Lleoliad: Hybrid - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon / Rhithiol drwy Zoom
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ymddiheuriad. Croesawyd yr
Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 29 MAWRTH 2022 PDF 319 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 29ain o Fawrth 2022 fel rhai cywir. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD PERFFORMIAD CYNGOR GWYNEDD 2021/22 PDF 114 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2021/22 ac argymhellwyd
i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu yn ei gyfarfod nesaf ar y 23 Mehefin 2022. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dyfrig Siencyn. PENDERFYNIAD Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2021/22 ac argymhellwyd
i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu yn ei gyfarfod nesaf ar y 23 Mehefin 2022. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn adlewyrchu ar waith y
Cyngor dros y flwyddyn aeth heibio. Eglurwyd ei fod yn adroddiad diddorol dros
ben sydd yn dangos rhychwant gwaith sydd wedi ei wneud ynghyd â camau i gynnal
perfformiad y Cyngor i’r dyfodol. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor fod yr adroddiad
yn dangos cynnydd y Cyngor yn erbyn eu blaenoriaethau yn ystod 2021/22. Nodwyd
fod yr adroddiad yn un cytbwys sydd yn rhoi sylw i waith sydd wedi gyflawni
ynghyd â gwaith sydd heb ei wneud. Mynegwyd fod rhan gyntaf yr adroddiad yn
adrodd ar gynnydd o ran y blaenoriaethau’r Cyngor tra fod yr ail ran yn mynd
i’r afael a pherfformiad adrannau o ran eu gwaith o ddydd i ddydd. Eglurwyd fod y gwaith hwn wedi ei baratoi gan yr adrannau ac wedi ei wirio
gan yr Aelodau Cabinet cyfredol cyn yr etholiad. Nodwyd y bydd yr adroddiad yn
cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ar y 23 Mehefin. Awdur: Dewi Wyn Jones |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYFRIFON TERFYNOL 2021/22 - ALLDRO REFENIW PDF 302 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1.1 Nodwyd sefyllfa ariannol
derfynol adrannau’r Cyngor am 2021/22. 1.2 Cymeradwywyd y
symiau i’w parhau (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn
Atodiad 1), sef -
1.3 Cymeradwywyd yr argymhellion a’r
trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2) - ·
Yr Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £746k i ddiddymu ei orwariant
am y flwyddyn yn llwyr, o ystyried yr amgylchiadau eithriadol yn ymwneud â’r
argyfwng eleni. Bydd hyn yn galluogi’r adran symud ymlaen i wynebu her
2022/23. ·
Er mwyn cydymffurfio â'r
Rheoliadau Ariannol, ni fydd yr adrannau canlynol yn cadw eu tanwariant uwchlaw
(£100k): ·
Adran
Amgylchedd (£91k) ·
Adran
Ymgynghoriaeth Gwynedd (£9k) ·
Adran
Tai ac Eiddo (£180) Ceisir penderfyniad y Cabinet i neilltuo’r
cyfanswm o £280k i gronfa ar gyfer trefniadau adfer yn sgil Covid ar gyfer
cyllido'r heriau ariannol cysylltiedig fydd yn wynebu'r Cyngor. ·
Ar gyllidebau
Corfforaethol: ·
fod
(£2,183k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r
rhaglen gyfalaf ·
gyda
gweddill y tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol yn cael ei neilltuo fel a
ganlyn: ·
(£395k)
yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor · (£3,000k) i'r Gronfa Trawsffurfio i gyllido
blaenoriaethau'r Cyngor a gwaith trawsffurfiol ei natur ·
(£1,377k)
i'r Gronfa trefniadau adfer yn sgil Covid ar gyfer cyllido'r heriau ariannol
cysylltiedig fydd yn wynebu'r Cyngor. 1.4 Cymeradwywyd y
trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 4 yn dilyn adolygiad o’r
cronfeydd, gan gynaeafu (£851k) o gronfeydd gan ddefnyddio £746k ohono i gynorthwyo’r
Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol sydd wedi gorwario yn 2021/22 a throsglwyddo'r
£105k sydd yn weddill i falansau cyffredinol y Cyngor. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas. PENDERFYNIAD 1.1 Nodwyd sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2021/22.
1.2 Cymeradwywyd y symiau i’w parhau (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1), sef -
1.3 Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2) -
· Yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £746k i ddiddymu ei orwariant am y flwyddyn yn llwyr, o ystyried yr amgylchiadau eithriadol yn ymwneud â’r argyfwng eleni. Bydd hyn yn galluogi’r adran symud ymlaen i wynebu her 2022/23.
· Er mwyn cydymffurfio â'r Rheoliadau Ariannol, ni fydd yr adrannau canlynol yn cadw eu tanwariant uwchlaw (£100k): · Adran Amgylchedd (£91k) · Adran Ymgynghoriaeth Gwynedd (£9k) · Adran Tai ac Eiddo (£180k)
Ceisir penderfyniad y Cabinet i neilltuo’r cyfanswm o £280k i gronfa ar gyfer trefniadau adfer yn sgil Covid ar gyfer cyllido'r heriau ariannol cysylltiedig fydd yn wynebu'r Cyngor.
· Ar gyllidebau Corfforaethol: · fod (£2,183k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf · gyda gweddill y tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol yn cael ei neilltuo fel a ganlyn: · (£395k) yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor · (£3,000k) i'r Gronfa Trawsffurfio i gyllido blaenoriaethau'r Cyngor a gwaith trawsffurfiol ei natur · (£1,377k) i'r Gronfa trefniadau adfer yn sgil Covid ar gyfer cyllido'r heriau ariannol cysylltiedig fydd yn wynebu'r Cyngor.
1.4 Cymeradwywyd y trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 4 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd, gan gynaeafu (£851k) o gronfeydd gan ddefnyddio £746k ohono i gynorthwyo’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol sydd wedi gorwario yn 2021/22 a throsglwyddo'r £105k sydd yn weddill i falansau cyffredinol y Cyngor. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn manylu ar wariant y Cyngor yn 2021/22. Eglurwyd fod talfyriad o sefyllfa derfynol yr holl adrannau i’w gweld fel rhan o’r adroddiad ynghyd â’r symiau i’w cario ymlaen ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Tynnwyd sylw at effaith ariannol Covid19 ar y Cyngor unwaith efo gyda £17.5miliwn wedi ei hawlio o’r gronfa caledi a Furlough erbyn diwedd y flwyddyn. Amlygwyd y prif faterion a meysydd ble fu gwahaniaeth sylweddol, yn benodol nifer o grantiau sylweddol ychwanegol yn hwyr yn y flwyddyn sydd wedi trawsnewid y sefyllfa ariannol erbyn diwedd y flwyddyn. Tynnwyd sylw at yr arian ychwanegol i Setliad Llywodraeth Leol o £2.5m, grant Pwysau Gofal Cymdeithasol o £1.9m, Cronfa Adfer Gofal Cymdeithasol o £1.5m ynghyd â Ôl Groniad Treth Cyngor o £0.9m i enwi dim ond rhai. Mynegwyd fod tanwariant i’w gweld ar draws yr holl adrannau oni bai am yr Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol sydd yn gorwario o £746mil. Eglurwyd mai’r maes Bwrdeistrefol sydd yn parhau i fod yn gorwario gyda problemau amlycaf i’w gweld yn maes casglu a gwaredu gwastraff. Nodwyd fod gwelliant sylweddol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Dewi Morgan |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHAGLEN GYFALAF 2021/22 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN (SEFYLLFA 31 MAWRTH 2022) PDF 334 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd
yr adroddiad ar adolygiad diwedd
y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2022) o’r rhaglen gyfalaf. Nodwyd y gwariant o £37,054,000 ar y rhaglen gyfalaf yn ystod y flwyddyn
ariannol 2021/22, fydd yn cael ei
ddefnyddio yn y datganiadau ariannol statudol ar gyfer
2021/22. Cymeradwywyd ariannu’r addasedig
a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad,
sef:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas. PENDERFYNIAD Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2022) o’r rhaglen gyfalaf.
Nodwyd y gwariant o £37,054,000 ar y rhaglen gyfalaf yn ystod y flwyddyn ariannol 2021/22, fydd yn cael ei ddefnyddio yn y datganiadau ariannol statudol ar gyfer 2021/22.
Cymeradwywyd ariannu’r addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn cyflwyno’r rhaglen gyfalaf ddiwygiedig a cymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol. Mynegwyd mai y prif gasgliadau yw fod y Cyngor wedi llwyddo i wario £37.1m yn 2021/22 ar gynlluniau cyfalaf, gyda 81% ohono wedi’i ariannu drwy grantiau penodol. Eglurwyd fod effaith argyfwng Covid19 wedi parhau ar y
rhaglen gyfalaf. Nodwyd yn ychwanegol i’r £31.2m adroddwyd arno yn adolygiadau
blaenorol 2021/22, fod £26.8m pellach o wariant arfaethedig wedi’i
ail-broffilio i 2022/23 a tynnwyd sylw at prif gynlluniau a oedd yn cynnwys: ·
£7.6
miliwn Cynlluniau Strategaeth Tai a Digartrefedd · £7.2 miliwn Cynlluniau Atal Llifogydd a Traenio Tir · £6.5 miliwn Cynlluniau Ysgolion Ganrif 21 ac Eraill · £4.0 miliwn Grantiau Newydd Llywodraeth Cymru yn y maes Tai (adnodd a ddisodlir yn llithro) · £3.2 miliwn Grant Cyfalaf Cyffredinol Ychwanegol 21/22 (derbyniwyd yn chwarter olaf y flwyddyn gyda’r hawl i’w lithro i 22/23). Tynnwyd sylw at grantiau ychwanegol a lwyddodd y Cyngor i’w denu ers yr adolygiad diwethaf, a oedd yn cynnwys: · £3.2 miliwn - Grant Cyfalaf Cyffredinol Ychwanegol 21/22 – caniatâd llithro i 22/23. · £3.1 miliwn – Grantiau o’r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladu sy’n caniatáu disodli ariannu cyfredol i’w wario yn 22/23. · £1.3 miliwn – Grant Cronfa Gofal Canolraddol – addasiadau sefydliadau oedolion a hwyluso gweithio ar y cyd ac asiantaethau eraill yn y maes gofal. · £1.1 miliwn – Grant Cyfalaf Prydau Ysgol am Ddim – caniatáu disodli ariannu cyfredol i’w wario yn 22/23 ar addasiadau i geginau ysgolion. Ychwanegodd y Uwch Reolwr Cyllid fod effaith amlwg ar grantiau gyda nifer uchel o grantiau yn llithro, ac amlygwyd fod hyn yn rhoi effaith ar gronfeydd y Cyngor. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Eglurwyd fod yr adroddiad hwn yn un technegol ac fod cynlluniau pendant ar gyfer y cynlluniau sydd wedi llithio. Mynegwyd y bydd Cynllun Asedau’r Cyngor yn cael ei gyflwyno yn fuan a fydd yn nodi faint o arian cyfalaf fydd ar gael i’w wario dros y blynyddoedd i ddod. ¾ Nodwyd anfodlonrwydd gyda grantiau yn dod yn
hwyr yn flwyddyn, gan bwysleisio ei bod yn anodd cynllunio yn hir dymor ynghyd
a sicrhau cyllideb gytbwys. Awdur: Dewi Morgan |