skip to main content

Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

4.

CAU ALLAN Y WASG AR CYHOEDD

Bydd y cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod  yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y datgelir    gwybodaeth eithredig fel y’i diffinir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal yr wybodaeth hynny) a Paragraff 16 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â’r

sawl y byddai modd cynnal hawl o fraint cyfreithiol proffesiynol mewn achos cyfreithiol.

 

Mae’r adroddiad ynglŷn a sefyllfa ac opsiynau ar gyfer rheolaeth elusen y mae’r

Cyngor yn ymddiriedolwr ohono. Felly, mae’r swyddogaeth yma ar wahân oddi wrth

sefyllfa y Cyngor fel awdurdod cyhoeddus statudol ac yn ddarostyngedig i ofynion a

chyfrifoldebau penodol rheolaeth elusen. Mae budd cyhoeddus mewn cael

gwybodaeth am sut mae’r Cyngor yn gweithredu mewn swyddogaeth o’r fath. Fodd

bynnag mae hyn yn cael ei gyfarch drwy gyfraith elusennau, Mae’r adroddiad yma

ynglŷn a thrafodion busnes ac opsiynau y dylai’r ymddiriedolwyr gael cyfle priodol i’w

trafod a chloriannu mewn modd rhydd ac agored cyn dod i gasgliad gorau er budd yr

elusen. Byddai cynnal y drafodaeth yn gyhoeddus yn tanseilio eu gallu i gyflawni

hyn. Y Cabinet yn eistedd fel ymddiriedolwyr yw’r unig fforwm priodol ar gyfer

gweithredu hyn. Felly mae’r budd cyhoeddus o blaid eithrio.

Dogfennau ychwanegol:

5.

ADNABOD YR OPSIWN FFAFRIEDIG AR GYFER DYFODOL AMGUEDDFA LLOYD GEORGE

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gofyn i Gabinet Cyngor Gwynedd i wneud cyfraniad un tro am gostau blwyddyn yr Amgueddfa er mwyn prynu amser i Ymddiriedolaeth Elusen Amgueddfa Lloyd George i edrych ar y newidiadau all eu gwneud er mwyn i’r Amgueddfa fod yn hyfyw i’r dyfodol.

 

I’r Adran Economi a Chymuned adrodd yn ôl i’r Cabinet yn eitsedd fel Ymddiriedolwr yn fuan er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r bwriad ar gyfer gwireddu’r cynllun i roddi’r elusen ar droed mwy masnachol fel yr argymhellwyd eisoes gan yr adroddiadau ymgynghorwyr a dderbyniwyd.

 

Gofyn i’r adran a’r Gwasaneth Cyfreithiol adolygu trefniadau’r Elusen er mwyn sicrhau bod materion yr ymddiriedolaeth yn hollol glir ac ar wahân i faterion y Cyngor.