Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r
Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Ni dderbyniwyd
unrhyw ymddiheuriadau. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 18 RHAGFYR PDF 85 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar y
18 o Ragfyr fel rhai cywir |
|
CYNLLUN GWYNEDD 2018-2023 - ADNODD I'R CYNLLUN 'CYNYDDU BUDD DIGWYDDIADAU MAWRION' PDF 103 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNWYD
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod
digwyddiadau mawrion yn hynod bwysig nid yn unig i economi Gwynedd ond er mwyn
sicrhau fod Gwynedd yn le da i fyw ar gyfer trigolion y sir. Ategwyd fod y
buddsoddiad wedi lleihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac nad oedd yr arian
yma yn mynd tuag at ariannu swydd Rheolwr Digwyddiadau ond yn hytrach am arian
fydd ar gael ar gyfer digwyddiadau. Nodwyd mai cyfraniad bychan sydd yn cael eu
cynnig i drefnwyr digwyddiadau drwy’r gronfa. Ymhelaethwyd gan nodi fod
dylanwad ac effeithiau yn sgil buddsoddiad y Cyngor yn sicrhau cyfleoedd i
fusnesau lleol fanteisio ar gytundebau, creu cyfleoedd i bobl ifanc a
chymunedau gyfrannu a bod lle canolog i iaith a diwylliant Gwynedd. Nodwyd fod buddsoddiad o £51,750 o arian gan
y Cyngor y llynedd gan ategu fod yr arian wedi denu £217,000 o arian gan
Lywodraeth Cymru i ddigwyddiadau ac roedd cyfanswm y gyllideb dros £4.6m.
Mynegwyd fod hyn yn dangos fod gwerth yn y buddsoddiad yma. Tynnwyd sylw at uchafbwyntiau 2018-19 o ran
digwyddiadau gan nodi fod Bwrlwm Bermo wedi denu 1,000 o bobl i gymryd rhan
mewn digwyddiad allan o dymor ym mis Hydref. Soniwyd am ddigwyddiad Red Bull
gan nodi eu bod wedi cytuno i ddefnyddio Plas Tan y Bwlch fel llety ar gyfer Red Bull Hardline.
Pwysleisiodd yr Uwch Reolwr ar gyfer Diwylliant a Chymunedau pwysigrwydd y
dylanwad mae’r Cyngor yn ei gael wrth fuddsoddi mewn digwyddiad gan nodi fod
dylanwad o ran iaith, cyfleodd i ddefnyddio cwmnïau lleol ac i sicrhau'r
deilliannau gorau ar gyfer y Cyngor a'i thrigolion. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth - Holwyd sut mae’r Cyngor yn monitro a gwerthuso digwyddiadau , nid yn unig y rhai sydd yn derbyn buddsoddiad ond y rhai nad ydynt yn ei dderbyn yn ogystal. Mynegwyd fod yr atodiadau i’r adroddiad yn dangos y llwyddiant economaidd, ac efallai fod angen ehangu ar y monitro yn benodol wrth edrych ar iaith, nifer yr unigolion yn gwirfoddoli ac effaith diwylliannol. Gofynnwyd i’r adran wneud hyn ac i adrodd yn ôl ar y rhain y flwyddyn nesaf Awdur: Roland Evans |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS AMGYLCHEDD PDF 109 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi’r
wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem
gan y Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNWYD Derbyn
a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan fod yr Aelod Cabinet, ar y cyfan yn hapus a pherfformiad yr adran
Amgylchedd. Ategodd fod yr amser mae hi yn cymryd i benderfynu a’r cais cynllunio
wedi bod yn ansefydlog ar ddechrau eleni, ychwanegodd fod effaith y Cynllun
Dirprwyo newydd yn dechrau ymddangos yw hyn ac y bydd yn sefydlogi gan ei fod
yn cael ei fonitro drwy gofnodi ar wahân gan y bydd y niferoedd y ceisiadau
fydd angen mynd i bwyllgor yn lleihau. Tynnwyd sylw ar
Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd gan nodi fod y gwasanaeth yn parhau i fod y tu ôl
o ran arolygiadau Hylendid Bwyd a Safonau Bwyd. Ychwanegwyd fod swyddogion
ychwanegol bellach wedi eu penodi, ac mae’r gwasanaeth wedi mabwysiadau
trefniadau mwy effeithlon drwy gynnal archwiliadau hylendid a safonau bwyd yn
yr un ymweliad ble mae hyn yn bosib. Mynegwyd fod
perfformiad cyfartaledd y dyddiadau a gymerir i benderfynu cais trwydded tacsi
wedi gwella o’i gymharu â’r adroddiad diwethaf. Nodwyd fod cyfartaledd prosesu
trwyddedau gyrwyr wedi gostwng yn ogystal. Ychwanegwyd wrth herio perfformiad y
gwasanaeth nodwyd fod trwydded ar gyfer cwmnïau a cherbydau tacsis yn cael eu
prosesu yn gyflym iawn ac o fewn 2 ddiwrnod ar gyfartaledd, ond fod nifer
cynnydd yn y nifer o drwyddedau ar gyfer gyrwyr. Nodwyd fod y drefn o wneud
gwiriad DBS yn gallu bod yn araf a bod y drefn o drefnu gwrandawiadau o flaen
Is-bwyllgor Trwyddedu yn gallu ychwanegu oediad i’r broses. Nodwyd fod Canran
adeiladau gyda system diogelwch cyflawn wedi dirywio yn sylweddol o 91% i 73%.
Esboniwyd fod aelod staff wedi bod yn absennol oherwydd salwch, ac nad oedd
aelod arall staff gyda’r arbenigedd i wneud y gwaith. Mynegwyd fod camau yn ei
le bellach i sicrhau fod y Gwasanaeth yn gallu parhau i wneud y gwaith yn
absenoldeb aelod staff. Nodwyd fod cynlluniau arbedion wedi ei gwireddu ac
amlinellwyd blaenoriaethau Cynllun y Cyngor gan nodi fod y rhain wedi ei
datblygu yn dilyn trafodaethau a chynghorwyr am eu wardiau. Mynegwyd fod camau
yn cael eu cymryd er mwyn cwblhau’r blaenoriaethau. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth -
Nodwyd
fod pryder am ddiffyg parcio yn ardal y Bala sydd yn un o flaenoriaethau
Cynllun y Cyngor bellach wedi ei ddatrys. -
Trafodwyd
blaenoriaeth Cynllun y Cyngor am ddiogelwch tu allan i’r ysgolion yng
Nghaernarfon gan nodi fod angen edrych ar y safle i gyd gan fod y Ganolfan
Hamdden a'r Ganolfan Dennis ar yr un safle. -
Trafodwyd
mesurydd perfformiad yr adran am gwynion trafnidiaeth gan nodi fod amryw wedi
canmol y bysus yn dilyn newid cwmni. Nodwyd fod y mesurydd yma yn edrych ar
gwynion gan nodi sut mae’r adran wedi ymateb i’r cwynion. Awdur: Dilwyn Williams |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS BRIFFYRDD A BWRDEISTREFOL AC YMGYNGHORIAETH PDF 95 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi’r
wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem
gan Cyng. Gareth Griffith PENDERFYNWYD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod gwelliant i berfformiad Gwasanaethau Stryd eleni, y
gwasanaeth sydd yn cadw strydoedd y sir yn lan a thaclus. Ychwanegwyd fod y
mesurydd glendid ac edrychiad strydoedd hyd yma eleni yn 74.1% sydd yn dangos
cynnydd o berfformiad y llynedd a oedd yn 71.95%. Mynegwyd fod canran strydoedd
sydd â safon B, B+ ac A wedi gweld cynnydd o 94.1% yn 2017/18 i 98.5%. Tynnwyd
sylw at y newid yn y mesurydd perfformiad ar gyfer canran tipio anghyfreithlon
a gliriwyd o fewn 5 diwrnod. Nodwyd fod y perfformiad ar gyfer y mesurydd
newydd yma yn dangos ar gyfartaledd ei bod yn cymryd 1.7 diwrnod i’r adran
glirio unrhyw dipio anghyfreithlon, ac
ar y cyfan mae’r adran yn gweld hwn yn
berfformiad eithaf da ac yn un gellir ei ddefnyddio fel gwaelodlin. Mynegwyd fod canran
y gwastraff trefol a anfonir i dirlenwi yn is eleni yn y cyfnod o Ebrill i
Hydref sef 17.98% o’i gymharu â 24.33%. Mynegwyd fod y gwelliant hwn o
ganlyniad i’r ffaith fod mwy o wastraff wedi cael ei drin drwy’r drefn llosgi
ac o ganlyniad ddim wedi’i anfon i dirlenwi. Trafodwyd safon y
ffyrdd gan nodi fod Prif Ffyrdd dosbarth A a B mewn cyflwr cymharol a bod
gwelliant i’r weld y ffigyrau cymariaethau cenedlaethol. Mynegwyd fod dosbarth
C sydd mewn cyflwr gwael wedi gwaethygu ond mynegwyd fod yr adran wedi derbyn
arian gan y Llywodraeth a bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i lonydd dosbarth
C. Nodwyd fod angen i’r adran greu mesur ar gyfer ffyrdd di-ddosbarth gan and
yw’r ffyrdd yn rhan o’r mesuriadau cenedlaethol. Ategwyd gan fod cynifer o
ffyrdd y Sir yn rhai di-ddosbarth mae cyflwr y ffyrdd yma yn hanfodol bwysig i
drigolion Gwynedd. Tynnwyd sylw at
doriadau a chynllun cau 50 allan o 73 o doiledau cyhoeddus y sir gan nodi fod
angen llunio Strategaeth Toiledau Cyhoeddus erbyn Mai 2019, a bydd yn dod i’r
Cabinet i gael ei drafod. Ar y cyfan, nodwyd fod yr aelod cabinet yn hapus ar y
sefyllfa ariannol ac arbedion. Mynegwyd fod yr
Adran Ymgynghoriaeth Gwynedd wedi cyrraedd ei brif fesur wedi ei gyrraedd, a
bod tafluniad y sefyllfa NET ddiweddaraf yn dangos elw o £23,583. Nodwyd fod yr
adran wedi ennill Gwobr Genedlaethol am Gydweithio yn ddiweddar. Nodwyd fod yr
aelod yn hapus iawn gyda’r ddwy adran. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth -
Tynnwyd
sylw at gynllun Lampau LED’s a nodwyd nid yn unig ei fod yn arbediad arian ond
ei fod yn arbed ar garbon, a'i fod yn cyd-fynd ar agenda gostwng carbon. -
Mynegwyd
ei bod yn syniad da i ddechrau mesur ffyrdd di-ddosbarth gan fod llawer o’r
lonydd yma yn yr ardaloedd gwledig ar draws y sir a fydd yn gymorth i’r
trigolion. - Nodwyd ei bod yn anodd cael mesurydd ar gyfer baw ci, ond efallai y gall fod adroddiad byr tro nesaf a holwyd os oes ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. Awdur: Dilwyn Williams |
|
BLAENRAGLEN Y CABINET PDF 68 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem
gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNWYD Derbyn y blaen raglen. |