skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan Cyng. Dewi Roberts gan ei fod yn aelod o fwrdd Llywodraethu Ysgol Abersoch, ond nid oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu felly bu iddo fod yn bresennol ar gyfer yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU pdf eicon PDF 266 KB

YSGOL ABERSOCH

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Paul Rowlinson

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd na ddylid addasu penderfyniad gwreiddiol  y Cabinet a wnaethpwyd ar y 15 Medi 2020 i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch ar 31 Awst 2021 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn  Bach o 1 Medi 2021 ymlaena mabwysiadu hyn fel penderfyniad terfynol.

Cofnod:

YSGOL ABERSOCH

 

Cyflwynwyd gan Cyng. Paul Rowlinson

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd na ddylid addasu penderfyniad gwreiddiol  y Cabinet a wnaethpwyd ar y 15 Medi 2020 i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch ar 31 Awst 2021 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn  Bach o 1 Medi 2021 ymlaena mabwysiadu hyn fel penderfyniad terfynol

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad yn gan nodi fod yr eitem yn dod yn ôl i’r Cabinet yn dilyn penderfyniad gan aelodau Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi i alw mewn y penderfyniad a wnaethpwyd i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch. Rhoddodd Gadeirydd y Pwyllgor Craffu’r rhesymeg a’r cefndir y tu ôl i benderfyniadau’r Pwyllgor Craffu ynghyd a manylion y bleidlais yn y pwyllgor. 

 

Ychwanegodd yr Aelod Lleol o ganlyniad i’r pandeimig nad yw’r cyfnod sydd i ddod yn gwbl glir o ran cyfyngiadau pellach. O ganlyniad i nododd na fydd cyfle i bawb yn y gymdeithas fod yn rhan o’r ymgynghoriad. Pwysleisiwyd y buasai cau’r ysgol yn  golygu colli adnodd yn y gymuned ac yn risg i addysg plant, yr iaith a diwylliant yr ardal. Nododd fod cynnal yr ymgynghoriad yn anghyfiawn ac annheg. Gofynnwyd i’r Cabinet i ohirio’r ymgynghoriad am flwyddyn fel bod modd gobeithio i drafod mewn cyfarfodydd wyneb i wyneb. Holwyd os oedd yn deg parhau oherwydd sefyllfa gyda’r Pennaeth o’r ysgol ar hyn o bryd ac yn amhosib i Lywodraethwyr roi arweiniad.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r Aelod Lleol am roi’r sefyllfa bresennol. Mynegodd fod yr adran wedi bod yn gwbl barchus am sefyllfa’r Pennaeth gan nodi fod y trafodaethau wedi ei ohirio unwaith yn barod. Ychwanegwyd o fewn y Ddeddf nad oes rôl statudol i Benaethiaid o fewn yr ymgynghoriad.

 

Amlygodd y Swyddog Addysg y broses gan nodi fod trafodaethau anffurfiol wedi ei gynnal a bellach yn symud ymlaen i’r ymgynghoriad statudol. Mynegwyd y bydd sesiynau yn cael eu cynnal yn rhithiol, ond bydd sesiynau yn cael ei gynnig, os galw yn codi dros y ffon i ofyn unrhyw gwestiynau. Pwysleisiwyd y bydd angen i unrhyw ymatebiad i’r ymgynghoriad ei gyflwyno yn ysgrifenedig.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Cydymdeimlwyd gyda’r pryderon o wneud ymgynghoriad yn ystod y cyfnod sydd ohoni. Holwyd os oes unrhyw oblygiadau i ohirio’r ymgynghoriad. Nodwyd mai’r prif oblygiadau oedd i addysg y plant. Mynegwyd fod lefel o ansicrwydd o ran y pandemig gan nod oes pendraw ar hyn o bryd. Ychwanegwyd fod gweithdrefnau yn ei lle ar gyfer eu cynnal yn rhithiol.

¾  Pwysleisiwyd mai addysg y plant yw’r elfen bwysicaf wrth edrych ar y sefyllfa gan bwysleisio mai’r Egwyddorion Addysg sydd yn gyrru’r gwaith.

¾  Amlygwyd fod y penderfyniad i gau’r ysgol heb ei wneud eto ac mai penderfyniad i fynd i ymgynghoriad sydd wedi ei wneud. Tanlinellwyd tra’n deall dymuniad bobl i gael cyfarfodydd wyneb yn wyneb i drafod byddai angen i unrhyw ymateb  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 13 HYDREF 2020 pdf eicon PDF 384 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2020 fel rhai cywir.

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYDRADDOLDEB pdf eicon PDF 274 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys 

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod hi yn ofyniad ar y Cyngor i wneud Cynllun Strategol Cydraddoldeb am bedair blynedd. Mynegwyd mai dyma’r Adroddiad Blynyddol olaf ar gyfer Cynllun Cydraddoldeb 2016-20.Ychwanegwyd fod yr adroddiad hwn yn amlinellu'r gwaith sydd wedi ei wneud mewn ymateb i’r cynllun hwn. Amlinellwyd amcanion y cynllun gan nodi’r prif lwyddiannau.

 

Ychwanegwyd pwysigrwydd nodi'r gwaith sydd yn cael ei wneud yr hir dymor a fydd yn parhau dros y blynyddoedd nesaf. Mynegwyd fod yr adroddiad yn amlygu bellach fod cydraddoldeb yn greiddiol yng ngwaith y Cyngor. Nodwyd ei fod ffigyrau'r staff yn amlygu os angen gweithredu pellach ac os yw’r gweithlu yn amrywiol. Pwysleisiwyd fod cydraddoldeb yn gyfrifoldeb a bawn a diolchwyd i’r Ymgynghorydd Cydraddoldeb am ei gwaith.

 

Ychwanegodd Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol fod sicrhau tegwch i bawb yn un o flaenoriaethau’r Cyngor yng Nghynllun y Cyngor sydd yn amlygu pwysigrwydd cydraddoldeb i’r Cyngor.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Nodwyd fod yr adroddiad yn un diddorol a thynnwyd sylw at ganran merched sy’n gynghorwyr yn lleihau a holwyd sut mae modd ei godi. Mynegwyd fod ymdrechion yn cael ei wneud i annog merched i fod yn Gynghorwyr ond fod rôl ran y pleidiau gwleidyddol yn ogystal. Amlygwyd fod ymdrechion wedi ei gwneud cyn etholiad 2017 a bod yr is grŵp amrywiaeth o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth yn edrych ac arwain y gwaith o hyrwyddo cyn etholiad 2022.

¾     Holwyd gyda’r sefyllfa sydd ohoni gyda Covid a newid ein ffordd o weithio sut y bydd hyn yn effeithio cydraddoldeb a symud ymlaen. Mynegwyd fod rhai ffactorau wedi ei amlygu, pwysleisiwyd fod grŵp prosiect y Cynllun Cydraddoldeb yn ymwybodol fod angen gwneud pethau yn wahanol ac ymgysylltu mewn ffordd wahanol.

 

Awdur: Delyth Williams

7.

COD YMDDYGIAD STAFF pdf eicon PDF 200 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd y Cod Ymddygiad Staff ar ran y Cyngor fel cyflogwr.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

Mabwysiadwyd y Cod Ymddygiad Staff ar ran y Cyngor fel cyflogwr

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod angen dod a’r cod ymddygiad er mwyn rhoi arweiniad ar ymddygiad o fewn y Cyngor. Mynegwyd y bydd yn gyrru diwylliant ymlaen ac yn unol â’r Cod Ymddygiad Statudol sydd yn ei le gan Lywodraeth Cymru. Mynegwyd fod gan drigolion Gwynedd yr hawl i ddisgwyl safon uchaf o ymddygiad gan cyflogeion y Cyngor ac mae’r Cod Ymddygiad yn egluro beth yw’r safonau hy. Ychwanegwyd fod y cod yn mynd lawn yn llaw a swydd ddisgrifiadau pob swyddog sydd yn gweithio i’r Cyngor.

 

Pwysleisiwyd y bydd mabwysiadu'r cod yn rhoi arweiniad i reolwyr yn ogystal. Mynegwyd mai'r cam nesaf fydd yw creu cynllun cyfathrebu ac i fwrw ymlaen gyda’r rhaglen bellach.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Nodwyd fod y cod yn amlygu fod y cyngor yn agored i feddwl yn wahanol, ond pwysleisiwyd efallai fod y teitl cod ymddygiad yn negyddol a bygythiol i staff.

¾     Mynegwyd fod angen i ymarferiad staff angen cyfarch y codi ymddygiad ond yn ymarferol ei fod disgwyliad positif i staff.

 

Awdur: Eurig Williams

8.

PENODI TRI SWYDDOG YMGYSYLLTU CYMUNEDOL I GYNORTHWYO GYDA'R GWAITH SYDD YN DEILLIO O'R PANDEMIG pdf eicon PDF 252 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Gareth Griffith

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i danysgrifennu’r gost o gyflogi 3 Swyddog Ymgysylltu Cymunedol ar gyfer yr Adran Amgylchedd am gyfnod dros dro, hyd ar 31 Mawrth 2022, gan alluogi’r Pennaeth Adran Amgylchedd i recriwtio cyn gynted ag y bo modd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith.

 

PENDERFYNIAD

 

Cytunwyd i danysgrifennu’r gost o gyflogi 3 Swyddog Ymgysylltu Cymunedol ar gyfer yr Adran Amgylchedd am gyfnod dros dro, hyd ar 31 Mawrth 2022, gan alluogi’r Pennaeth Adran Amgylchedd i recriwtio cyn gynted ag y bo modd.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad. Mynegwyd ei fod yn gais i danysgrifennu cost penodi tri swyddog i ychwanegu at y tîm. Ychwanegwyd y bydd y Swyddogion Ymgysylltu yn llenwi'r bwlch sydd wedi ei amlygu. Nodwyd y bydd y cynllun hwn yn arwain at newid diwylliant o fewn y gwasanaeth a bydd hyfforddiant yn cael ei wneud a fydd yn galluogi’r adran i wneud mwy.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Amgylchedd y bydd yr adnodd ychwanegol yn holl bwysig i drigolion a busnesau yn ystod cyfnod y pandemig. Nodwyd y bydd y swyddogion yma yn ymateb i’r pandemig ac i’r rheoliadau sydd yn newid yn gyson. Pwysleisiwyd mai'r prif beth fydd i gynnig wyneb i’r cyhoeddi a fydd yn eu cynorthwyo drwy’r cyfnod anodd hyn a byddant yn ymwybodol o ble i fynd am gefnogaeth. Drwy hyn bydd yn datblygu'r maes gwarchod y cyhoedd a fydd yn cynorthwyo’r adran i’r dyfodol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Dangoswyd cefnogaeth i’r cais gan amlygu fod y bylchau yn amlwg. Holwyd os oedd tri o swyddog am fod yn ddigonol gyda llwyth gwaith mor uchel.

¾  Trafodwyd y Cynllun Profi, Olrhain a Diogelu  gan fod y staff yn ceisio taro 100% o unigolion o fewn 24 awr a’u bod yn aml yn cyrraedd y nod. Wrth symud ymlaen fod y gwasanaeth wedi cael 18 o staff newydd a fydd yn gweithio saith diwrnod yr wythnos. Ychwanegwyd fod y rhain yn cyfrannu at gadw pobl n saff a bod niferoedd ar hyn o bryd yn gostwng sydd yn amlygu rheolaeth ar draws y sir.

¾     Amlygwyd y bydd grant yn ariannu rhan o gost y swyddi eleni, a’r posibilrwydd o hawlio grant i ariannu’r gweddill, ond rhag ofn na fydd modd cael yr arian grant fod angen tanysgrifennu’r gost er mwyn symud ymlaen i gyflogi’r 3 Swyddog Ymgysylltu Cymunedol hyd ar 31 Mawrth 2022. 

 

Awdur: Dafydd Wyn Jones