skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Dyfrig Siencyn a’r Cyng. Gareth Thomas.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Derbyniwyd Datganiad o Fuddiant Personol gan y Cyng. Ioan Thomas ar gyfer eitem 8 gan ei fod yn ymddiriedolwr Harbwr Caernarfon. Nodwyd nad oes angen i’r aelod adael y cyfarfod oni bai fod trafodaeth o sylwedd ar yr Harbwr yn uniongyrchol.

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 19 a 26 MAI 2020 pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 16 a 26 Mai 2020 fel rhai cywir.

6.

CYFRIFON TERFYNOL 2019/20 - ALLDRO REFENIW pdf eicon PDF 220 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas  

PENDERFYNIAD

Penderfynwyd:

1.1   Nodi sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r cyngor am 2019/20.

1.2   Cymeradwyo’r symiau i’w cario ymlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad sef:

ADRAN

£’000

Oedolion, Iechyd a Llesiant

0

Plant a Theuluoedd

100

Addysg

(96)

Economi a chymuned

67

Priffyrdd a Bwrdeistrefol

100

Amgylchedd

(100)

Ymgynghoriaeth Gwynedd

(11)

Tai ac Eiddo

83

Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol

(50)

Cyllid

(70)

Cefnogaeth Gorfforaethol

(100)

1.3   Cymeradwyo’r argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2) –

·         Yr Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £3,259k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i £100k, i'w cynorthwyo i symud ymlaen i wynebu her 2020/21.

·         Yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £447k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i 2020/21 i £100k, i'w cynorthwyo i wynebu her 2020/21.

·         Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol, cadw at y drefn arferol i ganiatáu i'r Adran Amgylchedd gadw (£100k) o'i danwariant, a symud (£70k) sef y swm uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2019/20.

·         Ar gyllidebau Corfforaethol, defnyddio (£1,012k) o'r tanwariant net i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2019/20.

1.4   Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd a darpariaethau penodol:

·         fel amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd a darpariaethau, cynaeafu (£801k) o gronfeydd a (£24k) o ddarpariaethau gan ddefnyddio’r cyfanswm o (£825k) i gynorthwyo’r adrannau sydd yn gorwario yn 2019/20.

·         Cyllido gweddill y gorwariant adrannol o (£1,799k) o Gronfa Strategaeth Ariannol y Cyngor.

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn manylu ar wariant y Cyngor yn 2019/20. Amlygwyd y meysydd ble mae gwahaniaeth sylweddol yn dilyn yr adroddiad diwethaf ar y cyfrifon. Pwysleisiwyd fod heriau sylweddol yn wynebu’r maes gofal a’r maes gwastraff, ynghyd â thrafferthion gan rai adrannau i gyflawni arbedion.

Mynegwyd fod gwelliant yn y sefyllfa’r Adran Oedolion erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, a bod hyn yn dilyn derbyn ac ail-gyfeirio grantiau hwyr a defnydd o gyllid un-tro o £420k. Nodwyd fod  cynnydd pellach yn y tueddiad gorwariant gan yr Adran Plant a Theuluoedd, gyda £3.4miliwn o orwariant erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Pwysleisiwyd nad yw’r sefyllfa yn un unigryw i Wynedd a'i fod yn sefyllfa bryderus sydd i’w gweld ar draws y wlad. Ychwanegwyd fod £2miliwn ychwanegol wedi ei ddyrannu i’r Adran Blant a Theuluoedd yn 2020/21 ar gyfer cwrdd â’r pwysau cynyddol.

Amlygwyd fod lleihad yn y lefel gorwariant gan yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, ond fod y maes gwastraff yn parhau i fod yn broblemus. Nodwyd fod tanwariant gan yr Adran Amgylchedd ac yn y penawdau Corfforaethol. Ategwyd fod digonolrwydd cronfeydd wedi ei adolygu wrth gau’r cyfrifon a bod £825mil o adnoddau wedi ei gynaeafu. O ganlyniad, bydd modd trosglwyddo £1.799 miliwn o’r gronfa strategaeth ariannol hefyd er mwyn cyllido’r bwlch a mantoli sefyllfa ariannol 2019/20. Drwy wneud hyn, ategwyd, ni fydd angen defnyddio balansau cyffredinol y Cyngor.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Nodwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

RHAGLEN GYFALAF 2019/20 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN pdf eicon PDF 388 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2020) o’r rhaglen gyfalaf.
  • Nodi’r gwariant o £29,069,000 ar y rhaglen gyfalaf yn ystod y flwyddyn ariannol 2019/20, fydd yn cael ei ddefnyddio yn y datganiadau ariannol statudol ar gyfer 2019/20.
  • Cymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

¾     £245,000 cynnydd mewn defnydd o fenthyca

¾     £2,363,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

¾     £17,000 lleihad mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

¾     £244,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

¾     Dim newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf

¾     £74,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Ioan Thomas 

PENDERFYNIAD

  • Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2020) o’r rhaglen gyfalaf.
  • Nodi’r gwariant o £29,069,000 ar y rhaglen gyfalaf yn ystod y flwyddyn ariannol 2019/20, fydd yn cael ei ddefnyddio yn y datganiadau ariannol statudol ar gyfer 2019/20.
  • Cymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

¾     £245,000 cynnydd mewn defnydd o fenthyca

¾     £2,363,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

¾    £244,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

¾     Dim newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf

¾     £74,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill.

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai’r diben oedd cyflwyno’r rhaglen gyfalaf diwygiedig a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol. Nodwyd mai’r prif gasgliadau yw bod y Cyngor wedi llwyddo i wario oddeutu £29.1miliwn ar gynlluniau cyfalaf, gyda £16.2 miliwn ohono wedi’i ddenu drwy grantiau penodol.

Ychwanegwyd y bydd £22.8miliwn yn llithro ymlaen o 2019/20, o’i gymharu â £12.7miliwn ar ddiwedd 2018/19, ond pwysleisiwyd nad oedd hynny’n golygu colled arian grant. Amlygwyd y rhesymau dros y llithriadau a oedd yn cynnwys amseru cynlluniau Ysgolion Ganrif 21, Grant Cynnal a Chadw Ysgolion ynghyd â llithriad ar y cynlluniau sydd yn rhan o’r Strategaeth Tai. Tynnwyd sylw at y grantiau ychwanegol llwyddodd y Cyngor i’w denu ers yr adroddiad diwethaf a oedd yn cynnwys Grant HWB Seilwaith Ysgolion a Grantiau Ailgylchu a Gwastraff.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth                                                                   

¾      Nodwyd fod yr adroddiad hwn yn adroddiad technegol, ond fod gwariant cyfalaf y Cyngor yn sylweddol. Ategwyd, wrth ystyried y sefyllfa sydd ohoni gyda Covid-19, os bydd modd gwario'r holl arian yn 2020/21£17,000 lleihad mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

Awdur: Ffion Madog Evans

8.

COVID-19: YSTYRIAETHAU FFIOEDD PENODOL pdf eicon PDF 235 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

Penderfynwyd ar addasiadau i’r ffioedd isod o ganlyniad i argyfwng COVID19, er mwyn i'r adrannau weithredu yn unol â hyn.

Ffioedd

Penderfyniad

Gwastraff Masnachol

Gofyn am daliad cymesur â’r gwasanaeth sydd yn cael ei dderbyn gan ofyn i’r Adran anfonebu pan mae casgliadau yn cychwyn.

Amlosgfa a Mynwentydd

Ffioedd i barhau am y tro ar lefelau 2019/20

Prydau Ysgolion Cynradd

Arian i symud gyda’r disgybl, a cynnig ad-daliad nad yw’n bosib.

Clwb Gofal cyn Ysgol

Os yw’r plant yn symud ysgol, cynnig ad-daliad.

Cludiant ôl-16 - Tocyn Teithio 16+

Ad-daliad i’w wneud o ffioedd am dymor yr haf a threfniadau 29/06/2020 - 27/07/2020 i’w ystyried eto.

Renti o logi swyddfeydd / ystafelloedd, Unedau Diwydiannol a Intec a Mentec

Bwrw ymlaen i anfonebu’n llawn am y rhenti, ond rhoi cyfle i fusnesau unigol os yn wynebu caledi i gysylltu â’r Cyngor i drafod eu sefyllfa benodol.

Rhenti - hurio gofod mewn Llyfrgelloedd, defnyddio Barc Padarn, Unedau Glynllifon

Bwrw ymlaen i anfonebu’n llawn am y rhenti, ond rhoi cyfle i fusnesau unigol os yn wynebu caledi i gysylltu â’r Cyngor i drafod eu sefyllfa benodol.

Ffioedd Angori Hafan Pwllheli, Harbyrau a Doc Fictoria

Lle mae mynediad at gychod a chyfleusterau harbwr wedi ei gyfyngu, gostwng y ffioedd i’r ‘ffi gaeafu’, sydd gyfystyr a 70% o’r ffi lawn, er mwyn cadw cwsmeriaid.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi'r penderfyniad.  Nodwyd fod y Cyngor Llawn ar 5 Mawrth wedi cymeradwyo’r gyllideb net o £262 miliwn ar gyfer 2020/21 gyda’r gyllideb gros am y flwyddyn yn £421 miliwn. Mynegwyd fod £59 miliwn, sef 14% o incwm y Cyngor yn dod o ffioedd, werthiannau a cyfraniadau.

Ychwanegwyd, yn sgil yr argyfwng, fod ystyriaethau i’w gweld yn ymwneud a ffioedd penodol. Nodwyd fod y Cyngor yn derbyn ystod eang o ffioedd a thaliadau ar draws nifer o wasanaethau, ac ychwanegwyd fod natur yr incwm yn amrywio o ran taliadau. Amlygwyd ar addasiadau i’r ffioedd a oedd yn cael ei argymell i’r Cabinet i’w cytuno.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd fod bywyd pawb wedi ei newid yn dilyn gosod y gyllideb yn ôl yn nechrau mis Mawrth. Ychwanegwyd o ran ffioedd amlosgfa, yn arferol mae cynnydd i gyd-fynd a chwyddiant, ond yn wyneb yr argyfwng fod yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol yn awyddus i gadw’r ffioedd ar lefel prisau 2019/20. Yn ogystal, nodwyd fod yr Adran yn  awyddus i beidio anfon anfonebau am gasgliadau gwastraff i’r cwmnïau sydd wedi gofod cau yn ystod yr argyfwng, a bwriedir anfonebu busnesau fel maent yn defnyddio’r gwasanaeth.

¾     Pwysleisiwyd ei bod yn rhesymol i roi cyfle i rieni gael ad-daliad am ginio ysgol a chlybiau ysgol.

¾     Nodwyd fod y Cyngor wedi dioddef o golled incwm yn ystod cyfnod yr argyfwng, a dylai’r Llywodraeth ddigolledu’r awdurdodau lleol. Ychwanegwyd fod Lywodraeth Cymru wedi neilltuo cronfa o £78miliwn a gobeithir fod y swmp o’r swm hwnnw ar gyfer colledion incwm awdurdodau lleol yn y 3 mis Ebrill i Fehefin.

Awdur: Dafydd Edwards a Ffion Madog Evans

9.

SEFYDLU'R HAWL I'R CORFF CYMERADWYO SYSTEMAU DRAENIO CYNALIADWY I GODI FFI AM DDARPARU GWASANAETH YMGYNGHOROL CYN-GAIS pdf eicon PDF 576 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Catrin Wager

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr egwyddor o roi hawl i’r corff Cymeradwyo SDC godi ffi am y gwasanaeth cyn-gais maent yn ei ddarparu.

Cytunwyd ar y ffioedd amlinellwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad fel y ffioedd bydd y Corff Cymeradwyo SDC yn eu codi.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Catrin Wager

PENDERFYNIAD

Cymeradwywyd yr egwyddor o roi hawl i’r corff Cymeradwyo SDC godi ffi am y gwasanaeth cyn-gais maent yn ei ddarparu.

Cytunwyd ar y ffioedd amlinellwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad fel y ffioedd bydd y Corff Cymeradwyo SDC yn eu codi.

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y maes yn un technegol o ran natur yr adroddiad. Mynegwyd fod Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr (DRhLlD) 2010 wedi dod yn weithredol yn Ionawr 2019 yn gorchymyn i unrhyw ddatblygiadau newydd sydd gydag oblygiadau draenio ac ardal adeiladu 100m2 neu fwy, gydymffurfio â Safonau Cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy (SDCau).  Pwysleisiwyd fod hyn yn golygu fod angen i ddatblygwyr feddwl am sut i symud dŵr o’i safle yn gynaliadwy.

Mynegwyd fod yr angen yma ar gyfer unrhyw ddatblygiad dros 100medr2 gan amlygu ei debygrwydd i gais cynllunio. Pwysleisiwyd fod y maes yn newydd a bod gan y Cyngor arbenigwyr yn y maes a fydd ar gael i gynghori datblygwyr o flaen llaw ar ba systemau a fuasai yn gweithio yn eu datblygiad cyn iddynt gyflwyno eu cais. Ychwanegwyd y byddai hyn yn golygu hwyluso'r broses i ddatblygwyr a lleihau unrhyw oedi yn y datblygiad.

Awdur: Emlyn Jones