skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Catrin Wager.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 5 TACHWEDD 2019 pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y Cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2019 fel rhai cywir.

 

6.

CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2020-24 pdf eicon PDF 75 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo’r ddogfen Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24 fel drafft ar gyfer ymgysylltu gyda’r cyhoedd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan y Cyng. Nia Jeffreys.

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r ddogfen Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24 fel drafft ar gyfer ymgysylltu gyda’r cyhoedd.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai dyma drydydd Cynllun Cydraddoldeb y Cyngor, gan ychwanegu y bu i’r cyntaf gael ei gyhoeddi yn 2012.  Pwysleisiwyd mai pwrpas yr Cynllun yw i leihau anghydraddoldeb ar y draws y Cyngor yn unol â’r dyletswydd dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

 

Ychwanegwyd fod y Cyngor yn ceisio sicrhau fod cydraddoldeb wedi ei wreiddio yn ddwfn i holl waith y Cyngor. Mynegwyd fod y cynllun yn un uchelgeisiol ond yn ymarferol. Nodwyd fod y cais yn gofyn i fynd i ymgynghoriad ar y cynllun ac fod yr adran yn edrych ymlaen i gael clywed barn unigolion.

 

Pwysleisiodd y Swyddog Cydraddoldeb bwysigrwydd yr ymgynghoriad i sicrhau fod y cynllun yn diwallu anghenion unigolion ac yn ymgeisio i wella diwylliant ymhellach o fewn y Cyngor o ran cydraddoldeb.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Tynnwyd sylw nad yw’r Gymraeg yn nodwedd sydd wedi’i gwarchod yn benodol gan y Ddeddf Gydraddoldeb ond nodwyd balchder fod y Cyngor yn ei chynnwys ac fod y Cyngor yn arwain y ffordd o ran y iaith.

¾     Cefnogwyd yr adroddiad gan nodi fod angen i’r Cyngor feddwl am annog mwy o amrywiaeth o ran Cynghorwyr ac o ran arweinyddiaeth o fewn y Cyngor.

¾     Amlygwyd fod Asesiad Cydraddoldeb yn cyd fynd â’r Cynllun Cydraddoldeb ac fod hyn yn wers i adrannau eraill am bwysigrwydd creu Asesiad.

¾     Holwyd am y cynllun gweithredu a nodwyd y bydd y cynllun yn aeddfedu ac symud ymlaen o ganlyniad i gasglu gwybodaeth yn gychwynnol.

 

Awdur: Delyth Gadlys

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD PARTNERIAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 98 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi adroddiad blynyddol y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a’r  cynnydd yn 2018-19 ar y meysydd gwaith sy’n cael eu dwyn ymlaen drwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi adroddiad blynyddol y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a’r  cynnydd yn 2018-19 ar y meysydd gwaith sy’n cael eu dwyn ymlaen drwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y bu i’r Bwrdd gael ei sefydlu yn dilyn cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Nodwyd ei bod yn ofynnol yn rhan 9 o’r ddeddf i awdurdodau lleol wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad at ddibenion Gwasanaethau Cymdeithasol ac eu bod yn adrodd ar eu gwaith yn flynyddol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Croesawyd yr adroddiad gan bwysleisio pwysigrwydd y maes. Holwyd faint o newid mae’r Bwrdd wedi ei wneud, pwysleisiwyd mae’r prif werth yw fod modd i rhanbarth ddysgu oddi wrth ei gilydd. Ychwanegwyd fod fforymau lleol yn cael ei cynnal yn ogystal ac fod y fforymau yn fwy gweithredol nac y Bwrdd.

¾     Mynegwyd fod cyfnodau anodd wedi bod pan gychwynnwyd y Bwrdd ond bellach fod aeddfedrwydd gan fod gweithio fel rhanbarth bellach yn anorfod.

¾     Tynnwyd sylw at faint aelodaeth y Bwrdd gan nodi ei fod trafodaethau yn rhai pwysig ond fod y cynnydd mwyaf wedi digwydd o ran cydweithio lefel leol. Ychwanegwyd fod angen amlygu weithiau i aelodau fod yn rhan o’r Fforymau Lleol gweithredol yn hytrach na’ cheisio bod yn rhan o’r Bwrdd.

¾     Diolchwyd i’r Cynghorydd W Gareth Roberts am ei waith fel Cadeirydd y Bwrdd yn ystod y dyddiadau cyntaf i osod cyfeiriad a sail gadarn.

¾     Mynegwyd yn sicr fod angen i drafodaethau gael eu cynnal ar lefel rhanbarthol ond mynegwyd pwysigrwydd i’r prif waith gael ei wneud ar lefel leol. Tynnwyd sylw at y panel dinasyddion gan nodi fod y nifer mor isel ei fod yn gwrth ddweud diwylliant sydd i’w weld yng Nghyngor Gwynedd – sef nad proses ticio bocsus yw ymgysylltu go iawn ond sicrhau ein bod yn gwybod beth sy’n bwysig i bob unigolyn yr ydym yn eu gwasanaethu. Ychwanegwyd fod hyn yn pwysleisio pwysigrwydd y gwaith ar lefel leol er mwyn mynd i’r afael a anghenion pobl Gwynedd.

Awdur: A Morwena Edwards