skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd y cofnodion fel rhai cywir.

5.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn dilyn y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y datglir gwybodaeth eithriedig o dan Baragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal yr wybodaeth hynny) a Paragraff 16 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â’r sawl y byddai modd cynnal hawl o fraint cyfreithiol proffesiynol mewn achos cyfreithiol.

 

Mae’r adroddiad ynglŷn a sefyllfa ac opsiynau ar gyfer rheolaeth elusen y mae’r

Cyngor yn ymddiriedolwr ohono. Felly, mae’r swyddogaeth yma ar wahân oddi wrth sefyllfa y Cyngor fel awdurdod cyhoeddus statudol ac yn ddarostyngedig i ofynion a chyfrifoldebau penodol rheolaeth elusen. Mae budd cyhoeddus mewn cael gwybodaeth am sut mae’r Cyngor yn gweithredu mewn swyddogaeth o’r fath. Fodd bynnag mae hyn yn cael ei gyfarch drwy gyfraith elusennau, Mae’r adroddiad yma ynglŷn a thrafodion busnes ac opsiynau y dylai’r ymddiriedolwyr gael cyfle priodol i’w trafod a chloriannu mewn modd rhydd ac agored cyn dod i gasgliad gorau er budd yr elusen. Byddai cynnal y drafodaeth yn gyhoeddus yn tanseilio eu gallu i gyflawni hyn. Y Cabinet yn eistedd fel ymddiriedolwyr yw’r unig fforwm priodol ar gyfer gweithredu hyn. Felly mae’r budd cyhoeddus o blaid eithrio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Penderfynwyd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod  yn ystod y drafodaeth ar  yr eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal yr wybodaeth hynny) a Paragraff 16 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â’r sawl y byddai modd cynnal hawl o fraint cyfreithiol proffesiynol mewn achos cyfreithiol.

 

Mae’r adroddiad ynglŷn a sefyllfa ac opsiynau ar gyfer rheolaeth elusen y mae’r

Cyngor yn ymddiriedolwr ohono. Felly, mae’r swyddogaeth yma ar wahân oddi wrth sefyllfa y Cyngor fel awdurdod cyhoeddus statudol ac yn ddarostyngedig i ofynion a chyfrifoldebau penodol rheolaeth elusen. Mae budd cyhoeddus mewn cael gwybodaeth am sut mae’r Cyngor yn gweithredu mewn swyddogaeth o’r fath. Fodd bynnag mae hyn yn cael ei gyfarch drwy gyfraith elusennau, Mae’r adroddiad yma ynglŷn a thrafodion busnes ac opsiynau y dylai’r ymddiriedolwyr gael cyfle priodol i’w trafod a chloriannu mewn modd rhydd ac agored cyn dod i gasgliad gorau er budd yr elusen. Byddai cynnal y drafodaeth yn gyhoeddus yn tanseilio eu gallu i gyflawni hyn. Y Cabinet yn eistedd fel ymddiriedolwyr yw’r unig fforwm priodol ar gyfer gweithredu hyn. Felly mae’r budd cyhoeddus o blaid eithrio.

 

6.

CYNLLUN BUSNES I GEFNOGI'R OPSIWN O GYNGOR GWYNEDD YN PARHAU I REDEG AMGUEDDFA LLOYD GEORGE

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cefnogwyd  y cynnig i wneud gwaith pellach i finiogi'r diffyg ariannol tebygol ac i wneud cais i Gyngor Gwynedd i asesu'r risgiau ynghlwm a’r cynllun busnes ac yn sgil hynny eu gallu i ymrwymo i gyfraniadau ariannol pellach i'r dyfodol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Cefnogwyd y cynnig i wneud gwaith pellach i finiogi'r diffyg ariannol tebygol ac i wneud cais i Gyngor Gwynedd i asesu'r risgiau ynghlwm a’r cynllun busnes ac yn sgil hynny eu gallu i ymrwymo i gyfraniadau ariannol pellach i'r dyfodol. 

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr adroddiad.