skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cyng. Dewi Roberts ar gyfer eitem 4 gan ei fod yn aelod o Fwrdd Llywodraethol Ysgol Abersoch, ond nid oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu.

 

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cyng. Cemlyn Williams a Garem Jackson ar gyfer eitem 11 gan eu bod yn Gyfarwyddwyr Cwmni Cynnal, roedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac y bu iddynt adael y cyfarfod ar gyfer yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU pdf eicon PDF 306 KB

YSGOL ABERSOCH

Cyflwynwyd gan: Cyng. Bethan Lawton

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i beidio addasu y  penderfyniad a wnaethpwyd ar 28 Medi 2021 a cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd statudol, i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018.

 

Cofnod:

YSGOL ABERSOCH

 

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Bethan Lawton – Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi.

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd i beidio addasupenderfyniad a wnaethpwyd ar 28 Medi 2021 a cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd statudol, i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y mater wedi cael ei alw i mewn i’r Pwyllgor Craffu gan nad oeddent yn teimlo fod y Cabinet wedi rhoi sylw digonol i bump agwedd benodol pan yn ystyried y mater yn ffurfiol wedi y cyfnod gwrthwynebu statudol.

 

Eglurwyd fod y Pwyllgor Craffu wedi trafod yr eitem yn ystod eu cyfarfod ar y 21ain o Hydref, ble cafwyd trafodaeth a cyfle i graffu ymhellach. Mynegwyd fod nifer o’r agweddau wedi eu hateb yn ystod y cyfarfod a penderfynodd y Pwyllgor i gyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet i’r ail-ystyried ar y sail na chafwyd ymateb digonol i’r ail reswm dros alw i mewn sef nad oedd yr adroddiad yn cymryd ystyriaeth ddyfodol Tai a Gwaith fydd yn dod i rym yn y pentref.  Pwysleisiwyd fod yr aelodau Craffu yn bryderus nad oedd ystyriaeth lawn wedi ei roi i’r effaith posib datblygiadau arfaethedig ar y ffigyrau tafluniad ar gyfer Ysgol Abersoch cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Gofynnwyd i’r Cabinet ail ystyried eu penderfyniad yn sgil eu pryderon.

 

Ychwanegodd yr Aelod Lleol fod y drafodaeth dros Ysgol Abersoch wedi bod yn broses hir iawn ac fod angen i’r aelodau Cabinet roi sylw penodol i’r materion Tai sydd ar y gwell yn y pentref. Eglurwyd fod sôn am ddatblygiadau tai yn y ward a tu hwnt ac o ganlyniad i hyn fod angen darpariaeth addysg i blant a theuluoedd fydd yn symud i’r ardal. Tynnwyd sylw fod Ysgol Llanbedrog dros ei gapasiti. Mynegwyd fod y datblygiadau yma a’r Gwesty newydd yn newyddion da i’r ardal ond pwysleisiwyd nad oes dim sôn am y datblygiadau hyn yn yr adroddiadau a mynegwyd fod ymdeimlad yn lleol fod yr adroddiadau o’i ganlyniad yn gamarweiniol â ddim yn cyd-fynd a Deddf Llesiant. 

 

Efynnwyd ar yr aelodau i beidio cau’r Ysgol am y rhesymau a nodwyd heddiw ac yn y gorffennol ac i beidio cau yn ganol tymor yr ysgol, ac i flaenoriaethu addysg plant yr ardal.

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet i’r adroddiad gan nodi cefndir yr eitem. Eglurodd yn ôl ym mis Mehefin fod y Cyngor wedi cyhoeddi y rhybudd statudol i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021 a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol Sarn Bach. Nodwyd fod y Cabinet yn dilyn ystyried y gwrthwynebiadau wedi cadarnhau y penderfyniad i gau’r Ysgol. Pwysleisiwyd fod yr adroddiad a gyflwynwyd wedi ymdrin a sylwadau am effaith datblygiadau posib  yn yr ardal ac fod y Cabinet wedi eu hystyried cyn dod i benderfyniad.

 

Nododd ei fod yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 28 MEDI A 12 HYDREF 2021 pdf eicon PDF 174 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 28 Medi a 12 Hydref 2021 fel rhai cywir.

6.

ADRODDIAD RHEOLAETH CARTREFI MODUR pdf eicon PDF 194 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad a cymeradwywyd y canlynol:

     I.        Awdurdodi’r Pennaeth Adran Amgylchedd mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Adran Economi a Chymuned i gynnal prosiect peilot ar gyfer defnydd o hyd at 6 o safleoedd parcio’r Cyngor (neu ran o’r safleoedd) sydd o fewn ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd, er darparu cyfleusterau i gartrefi modur aros dros nos ac i gynnwys dynodi y lleoliadau, ond yn ddarostyngedig i sicrhau cyllid cyfalaf a’r caniatâdau angenrheidiol.

    II.        Bod adroddiad pellach ar ganlyniadau y peilot yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ymhen tair blynedd.

  III.        Ystyried a gweithredu ar fesurau gorfodaeth i fynd law yn llaw gyda’r uchod.

  IV.        Cyflwyno’r gwaith ymchwil i Llywodraeth Cymru a gofyn iddynt Adolygu’r Ddeddf Carafanau a Rheoli Datblygu 1960.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Gareth Griffith.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd yr adroddiad a cymeradwywyd y canlynol: 

 

     I.        Awdurdodi’r Pennaeth Adran Amgylchedd mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Adran Economi a Chymuned i gynnal prosiect peilot ar gyfer defnydd o hyd at 6 o safleoedd parcio’r Cyngor (neu ran o’r safleoedd) sydd o fewn ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd, er darparu cyfleusterau i gartrefi modur aros dros nos ac i gynnwys dynodi y lleoliadau, ond yn ddarostyngedig i sicrhau cyllid cyfalaf a’r caniatâdau angenrheidiol.  

    II.        Bod adroddiad pellach ar ganlyniadau y peilot yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ymhen tair blynedd.  

  III.        Ystyried a gweithredu ar fesurau gorfodaeth i fynd law yn llaw gyda’r uchod.  

  IV.        Cyflwyno’r gwaith ymchwil i Llywodraeth Cymru a gofyn iddynt Adolygu’r Ddeddf Carafanau a Rheoli Datblygu 1960. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn ymchwili i gartrefi modur yng Ngwynedd. Darllenwyd y penderfyniad.

 

Eglurodd y Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd fod y gwaith ymchwil yma wedi ei greu ar y cyd rhwng yr adran Amgylchedd ac Economi a Chymuned. Nodwyd mai pwrpas yr adroddiad yw i egluro beth oedd y sefyllfa cartrefi modur yng Ngwynedd ac os oes angen rheolaeth well arnynt ac os oes unrhyw wersi i’w dysgu o leoliadau eraill ym Mhrydain ac Ewrop. Tynnwyd sylw fod y ddeddfwriaeth o ran Cynllunio a Trwyddedu yn mynd yn ôl i’r 1960au a holwyd bellach os yn addas i bwrpas.

 

Mynegwyd fod tri holiadur wedi ei ddefnyddio - un gyda perchnogion meysydd Carafanau a Gwersylla yng Ngwynedd, un a perchnogion cartrefi modur ac un gyda trigolion Gwynedd. Amlygwyd fod trosolwg o’r canfyddiadau gan amlygu fod y sector yn un sydd yn datblygu yn sylweddol ac fod anghenion defnyddwyr cartrefi modur yn wahanol i ddefnyddwyr carafanau a gwersylla traddodiadol. Nodwyd fod defnyddwyr yn ffafrio lleoliadau o fewn pellter cerdded i lefydd o ddiddordeb a canol trefi ac yn dueddol i deithio drwy’r flwyddyn.

 

Amlygwyd fod enghreifftiau yn yr Alban a Lloegr ble mae cynghorau wedi treialu meysydd parcio yn lefydd aros dros nos gyda cyfleusterau angenrheidiol ac eglurwyd ei fod yn dueddiad sydd i’w gweld yn Ewrop yn ogystal. Mynegwyd fod perchnogion wedi nodi yn yr holiadur y buasent yn eu defnyddio ac nodwyd cefnogaeth i’r treialu gan y cyhoedd yn ogystal..

 

Nodwyd fod yr adroddiad yn amlygu yr angen am reolaeth gwell o’r sector ond fod angen cefnogaeth i dreialu’r cyfleusterau dros nos ond eu bod yn mynd law yn llawer gyda mwy o orfodaeth. Eglurwyd mai gofyn am ganiatâd i dreialu cyfleuster o’r fath mewn hyd at 6 lleoliad o fewn ardal cynllunio Awdurdod Gwynedd. Mynegwyd y bydd angen buddsoddiad i greu’r cyfleusterau pwrpasol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Mynegwyd fod cartrefi modur yn broblem fawr ar draws y sir a diolchwyd am y gwaith sylweddol sydd wedi mynd i mewn i greu’r adroddiad. Dangoswyd cefnogaeth i’r cynllun gan nodi fod angen symud yn sydyn.

¾    Nodwyd fod yr adroddiad yn amlygu cydweithio gwych rhwng y ddwy adran, ac ychwanegwyd fod angen bod yn ganolog i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Gareth Jones

7.

FFRAMWAITH PWYLLGORAU pdf eicon PDF 333 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siecyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd mabwysiadu’r trefniadau ar gyfer cyfarfodydd y Cabinet i’r dyfodol gyda’r dyddiad cychwyn i’w bennu gan yr Arweinydd mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth a’r Swyddog Monitro, ac o ganlyniad i'r cyfyngiadau presennol gael eu codi.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNWYD

 

Penderfynwyd mabwysiadu’r trefniadau ar gyfer cyfarfodydd y Cabinet i’r dyfodol gyda’r dyddiad cychwyn i’w bennu gan yr Arweinydd mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth a’r Swyddog Monitro, ac o ganlyniad i'r cyfyngiadau presennol gael eu codi

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y fframwaith yn gosod arweiniad ar y ffordd ymlaen i gyfarfodydd i’r dyfodol. Amlygwyd fod mynychu cyfarfodydd o bell yn cynnig llawer o fanteision megis amrywiaeth mewn democratiaeth, costau ac amser teithio i Gynghorwyr a Swyddogion. Pwysleisiwyd fod cyfnod y pandemig wedi amlygu sut mae mynediad o bell wedi gweithio yn dda. Mynegwyd fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 yn nodi’r angen i gyhoeddi yn ffurfiol y trefniadau ar gyfer Pwyllgorau i’r dyfodol.

 

Eglurwyd fod gan y Cabinet hawl i fabwysiadu ei threfniadau ei hunain ac y fod y Cyngor Llawn yn penderfynu ar y pwyllgorau eraill ar draws y Cyngor. Nodwyd fod y fframwaith wedi ei lunio ar sail diddordeb y cyhoedd i’r eitemau sydd i’w gweld mewn amrywiol bwyllgorau ac fod cynnal y Cabinet mewn trefn hybrid yn gyson gyda’r drefn hwn.

 

 

Awdur: Iwan Evans a Geraint Owen

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS TAI AC EIDDO pdf eicon PDF 544 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Craig ab Iago.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod newyddion da a drwg. Amlygwyd fod 3 cynllun penodol yn crisialu’r gwaith positif mae’r adran yn ei wneud. Eglurwyd fod y Cynllun Gweithredu Tai bellach yn weithredol ac yn gweithio i sicrhau tai i bobl i leol yn eu cymunedau. Nodwyd fod cynlluniau arloesol ar draws y sir ac fod sawl grawn wedi ei dderbyn i ymateb i gynlluniau fel digartrefedd.

 

Mynegwyd fod cynlluniau ar y gwell i adeiladu tai o fewn y sir ac fod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda chyrff ar draws Gwynedd i adeiladau tai ar diroedd y Cyngor. Tynnwyd sylw ar gynllun Siop Un Stop fydd ar gael i gynorthwyo unigolion i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth ac yn ymwybodol o unrhyw gyfleodd sydd ar gael. Nodwyd fod y cynllun gosod tai cymdeithasol i bobl leol a gychwynnwyd flwyddyn yn ôl yn cymryd camau mawr ymlaen ac yn parhau i ddatblygu er fod nifer o broblemau wedi codi ar hyd y daith. Er hyn amlygwyd fod yr adran wedi llwyddo i gartrefu nifer uchel o bobl yn eu cymunedau.

 

Eglurwyd er fod y cynlluniau yn uchelgeisiol fod y pandemig wedi arafu nifer o gynlluniau o fewn y Cynllun Gweithredu Tai. Pwysleisiwyd fod camau yn ei le i daclo digartrefedd a oedd yn argyfwng cyn y pandemig ond fod y sefyllfa wedi gwaethygu dros y deunaw mis diwethaf. Mynegwyd fod y pandeimg wedi cael effaith ar adnoddau sydd ar gael ynghyd ar capasiti i ymateb. Ond, gyda’r drefn herio perfformiad newydd nodwyd fod modd ymateb yn gyflym i heriau ac i daclo problemau yn syth.

 

Ar y cyfan mynegwyd fod ar adran yn llwyddo ac fod derbyn pedair Gwobr Genedlaethol yn profi y llwyddiant yma. Eglurwyd y bydd yr Aelod Cabinet yn mynd i bob ardal adfywio yn ystod y misoedd nesaf i esbonio i Gynghorwyr beth mae’r adran yn gobeithio ei wneud ymhob ardal.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Tynnwyd sylw at ddigartrefedd cudd sydd i’w gweld ar gynnydd ar draws y sir. Croesawyd cynlluniau yn Cynllun Gweithredu Tai gan amlygu ei fod yn weithredol ers cwta 7 mis. Holwyd os oes modd cael gwybodaeth fesul ward. Nodwyd fod trafodaeth am ddigartrefedd cudd yn hynod bwysig gan fod llwyddiant cynllun i gael unigolion oddi ar y stryd wedi lleihau y tai sydd ar gael i daclo cynyddu mewn digartrefedd cudd.

¾    Eglurwyd fod digartrefedd ar ei lefel uchaf erioed ar mae hyn i’w gweld ar draws Cymru. Eglurwyd fod y Cyngor yn edrych i brynu 6 safle ac yn parhau i geisio prynu tai fel bod modd cynnig lleoliadau gosod yn lleol i unigolion.

¾    Eglurwyd fod arian ar gyfer digartrefedd yn dod o Gronfa Caledi’r Cyngor ond nodwyd fod y Gweinidog wedi pwysleisio na fydd arian ar gael y flwyddyn ariannol nesaf. Eglurwyd os yn parhau y bydd angen arian i’w ariannu ac angen sicrhad fod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Carys Fon Williams

9.

STRATEGAETH DDIGIDOL ADDYSG pdf eicon PDF 454 KB

Atodiad 1-3 - Ynghlwm

Atodiad 4 - Eithriedig (wedi’i ddosbarthu i Aelodau Cabinet)

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Willias a Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

     I.        Cymeradwywyd y Strategaeth Ddigidol Addysg yn ei chyfanrwydd.

    II.        Cytunwyd i gyd ariannu hyd at hanner costau adnewyddu’r dyfeisiadau drwy ymrwymo £2filiwn o falansau’r Cyngor, gyda disgwyliad i ysgolion dalu’r hanner arall .

  III.        Cytunwyd i ysgolion Gwynedd dderbyn cefnogaeth dechnegol gan wasanaeth Technoleg Gwybodaeth yr Awdurdod o Ebrill 2022 ymlaen.

  IV.        Cytunwyd i ariannu £145mil er mwyn cynnig cefnogaeth dechnegol hyd at Ebrill 2022, er mwyn prysuro amserlen cyflwyno dyfeisiadau i’r ysgolion.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Cemlyn Williams.  

 

PENDERFYNIAD

 

     I.        Cymeradwywyd y Strategaeth Ddigidol Addysg yn ei chyfanrwydd. 

    II.        Cytunwyd i gyd ariannu hyd at hanner costau adnewyddu’r dyfeisiadau drwy ymrwymo £2filiwn o falansau’r Cyngor, gyda disgwyliad i ysgolion dalu’r hanner arall .  

  III.        Cytunwyd i ysgolion Gwynedd dderbyn cefnogaeth dechnegol gan wasanaeth Technoleg Gwybodaeth yr Awdurdod o Ebrill 2022 ymlaen. 

  IV.        Cytunwyd i ariannu £145mil er mwyn cynnig cefnogaeth dechnegol hyd at Ebrill 2022, er mwyn prysuro amserlen cyflwyno dyfeisiadau i’r ysgolion.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan amlygu pleser o gyflwyno’r strategaeth arloesol yma. Pwysleisiwyd fod hwn wedi bod yn gynllun trawsadrannol rhwng yr adran Addysg a Technoleg Gwybodaeth a nodwyd gwerthfawrogiad i’r cyd-weithio agos sydd wedi bod yn creu’r Strategaeth. Mynegwyd mai bwriad y Strategaeth yw i ddefnyddio y ddarpariaeth ddigidol orau i gefnogi disgyblion a staff ysgolion i sicrhau cyfleon cyson ar draws y sir. Eglurwyd fod y bwriad hwn yn amlygu’r uchelgais sydd i ddefnyddio technoleg gwybodaeth i wella addysg gan ddyrchafu’r defnydd i bob cam o’r cwricwlwm.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Addysg fod y cyfnod y pandemig wedi amlygu’r angen sydd i sicrhau fod disgyblion yn gallu defnyddio technoleg yn hyderus. Pwysleisiwyd fod y gwaith ar y strategaeth wedi cychwyn cyn y cyfnod clo ond fod y cyfnod y pandemig wedi gwthio y cynllun yn ei blaen.

 

 

Tywysydd y Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion drwy’r adroddiad gan nodi fod sgiliau ddigidol bellach ar yr un lefel a llythrennedd a rhifedd ac felly fod angen sicrhau fod gan ddisgyblion y sgiliau digidol sydd ei angen. Eglurwyd fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian i wella’r ddarpariaeth ac wedi rhoi cyfrifoldeb i’r awdurdodau lleol i arwain ac y gwaith i sicrhau cyd-weithio rhwng yr ysgolion.

 

Eglurwyd yn bresennol fod nifer o ddyfeisiadau wedi dyddio ac ysgolion yn defnyddio amrywiaeth o systemau gwahanol. Nodwyd y bydd y strategaeth yn sicrhau cysondeb ar draws ysgolion. Pwysleisiwyd fod y cyfnod clo wedi amlygu diffyg dyfeisiadau addas ac eu bod yn syfrdanol y nifer o aelwydydd nad oedd ganddynt ddyfeisiadau addas. Nodwyd fod bron i 2000 o ddyfeisiadau wedi er rhannu yn ystod y cyfnod ond fod yr angen wedi bod i rannu mwy oherwydd fod nifer o deuluoedd yn rhannu dyfais yn hytrach nac un i bob disgybl. Mynegwyd fod y strategaeth yn sicrhau dyfais i bob disgybl ac athro, ac y byddant wedi ei dewis yn unol a anghenion oedran y disgybl ac wedi ei gosod yn Gymraeg ar draws y sir.

 

Tynnwyd sylw at gostau adnewyddu gan fod rhai miloedd o ddyfeisiadau ar y ffordd i’r ysgolion gyda hyd bywyd o oddeutu 5 mlynedd. Eglurwyd y bydd angen £3.9miliwn i’w hadnewyddu. Pwysleisiwyd y bydd angen i’r dyfeisiadau gael ei cynnal a cadw yn effeithiol er mwyn sicrhau na fydd un disgybl yn colli addysg. Amlygwyd y drefn bresennol ar hyn o bryd i gefnogi ysgolion gan nodi yn y tymor byr y bydd y gefnogaeth yn cael ei dynnu mewn i wasanaeth technoleg gwybodaeth y Cyngor tra fydd yr adran  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

Awdur: Gwern ap Rhisiart a Huw Ynyr

10.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny) ynogystal â Paragraff 16 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972- Gwybodaeth y gallai honiad ynghylch braint broffesiynol gyfreithiol gael ei gynnal yn ei chylch mewn achos cyfreithiol.

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cwmni a’r Cynghorau. Mae hefyd yn cynnwys cyngor cyfreithiol a dderbyniwyd ynglŷn a sefydlu y ffordd ymlaen. Mae’r gallu i dderbyn a thrafod cyngor or’r fath yn cael ei warchod gan y fraint gyfreithiol . Byddai cyhoeddi hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny) yno gystal â Paragraff 16 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972- Gwybodaeth y gallai honiad ynghylch braint broffesiynol gyfreithiol gael ei gynnal yn ei chylch mewn achos cyfreithiol.

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cwmni a’r Cynghorau. Mae hefyd yn cynnwys cyngor cyfreithiol a dderbyniwyd ynglŷn a sefydlu y ffordd ymlaen. Mae’r gallu i dderbyn a thrafod cyngor or fath yn cael ei warchod gan y fraint gyfreithiol . Byddai cyhoeddi hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau.

 

11.

STRATEGAETH TG YSGOLION A CHWMNI CYNNAL

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

     I.        Cymeradwywyd y ffordd arfaethedig ymlaen mewn perthynas â dyfodol Cwmni Cynnal.  

    II.        Dirprwywyd yr hawl i Bennaeth yr Adran Gyllid mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol, i negodi cytundebau o'r fath fel sydd eu hangen yn rhesymol i hwyluso'r weithdrefn.  

  III.        Gofynnwyd am adroddiad dilynol i'r Cabinet i gymeradwyo materion dosbarthu a throsglwyddo y cytunwyd arnynt.   

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

      I.        Cymeradwywyd y ffordd arfaethedig ymlaen mewn perthynas â dyfodol Cwmni Cynnal.   

    II.        Dirprwywyd yr hawl i Bennaeth yr Adran Gyllid mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol, i negodi cytundebau o'r fath fel sydd eu hangen yn rhesymol i hwyluso'r weithdrefn.   

   III.        Gofynnwyd am adroddiad dilynol i'r Cabinet i gymeradwyo materion dosbarthu a throsglwyddo y cytunwyd arnynt.    

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr adroddiad.

 

Awdur: Iwan Evans and Dafydd Edwards