Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting

Cyswllt: Gwen Alaw Roberts  E-bost: Gwenalawroberts@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Diolchwyd i holl staff y Cyngor am eu gwaith caled drwy’r flwyddyn.

 

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cyng. Nia Jeffreys.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.  

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 11 TACHWEDD pdf eicon PDF 221 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2025 fel rhai cywir. 

 

6.

SEFYDLU BWRDD RHEOLI MAETHOLION pdf eicon PDF 125 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

• Cefnogwyd sefydlu, a chyfranogiad y Cyngor i’r, Bwrdd Rheoli Maetholion ar gyfer yr Afon Gwyrfai yn unol a’r cylch gorchwyl yn Atodiad 1.

• Enwebwyd Pennaeth Adran Amgylchedd i gynrychioli’r Cyngor ar y Bwrdd newydd a dirprwywyd yr hawl i’r Pennaeth gadarnhau cynrychiolaeth swyddogion y Cyngor ar y Bwrdd ac i ymgymryd ac unrhyw newidiadau ansylweddol i’r Cylch GorchwyI.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago.

 

PENDERFYNIAD

 

Cefnogwyd sefydlu, a chyfranogiad y Cyngor i’r, Bwrdd Rheoli Maetholion ar gyfer yr Afon Gwyrfai yn unol â’r cylch gorchwyl yn Atodiad 1.

 

Enwebwyd Pennaeth Adran Amgylchedd i gynrychioli’r Cyngor ar y Bwrdd newydd a dirprwywyd yr hawl i’r Pennaeth gadarnhau cynrychiolaeth swyddogion y Cyngor ar y Bwrdd ac i ymgymryd ag unrhyw newidiadau ansylweddol i’r Cylch Gorchwyl.

 

TRAFODAETH

 

Soniwyd am y ddyletswydd statudol sydd gan gyrff cyhoeddus i gynnal y bywyd gwyllt a’r fioamrywiaeth o fewn yr afonydd sydd wedi eu dynodi fel ardaloedd cadwraeth arbennig yng Nghymru, a’r effaith y gall lefelau uchel o faetholion ei gael ar ansawdd y dŵr ac felly ar y fioamrywiaeth hon.

 

Nodwyd bod adroddiad wedi’i gyhoeddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn 2021, a oedd yn asesu os oedd yr afonydd yn cyrraedd y targedau a osodwyd ynglŷn â’r lefelau o faetholion yn yr afonydd. Amlygwyd ar adeg yn adroddiad, bod y ddwy afon yng Ngwynedd yn cyrraedd y targedau hyn felly nad oedd angen gweithredu’n ffurfiol ar y pryd.

 

Adroddwyd bod asesiad mwy diweddar, hefyd wedi’i gynnal gan Gyfoeth Naturiol Cymru, yn dangos bod yr Afon Gwyrfai yn methu’r targedau ansawdd dŵr hyn oherwydd y lefelau o faetholion sydd yn yr afon. Mewn sefyllfa pan fu afon yn methu, datganwyd mai cyfrifoldeb yr awdurdod perthnasol yw sefydlu Bwrdd Rheoli Maetholion er mwyn rhoi camau mewn lle i gyrraedd y targedau. 

Bwriadwyd creu Bwrdd ar y cyd gydag awdurdod y Parc Cenedlaethol.

 

Pwysleisiwyd bod creu’r Bwrdd hwn yn allweddol oherwydd y caiff methiant yr Afon Gwyrfai effaith uniongyrchol ar y Cyngor, o ran datblygiadau tai a datblygiadau amaethyddol o fewn dalgylch yr afon a thu hwnt. Ychwanegwyd bod 10 cais cynllunio yn cael eu hoedi ar hyn o bryd o ganlyniad i hyn.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

  • Adnabuwyd yr angen i ddeall gwraidd y broblem a’r angen felly am drafodaethau gyda’r bobl berthnasol er mwyn cael yr atebion hynny.
  • Pryderwyd am effaith posib hyn ar ddatblygiadau tai yn yr ardal, a thynnwyd sylw at bwysigrwydd yr amgylchedd mewn perthynas â hyn.
  • Soniwyd am sgil effeithiau sefydlu’r Bwrdd ar adnoddau. Cadarnhawyd bod hyn wedi ei godi gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, a bod bwriad i benodi Swyddog Prosiect o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru a fydd yn canolbwyntio’n bennaf ar Afon Gwyrfai.
  • Cadarnhawyd y bydd y Bwrdd yn cael ei sefydlu cyn gynted ag y bo modd.

 

Awdur: Gareth Jones, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd

7.

CYLLIDO GWAITH DIOGELU ADEILAD Y CORBETT ARMS, TYWYN pdf eicon PDF 168 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y defnydd o £1.5 miliwn o Gronfa Strategaeth Ariannol y Cyngor er mwyn cyllido gwaith i ddiogelu adeilad y Corbett Arms yn Nhywyn.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd y defnydd o £1.5 miliwn o Gronfa Strategaeth Ariannol y Cyngor er mwyn cyllido gwaith i ddiogelu adeilad y Corbett Arms yn Nhywyn.

 

TRAFODAETH

 

Pwysleisiwyd effaith dyletswydd y Cyngor i orfod mynd i’r afael â phroblemau fel hyn, heb adnoddau nac arian, ar bobl Gwynedd.

 

Datganwyd bod rhan o adeilad y Corbett Arms wedi disgyn a thynnwyd sylw at ddyletswydd statudol y Cyngor i sicrhau diogelwch yr adeilad a thrigolion Tywyn. Eglurwyd nad oedd y Cyngor yn awyddus i gymryd unrhyw risg pellach gyda’r adeilad oherwydd y bygythiad i rannau eraill o’r adeilad ddisgyn yn ogystal.

 

Amlygwyd y camau sydd wedi eu cymryd yn barod ddiogelu’r safle a’r cyhoedd, gan nodi bod dyletswydd hefyd i warchod yr adeilad gan ei fod yn rhestredig.

Adnabuwyd y costau sylweddol ynghlwm â’r ddyletswydd hon.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Cydnabuwyd bod siawns o allu adennill cyfran o’r costau hyn yn ôl, ond nodwyd yr angen i fod yn realistig. Pwysleisiwyd nad y Cyngor sydd berchen yr adeilad, ac felly mai rôl y Cyngor yw diogelu’r safle’n unig.

·       Gofynnwyd am eglurder ynglŷn â phwy sydd berchen yr adeilad. Cyfeiriwyd at her datgymalu perchnogaeth wrth ddelio ag adeilad fel hyn.

·       Nodwyd bod llawer o’r gwaith hwn yn waith ymatebol sy’n anodd ei ragweld, felly bod yr Adran yn gyson wyliadwrus o’r risg hynny.

·       Wrth drafod y pwerau ymyrryd sydd gan y Cyngor mewn perthynas ag adeilad peryglus, eglurwyd mai’r cam cyntaf yw cyflwyno rhybudd i’r perchennog. Ychwanegwyd y golyga hyn mai dim ond os nad yw’r perchennog yn gwneud y gwaith angenrheidiol i ddiogelu’r safle y gall y Cyngor ymyrryd. Nodwyd bod lleoliad yr adeilad peryglus hefyd yn chwarae rhan yma.

·       Holwyd a oes diwedd i’r broblem hon, gan bryderu am orfod talu mwy o gostau cynnal a chadw ar yr adeilad am flynyddoedd i ddod. Amlygwyd nad oes sicrwydd am sut y gwnâi’r adeilad ymddwyn yn y dyfodol, ond cadarnhawyd y caiff adeilad ei fonitro’n gyson.

 

Awdur: Dafydd Wyn Williams, Pennaeth Adran Amgylchedd

8.

TWF - SIARTER Y GYMRAEG YN Y GWAITH pdf eicon PDF 129 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Llio Elenid Owen

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd y Cabinet ar ran y Cyngor fel cyflogwr i fabwysiadu Twf – Siarter y Gymraeg yn y Gwaith, Cyngres Undebau Llafur Cymru (TUC Cymru), ar y cyd â chynrychiolwyr lleol undebau Unsain, GMB ac Unite.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Llio Elenid Owen

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd y Cabinet ar ran y Cyngor fel cyflogwr i fabwysiadu Twf – Siarter y Gymraeg yn y Gwaith, Cyngres Undebau Llafur Cymru (TUC Cymru), ar y cyd â chynrychiolwyr lleol undebau Unsain, GMB ac Unite.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd mai nod y Siarter yw i gefnogi gweithwyr, eu hundebau llafur a chyflogwyr i gydweithio i greu gweithleoedd dwyieithog a sicrhau fod gan weithwyr fynediad at gynrychiolaeth gan undebau llafur yn y Gymraeg.

 

Adroddwyd ar y 4 egwyddor y bydd y Cyngor yn gweithredu yn unol â nhw wrth fabwysiadu’r Siarter, sef

·       Twf a hawliau’r Gymraeg

·       Cynhwysiant a chyfiawnder ieithyddol

·       Arweinyddiaeth ac atebolrwydd

·       Dysgu parhaus a meithrin hyder

 

Pwysleisiwyd rôl allweddol y Gymraeg o fewn y Cyngor ac ymfalchïwyd yn y ffaith mai Gwynedd fydd yr awdurdod lleol cyntaf i fabwysiadu’r Siarter hwn.

 

Esboniwyd bod swyddogion y Cyngor wedi bod yn rhan o ddatblygu’r Siarter, a diolchwyd i gynrychiolwyr yr Undebau am eu brwdfrydedd tuag ato. Gobeithiwyd y bydd mabwysiadu’r Siarter yn dangos y ffordd i awdurdodau eraill wneud yn ogystal.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Mynegwyd balchder bod y Cyngor yn arwain y ffordd yn y maes ac ategwyd y diolch i’r Undebau am eu cydweithrediad.

·       Diolchwyd ac ymfalchïwyd bod yr Undebau yn gweld gwerth yn y gwaith hwn yn ogystal. Pwysleisiwyd y berthynas weithiol dda sydd rhwng y Cyngor a’r Undebau a bod y berthynas honno yn gallu arwain at waith gwych, fel y Siarter hwn.

 

Awdur: Eurig Williams, Rheolwr Gwasanaeth Adnoddau Dynol

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFLOGAETH pdf eicon PDF 594 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Llio Elenid Owen

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2024/25.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Llio Elenid Owen. 

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2024/25.  

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd y darperir yr adroddiad drosolwg o brif faterion y gweithlu a sut y mae hynny’n llywio rhai elfennau o strategaeth staffio’r Cyngor.

 

Aethpwyd drwy brif bwyntiau’r adroddiad:

  • Gwelwyd ychydig o leihad yn nifer staff y Cyngor erbyn mis Mawrth eleni.
  • Nodwyd bod nifer uwch o ferched yn gweithio i’r Cyngor na dynion, gan gyfeirio at y ffigyrau adrannol a gaiff eu cynnwys yn yr adroddiad.
  • Adnabuwyd bod y mwyafrif o weithlu’r Cyngor dros 40 mlwydd oed ac er felly ei fod yn weithlu profiadol, fe fydd yn her i’r Cyngor pan fydd y staff hynny’n gadael eu cyflogaeth ar yr un pryd.
  • Soniwyd bod trosiant staff wedi cynyddu i 9.9%.
  • Eglurwyd bod cynnydd mewn absenoldebau salwch – cadarnhawyd bod mynd i’r afael â hyn yn flaenoriaeth i’r Cyngor.
  • Datganwyd y bydd system adnoddau dynol a chyflogau newydd yn cael ei chyflwyno flwyddyn nesaf.

 

Amlygwyd bod yr adroddiad hwn yn gyson gydag adroddiadau blaenorol, a bod y materion sy’n codi yma yn rhan o drafodaethau cyson â phartneriaid.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

  • Wrth gyfeirio at broffil y gweithlu o ran rhyw, holwyd am y rhaniad hwn a sut y gall y Cyngor fynd i’r afael â stereoteipiau traddodiadol o ran meysydd gwaith. Cadarnhawyd bod gwaith a phrosiectau yn edrych ar hyn gan roi cyfleoedd i bobl ym mhob maes. Ychwanegwyd bod modd gweld ôl effaith y gwaith hwn ar ffigyrau penodol o fewn y gweithlu erbyn hyn.
  • Pwysleisiwyd pwysigrwydd rhoi cyfleoedd teg i bob person yng Ngwynedd gael unrhyw swydd o fewn y Cyngor.
  • Holwyd os oes digon o gyfleoedd i ddatblygu staff o fewn y Cyngor, gan bwysleisio pwysigrwydd cadw staff yn ogystal â denu staff newydd. Sicrhawyd y caiff pwyslais ei roi ar gynnal sgyrsiau datblygiad parhaus gyda staff, a bod nifer uwch o gyrsiau’n cael eu cynnal erbyn hyn.

 

 

Awdur: Eurig Williams, Rheolwr Gwasanaeth Adnoddau Dynol

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL IECHYD, DIOGELWCH A LLESIANT pdf eicon PDF 574 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Llio Elenid Owen

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad a chymeradwywyd yr argymhellion.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Llio Elenid Owen.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad a chymeradwywyd yr argymhellion.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan adnabod y cyfnod o newid a chyd-addasu a fu.

Datganwyd bod hyrwyddo Modelau Diogelwch wedi cyrraedd pob rheolwr, gan gryfhau dealltwriaeth a chydweithio ar draws y sefydliad. Yn ogystal, nodwyd bod polisïau allweddol wedi’u hadolygu - gan gynnwys y Polisi Alcohol a Chyffuriau - i ddiogelu pawb sy’n gysylltiedig â gwasanaethau’r Cyngor.

 

Tywyswyd y Cabinet drwy brif bwyntiau’r adroddiad:

·       Cofnodwyd cyfanswm o 4,128 adroddiad o ddamweiniau, gyda 53 ohonynt yn RIDDOR, sef y damweiniau mwyaf difrifol. Soniwyd hefyd am y cynnydd mewn digwyddiadau treisgar.

·       Bu dau achos mewn cartrefi preswyl yn arwain at ymweliadau gan AGID (HSE). Derbyniwyd argymhellion i wella dogfennaeth a hyfforddiant atal cwympiadau, gyda ffi ymyrraeth o £1,044.

·       Crybwyllwyd bod 9 cwrs IOSH Rheoli’n Ddiogel a 5 cwrs adnewyddu wedi eu cynnal, gan olygu bod 72% o reolwyr bellach wedi eu hyfforddi.

·       Derbyniwyd 1,051 atgyfeiriad gan Iechyd Galwedigaethol, gyda 464 ohonynt yn ymwneud ag iechyd meddwl. Ychwanegwyd bod darpariaeth cwnsela wedi cynyddu dros 180%.

·       Adroddwyd bod achrediad ISO 45001 yn parhau i gael ei gynnal gan BSI. Soniwyd bod trafodaethau ar y gweill i uno’r ddwy system bresennol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

  • Cadarnhawyd bod yr adroddiad yn cynnwys data o ysgolion yn ogystal.
  • Gofynnwyd a yw’r nifer uchel o ddamweiniau yn dod o fan penodol o fewn y Cyngor. Datganwyd y caiff staff eu hannog i adrodd ar unrhyw ddamweiniau fel bod posib cael darlun o lle mae’r damweiniau hyn yn deillio, a’r posib o atal problemau yn y dyfodol.
  • Eglurwyd bod anghenion plant yn dwysau ac efallai bod angen ystyried sut mae ymateb i hynny.
  • Trafodwyd y digwyddiadau treisgar sy’n cymryd lle tu allan i faes Addysg, gan nodi bod amrediad ar draws y Cyngor o ran y math o ddigwyddiadau ac o ran difrifoldeb y digwyddiadau hynny. Pwysleisiwyd yr angen i adrodd ar ddigwyddiadau o’r fath.
  • Holwyd am eglurhad o’r cynnydd yn y ffigyrau o aelodau o’r cyhoedd yn cael eu cludo i’r ysbyty. Amlygwyd y ddyletswydd i adrodd ar achosion o’r fath, a nodwyd bod yr achosion yn amrywio o blant ysgol a phobl mewn cartrefi preswyl i bobl mewn canolfannau hamdden, er enghraifft.

 

 

 

Awdur: Gail Warrington, Rheolwr Iechyd, Diogelwch a Llesiant

11.

ADRODDIAD 6 MIS CWYNION A GWELLA GWASANAETH 2025/26 pdf eicon PDF 348 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Llio Elenid Owen

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd adroddiad a chynhigiwyd unrhyw sylwadau neu awgrymiadau perthnasol am berfformiad y Cyngor o ran ymdrin â chwynion yn briodol ac yn amserol.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Llio Elenid Owen.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd yr adroddiad a chynhigiwyd unrhyw sylwadau neu awgrymiadau perthnasol am berfformiad y Cyngor o ran ymdrin â chwynion yn briodol ac yn amserol.

 

TRAFODAETH

 

Datganwyd y rhoddai’r adroddiad drosolwg o berfformiad y Cyngor wrth ymdrin â chwynion a gwella gwasanaethau yn y cyfnod o Ebrill 2025 i Fedi 2025. Tynnwyd sylw at Lythyr Blynyddol yr Ombwdsmon am gyfnod 2024/25 sydd hefyd ynghlwm.

 

Amlygwyd bod 22 cwyn ffurfiol dilys a 13 cwyn Ombwdsmon wedi’u cyflwyno rhwng Ebrill a Medi 2025, sy’n lleihad o’r un cyfnod y llynedd.

Yn ogystal, datganwyd bod lleihad yn nifer y dyddiau cyfartalog mae’n cymryd i ymateb i gwynion o 17.5 diwrnod yn 2024/2025 i 15.3 diwrnod yn 2025/26.

 

Adroddwyd mai ‘diffyg ymateb/gweithredu’ yw prif sail y cwynion, gan nodi bod nifer o’r cwynion yn ymwneud â’r adrannau Amgylchedd a Chyllid.

Gobeithiwyd y bydd y Siarter Cwsmer newydd sydd bellach mewn lle, yn arbed nifer o gwynion yn y categori ‘diffyg ymateb/gweithredu’ yn y dyfodol.

 

Cyfeiriwyd at y Wal Lwyddiannau ac at y nifer helaeth o ddiolchiadau a chanmoliaeth sy’n cyrraedd y Cyngor gan y cyhoedd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Gofynnwyd am y prif wersi a ddysgwyd o’r cwynion a sut y gwnaiff hyn arwain at welliant. Tynnwyd sylw at y ffaith mai diffyg ymateb yw prif natur y cwynion ac amlygwyd bod pwysau gwaith staff yn ffactor gyfrannol yma. Nodwyd y caiff cyrsiau gofal cwsmer eu cynnig, a soniwyd am y gwaith pellach sydd angen ei wneud i fynd i’r afael â hyn.

·       Cynigiwyd mai diffyg ymateb yw’r categori hawsaf i fynd i’r afael ag ef, ac awgrymwyd yr angen i ail edrych ar hyn. Eglurwyd bod diffyg adnoddau a’r pwysau sydd ar staff yn cael effaith ar yr hyn sy’n bosib, a bod blaenoriaethau adrannau yn amrywio.

Nodwyd bod cydnabyddiaeth yn cael ei roi o dderbyn pob cwyn. Ychwanegwyd bod yr adran yn edrych ar system bosib i fynd i’r afael â hyn ac i fod yn fwy rhagweithiol.

Awdur: Ian Jones, Pennaeth Adran Gwasanaethau Corfforaethol

12.

ACHOS BUSNES AMLINELLOL CARTREF GOFAL PENRHOS pdf eicon PDF 204 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.1 Cymeradwywyd Achos Busnes Amlinellol yn Atodiad 1, yn ddarostyngedig i hynny,

 

1.2 Awdurdodwyd y Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant i gyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol i Lywodraeth Cymru i geisio am £16.4miliwn o arian Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail gydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol (IRCF) i greu datblygiad partneriaeth sector gyhoeddus ar safle Penrhos, mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a symud ymlaen i ddatblygu Achos Busnes Llawn.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd Achos Busnes Amlinellol yn Atodiad 1, yn ddarostyngedig i hynny,

 

Awdurdodwyd y Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant i gyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol i Lywodraeth Cymru i geisio am £16.4miliwn o arian Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail gydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol (IRCF) i greu datblygiad partneriaeth sector gyhoeddus ar safle Penrhos, mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a symud ymlaen i ddatblygu Achos Busnes Llawn.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a chanmolwyd brwdfrydedd a chefnogaeth yr Aelod Lleol at y mater hwn. Diolchwyd yn ogystal i’r swyddogion am eu gwaith caled.

 

Datganwyd bod y prosiect hwn yn bartneriaeth rhwng y Cyngor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a Chymdeithas Dai ClwydAlyn i ddatblygu cyfleuster gofal newydd ac arloesol. Nodwyd y bydd yn cynnwys 32 o wlâu dementia preswyl a 24 o wlâu nyrsio, bydd 8 o’r rhain yn wlâu dementia nyrsio.

 

Eglurwyd bod anghenion gofal yn cynyddu ar draws y wlad, ac adnabuwyd Pen Llyn fel ardal gydag angen cynyddol am y ddarpariaeth. Drwy’r datblygiad hwn, gobeithiwyd galluogi a chefnogi pobl i aros yn lleol i dderbyn gofal.

Cyfeiriwyd at y datblygiadau pellach ar y safle a’r lefelau gwahanol o ofal fydd ar gael, megis adeilad fydd yn cynnwys 30 fflat, tai gofal ychwanegol, a 12 byngalo. 

 

Amlygwyd llwyddiant yr Academi Ofal a soniwyd am y gobaith o allu defnyddio safle Penrhos i ddenu a hyfforddi staff yn lleol.

 

Croesawyd Aelod Lleol Ward Llanbedrog gyda Mynytho i’r cyfarfod. Pwysleisiwyd bod gweld y safle’n datblygu yn arbennig. Awgrymwyd bod y datblygiad yn rhywbeth y dylai Cymru gyfan gymryd sylw ohono. Nodwyd pwysigrwydd cadw Cynghorau Plwyf yn ymwybodol o ddatblygiadau a chael pobl leol yn rhan o’r prosiect, a holwyd pe tasai modd cynnal cyfarfodydd er mwyn gwneud hyn.

Ymfalchïwyd yn y gwaith sydd ar droed, a diolchwyd unwaith eto i’r swyddogion am eu gwaith diflino.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

  • Amlygwyd y problemau llifogydd sydd ar y ffordd i’r safle, a gofynnwyd a oes cynlluniau i fynd i’r afael â hynny. Eglurwyd bod y mater wedi’i drafod yng nghyfarfod y Bwrdd Prosiect, ac er nad yw hyn yn disgyn o fewn ffiniau’r Cynllun, penderfynwyd datgan cefnogaeth i unrhyw gynlluniau arfaethedig sy’n ymwneud â’r ffordd.
  • Adnabuwyd pa mor arloesol yw’r prosiect, ond soniwyd am yr angen, a’r her o ddenu staff i’r maes.
  • Gobeithiwyd am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r prosiect hwn yn ogystal.
  • Ymhelaethwyd ar y prosiectau eraill sydd ar y gweill er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth ofal yng Ngwynedd.

 

Awdur: Mari Wynne Jones, Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant

13.

GWELLIANNAU SYLWEDDOL I YSGOL TRYFAN - CYNYDDU CYLLIDEB CYFALAF Y PROSIECT pdf eicon PDF 186 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Dewi Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Rhoddwyd caniatâd y Cabinet i gynyddu cyllideb y prosiect i wneud gwelliannau sylweddol i adeiladau a safle Ysgol Tryfan ym Mangor er mwyn cyfarch costau chwyddiant a chynnydd cyffredinol mewn costau deunyddiau adeiladu ers sefydlu cyllideb wreiddiol y prosiect yn 2018, gan wireddu hynny drwy drosglwyddo £1.96m o Gynllun Rheoli Asedau’r Cyngor er mwyn cyfarch cyfanswm y costau a ragwelir i wireddu’r prosiect yn Ysgol Tryfan.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones.

 

PENDERFYNIAD

 

Rhoddwyd caniatâd y Cabinet i gynyddu cyllideb y prosiect i wneud gwelliannau sylweddol i adeiladau a safle Ysgol Tryfan ym Mangor er mwyn cyfarch costau chwyddiant a chynnydd cyffredinol mewn costau deunyddiau adeiladu ers sefydlu cyllideb wreiddiol y prosiect yn 2018, gan wireddu hynny drwy drosglwyddo £1.96m o Gynllun Rheoli Asedau’r Cyngor er mwyn cyfarch cyfanswm y costau a ragwelir i wireddu’r prosiect yn Ysgol Tryfan.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod cynnydd sylweddol mewn costau wedi golygu’r angen i ail edrych ar gynlluniau, a rhagwelwyd yr angen i gynyddu cyllideb y prosiect hwn i £23.6 miliwn. Nodwyd bod Llywodraeth Cymru yn cyllido 65% o gost y cynllun, sy’n golygu bod cyfraniad Cyngor Gwynedd yn £1.96 miliwn ychwanegol.

 

Cyfeiriwyd at y cynllun fel buddsoddiad yn nyfodol plant a phobl ifanc y Sir, ac yn y Gymraeg ym Mangor.

 

Amlygwyd gan yr Aelod Cabinet ei fod wedi ymweld ag Ysgol Tryfan, ac wedi gweld yr angen sydd am fuddsoddiad. Tynnwyd sylw at y difrod a wnaethpwyd i’r Ysgol yn ystod y stormydd diweddar, a’r ffaith bod sgaffaldiau ar adeiladau’r Ysgol yn ei wneud yn beryglus.   

 

Croesawyd Aelod Lleol Ward Glyder i’r cyfarfod. Pwysleisiwyd pwysigrwydd y buddsoddiad hwn i addysg uwchradd Gymraeg ym Mangor. Ategwyd y geiriau am gyflwr yr adeiladu a’u bod yn hen a bregus.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Holwyd sut byddai’r datblygiadau hyn yn gwella’r profiad dysgu i ddysgwyr yn yr Ysgol. Eglurwyd bydd yr amgylchedd ddysgu’n gwella drwy ddatblygu ansawdd a maint dosbarthiadau, ynghyd â darpariaethau chwaraeon datblygiadol a gwelliant i ofodau allgyrsiol yn yr Ysgol.

·       Sicrhawyd mai dyma’r ffordd fwyaf cost effeithiol o gwblhau’r prosiect.

·       Nodwyd mai bwriad cynyddu capasiti’r Ysgol yw sicrhau continwwm o addysg Gymraeg o’r cynradd i’r uwchradd i blant y dalgylch am flynyddoedd i ddod.

·       Cadarnhawyd y bydd pob adeilad newydd ar y safle yn cwrdd â thargedau carbon sero net, yn unol â gofynion y grant. Bydd lleihau allyriadau carbon yr adeilad hefyd yn gorfod cael ei ystyried gydag unrhyw addasiadau i’r adeilad.

 

Awdur: Debbie A W Jones, Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Addysg

14.

POLISI IAITH ADDYSG GWYNEDD pdf eicon PDF 265 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dewi Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd drafft o Bolisi Iaith Addysg Gwynedd enghreifftiol i ysgolion Gwynedd er mwyn ei gyflwyno i bwrpas ymgysylltu cyhoeddus. ( Atodiad 1).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones. 

 

PENDERFYNIAD

 

Mabwysiadwyd drafft o Bolisi Iaith Addysg Gwynedd enghreifftiol i ysgolion Gwynedd er mwyn ei gyflwyno i bwrpas ymgysylltu cyhoeddus. ( Atodiad 1).

 

 

TRAFODAETH

 

Amlygwyd mai diweddaru’r Polisi Iaith Addysg gyfredol yw pwrpas yr adroddiad. Adnabuwyd ei bod yn gyfnod o newid i’r Gymraeg mewn addysg a chyfeiriwyd at Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025, sydd wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol yn ddiweddar. 

 

Datgelwyd y bydd angen i’r Cyngor osod ysgolion mewn gwahanol gategorïau iaith, ond nodwyd na fydd hyn yn cael ei weithredu’n llawn tan 2030. Tynnwyd sylw at awydd y Cyngor, fel awdurdod addysg, i fod yn rhagweithiol gan sicrhau bod gan yr ysgolion amser digonol i ymateb pe bai angen cyflwyno unrhyw newidiadau yn sgil y Polisi ddrafft hwn.

Rhestrwyd y rhanddeiliaid allweddol y bu i’r adran ymgynghori a hwy wrth ddod a’r Polisi drafft gerbron y Cabinet. Wrth egluro rhesymeg dod a’r eitem hwn gerbron y Cabinet, pwysleisiwyd pwysigrwydd ymgysylltu cyhoeddus i gael barn y cyhoedd am y Polisi drafft.

 

Nodwyd mai Polisi drafft ydyw ac nad oes gan y Cyngor hawl i orfodi unrhyw bolisi iaith ar ysgolion. Ychwanegwyd ei fod yn benderfyniad i gyrff Llywodraethol yr ysgolion i fabwysiadau unrhyw bolisi.

 

Croesawyd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi i’r cyfarfod. Manylwyd ganddo ar y tair gwaith y bu’r Polisi drafft hwn fynd gerbron y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi, a’r sylwadau ac argymhellion oedd yn deillio o hynny.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

  • Mynegwyd cefnogaeth i’r Polisi drafft gan gwestiynu pa gefnogaeth fydd ar gael i’r ysgolion hynny a fydd angen newid yn sgil y Polisi drafft. Sicrhawyd y bydd pob ysgol yn cael cyfle i baratoi a chyflwyno eu cynlluniau cyflawni. Yn ogystal, nodwyd mai pwrpas cyflwyno’r Polisi drafft ar y pwynt hwn yw i sicrhau bod gan yr ysgolion ddigon o amser i baratoi a blaen gynllunio ar gyfer mabwysiadu’r Polisi. Ychwanegwyd bod staff ysgolion hefyd yn derbyn cefnogaeth i gynyddu eu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg, a bod cynlluniau i ehangu’r ddarpariaeth hon drwy gynlluniau sabothol.
  • Mynegwyd awydd i weld yr ysgolion hyn sy’n trosi yn symud ar draws y continwwm, a gallu dangos eu bod yn gwneud cynnydd ieithyddol cyson.
  • Croesawyd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i nodi eu bod am gynnal adolygiad o gyrff Llywodraethol a’u rôl, yn enwedig mewn perthynas â pholisïau fel hyn.
  • Cydnabuwyd bod dylanwadu ar iaith gymdeithasol ysgolion yn heriol, ond gobeithiwyd y bydd y Polisi drafft hwn yn galluogi cydweithio gydag ysgolion er mwyn hyrwyddo’r cyfleoedd cymdeithasol a phrofiadau allgyrsiol sydd yn defnyddio’r Gymraeg.

 

Awdur: Siwan Llwyd Roberts, Pennaeth y Gyfundrefn Addysg Drochi

15.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR GYNLLUN DIGIDOL CYNGOR GWYNEDD (CYFNOD 2024/2025) pdf eicon PDF 83 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Huw Wyn Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd cynnwys a chymeradwywyd cyfrol gyntaf o adroddiadau blynyddol ar Gynllun Digidol Cyngor Gwynedd (2023-2028).

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn Jones.

 

PENDERFYNIAD

 

Nodwyd cynnwys a chymeradwywyd cyfrol gyntaf o adroddiadau blynyddol ar Gynllun Digidol Cyngor Gwynedd (2023-2028).

 

TRAFODAETH

 

Pwysleisiwyd ran annatod technoleg gwybodaeth mhob peth sydd o’n cwmpas erbyn hyn.

 

Cyfeiriwyd at y Systemau Rheoli Sefydliad, gan ychwanegu bod y darparwr llwyddiannus ar fin cael ei gyhoeddi.

 

Adroddwyd am y gwaith parhaol o Barhad Gwasanaeth a phwysleisiwyd pwysigrwydd y gwaith hwn mewn perthynas â gwarchod systemau rhag ymosodiadau seibr.

 

Cadarnhawyd bod System Ffôn newydd y Cyngor ar waith a bod y Ganolfan Gyswllt hefyd yn weithredol ar y datrysiad newydd.

 

Datganwyd bod deallusrwydd artiffisial yn cael ei dreialu, ac mae’r adran yn edrych ar astudiaethau achos er mwyn gweld sut gall y Cyngor ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i ddatblygu.

 

Trafodwyd bod bwriad i uwchraddio’r ddarpariaeth ddarlledu yn Siambrau’r Cyngor.

 

Amlygwyd mai hwn yw’r adroddiad blynyddol cyntaf sy’n adrodd ar y Cynllun Digidol, a nodwyd erbyn y flwyddyn nesaf y bydd modd cymharu ac edrych yn ôl ar adroddiad eleni i sicrhau fod y Cynllun yn rhagweithiol. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

  • Datganwyd bod adroddiad gan y Comisiynydd Pobl Hŷn a oedd yn cynnwys sôn am y diffyg cyfleoedd sydd i bobl hŷn gyfrannu at drafodaethau digidol a’r trafferthion posib sy’n eu hwynebu yn y maes. Pwysleisiwyd pwysigrwydd adroddiad cydraddoldeb o fewn y maes hwn. Ymfalchïwyd bod cyfeiriad at addysgu o fewn yr adroddiad a phwysigrwydd hynny wrth fynd ymlaen.
  • Cyfeiriwyd at y capasiti o fewn y Tîm i gyflawni, ac amlygwyd yr angen i ail flaenoriaethu yn barhaus er mwyn cyrraedd gofynion yn ogystal â chwilio am fwy o adnodd.

 

Awdur: Huw Ynyr, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid (Digidol)