skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. Dyfrig Siencyn.  

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. 

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 30 MAWRTH 2021 pdf eicon PDF 185 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Mawrth 2021 fel rhai cywir.

 

6.

SICRHAU FOD Y GRANT CYMORTH TAI YN ARWAIN AT Y GEFNOGAETH ORAU POSIB I'R DIGARTREF YNG NGWYNEDD pdf eicon PDF 295 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Gefnogwyd blaenoriaethu'r defnydd o’r Grant Cymorth Tai fel yr amlinellwyd ym mharagraff 36 o’r adroddiad. 

b)    Gefnogwyd yr egwyddor i barhau i gydweithio gyda darparwyr allanol er mwyn cynnig gwasanaethau cefnogol arbenigol ychwanegol i’r hyn y gellir ei ddarparu’n fewnol. 

c)    Nodwyd y risg ynghlwm i’r grant refeniw yn y dyfodol (fel pob grant refeniw arall) a’r mesur lliniaru a nodwyd ym mharagraff 39 o’r adroddiad hwn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago 

 

PENDERFYNIAD

 

a.    Cefnogwyd blaenoriaethu'r defnydd o’r Grant Cymorth Tai fel yr amlinellwyd ym mharagraff 36 o’r adroddiad.

   

b.      Cefnogwyd yr egwyddor i barhau i gydweithio gyda darparwyr allanol er mwyn cynnig gwasanaethau cefnogol arbenigol ychwanegol i’r hyn y gellir ei ddarparu’n fewnol.   

 

c.    Nodwyd y risg ynghlwm i’r grant refeniw yn y dyfodol (fel pob grant refeniw arall) a’r mesur lliniaru a nodwyd ym mharagraff 39 o’r adroddiad hwn. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cabinet wedi bod yn amlygu nad yw'r ddwy Lywodraeth wedi bod yn gwneud digon i daclo'r problemau tai sydd i’w gweld yn y sir. Amlygwyd y  camau mae’r Cyngor wedi ei wneud i daclo’r broblem tai megis adroddiad am ail dai o fewn y sir, edrych ar y maes twristiaeth ac adfywio cymunedau. Pwysleisiwyd mai un o flaenoriaethau’r Adran Tai ac Eiddo yw taclo digartrefedd, gan ychwanegu fod rhan fawr o’r Cynllun Gweithredu Tai yn edrych ar y mater. 

 

Ymhelaethwyd fod penderfyniad heddiw yn amlinellu cynlluniau’r adran i ddefnyddio arian Grant Cymorth Tai er mwyn taclo digartrefedd. 

 

Ychwanegodd Pennaeth yr Adran Tai ac Eiddo fod niferoedd digartrefedd wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf. Mynegwyd yn ystod y  blynyddoedd cynnar o gynnydd yn nigartrefedd fod y Cyngor wedi bod yn ymateb yn araf ac wedi methu a chreu cynllun hir dymor. Bellach, nodwyd fod cynllun hir dymor yn ei le ac amlinellwyd y cynllun. 

 

Pwysleisiwyd dros y flwyddyn ddiwethaf fod cynnydd o 26% wedi bod yn y niferoedd sy’n cyflwyno eu hunain yn ddigartref, cynnydd o 71% dros bum mlynedd. Amlygwyd ei bod yn gyfnod o argyfwng ac nad yw’r ffordd bresennol o weithio yn ddigonol.  Mynegwyd fod y Grant Cymorth Tai am gynorthwyo’r adran i symud ymlaen gyda cham 2 a 3 o’r cynllun sef i adeiladu unedau tai dros dro i’r digartref ac i gynyddu’r staff cefnogol i’r unigolion. 

 

Nodwyd yn 2019 fod y Llywodraeth wedi rhagrybuddio y byddant yn edrych ar leihau'r grant hwn. Fodd bynnag, o ganlyniad i ddigartrefedd yn cael ei amlygu yn ystod cyfnod covid-19, bu i ddyfodol y grant newid yn llwyr. Mynegwyd fod dyraniad ychwanegol o £1.6m ac o ganlyniad i hyn y bydd modd i’r Adran fynd yn syth i adeiladu 50 o unedau tai dros dro. Ategwyd y bydd yr arian yn ogystal yn galluogi’r Cyngor i ddyblu'r tîm cefnogaeth i unigolion digartref i dderbyn cefnogaeth emosiynol ynghyd a sgiliau bywyd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Croesawyd yr adroddiad gan nodi'r angen am gefnogaeth ar gyfer y digartref. Tynnwyd sylw at ddigartrefedd cudd.

¾    Pwysleisiwyd yr angen i wneud gwaith ataliol gan holi os oedd modd ddefnyddio'r arian grant ar gyfer y gwaith hwn. Nodwyd fod gwaith ymyrraeth gynnar yn rhan o’r annatod o gynnig cefnogaeth fel bod modd cefnogi’r unigolion i ddal gafael eu llety yn ogystal. 

¾    Diolchwyd am y cynllun hirdymor ynghyd â chynyddu capasiti o fewn yr adran i wneud y gwaith sydd ei angen i gefnogi’r unigolion. 

¾    Mynegwyd ei bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Dafydd Gibbard