skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - i gael mynediad dilynwch y linc: https://gwynedd.public-i.tv/core/portal/home

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 27 GORFFENNAF 2021 pdf eicon PDF 383 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2021, fel rhai cywir.

 

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS YR ADRAN BRIFFYRDD A BWRDEISTREFOL AC YMGYNGHORIAETH GWYNEDD pdf eicon PDF 621 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Catrin Wager

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.  

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Catrin Wager

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn edrych yn ôl dros gyfnod cofid a diolchwyd yn fawr i’r staff am eu gwaith. Eglurwyd bellach fod yn adran yn edrych i symud yn ôl i weithio ar gynlluniau strategol ac amlygwyd y cynlluniau sydd i’w gweld yng nghynllun y Cyngor.

 

Tynnwyd sylw at gynllun Cymunedau Glan a Thaclus gan amlygu fod y cynllun cyffroes hwn yn cydweithio a thrigolion a chymunedau i ddatblygu Cynllun Gwireddu. Pwysleisiwyd yr angen i weithio gyda unigolion a grwpiau sydd yn awyddus i chwarae rhan megis grwpiau codi ysbwriel neu grwpiau plannu blodau fel bod modd cydweithio i uchafu’r cymunedau. Amlygwyd y pedwar ffrwd gwaith sy’n  rhan o’r cynllun gan nodi mae’r cam cyntaf fydd i ymgysylltu a rhan ddeiliaid a thrigolion Gwynedd a gychwynnwyd y gwaith yn ôl yn Gorffennaf 2021.

 

Eglurwyd fod Cryfhau Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn un o flaenoriaethau eraill yr adran sydd i’w gweld yng Nghynllun y Cyngor. Mynegwyd ei bod yn hynod bwysig fod y trigolion yn hyderus yng ngwasanaethau’r adran ac fod pryderon ac ymholiadau yn cael ei trin yn effeithiol.

 

Nodwyd fod y gwaith o newid goleuadau stryd ac arwyddion i dechnegol LED yn parhau. Eglurwyd fod y lampau stryd yn pylu yn ystod y nos ac fod hyn yn gymorth i fywyd gwyllt yn ogystal gan nad oes pryfaid a gwyfynod yn hedfan tuag atynt. Amlygwyd fod prosiect adolygu rheolaeth fflyd y Cyngor yn parhau ac nodwyd fod yr adran wedi ymrwymo i gymryd camau pendant i leihau allyriadau carbon. Eglurwyd fod yr adran newydd  archebu cerbyd casglu ysbwriel cyntaf trydan a fydd yn cyrraedd cyn diwedd y flwyddyn ariannol a fydd yn gam mawr tuag at leihau carbon yn y gwasanaeth.

 

Nodwyd fod gwaith yn yr Adran Ymgynghoriaeth yn mynd yn ei flaen. Amlygwyd fod gwaith yr adran gyda llifogydd yn cynyddu yn ei bwysigrwydd gan fod amddiffyn trigolion Gwynedd yn holl bwysig.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Mynegwyd fod yr adran yn denu llawer o arian ar gyfer cadw safonau y ffyrdd a nodwyd fod yr arian hwn yn dod i ben a holwyd beth fyddai’r adran yn ei wneud. Eglurwyd fod yr adran yn manteisio ar yr arian grant ac ei fod yn aml yn ariannu gwelliannau i Ffyrdd Dosbarth 1 a 2 ac felly fod arian yr adran yn ariannu gwaith ar ffyrdd Dosbarth 3 a di-ddosbarth. Eglurwyd y bydd safonau dosbarth 2 a di-ddosbarth yn disgyn os arian grant yn dod i ben ond fod yr adran yn y broses o lunio cynllun asedau ffyrdd a fydd yn rhoi syniad o safon a blaenoriaethau’r adran.

¾    Pwysleisiwyd yr angen i fyw mewn cymunedau glan a thaclus, ac yn dilyn blynyddoedd o doriadau ac arbedion ei bod yn braf gweld datblygiad yn yr adran.

¾    Holwyd ble yn union mae gwastraff o fewn y sir yn mynd gan fod mwy o sôn bellach am  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Steffan Jones a Huw Williams

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS ADRAN AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 194 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.  

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Gareth Griffith.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn amlygu beth mae’r adran yn ei wneud a peth yw’r prif heriau sydd yn eu wynebu. Diolchwyd i’r staff am eu holl waith yn ystod y cyfnod gan fod pwysau ychwanegol wedi rhoi ar rai adrannau yn benodol. Tynnwyd sylw fod gwaith Cynllun Prosiect Newid Hinsawdd yn mynd rhagddo ac y bydd adroddiad yn mynd i’r pwyllgor craffu yn fuan.

 

O ran cynlluniau eraill eglurwyd fod adroddiad am y cynnydd mewn niferoedd o Gartrefi Modur yn ymweld ar sir yn dod i’r Cabinet maes o law. Tynnwyd sylw at y Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd a weithiodd yn ddiwyd i greu’r papur am  ail gartrefi a gyflwynwyd yn ôl ym mis Rhagfyr. Eglurwyd yn dilyn ei anfon at Lywodraeth Cymru eu bod wedi comisiynu adroddiad gan Dr Simon Brooks a oedd yn edrych ar y sefyllfa. Eglurwyd fod yr adran yn parhau i roi pwysau ar y Llywodraeth i ddelio ar materion, ond nad oedd llawer mwy a gall y Cyngor ei wneud.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

¾    Amlygwyd fod llawer o’r adran wedi bod yn gweithio i sicrhau gwasanaeth ddigonol dros gyfnod y pandemig. Nodwyd mai dim ond cymal bach iawn sydd i’w weld am waith y Tîm Olrhain a Diogelu ond fod eu gwasanaeth yn fawr iawn. Eglurwyd fod heriau sylweddol i’r gwasanaeth yn benodol heddiw gan fod niferoedd yn codi a nifer o bobl ddim yn awyddus i gael eu galwad. Pwysleisiwyd fod arian ar gael i’r tîm olrhain tan ddiwedd Mawrth.

¾    Holwyd gyda nifer sy’n defnyddio cludiant cyhoeddus yn lleihau os y bydd risg i’r gwasanaeth i’r dyfodol. Eglurwyd ei bod yn her gan fod y Llywodraeth yn awyddus i weld lleihad mewn  nifer yn defnyddio ceir, ond fod y flwyddyn diwethaf wedi gweld gostyngiad mewn hyder unigolion yn ei ddefnyddio. Ychwanegwyd fod prinder gyrwyr yn her ychwanegol ond fod cefnogaeth lawn i sicrhau cludiant gyhoeddus.

¾   Diolchwyd i’r staff am eu gwaith a nodwyd fod yr adran dan bwysau ac fod effaith 10 mlynedd o doriadau i’r gweld.

Awdur: Dafydd Wyn Williams

8.

BLAEN RAGLEN Y CABINET pdf eicon PDF 282 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siecyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod. 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwywyd y Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod.