skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Dafydd Edwards (Pennaeth Cyllid).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 26 TACHWEDD 2019 pdf eicon PDF 65 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 26 Tachwedd 2019 fel rhai cywir.

 

6.

CYMERADWYO CYFLWYNIAD ENWEBIAD TREFTADAETH Y BYD TIRLUN LLECHI GOGLEDD ORLLEWIN CYMRU I UNESCO pdf eicon PDF 499 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

·         Gydnabod yr adborth yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Gynllun Rheoli Safle Treftadaeth Byd Tirlun Lechi Gogledd Cymru

·         Cydnabod yr addasiadau perthnasol sydd wedi eu gwneud i gynnwys y Cynllun Rheoli a’r Enwebiad Unesco mewn ymateb i’r ymgynghoriad;

·         Cymeradwyo cyflwyno Enwebiad Llawn Safle Treftadaeth Byd Tirlun Lechi Gogledd Orllewin Cymru i Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru a Chanolfan Treftadaeth Byd Unesco ym Mharis er ystyriaeth y Pwyllgor Treftadaeth Byd.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd i:

  • Gydnabod yr adborth yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Gynllun Rheoli Safle Treftadaeth Byd Tirlun Lechi Gogledd Cymru
  • Cydnabod yr addasiadau perthnasol sydd wedi eu gwneud i gynnwys y Cynllun Rheoli a’r Enwebiad Unesco mewn ymateb i’r ymgynghoriad;
  • Cymeradwyo cyflwyno Enwebiad Llawn Safle Treftadaeth Byd Tirlun Lechi Gogledd Orllewin Cymru i Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru a Chanolfan Treftadaeth Byd Unesco ym Mharis er ystyriaeth y Pwyllgor Treftadaeth Byd.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad a gesiwyd. Ychwanegwyd fod ymgynghoriad cyhoeddus wedi ei gynnal ar y Cynllun Rheoli ac fod addasiadau wedi eu gwneud yn dilyn yr ymgynghoriad hwn.

 

Ategwyd fod dwy ran i’r cais a fydd yn cael ei gyflwyno i Unesco sef y Cynllun Rheoli a’r Cais Llawn. Pwysleisiwyd fod y llechi, y diwylliant ac yr iaith yn rhan o’r tirlun sydd yn cael ei gyfleu yn y cais. Nodwyd fod addasiadau wedi cael eu gwneud i’r cais hyd y funud olaf, ac o ganlyniad fod y cais yn uniaith Saesneg ar hyn o bryd er mwyn ei gyflwyno i Unesco. Ychwanegwyd y bydd cyfieithiad ar gael yn y flwyddyn newydd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Diolchwyd am y gwaith gan holi beth fydd y camau a fydd yn cael eu cymryd o ran y pryderon oedd wedi codi o ran yr iaith a thwristiaeth yn dilyn yr ymgynghoriad. Cydnabuwyd fod yr elfennau iaith a diwylliant yn wan yn y cais gychwynnol ond eu bod bellach wedi eu cryfhau. Ychwanegwyd y bydd gwaith cael ei wneud ar effaith twristiaeth gan y Gwasanaeth Cynllunio ynghyd â’r Gwasanaeth Iaith.

¾     Nodwyd fod gordwrisitiaeth wedi bod yn bryder dros y misoedd diwethaf ond ei bod yn bwysig fod y cais wedi ymateb i’r pryderon drwy edrych ar effaith.

¾     Diolchwyd i’r cyhoedd a rhanddeiliaid am gymryd amser i ymateb i’r ymgynghoriad.

¾     Holwyd os yw’r mentrau cymdeithasol sydd i’w gweld yn frith ar hyd yr ardaloedd llechi wedi bod yn rhan o’r broses. Nodwyd eu bod wedi bod yn rhan o’r broses a hefyd yn bartner. Ychwanegwyd eu bod yn gweld y cais fel cyfle.

Awdur: Roland Evans

7.

CYFRANIAD CYLLID GAN GYNGOR GWYNEDD I ELUSEN AMGUEDDFA LLOYD GEORGE pdf eicon PDF 96 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

I gyfrannu £27,000 o’r Gronfa Drawsffurfio i Elusen Amgueddfa Lloyd George ar gyfer 2020-21 er mwyn caniatáu mwy o amser i’r Ymddiriedolwyr ystyried modelau gorau ar gyfer y dyfodol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Thomas 

 

PENDERFYNIAD

 

I gyfrannu £27,000 o’r Gronfa Drawsffurfio i Elusen Amgueddfa Lloyd George ar gyfer 2020-21 er mwyn caniatáu mwy o amser i’r Ymddiriedolwyr ystyried modelau gorau ar gyfer y dyfodol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cyngor wedi penderfynu torri'r cyfraniad a wneir ar gyfer Amgueddfa Lloyd George yn 2017. Mynegwyd yn dilyn y penderfyniad fod Canghellor Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi y byddai’r bwlch ariannol yn cael ei gyfarch gan Lywodraeth Prydain ar gyfer cyfnod pontio.

 

Ychwanegwyd nad oes datrysiad parhaol wedi ei gytuno yn ystod y cyfnod hwn ac felly fod yr adran yn gofyn am flwyddyn ychwanegol o gyllid er mwyn penderfynu ar opsiynau o sut y gall yr Amgueddfa symud yn ei blaen.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd fod gan y Cyngor ddwy rôl yn y sefyllfa hon gan fod y Cyngor  yn gweithredu fel ymddiriedolwr elusennol yr Amgueddfa yn ogystal â rhedeg yr amgueddfa fel un o’i wasanaethau. Pwysleisiwyd fod yr adroddiad gerbron er ystyriaeth yn edrych ar y priodweddau ariannol ac y bydd trafodaeth bellach fel ‘Ymddiriedolwyr’ yn digwydd yn dilyn y penderfyniad hwn.

¾     Pwysleisiwyd fod yr adnodd yn un mor bwysig i Gymru ac y byddai’r flwyddyn ychwanegol yn rhoi cyfle i wneud mwy â’r amgueddfa ac i ddod o hyd i ateb er mwyn sicrhau dyfodol yr Amgueddfa.

¾     Mynegwyd fod efallai angen trafodaeth i weld os oes modd i’r Amgueddfa fod yn rhan o’r Cynllun Llechi ar gyfer y cais Safle Treftadaeth y Byd fel un o’r lleoliadau.

¾     Gan fod y cais yn un ar gyfer edrych am ddatrysiad hir dymor i’r Amgueddfa, pwysleisiwyd mai'r Gronfa Drawsffurfio fyddai ffynhonnell briodol y cyllid.

 

Awdur: Roland Evans

8.

CYNIGION ARBEDION A CHYLLIDEB Y CYNGOR pdf eicon PDF 52 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ein bod yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan yr Adran Gyllid am yr hyn y mae’r setliad yn ei olygu, ac at ddibenion ymgynghori gyda’n cyd aelodau yn y gweithdai yn Ionawr, ein bod yn ymwrthod rhag defnyddio’r arbedion yn y bedair rhes isaf yn y tabl ym mharagraff 13, ond y dylid defnyddio’r rhai sy’n gynwysedig yn llinell gyntaf y tabl (gwerth £1.06m) er mwyn cwrdd ag elfen o’r galwadau ychwanegol sydd arnom ac er mwyn i ni fedru ystyried cynnydd Treth Gyngor sy’n fwy rhesymol.         

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas 

 

            PENDERFYNIAD

 

Ein bod yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan yr Adran Gyllid am yr hyn y mae’r setliad yn ei olygu, ac at ddibenion ymgynghori gyda’n cyd aelodau yn y gweithdai yn Ionawr, ein bod yn ymwrthod rhag defnyddio’r arbedion yn y pedair rhes isaf yn y tabl ym mharagraff 13, ond y dylid defnyddio’r rhai sy’n gynwysedig yn llinell gyntaf y tabl (gwerth £1.06m o arbedion effeithlonrwydd) er mwyn cwrdd ag elfen o’r galwadau ychwanegol sydd arnom ac er mwyn i ni fedru ystyried cynnydd Treth Gyngor sy’n fwy rhesymol.        

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ein bod bellach wedi derbyn y setliad drafft a'i fod yn well na’r disgwyl. Ategwyd er bod y setliad yn cyfarch chwyddiant nid yw’n cyrraedd lefel fydd ei angen er mwyn ariannu’r galw ychwanegol ar adrannau.

 

Ychwanegwyd ym mis Gorffennaf fod y Cabinet wedi penderfynu ar strategaeth o gynllunio i gwrdd â bwlch o £2 filiwn a fuasai’n cael ei rannu rhwng yr holl adrannau. Ategwyd fod y cynlluniau yma wedi cael ei graffu gan y Pwyllgorau Craffu perthnasol cyn cael eu cyflwyno i’r Cabinet. Er hyn mynegwyd fod y setliad yn un cadarnhaol ond pwysleisiwyd ei fod yn un drafft a dim ond am y flwyddyn sydd i ddod. Ni wyddom beth fydd yn digwydd mewn blynyddoedd dilynol.

 

Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Cyllid y bydd y setliad terfynol yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror. Nodwyd ar gyfartaledd fod awdurdodau wedi derbyn cynnydd o 4.3% yn y grant ar gyfer y flwyddyn nesaf ond fod Gwynedd ychydig yn uwch ar 4.6%. Mynegwyd fod y setliad drafft yn cyfarch y 3.1% o chwyddiant ond nad yw’n cyfarch y 2.3% o alw ychwanegol ar wasanaethau. Amlygwyd y tebygolrwydd y bydd bwlch ariannol o £3.5miliwn yn parhau i fod angen ei gyfarch.

 

Pwysleisiodd y Prif Weithredwr y gall y ffigyrau yma newid cyn mis Chwefror, ond fod y drafft yn amlygu mai’r setliad hwn fydd y gorau ers 10 mlynedd i’r Cyngor gan ei fod yn cyfarch ein anghenion chwyddiant. Ategodd er mwyn cyfarch y bwlch y byddai modd codi’r dreth Cyngor 5% neu benderfynu defnyddio’r holl  gynigion arbedion o’r adrannau a chodi’r dreth 2% neu unrhyw gyfuyniad rhwng y ddau begwn yma. Nodwyd fod angen penderfyniad ar argymhelliad fel bod modd i’r Adran Gyllid ymgynghori â’r holl gynghorwyr ar y gyllideb ym mis Ionawr.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Pwysleisiwyd fod toriadau difrifol i’w gweld yn y tabl o arbedion ac y buasai effaith mawr ar drigolion Gwynedd. Cynigwyd i ddefnyddio'r arbedion sy’n gynwysedig yn llinell gyntaf y tabl (gwerth £1.06miliwn o arbedion effeithlonrwydd lle na fyddai effaith o sylwedd ar drigolion Gwynedd) er mwyn i ystyried cynnydd Treth Cyngor mwy rhesymol.

¾     Nodwyd balchder fod y gyllideb yn cydnabod y galw ychwanegol sydd ar adrannau  gan fod yr arian ar gyfer y bobl mwyaf bregus yn y sir.

 

Awdur: Dafydd Edwards

9.

YMATEB CYNGOR GWYNEDD I BIL LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU pdf eicon PDF 71 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr ymateb drafft a baratowyd ar ran y Cyngor i’r ymgynghoriad ar Bil Llywodraethol Lleol ac Etholiadau (Cymru) - Tachwedd 2019 er ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn am gymeradwyaeth ar 19 Rhagfyr 2019.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd yr ymateb drafft a baratowyd ar ran y Cyngor i’r ymgynghoriad ar Bil Llywodraethol Lleol ac Etholiadau (Cymru) - Tachwedd 2019 er ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn am gymeradwyaeth ar 19 Rhagfyr 2019.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Bil wedi ei gyhoeddi a bod rhai elfennau mae’r Cyngor yn cytuno â hwy, megis yr oed pleidleisio ac egwyddor i bleidlais sengl drosglwyddadwy. 

 

Mynegwyd nad oedd y cynnig i greu Cyd Bwyllgor Corfforaethol ar gyfer prif elfennau yn dderbyniol gan ei fod yn gam tuag at greu haen uwch o awdurdod rhanbarthol. Ategwyd y byddai ychwanegu’r awdurdodau hyn yn pellhau’r penderfyniadau oddi wrth yr etholwyr. Ychwanegwyd fod gwaith o gydweithio rhanbarthol sydd i’w gweld yn y Maes Iechyd ar hyn o bryd yn gweithio yn dda oherwydd ei fod wedi digwydd yn wirfoddol. Pwysleisiwyd y buasai cydweithio gorfodol yn aneffeithiol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd fod angen edrych ar ôl y Cynghorau Cymuned ac efallai dechrau ail edrych ar y drefn o’r lefel yma er mwyn cryfhau’r seiliau cyn mynd ymhellach.

¾     Nodwyd fod y bil hwn yn fygythiad i ddemocratiaeth ac yn ychwanegu haen ychwanegol ble nad oes sôn am atebolrwydd ac yn mynd a penderfyniadau ymhellach oddi wrth yr etholwyr.

¾     Pwysleisiwyd fod angen ail edrych ar y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru ac yr awdurdodau i sefydlu perthynas gyfartal fel na fydd Llywodraeth Cymru yn ymyrryd â phenderfyniadau ar lefel leol.

Awdur: Geraint Owen a Iwan Evans

10.

LLYTHYR BLYNYDDOL YR OMBWDSMON 2018/19 pdf eicon PDF 68 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2018/19

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Dafydd Meurig a’r Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2018/19 a’r sylwadau a nodwyd.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y llythyr yn adrodd ar gwynion o fewn y Cyngor. Ategwyd fod adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Cabinet yn ystod yr haf yn adrodd ar y drefn gwynion a’r achosion unigol oedd y tu ôl i ffigyrau’r adroddiad. Esboniwyd nad oes neges nodweddiadol nac unrhyw bryderon yn codi.

 

Fodd bynnag nododd y Prif Weithredwr fod yna broblemau wedi codi gyda’r ffordd y bu i ni ymdrin a’r achos a gyfeiriwyd ato lle cafwyd adroddiad gan yr Ombwdsmon gan egluro’r cefndir.  Nid oeddem wedi gweithredu yn unol ag union eiriad yr hyn a gytunwyd gydag ef. Yn sgil hynny roedd yn afnodlon gydag ymateb y Cyngor a bu’r Prif Weithredwr yn ei weld er mwyn egluro’r sefyllfa. Bwriad y Prif Weithredwr oedd adolygu ein trefniadau cwynion pan yr oedd adroddiad yn cyrraedd yr Ombwdsmon er mwyn sicrhau gweithrediad priodol.

 

Ychwanegwyd fod trefn cwynion y Cyngor yn annog Adrannau i ddysgu o’r cwynion a rhoi eu hunain yn esgidiau’r dinesydd. Mynegwyd fod yr Ombwdsmon yn gwneud i’r Cyngor weithio mewn ffordd wahanol ac felly fod angen o bosib rhoi camau yn y drefn gwynion i fewnosod cyfundrefn gorfforaethol pan fydd adroddiad Ombwdsmon drafft yn cyrraedd fel bod y ddwy drefn yn gweithio gyda’i gilydd.

Awdur: Iwan Evans a Sion Huws