skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. Dilwyn Morgan.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan y Cyng. Dyfrig Siencyn gan fod perthynas agos yn berchen eiddo sydd yn cael ei effeithio gan y Premiwm Treth Cyngor, roedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a bu iddo adael y cyfarfod ar gyfer yr eitem.

Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan Cyng. Cemlyn Williams gan fod ei  ferch yn gweithio i gwmni Fran Wen, roedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a bu iddo adael y cyfarfod.

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 10 A 24 TACHWEDD 2020 pdf eicon PDF 198 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 a 24 Tachwedd 2020 fel rhai cywir.

6.

CYNLLUN GWEITHREDU TAI pdf eicon PDF 215 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)   Cymeradwywyd y prosiectau a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu Tai ar gyfer y cyfnod o hyn tan 2026/27.

b)   Cymeradwywyd ymhellach y dyraniad a argymhellwyd ar gyfer y prosiectau unigol, o fewn yr amlen ariannol sydd eisoes wedi ei gymeradwyo ar gyfer y maes gwaith hwn, a hyd at gyfanswm yr adnoddau fydd eisoes wedi’u casglu.

c)   Er mwyn caniatáu hyblygrwydd wrth ymateb i newidiadau yn y farchnad dai dros amser, awdurdodwyd y Pennaeth Tai ac Eiddo, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Tai ac Eiddo a’r Pennaeth Cyllid, i amrywio’r union ddyraniad ar gyfer prosiectau unigol wrth i wybodaeth am gostau prosiectau unigol, a’r galw am fathau gwahanol o gefnogaeth, ddod yn fwy cadarn dros amser.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago.

PENDERFYNIAD

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y maes tai mewn argyfwng bellach. Nododd yr Aelod Cabinet er ei fod wedi swnian ar y Llywodraeth Cymru i wneud rhywbeth am y mater ei fod yn bleser cynnig y Cynllun Tai ar gyfer Cyngor Gwynedd. Mynegodd fod y Cynllun Gweithredol yn amlygu sut y bydd yr Adran yn gweithredu’r weledigaeth. Ychwanegodd fod y ddogfen yn cael ei gyflwyno ac yno i ysbrydoli pobl.

Nododd Pennaeth yr Adran Tai ac Eiddo fod Cynghorwyr a phartneriaid yn y maes Tai wedi bod yn rhan o’r trafodaethau ar gyfer creu'r ddogfen ar hyd y daith. Pwysleisiodd ei bod yn adroddiad cyfansawdd ac y bydd adroddiad pellach ar rai achosion busnes mwy manwl yn cael ei chyflwyno yn y flwyddyn newydd. Mynegwyd fod yr adran wedi gweithio yn galed i greu dogfen ddealladwy i bawb. Amlinellwyd y prif feysydd o fewn y Cynllun gan nodi’r prif amcan o fewn y cynllun fydd i’r Cyngor adeiladau tai ei hunain i’w rhentu am bris teg o fewn y sir ac i uwchraddio tai gwag er mwyn dod a hwy yn ôl i ddefnydd.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Croesawyd y Cynllun Tai gan amlygu ei fod yn waith arbennig sydd yn glir ac yn amlygu beth mae’r adran am ei wneud. Pwysleisiwyd fod gwaith ymchwil wedi ei wneud i weld beth yw gwir angen o fewn y sir. Holwyd o ran y cynllun i’r dyfodol faint o hyblygrwydd sydd i addasu’r cynllun wrth i’r flynyddoedd fynd heibio. Mynegwyd fod y cynllun yn sylfaen dda ond y bydd yr adran yn parhau i edrych a newid yn ystod y cyfnod. Pwysleisiwyd fod y cynllun yn hyblyg ond os bydd newid mawr i’w gweld y byddant yn dod yn ôl i’r Cabinet.

¾  Nodwyd fod heriau i’w gweld yn y maes tai a bod y cynllun yn mynd i’r afael a hwy mewn amrywiol ffyrdd. Holwyd o ran amserlenni cynlluniau grantiau ac os oes modd ôl-ddyddio grantiau tai gweigion. Nodwyd y bydd rhai cynlluniau yn cael eu gweithredu yn gynt nac eraill a bydd yr adran yn edrych ar y cysyniad o ôl ddyddio grantiau os oes angen gwneud hynny i ateb trafferthion y mae trigolion yn eu wynebu.

¾  Mynegwyd fod y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Dafydd Gibbard

7.

GWAITH YMCHWIL TAI GWYLIAU pdf eicon PDF 541 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith a Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Yn wyneb yr angen i gael gwell rheolaeth ar dai sydd yn cael eu tynnu allan o’r cyflenwad sydd ar gael i bobl leol, a thrwy hynny i roi buddiannau trigolion lleol yn gyntaf, cymeradwywyd y gwaith ymchwil i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru ac y dylid:

a)    Galw ar y Llywodraeth ar fyrder i efelychu'r hyn sydd yn digwydd yn yr Alban a diwygio’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) er mwyn cynnwys dosbarth defnydd ychwanegol ar gyfer llety gwyliau tymor byr. Byddai hynny yn ei dro yn caniatáu i awdurdodau adnabod ‘ardaloedd rheoli’ lle byddai’n ofynnol derbyn hawl cynllunio ar gyfer newid defnydd tŷ preswyl i’w ddefnyddio fel llety gwyliau tymor byr o fewn yr ‘ardal rheoli’ penodedig.

b)    Er mwyn cynorthwyo i gadw rheolaeth dylid hefyd galw am gyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer llety gwyliau tymor byr fyddai’n gyfrifoldeb i’r awdurdod lleol ei weithredu.

c)    Tra byddai’r uchod yn cynorthwyo’r Cyngor i gael gwell rheolaeth ar dai sy’n cael eu defnyddio at ddibenion gwyliau, ni fyddai modd osgoi/rheoli tai yn cael eu troi yn ail gartrefi (oni bai am y rhai sydd yn cael eu gosod yn achlysurol/parhaol). Er mwyn sicrhau fod gan y Cyngor y modd ariannol i helpu i wneud yn iawn am y diffygion yn y cyflenwad y byddai hynny yn ei greu, ein bod yn galw ar y Llywodraeth i newid ei safiad ac i weithredu ar fyrder i newid y Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol fel bod unrhyw dŷ annedd sydd ddim yn brif neu unig gartref i unigolyn (boed yn ail gartref neu’n dŷ a ddefnyddir at ddibenion llety gwyliau tymor byr) yn cael ei ddiffinio fel tŷ annedd er pwrpas trethu (a thrwy hynny yn talu unrhyw bremiwm Treth Cyngor a benderfynir arno’n lleol). Fe fyddai unrhyw lety gwyliau tymor byr sydd wedi derbyn hawl cynllunio pwrpasol ar gyfer y defnydd hynny yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer talu Treth Busnes Annomestig.

d)    Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Adran Amgylchedd mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet i ystyried sut y gellir defnyddio’r gwaith ymchwil yng nghyd-destun y fframwaith bolisi cynllunio lleol.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith a Cyng. Craig ab Iago.

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cabinet dros flwyddyn yn ôl wedi comisiynu adroddiad yn edrych ar ardrawiad cartrefi gwyliau yng nghyd-destun Gwynedd. Diolchwyd i’r staff am eu gwaith caled i greu’r adroddiad.

Amlygwyd fod yr adroddiad yn amlygu prif broblemau yn y maes sef yr  effaith ar y stoc dai, effaith ar gymunedau yn ogystal ag effaith ar yr iaith Gymraeg. Ategwyd fod yr adroddiad yn rhannu gwybodaeth ond hefyd yn amlygu opsiynau posib i fynd i’r afael ar broblemau hyn. Tynnwyd sylw at yr ystadegau dychrynllyd sydd i’w gweld megis bron i 7,000 o dai'r sir yn cael eu defnyddio fel tai gwyliau. Yn ogystal nodwyd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf fod 38% o dai'r sir a brynwyd wedi eu prynu fel ail cartrefi. Nodwyd y penderfyniad gan amlygu fod cefnogaeth  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Gareth Jones

8.

ARDAL GWELLA BUSNES CAERNARFON pdf eicon PDF 405 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Nodwyd fod y Cynnig Ardal Gwella Busnes (AGB) a dogfennau atodol gan Gwmni Ardal Gwella Busnes Caernarfon wedi eu derbyn gan y Cyngor a’u bod yn cydymffurfio gyda’r Rheoliadau;
  • Fod y Cabinet yn cyfarwyddo’r Swyddog Canlyniadau i gynnal pleidlais AGB Caernarfon;
  • Cymeradwywyd trefniadau a’r goblygiadau ariannol a nodir yn Rhan 3 o’r adroddiad;
  • Dirprwyo’r hawl i Aelod Cabinet Economi i bleidleisio ar ran yr Awdurdod ym mhleidlais yr AGB.
  • Os yw’r bleidlais yn llwyddiannus yng Nghaernarfon, ac yn unol â Rheoliadau Ardal Gwella Busnes (Cymru) 2005, dirprwyo hawl i Benaethiaid Gwasanaethau Economi, Amgylchedd, Priffyrdd a Bwrdeistrefol, Cyfreithiol a Chyllid i gymeradwyo'r fersiwn derfynol o’r Cytundeb Ymarferol a’r Cyntundeb Gwaelodlin a sicrhau fod y trefniadau cyfreithiol yn cael eu cwblhau’n gywir.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Thomas

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y bod yr ardal Gwella Busnes Caernarfon yn codi ardoll ar fusnesau ac yna fod Cwmni Ardal Gwella Busnes Caernarfon yn  defnyddio’r arian er mwyn datblygu’r ardaloedd. Nodwyd fod pleidlais yn cael ei gynnal pob 5 mlynedd i weld os yw’r busnesau yn awyddus i barhau.

Ychwanegodd Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned fod yr adran wedi derbyn dogfennau gan Gwmni Ardal Gwella Busnes Caernarfon a'u bod yn cyd-fynd a’r rheoliadau. Nodwyd fod y 5 mlynedd diwethaf fod heriau wedi codi ond fod Hwb Caernarfon wedi cynnal llawer o brosiectau i hybu Caernarfon ac wedi defnyddio’r arian i uchafu mwy o fuddsoddiad i mewn i’r dref.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Nodwyd fod Hwb Caernarfon wedi gwneud gwahaniaeth i’r dref a'u bod wedi wynebu llawer o heriau ond gobeithio y bydd busnesau yn cefnogi’r cais.

¾    Mynegwyd clod i’r gwaith da sydd wedi ei wneud ar gyllideb fechan a gobeithio y bydd modd adeiladau ar y gwaith da sydd yn ei wneud.

Awdur: Llyr B Jones a Esyllt Rhys Jones

9.

ARDAL GWELLA BUSNES BANGOR pdf eicon PDF 404 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Nodwyd fod y Cynnig Ardal Gwella Busnes (AGB) a dogfennau atodol gan Gwmni Ardal Gwella Busnes Bangro wedi eu derbyn gan y Cyngor a’u bod yn cydymffurfio gyda’r Rheoliadau;
  • Fod y Cabinet yn cyfarwyddo’r Swyddog Canlyniadau i gynnal pleidlais AGB Bangor;
  • Cymeradwywyd trefniadau a’r goblygiadau ariannol a nodir yn Rhan 3 o’r adroddiad;
  • Dirprwyo’r hawl i Aelod Cabinet Economi i bleidleisio ar ran yr Awdurdod ym mhleidlais yr AGB.
  • Os yw’r bleidlais yn llwyddiannus ym Mangor, ac yn unol â Rheoliadau Ardal Gwella Busnes (Cymru) 2005, dirprwyo hawl i Benaethiaid Gwasanaethau Economi, Amgylchedd, Priffyrdd a Bwrdeistrefol, Cyfreithiol a Chyllid i gymeradwyo'r fersiwn derfynol o’r Cytundeb Ymarferol a’r Cyntundeb Gwaelodlin a sicrhau fod y trefniadau cyfreithiol yn cael eu cwblhau’n gywir.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Thomas

PENDERFYNIAD

  • Nodwyd fod y Cynnig Ardal Gwella Busnes (AGB) a dogfennau atodol gan Gwmni Ardal Gwella Busnes Bangor wedi eu derbyn gan y Cyngor a’u bod yn cydymffurfio gyda’r Rheoliadau;
  • Fod y Cabinet yn cyfarwyddo’r Swyddog Canlyniadau i gynnal pleidlais AGB Bangor;
  • Cymeradwywyd trefniadau a’r goblygiadau ariannol a nodir yn Rhan 3 o’r adroddiad;
  • Dirprwyo’r hawl i Aelod Cabinet Economi i bleidleisio ar ran yr Awdurdod ym mhleidlais yr AGB.
  • Os yw’r bleidlais yn llwyddiannus ym Mangor, ac yn unol â Rheoliadau Ardal Gwella Busnes (Cymru) 2005, dirprwyo hawl i Benaethiaid Gwasanaethau Economi, Amgylchedd, Priffyrdd a Bwrdeistrefol, Cyfreithiol a Chyllid i gymeradwyo'r fersiwn derfynol o’r Cytundeb Ymarferol a’r Cyntundeb Gwaelodlin a sicrhau fod y trefniadau cyfreithiol yn cael eu cwblhau’n gywir.

TRAFODAETH

Nodwyd fod yr eitem hon yn gofyn am yr un penderfyniad ond i’r bleidlais gael ei gynnig ym Mangor.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Holwyd am y ffin y bid ym Mangor ac os yw Bangor Uchaf yn rhan o’r Ardal Gwella Busnes ym Mangor ac os byddant yn rhan o’r bleidlais. Nodwyd fod y dogfennau gan Gwmni Ardal Gwella Busnes Bangor yn cydymffurfio a’r rheoliadau ac y bydd pob busnes o fewn y ffin yn cael cyfle i fod yn rhan o’r bleidlais.

¾  Holwyd pam fod y ddogfennaeth yn uniaith Saesneg yn unig. Nodwyd mai rhain yw’r dogfennau sydd wedi eu derbyn gan y Cwmnïau Ardal Gwella Busnes ond nodwyd y bydd y dogfennau yn ddwyieithog wrth gael ei chyflwyno i’r busnesau.

Awdur: Llyr B Jones ac Esyllt Rhys Jones

10.

SEFYDLU PARTNERIAETH CHWARAEON GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 379 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd i sefydlu Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru, gyda Chyngor Conwy yn awdurdod lletyol a Chyngor Gwynedd yn ymrwymo i’r trefniadau fel un o’r partneriaid rhanbarthol.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Thomas

PENDERFYNIAD

Cymeradwywyd i sefydlu Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru, gyda Chyngor Conwy yn awdurdod lletyol a Chyngor Gwynedd yn ymrwymo i’r trefniadau fel un o’r partneriaid rhanbarthol.

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad. Nodwyd fod y cynllun i greu partneriaeth yn gynllun peilot gyda Chyngor Conwy yn awdurdod lletyol a fydd yn galluogi nifer o bartneriaid i weithio gyda’i gilydd. Pwysleisiwyd y bydd arian mae’r Cyngor yn derbyn ar hyn o bryd yn cael ei dderbyn gan y Bartneriaeth  a fydd yna yn dyrannu’r arian ymhellach. Nododd Pennaeth Adran Economi a Chymuned nad yw’r arian yn sylweddol gan Chwaraeon Cymru ond y gobaith drwy dynnu’r arian at ei gilydd  bydd modd cyflawni mwy.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Nodwyd fod y patrwm hwn o weithio mewn partneriaeth ar draws y Gogledd yn mynd yn erbyn datganoli. Holwyd sut y bydd yn cael ei reoli ac os bydd risg ariannol o ddyrannu’r arian yn rhanbarthol. Nodwyd oes mae elfen o risg ond fod angen sicrhau llais clir i ddylanwadu ar sut mae’r arian yn cael ei ddyrannu.

¾  Mynegwyd pwysigrwydd cynnal sesiynau chwaraeon drwy’r Gymraeg a nodwyd pryder am y defnydd o’r iaith pan yn ei wneud yn rhanbarthol. Pwysleisiwyd fod trafodaeth wedi ei gynnal ar y mater hwn ac y bydd y Pennaeth Adran Economi a Chymuned yn ategu’r mater yn y cyfarfod nesaf.

Awdur: Sioned Williams

11.

YSGOL NEWYDD YNG NGHRICIETH - CYNYDDU CYLLIDEB CYFALAF Y PROSIECT pdf eicon PDF 246 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i:

·    Symud adnoddau o fewn y rhaglen gyfalaf a chynyddu’r gyllideb ar gyfer y prosiect i adeiladu Ysgol Newydd yng Nghricieth er mwyn cyfarch y costau ychwanegol sydd wedi eu hadnabod wrth gynllunio’r ysgol ar y safle ffafredig newydd yng Nghricieth, gan wireddu hynny drwy drosglwyddo £380,000 o gyllideb y Prosiect Ôl-16, sy’n rhan o Raglen Ysgolion 21ain Ganrif (Band B) er mwyn cyfarch y costau ychwanegol sydd wedi eu hadnabod wrth gynllunio’r ysgol ar safle newydd yng Nghricieth.

·    Tanysgrifennu’r swm cyfalaf o £220,000 er mwyn sicrhau darpariaeth blynyddoedd cynnar a gofal plant 30 awr fel rhan o’r Ysgol Newydd yng Nghricieth pe na bai unrhyw ffynhonnell gyllidol arall ar gael gan Lywodraeth Cymru fyddai’n cyd-fynd gydag amserlen y prosiect.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Cemlyn Williams. 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod penderfyniad wedi ei wneud i fynd i ymgynghoriad ar gynyddu’r capasiti yn yr ysgol ac i adleoli i leoliad arall. Mynegwyd yn dilyn trafodaethau prynu tir, addasiadau i’r ffordd a chynllunio’r ysgol ar y safle fod costau ychwanegol wedi eu hadnabod sy’n golygu y bydd angen cynyddu cyllideb y prosiect os am wireddu’r gwaith ychwanegol yma.

Mynegwyd fod y Cyngor wedi bod yn aflwyddiannus i dderbyn arian cyfalaf i sicrhau darpariaeth gofal plant a’r blynyddoedd cynnar i Griccieth, ond wedi derbyn cadarnhad gan y Llywodraeth mewn egwyddor i ariannu os cyfyd ffynhonnell ariannol addas yn y dyfodol. Fodd bynnag roedd hyn yn bell o fod yn addewid cadarn. Mynegwyd er mwyn ariannu'r cynllun fod angen trosglwyddo arian o gyllideb Prosiect Ol-16, sy’n rhan o Raglen Ysgolion 21ain Ganrif i gyfarch y gost ychwanegol ac na fydd oblygiadau ariannol i’r Cyngor.

Nodwyd yn ogystal yr angen i danysgrifennu swm er mwyn sicrhau darpariaeth blynyddoedd Cyngor a gofal plant fel rhan o’r Ysgol Newydd fel bod modd ei gynnwys hyd yn oed pe na bai unrhyw ffynhonnell gyllid arall gan y Llywodraeth er mwyn gallu cyd-fynd a’r amserlen.

Awdur: Garem Jackson

12.

ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD PARTNERIAETH RHANBARTHOL pdf eicon PDF 194 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd y gwaith a’r cynnydd yn 2019/20 ar y meysydd gwaith sy’n cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig. 

PENDERFYNIAD

Nodwyd y gwaith a’r cynnydd yn 2019/20 ar y meysydd gwaith sy’n cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru.

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad blynyddol gan amlinellu ei gynnwys. Nodwyd ei bod yn ofynnol i’r adroddiad fod ar ffurf benodol ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod yr adroddiad ychydig yn hwyr eleni o ganlyniad i bandemig Covid-19. Mynegwyd fod y bwrdd yn cyfarfod yn aml a'i bod yn credu ei fod yn gweithio yn well yn rhithiol. Mynegwyd fod y Llywodraeth yn dyrannu arian drwy’r bartneriaeth. Pwysleisiwyd nad yw’r bartneriaeth ddim bob amser yn rhwydd. 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Holwyd sut mae’r bartneriaeth wedi dylanwadu gyda materion y pandemig. Nodwyd fod arian wedi ei ddargyfeirio i lefydd eraill, ond fod y cyfnod wedi amlygu be all gael ei wneud mewn cyfnod byr o amser. Ychwanegwyd fod ymateb wedi ei wneud drwy’r bwrdd argyfwng rhanbarthol a bod y Bwrdd yn ystod ail hanner y flwyddyn wedi parhau gyda’i raglen waith arferol.

¾  Nodwyd fod Fforwm Mwy na Geiriau wedi cael nifer o heriau ond er hyn fod blwyddyn ychwanegol a bod angen ei wneud yn flaenoriaeth. Pwysleisiwyd angen i systemau fod yn ddwyieithog ond  fod cynnydd da i’w weld.

Awdur: Morwena Edwards

13.

LLYTHYR BLYNYDDOL AROLYGAETH GOFAL CYMRU pdf eicon PDF 206 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Dafydd Meurig a'r Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd a derbyniwyd cynnwys Llythyr Blynyddol Arolygaeth Gofal Cymru.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig. 

PENDERFYNIAD

Nodwyd a derbyniwyd cynnwys Llythyr Blynyddol Arolygaeth Gofal Cymru

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan groesawu craffu o’r math hwn. Nodwyd fod y llythyr yn un cadarnhaol  ac yn amlygu un neu ddau faes sydd angen gwella. Mynegwyd y prif un yw’r broblem o recriwtio staff i’w maes gofal. Nodwyd fod gwaith yn cael ei wneud a bod mwy o gydnabyddiaeth i’r maes yn dilyn y pandemig Covid-19.

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol nad oes unrhyw beth annisgwyl i’w gweld yn y llythyr a'i fod yn tynnu sylw at waith da sydd yn cael ei wneud yn y maes Gofal Cymdeithasol. Mynegwyd fod y llythyr yn cyd fynd ac adroddiad blynyddol y Cyfarwyddwr Corfforaethol. Amlygwyd fod y llythyr yn cadarnhau fod y meysydd blaenoriaeth yn cyd-fynd a blaenoriaethau Arolygaeth Gofal Cymru. Diolchwyd i staff am eu gwaith caled er nad ydynt wedi derbyn llawer o seibiant yn ystod y flwyddyn i’r meysydd yma.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Tynnwyd sylw at y mater fod rhai aelodau o staff wedi amlygu nad ydynt wedi derbyn digon o werthfawrogiad am eu gwaith ac efallai fod hyn o ganlyniad i sir fawr ac efallai unigolion ddim yn gweithio yn ganolog. Mynegwyd fod newyddlen yn cael ei wneud bellach a gobeithir fod y newyddlen a diolch yn gyhoeddus yn y Cabinet yn amlygu gwerthfawrogiad i’r staff.

¾  Pwysleisiwyd y diolch i’r staff yn y maes gofal gan ddiolch yn ogystal i’r staff proffesiynol megis Gweithwyr Cymdeithasol am eu gwaith yn ystod cyfnod mor heriol.

¾  Nodwyd fod staff cymdeithasol yn gweithio o adref a bod hynny yn gallu bod yn heriol gan nad oes mod rhannu’r baich ac ôl cyfarfodydd anodd. Er hyn pwysleisiwyd fod gwaith da yn parhau.

¾        Pwysleisiwyd yr angen i symud oddi wrth y ffiniau traddodiadol proffesiynol a bod hyn weithiau yn gwneud unigolion deimlo ei bod yn tanseilio eu proffesiwn. Amlygwyd fod angen dilyn Ffordd Gwynedd i roi anghenion trigolion Gwynedd yn ganolog.

Awdur: Morwena Edwards

14.

PARATOADAU'R CYNGOR AR GYFER BREXIT pdf eicon PDF 495 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys and Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo y paratoadau a wnaed.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Thomas. 

PENDERFYNIAD

Cymeradwyo y paratoadau a wnaed.

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi beth yw trefniadau’r Cyngor ar gyfer paratoi ar gyfer Brexit yn ogystal ag edrych beth mae’r Cyngor yn gallu ei wneud i gynorthwyo i ymdopi a’r sefyllfa i ddod.

Nododd y Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol fod y cyngor yn gwneud popeth posib i roi cynlluniau yn ei lle. Amlygwyd y trefniadau mewn gan nodi fod swyddogion o wahanol adrannau wedi bod yn gweithio i edrych ar y risgiau ers dros ddwy flynedd. Tynnwyd sylw ar y gofrestr risg oedd i’w gweld yn yr atodiadau gan amlygu'r ddau brif risg sef cyflenwadau bwyd a meddyginiaethau ynghyd a gweithlu’r maes gofal yn y sector annibynnol. Pwysleisiwyd mai costau oedd y brif broblem o ran y gweithlu gofal ond fod eleni wedi amlygu heriau pellach gyda covid-19. Diolchwyd am y gefnogaeth ariannol sydd wedi ei dderbyn gan y Llywodraeth a’r Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Nododd y Pennaeth Economi a Chymuned eu bod wedi bod yn gweithio yn galed i godi ymwybyddiaeth yn ein cymunedau a busnesau ond y prif gwestiwn oedd beth maent yn paratoi ar ei gyfer. Mynegwyd fod yr adran wedi bod yn gweithio gyda’r Llywodraeth i greu asesiad o beth fyddai’r effaith tebygol ar gymunedau ac economi ac yn ystod eleni fod argyfwng covid wedi cael ychwanegu wrth  ystyried y sefyllfa. Nodwyd fod yr adroddiad yn un perthnasol a defnyddiol i gynllunio ar gyfer sefyllfa. Pwysleisiwyd fod yr adroddiad yn  edrych sefyllfa waethaf posib ynghyd a sefyllfa os oes cytundeb. Esboniwyd fod y casgliadau yn amlygu na fydd Gwynedd yn un o’r siroedd sydd yn cael ei effeithio gwaethaf ond yn amlwg fod dibyniaeth y sir ar amaeth yn bryder ynghyd ac effaith y maes amaeth ar yr economi wledig yn ehangach.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Tynnwyd sylw ar y bobl yn ein cymunedau sydd wedi ei geni yn Ewrop yn enwedig mewn ardaloedd fel Bangor ble mae’r niferoedd yn llawer yn uwch na’ gweddill y sir o ganlyniad i’r Brifysgol. Holwyd am y gefnogaeth sydd ar gael iddynt. Nodwyd fod pob gwybodaeth wedi ei raeadru i’r unigolion a bod cefnogaeth ar gael iddynt ymgeisio am ddinasyddiaeth. Nodwyd fod y Brifysgol wedi estyn allan i’w staff a myfyrwyr er mwyn eu cynorthwyo gyda’r gwaith.

¾  Nodwyd fod nifer staff y Cyngor a fydd angen dinasyddiaeth yn weddol isel. Ond pwysleisiwyd fod Siopau Gwynedd yn hwyluso’r gefnogaeth i’r cyhoedd ynghyd a chynnal sesiynau penodol mewn rhai lleoliadau o fewn y sir.

¾    Pwysleisiwyd y gall yr ardrawiad fod yn eang iawn yng Ngwynedd a diolchwyd i swyddogion am eu gwaith i sefyllfa sydd yn newid yn ddyddiol.

Awdur: Geraint Owen a Sioned Williams

15.

YMGYNGHORIAD CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 280 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Cymeradwywyd yr ateb drafft i’r Ymgynghoriad
  • Dirprwyo hawl i’r Arweinydd mewn ymgynghoriad a’r Prif Weithredwr a’r Pennaeth Gwasnaethau Cyfreithiol i gwblhau a chyflwyno ymateb ar ran y Cyngor. 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans. 

PENDERFYNIAD

  • Cymeradwywyd yr ateb drafft i’r Ymgynghoriad
  • Dirprwyo hawl i’r Arweinydd mewn ymgynghoriad a’r Prif Weithredwr a’r Pennaeth Gwasnaethau Cyfreithiol i gwblhau a chyflwyno ymateb ar ran y Cyngor. 

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y drafodaeth ar y mater hwn wedi bod dros fisoedd ar fisoedd. Nodwyd fod yr ymgynghoriad yn enghraifft o Lywodraeth Cymru yn diystyru Llywodraeth Leol ac yn nodi ei fod am hybu democratiaeth ond yn hytrach yn gwthio democratiaeth ymhellach oddi wrth drigolion. Pwysleisiwyd fod lle i’r math yma o gydweithio ond bod angen iddo fod yn wirfoddol, ond ar hyn o bryd mae’n cael ei orfodi arnom ac mae’n amlygu diffyg ffydd y Llywodraeth mewn Llywodraeth Leol.

Nododd y Swyddog Monitro fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru wedi mynd drwy’r Senedd. Mynegwyd y bydd hyn yn rhoi grym i’r Gweinidog i sefydlu'r Cydbwyllgorau Corfforedig a fydd yn gweithredu ar draws 6 sir y Gogledd. Pwysleisiwyd fod  4 elfen yn y ddeddf ble fydd modd i’r Gweinidog orfodi mewn meysydd sy’n cynnwys Trafnidiaeth, Cynllunio Strategol, Trefniadaeth Addysg a Datblygu’r Economi.  Mynegwyd fod yr ymgynghoriad yn edrych ar greu Cydbwyllgorau Corfforedig ar gyfer rhannau o 3 o’r meysydd.

Amlygwyd rhai materion o fewn yr ymgynghoriad a’r cyntaf oedd sefydlu Cydbwyllgor, yn benodol o ran gofyn adnoddau ac arbenigedd staff a nodwyd nad oedd eglurdeb o bwy fydd yn arwain ar ei sefydlu. Nodwyd nad yw’r ymgynghoriad yn amlygu’r berthynas rhwng y Cydbwyllgorau a Chynghorau. Tynnwyd sylw at yr heriau ariannol, gan fod modd i’r Cydbwyllgorau roi gofynion ariannol ar gynghorau ac nid oes amserlen glir.

Ymhelaethwyd ar y sefyllfa’r iaith gan nodi ar hyn o bryd fod trefniadau cydweithredol ar sail consensws y Cydbwyllgor. Mynegwyd gan y bydd hwn yn gorff unigol y bydd angen i’r safonau iaith a’r fframwaith gael eu gosod yn fuan i sicrhau sicrwydd ieithyddol.  

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Mynegwyd fod Cynghorau yn cael ei gorfodi i hyn a'i fod yn gwbl ddinistriol i ddemocratiaeth ac nad oedd unrhyw sôn am asesiad cydraddoldeb.

¾  Pwysleisiwyd fod gan Gyngor Gwynedd reolaeth gref o ran materion ariannol, a'i fod yn annheg fod modd iddynt ofyn am gyfraniad ariannol heb ddim amser i baratoi ar ei gyfer.

¾  Mynegwyd fod y corff yma ddim  yn annhebyg i’r Awdurdod Tan ble mae modd iddynt ofyn am arian gan nodi sut y bydd yn cael ei wario. Pwysleisiwyd nad yw’n ddemocrataidd gan y bydd y bleidlais yn un y mwyafrif, a thrwy hynny yn clymu trigolion unrhyw sir i fater efallai na fyddent yn cytuno ag ef.  Nodwyd fod hyn yn mynd a’r penderfyniad  ym mhellach oddi wrth y bobl. Amlygwyd yr angen i nodi ar ddechrau’r ymgynghoriad fod y Cyngor yn erbyn yr orfodaeth ar greu’r Cydbwyllgorau yma.

¾  Nodwyd angen i’r Llywodraeth roi pwerau i Lywodraeth Leol i wneud y penderfyniadau ac nid i gydbwyllgorau rhanbarthol. 

¾    Nodwyd gwrthwynebiad llwyr i’r Cydbwyllgorau a phryderon mawr am eu creu.

Awdur: Iwan Evans

16.

PREMIWM TRETH CYNGOR AR AIL GARTREFI AC EIDDO GWAG HIRDYMOR pdf eicon PDF 437 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig i gynyddu’r Premiwm ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor i hyd at 100% ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas  

PENDERFYNIAD

Cytunwyd i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig i gynyddu’r Premiwm ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor i hyd at 100% ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22.

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi'r penderfyniad a gesiwyd. Nodwyd yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 3 Rhagfyr 2020 penderfynodd y Cyngor ohirio penderfyniad ar y disgowntiau  a phremiwm Treth Cyngor a gofyn Cabinet ystyried priodoldeb cynyddu'r lefel i hyd at 100%.  Pwysleisiwyd fod nifer o bobl wedi symud eu heiddo i eiddo busnes sydd wedi golygu nad ydynt yn talu Treth Cyngor nac y Premiwm Treth Cyngor. Amlygwyd risg ariannol o godi’r premiwm ond amlygwyd mai penderfyniad i fynd i ymgynghori yn unig yw hwn.

Pwysleisiwyd y bydd yr ymgynghoriad yn un llawn a thrwyadl ac y bydd yr adran yn defnyddio esiampl Cyngor Powys fel templed. Amlygwyd un newid fydd ei hangen i’r cwestiynau yw’r effaith ar yr iaith Gymraeg. Pwysleisiwyd angen am ymgynghoriad yn fuan fel bod modd ei gosod yr eitem ar raglen y Cyngor Llawn ym mis Mawrth.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Pwysleisiwyd fod yr ymgynghoriad yma yn holl bwysig a gofynnwyd i bawb gymryd y cyfle i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

¾  Amlygwyd yr angen i wahaniaethu rhwng yr unigolion sydd yn berchen ail gartref a rhai nad ydynt yn berchen ail gartref gan y bydd y casgliadau o bosib yn wahanol.

Awdur: Dafydd Edwards a Dewi Morgan

17.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod  yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y datgelir    gwybodaeth eithredig fel y’i diffinir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a chytundebau gyda corff masnachol ynglŷn a prosiect a ariennir gan grant. Mae natur y wybodaeth yn sensitif i’r cwmni a gall ei gyhoeddi gael ardrawiad ar eu buddiannau masnachol. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma hefyd yn gallu tanseilio hyder ymgeiswyr am grantiau a chymorth i ddod at y Cyngor. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus o ganiatáu asesiadau a trafodaeth agored a thrylwyr gyda ymgeiswyr am gefnogaeth ariannol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Penderfynwyd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod  yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y datgelir    gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

Roedd budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a chytundebau gyda corff masnachol ynglŷn a prosiect a ariennir gan grant. Mae natur y wybodaeth yn sensitif i’r cwmni a gall ei gyhoeddi gael ardrawiad ar eu buddiannau masnachol. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma hefyd yn gallu tanseilio hyder ymgeiswyr am grantiau a chymorth i ddod at y Cyngor. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus o ganiatáu asesiadau a trafodaeth agored a thrylwyr gyda ymgeiswyr am gefnogaeth ariannol.

18.

NYTH FRANWEN

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Cefnogwyd y Cynllun ‘Y Nyth’ Fran Wen i ddatblygu canolfan newydd ym Mangor
  • Dirprwywyd yr hawl i’r Pennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid a Phennaeth Cyfreithiol i gytuno  cytundeb ariannu gyda Cwmni Fran Wen gan gynnwys arwystl cyfreithiol neu ffurf arall o ernes os yn briodol ar gyfer gwarchod buddiannau’r Cyngor.
  • Yn ddarostyngedig i (b) awdurdodwyd y Pennaeth Cyllid mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Economi a Chymuned, a’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, i arwyddo’r llythyr cynnig ariannol gan Lywodraeth Cymru .

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Thomas  

PENDERFYNIAD

  • Cefnogwyd y Cynllun ‘Y Nyth’ Fran Wen i ddatblygu canolfan newydd ym Mangor
  • Dirprwywyd yr hawl i’r Pennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid a Phennaeth Cyfreithiol i gytuno  cytundeb ariannu gyda Cwmni Fran Wen gan gynnwys arwystl cyfreithiol neu ffurf arall o ernes os yn briodol ar gyfer gwarchod buddiannau’r Cyngor.
  • Yn ddarostyngedig i (b) awdurdodwyd y Pennaeth Cyllid mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Economi a Chymuned, a’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, i arwyddo’r llythyr cynnig ariannol gan Lywodraeth Cymru .

TRAFODAETH

Trafodwyd yr adroddiad.

Awdur: Esyllt Rhys Jones