Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH ac ar Zoom

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad.  

 

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd ar gyfer Eitem 12 am ei fod yn Gadeirydd Partneriaeth Ogwen, un o’r partneriaethau sy’n rhan o’r cais. Gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.  

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.  

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.  

5.

COFNODION Y CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 24 IONAWR 2023 pdf eicon PDF 365 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2023 fel rhai cywir.  

6.

YSGOL HIRAEL pdf eicon PDF 275 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.1     Caniatawyd neilltuo £3,000,000 o gyfanswm o £18m o gyllideb Gwedd 2 Bangor, Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Band B) er mwyn buddsoddi yn Ysgol Hirael. Byddai’r gyllideb yn ddarostyngedig i gyflwyno achos fusnes lwyddiannus i Lywodraeth Cymru.

 

1.2     Cytunwyd i’r Cabinet ragdybio adolygiad y Cynllun Asedau drwy gadarnhau cyfraniad o £1,050,000 o’r Cynllun Asedau ar gyfer 35% o arian cyfatebol i wireddu prosiect Ysgol Hirael.

 

1.3     Yn ddarostyngedig i benderfyniad y Cabinet yn 1.1 uchod, ac yn dilyn hynny, gefnogaeth Llywodraeth Cymru i drosglwyddo’r gyllideb ar gyfer Ysgol Hirael, caniatawyd llunio a chyflwyno achos fusnes i Lywodraeth Cymru er mwyn rhyddhau’r arian.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown       

 

PENDERFYNIAD 

 

1.             Caniatawyd neilltuo £3,000,000 o gyfanswm o £18m o gyllideb Gwedd 2 Bangor, Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Band B) er mwyn buddsoddi yn Ysgol Hirael. Byddai’r gyllideb yn ddarostyngedig i gyflwyno achos fusnes lwyddiannus i Lywodraeth Cymru. 

 

2.             Cytunwyd i’r Cabinet ragdybio adolygiad y Cynllun Asedau drwy gadarnhau cyfraniad o £1,050,000 o’r Cynllun Asedau ar gyfer 35% o arian cyfatebol i wireddu prosiect Ysgol Hirael.  

 

3.             Yn ddarostyngedig i benderfyniad y Cabinet yn 1.1 uchod, ac yn dilyn hynny, gefnogaeth Llywodraeth Cymru i drosglwyddo’r gyllideb ar gyfer Ysgol Hirael, caniatawyd llunio a chyflwyno achos fusnes i Lywodraeth Cymru er mwyn rhyddhau’r arian. 

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai Ysgol Hirael yw’r unig ysgol gynradd yn nalgylch Bangor sydd heb dderbyn unrhyw fuddsoddiad fel rhan o gyllideb Band A na Band B. Ychwanegwyd bod cyflwr ac addasrwydd yr ysgol angen sylw, gydag elfennau hygyrchedd angen sylw penodol yn Hirael gan ei bod ar hyn o bryd yn disgyn i gategori C. 

 

Nodwyd bod Ysgol Hirael yn adnodd Addysg bwysig a’i bod yn hanfodol dod a’r ysgol i’r un safon a gweddill ysgolion eraill yr ardal. Mynegwyd pwysigrwydd i blant Hirael dderbyn eu haddysg mewn ysgol sydd â’r adnoddau addas a byddai’r buddsoddiad hwn yn caniatáu gwella amgylchedd ddysgu’r ysgol. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                Mynegodd y Prif Weithredwr bod sylwadau a chefnogaeth gref gan yr Aelod Lleol sydd i’w gweld yn rhan 6.3 o’r adroddiad. Ychwanegwyd bod yr Aelod Lleol wedi bod yn ymgyrchu’n galed ar gyfer y buddsoddiad hwn i’r ysgol 

·                Mynegwyd pob lwc a dymunwyd yn dda i’r Adran wrth gyflwyno achos busnes i Lywodraeth Cymru. 

 

Awdur: Garem Jackson, Pennaeth Addysg a Debbie A. Jones, Pennaeth Cynorthwyol yr Adran Addysg

7.

CYNLLUN ARBEDION 2023/24 - 2024/25 pdf eicon PDF 831 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·        Cymeradwywyd yr arbedion effeithlonrwydd a restrir yn Atodiad A (£6.4M) fel gwedd gyntaf o arbedion y gallwn eu defnyddio fel cyfraniad tuag at ein bwlch cyllidol yn 2023/24 – 2024/25.

 

·        Cytunwyd i gomisiynu gwaith pellach i sefydlu’r wedd nesaf o arbedion a thoriadau (oddeutu £1.6M - £2.2M) cyn gosod cyllideb 2024/25.

 

·        Cytunwyd i wneud darpariaeth o £1.6M i gyfarch y lefel risg sydd yn ynghlwm a gwireddu y cynllun arbedion effeithlonrwydd.

 

·        Dirprwywyd yr hawl i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Cyllid, i wneud addasiadau i’r Cynllun Arbedion hwn wrth i aeddfedrwydd y cynlluniau a restrir yn Atodiad A ddatblygu, o fewn y cyfansymiau cyllidol a nodir isod.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn 

 

PENDERFYNIAD 

 

·       Cymeradwywyd yr arbedion effeithlonrwydd a restrir yn Atodiad A (£6.4M) fel gwedd gyntaf o arbedion y gallwn eu defnyddio fel cyfraniad tuag at ein bwlch cyllidol yn 2023/24 – 2024/25. 

 

·       Cytunwyd i gomisiynu gwaith pellach i sefydlu’r wedd nesaf o arbedion a thoriadau (oddeutu £1.6M - £2.2M) cyn gosod cyllideb 2024/25.  

 

·       Cytunwyd i wneud darpariaeth o £1.6M i gyfarch y lefel risg sydd yn ynghlwm a gwireddu'r cynllun arbedion effeithlonrwydd. 

 

·       Dirprwywyd yr hawl i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Cyllid, i wneud addasiadau i’r Cynllun Arbedion hwn wrth i aeddfedrwydd y cynlluniau a restrir yn Atodiad A ddatblygu, o fewn y cyfansymiau cyllidol a nodir isod. 

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan ddiolch i’r Prif Weithredwr a’r swyddogion Cyllid am eu gwaith yn crynhoi’r holl arbedion a dderbyniwyd gan yr Adrannau. Nodwyd bod adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wythnos diwethaf a derbyniwyd sylwadau’r Pwyllgor. Ychwanegwyd bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cytuno â’r swm o 20% i gael ei glustnodi ar gyfer risg. Nodwyd bod un sylw wedi cael ei fynegi am yr asesiad cydraddoldeb gafodd ei gynnal. Roedd y sylw yma yn cwestiynu os oedd yr effaith ddaearyddol ar wahanol ardaloedd wedi cael ei ystyried; roedd y sylw hwn wedi cael ei nodi a bydd yn derbyn ystyriaeth.  

 

Nodwyd bod y broses wedi cael ei dilyn yn broffesiynol a bod pob Adran wedi cyfrannu sydd wedi arwain at broses gadarn a chynlluniau am y ddwy flynedd nesaf. 

 

Tywysodd y Prif Weithredwyr y Cabinet drwy brif faterion yr adroddiad gan fanylu ar y bwlch ariannol o £12 miliwn. Eglurwyd bod cynllun dwy flynedd wedi cael ei roi at ei gilydd er mwyn cau’r bwlch ariannol; heddiw cynllun gwedd un sy’n cael ei gyflwyno sy’n cynnwys gwerth £6.4 miliwn o arbedion. Pwysleisiwyd mai nid toriadau yw’r rhain.  

 

Cydnabuwyd y bydd yr arbedion yn creu pwysau ar Wasanaethau a bydd angen ystyried ffyrdd wahanol o weithio. Ategwyd bod llawer o ymdrech wedi ei roi gan yr Adrannau ac y bydd ail wedd y cynllun yn cael ei gyflwyno yn hwyrach yn y flwyddyn.  

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                  Diolchwyd am yr adroddiad a credwyd bod y broses wedi bod yn un drylwyr.   

·                  Mynegwyd balchder am allu gwneud gymaint o arbedion heb gael effaith sylweddol ar wasanaethau. 

·                  Er hyn, cydnabuwyd y bydd rywfaint o effaith ar ddarpariaeth gwasanaethau ond bod y rhestr arbedion yn cynnwys llawer o gyllidebau nad oes eu hangen bellach a bod amryw o’r rhesymau am hyn o ganlyniad i effeithiau cofid.  

 

Awdur: Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr

8.

CYLLIDEB 2023-24 pdf eicon PDF 6 MB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Argymhellwyd i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth 2023) y dylid:

 

1.     Sefydlu cyllideb o £317,880,310 ar gyfer 2023/24 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £227,842,930 a £90,037,380 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 4.95% ar dreth anheddau unigol).

 

2.     Sefydlu rhaglen gyfalaf o £67,780,150 yn 2023/24 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNIAD 

 

Argymhellwyd i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth 2023) y dylid: 

 

1.    Sefydlu cyllideb o £317,880,310 ar gyfer 2023/24 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £227,842,930 a £90,037,380 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 4.95% ar dreth anheddau unigol). 

 

2.    Sefydlu rhaglen gyfalaf o £67,780,150 yn 2023/24 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.  

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a nodwyd y penderfyniad a geisir. Nodwyd nad yw’r argymhelliad i godi treth cyngor mewn cyfnod o gostau byw cynyddol yn argymhelliad hawdd i’w wneud wrth ystyried yr effaith ar drigolion Gwynedd. Cyfeiriwyd ar yr heriau ariannol sydd yn wynebu Awdurdodau Lleol ar draws Gymru yn enwedig wrth ystyried y lefelau chwyddiant diweddar sydd yn bresennol dros 10%.  

 

Mynegwyd bod Cyngor Gwynedd wedi derbyn cynnydd grant o 7% ar gyfer 2023/24 sy’n welliant sylweddol ar y setliad dangosol ac yn cyfateb i gynnydd gwerth £14.6 miliwn mewn ariannu allanol. Er hyn pwysleisiwyd nad yw’r swm yma yn ddigonol i gwrdd â chwyddiant a’r pwysau ychwanegol ar wasanaethau. 

 

Cyfeiriwyd at y ddarpariaeth am chwyddiant cyflogau sy’n £14.2 miliwn. Eglurwyd bod chwyddiant cyflogau yng nghyllideb 2023/24 yn cynnwys elfen i gywiro’r bwlch 2022/23 gan bod y cytundeb terfynol yn uwch na’r hyn oedd wedi ei gyllidebu amdano, yn ogystal ag ystyried chwyddiant tybiannol ar gyfer 2023/24. Soniwyd hefyd bod darpariaeth ar gyfer chwyddiant arall o £11.1 miliwn sy’n cynnwys £3.3 miliwn o chwyddiant ar brisiau trydan a £3 miliwn yn y maes gofal.  

 

Argymhellwyd i gymeradwyo bidiau gwerth £2.75 miliwn am adnoddau parhaol ychwanegol a gyflwynwyd gan Adrannau’r Cyngor i gwrdd â phwysau anorfod ar wasanaethau. Credwyd bod y bidiau yma yn angenrheidiol ac yn ychwanegol i’r £3 miliwn o ychwanegiad i gyllideb Digartrefedd sy’n cael ei ariannu o’r Premiwm Treth Cyngor. 

 

Eglurwyd bod yr holl fidiau a gyflwynwyd wedi cael eu herio yn drylwyr gan y Tîm Arweinyddiaeth yn ogystal â’u hystyried yn y Seminar Cyllideb efo’r holl aelodau a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2023. 

 

I grynhoi, nodwyd bod anghenion gwario’r Cyngor (cyn tynnu arbedion) ar gyfer 2023/24 yn £323.1 miliwn fel sydd wedi ei nodi yn rhan 3 o’r adroddiad. Nodwyd yn rhan 2 fod y grant oddi wrth Lywodraeth Cymru am fod yn £227.8 miliwn. Golyga hyn bod bwlch gweddilliol o £95.2 miliwn angen ei lenwi. Argymhellir cyfarch y bwlch drwy gynyddu’r Dreth Cyngor yn ogystal â defnyddio’r arbedion; byddai defnyddio’r arbedion sydd eisoes wedi eu cymeradwyo ar gyfer 2023/24 a’r rhai newydd yn creu cyfanswm o £5.2 miliwn fyddai’n cael ei ddefnyddio i leihau’r bwlch ariannol. Byddai cynyddu’r Dreth Cyngor o 4.95% yn cynhyrchu ychydig dros £90 miliwn o incwm, byddai hyn yn ddigonol i lenwi’r bwlch ariannol.  

 

Tynnwyd sylw at Atodiad 4 sydd yn adlewyrchu’r gofynion cyfalaf, ynghyd â’r ariannu, er mwyn sefydlu rhaglen gyfan gwerth £67 miliwn yn 2023/24. Nodwyd y bydd y Pennaeth Cyllid yn nodi’r sylwadau gafodd eu derbyn gan aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Dewi Aeron Morgan, Pennaeth Cyllid

9.

CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD 2023-28 pdf eicon PDF 142 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 (y Cynllun) i’w gyflwyno i’r Cyngor ar y 2il o Fawrth 2023.

 

Cymeradwywyd y gwelliant a gynigiwyd i ychwanegu’r frawddeg ganlynol i Faes Blaenoriaeth 5 yn y Cynllun: “Sicrhau mynediad i wybodaeth a chyfleusterau hamdden, diwylliannol a chelfyddydol o safon” er mwyn adlewyrchu gweledigaeth y Cabinet.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn 

 

PENDERFYNIAD 

 

Cymeradwywyd Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 (y Cynllun) i’w gyflwyno i’r Cyngor ar y 2il o Fawrth 2023. 

 

Cymeradwywyd y gwelliant a gynigiwyd i ychwanegu’r frawddeg ganlynol i Faes Blaenoriaeth 5 yn y Cynllun: “Sicrhau mynediad i wybodaeth a chyfleusterau hamdden, diwylliannol a chelfyddydol o safon” er mwyn adlewyrchu gweledigaeth y Cabinet. 

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan gyfeirio at yr ymgynghoriad a’r ymatebion a dderbyniwyd. Soniwyd ei bod yn ddyletswydd ar y Cyngor i baratoi Cynllun am y tymor presennol a bod gwaith wedi ei gynnal ers yr Haf ar y blaenoriaethau. Nodwyd bod ymgynghoriad wedi digwydd efo’r Aelodau yn ystod yr Hydref a cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar ddrafft y Cynllun yn dilyn hynny. 

 

Mynegwyd bod 643 o ymatebion wedi eu derbyn yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus gyda’r adborth yn bositif iawn ar y cyfan gydag ambell i awgrym. Gellir gweld crynodeb o’r atebion yn atodiad 5 o’r adroddiad. Cyfeiriwyd at y prosiectau yn y maes gofal sydd wedi eu hail becynnu fel 3 prosiect newydd sef Cefnogaeth Ataliol yn lleol, Byw yn annibynnol a Gofal arbenigol o ansawdd.  

 

Ategwyd bod y ffurf yn haws i’w ddarllen eleni ac yn fwy cryno, gobeithiwyd y bydd hyn yn annog mwy i ddarllen y Cynllun. Mynegwyd ei fod yn ddogfen bwysig sydd yn dangos uchelgais a dyhead y Cyngor ar gyfer pobl Gwynedd dros y blynyddoedd nesaf a gellir mesur perfformiad y Cyngor yn erbyn ei allu i gyflawni’r materion sydd yn y cynllun.  

 

Mynegodd y Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y byddai yn gwerthfawrogi unrhyw argymhellion neu sylwadau gan y Cabinet. Ychwanegwyd y bydd y Cynllun yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ar yr 2il o Fawrth. 

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                  Anogwyd unrhyw un sy’n gwrando i ddarllen y Cynllun.  

·                  Ategwyd y sylw bod y Cynllun yn haws i’w ddarllen a credwyd ei fod yn Gynllun arloesol ac uchelgeisiol.  

·                  Credwyd bod rhywbeth ar goll o ran gweledigaeth y Cabinet am bwysigrwydd amser hamdden a bod yn actif yn ogystal â phwysigrwydd diwylliant a’r celfyddydau a’r gwahaniaeth positif sy’n cael ei wneud gan y gweithgareddau hyn i lesiant trigolion. Cynigiwyd yn ffurfiol i ychwanegu brawddeg i Faes Blaenoriaeth 5 yn nodi “Sicrhau mynediad i wybodaeth a chyfleusterau hamdden, diwylliannol a chelfyddydol o safon” er mwyn adlewyrchu’r weledigaeth hon. 

·                  Mynegwyd cefnogaeth i’r gwelliant a credwyd ei fod yn ychwanegiad gwerthfawr. Credwyd ei bod yn hawdd anghofio pa mor bwysig yw’r maes celfyddydol a’r pleser sydd i’w gael o weld a gwrando ar waith celfyddydau. Cynigiwyd a derbyniwyd ei gynnwys fel gwelliant i’r Penderfyniad. 

·                  Cymerwyd y cyfle i fynegi cydymdeimlad y Cabinet at y Prif Weinidog Mark Drakeford ar ei golled diweddar. Danfonwyd ddymuniadau gorau at y Prif Weinidog.  

 

 

Awdur: Ian Jones, Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol a Dewi W. Jones, Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes

10.

STRATEGAETH CYFRANOGIAD - DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 pdf eicon PDF 546 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Argymhellwyd y Strategaeth Cyfranogiad ddrafft i gyfarfod y Cyngor llawn ar 02/03/2023 er mwyn ei fabwysiadu.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Jones 

 

PENDERFYNIAD 

 

Argymhellwyd y Strategaeth Cyfranogiad ddrafft i gyfarfod y Cyngor llawn ar 02/03/2023 er mwyn ei fabwysiadu. 

 

TRAFODAETH  

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod dyletswydd ar y Cyngor i fod yn annog cyfranogiad gan y cyhoedd wrth iddo wneud penderfyniadau. Nodwyd bod hyn yn ofyn dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Eglurwyd ymhellach i’r gofyn hwn, mae gofyn hefyd i greu a chyhoeddi Strategaeth Cyfranogiad; pwrpas y Strategaeth fydd nodi’r ffordd y caiff pobl leol eu hannog i gymryd rhan ym mhrosesau’r Cyngor o wneud penderfyniadau. 

 

Mynegwyd bod gofynion penodol ynghylch yr hyn sy’n rhaid ei gynnwys yn y Strategaeth, gellir gweld y rhain dan yr ail baragraff yn rhif 4 o’r adroddiad. 

 

Nodwyd er mwyn ateb gofynion y ddeddf, crëwyd Strategaeth Cyfranogiad cyntaf Cyngor Gwynedd. Eglurwyd bod ymgynghoriad cyhoeddus wedi ei gynnal yn ystod mis Ionawr ar gynnwys y Strategaeth ddrafft, a oedd yn rhoi’r cyfle i’r cyhoedd leisio eu barn ar y cynnwys. Cafwyd 89 o ymatebion i’r ymgynghoriad.  

 

Ategwyd bod ymatebion ar y cyfan yn gadarnhaol. Derbyniwyd rhai sylwadau ac awgrymiadau; nodwyd bod yr adroddiad yn esbonio sut mae’r Strategaeth ddrafft wedi cael ei haddasu yn dilyn derbyn sylwadau perthnasol o’r ymgynghoriad. 

 

Gofynnwyd a yw’r Cabinet yn credu bod ymateb digonol wedi bod i’r sylwadau sydd wedi codi o’r ymgynghoriad cyhoeddus ac os yw’r Cabinet yn fodlon gyda cynnwys y Strategaeth ddrafft. Nodwyd y bydd y strategaeth yn datblygu dros y blynyddoedd i ddod ond bod man cychwyn cadarn yma 

 

Nodwyd y bydd y Strategaeth Cyfranogiad ddrafft yn cael ei hargymell i gyfarfod y Cyngor Llawn ar yr 2il o Fawrth ar gyfer cael ei mabwysiadu. Ychwanegwyd y bydd y dyluniad terfynol yn barod erbyn cyflwyno’r Strategaeth i’r Cyngor llawn. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                  Mynegwyd pwysigrwydd cynnwys trigolion Gwynedd ym mhrosesau Democrataidd y Cyngor gan nodi nad yw hyn wastad yn hawdd ond bod y Strategaeth yma yn gam ymlaen i geisio gwella hyn.  

·                  Credwyd bod angen amlygu gwaith y Cyngor i drigolion y Sir.  

 

Awdur: Ian Jones, Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol ac Iwan Evans, Swyddog Monitro

11.

CYNLLUN ECONOMI YMWELD CYNALIADWY GWYNEDD AC ERYRI pdf eicon PDF 549 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn a Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·        Cymeradwywyd Cynllun Strategol Gwynedd ac Eryri 2035 fel Cynllun Strategol ar gyfer yr Economi Ymweld yn yr ardal.

 

·        Cymeradwywyd sefydlu Partneriaeth Gwynedd ac Eryri 2035 yn ogystal â’r gweithdrefnau a’r strwythurau priodol fydd eu hangen er mwyn datblygu, gweithredu a monitro’r Cynllun Strategol, Cynllun Gweithredu Gwynedd ac Eryri 2035 a’i fesuryddion perthnasol.

 

·        Cytunwyd i ychwanegu bod angen dirprwyo’r hawl i’r Arweinydd, mewn ymgynghoriad â’r Prif Weithredwr, i gadarnhau cylch gorchwyl y ddau gorff.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn  

 

PENDERFYNIAD 

 

·       Cymeradwywyd Cynllun Strategol Gwynedd ac Eryri 2035 fel Cynllun Strategol ar gyfer yr Economi Ymweld yn yr ardal.  

 

·       Cymeradwywyd sefydlu Partneriaeth Gwynedd ac Eryri 2035 yn ogystal â’r gweithdrefnau a’r strwythurau priodol fydd eu hangen er mwyn datblygu, gweithredu a monitro’r Cynllun Strategol, Cynllun Gweithredu Gwynedd ac Eryri 2035 a’i fesuryddion perthnasol. 

 

·       Cytunwyd i ychwanegu bod angen dirprwyo’r hawl i’r Arweinydd, mewn ymgynghoriad â’r Prif Weithredwr, i gadarnhau cylch gorchwyl y ddau gorff.  

 

TRAFODAETH  

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod y gwaith wedi cychwyn ers cyn y cyfnod Cofid a bod trafodaethau efo partneriaid wedi bod yn digwydd yn gyson ers hynny. Mynegwyd gwerthfawrogiad am y cydweithio agos sydd wedi bod yn digwydd rhwng y Cyngor a Pharc Cenedlaethol Eryri a bod yr un weledigaeth ac egwyddorion sylfaenol yn cael eu rhannu. Credwyd bod yr adroddiad yn gam pwysig i geisio llywio'r diwydiant ymwelwyr i fod yn fwy cynaliadwy ac yn fwy atebol i’r cymunedau. 

 

Darparwyd cefndir yr adroddiad gan y Pennaeth Economi a Chymuned a nododd bod y cynllun yn ei le â’r weledigaeth ar gyfer y dyfodol wedi ei gosod a’r prif amcanion ar gyfer y dyfodol wedi eu hadnabod. Nodwyd bod y newid arwyddocaol i’w weld yn y gwaith hwn drwy roi’r gymuned yn ganolog fydd yn sicrhau budd i Wynedd o ganlyniad i’r datblygiadau yn y maes hwn i’r dyfodol.  

 

Cyfeiriwyd at egwyddorion Economi Ymweld Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri a’r amcanion sydd wedi eu cynnwys yn rhan 3 o’r adroddiad. Bydd angen sicrhau y bydd cynllun gweithredu clir yn ei le er mwyn gwireddu’r weledigaeth. Cynhigir strwythur newydd ar gyfer gweithredu sy’n cynnwys Partneriaeth Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri, Bwrdd Llywio Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri yn ogystal â Grŵp Gweithredol Economi Ymweld Cynaliadwy Gwyned ac Eryri. Ceir manylion ar y trefniadau gweithredu yn rhan 4 o’r adroddiad. 

 

Rhedwyd drwy’r camau nesaf a’r amserlen ar gyfer eu cwblhau. Cydnabuwyd y pwysigrwydd o gydweithio ar draws sectorau er mwyn cyflawni’r weledigaeth. Nodwyd bod ymgynghoriadau wedi eu cynnal ond bod mwy i’w gwneud a’i bod yn gychwyn cyfnod newydd o weithredu’r Cynllun a chydweithio efo’r sector Economi Ymweld.  

 

Ychwanegodd y Swyddog Parc Cenedlaethol Eryri ei bod yn falch o gyhoeddi bod yr awdurdod wedi mabwysiadu’r Cynllun Strategol hwn wythnos diwethaf ac yn falch iawn o’r trefniadau a’r cydweithio. Diolchwyd i Swyddogion y Cyngor am eu gwaith.  

 

Derbyniwyd sylwadau o’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi gan y Dirprwy Arweinydd ble roedd trafodaeth ddefnyddiol ac awgrymiadau adeiladol er enghraifft ehangu aelodaeth y bartneriaeth i gynnwys y gwasanaethau brys, yr undebau amaeth a chynrychiolwyr eraill o ran tirfeddianwyr. Nodwyd y bydd y Cyrff hyn yn cael eu gwahodd i ymuno â’r bartneriaeth maes o law. 

 

Eglurwyd bod trafodaeth wedi bod ar effaith twristiaeth ar yr iaith Gymraeg a’r Heddlu, sylwadau ynglŷn â pharcio a rhai cwestiynau i’r Parc; bydd y Swyddog Parc Cenedlaethol yn ymateb yn uniongyrchol i’r Pwyllgor Craffu am faterion Parc Cenedlaethol Eryri.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

Awdur: Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned a Roland Evans, Pennaeth Cynorthwyol - Diwylliant

12.

CRONFA FFYNIANT BRO - CYNLLUN LLEWYRCH O'R LLECHI pdf eicon PDF 450 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·        Derbyniwyd llythyr cynnig, am arian Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth Prydain, i weithredu cynllun Llewyrch o’r Llechi ar y cyd a phartneriaid o fewn y Dyffrynnoedd Llechi.

 

·        Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Cyllid a Phennaeth Cyfreithiol i gytuno ar y trefniadau cytundebol a gweithredu a’r pecyn ariannol cyflawn gyda partneriaid.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys 

 

PENDERFYNIAD 

 

·       Derbyniwyd llythyr cynnig, am arian Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth Prydain, i weithredu cynllun Llewyrch o’r Llechi ar y cyd a phartneriaid o fewn y Dyffrynnoedd Llechi. 

 

·       Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Cyllid a Phennaeth Cyfreithiol i gytuno ar y trefniadau cytundebol a gweithredu a’r pecyn ariannol cyflawn gyda phartneriaid. 

 

TRAFODAETH  

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod tri cais gan yr Adran Economi a Chymuned ac Adran Amgylchedd wedi eu cyflwyno i Gronfa Ffyniant Bro, Llywodraeth Prydain. Ni fu cais Bywiogi Bangor na chais Coridor Gwyrdd Ardudwy yn llwyddiannus, ond bu cais Llewyrch o’r Llechi yn llwyddiannus. Eglurwyd bod cadarnhad o fuddsoddiad o £18.8 miliwn wedi ei dderbyn, bydd angen gwario’r arian hwn cyn diwedd Mawrth 2025. 

 

Nodwyd bod y Cynllun Llewyrch o’r Llechi yn becyn gwerth o gwmpas £27 miliwn o gynlluniau ar draws dyffrynnoedd llechi Gwynedd sy’n ymateb i’r thema ‘buddsoddi mewn diwylliant’. Adroddwyd bod y Cynllun yn cynnig cyfleoedd a datblygiadau sydd yn cyfrannu tuag at adfywio'r cymunedau yma. Nodwyd bod manylion ar beth mae’r pecyn yn ei gynnwys wedi ei nodi yn rhan 2.2 o’r adroddiad. 

 

Ychwanegodd y Pennaeth Economi a Chymuned bod trafodaethau wedi digwydd efo’r cymunedau a bod rhaid canolbwyntio ar y prosiectau fwyaf aeddfed er mwyn gallu cwblhau’r gwaith o fewn yr amserlen. Ategwyd bod hyn yn ffactor wrth adnabod prosiectau. Nodwyd bod angen comisiynu gwaith dehongli fel rhan o’r Cynllun.  

 

Mynegwyd bod y pecyn hwn yn cyfrannu at y weledigaeth ehangach sydd wedi ei nodi yn rhan 2.3 o’r adroddiad sef i ‘Amddiffyn, cadw, gwella a chyfleu priodweddau pwysig yr ardal er mwyn atgyfnerthu hynodrwydd diwylliannol a chryfhau’r iaith Gymraeg, a dod yn sbardun pwysig i adfywio economaidd a chynhwysiad cymdeithasol.’ Credwyd bod y Cynllun yn uchelgeisiol iawn ac yn raglen tymor hir a'r gobaith yw y bydd yn arwain at gyfleoedd pellach yn y cymunedau hyn. 

 

I gloi nodwyd mai Cyngor Gwynedd fydd yn arwain ar y cais ond bydd gweithio mewn partneriaeth efo’r tair ardal sy’n rhan o’r cais yn hanfodol er mwyn gwireddu'r gwahanol brosiectau. Nodwyd y bydd angen cytuno ar gytundeb cyfreithiol rhwng Cyngor Gwynedd a’r partneriaid yn y gymuned er mwyn gwireddu’r prosiectau a chyflawni. Ychwanegwyd bod gwaith wedi cychwyn o ran trafodaethau efo’r Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, felly gobeithir gallu symud ymlaen a chadarnhau’r trefniadau efo’r partneriaid. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                  Croesawyd y buddsoddiad a’r cyfleoedd fydd yn deillio o’r Cynllun. 

·                  Holiwyd am y ffynonellau cydariannu sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad ar dudalennau 264 a 265 a’u bod yn cael eu nodi fel ‘posib’. Gofynnwyd pa mor sicr yw’r Adran Economi a Chymuned bod y symiau a nodwyd yn mynd i’n cyrraedd.  

·                  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Rhaglenni Adfywio ei bod yn sicr o hyn gan fod cyfarfodydd cychwynnol wedi eu cynnal er enghraifft efo Amgueddfa Cymru a’u bod yn rhan o gynlluniau ehangach ganddynt. Ychwanegwyd bod risg isel i’r cynlluniau beidio mynd yn eu blaenau,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

Awdur: Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned

13.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS ECONOMI A CHYMUNED pdf eicon PDF 452 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn a Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn a Cyng. Nia Jeffreys 

 

PENDERFYNIAD 

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. 

 

TRAFODAETH  

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Arweinydd oedd yn cyfeirio at y materion rhanbarthol sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Soniwyd am Gynllun Twf Gogledd Cymru gan nodi bod prosiectau wedi dod i ben am amryw o resymau sydd wedi gadael swm o £30 miliwn yn weddill. Adroddwyd bod ceisiadau am brosiectau wedi cael eu gwahodd am y swm yma. Nodwyd y bydd y prosiectau am gyfnod o 15 mlynedd ac yn cael eu hariannu gan y ddwy Lywodraeth. 

 

Ychwanegwyd bod costau prosiectau wedi cynyddu sydd wedi cael effaith ar brosiectau eraill yn ogystal â rhoi pwysau ar adnoddau staffio. Nodwyd mai hyn yw un o’r prif risgiau sydd wedi ei adnabod a bod gwaith yn parhau wrth ymateb i’r risgiau.  

 

Cyfeiriwyd at berfformiad gwasanaethau’r Adran gan y Dirprwy Arweinydd oedd yn cynnwys Byw’n Iach a lefel defnyddwyr y Canolfannau sydd yn parhau i fod yn is na’r cyfnod cyn cofid. Soniwyd am faterion penodol oedd wedi cael effaith ar y ffigyrau megis cau pwll nofio Arfon am 3 mis ar gyfer adnewyddu a chyfyngu oriau agor pwll nofio Bangor oherwydd diffyg staff. Adroddwyd bod trafodaethau cyson rhwng Cwmni Byw’n Iach a’r Cyngor er mwyn goresgyn rhai o’r rhwystrau hyn sy’n effeithio ar incwm y cwmni. 

 

Adroddwyd bod y nifer sy’n ymgysylltu gyda’r Amgueddfeydd a’r Oriel wedi gostwng dros y cyfnod diwethaf yn sgil y ffaith bod arddangosfa Storiel ac Amgueddfa Lloyd George wedi gorfod cau yn ddirybudd yn dilyn damweiniau yn yr adeiladau a gwaith atgyweirio sydd angen eu cwblhau cyn gallu ail agor. Cymerwyd y cyfle i ddiolch i’r Cydlynydd Amgueddfa a Gwirfoddoli am ei gwaith yn ystod yr achosion hyn.  

 

I gloi tynnwyd sylw ar y gwaith cefnogi cymunedau gan nodi bod 121 o grwpiau a mentrau wedi eu cefnogi rhwng Hydref a Rhagfyr 2022 gan nodi bod y rhain yn brosiectau llawr gwlad sy’n agos i galonnau trigolion Gwynedd, mynegwyd balchder am hyn. 

 

Ychwanegodd y Pennaeth Economi a Chymuned bod yr Adran heb gael llawer o gyfle i wneud cynnydd ar y prosiectau sydd wedi eu cynnwys yng Nghynllun y Cyngor oherwydd yr angen i gyfeirio staff o fod yn gweithio ar brosiectau strategol i fod yn helpu efo’r cynlluniau rhanbarthol mae’r Cyngor yn eu harwain.  

 

I gloi soniwyd am y gronfa ffyniant gyffredinol gan nodi mai’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau am brosiectau yw 24 Chwefror. Nodwyd bod swydd wedi cael ei hysbysebu i reoli’r gronfa yng Ngwynedd ond ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau.  

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·       Diolchwyd am yr adroddiad. 

·       Mynegwyd pryder am y sefyllfa o swyddi gweigion a’r trafferth i’w llenwi yn gyffredinol ar draws y Cyngor. Credwyd bod lle i geisio denu ymgeiswyr gan hyrwyddo bod swyddi gwag a chyfleoedd ar gael yn y Cyngor. 

 

Awdur: Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned

14.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GEFNOGAETH CORFFORAETHOL A CHYFREITHIOL pdf eicon PDF 521 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Jones 

 

PENDERFYNIAD 

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. 

 

TRAFODAETH  

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bodlonrwydd bod y prosiectau sy’n cael eu harwain gan yr Adran ynghyd a’r perfformiad dydd i ddydd yn cael eu cynnal o fewn y gyllideb. Mynegwyd gwerthfawrogiad i holl swyddogion yr Adran gan gydnabod y cyfraniad allweddol sy’n cael ei wneud gan y staff i gefnogi gwaith y Cyngor. 

 

Tynnwyd sylw at y prosiect Merched mewn Arweinyddiaeth sydd wedi derbyn adborth arbennig o dda yn ogystal â’r Gynhadledd Llesiant Meddylion llwyddiannus gafodd ei gynnal yn ddiweddar. Cyfeiriwyd at y gwelliannau yn y gwasanaeth Cyswllt Cwsmer ble gwelwyd gostyngiad yn yr amser o ymateb i alwadau yn ogystal â’r canran o alwadau a gollwyd. 

 

Soniwyd am yr heriau staffio a recriwtio yn y gwasanaeth Cyfreithiol a’r camau sy’n cael eu cymryd i gyfarch y risgiau yma. Cyfeiriwyd hefyd at berfformiad a’r cynnydd yng ngwaith y gwasanaeth Etholiadau a’r gwasanaeth Crwner.  

 

Ategwyd gwerthfawrogiad i staff yr Adran am eu cydweithrediad a’u gwaith gan y Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol. Nododd bod gwaith da iawn yn cael ei wneud mewn cyfnod heriol a bod cynnydd da yn cael ei wneud ar brosiectau.  

 

Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau pellach.  

 

 

Awdur: Ian Jones, Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol

15.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS DAI AC EIDDO pdf eicon PDF 564 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago 

 

PENDERFYNIAD 

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. 

 

TRAFODAETH  

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan gyfeirio at y niferoedd sy’n ddigartref yn y Sir a’r cynnydd yn y niferoedd sy’n cyflwyno yn ddigartref o ganlyniad i dderbyn ‘rhybudd adran 21’ gan landlordiaid (rhybudd y bydd eu tenantiaeth yn dod i ben). Nodwyd yn ystod y flwyddyn 2022 rhoddwyd 169 rhybudd ac roedd 78% o’r rhesymau a roddwyd gan landlordiaid dros gyflwyno’r rhybudd oherwydd eu bod yn gwerthu’r eiddo. Soniwyd am yr hyn mae’r Adran yn ceisio ei wneud i geisio cynnig datrysiad i’r sefyllfa er enghraifft cynnig pecynnau cefnogaeth i landlordiaid preifat. 

 

Cyfeiriwyd at y cynlluniau prynu Tai a phrynu Tir gan nodi bod 8 tŷ wedi ei brynu gyda 5 arall naill ai yn agos i gwblhau neu â chytundeb i brynu yn nwylo’r cyfreithwyr. Soniwyd hefyd am y Cynllun Cymorth Prynu Gwynedd gan nodi bod gwerth £13 miliwn o fenthyciadau ecwiti ar gael er mwyn rhoi cyfle i fwy o bobl brynu cartref oddi ar y farchnad agored yn eu cymuned leol. 

 

Adroddwyd ar y gwasanaeth Ynni newydd sydd wedi cael ei sefydlu gan nodi bod dros 570 o bobl wedi derbyn cymorth hyd yma gyda’u biliau ynni trwy dderbyn talebau ynni. Mynegwyd bod hyn yn lwyddiant ond bod y broblem wreiddiol yn cael ei greu gan y Llywodraeth gyda’r Cyngor yn ceisio ei ddatrys. Cyfeiriwyd at ddatblygiadau’r Siop un Stop gan nodi bod staff eisoes wedi eu penodi a bod yr Adran ar hyn o bryd y chwilio am enw newydd i’r ‘Siop un Stop’. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                  Tynnwyd sylw at y nifer o dai cymdeithasol sydd wedi eu datblygu er mwyn ceisio cyrraedd yr uchelgais o 500 erbyn 2026 gan nodi bod 160 wedi eu datblygu hyd yn hyn. Gofynnwyd pa mor hawdd fydd cyrraedd yr uchelgais.  

·                  Mewn ymateb nodwyd bod y targed ddim yn hawdd ond bod arian wedi ei ymrwymo ar gyfer y ddwy flynedd nesaf a bydd yr Adran yn edrych ar yr anghenion ar draws y Sir. Nodwyd bod cynllun mewn lle dros y dair mlynedd nesaf.  

·                  Canmolwyd y Cynllun Cymorth Prynu gan nodi mai’r brif her oedd darganfod am fodolaeth y Cynllun yn y lle cyntaf. Mewn ymateb nodwyd bod fideo wedi ei greu a bod yr Adran wedi ymweld â chynghorau cymuned Dwyfor. Ategwyd y byddai’r Adran yn gwerthfawrogi unrhyw awgrymiadau pellach o ran ymgysylltu. 

·                  Cwestiynwyd os yw’r ffigwr o brynu 8 o dai yn isel a gofynnwyd os gall y Cyngor wneud unrhyw beth i helpu neu i gyflymu’r broses. 

·                  Mewn ymateb nodwyd ei bod yn anodd iawn dod o hyd i dai addas gan na all yr Adran gystadlu yn erbyn pobl leol sydd eisiau prynu, heriau staff a’r angen i wneud y gorau o’r arian sydd yn bodoli. Ychwanegwyd bod llawer o rwystrau o ran safonau tai a gofynion megis gofynion tân a maint ystafelloedd oedd yn golygu bod llawer yn anaddas. Nodwyd bod yr Adran wedi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 15.

Awdur: Carys Fon Williams, Pennaeth Tai ac Eiddo