skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Nodyn: WEDI EI AILDREFNU O 25 MEDI 2018 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. W Gareth Roberts ac Aled Davies (Pennaeth yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS OEDOLION, IECHYD A LLES pdf eicon PDF 330 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr. W Gareth Roberts

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Morwena Edwards

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ar y cyfan fod perfformiad yr adran yn gadarnhaol. Ychwanegwyd fod her yr adran yn un uchelgeisiol a phwysleisiwyd nad oedd modd i’r adran wireddu eu heriau heb gefnogaeth eu partneriaid. Pwysleisiwyd mai beth sydd yn bwysig i’r unigolyn sydd yn gyrru’r gwasanaeth a bellach mae’n brif fesurydd yr adran. Pwysleisiwyd fod hwn yn fesurydd newydd ond nad yw’n hawdd cymharu perfformiad gyda’r blynyddoedd a fu.

 

Tynnwyd sylw at Wydnwch Cymunedol gan nodi fod pum tîm yn gweithio yn drawsadrannol ac yn draws-sefydliad sydd yn ei gwneud yn haws i bobl barhau i fyw yn annibynnol yn eu cymunedau. Nodwyd mai'r prif waith yw trosglwyddo pobl i’r gymuned yn dilyn cyfnod mewn ysbytai. Ychwanegwyd mai prif broblem i’r maes yw cael pecynnau gofal oherwydd diffyg capasiti mewn cartrefi a recriwtio staff.

 

Nodwyd fod gwaith yn cael ei wneud yn edrych ar y gweithlu a recriwtio o fewn y maes Gofal. Ychwanegwyd fod darn o waith yn cael ei gomisiynu er mwyn gwella dealltwriaeth yr adran am broblemau recriwtio. Ategwyd fod prosiect gofal cartref wedi bod yn weithredol ym Methesda sydd wedi bod yn gweithio mewn ffordd wahanol.

 

Tynnwyd sylw at ganlyniadau’r Holiadur Cenedlaethol sydd yn dangos fod perfformiad Gwynedd yn cymharu yn dda yn erbyn perfformiad Cymru. Pwysleisiwyd fod yr holiadur wedi tynnu sylw at yr angen i gefnogi gofalwyr, ac ychwanegwyd fod Strategaeth Gofalwyr Rhanbarthol yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-    Trafodwyd recriwtio gan nodi ein bod yn trafod y maes yma ers Ionawr ac nad ydym eto i weld wedi medru dod i waelod y mater fel ein bod yn gallu rhoi camau gweithredu ar waith a bod angen ystyried a yw’r mater yma yn derbyn blaenoriaeth digonol. Nodwyd fod gwaith yn cael ei wneud ar y papur a gobeithir y bydd adroddiad yn fuan.

-    Nodwyd fod y trefniadau ar gyfer mesur a yw cynlluniau arbedion yn llwyddo neu beidio yn ddibynnol ar yr adolygiad cyllideb yn hytrach na dadansoddiad o werth ariannol y camau unigol sy’n cael eu cymryd ac fe heriwyd a oedd angen trefniadau mwy miniog.  Nodwyd y byddai hyn yn derbyn sylw.  

-    Tynnwyd sylw at y tablau gan nodi fod un yn pwysleisio ‘targedau’. Nodwyd nad yw hyn yn cydfynd ag egwyddorion Ffordd Gwynedd gan na ddylem fod yn anelu am dargedau meintiol oni bai fod yna ystyr gwirioneddol allweddol iddynt. 

-        Trafodwyd Cartref Preswyl Penisarwaun yn cau ar fyr rybudd, holwyd faint o sylw mae’r adran yn ei roi i Gartrefi Preswyl Preifat. Nodwyd mai Arolygaeth Gofal Cymru a fyddai’n cadw golwg ar faterion ariannol ac nid oes gofyn iddynt rannu'r wybodaeth gyda’r Cyngor. Ond ychwanegwyd fod ymweliad wedi ei gynnal wythnos cyn i’r Cartref gau ac nad oedd unrhyw broblemau wedi ei amlygu.

Awdur: Morwena Edwards

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS BLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD pdf eicon PDF 219 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Dilwyn Morgan

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod ymarfer a pherfformiad cyffredinol yn y Maes Plant yn ei gyfanrwydd yn gadarn. Nodwyd fod Adroddiad Arolygiad Llawn gan Arolygaeth Gofal Cymru yn cadarnhau perfformiad yr adran. Ategwyd fod yr adroddiad yn nodi fod gan y gwasanaeth gryfderau sylweddol a gweithlu ymrwymedig a chadarn. Ychwanegwyd fod yr arolygiad wedi adnabod pedwar maes i’w ddatblygu ond fod rhain yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau sydd yng Nghynllun y Cyngor.

 

Tynnwyd sylw at adolygu’r cynllun ‘Dechrau i’r Diwedd’, gan nodi fod nifer y lleoliadau preswyl wedi lleihau. Pwysleisiwyd er bod niferoedd yn lleihau, nid oedd yr adolygiad wedi cymryd i ystyriaeth y cynnydd mewn costau’r lleoliad. Ategwyd mai dyma yw’r prif reswm dros orwariant yr adran ac ychwanegwyd fod adroddiad penodol ar hyn yn cael ei baratoi gan yr adran, ar y cyd â’r Adran Gyllid, er mwyn egluro’r mater yn fanylach.

 

Pwysleisiwyd blaenoriaethau’r adran gan nodi eu bod yn cyd-fynd â’r tri chynllun gwella sydd yng Nghynllun y Cyngor. Ategwyd fod gwaith cychwynnol y Strategaeth Cefnogi Teuluoedd Gwynedd wedi dechrau a bod yr adran wedi adnabod beth yw’r galw am gefnogaeth i deuluoedd yn ogystal â mapio pa ddarpariaeth sydd ar gael. Mynegwyd y bydd trafodaeth gychwynnol gyda phartneriaid allweddol wedi digwydd erbyn y Cylch adrodd nesaf am y Strategaeth.

 

Tynnwyd sylw fod gwaith Cydymdrechu yn erbyn Tlodi bellach wedi trosglwyddo i’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd. Ychwanegwyd oherwydd bod amserlen gyflwyno Credyd Cynhwysol yn y sir wedi llithro y bydd y prosiect yn cadw yn fyw hyd at ddiwedd Mawrth i gefnogi pobl i ymdopi â’r newidiadau.

 

Nodwyd ei bod yn galonogol fod yr Arolygaeth Gofal Cymru yn disgrifio Panel Rhiant Corfforaethol yn uchelgeisiol ar gyfer y Plant Mewn Gofal. Ychwanegwyd fod gwaith pellach wedi digwydd i geisio adnabod ble mae angen gwella ac adnabod ymarfer da drwy’r grwpiau tasg sydd wedi eu sefydlu. Mynegwyd pryder mai ychydig dros hanner yr aelodau etholedig sydd wedi mynychu’r hyfforddiant ‘Rhiantu Corfforaethol’, a nodwyd y bydd mwy o sesiynau yn cael eu cynnal er mwyn i aelodau ddeall eu cyfrifoldebau yn y maes.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-    Nodwyd fod yr adran bellach yn edrych ar eu mesurau a’u pwrpas gan fod rhai mesurau bellach wedi eu dileu gan nad ydych yn mesur data sydd yn bwysig i drigolion Gwynedd.

-    Trafodwyd cost lleoliadau all sirol gan holi os oes unrhyw beth y gall yr adran wneud i osgoi'r costau. Nodwyd fod niferoedd wedi lleihau gan fod mwy o gefnogaeth ar gael yn y cartref. Ychwanegwyd fod cynnydd yn y gost oherwydd bod y problemau sydd yn cael eu delio o fewn y lleoliadau yn fwy dwys ac o ganlyniad mae darparwyr yn codi swm uwch. Ychwanegwyd fod hon yn broblem genedlaethol a bod trafodaeth ranbarthol yn cael ei gynnal yn edrych ar y mater.

-        Tynnwyd sylw nad yw gorwariant o fewn yr adran yn broblem newydd a codwyd y cwestiwn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Morwena Edwards