skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. Cemlyn Williams a Cyng. Dilwyn Morgan.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Eitem 7 – Pris Cinio ysgol Cynradd 2019/20

Derbyniwyd datganiad o fuddiant gan y Cynghorwyr - Dyfrig Siencyn, Craig ab Iago, Nia Jeffreys, Gareth Thomas, Ioan Thomas a Catrin Wager gan fod ganddynt blant neu wyrion yn derbyn cinio ysgol mewn ysgolion cynradd. Ynghyd a’r Swyddogion - Garem Jackson a Bethan Griffith gan fod ganddynt blant yn derbyn cinio mewn ysgolion cynradd. Nid oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu felly roedd modd iddynt fod yn rhan o’r drafodaeth.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 25 MEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 83 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Tynnwyd sylw at gywiriad yn y rhestr presenoldeb a chytunwyd ei addasu.

 

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar y 25 Mehefin 2019 fel rhai cywir.

 

6.

GORCHYMYN GWARCHOD MANNAU CYHOEDDUS BANGOR pdf eicon PDF 115 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd

  1. Cymeradwyo ymgymryd â’r broses o ystyried cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) newydd ar gyfer ardal benodol yn Ninas Bangor, yn unol â’r Gorchymyn Arfaethedig drafft a atodwyd yn atodiad 1, ac i ddiddymu GORCHYMYN YFED ALCOHOL MEWN MANNAU CYHOEDDUS DYNODEDIG AR GYFER ARDALOEDD BANGOR A CHAERNARFON 2004 CYNGOR GWYNEDD (Gorchymyn Cyfredol) i’r graddau y mae’n berthnasol i Fangor
  2. Awdurdodi Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol i ymgymryd â phroses ymgynghori am gyfnod o 28 diwrnod, gan ddychwelyd i’r Cabinet am benderfyniad ynghylch a ddylid cyflwyno GDMC ym Mangor, yn ogystal ag unrhyw ddirprwyaeth gysylltiol, a diddymu’r Gorchymyn Cyfredol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd

  1. Cymeradwyo ymgymryd â’r broses o ystyried cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) newydd ar gyfer ardal benodol yn Ninas Bangor, yn unol â’r Gorchymyn Arfaethedig drafft a atodwyd yn atodiad 1, ac i ddiddymu GORCHYMYN YFED ALCOHOL MEWN MANNAU CYHOEDDUS DYNODEDIG AR GYFER ARDALOEDD BANGOR A CHAERNARFON 2004 CYNGOR GWYNEDD (Gorchymyn Cyfredol) i’r graddau y mae’n berthnasol i Fangor
  2. Awdurdodi Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol i ymgymryd â phroses ymgynghori am gyfnod o 28 diwrnod, gan ddychwelyd i’r Cabinet am benderfyniad ynghylch a ddylid cyflwyno GDMC ym Mangor, yn ogystal ag unrhyw ddirprwyaeth gysylltiol, a diddymu’r Gorchymyn Cyfredol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan fynegi fod Bangor yn ddinas amlddiwylliannol gyda naws Gymreig.  Ychwanegwyd fod llawer o ddatblygiadau yn digwydd o fewn y ddinas gyda llawer o dai gwag bellach yn ôl mewn defnydd.

 

Esboniwyd fod gorchymyn eisoes yn bodoli ym Mangor sydd yn gosod pwerau gorfodol i’r Heddlu. Ychwanegwyd fod yr Heddlu wedi awgrymu nad yw’r Gorchymyn presennol yn rhoi grymoedd digonol iddynt a chyflwynwyd tystiolaeth yn mynegi hyn. Pwysleisiwyd mai’r Cyngor sydd gan yr hawl greu gorchymyn ac yn dilyn trafodaethau gyda’r Heddlu a chael barn gyfreithiol fod y Cyngor yn awyddus i fwrw ymlaen gyda’r broses o greu Gorchymyn newydd.  Ategwyd mai’r cam nesaf fydd i gynnal ymgynghoriaeth cyhoeddus ar y mater cyn dod yn ôl i’r Cabinet i wneud penderfyniad llawn.

 

Ychwanegodd yr Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol yn dilyn trafodaethau am dros 6 mis gyda’r Heddlu fod y Cyngor yn ystyried fod pedwar o’r chwe chyfyngiad a amlinellwyd gan yr Heddlu yn addas i’w cynnwys yn y Gorchymyn Arfaethedig. Mynegwyd mai prif reswm dros greu'r Gorchymyn newydd oedd effaith ar fywyd trigolion sydd yn byw yn yr ardaloedd.

 

Mynegwyd fod yr Heddlu bellach a phrofiad o ddefnyddio gwahanol fodelau gorfodaeth ar draws y rhanbarth, ac felly yn ffafrio model gwahanol i’r model cosb benodedig. Ategwyd y bydd y drefn hon yn cael ei fonitro yn ofalus ac yn sicrhau fod yr awyrgylch yn gwella i’r unigolion a’r trigolion. Nodwyd fod yr amodau sydd wedi ei hychwanegu yn rhesymol.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Gofynnwyd am gadarnhad ‘na fydd y Gorchymyn yn cael ei ddefnyddio i ddelio a symud pobl ddigartref. Mynegwyd fod hyn yn un o’r chwe amod a gyflwynwyd gan yr Heddlu a bod y Cyngor wedi ei wrthod. Mynegwyd fod gwaith angen ei wneud i gynorthwyo pobol ddigartref a nodwyd fod hyfforddiant yn cael ei wneud gyda heddweision ar hyn o bryd i ddarparu cefnogaeth.

¾     Tynnwyd sylw at y map o droseddau yn ardaloedd Bangor gan nodi fod clwstwr uchel o droseddau ym Maesgeirchen - nodwyd fod cynlluniau arbennig gan yr Heddlu yn yr ardal yma i leihau trosedd.

 

Awdur: Catherine Roberts

7.

PRIS CINIO YSGOLION CYNRADD 2019/20 pdf eicon PDF 60 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Rees Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i beidio a chodi targed incwm cinio ysgolion cynradd yn unol a chwyddiant sydd yn golygu na fydd pris cinio ysgolion cynradd yn codi ym Medi 2019.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Garem Jackson 

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd i beidio a chodi targed incwm cinio ysgolion cynradd yn unol a chwyddiant sydd yn golygu na fydd pris cinio ysgolion cynradd yn codi ym Medi 2019.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi o ganlyniad i gynnydd mewn chwyddiant mae angen codi pris cinio ysgol mewn ysgolion cynradd 4.1% er mwyn cyrraedd y targed incwm. Ychwanegwyd drwy beidio codi’r pris bydd diffyg yn y gyllideb o £82,220.

 

Nodwyd o’u gymharu â siroedd eraill mae Gwynedd yn o’r rhai sy’n codi’r pris  uchaf. Amlinellwyd yn dilyn codi pris cinio ysgol ym Medi 2017 fod canran o blant sydd yn cael cinio ysgol wedi lleihau o 50% i 46%. Mynegwyd os ganlyniad i hyn nid yw’r adran yn awyddus i godi’r pris eto.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Tynnwyd sylw at ystadegau a gyhoeddwyd gan elusen ‘Save the Children’ a nodwyd fod tlodi ymhlith plant yn codi, ac yn benodol i deuluoedd sydd yn gweithio ar incwm isel, o ganlyniad i hyn pwysleisiwyd y dylid cadw prisiau yn is.

¾     Holwyd os na fyddai’r pris yn codi sut fydd modd cyfarch y bwlch ariannol. Nodwyd fod cyllideb wrth gefn gan y Cyngor i sefyllfaoedd annisgwyl ac felly ni fydd yn broblem a bydd modd ei adeiladu i’r gyllideb ar gyfer blwyddyn nesaf. Ychwanegwyd fod y cynllun yma yn gynllun i ddod o hyd i arbedion ac felly bydd disgwyliad i’r adran ddod o hyd i gynllun amgen er mwyn dod o hyd i’r arbediad.

¾     Nodwyd pryder am leihad yn y niferoedd yn dilyn codi’r prisiau ond nodwyd ei bod yn dda bod y pris yn cadw'r un peth.

 

Awdur: Bethan Griffith

8.

CRONFA ARLOESI ARFOR pdf eicon PDF 79 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gan fod Cyngor Gwynedd yn gweithredu fel corff arweiniol i Raglen Arfor gan dargedau adnoddau Cronfa Arloesi Arfor Llywodraeth Cymru ar ran Cynghorau Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gar penderfynwyd fod:

  1. Y Cabinet yn cefnogi pecyn o brosiectau Rhaglen Arfor Gwynedd ac yn dirprwyo’r penderfyniad  i gymeradwyo ceisiadau ar gyfer gwariant yng Ngwynedd i Bennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Cyllid
  2. Y Cabinet yn awdurdodi'r Pennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i gytuno i gwblhau cytundeb rhwng awdurdod priodol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Thomas

 

            PENDERFYNIAD

 

Gan fod Cyngor Gwynedd yn gweithredu fel corff arweiniol i Raglen Arfor gan dargedau adnoddau Cronfa Arloesi Arfor Llywodraeth Cymru ar ran Cynghorau Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gar penderfynwyd fod:

  1. Y Cabinet yn cefnogi pecyn o brosiectau Rhaglen Arfor Gwynedd ac yn dirprwyo’r penderfyniad  i gymeradwyo ceisiadau ar gyfer gwariant yng Ngwynedd i Bennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Cyllid
  2. Y Cabinet yn awdurdodi'r Pennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i gytuno i gwblhau cytundeb rhwng awdurdod priodol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn gynllun cyffroes a fydd, gobeithio, yn profi gallu siroedd y Gorllewin fod modd gwneud gwaith economaidd ar y cyd.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Economi a Chymuned fod Cyngor Gwynedd wedi cytuno i fod yn awdurdod arweiniol ar y cynllun a bydd £2 filiwn o gyllideb ar gael i’r cynllun dros gyfnod o ddwy flynedd. Ychwanegwyd fod prosiectau wedi cael ei blaenoriaethu ar gyfer y gweithgaredd arfaethedig yng Ngwynedd i ddatblygu’r economi ac yn ei dro cynnal yr iaith. Mynegwyd fod y cyfnod yn un tymor byr ac felly nid yw’n glir beth fydd y gwahaniaeth tymor hir. Pwysleisiwyd gan fod y cynlluniau yn rhai arloesol y bydd y pedair sir yn cymharu effaith y cynlluniau ac efallai y bydd modd chwilio am arian ychwanegol i ddatblygu ymhellach.

 

Amlinellwyd fod y gronfa yn un arloesi ac felly bydd yn gyfle i Wynedd a’r bartneriaeth i geisio cynlluniau gwahanol a newydd. Nodwyd fod y cyfle i Wynedd fod yn gorff arweiniol yn dangos y clod i ymrwymiad, rheolaeth ariannol a’r defnydd o iaith sydd gan y Cyngor.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Nodwyd fod y cynllun hwn yn un cyffroes, ond holwyd os bydd modd i fentrau cymdeithasol ymgeisio am arian i fentro. Nodwyd fod modd ymgeisio ond fod cyllideb yn un bach ar felly bydd angen asesu pob cais gan mai dim ond digon i ryw 3 menter sydd yno.

¾    Pwysleisiwyd ei bod yn hen bryd i gynlluniau gael ei greu ar draws Gorllewin  Cymru, er nad oes arian mawr, cynlluniau cyffroes.

¾    Nodwyd fod y gyllideb yn fach iawn ac y bydd yn bwysig ei ddefnyddio yn ofalus gan sicrhau fod effaith yr ymyrraeth yn cael ei fesur yn glir.

 

Awdur: Sioned Williams

9.

STRATEGAETH TAI 2020-21 pdf eicon PDF 74 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Strategaeth Tai i’w hargymell i’r Cyngor Llawn i’w mabwysiadu.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Craig ab Iago

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo’r Strategaeth Tai i’w hargymell i’r Cyngor Llawn i’w mabwysiadu.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi'r angen i’r Cabinet cymeradwyo’r Strategaeth Dai er mwyn ei hargymell i’r Cyngor Llawn i’w fabwysiadu. Mynegwyd fod y strategaeth yn amlinellu'r newid sydd yn digwydd yn y maes gyda datblygiad Adran Tai ac Eiddo. Pwysleisiwyd y bydd y cyfnod nesaf sydd ar droed yn un cyffroes ym maes Tai.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd fod y maes yma un maes sydd yn cael ei flaenoriaethu gan y Cabinet a bod hwn yn un cam ar y daith.

Awdur: Arwel Wyn Owen

10.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS ECONOMI A CHYMUNED pdf eicon PDF 175 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan dynnu sylw at un neu ddau o brosiectau. Tynnwyd sylw at Weledigaeth Twf Gogledd Cymru gan nodi fod Cyng. Dyfrig Siencyn yn gadeirydd bellach ar y Bwrdd Uchelgais.

 

Nodwyd fod gwaith yn cael ei wneud ar ddatblygu'r cynllun Creu Swyddi Gwerth Uchel. Mynegwyd fod cystadlaethau wedi ei gynnal yng Nghanolfan Awyrfod Eryri, fel rhan o Gystadleuaeth Ryngwladol Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol. Bu i ddisgyblion cynradd ac uwchradd lleol gael y cyfle i weld cystadleuwyr ac adeiladu a hedfan llongau awyr ac awyrennau model. Tynnwyd sylw at Raglen Arloesi Gwynedd Wledig gan fynegi fod gwaith cyffroes yn cael ei gynnal fel rhan o dreialon Leader. Pwysleisiwyd y cynllun rhyfeddol ac arloesol sydd i’w gweld ar Ffarm Coleg Glynllifon.

 

Mynegwyd fod y Cyngor wedi cytuno ar amserlen gyda DCMS ar gyfer cyflwyno enwebiad Llechi Gwynedd i UNESCO ym mis Tachwedd a bydd yn dod i’r Cabinet ym mis Hydref.

 

Nodwyd wrth edrych ar arbedion yr adran fod 5 o gynlluniau 2019/20 wedi ei gwireddu neu ar drac i wireddu yn amserol ac amlinellwyd y cynlluniau arbedion.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd fod llawer o gwmnïau yn ei chael yn anodd penodi staff Cymraeg a rhain a chyflogau uchel. Pwysleisiwyd fod angen codi ymwybyddiaeth a sylw pobl ifanc o’r cyfleoedd sydd ar gael yng Ngwynedd.

 

Awdur: Sioned Williams

11.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GYLLID pdf eicon PDF 116 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan dynnu sylw at rai cynlluniau o fewn yr adran Gyllid. Mynegwyd fod y gwaith o ledaenu defnydd o system reoli dogfennau a chofnodi electronig yn agosáu at gyrraedd ei derfyn. Bellach dim ond 5 tîm sydd ar ôl o holl wasanaethau’r Cyngor yn aros i fudo i’r system newydd.

 

Mynegwyd fod y Gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi codi eu hincwm a hyn ar ddechrau 2019/20 drwy ganolbwyntio eu hadnoddau gyflawni archwiliad o gyfrifon cynghorau cymuned a thre. Amlinellwyd fod camgymeriad dynol wedi ei wneud ym mis Mawrth yn y Gwasanaeth Cyflogau a arweiniodd at Gymorthfeydd Dosbarth yn colli £30 o’u cyflogau.  Bellach, nodwyd fod y cyflogau wedi ei gosod i’w lefel gywir.

 

O ran Technoleg Gwybodaeth mynegwyd fod cael achosion o golli gwasanaeth wedi sicrhau fod y Gwasanaeth wedi uwchraddio eu canolfannau data er mwyn cryfhau gwydnwch y gwasanaeth. Nodwyd y bydd y ddwy ganolfan ddata yn gallu adfer gwasanaethau bron yn syth.

 

Diolchwyd i staff am gau cyfrifon er bod pwysau ychwanegol gyda chau cyfrifon Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn ogystal. Pwysleisiwyd yn ogystal fod arbedion yr adran wedi eu cwblhau am 2019/20.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Tynnwyd sylw at berfformiad y Gwasanaeth Trethi gan nodi fod nifer uchel o ymholiadau wedi ei derbyn o ganlyniad i godi premiwm treth ar dai gwag ac ail gartrefi. Er hyn nodwyd y bydd hunanwasanaeth yn cael ei gynnig i drethdalwyr cyn hir, ac o ganlyniad bydd modd gwneud rhai ymholiadau ac addasiadau syml ar y we, fydd yn lleihau’r nifer galwadau.

¾     Mynegwyd gwerthfawrogiad fod y Gwasanaeth Budd-daliadau wedi lleihau'r nifer dyddiau a gymerwyd i brosesu cais budd-dal newydd, ond holwyd ble mae’r Cyngor o’i gymharu â siroedd eraill. Nodwyd ar hyn o bryd yn y canol, ond mae’r Gwasanaeth yn ceisio parhau i wella.

 

Awdur: Dafydd L Edwards

12.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 123 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Griffith

 

PENDERFYNIAD

 

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod wedi bod yn gyfnod prysur i’r adran. Tynnwyd sylw at yr uchafbwyntiau. Un o’r rhain oedd Sesiwn Codi Ymwybyddiaeth o Dwyllo. Mynegwyd fod yn rhannu gwybodaeth ag unigolion ar sut i beidio cael eu twyllo a bu i ran ohono gael ei darlledu ar ‘Byd ar Bedwar’.

 

Nodwyd fod sesiwn ‘Gofalu am ein Hamgylchedd’ wedi ei gynnal gyda’r Cynghorwyr a oedd yn llwyddiannus. Yn y dyfodol, nododd yr Aelod Cabinet y bydd  yn mynd gyda’r Gwasanaeth Gwarchod y Cyngor i weld eu harolygiadau hylendid bwyd ac yn mynychu’r cyfarfodydd trwyddedu. Ychwanegwyd fod yr adroddiad yn un cyflawn sydd yn cronni cyfnod prysur a diddorol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Trafodwyd y graffiau sydd i’w gweld gan nodi fod rhai o’r graffiau heb ddata. Nodwyd fod y graff dan sylw, fod y nifer o ymweliadau yn cael ei bennu gan ar ASB ac nad ydynt wedi cadarnhau niferoedd ar gyfer y flwyddyn eto. Mynegwyd fod angen edrych ar y graffiau a sicrhau eu bod yn cyfleu beth mae’r adran yn awyddus iddynt eu gwneud.

 

 

Awdur: Dafydd Wyn Williams

13.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS BRIFFYRDD A BWRDEISTREFOL AC YMGYNGHORIAETH GWYNEDD pdf eicon PDF 103 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Catrin Wager

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Catrin Wager

 

PENDERFYNIAD

 

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi o ran yr Adran Briffyrdd fod cynlluniau amgylcheddol yn mynd yn hynod dda, gyda chynllun newid y goleuadau stryd i dechnoleg LED yn parhau, a fydd yn lleihau ynni ac atal llygredd goleuo. Mynegwyd fod lleihad yn y caran y gwastraff trefol a anfonir i dirlenwi wedi gostwng o 38% i 19%. Amlygwyd fod newidiadau i’r drefn o gasglu gwastraff, bydd yn weithredol yn Nwyfor ar 1 Gorffennaf ac yna yn Arfon cyn diwedd y flwyddyn.

 

Wrth edrych ar ailgylchu mae’r canran yn parhau yn sefydlog ar 63% gyda’r targed erbyn Mawrth 2020 yn 64%. Pwysleisiwyd fod Cyngor yn gyngor sydd yn ailgylchu yn gyfrifol ac o fewn Prydain.

 

O ran arbedion yr adran Briffyrdd, nodwyd fod y Cynlluniau Cau Toiledau Cyhoeddus y Sir yn llithro gyda’r Gwasanaeth yn edrych ar gynllun amgen  i wireddu gweddill yr arbedion. Er hyn mynegwyd fod cynllun Gwasanaeth Teledu Cylch Cyfyng y Sir i foderneiddio i system ddigidol yn tanwario ac o ganlyniad bydd modd ei ddefnyddio i gyfarch y gwahaniaeth.

 

O ran cynlluniau arbedion yr adran Briffyrdd nodwyd ei bod wedi eu gwireddu neu ar drac. Ond codwyd pryder am gynllun i godi incwm gorfodaeth stryd, ond bydd angen rhoi sylw pellach a thrafodaeth ar sut i fesur glendid y strydoedd.

 

O ran Ymgynghriaeth Gwynedd mynegwyd fod arbedion yr adran ar darged. Er bod targedi incwm yn dangos diffyg, mynegwyd fod hyn yn arferol iawn i’r adran yn ystod chwarter 1. Nodwyd fod yr Aelod yn hapus a gwasanaeth y Rheolaeth Adeiladu, a bod yr adborth yn dangos bodlonrwydd cwsmer.

 

 

Awdur: Steffan Jones

14.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS OEDOLION, IECHYD A LLESIANT pdf eicon PDF 140 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNIAD

 

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod am amlygu rhai cynlluniau. Nododd fod y Prosiect i Ail Ddylunio Gwasanaethau Gofal yn parhau ac y bydd yn cael ei drafod ymhellach yn y Cabinet wythnos nesaf. Ychwanegwyd ei fod wedi ymweld â Gwasanaeth Anableddau Dysgu a'i fod wedi cael agoriad llygad i’r gwaith arwrol sydd yn cael ei wneud yn y maes.

 

Nodwyd fod angen edrych ar fesuryddion sydd yn ymwneud a 'Beth Sydd yn Bwysig' i’r unigolyn gan ei fod yn amrywio o gleient i gleiant ac yn amhosib ei fesur. Mynegwyd fod un broblem o fesur effaith wedi codi a Dementia Go, gan ychwanegu efallai fod angen i ni anghofio am y rhifau o fewn perfformiad a chanolbwyntio a rhoi hyder mewn staff eu bod yn gweithio yn galed ac yn gwneud y mwyaf  i unigolion.

 

Yn ariannol, mynegwyd ei bod yn gyfnod heriol ac mae rhagamcanion yn nodi risg o orwario sylweddol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol os na fydd arbedion yn cael ei gwireddu. Mynegwyd fod yr adran yn ymgeisio i ddelio gyda hyn.

 

 

Awdur: Aled Davies

15.

BLAEN RAGLEN Y CABINET pdf eicon PDF 58 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Blaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo’r Blaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod.

 

TRAFODAETH

 

Yn unol ag Adran 14.13 o Gyfansoddiad y Cyngor, bydd y Cabinet yn rhannu ei Flaen Raglen waith am y cyfnod dilynol o chwe mis gyda’r cyhoedd. Bydd y Blaen Raglen yn cael ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor