skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cyng. Catrin Wager.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan Cyng. Nia Jeffreys ar gyfer eitem 8 gan ei bod yn aelod o’r Grwp Llywio ar gyfer cynllun Dementia Go. Roedd yn eitem a oedd yn rhagfarnu a bu iddi adael y cyfarfod ar gyfer yr eitem. 

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

 

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

5.

COFNODION Y CYFARFOD GYNHALIWYD AR 7 MAI 2019 pdf eicon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar y 7 Mai 2019 fel rhai cywir.

6.

YSGOL LLANAELHAEARN pdf eicon PDF 504 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Rees Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd rhoi caniatâd ‘r Adran Addysg i gynnal cyfarfodydd ffurfiol gyda’r corff llywodraethol a budd-ddeiliaid perthnasol eraill i drafod ystod o opsiynau posibl ar gyfer dyfodol yr ysgol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Cemlyn Rees Williams

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd rhoi caniatâd i‘r Adran Addysg i gynnal cyfarfodydd ffurfiol gyda’r corff llywodraethol a budd-ddeiliaid perthnasol eraill i drafod ystod o opsiynau posibl ar gyfer dyfodol yr ysgol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adran yn awyddus i gynnal cyfarfodydd ffurfiol a’r Corff Llywodraethol a budd-ddeiliaid perthnasol i drafod ystod o opsiynau posib ar gyfer dyfodol yr ysgol. Mynegwyd fod pryderon wedi codi am y cwymp sylweddol yn y nifer o ddisgyblion yn yr ysgol, a bod amcangyfrifon yn dangos fod y niferoedd yn mynd i leihau ymhellach.

 

Nodwyd fod y trafodaethau cychwynnol wedi ei cynnal gyda’r Bwrdd Llywodraethol a phwysleisiwyd mai ymgynghoriad fydd yn cael ei gynnal er mwyn adnabod a thrafod opsiynau posib. Ychwanegodd y Swyddog Addysg fod gan yr ysgol capasiti o 53 o ddisgyblion, ac ar hyn o bryd fod y niferoedd wedi disgyn i 11. Ychwanegwyd fod niferoedd wedi lleihau ers 2013 gyda nifer o blant yn y dalgylch yn mynychu ysgolion eraill.

 

Mynegodd yr Aelod Lleol fod Ysgol Llanaelhaearn yn ysgol fechan sydd wedi gweithio yn galed dros y blynyddoedd diwethaf i godi safon addysg a chyrhaeddiad y plant. Nododd ei fod yn siomedig a trist am sefyllfa’r ysgol a bod y Llywodraethwyr yn gweithio yn galed i geisio cynyddu nifer y plant yn yr ysgol. Ychwanegodd ei fod yn ymwybodol y bydd problemau cyllid sylweddol gan yr ysgol os na fydd niferoedd yn cynyddu, ond gofynnodd i’r aelodau Cabinet i ystyried ansawdd yr addysg a hapusrwydd y plant tra’n trafod yr opsiynau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Holwyd gyda newid yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion y llynedd a fydd hyn yn addasu'r ffordd y bydd yr adran yn gallu edrych ar opsiynau. Nodwyd fod yr ysgol yn disgyn o dan gategori Trefn Cau Ysgolion Gweledig, ac felly rhan o’r drefn yna fydd angen edrych ar bob opsiwn gan roi gwir ystyriaeth i effaith cau ar addysg, ar y gymuned ac ar deithio i ysgolion eraill.

¾     Nodwyd o ran amserlen cyfarfodydd y bydd angen cyfarfod cyntaf cyn diwedd tymor yr haf, ac yna’r ail gyfarfod ym mis Medi yn dilyn gwneud gwaith ymchwil pellach yn ystod yr haf

Awdur: Gwern ap Rhisiart

7.

HYBU ANNIBYNIAETH DRWY GYNYDDU CAPASITI, DATBLYGU GWASANAETHAU A NEWID DIWYLLIANT O FEWN DARPARIAETH THERAPI GALWEDIGAETHOL pdf eicon PDF 109 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd dyrannu £116,000 o adnoddau un tro o’r Gronfa Trawsffurfio ar gyfer ariannu swydd Arweinydd Therapi Galwedigaethol fydd â chyfrifoldeb am arwain a datblygu'r gwasanaeth Therapi Galwedigaethol ar draws yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant (cyfnod o 2 flynedd).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig 

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd dyrannu £116,000 o adnoddau un tro o’r Gronfa Trawsffurfio ar gyfer ariannu swydd Arweinydd Therapi Galwedigaethol fydd â chyfrifoldeb am arwain a datblygu'r gwasanaeth Therapi Galwedigaethol ar draws yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant (cyfnod o 2 flynedd).

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adran yn gwneud cais un tro o’r Gronfa Trawsffurfio am £116,000 i ariannu swydd Arweinydd Therapi Galwedigaethol am gyfnod o ddwy flynedd. Ychwanegwyd mai’r rhesymeg dros hyn yw’r agenda o newid sydd gan yr Adran yn benodol yn y maes ataliol ac i sicrhau ffyrdd i geisio cadw defnyddwyr gwasanaeth adref mor hir â phosib cyn mynd i ofal. Mynegwyd fod rôl Therapyddion Galwedigaethol yn allweddol i sicrhau cefnogaeth yn y cartrefi.  Ategwyd fod y rôl newydd yn allweddol er mwyn newid diwylliant o fewn y gwasanaeth er mwyn sicrhau fod y dinesydd yn ganolog i’r gwasanaeth sydd yn cael ei gynnig iddynt.

 

Ychwanegodd y Uwch Reolwr Gwasanaethau Oedolion y bydd y rôl yn trawsnewid y gwasanaeth gan roi pwyslais penodol ar waith ataliol. Ychwanegwyd y bydd y rôl yn gwneud gwaith o ail fodelu ac integreiddio rolau therapi rhwng yr Awdurdod Lleol a’r bwrdd Iechyd i sicrhau fod adnoddau presennol yn eu defnyddio yn y modd mwyaf effeithiol ac y bydd y gwasanaeth yn fwy person canol i’r defnyddiwr gwasanaeth.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Holwyd os yw’r Bwrdd Iechyd yn barod i gyd-weithio yn nes gyda’r Cyngor. Nodwyd fod gweledigaeth gyson gan y Pwyllgor Integredig Rhanbarthol i weithio yn nes ac ychwanegwyd fod angen edrych ar brosesau ar y cyd i leihau dyblygu.

-        Dangoswyd cefnogaeth i’r cynllun gan nodi ei fod yn cyd-fynd a blaenoriaethau'r Cabinet. Ychwanegwyd pwysigrwydd gwaith ataliol gan fod pethau bach yn gwneud llawer o wahaniaeth i sicrhau fod pobl yn gallu aros adref am gyfnod hwy.

-        Pwysleisiwyd mai cais un tro am gyfnod o 2 flynedd yw’r cais yma gan ychwanegu y bydd angen ail edrych ar y cynllun ar ddiwedd y cyfnod.

-        Holwyd os bydd posibilrwydd o brentisiaethau o fewn y maes, nodwyd fod trafodaethau yn cael eu cynnal a Phrifysgol Glyndŵr er mwyn hyfforddi staff yn y maes i ennill cymwysterau Therapydd Galwedigaethol.

-        Cadarnhawyd fod y Cabinet, wrth dderbyn adroddiadau ar gyfrifon terfynol 2018/19 yng nghyfarfod 21 Mai, wedi adolygu’r cronfeydd a darpariaethau, a throsglwyddo £3m i’r Gronfa Trawsffurfio ar gyfer y prif flaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor.  Felly, bod arian digonol wedi’i neilltuo yno ar gyfer ariannu’r gofynion un-tro gerbron yma, sef Hybu Annibyniaeth trwy gynyddu capasiti Therapi Galwedigaethol, a’r cynllun gwasanaethau Cefnogi Dementia yn y Gymuned, fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i rai o drigolion Gwynedd

Awdur: Aled Davies

8.

CAIS AM ADNODDAU UN TRO O'R GRONFA TRAWSFFURFIO I ARIANNU Y CYNLLUN GWASANAETHAU CEFNOGI DEMENTIA YN Y GYMUNED AM GYFNOD O FLWYDDYN pdf eicon PDF 77 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng, Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd dyrannu £97,660 o’r Gronfa Trawsffurfio i ariannu Cynllun Gwasanaethau Cefnogi Dementia yn y Gymuned (sy’n cynnwys Dementia Go), i ariannu 2 swydd llawn amser (ym Mhwllheli a Porthmadog) a dwy swydd 7awr yr wythnos wedi eu lleoli yn Nhywyn a Chaernarfon hyd at 31 Mawrth, 2020.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Dafydd Meurig

 

            PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd dyrannu £97,660 o’r Gronfa Trawsffurfio i ariannu Cynllun Gwasanaethau Cefnogi Dementia yn y Gymuned (sy’n cynnwys Dementia Go), i ariannu 2 swydd llawn amser (ym Mhwllheli a Porthmadog) a dwy swydd 7awr yr wythnos wedi eu lleoli yn Nhywyn a Chaernarfon hyd at 31 Mawrth, 2020.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y cais am arian yn dilyn cyfnod peilot llwyddiannus o ddwy flynedd. Mynegwyd fod elfen Dementia Go yn rhaglen a ddatblygwyd yng Ngwynedd a oedd yn cyfrannu at fywydau pobl a’u gofalwyr sydd yn byw a dementia. Ychwanegwyd fod Dementia Go yn gyfle i ddod a phobl sydd yn byw a dementia at ei gilydd yn gymdeithasol ac yn gymorth i cynorthwyo pobl i aros yn eu cartrefi am gyfnod hwy.

 

Nodwyd fod 11 o grwpiau Dementia Go yn cael ei gynnal ar draws y sir gyda 4 aelod o staff penodol i’r cynllun. Ategwyd fod y pedwar aelod o staff yn bencampwyr yn y maes ac yn rhannu gwybodaeth ac yn trafod dementia yn y gymuned. Mynegwyd fod pwyslais ar ymarfer corfforol drwy sesiwn Dementia Go, a drwy ddod a phobl at ei gilydd yn lleihau unigedd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Tynnwyd sylw at yr elfen o ddatblygu technoleg yn yr adroddiad, a holwyd pa fath o ddatblygiadau a fyddai’r rhain. Mynegwyd fod y gwasanaeth wedi datblygu teclyn sydd yn rhoi dealltwriaeth i bobl yn y gymuned drwy declynnau rith wirionedd sut beth yw byw gyda dementia.

¾     Nodwyd fod yr arian ar gyfer un tro yn unig, holwyd os oes modd hyfforddi staff o fewn Canolfannau Byw’n Iach fel bod modd iddynt barhau i gynnal y sesiynau. Mynegwyd fod staff Dementia Go yn cynnal sesiynau hyfforddiant ac yn benodol mewn cartrefi preswyl.

¾     Pwysleisiwyd fod ymchwil yn cael ei wneud ac y dylid yn ystod y flwyddyn i werthuso’r cynllun yn fwy ffurfiol i’n galluogi i ystyried a ddylid ei gyllido yn dilyn y flwyddyn hon.

 

 

Awdur: Aled Davies