skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

 

5.

COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 12 MAWRTH pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar y 12 Mawrth 2019, fel rhai cywir.

 

6.

AILSTRWYTHURO CANOLFANNAU IAITH pdf eicon PDF 147 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd

  1. Gweithredu cynllun peilot o strwythur staffio o athro a chymhorthydd gan gynyddu’r gymhareb athro : disgybl mewn un Canolfan Iaith am gyfnod o flwyddyn, gan ei fonitro’n ofalus er mwyn canfod a ydyw yn cael effaith ar ansawdd yr addysg a chyrhaeddiad y plant
  2. Diddymu lwfans CAD i athrawon ymhob Canolfan Iaith, ynghyd ag ymgorffori’r ôl-ofal yn rhan o ddarpariaeth graidd y Canolfannau Iaith, gan ddiddymu’r swydd ôl-ofal sydd yn bodoli ar hyn o bryd.
  3. Er mwyn prynu amser i ystyried canlyniadau’r peilot, cymeradwyo cyllid pontio i gyfarch y bwlch fydd yn parhau i fodoli ar ôl gweithredu ar ii uchod hyd nes y bydd casgliadau’r peilot yn wybyddus.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Gareth Thomas  

 

PENDERFYNWYD

 

Penderfynwyd i:

  1. Weithredu cynllun peilot o strwythur staffio o athro a chymhorthydd gan gynyddu’r gymhareb athro : disgybl mewn un Canolfan Iaith am gyfnod o flwyddyn, gan ei fonitro’n ofalus er mwyn canfod a ydyw yn cael effaith ar ansawdd yr addysg a chyrhaeddiad y plant
  2. Diddymu lwfans CAD i athrawon ymhob Canolfan Iaith, ynghyd ag ymgorffori’r ôl-ofal yn rhan o ddarpariaeth graidd y Canolfannau Iaith, gan ddiddymu’r swydd ôl-ofal sydd yn bodoli ar hyn o bryd.
  3. Er mwyn prynu amser i ystyried canlyniadau’r peilot, cymeradwyo cyllid pontio i gyfarch y bwlch fydd yn parhau i fodoli ar ôl gweithredu ar ii uchod hyd nes y bydd casgliadau’r peilot yn wybyddus.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y bydd angen penderfynu sut y bydd y Cyngor yn cyfarch yr angen i leihau £96,000 o gyllideb y Canolfannau Iaith. Tynnwyd sylw i’r faith fod gwaith arbennig yn cael ei wneud yn y canolfannau iaith.

 

Ychwanegwyd fod ymgynghoriad mewnol wedi ei gynnal gyda’r staff, undebau ac mewn amrywiol gyfarfodydd y Cyngor. Nodwyd cefndir y Canolfannau Iaith gan nodi eu bod wedi ei gyllido gan grant gan Fwrdd yr Iaith gydag arian cyfatebol gan y Cyngor. Mynegwyd pan ddiddymwyd Bwrdd yr Iaith fod Grant y Gymraeg mewn Addysg, gan Lywodraeth Cymru wedi cyllido’r Canolfannau. Ychwanegwyd fod Llywodraeth Cymru wedi dod a 11 o’r grantiau addysg o dan un pennawd Grant Gwella Addysg, a oedd yn cynnwys Grant y Gymraeg. Mynegwyd fod y Grant Gwella Addysg ers 2014/15 wedi bod yn derbyn gostyngiad blynyddol, ac wrth ystyried chwyddiant mae’r toriad mewn termau real yn 34%, ond ychwanegwyd fod y Canolfannau Iaith dros y blynyddoedd wedi eu gwarchod yn gyfan gwbl drwy’r holl doriadau.  Mynegwyd yn 2018/19 fod 10% o doriad yn y Grant Gwella addysg gan Lywodraeth Cymru a olygai diffyg o £61,000 yng nghyllidebau’r Canolfannau Iaith. Nodwyd fod y Cyngor wedi llwyddo i bontio’r diffyg hwn am eleni.

 

Tynnwyd sylw at y Cyfnod Sylfaen sydd wedi gweld gostyngiad o 32% ers 2014/15 sydd yn cyfateb a £1.2miliwn neud oddeutu 70 o gymorthyyddion dosbarth. Mynegwyd fod gwaith arbennig o drochi plant yn yr iaith yn digwydd yn y Cyfnod Sylfaen yn ogystal. Mynegwyd er bod y setliad gan Lywodraeth Cymru am eleni yn niwtral ychwanegwyd mewn termau real fod toriad gan fod chwyddiant mewn cyflogau a Phensiynau. O ganlyniad i hyn nodwyd fod angen ail strwythuro er mwyn bod yn gost effeithlon.

 

Mynegwyd mai ymgynghoriad mewnol sydd wedi ei gynnal, gan ddilyn camau Adnoddau Dynol. Nodwyd restr o fudiadau ac unigolion y maer Aelod Cabinet ac Adran Addysg wedi derbyn gohebiaeth ganddynt mewn perthynas a’r Canolfannau Iaith sef Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Cylch yr Iaith, Popeth Cymraeg, CYDAG, RHAG, Cynghorau Tref a Chymuned, Canghennau Merched y Wawr ac nifer uchel o unigolion. Tynnwyd sylw at y tri maes pryder oedd wedi codi yn yr ohebiaeth yma sef gwrthwynebu'r newid, newid mewn demograffeg ac ansawdd yr addysg (pe bai newid i’r strwythur).

 

Nododd y  Pennaeth Addysg a'r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Garem Jackson

7.

ADOLYGU CYFANSODDIAD PWYLLGOR CYNGOR YMGYNGHOROL SEFYDLOG ADDYSG GREFYDDOL GWYNEDD pdf eicon PDF 124 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd newid aelodaeth Grŵp A yn y cyfansoddiad fel a nodi’r isod:

-        Grŵp A - Cristnogaeth - cadw yn 6

Cynnig gwahodd un cynrychiolydd o’r credoau

Bwdïaeth, Islam, Hindŵaeth, Iddewiaeth, Siciaeth a’r Dyneiddwyr

-        Grŵp B - Cynrychiolaeth Athrawon a Phenaethiaid - cadw yn 5

-        Grŵp C - Aelodau Etholedig - cadw yn 7

-        Cyfetholedig - Pwyllgor CYSAG i gadw’r hawl i gyfethol aelodau

-        3 pleidiais sydd sef 1 i bob Grŵp - nid oes pleidlais gan yr aelodau Cyfetholedig

 

Penderfynwyd caniatáu cais y Dyneiddwyr i fod yn rhan o Grŵp A ar bwyllgor CYSAG Gwynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

 

Penderfynwyd newid aelodaeth Grŵp A yn y cyfansoddiad fel a nodi’r isod:

-        Grŵp A - Cristnogaeth - cadw yn 6

Cynnig gwahodd un cynrychiolydd o’r credoau

Bwdïaeth, Islam, Hindŵaeth, Iddewiaeth, Siciaeth a’r Dyneiddwyr

-        Grŵp B - Cynrychiolaeth Athrawon a Phenaethiaid - cadw yn 5

-        Grŵp C - Aelodau Etholedig - cadw yn 7

-        Cyfetholedig - Pwyllgor CYSAG i gadw’r hawl i gyfethol aelodau

-        3 pleidiais sydd sef 1 i bob Grŵp - nid oes pleidlais gan yr aelodau Cyfetholedig

 

Penderfynwyd caniatáu cais y Dyneiddwyr i fod yn rhan o Grŵp A ar bwyllgor CYSAG Gwynedd.

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi nad yw’r Cyngor wedi ystyried cyfansoddiad CYSAG ers 1996. Ychwanegwyd fod llythyr y Gweinidog Addysg ym Mai 2018 yn cadarnhau y gellir penodi cynrychiolwyr o systemau cred anghrefyddol i Grŵp A er mwyn sicrhau fod CYSAG yn adlewyrchu creadau’r cymunedau. Mynegwyd fod cais wedi dod gan Ddyneiddwyr Bangor i ymuno fel aelod / aelodau o Grŵp A ar bwyllgor CYSAG Gwynedd.

 

Mynegwyd wrth ystyried cais Dyneiddwyr i ymuno fel aelod o Grwp A, ei bod yn amserol i roi ystyriaeth i gredoau eraill er mwyn rhoi sylw i amrywiaeth o gredoau ar bwyllgor CYSAG

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Tynnwyd sylw at y ffaith fod y niferoedd o gredoau tu hwnt i Gristnogaeth sydd yn aelodau o CYSAG yn isel iawn, ond mynegwyd fod CYSAG yn adlewyrchu'r sefyllfa ar draws y sir.

 

 

 

Awdur: Garem Jackson

8.

CYCHWYN TRAFODAETH LEOL AR AGOR YSGOL GYNRADD NEWYDD YNG NGHRICIETH pdf eicon PDF 514 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd

a)    Cymeradwyo’r hawl i gychwyn trafodaethau lleol er mwyn adnabod opsiynau ar gyfer adeiladu ysgol gynradd newydd yng Nghricieth fel canlyniad i gyflwr gwael adeiladau presennol Ysgol Treferthyr.

b)    Cymeradwyo cynnwys Ysgol Llanystumdwy yn y trafodaethau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd

a)    Cymeradwyo’r hawl i gychwyn trafodaethau lleol er mwyn adnabod opsiynau ar gyfer adeiladu ysgol gynradd newydd yng Nghricieth fel canlyniad i gyflwr gwael adeiladau presennol Ysgol Treferthyr.

b)    Cymeradwyo cynnwys Ysgol Llanystumdwy yn y trafodaethau lleol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod angen cymeradwyo’r hawl i gychwyn trafodaethau lleol er mwyn adnabod opsiynau ar gyfer adeiladau ysgol gynradd newydd yng Nghricieth, ac i gymeradwyo i gynnwys Ysgol Llanystumdwy yn y trafodaethau.

 

Mynegwyd fod adeilad Ysgol Treferthyr mewn cyflwr gwael ac mae’r arolygon cyflwr wedi adnabod sawl mater o ran diffygion sylweddol i’r adeiladwaith sydd wedi dynodi fod yr ysgol yng nghategori C o ran cyflwr. Ychwanegwyd fod Llywodraeth Cymru bellach wedi cychwyn ail wedd Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif (Band B) a fydd yn cychwyn yn Ebrill 2019. Mynegwyd fod y Cyngor wedi cyflwyno cais yn dilyn cynnal ymarferiad blaenoriaethu gan nodi fod gwella darpariaeth gynradd yng Nghricieth wedi cael ei adnabod yn y cais hwn. Nodwyd fod yr adran wedi dysgu o don gyntaf y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif (Band A), sef yn dilyn cael adeiladau newydd i ysgolion  fod niferoedd yr ysgol yn dueddol o godi. O ganlyniad i hyn, nodwyd, bydd niferoedd y disgyblion ar gyfer y ceisiadau yn mynd ar niferoedd yn y dalgylch yr ysgol yn hytrach na’r niferoedd yn yr ysgol pan mae’r cais yn cael ei lunio.

 

Nodwyd fod Ysgol Llanystumdwy gyda nifer o blant y dalgylch Cricieth yn mynychu a nodwyd fod trafodaethau cychwynnol wedi eu cynnal gyda’r Corff Llywodraethol, Staff a Rheini i drafod effaith posib o adeiladu ysgol newydd. O ganlyniad i’r trafodaethau, mynegwyd fod y Llywodraethwyr wedi nodi eu bod yn awyddus i fod yn rhan o’r trafodaethau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Holwyd os bydd cael ysgolion y dalgylch yn rhan o’r trafodaethau yn ychwanegu at y broses statudol. Nodwyd fod cynnal y trafodaethau gydag Ysgol Llanystumdwy am ychwanegu at y gwaith, gan y bydd angen dilyn Cod Trefniadaeth Ysgolion.

-        Diolchwyd i’r Cynghorydd Gareth Thomas am ei waith tra’n aelod Cabinet dros Addysg a diolchwyd i staff yr Adran Addysg

Awdur: Garem Jackson

9.

ARBEDION EFFIETHLONRWYDD PELLACH 2019-20 pdf eicon PDF 57 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd defnyddio £1,666,560 o’r Gronfa Trawsffurfio er mwyn ad-dalu’r benthyciad a ddefnyddir i gyflawni’r cynllun lampau LED ac i bontio cyfnod cyflawni’r cynllun er mwyn cymryd y cyfan o’r arbediad o £184,500 i ystyriaeth yn 2019/20

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd defnyddio £1,666,560 o’r Gronfa Trawsffurfio er mwyn ad-dalu’r benthyciad a ddefnyddir i gyflawni’r cynllun lampau LED ac i bontio cyfnod cyflawni’r cynllun er mwyn cymryd y cyfan o’r arbediad o £184,500 i ystyriaeth yn 2019/20.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai mater gweddol dechnegol oedd yn cael ei drafod heddiw. Mynegwyd ei fod yn awyddus fod y Cabinet yn cytuno i ddefnyddio £1,666,560 o’r Gronfa Trawsffurfio er mwyn ad-dalu’r benthyciad a ddefnyddir i gyflawni’r cynllun lampau LED ac i bontio cyfnod cyflawni’r cynllun er mwyn cymryd yr arbediad o £184,500 i ystyriaeth yn 2019/20.

 

Mynegwyd fod  Strategaeth Ariannol y Cyngor yn seiliedig ar gyflawni cyfres o arbedion er mwyn cyfyngu’r cynnydd yn y Dreth Cyngor i 5.8%. Ychwanegwyd er mwyn gallu cyfyngu’r cynnydd mae’r Strategaeth yn rhagdybio fod angen darganfod arbedion effeithlonrwydd pellach o £500,000. Mynegwyd fod newid y drefn ar gyfer ad-dalu’r cynllun gosod lampau LED i weddill goleuadau stryd y sir yn un ffordd o ddarganfod arbedion effeithlonrwydd pellach.

 

Nodwyd mai’r bwriad ar hyn o bryd yw cael benthyciad gan Salix i ariannu’r gwaith gan ad-dalu’r benthyciad o’r arbedion fydd yn cael ei gwireddu. Mynegwyd fod gwahaniaeth rhwng yr arbedion y bydd yn cael eu cyflawni a’r proffil ad-dalu a bydd modd gwireddu £45,900 o’r arbediad flwyddyn nesaf yn sgil y gwahaniaeth yma ond y bydd yn tyfu yn sylweddol ar ôl talu’r benthyciad yn ôl yn 2032/33. Ategwyd fod y Cynllun yn cael ei wireddu dros gyfnod o 3 blynedd ac felly bydd angen pontio’r cyfnod cyflawni i gael yr arbediad yn llawn o 1 Ebrill 2019, ac felly bydd angen £1.39m ar gyfer ad-dalu a £0.28m ar gyfer y cyfnod pontio

Awdur: Dilwyn Williams

10.

GOSOD RHAGLEN GYFLALAF 2019/20, 2020/21 a 2021/22 pdf eicon PDF 56 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gosodwyd y cynlluniau a ddangosir yn Atodiad A yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer y cyfnod tair blynedd 2019/20; 2020/21 a 2021/22.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Gosodwyd y cynlluniau a ddangosir yn Atodiad A yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer y cyfnod tair blynedd 2019/20; 2020/21 a 2021/22.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd ar adroddiad gan nodi fod angen gosod y cynlluniau ar gyfer rhaglen gyfalaf y Cyngor am y tair blynedd nesaf. Mynegwyd fod y Cyngor wedi mabwysiadu Cynllun Asedau ar gyfer y 10 mlynedd nesaf ar 7 Mawrth. Ategwyd, yn arferol, fod y rhaglen gyfalaf yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad ar y gyllideb, ond gan nad oedd y Cyngor wedi mabwysiadu’r Cynllun Asedau nid oedd modd gwneud hynny mewn manylder.

 

Nodwyd fod ymgynghoriad wedi bod gyda’r adrannau i sefydlu proffil tebygol ar gyfer y cynlluniau unigol sydd yn y Cynllun Asedau ac fe argymhellwyd fod y Cabinet yn cymeradwyo gosod y cynlluniau yn y rhaglen am y tair blynedd nesaf.

 

Mynegwyd nad yw’r swm ar gyfer 2019/20 yn cyfateb i’r £11.728m sydd weld ei nodi yn yr adroddiad am y gyllideb. Ychwanegwyd mai'r rheswm dros hyn yw nad yw’r cynlluniau yn ddigon aeddfed i’r cychwyn tan 2021/22. O ganlyniad i hyn, nodwyd fod gwaith ail broffilio wedi ei wneud i gyd fynd a’r gwariant a bydd y gyllideb yn cael ei addasu.

 

 

Awdur: Caren Rees Williams

11.

BLAEN RAGLEN CABINET pdf eicon PDF 58 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Blaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo’r Blaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod.