skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Catrin Wager.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nodwyd y bydd y newidiadau yn eitem 6 ar deithio staff yn effeithio’r swyddogion presennol, ond nad oedd angen iddynt adael y cyfarfod.

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 15 HYDREF 2019 pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y Cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 17 Medi 2019 fel rhai cywir.

6.

YSGOL LLANAELHAEARN pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Cytunwyd i gychwyn cyfnod o ymgynghori statudol yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Llanaelhaearn ar 31 Awst 2020 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Bro Plenydd, Y Ffor, ar y 1af Medi 2020.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan y Cyng. Cemlyn Williams

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd i gychwyn cyfnod o ymgynghori statudol yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Llanaelhaearn ar 31 Awst 2020 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Bro Plenydd, Y Ffor, ar y 1af Medi 2020.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi eu bod yn cynnig i gychwyn cyfnod ymgynghorol statudol ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Llanaelhaearn. Ategwyd mai’r rheswm dros y penderfyniad i gychwyn y cyfnod statudol yw bod nifer y disgyblion wedi lleihau dros y blynyddoedd ac mai dim ond 8 disgybl sydd bellach ar y gofrestr.

 

Mynegwyd fod gan y Cyngor ddyletswydd i sicrhau addysg a phrofiadau o safon uchel i bob disgybl, a gyda chyn lleied o blant nad oedd cyfleoedd teg iddynt o ran profiadau. Pwysleisiwyd mai cais i ystyried cyfnod statudol o ymgynghoriad yw hwn ac nid penderfyniad i gau’r ysgol. Ategwyd fod y trafodaethau sydd wedi cael ei gynnal yn lleol wedi bod yn urddasol a diolchwyd i’r aelod lleol, y corff llywodraethol a’r budd-ddeiliad am drafod yr opsiynau posib.

 

Bu i’r Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion esbonio’r drefn a ddilynwyd o ran y drafodaeth a gafwyd yn lleol. Nodwyd sut y daethpwyd i symud ymlaen ar y cynnig arfaethedig.

 

Mynegodd yr Aelodau Lleol ofid a siom am y sefyllfa’r ysgol, gan ychwanegu fod y lefel o addysg yn cyrraedd safon arbennig. Nododd ei fod yn derbyn fod y niferoedd yn gostwng ac o ganlyniad fod cost y plentyn yn llawer uwch nac y canran sirol. Pwysleisiodd y bydd cau’r ysgol yn creu effaith hir dymor ar y gymuned ond fod yr ymgynghoriad hyd yma a’r gymuned wedi bod yn un teg a thrylwyr.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Holwyd beth oedd y camau sydd wedi ei gymryd ar hyn o bryd o ran ymgynghori a phobl leol. Mynegwyd fod trafodaethau wedi digwydd ond fod y broses statudol ychydig yn wahanol ond y bydd ychydig o ail adrodd yn cael ei wneud. Pwysleisiwyd fod llawer o opsiynau wedi eu hystyried cyn cyrraedd y cynnig arfaethedig.

¾     Nodwyd nad oedd angen i drafodaeth flaenorol gael ei gynnal i drafod opsiynau gyda’r gymuned gan fod y niferoedd wedi disgyn o dan 10 disgybl ond fod yr adran wedi teimlo dyletswydd i drafod a staff, rhieni, llywodraethwyr a budd-ddeiliaid er mwyn sicrhau fod y trafodaethau yn dryloyw

Awdur: Gwern ap Rhisiart

7.

ARBEDION TEITHIO STAFF CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 320 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i fabwysiadu’r cynllun teithio amgen i staff, a chwtogi cyllidebau adrannol fel a ganlyn i adlewyrchu lefel cytunedig yr arbedion perthnasol (cyfanswm £117,998) –

 

Addysg   £9,775

Amgylchedd   £8,772

Cefnogaeth Gorfforaethol   £7,064

Cyllid   £2,379

Economi a Chymuned   £6,526

Oedolion   £33,183

Plant   £31,463

Priffyrdd a Bwrdeistrefol   £3,463

Tîm Arweinyddiaeth   £1,159

Ymgynghoriaeth   £13,130

Tai ac Eiddo   £1,084

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd i fabwysiadu’r cynllun teithio amgen i staff, a chwtogi cyllidebau adrannol fel a ganlyn i adlewyrchu lefel cytunedig yr arbedion perthnasol (cyfanswm £117,998) –

 

Addysg   £9,775

Amgylchedd   £8,772

Cefnogaeth Gorfforaethol   £7,064

Cyllid   £2,379

Economi a Chymuned   £6,526

Oedolion   £33,183

Plant   £31,463

Priffyrdd a Bwrdeistrefol   £3,463

Tîm Arweinyddiaeth   £1,159

Ymgynghoriaeth   £13,130

Tai ac Eiddo   £1,084

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y cynllun hwn yn cael ei arwain gan yr adran Amgylchedd ond ei fod yn effeithio ar waith y Cyngor i gyd. Nodwyd cefndir yr eitem gan esbonio ei fod yn deillio o ymgynghoriad gan ymgynghorwyr arbenigol o’r enw Edge Public Solution yn 2014. Ategwyd fod yr adroddiad  yn 2014 yn mynegi fod arbediad o 15% yn bosibl ar y gyllideb teithio staff a bod y Cyngor wedi dechrau cynllunio ar y sail yma.

 

Pwysleisiwyd nad oedd y gwaith a wnaethpwyd i’r Adroddiad yn 2014 wedi ei  seilio ar waith trylwyr ac o ganlyniad fod gwaith pellach wedi ei wneud gan y Cyngor. Mynegwyd fod yr adran wedi bod yn edrych ar wahanol ffyrdd o gyfathrebu ac i bwysleisio mai’r ffordd amlycaf i wneud arbediad yw i staff beidio gwneud y daith o gwbl. Amlygwyd y ffyrdd gwahanol o  deithio i wahanol gyfarfodydd a oedd yn cynnwys cludiant gyhoeddus a cheir pwl.

 

Nodwyd fod gwaith wedi ei wneud i gyfathrebu gyda’r adrannau ac mae enghreifftiau ble mae adrannau wedi rheoli teithiau yn well ac wedi sicrhau cost y filltir o 35c drwy geir pwl. Tynnwyd sylw at y tabl yn yr adroddiad sydd yn nodi targedau’r adrannau. Esboniwyd fod rhai swyddi yn cael ei eithrio megis Gofalwyr Cartref a bod y rhain wedi cael ystyriaeth yn yr hafaliad. Mynegwyd felly y bydd yr arbediad oddeutu £120,000 sydd yn llawer yn is nac y ffigwr a welwyd yn yr adroddiad yn 2014.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd ei bod yn bwysig fod rhai swyddi yn cael eu heithrio fel gofalwyr cartref gan mai rhain yw asgwrn cefn y Cyngor ac yn swyddi 'na fyddai modd eu gwneud drwy ddulliau dechnegol.

¾    Diolchwyd am yr adroddiad a derbyniwyd fod yr arbediad yn llawer is na’rswm gwreiddiol. Holwyd pam fod y Cyngor wedi defnyddio ymgynghorwyr allanol. Nodwyd fod profiadau yn gymysg gydag ymgynghorwyr allanol gan eu bod weithiau yn dod o ogwydd ariannol ac o ganlyniad yn fwy mathemategol sydd ddim yn realiti yng Ngwynedd oherwydd ei daearyddiaeth. Ychwanegwyd mewn achosion eraill fodd ymgynghorwyr allanol wedi gwneud i’r Cyngor feddwl mewn ffordd wahanol ac yn rhoi syniadau newydd. Roedd angen ystyried y balans rhwng y budd tebygol a’r gost wrth ystyried comisiynu ymgynghorwyr gan ei fod weithiau yn gallu dod a manteision i ni ddefnyddio rhywun o’r tu allan ond ddim bob tro.

¾     Mynegwyd fod y Cyngor wedi cynllunio’r arbedion yma ond bellach ddim am gyflawni, felly gofynnwyd a fydd angen cynllunio ar gyfer hyn. Nodwyd y bydd lleihau gwerth yr arbediad yma yn ychwanegu at fwlch ariannu’r Cyngor erbyn 2020/21,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Dafydd Wyn Williams

8.

FFRAWMAITH DATBYGLU CENEDLAETHOL:YMGYNGHORIAD pdf eicon PDF 451 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

¾    Gymeradwyo’r ymateb drafft i ymgynghoriad Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

¾    Roi’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet i ymgymryd ag unrhyw newidiadau sydd yn deillio o drafodaethau’r Cabinet gan gynnwys newidiadau golygyddol a gweinyddol

¾    Rhoi’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet i lunio blaen-lythyr i amlygu prif bwyntiau’r Cabinet a’i gyflwyno gyda’r ymateb erbyn 15 Tachwedd 2019.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Griffith

 

            PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd i:

¾    Gymeradwyo’r ymateb drafft i ymgynghoriad Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

¾    Roi’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet i ymgymryd ag unrhyw newidiadau sydd yn deillio o drafodaethau’r Cabinet gan gynnwys newidiadau golygyddol a gweinyddol

¾    Rhoi’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet i lunio blaen-lythyr i amlygu prif bwyntiau’r Cabinet a’i gyflwyno gyda’r ymateb erbyn 15 Tachwedd 2019.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod trafodaeth wedi ei gynnal yn dilyn cael copi drafft cyntaf y Fframwaith gan Lywodraeth Cymru. Ychwanegwyd fod trafodaethau wedi eu cynnal gyda Chyngor Sir Ynys Môn yn ogystal â bod eu hymateb i’r Fframwaith i raddau'r un peth a Chyngor Gwynedd.

 

Pwysleisiwyd pwysigrwydd y fframwaith gan ei fod yn delio o gyfnod o 20 mlynedd ac felly fod angen rhoi llawer o sylw iddo.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Nodwyd fod y ddogfen yn dangos twf economaidd yn ardal Wrecsam a Glannau Dyfrdwy ond yn dangos diffyg dealltwriaeth o ardaloedd gwledig a datganwyd siomedigaeth yn y fframwaith a nodwyd fod angen ymateb cryf iddo.

¾    Tynnwyd sylw at y ffordd mae’r iaith yn cael ei bortreadu. Mynegwyd ei bod yn warthus fod cyn lleied o ddealltwriaeth o iaith gan Lywodraeth Cymru ac yr ymdeimlad yn y Fframwaith yw nad yw’r Gymraeg yn iaith fyw.

¾    Esboniwyd pan ddarllenwyd y Fframwaith ei bod yn swnio fel jôc gan fod anghysondebau o ran rhanbarthau yng Nghymru ac mai hwn fydd gweledigaeth Cymru am yr 20 mlynedd nesaf. Tynnwyd sylw at fap yn y Fframwaith gan nodi’r amryw o brosiectau a chysylltiadau rhanbarthol wedi eu gadael allan ohono gan nodi fod angen i’r Llywodraeth ail gychwyn y gwaith o greu’r Fframwaith.

¾    Mynegwyd fod y Fframwaith wedi ei greu i edrych ar ranbarthau ac nid ar y wlad. Ychwanegwyd nad oes sôn am sut i greu gwlad nac ychwaith sut i sicrhau fod pob rhanbarth yn cysylltu. Tynnwyd sylw yn ogystal fod Prif Ysgol Leeds wedi cynorthwyo i greu’r Fframwaith gan holi’r cwestiwn pam fod angen mynd allan o Gymru pan mae Prif Ysgolion ar gael yma.

¾    Holwyd beth yw’r ymatebion gan siroedd eraill, a nodwyd fod yr ymateb yn debyg ar draws y wlad.

¾    Nodwyd tristwch am ddiffyg gweledigaeth ac uchelgais Llywodraeth Cymru a bod y Fframwaith yn dal y wlad yn ôl i gyflawni ei botensial. Ychwanegwyd nad oes son am economi gwledig o ran newid amaeth, ynni a thwristiaeth a bod angen ei ail lunio gyda gweledigaeth ac uchelgais glir

Awdur: Gareth Jones