Adran Llysoedd a Thribiwnlysoedd Llywodraeth y DU a Chynghorau Gwynedd a Dinbych (sef yr awdurdod
perthnasol ar gyfer Ardal Gogledd Cymru (Dwyrain a Chanolog), penderfynodd y Prif Grwner na fyddai bellach yn chwilio am
uno'r ardaloedd Crwner yma ac y dylid penodi Uwch Grwner parhaol ar gyfer Ardal
Gogledd Orllewin Cymru (Gwynedd a Môn) Tynnwyd sylw at y drefn ffurfiol o benodi Uwch
Grwner gan Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009, a gan Ganllawiau’r Prif Grwner
sydd yn nodi y dylai pob penodiad gael ei gymeradwyo gan y Prif Grwner a’r
Arglwydd Ganghellor gyda’r angen hefyd i’r Prif Grwner gymeradwyo’r broses
benodi. Adroddwyd mai Cyngor
Gwynedd yw’r awdurdod perthnasol ar gyfer Ardal Gogledd Orllewin Cymru, sydd yn
golygu bod dyletswydd statudol ar y Cyngor i gwrdd â’r costau sy’n gysylltiedig
â rhedeg y gwasanaeth. Amlygwyd bod angen i’r
awdurdod perthnasol (Gwynedd) ffurfio Panel fydd yn derbyn cyngor gan
Reolwr Priodoldeb ac Etholiadau a chynrychiolydd y Prif Grwner, i dynnu rhestr
fer, i gynnal y cyfweliadau ac i benderfynu ar y penodiad. Mater i’r awdurdod
yw cyfansoddiad y panel, ond gall y Prif Grwner neu gynrychiolydd fynychu’r
cyfweliadau. Nodwyd, gydag
Ardal y Crwner yn cynnwys mwy
nag un awdurdod bydd rhaid i’r awdurdod perthnasol ymgynghori gyda’r awdurdod
arall cyn penodi Uwch Grwner. Yn yr achos yma, bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn cael
eu cynnwys yn y broses fel sy’n briodol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth · Croesawu cadw Gwynedd a
Môn fel un ardal · Bod angen i’r drefn ddechrau cyn gynted â phosib · Yr Iaith Gymraeg yw prif
iaith Cyngor Gwynedd a Môn – hyn yn allweddol bwysig yng nghyd-destun
cyfathrebu Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynnwys Conwy yn yr Ardal, nodwyd bod
Cymru a Lloegr wedi eu rhannu yn ardaloedd crwnerol
ac mai dwy ardal yn unig sydd ar gyfer Gogledd Cymru - nid oes bwriad newid
hyn. Mewn ymateb i’r sylw am ddefnydd o’r Iaith Cymraeg, nodwyd bod hyn yn ofyn
hanfodol yn yr hysbyseb swydd. Awdur: Iwan G Evans |
|
STRATEGAETH DIM DRWS ANGHYWIR PDF 373 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn y
strategaeth ‘Dim Drws Anghywir’ fel y cyfeiriad strategol ar gyfer datblygiadau
ar gyfer y dyfodol ym maes plant a phobl ifanc ynghyd â chefnogaeth i’w weithredu
yn lleol yng Ngwynedd fel rhan o gynllun rhanbarthol ehangach. Cofnod: Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Dilwyn Morgan PENDERFYNWYD Derbyn y strategaeth ‘Dim Drws Anghywir’ fel y cyfeiriad strategol ar gyfer
datblygiadau ar gyfer y dyfodol ym maes plant a phobl ifanc ynghyd â
chefnogaeth i’w weithredu yn lleol yng Ngwynedd fel rhan o gynllun rhanbarthol
ehangach. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi bod y strategaeth yn ymateb i adroddiad gan Comisiynydd Plant Cymru
(Mehefin 2020) yn galw i drawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau yn gweithio
gyda’i gilydd i gefnogi plant a phobl ifanc sydd angen cefnogaeth. Mynegwyd fod
prosesau a sustemau presennol yn llawer rhy gymhleth gyda thystiolaeth bod plant
a phobl ifanc yn syrthio rhwng stolion gwahanol, yn aros ar restrau aros am
gyfnodau hirfaith ac yna yn cael gwybod eu bod ar y rhestr anghywir neu’n
cnocio’r drws anghywir. Ystyriwyd bod y strategaeth ranbarthol yma yn cynnig
datrysiad i wella gwasanaethau i’r plant a’r bobl ifanc rheiny drwy sicrhau fod
gwasanaethau yn creu timau o amgylch y teulu i gyfarfod a’u hanghenion yn
hytrach na disgwyl i deuluoedd ffitio i’r hyn sydd ar gael. Datblygwyd y strategaeth yn ystod Haf 2021 yn dilyn adolygiad o’r sefyllfa gyfredol
yng Ngogledd Cymru, gan gwmni allanol
a gomisiynwyd gan Benaethiaid Plant y chwe awdurdod ac arweinwyr iechyd. Cwblhawyd y gwaith drwy ddefnyddio methodoleg Ymchwiliad Gwerthfawrogol a oedd yn cynnwys gweithio
gyda rheolwyr gweithredol ar draws y rhanbarth; ymchwilio i arfer da yng
Nghymru a thu hwnt; cynnal cyfres
o weithdai aml asiantaethol ar draws y rhanbarth, cynnal sesiynau cyfranogi gyda phlant a phobl
ifanc oedd wedi cael cyswllt
gydag un neu fwy o asiantaethau, ac yna datblygu’r strategaeth drwy ddull byw
gan ddefnyddio adborth gan uwch
reolwyr ar y cynnwys. Ategwyd nad oedd modd
cynnwys cynrychiolwyr o ysgolion yn y gweithdai
oherwydd y pwysau gwaith ar adrannau
addysg dros y cyfnod, ond gan
eu bod yn bartner creiddiol i lwyddiant y gwaith
bod trafodaethau lleol wedi sicrhau eu
bod yn rhan allweddol o’r datblygiad
ar gyfer y dyfodol yn lleol. Mynegwyd bod y strategaeth yn cynnig adolygiad a newid radical yn y trefniadau cyfredol ac yn cynnig model uchelgeisiol o gydweithio gyda’r nod o wella canlyniadau iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc hyd at 25 oed - byddai’n adeiladu ar gryfderau’r
sustem gyfredol ac yn cael ei
llunio i ymateb i ofynion
lleol. Gyda chydnabyddiaeth fod iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc angen
cefnogaeth o fewn fframwaith
cymhleth o wasanaethau ac ymyraethau niferus, nodwyd bod gan y strategaeth oblygiadau ar gyfer pob
asiantaeth a phartner sydd yn cyfrannu
tuag at ganlyniadau iechyd
a llesiant plant a phobl ifanc er mwyn
eu cefnogi i gael y gorau
allan o fywyd. Nodwyd y byddai rhaid i bob asiantaeth
ddadansoddi eu sustemau, eu strategaethau
a’u polisïau i gyd-fynd a’r
strategaeth. Nodwyd bod y strategaeth yn cyd-fynd gydag egwyddorion Ffordd Gwynedd ac yn gorwedd o fewn trefniadau’r Adran Plant a Theuluoedd yng Ngwynedd ar gyfer datblygu'r ffordd y mae’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Marian Parry Hughes |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a)
Mabwysiadu
trefniadau ar gyfer datblygu y trefniadau llywodraethu ar gyfer Gwasanaeth
Mabwysiadu Cenedlaethol ar gyfer Cymru wrth iddo gymryd cyfrifoldeb am Faethu
Cymru b)
Cytuno bod
yr awdurdod yn llofnodi’r Cytundeb y Cydbwyllgor ar gyfer y Gwasanaeth
Mabwysiadu Cenedlaethol a Maethu Cymru a sefydlu'r Cyd Bwyllgor Cenedlaethol c)
Penodi'r
Aelod Cabinet dros Blant a Chefnogi Teuluoedd i gynrychioli'r Awdurdod ar y Cyd
Bwyllgor Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Dilwyn Morgan Amlygodd, wrth sefydlu
Maethu Cymru, bod yr Iaith Gymraeg yn derbyn statws eilaidd heb unrhyw
gyfeiriad at y Gymraeg yn y brandio nac mewn dogfennaeth berthnasol. Yn dilyn
pwysau a pherswâd Morwenna Edwards a Marian Parry Hughes, sicrhawyd bod yr
iaith yn cael lle teilwng yn y trefniadau - diolchwyd i’r ddwy am eu gwaith. PENDERFYNWYD a)
Mabwysiadu trefniadau ar gyfer datblygu'r trefniadau llywodraethu ar gyfer
Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ar gyfer Cymru wrth iddo gymryd cyfrifoldeb
am Faethu Cymru. b)
Cytuno bod yr awdurdod yn llofnodi’r Cytundeb y
Cydbwyllgor ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Maethu Cymru a
sefydlu'r Cyd Bwyllgor Cenedlaethol c)
Penodi'r Aelod Cabinet dros Blant a Chefnogi Teuluoedd i
gynrychioli'r Awdurdod ar y Cyd Bwyllgor TRAFODAETH Cyflwynwyd adroddiad
yn nodi’r angen, yn unol â chyfarwyddyd gan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), i roi sail ffurfiol i’r cydweithrediad rhwng
awdurdodau lleol Cymru er mwyn i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol gymryd cyfrifoldeb
dros Maethu Cymru a gweithredu'n effeithiol ar ran pob un o'r 22 awdurdod. Yn unol â dymuniad CLlLC a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol
Cymru (CCGCC) byddai hyn yn digwydd drwy gydbwyllgor Cenedlaethol. Nodwyd bod y
gwaith o sefydlu Cydbwyllgor Cenedlaethol, wedi parhau ac yn barod i'w
weithredu - bydd y Cydbwyllgor arfaethedig a'r cytundeb sy'n sail iddo wedi'u
hymestyn i gynnwys Maethu Cymru yn yr un modd â'r capasiti
a'r swyddogaethau ar gyfer galluogi a chydweithio’n genedlaethol drwy Dîm
Canolog cyfunol. O ganlyniad, bydd y Cydbwyllgor cenedlaethol, ar ran y 22
Awdurdod Lleol yng Nghymru, yn arfer ei bwerau i ddarparu'r trefniadau
cydweithredol ar gyfer Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru ac ar gyfer
Maethu Cymru. Bydd yn cynnwys aelodau'r Cyngor ac yn cyfarfod ddwywaith y
flwyddyn. Amlygwyd bod cyfreithwyr CLlLC
wedi drafftio Cytundeb cyfreithiol ar gyfer y Cydbwyllgor i'w lofnodi gan bob
un o'r 22 awdurdod lleol ac y byddai cytuno ar y cynigion a llofnodi Cytundeb y
Cydbwyllgor yn ffurfioli cydweithrediad Cyngor Gwynedd yn y trefniadau
llywodraethu. Ategwyd y byddai rolau a chyfrifoldebau ar gyfer cynnal a
chyflawni swyddogaethau cenedlaethol sy'n cefnogi ac yn galluogi awdurdodau
lleol i gyflawni eu cyfrifoldebau mabwysiadu a maethu hefyd yn cael eu
ffurfioli drwy fabwysiadu’r drefn. Awdur: Marian Parry Hughes |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL DIOGELU PDF 101 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth am
waith y Panel Strategol Diogelu ar gyfer y flwyddyn 2021-22. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn
Morgan PENDERFYNIAD Derbyn
yr adroddiad a nodi’r wybodaeth am waith y Panel Strategol Diogelu ar gyfer y
flwyddyn 2021-22. TRAFODAETH Cyflwynwyd adroddiad a oedd yn cynnwys trosolwg o waith y Panel Strategol
Diogelu dros y cyfnod Ionawr 2021 - Mawrth 2022, gan roi darlun clir a theg o’r
gwaith a gyflawnwyd ynghyd a chyfeiriadau at adroddiadau neu sylwadau gan
archwilwyr allanol ar y gwaith. Nodwyd bod gofyn i’r Cyfarwyddwr Statudol
adrodd yn gyson a rheolaidd i Aelodau ar waith y Panel ar ddiogelu, a'u bod yn
gallu bodloni eu hunain bod y Panel wedi ymgymryd â’r gwaith sydd ei angen yn
drylwyr a chydwybodol. Atgoffwyd yr
Aelodau mai nod y Panel Strategol Diogelu yw sicrhau bod trefniadau a
gweithdrefnau addas yn eu lle ar lefel gorfforaethol ar draws y Cyngor er mwyn
sicrhau diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion. Ers 2017/18 mae’r Panel hefyd
yn gyfrifol am drosolwg o faterion diogelu ehangach ar draws Gwynedd. Tynnwyd sylw at
rai o’r rhwystrau gan adrodd bod sicrwydd ymatebion a thystiolaeth fod pob
adran yn ymateb ac yn dilyn i fyny ar unrhyw bryderon yn amserol. ·
bod yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd yn ei chael
yn anodd recriwtio a chadw staff cymwysedig. O ganlyniad, comisiynwyd unigolyn
i wneud darn o waith yn y maes, a gobeithir cyflawni’r gwaith hwn erbyn Ebrill
2022. ·
bu pryder am y gwasanaeth DoLS (trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid) yn ystod
y flwyddyn gan fod 550 ar y rhestr
aros ar un pwynt. Fodd bynnag,
cafwyd bid llwyddiannus am
£100,000 gan y Llywodraeth i gyfarch y rhestr
aros (sydd bellach oddeutu 336) ·
dewis rhai rhieni i barhau
i addysgu eu plant gartref pan fu i’r ysgolion ail agor. Er bod y niferoedd yn
gymharol isel, gwelwyd cynnydd ymysg teuluoedd bregus - mae Llywodraeth Cymru
yn bwriadu deddfu’r angen i gofrestru plentyn os ydynt am dderbyn addysg o
gartref ·
bod angen gweithredu’n adweithiol a mynd i’r afael
â’r diwylliant misogynistaidd ymysg bechgyn er mwyn mynd
i wraidd problemau maes aflonyddu rhywiol mewn
ysgolion yn sgil dyfodiad gwefan ‘Everyone’s Invited’ ·
bod data gan yr Heddlu yn dangos cynnydd yn y
niferoedd o droseddau domestig yng Ngwynedd yn ystod y ddau chwarter diwethaf –
y mater yn cael blaenoriaeth yng
nghyfarfodydd nesaf y Bartneriaeth, er mwyn sicrhau bod digon yn cael ei wneud
i gael negeseuon allan i’r cyhoedd Diolchwyd i’r Cyng. Dilwyn Morgan am gadeirio’r panel ac i ymrwymiad swyddogion ac Aelodau i’r gwaith gwych sydd yn cael ei wneud yn y maes diogelu a hynny yn ystod cyfnod heriol - yn bennaf yn sgil Covid-19 a’r heriau sy’n ymwneud â’r feirws. Er gwaethaf hynny, nodwyd bod y Panel Strategol Diogelu wedi parhau i gynnal cyfarfodydd ar-lein a symud yr agenda yn ei flaen. Ategwyd bod bwriad hefyd i adlewyrchu ar drefniadau gweithio'r Panel Strategol a’r Grŵp Gweithredol er mwyn sicrhau gweithredu effeithiol - bydd y gwaith yn cael ei wneud yn gynnar yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. Awdur: Morwena Edwards |
|
EFFAITH COVID 19 AR GYLLIDEB 2022-23 CWMNI BYW'N IACH PDF 112 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas and Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a)
Awdurdodi’r
Pennaeth Cyllid i ymestyn y cyfnod o sicrwydd a rhoddwyd eisoes i gwmni Byw’n
Iach Cyf hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol 2022/23 gan gadarnhau pe bai’r argyfwng Covid-19 yn parhau fod Cyngor
Gwynedd am gefnogi’r cwmni yn ariannol o leiaf hyd at 31/03/2023. b)
Bod
adolygiad llawn o gynllun busnes y cwmni yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ymhen
6 mis Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng.
Ioan Thomas PENDERFYNIAD a) Awdurdodi’r Pennaeth
Cyllid i ymestyn y cyfnod o sicrwydd a rhoddwyd eisoes i gwmni Byw’n Iach Cyf
hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol 2022/23 gan
gadarnhau pe bai’r argyfwng Covid-19 yn parhau fod Cyngor Gwynedd am gefnogi’r
cwmni yn ariannol o leiaf hyd at 31/03/2023. b) Bod adolygiad llawn o
gynllun busnes y cwmni yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ymhen 6 mis TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan amlygu mai mater technegol cyfrifeg oedd
sail yr adroddiad. Eglurwyd, yn unol â gofynion safonau archwilio rhyngwladol
mae’n rhaid i archwiliwr allanol fynegi barn annibynnol am allu cwmnïau i barhau i fasnachu am o leiaf 12 mis. Yng
nghyd-destun Byw’n Iach, sydd yn gwmni cyfyngedig, mae’n ofynnol i’r archwilwyr
allanol roi sicrwydd busnes hyfyw wrth roi barn ar gyfrifon y cwmni. Adroddwyd, wrth ystyried yr opsiynau, bod cynnal
cwmni hyd braich dan reolaeth y Cyngor i redeg cyfleusterau hamdden y Sir yn
parhau i fod yr un mwyaf synhwyrol ar hyn o bryd o safbwynt ariannol, a hynny
yn bennaf oherwydd manteision ardrethi annomestig. Er hynny, amlygwyd nad oedd
dim byd yn y cytundeb gweinyddu rhwng y Cyngor a chwmni Byw’n Iach yn nodi y
byddai’r Cyngor yn rhoi indemniad awtomatig i'r cwmni rhag colledion ariannol -
ni fyddai hyn yn ddisgwyliedig gan fod disgwyl i'r cwmni gynnal ei hun mewn
cyfnod arferol. Nodwyd mai dyma’r trydydd adroddiad o’i math i’w gyflwyno i’r Cabinet
ers cychwyn y pandemig ac amlygwyd bod Cronfa Caledi Llywodraeth Cymru a
Chynllun Seibiant Swyddi Llywodraeth San Steffan wedi cefnogi Byw’n Iach yn
ariannol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ar gyfer 2022/23, bydd angen i Cyngor
Gwynedd ysgwyddo’r baich ariannol ein hunain oherwydd bod cynlluniau’r
Llywodraeth wedi/yn dod i ben. Mynegwyd bod y Cyngor, wrth gymeradwyo Cyllideb 2022/23, wedi cymeradwyo
ychwanegu £1.4m i gronfa i ymdopi â sgil effeithiau’r pandemig (er nodwyd ar y
pryd nad oedd disgwyl i hynny fod yn ddigonol ohono’i hun). Ategwyd bod Cronfa
Adfer Covid hefyd wedi ei sefydlu wrth gau cyfrifon
2020/21 i’r perwyl hyn ynghyd a gwneud
defnydd o’r Gronfa Strategaeth Ariannol pe byddai angen. Er na ellid rhoi ffigwr am y gofyn am gymorth, disgwylid iddo
fod yn sylweddol is na chyfraniad 2021/22. Nododd y Pennaeth Cyllid ei fod yn argyhoeddedig, ar hyn o bryd, mai’r argyfwng Covid-19 oedd y rheswm o fod angen cefnogi Byw’n Iach ac wrth i swyddogion Cyllid gydweithio â swyddogion y cwmni ar ragolygon ariannol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, amlygodd bod nifer defnyddwyr gwasanaethau Byw’n Iach yn parhau’n is nag yr oeddynt yn union cyn y pandemig. Ategwyd, wrth gynllunio ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd, y bydd hyder y cyhoedd, ac felly nifer y defnyddwyr, yn cynyddu’n raddol yn ystod y flwyddyn. Pwysleisiwyd nad oedd disgwyl y byddai cyflwyno adroddiad fel hyn yn dod yn drefniant blynyddol - byddai hynny yn codi cwestiynau am hyfywdra hirdymor y cwmni - mewn cyfnod arferol y disgwyliad y byddai archwiliwr y cwmni yn gallu rhoi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. Awdur: Dewi Morgan |