skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

5.

COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 21 MAI AC Y 4 MEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 83 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar y 21 Mai 2019 ac 4 Mehefin 2019 fel rhai cywir.

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL SAFONAU pdf eicon PDF 90 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr Adroddiad Blynyddol ac awdurdodi ei chyhoeddi yn unol â gofynion Safonau Iaith Cyngor Gwynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd yr Adroddiad Blynyddol ac awdurdodi ei chyhoeddi yn unol â gofynion Safonau Iaith Cyngor Gwynedd.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn adrodd ar weithrediad y Cyngor i gydymffurfio a safonau Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â’r Gymraeg. Nodwyd fod y Cyngor ymhell uwchben y safonau disgwyliedig gan Gomisiynydd y Gymraeg, gan ychwanegu fod y Cyngor yn gosod y safon ar gyfer Cymru. Mynegwyd ei fod yn ofyniad i greu ac i gyhoeddi’r adroddiad.

 

Ychwanegwyd ei bod yn ofynion penodol i adrodd ar unrhyw waith sydd yn sicrhau cydymffurfiaeth, aelodau staff sydd yn gallu’r Gymraeg, hyfforddiant sydd yn cael eu cynnal, cwynion a sut mae gofynion iaith yn cael eu cofnodi. 

 

Ychwanegodd y Swyddog Datblygu’r Iaith Gymraeg nad oedd y data ar gyfer nifer aelodau o staff yn llawn pan gyhoeddwyd yr adroddiad ond cadarnhawyd fod 94% o staff gallu’r Gymraeg yn rhugl. Pwysleisiodd fod hyn yn dangos fod polisi recriwtio'r cyngor yn un da iawn. Tynnwyd sylw at ddata Hyfforddiant sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a nodwyd fod cynnydd wedi bod yn y cyrsiau sydd ar gael yn ddwyieithog ac yn Saesneg. Ychwanegwyd y bydd y Gwasanaeth yn edrych ymhellach i mewn i hyn.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Tynnwyd sylw at y ffaith o’r 200 o staff sydd ddim yn rhugl yn yr iaith fod 172 ohonynt wedi cael hyfforddiant bellach.

¾     Nodwyd, o ran cwynion, fod un o’r cwynion wedi dod i’r Cyngor drwy law'r Comisiynydd Iaith. Amlinellwyd proses y Comisiynydd gan bwysleisio ei bod yn gallu bod yn broses hir. Er hyn mynegwyd fod y Comisiynydd newydd wedi awgrymu y bydd addasiadau i’r drefn yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.

¾     Tynnwyd sylw at Wobr Dafydd Orwig gan dynnu sylw yn benodol at y Gwasanaeth Iechyd, Diogelwch a Llesiant yn eu gwaith yn sicrhau adnoddau Cymraeg ar gyfer hyfforddiant IOSH.

¾     Nodwyd o ran hyfforddiant nad yw pob hyfforddiant ar gael drwy’r Gymraeg, mynegwyd fod angen adolygiad ar y maes yma er mwyn adnabod a chreu cyrsiau arbenigol mewn rhai meysydd.

Awdur: Gwenllian Williams

7.

RHEOLAETH STAD MANDDALIADAU'R CYNGOR pdf eicon PDF 118 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd ymateb i gasgliadau’r Pwyllgor Craffu Cymunedau drwy:

¾     Gefnogi’r Aelod Cabinet i sefydlu un Panel Ymgynghorol Manddaliadau Sirol gyda chyfansoddid clir a chylch gorchwyl ehangach i gynorthwyo’r Aelod Cabinet ynglŷn â’i swyddogaethau rheolaeth y stad manddaliadau

¾     Cyfeirio unrhyw warged a ddaw o’r stad yn y dyfodol, sydd uwch law y swm sydd eisoes yn rhan o gyllideb refeniw’r Gwasanaeth ar hyn o bryd, gaei ei ail fuddsoddi o fewn y Stad Manddaliadau, gan ddefnyddio cyfrif masnachol a chronfa wedi ei neilltuo i’r perwyl.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith 

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd ymateb i gasgliadau’r Pwyllgor Craffu Cymunedau drwy:

¾     Gefnogi’r Aelod Cabinet i sefydlu un Panel Ymgynghorol Manddaliadau Sirol gyda chyfansoddid clir a chylch gorchwyl ehangach i gynorthwyo’r Aelod Cabinet ynglŷn â’i swyddogaethau rheolaeth y stad manddaliadau

¾     Cyfeirio unrhyw warged a ddaw o’r stad yn y dyfodol, sydd uwch law y swm sydd eisoes yn rhan o gyllideb refeniw’r Gwasanaeth ar hyn o bryd, gaei ei ail fuddsoddi o fewn y Stad Manddaliadau, gan ddefnyddio cyfrif masnachol a chronfa wedi ei neilltuo i’r perwyl.

 

TRAFODAETH

`

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod angen addasu’r penderfyniad yn dilyn trafodaeth bellach a’r adran Gyllid. Mynegwyd fod angen tynnu’r cais i gomisiynu gwaith i ystyried os oes buddiannau ariannol i sefydlu cwmni i leoli’r manddaliadau yn ei ôl.

 

Nodwyd nad oedd Adolygiad o’r Stad Manddaliadau wedi ei wneud ers 2008. Ychwanegwyd fod y mater wedi  cael i gyflwyno fel adroddiad i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau. Tynnwyd sylw ar gasgliadau’r Pwyllgor Craffu gan nodi’r angen i greu un Panel Ymgynghorol Manddaliadau ar draws y Sir gyda chyfansoddiad a chylch gorchwyl. Ynghyd a’r hawl i’r Gwasanaeth gyfeirio unrhyw elw a ddaw o’r stad i gael ei ail-fuddsoddi o fewn y Stad Manddaliadau.

 

Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Eiddo fod yr adroddiad yn cynnig ffordd ymlaen i’r Gwasanaeth Man ddaliadau. Ymhelaethwyd ar gasgliadiau a dderbyniwyd gan y Pwyllgor Craffu gan nodi fod y Gwasanaeth eisoes wedi gweithredu i ymateb y Pwyllgor o ran cynyddu’r adnodd staff sydd ar gael i reoli’r manddaliadau. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Mynegwyd fod y Manddaliadau yn darparu gwaith a llety i bobl a fydd yn cyfrannu at gynnal cymunedau gweledig yng Ngwynedd.

-        Nodwyd fod yr aelodau yn falch o weld yr adroddiad sydd yn mynegi barn yr aelodau craffu. Ychwanegwyd eu bod yn cyd-fynd a’r syniad o dynnu’r cais yn ôl ar gyfer creu cwmni ar gyfer Gwasanaeth gyda chyn lleied o staff.

-        Tynnwyd sylw fod angen ail-edrych ar eiriad y penderfyniad gan nodi fod angen i unrhyw warged a ddaw o’r stad yn cael ei roi mewn cronfa wedi ei neilltuo i ail fuddsoddi o fewn y Stad Manddaliadau

Awdur: Dafydd Gibbard

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CYNGOR GWYNEDD 2018/19 pdf eicon PDF 68 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2018/19 ac argymell i’r Cyngor llawn ei fabwysiadu.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

            PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2018/19 ac argymell i’r Cyngor llawn ei fabwysiadu.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi sydd yn olrhain cynnydd y Cyngor. Ychwanegwyd fod yr Adroddiad yn pwysleisio blaenoriaethau’r Cyngor sydd i’w gweld yng Nghynllun y Cyngor. Tynnwyd sylw at y bwlch sydd i’w weld yn yr adroddiad o ran Rhagair Arweinydd Cyngor Gwynedd gan nodi y bydd yn cael ei greu yn dilyn y drafodaeth hon.

 

Nodwyd yn wahanol i’r llynedd fod perfformiad o ran arddull yn cael ei bwysleisio ar ffurf stori gyda llai o bwysau ar rifau a data. Mynegwyd fod yr adroddiad yn grynhoad o waith Herio Perfformiad y Cyngor sydd yn cael ei wneud ar hyd y flwyddyn. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Tynnwyd sylw at berfformiad yr Adran Addysg gan nodi fod 43.8% o’r disgyblion sydd â hawl i brydau ysgol am ddim wedi ennill 5 gradd TGAU A* - C gan fynegi fod y ffigwr hwn yn un i ymfalchïo ynddo.

¾    Nodwyd y dylai’r rhagair fod yn dathlu llwyddiannau’r Cyngor am eleni.

¾    Mynegwyd o ran Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant fod yr Aelod Cabinet yn hapus iawn gyda’r cynnydd sydd yn cael ei wneud i Flaenoriaeth Gwella 6 - Sicrhau fod gennym wasanaethau gofal sy’n helpu pobl i fyw eu bywydau fel y dymunant. Mynegwyd fod 5 Tîm Lleol wedi ei greu i weithio ar y cyd a’r gwasanaeth Iechyd i  ddarparu gwasanaethau sydd ar gyfer anghenion a lles y dinesydd.

¾    Pwysleisiwyd cynllun Hafod y Gest fel un o lwyddiannau'r Cyngor am eleni.

¾    Nodwyd fod ffigwr o 2filiwn o bobl wedi ymweld â’r wefan yn ystod y flwyddyn gyda chynnydd yn y nifer o ddefnyddwyr sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth Hunan Wasanaeth.

¾    Tynnwyd sylw at y gwaith da sydd yn cael ei wneud ar y cyd rhwng y Cyngor, Gwasanaeth Iechyd ac y Trydydd Sector.

¾    Mynegwyd o ran ystadegau ailgylchu fod Cyngor Gwynedd bellach yn ailgylchu 63% o wastraff y sir, ac ychwanegwyd eu bod yn ailgylchu yn gyfrifol ac yn cael ei wneud o fewn Prydain.

¾    Pwysleisiwyd fod rhaglen newid goleuadau stryd bellach yn ei ail ran sydd nid yn unig yn lleihau costau ond yn lleihau allbwn carbon y sir.

 

Awdur: Dewi Wyn Jones

9.

POLISI GOSOD TAI CYFFREDIN GWYNEDD pdf eicon PDF 79 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Yn ddarostyngedig i addasu geiriad paragraffau 2.23 i 2.25 i sicrhau fod gallu sefydliad i weithredu fel ymddiriedolwr ymgeiswyr 6-17 oed yn eglur, cymeradwywyd Polisi Gosod Tai Cyffredin newydd o osod tai cymdeithasol yn seiliedig ar adlewyrchu anghenion ymgeiswyr drwy eu rhoi mewn band yn hytrach na dyrannu pwyntiau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Craig ab Iago

 

PENDERFYNIAD

 

Yn ddarostyngedig i addasu geiriad paragraffau 2.23 i 2.25 i sicrhau fod gallu sefydliad i weithredu fel ymddiriedolwr ymgeiswyr 6-17 oed yn eglur, cymeradwywyd Polisi Gosod Tai Cyffredin newydd o osod tai cymdeithasol yn seiliedig ar adlewyrchu anghenion ymgeiswyr drwy eu rhoi mewn band yn hytrach na dyrannu pwyntiau.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad  gan nodi ei fod yn adroddiad ar drefn gosod tai cymdeithasol ar draws Gwynedd. Ychwanegwyd fod Partneriaeth wedi ei sefydlu yn 2012 a leihawyd 4 cofrestr tai i fod yn un system ar gyfer y bartneriaeth. Mynegwyd fod y gofrestr tai wedi bod yn dyrannu o ran pwyntiau ond penderfynwyd fod angen arolwg annibynnol o drefniadau gosod tai er mwyn gweithredu system a oedd yn hawdd i’w ddeall ac yn symleiddio’r drefn i’r unigolyn.

 

Nodwyd fod y system newydd yn un a bandiau gyda 5 band gwahanol. Yn ychwanegol pwysleisiwyd y bydd unigolion a chyswllt a Gwynedd yn cael eu blaenoriaethu yn ôl y system bandiau newydd.  Ategwyd fod y system newydd yn arloesol ac yn profi eu bod yn ceisio cynorthwyo pobl leol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Croesawyd y polisi gan nodi ei fod yn gam mawr ymlaen i sicrhau tai i bobl leol. Anogwyd pobl i roi eu henwau ymlaen i allu cynllunio ar eu cyfer.

¾     Nodwyd fod newid polisi yn gallu codi problemau, felly holwyd a fydd adolygiad yn cael ei gynnal o’r polisi. Mynegwyd fod ymrwymiad i’w adolygu ymhen 12 mis. Ychwanegwyd yn ogystal eu bod wedi dysgu o’r ymgynghoriad a gafodd ei gynnal, fod panel yn cael ei greu a fydd yn gallu uchafu rhai achosion. O ran effaith mynegwyd y bydd mwyafrif o’r rhestr yn mynd i fand 2 gan nodi fod y band wedi ei hidlo i is-gategorïau.

¾     Tynnwyd sylw at bwynt 2.23 yn y Polisi sef y drefn ar gyfer Ymgeiswyr 16 ac 17 oed. Mynegwyd fod angen i ymgeiswyr o dan 18 oed ddarparu manylion oedolyn sy’n barod i fod yn Ymddiriedolwr, holwyd beth a fyddai’r camau os mai’r Cyngor yw’r rhiant corfforaethol gan fydd angen cefnogaeth a llety i’r bobl ifanc yma lwyddo. Nodwyd fod angen addasu’r cymal i nodi fel pwynt 2.24 fod ymddiriedolwyr yn sefyll am sefydliad neu berson.

¾     Mynegwyd pwysigrwydd o adael i’r cyhoedd wybod am y newid mewn polisi. Ychwanegwyd y bydd y bartneriaeth yn ymgysylltu a pawb ar y rhestr ac yn y gymuned mewn gwahanol ffyrdd fel eu bod yn ymwybodol o’r newid.

 

 

 

Awdur: Gareth Wyn Parri

10.

STRATEGAETH TAI - DYRANIAD ARIANNOL AR GYFER 2019/20 pdf eicon PDF 127 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo rhyddhau £1.25miliwn o’r Gronfa Premiwm Treth Cyngor ar gyfer y tri cynllun a nodir yn Atodiad 1 ar gyfer 2019/20.

 

                     

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Craig ab Iago

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo rhyddhau £1.25miliwn o’r Gronfa Premiwm Treth Cyngor ar gyfer y tri cynllun a nodir yn Atodiad 1 ar gyfer 2019/20.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y bydd y Strategaeth Tai yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor llawn yn y misoedd nesaf. Mynegwyd er mwyn sicrhau fod cynlluniau yn gallu cael eu cyflawni yn 2019/20 bydd angen sicrhau dyraniad arian.

 

Amlinellwyd y cynlluniau a fydd yn cael ei ariannu sydd yn cynnwys Llety Pwrpasol sydd yn gynllun arloesol i ddarparu unedau llety ar gyfer pobl sengl sydd heb fan aros i fyw, sef ‘pods’ sydd wedi cael sylw yn y wasg yn ddiweddar. Ynghyd a hyn tynnwyd sylw at Gynllun Tai Gwag a Cronfa Trwsio Tai. Ychwanegwyd fod mwy o gynlluniau i’w gweld yn y Strategaeth Tai

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd y bydd ariannu’r cynlluniau yma yn llenwi’r bwlch tan y bydd y Strategaeth Tai yn ei le.

 

 

 

Awdur: Arwel Wyn Owen

11.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYDRADDOLDEB 2018/19 pdf eicon PDF 74 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod angen sicrhau cydraddoldeb ar draws y Cyngor. Mynegwyd fod yr adroddiad yn dangos fod y gwaith sydd yn cael ei wneud o ran cydraddoldeb yn cyd-fynd ag amcanion y Cyngor.

 

Mynegwyd fod gwaith wedi ei wneud gyda Grŵp Craidd Cydraddoldeb a bod Swyddogion yn parhau i ddysgu am y maes drwy hyfforddiant. Mynegwyd fod cwrs rhagfarn ddiduedd yn cael ei gynnal gan y Cyngor. Pwysleisiwyd fod cydraddoldeb yn rhan greiddiol o waith y Cyngor.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Croeswyd yr adroddiad sydd yn pwysleisio’r gwaith da mae’r Cyngor yn ei wneud. Tynnwyd sylw at amcan 3 gan nodi fod angen sicrhau fod pobl o wahanol gefndiroedd yn aelodau etholedig o’r Cyngor.

 

 

 

Awdur: Delyth Gadlys Williams