skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. Ioan Thomas a Cyng. Dilwyn Morgan.


 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR DREFNIADAU CWYNION A GWELLA GWASANAETH Y CYNGOR pdf eicon PDF 89 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

Derbyn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn crynhoi data ar gyfer cyfnod rhwng 2017 a 2019. Ychwanegwyd ei bod yn bwysig i ymateb i gwynion i sicrhau fod gwasanaethau yn gwella. Mynegwyd fod yr adroddiad yn nodi’r camau’r drefn cwynion ac yn dangos lle i ddatblygu.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, fod llawer o wybodaeth am gwynion dros y ddwy flynedd diwethaf i’w gweld yn yr adroddiad. Ategwyd fod dysgu o gamgymeriadau a gwella gwasanaeth yn rhan anatod o Ffordd Gwynedd. Mynegwyd fod tri rhan i’r adroddiad gyda Chwynion Corfforaethol, Gwynion Gwasanaeth Plant a Chwynion Gwasanaeth Oedolion.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd fod yr adroddiad yn un ffeithiol sydd yn nodi'r angen i’r Cyngor ddysgu o’r cwynion a deilio a hwy mewn ffordd gadarnhaol. Mynegwyd mai’r un peth sydd yn cael ei amlygu fel y cwyn cyffredin yw'r angen i roi gwybodaeth ar amser, ac o ganlyniad i hyn fod angen i’r Cyngor felly edrych ar wella ymgysylltu a’r trigolion.

¾     Mynegwyd fod sylw wedi ei nodi yn y Cyngor Llawn diwethaf am rôl yr Ombwdsman. Ychwanegwyd fod dwy ran i waith yr Ombwdsman y cyntaf yn gwynion am wasanethau gan gyrff cyhoeddus, gan fynegi fod y gwaith yma yn cael ei wneud yn gyson, ac yr ail yw Cod Ymddygiad Cynghorwyr. Ategwyd fod yr elfen gwynion yn ymwneud a gwasanaethau Cynghorau a chyrff eraill megis Iechyd yn cael ei flaenoriaethu ganddo ac o ganlyniad fod trothwy budd cyhoeddus uwch ar yr elfen Cod Ymddygiad Cynghorwyr. Pwysleisiwyd fod Cynghorwyr yn arwyddo’r Cod Ymddygiad, a'u bod yn gyfrifol am gadw at yr egwyddorion sydd i’w gweld yno beth bynnag. Tynnwyd sylw at bryderon o achosion y fwlio merched mewn Cynghorau Cymuned, a nodwyd fod arweiniad ar y prawf budd cyhoeddus yn amlygu bwlio fel ffactor o blaid ymchwilio. Roedd yr Ombwdsman yn ymwybodol o hyn a bod trafodaeth ar lefel genedlaethol ar y mater.

¾     Nodwyd fod angen edrych ar gwynion fel taith, drwy newid yn niwylliant y Cyngor bydd modd gwella gwasanaeth. Mynegwyd o ran ffigyrau’r achosion sydd yn mynd i’r Ombwdsman mai dim ond 2 o’r 32 oedd angen adroddiad, ychwanegwyd fod hyn yn dangos fod y drefn cwynion yn gweithio yn dda.

 

Awdur: Geraint Owen

6.

CYNLLUN FFORDD GWYNEDD 2019-22 pdf eicon PDF 62 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y Cynllun a’r rhaglen waith ar gyfer 2019-22.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd y Cynllun a’r rhaglen waith ar gyfer 2019-22.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cabinet yn gwbl ymroddedig i Ffordd Gwynedd. Nodwyd fod y Cabinet wedi mabwysiadu Cynllun Ffordd Gwynedd gwreiddiol yn ôl yn Hydref 2015, ac esboniwyd fod Ffordd Gwynedd yn ffordd o weithio y mae’r Cyngor wedi’i fabwysiadu. Ategwyd fod newid diwylliant, ymddygiadau a meddylfryd wrth wraidd hyn oll, ac ychwanegwyd fod y penderfyniad hwn yn mynd i roi cyfeiriad pellach i’r Cynllun a'r ffordd ymlaen.

 

Ychwanegodd Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol fod hyfforddiant Ffordd Gwynedd wedi ei gynnal a bod brwdfrydedd i wella gwasanaeth i’w weld yn amlwg iawn. Mynegwyd fod gwaith i’w wneud ar gynllun adrannau ar sut i raeadrau'r meddylfryd i bawb, a bod rhaglen waith wedi ei amlinellu yn yr adroddiad.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd fod ail sefydlu rhwydwaith rheolwyr yn holl bwysig i sicrhau trafodaeth o ran ffordd Gwynedd. Mynegwyd wrth edrych ar daith Ffordd Gwynedd, er bod y Cyngor wedi cymryd camau breision fod y datblygiad yn amrywio o adran i adran ond fod adlewyrchu parhaus. Ategwyd fod llawer o waith yn parhau i’w wneud ond y bydd y Strategaeth yn symud y Cyngor yn nes at ddiwedd y daith.

¾     Pwysleisiwyd fod datblygu arweinyddiaeth yn gwbl wreiddiol i Ffordd Gwynedd a bod angen sefydlu diwylliant ble mae rheolwyr yn arwain eu staff ac nid yn rheoli pobl.

¾     Mynegwyd mae is-bennawd Ffordd Gwynedd yw sicrhau fod Pobl Gwynedd yn ganolog i’r hyn mae’r Cyngor yn ei wneud. Ychwanegwyd ei bod yn amhosibl gwneud popeth mae pobl unigolyn yn awyddus i’r Cyngor ei wneud ac o ganlyniad mae angen blaenoriaethu.

¾     Nodwyd fod modd gweld y daith Ffordd Gwynedd mewn adrannau, ac ychwanegwyd fod perfformiad weithiau yn disgyn cyn codi.

 

Awdur: Geraint Owen

7.

POLISI CAFFAEL CYNALADWY AC YMGYRCH I WAHARDD DEFNYDD O BLASTIG UNTRO pdf eicon PDF 401 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Cymeradwywyd i ymgorffori darpariaethau  Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ( Cymru) 2015  ym Mholisi Caffael Cynaliadwy’r Cyngor.
  2. Cymeradwyo’r ymgyrch i gesio gwahardd pryniant a defnydd o blastig untro. ac i fabwysiadu’r newidiadau yn y Polisi Caffael Cynaliadwy i gyfarch yr ymgyrch yma

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Nia Jeffreys 

 

PENDERFYNIAD

 

  1.  Cymeradwywyd i ymgorffori darpariaethau  Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ( Cymru) 2015  ym Mholisi Caffael Cynaliadwy’r Cyngor.
  2. Cymeradwyo’r ymgyrch i gesio gwahardd pryniant a defnydd o blastig untro. ac i fabwysiadu’r newidiadau yn y Polisi Caffael Cynaliadwy i gyfarch yr ymgyrch yma

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi drwy fod yn rhagweithiol fod yr gwasanaeth yn gallu ymateb i’r her gyfoes sef i leihau drefnydd o blasdig untro. Drwy fod yn rhagweithiol, ychwanegwyd, y bydd modd mynd i’r afael ar broblem.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol fod y gwasanaeth yn gofyn i’r Cabinet cytuno i ddau beth, y cyntaf i gymeradwyo i ymgorffori’r Deddf Llesiant Ceneldaethau’r Dyfodol y Polisi Caffael Cynaladwy, ac yr ail i gymeradwyo’r ymgyrh i geisio gwahardd pryniant a defynydd o blasting untro ac i fabwysiau’r newidadau yn y polis ii gyfarch yr ymgyrch yma.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Diolchwyd i’r adran am ddod ar eitem yn dilyn y rhybudd o gynnig yn y Cyngor Llawn ym Mawrth 2018, ychwanegwyd pwysigrwydd fod y gwaith yn cael ei wenud ar y cyd drwy grwp tasg trawsadranol.

¾     Croesawyd yr adorddiad gan nodi fod plastigion a effaith mawr iawn ar y byd.

¾     Nodwyd fod y Cyngor wedi cyhoeddi ei bod yn argyfwng hinsawdd ac fod yr adrannau yn ceisio dod o hyd i ffordd o gael gwared o plastig un-tro yn drawsadranol ar hyd y Cyngor gan ei bod yn gyfrifoldeb ar bob adran.

 

Awdur: Geraint Owen

8.

LLYTHYR BLYNYDDOL AROLYGAETH GOFAL CYMRU AR WASANAETHAU CYMDEITHASOL GWYNEDD pdf eicon PDF 105 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig a Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Dafydd Meurig

 

            PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn ofynnol i’r Cyngor i gyhoeddi’r llythyr yn unol â chod ymarfer Arolygaeth Gofal Cymru. Mynegwyd fod cynnwys y llythyr yn darparu adborth ar weithgarwch arolygu a gwerthuso perfformiad a gwblhawyd gan Arolygaeth Gofal Cymru yn ystod y flwyddyn, ynghyd ag adrodd ar y cynnydd ac mae’r Cyngor wedi ei wneud ac amlinellu'r blaen raglen waith. Ychwanegwyd fod cynnwys y llythyr yn lled ganmol y Cyngor ac i’w groesawu.

 

Mynegwyd fod y llythyr yn nodi’r ble mae’r Cyngor yn llwyddiannus a chydnabuwyd fod yr Adran Oedolion mewn cyfnod o drawsffurfio. Atebwyd fod y gweithlu yn sefydlog yn y Cyngor a bod arweinyddiaeth a llywodraeth gref i’w gweld.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros ofal fod y cyfnod cyn derbyn y llythyr yn gyfnod pryderus ond mynegwyd balchder yn dilyn ei ddarllen. Ychwanegodd fod y penaethiaid, staff a gofalwyr i’w diolch am y gwaith i sicrhau hyn. Mynegwyd fod gweithlu hyderus a sefydlog sydd i’w gweld yng Ngwynedd yn sefyllfa sydd ddim i’w gweld yn nifer o siroedd eraill.

 

Pwysleisiwyd fod yr arolygaeth yn gweld fod taith trawsffurfio, ond ei fod yn gwreiddio egwyddorion Ffordd Gwynedd yn unol â’r deddfau. Tynnwyd sylw at heriau a oedd yn cynnwys cadw golwg ar y maes diogelu ynghyd a’r cynnydd cyson o heriau yn y maes plant.

 

Diolchwyd am gefnogaeth yr holl aelodau i waith gofal y Cyngor. 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Diolchwyd i staff am eu gwaith da.

 

 

Awdur: Morwena Edwards

9.

MODEL GOFAL CARTREF NEWYDD I WYNEDD pdf eicon PDF 115 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

¾    Cytunwyd i sefydlu model newydd o ddarparu a chomisiynu gofal cartref ar sail is-ardaloedd, gan gyd-gomisiynu a’r Bwrdd Iechyd.

¾     Cymeradwywyd gweithredu ar sail yr opsiwn a ffafrir sef cynnal marchnad gymysg gan dendro mewn modd sy’n debygol o arwain at wireddu amcanion yr adran.

¾     Gofyn i’r Adran adolygu’r model ariannol er mwyn sicrhau nad yw’n amharu ar eu gallu i gyflawni eu harbedion gan adrodd yn ôl os oes unrhyw berygl i hynny.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNIAD

 

¾     Cytunwyd i sefydlu model newydd o ddarparu a chomisiynu gofal cartref ar sail ardaloedd, gan gyd-gomisiynu a’r Bwrdd Iechyd.

¾     Cymeradwywyd gweithredu ar sail yr opsiwn a ffafrir sef cynnal marchnad gymysg gan dendro mewn modd sy’n debygol o arwain at wireddu amcanion yr adran.

¾     Gofyn i’r Adran Oedolion adolygu’r model ariannol er mwyn sicrhau nad yw’n amharu ar eu gallu i gyflawni eu harbedion gan adrodd yn ôl os oes unrhyw berygl i hynny.

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad gan bwysleisio mai’r rheswm dros fod angen y model newydd yw symud oddi wrth yr arfer o ariannu fesul pecyn neu unigolyn ac i greu darpariaeth hyblyg ar draws ardaloedd. Ategwyd mai’r opsiwn sydd yn cael ei ffafrio yw cynnal rhaniad mewnol : allanol y farchnad. Nodwyd fod risgiau ariannol a chyfreithiol wedi ei amlygu yn ystod y cyfnod trafod ond fod trefniadau yn eu lle.

 

Mynegwyd fod amryw beilot wedi ei gynnal mewn lleoliadau daearyddol amrywiol ar draws y sir. Mynegwyd fod y rhain wedi dangos esiamplau cryf o ofal hyblyg a bod y defnyddiwr gwasanaeth yn hapus a’r gofal a gafwyd. Ychwanegwyd y bydd y model newydd o ddarparu a chomisiynu gofal cartref yn cael ei gomisiynu ar y cyd a’r Bwrdd Iechyd.

 

Ategodd yr Uwch Reolwr Gweithredol o ran cyd-destun fod prinder gofal cartref ar gael. Mynegwyd er mwyn deall mwy am y drefn fod angen edrych ar yr holl sefyllfa. Nodwyd fod trafodaethau wedi ei gynnal gyda defnyddwyr gwasanaeth a phwysleisiwyd pwysigrwydd peilot er mwyn ei droi o syniad i realiti.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd fod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r undebau ac mae yn eithaf cefnogol ond fod angen sicrhau fod cyn lleied â phosib o effaith ar staff. Mynegwyd mai trigolion a’r defnyddwyr gwasanaeth sydd yn ganolog i’r model newydd, gyda’r staff yn ail agos iawn. Mynegwyd nad oes bwriad i bobl newid i ddarparwyr eraill os nad ydynt yn awyddus i wneud a bydd camau yn eu lle i edrych ar ôl staff. Ychwanegwyd fod trafodaethau yn cael ei cynnal ar undebau i sicrhau fod y broses drosglwyddo gyda’r lleiaf o effaith ar staff ac i sicrhau fod cyflogaeth yn cael ei gynnal.

¾     Croesawyd y model newydd, ond pwysleisiwyd fod recriwtio yn broblem hanesyddol, a holwyd os bydd hyn newid y broblem. Mynegwyd fod y model newydd yn rhoi cyfle ac yn annog staff i fod yn fwy creadigol, ac y bydd cyfran uwch o’r arian sydd ar gael yn mynd i staff.

¾     Gan fod ariannu’r cynllun yn golyg defnyddio arbedion sy’n deillio o newid y trefniadau gwaith a bod yr Adran Oedolion hefyd yn ddibynnol ar hynny i wireddu eu rhaglen arbedion, codwyd pryder am y model ariannol yn dilyn trafodaethau’r Cabinet am berfformiad yr Adran yr wythnos diwethaf. Pwysleisiwyd fod angen sicrhau nad yw’r model newydd yn amharu ar allu’r Adran Oedolion i gyflawni eu harbedion a gofynnwyd iddynt asesu’r sefyllfa honno yn drwyadl gan adrodd yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

Awdur: Aled Davies

10.

TAI HAF A CHYNLLUNIO pdf eicon PDF 331 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

  1. Gytuno i’r Adran Amgylchedd, ar ran y Cyngor, i gaffael a chomisiynu gwaith ymchwil ar dai haf ar gyfer Gwynedd ond gyda chyd-destun cenedlaethol a chefnogaeth Sefydliad Cynllunio Tai Brenhinol Cymru, a chyrff perthnasol eraill, i gynnwys ystyriaeth o’r materion yn rhan 3 o’r adroddiad.
  2. Cytuno i ddarparu hyd ar £80,000 o Gronfa Trawsffurfio’r Cyngor, mwyn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid ar gyfer y gwaith.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Griffith

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd i:

  1. Gytuno i’r Adran Amgylchedd, ar ran y Cyngor, i gaffael a chomisiynu gwaith ymchwil ar dai haf ar gyfer Gwynedd ond gyda chyd-destun cenedlaethol a chefnogaeth Sefydliad Cynllunio Tai Brenhinol Cymru, a chyrff perthnasol eraill, i gynnwys ystyriaeth o’r materion yn rhan 3 o’r adroddiad.
  2. Cytuno i ddarparu hyd ar £80,000 o Gronfa Trawsffurfio’r Cyngor, i’w ryddhau mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid ar gyfer y gwaith.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adran yn gwneud cais am £80,000 o’r gronfa drawsffurfio er mwyn comisiynu gwaith ymchwil ar dai haf yng Ngwynedd. Mynegwyd fod nifer o bryderon wedi codi am nifer o dai haf yn ardal Gwynedd, a nodwyd y prif bryderon fel

¾     Y cyflenwad lleol o dai sydd ar gael i gwrdd â’r angen

¾     Yr effaith ar y gymuned leol, yr iaith Gymraeg a’r gwasanaethau sydd yn y gymuned

¾     Yr effaith posib ar brisiau tai

¾     Yr effaith ar fwynderau trigolion lleol

¾     Safonau diogelwch ar gyfer yr eiddo.

 

Mynegwyd fod yr adroddiad yn amlygu nad oes llawer o reolaeth gan y Cyngor ar y mater. Ychwanegwyd fod  cymaint o amrywiol eiddo a niferoedd uchel tu hwnt o eiddo hunan ddarpariaeth. 

 

Ychwanegodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd, fod enghreifftiau o reoliadau dros Dai Haf i’w gweld dros y byd, ond gobeithir drwy’r ymchwiliad newydd y bydd modd edrych mewn mwy o fanylder. Pwysleisiwyd y byddai angen tystiolaeth berthnasol er mwyn newid deddfwriaeth, a gall y gwaith ymchwil gyfrannu at hyn yn ogystal, ond bydd angen darlun Cymru gyfan. Manylwyd y bydd y gwaith ymchwil yn sylweddol a fydd yn cynnig opsiynau ar gyfer rheolaeth well. Ond i sicrhau hyn, ychwanegwyd, bydd angen tystiolaeth gadarn.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd fod nifer tai haf yn bryder sydd wedi ei gweld dros y blynyddoedd. Mynegwyd fod ystadegau wedi cynyddu dros y blynyddoedd gan ychwanegu fod nifer o bobl leol yn manteisio ar gyfle. Ategwyd fod yr ymchwiliad sydd yn cael ei gomisiynu yn ymgais i geisio sefydlu ffeithiau.

¾     Dangoswyd cefnogaeth i’r ymchwil gan fynegi fod angen tystiolaeth a dealltwriaeth o’r deddfwriaethau sydd yn cael ei defnyddio ar draws y byd. Cydnabuwyd fod y maes yn un cymhleth ble na fydd ateb yn glir.

¾     Ategwyd fod twf wedi bod yn ddiweddar mewn eiddo ‘AirBnB’ felly mynegwyd y byddai’n dda cael data cadarn am yr eiddo. Ychwanegwyd fod y cwmni yn un byd eang ac yr angen i fod yn ymwybodol o beth mae triolion ei angen yn y cymunedau.

¾     Holwyd am amserlen a mynegwyd y bydd modd creu briff o fewn 2 fis nesaf ac o ganlyniad i hyn bydd amserlen fwy clir yn dilyn hyn.

 

Awdur: Gareth Jones

11.

PARATOI AR GYFER SEFYLLFA ARIANNOL 2020/21 pdf eicon PDF 173 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Yn amodol ar y cyfyngiad a nodir yng Nghymal 15 yr adroddiad, er mwyn dygymod gyda’r sefyllfa ariannol 2020/21, bod y Cabinet yn mabwysiadu Opsiwn 3, gan ofyn i adrannau ddarganfod eu siâr nhw o’r isafswm o £2m fydd ei angen i gyfarch yr isafswm o ddiffyg adnoddau ar gyfer chwyddiant y mae'r Cyngor yn debygol o’i wynebu, gan ofyn i’r Pwyllgorau Craffu, graffu cynigion yr adrannau yn yr Hydref.

 

Wrth adrodd dylai adrannau hefyd adrodd ar sut y maent yn bwriadu dygymod gydag unrhyw ddiffyg sydd angen ei gyfarch yn eu cynlluniau arbedion.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Dilwyn Williams

 

PENDERFYNIAD

 

Yn amodol ar y cyfyngiad a nodir yng Nghymal 15 yr adroddiad, er mwyn dygymod gyda’r sefyllfa ariannol 2020/21, bod y Cabinet yn mabwysiadu Opsiwn 3, gan ofyn i adrannau ddarganfod eu siâr nhw o’r isafswm o £2m fydd ei angen i gyfarch yr isafswm o ddiffyg adnoddau ar gyfer chwyddiant y mae'r Cyngor yn debygol o’i wynebu, gan ofyn i’r Pwyllgorau Craffu graffu cynigion yr adrannau yn yr Hydref.

 

Wrth adrodd dylai adrannau hefyd adrodd ar sut y maent yn bwriadu dygymod gydag unrhyw ddiffyg sydd angen ei gyfarch yn eu cynlluniau arbedion cyfredol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi os bydd goblygiadau gwaethaf sydd wedi ei nodi yn yr adroddiad yn dod yn wir, y bydd y Cyngor mewn lle pur wael. Mynegwyd fod yr atodiad cyntaf yn nodi’r darlun hanesyddol, gan nodi nad yw’r grant a’r cynnydd treth Cyngor blynyddol wedi bod yn ddigon i dalu am y chwyddiant.  Ychwanegwyd fod y Cyngor wedi arbed £65miliwn dros y ddeuddeg mlynedd diwethaf a llawer ohono drwy arbedion effeithlonrwydd, mynegwyd fod dod o hyd i arbedion effeithlonrwydd am fynd yn fwyfwy anodd i’r adrannau ddod o hyd iddynt.

 

Nodwyd er mwyn cynllunio ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, bod ‘Twmffat Tebygolrwydd’ i’w gweld yn Atodiad 2. Mynegwyd ei bod yn syml mynd am y llinell ganol o ran arbedion, ond ychwanegwyd fod 50% o siawns y bydd y ffigwr yn uwch. Ategwyd os yn cyfri y £2.2m o arbedion sydd wedi ei gynllunio ers y llynedd, ynghyd â chynnydd 3.5% yn y Dreth Cyngor, gall y bwlch ariannol fod rhwng £1.7m a £7.3m. Mynegwyd dros y blynyddoedd diwethaf fod y Cyngor wedi cynllunio ar gyfer y gwaethaf, ond ychwanegwyd fod trefn arbedion y llynedd wedi amlygu fod toriadau eioses yn mynd i gael eu gwneud sydd am fod yn anodd i nifer o wasanaethau ac fe fydd unrhyw doriadau pellach yn anodd dros ben ac yn debygol o ddychryn pobl, boed yn drigolion a staff.

 

Amlygwyd tri opsiwn ar sut i symud ymlaen, a mynegwyd fod yr Aelod Cabinet dros Gyllid a’r Prif Weithredwr yn argymell y trydydd opsiwn, sydd yn cynllunio i gwrdd â’r bwlch o £1.7m, i’w rowndio i fyny i £2m, yn y sefyllfa ganolig drwy rannu’r swm hwnnw ymysg yr holl adrannau (ac ysgolion), gan nodi mai cyfraniad at chwyddiant yw hyn, ac yna defnyddio balansau a/neu gynnydd uwch yn y Dreth Cyngor i gwrdd â’r bwlch uwchben y sefyllfa ganolrif i roi amser i ddod o hyd i ateb parhaol. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd fod y sefyllfa yn codi ofn ac yn ddychrynllyd, gan bwysleisio blwyddyn ar ôl blwyddyn fod Aelodau yn gorfod mynd drwy’r drefn arbedion unwaith eto, ac nad oeddynt yn barod i’w wneud eto gan ei fod mor dorcalonnus.

¾     Pwysleisiwyd fod dadl yn amlwg i’w gweld rhwng blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Llundain.

¾     Nodwyd fod cyhoeddiad yn nodi fod codiad cyflog uwch am gael ei roi i Athrawon, sy’n uwch na’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

Awdur: Dilwyn Williams

12.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GEFNOGAETH GORFFORAETHOL A CHYFREITHIOL pdf eicon PDF 139 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r prif faterion sydd yn codi o berfformiad yr adran dros y misoedd diwethaf. Nodwyd fod nifer o brentisiaid newydd wedi eu penodi i’r cynllun prentisiaethau ac ategwyd fod 3 o’r 6 swydd wedi ei llenwi gan ferched a bod dau o’r rhain yn y maes peirianneg. Mynegwyd o ran cynllun Cadw’n Budd yn Lleol fod ffigyrau gwariant gyda chwmnïau sy’n lleol yn parhau’n weddol gyson a’r llynedd ond fod ffigyrau gariant wedi lleihau felly bydd yr adran yn cadw golwg ar y mater.

 

Nodwyd fod gwasanaeth Hunanwasanaeth ar-lein yn flaenoriaeth er mwyn cynnig y gwasanaeth gorau i bobl Gwynedd, a nodwyd fod 5 gwasanaeth yn derbyn mwy o geisiadau drwy hunanwasanaeth na sydd wedi ei derbyn dros y ffon. Ychwanegwyd fod gwaith yn cael ei wneud i edrych ar sut y bydd modd i ddefnyddio teclyn sgwrsio ar lein. Mynegwyd nad oes modd defnyddio system dadleniadau DBS drwy gyfrwng y Gymraeg, a bod y Cyngor wedi hysbysu Comisiynydd y Gymraeg. 

 

Ychwanegodd Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol ers ysgrifennu’r adroddiad fod nifer y prentisiaethau bellach wedi codi i 10 swydd, a bod 6 yn cael ei hysbysebu dros yr haf ar gyfer yr Adran Oedolion ac a Gwasanaeth Ieuenctid. Ategwyd fod gan y Cynllun Prentisiaethau arian i hyd at 20 swydd prentisiaeth ac felly eu bod bron a chyrraedd y targed. Pwysleisiwyd fod y prentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a bod y rhain yn golygu lleoliadau gwaith yn ogystal ar hyfforddiant.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd o ran ystadegau'r wefan bydd yr adran yn ymchwilio i mewn os yw’r ffigwr o 334,992 yn nifer o ‘hits’ neu unigolion penodol yn ymweld â gwefan y Cyngor

Awdur: Geraint Owen

13.

ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS BLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD pdf eicon PDF 333 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Dilwyn Morgan

 

PENDERFYNIAD

 

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y bydd yn crynhoi'r prif bethau sydd wedi eu codi o’r cyfarfodydd perfformiad yr adran. Ychwanegol ar y cyfan, fod yr Aelod Cabinet yn hapus a’r ffordd mae’r adran yn symud ymlaen, mynegwyd fod ychydig o fylchau o ran data ond fod yr adran ar daith er mwyn cael eu data ar flaenau eu bysedd.

 

Nodwyd o ran cynllun Cefnogi Llesiant Pobl fod gwaith yn cael ei gynnal ar hyn o bryd er mwyn mapio'r drefn bresennol. Mynegwyd fod hyfforddiant am agenda ACE wedi ei drefnu ar y cyd gyda’r Heddlu yn ystod mis Hydref. O ran Strategaeth Cefnogi Pobl, nodwyd fod y cynllun yn cefnogi rhieni a datblygu sgiliau rhiantu da. Ychwanegwyd y bydd Hwb Teulu Gwynedd yn cael i lansio yn y misoedd nesaf i roi gwybodaeth ar y we. Ategwyd fod gwaith yn cael ei wneud i gynllunio a chasglu gwybodaeth ar y cyfer y lansiad.

 

Tynnwyd sylw at ystadegau perfformiad a nodwyd fod llithriad wedi ei weld mewn canran cynadleddau amddiffyn plant dechreuol, mynegwyd oherwydd bod y tîm mor fach os un aelod o staff yn absennol mae hi yn anodd iawn i wella’r perfformiad yn dilyn hyn. Pwysleisiwyd fod cynnydd o 11% yn nifer y plant sydd mewn gofal ar ddiwedd Mawrth 2019. Pwysleisiwyd fod hyn yn her fawr sydd i’w gweld yn genedlaethol a bod trafodaethau yn cael ei gynnal a’r Llywodraeth i drafod y mater. Ategwyd mai nid cynnydd mewn niferoedd yw’r unig her ond fod yr anghenion sydd gan y plant yn llawer mwy cymhleth ac o ganlyniad fod lleoliadau maeth yn costio llawer yn uwch.

 

Nodwyd mai prif bryder yr Adran Plant yw’r broblem maent yn eu hwynebu i daro targed arbedion. Gyda chynnydd mewn costau lleoliadau i sicrhau gofal arbenigol, mae hyn yn cynyddu’r broblem. Ychwanegwyd fod yr Adran yn ceisio rhoi cynlluniau amgen eu lle fel eu bod yn cyrraedd y targed.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd fod cynnydd i’w gweld mewn niferoedd o blant mewn gofal dros Gymru a nodwyd y broses o osod plentyn mewn gofal. Pwysleisiwyd fod 95% o achosion wedi mynd drwy’r llys, a bod hyn yn amlygu fod proses gadarn yn eu lle a'r llys sydd yn penderfynu ar unigolion. Mynegwyd fod angen gweithio gyda theuluoedd i osgoi trefn gyfreithiol.

 

Awdur: Marian Parry Hughes

14.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS ADDYSG pdf eicon PDF 114 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Rees Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Cemlyn Williams

 

PENDERFYNIAD

 

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y bydd yn cyfeirio at dair blaenoriaeth sydd i’w weld yng nghynllun y Cyngor. Mynegwyd o ran prosiect Cryfhau Arweinyddiaeth fod y Cyngor wedi cytuno ar gyfundrefn gyda GwE o ran trefniadau hyfforddi perthnasol. Ychwanegwyd mai cynllun cyntaf y prosiect hwn yw mynd i’r afael a heriau yn ymwneud â denu a recriwtio arweinyddion a rheolwyr canol yn Ysgolion Uwchradd Meirionydd.

 

Edrychwyd ar Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, gan nodi fod gwaith adeiladu wedi cychwyn ar greu ysgol newydd ar gyfer Ysgol y Garnedd ym Mangor. Nodwyd y bydd Ysgol Godre’r Berwyn yn agor ei ddrysau ar yr 2il Medi 2019; ychwanegwyd fod problemau wedi codi o ran cyllideb i’r ysgol newydd yn dilyn dyled oedd i’w gweld yn un o’r ysgolion, ond fod hyn bellach wedi ei datrys ac mae pawb yn disgwyl yn eiddgar i’r ysgol agor. Mynegwyd fod gwaith cychwynnol wedi cychwyn i edrych i adeiladu ysgol newydd yng Nghricieth drwy drafodaethau cychwynnol gyda Chyrff Llywodraethol Ysgol Treferthyr ac Ysgol Llanystumdwy.

 

Tynnwyd sylw at Drawsnewid y Ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chymhwysiad, gan nodi fod prif ffocws y cynllun hwn yn canolbwyntio ar addasu’r gwasanaeth i ddygymod a newid yn Neddfwriaeth Adnoddau Dysgu Ychwanegol. Ychwanegodd fod yr Aelod Cabinet yn awyddus i weld ymyrraeth blynyddoedd cynnar a’r ddarpariaeth 16-25 yn cael ei drafod gan y Bwrdd Cefnogi Pobl maes o law.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Holwyd beth oedd am ddigwydd i gynllun TRAC, cynllun llwyddiannus sydd yn cael ei ariannu drwy Gronfa Ewrop. Nodwyd fod y dyfodol yn aneglur ond fod cryfder yn y math yma o gynlluniau.

 

 

Awdur: Garem Jackson

15.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS DAI pdf eicon PDF 112 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Craig ab Iago

 

PENDERFYNIAD

 

Nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod camau yn cael ei wneud i symud i drefn cwbl newydd a chyffroes gyda dyfodiad yr Adran, Pennaeth a Strategaeth Dai newydd. Mynegwyd fod yr adroddiad yn adlewyrchu profiad ac effeithlonrwydd y staff. Er hyn, ychwanegwyd, fod heriau yn wynebu'r adran newydd.

 

Nodwyd fod y staff yn rhagweithiol ac yn gweld yr adran newydd fel cyfle i wneud mwy. Diolchwyd i staff am eu gwaith. 

 

Awdur: Aled Davies