skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Sion Owen  01286 679665

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Dilwyn Morgan.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

5.

COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 15 MEDI 2019 pdf eicon PDF 162 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y Cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 17 Medi 2019 fel rhai cywir, yn ddarostyngedig i ddiwygio’r cofnod gwreiddiol fel a ganlyn (ychwanegiad mewn italic):

Pwysleisiwyd nad yw Llywodraeth Cymru yn adnabod Ysgol Abersoch fel Ysgol Wledig, ond bydd yr Adran Addysg yn dilyn Cod Trefniadaeth Ysgolion, gan ddefnyddio’r un canllawiau a thrin yr ysgol fel petai.

6.

GORCHYMUN GWARCHOD MANNAU CYHOEDDUS BANGOR pdf eicon PDF 103 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1)  Cymeradwyo cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) newydd ar gyfer Dinas Bangor am gyfnod o dair blynedd, yn unol â'r Gorchymyn Arfaethedig drafft a atodwyd i’r adroddiad.

2)  Diddymu Gorchymyn Yfed Alcohol mewn Mannau Cyhoeddus Dynodedig ar gyfer ardaloedd Bangor a Chaernarfon Cyngor Gwynedd 2004 (y Gorchymyn Presennol) wrth sefydlu'r GDMC i'r graddau ei fod yn berthnasol i Fangor;

3)  Awdurdodi Pennaeth yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol i ymgymryd â chyflwyno'r Gorchymyn Arfaethedig a diddymu'r Gorchymyn Cyfredol.

Cofnod:

Cyflwynwyd gan y Cyng. Nia Jeffreys

PENDERFYNIAD

TRAFODAETH

Cyflwynwyd gan nodi fod adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Cabinet ar 16eg Gorffennaf 2019 i gymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus ar gyflwyno Gorchymun Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn ardal benodol o Fangor. Bu ymgynghori trylwyr gydag Aelodau Lleol a’r Heddlu, yn ogystal a’r ymgynghoriad cyhoeddus. Derbyniwyd ymateb da i’r ymgynghoriad ac ‘roedd canlyniadau yr ymgynghoriad yn nodi bod nifer o drigolion Bangor yn bryderus am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y ddinas. Yn dilyn yr ymgynghoriad ac ar sail tystiolaeth yr Heddlu penderfynwyd ehangu ardal y gorchymun. Y camau nesaf oedd i godi arwyddion i hysbysu’r cyhoedd, a byddai’r heddlu hefyd yn hyrwyddo’r gorchymyn. Derbyniwyd sicrhad hefyd na fyddai’r Gorchymun yn cael ei ddefnyddio er mwyn targedu pobl ddigartref ym Mangor.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd ei fod yn amlwg fod gwaith trylwyr wedi ei wneud er mwyn paratoi’r Gorchymun.

¾     ‘Roedd grwpiau oedd yn gweithio i hyrwyddo’r Ddinas  yn gefnogol iawn o’r gwaith ac yn gweld ei angen fel rhan o jig-so datblygiad ffyniannus Bangor.

Awdur: Catherine Roberts

7.

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL Y CYNLLUN DATBLYGU LLEOL pdf eicon PDF 126 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1)    Derbyn  yr Adroddiad Monitro Blynyddol Terfynol yn Atodiad 1 ar gyfer ei gyflwyno ymlaen i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2019.

2)    Rhoi’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd ymgymryd ag unrhyw newidiadau golygyddol a gweinyddol terfynol i’r Adroddiad Monitro Blynyddol cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru

3)    Rhoi’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet Amgylchedd  i ymgymryd ag unrhyw newidiadau sydd yn deillio o faterion sydd yn codi gan Gyngor Sir Ynys Môn.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ma dyma oedd yr adroddiad monitro cyntaf ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, gan adrodd ar y cyfnod rhwng Awst 2017 a diwedd Mawrth 2019. ‘Roedd yr adroddiad eisoes wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau a’r Cyd-Bwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd, yn ogystal a’i gyflwyno mewn gweithdai i Aelodau. Nid oedd eto wedi ei gyflwyno i Bwyllgor Sgriwtini na Phwyllgor Gwaith Cyngor Sir Ynys Mon.

Nodwyd bod yr adroddiad yn rhan o greu sail tystiolaeth er mwyn adolygu’r Cynllun maes o law, gan adrodd ar 69 dangosydd perfformiad tra’n gosod gwaelodlin ar eu cyfer. ‘Roedd yn ofynnol i adolygu’r Cynllun pob 4 mlynedd, ond cyn adolygu’r Cynllun byddai rhaid cyhoeddi o leiaf 3 adroddiad monitro. Ychwanegwyd fod polisi tai marchnad leol y Cynllun yn arloesol fel yr unig un o’i fath yng Nghymru.

Mewn perthynas a sefyllfa Wylfa nodwyd mai pwyllo a monitro fyddai orau am y tro nes i’r sefyllfa sefydlogi. Pwysleisiwyd hefyd fod y polisïau oedd yn y Cynllun yn rhai cadarn a bod rhaid i ddatblygwyr brofi’r angen am ddatblygiadau fel rhan o gais cynllunio.

Awdur: Rebeca Jones

8.

CYLLIDEB REFENIW 2019/20 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST pdf eicon PDF 82 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2019 o’r Gyllideb Refeniw, gan: 

1)    Nodi fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant eleni, a chan fod angen egluro manylder cymhleth yn y darlun yma yng ngofal Oedolion, mae'r Prif Weithredwr eisoes wedi galw cyfarfod o'r swyddogion perthnasol er mwyn cael gwell dealltwriaeth a rhaglen glir i ymateb, fel sydd yn digwydd ym maes gofal Plant.

2)    Gofyn i’r Aelod Cabinet ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, ynghyd â'r Pennaeth Adran Plant a Theuluoedd, i fynd at wraidd gorwariant yr Adran a chymryd camau i ddod a’r sefyllfa o fewn rheolaeth ac o fewn y gyllideb erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gan adrodd i'r Cabinet ar y cynllun ymateb.

3)    Caniatáu yr Adran Amgylchedd i neilltuo (£220k) o danwariant yr adran yn dilyn adolygiad barnwrol diweddar o gynllun cyfalaf yn ymwneud â Ffordd fynedfa Llanbedr, o ganlyniad i resymau tu hwnt i reolaeth y Cyngor, gan ei roi mewn cronfa benodol i'r pwrpas.

4)    Gweithredu’r trosglwyddiadau canlynol ar gyllidebau Corfforaethol, 

-       (£240k) yn ymwneud â chostau cyfalaf i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf.

-       (£995k) ar gynnal a chadw i gronfa cynnal a chadw.

-       tanwariant net o (£1,632k) ar gyllidebau Corfforaethol i Gronfa Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i leddfu'r risg gorwariant adrannau'r Cyngor yn 2019/20.

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn cyflwyno adolygiad diwedd Awst ar gyfer cyllideb refeniw’r Cyngor. ‘Roedd yr adolygiad yn dangos darlun cymysg gan adrodd fod rheolaeth ariannol dderbyniol gan nifer o adrannau’r Cyngor. Fodd bynnag amlygwyd y pwysau oedddd ar rai o’r adrannau yn dilyn gwerth £32 Miliwn o arbedion ers 2015 wedi ei gyplysu gyda chynnydd yn y galw am wasanaethau.

Oherwydd graddfa’r gorwariant a ragwelwyd yn yr adrannau Plant (£2.9 miliwn) ac Oedolion (£1.6 miliwn) daethpwyd i’r canlyniad bod angen mynd i wraidd eu hanallu i gadw at eu cyllidebau. Nodwyd bod galw uwch na’r disgwyl ar wasanaethau y ddwy adran, ac ‘roedd yr adran Oedolion hefyd wedi methu gwireddu gwerth bron i filiwn o bunnau o arbedion. Er mwyn ceisio dod a’r sefyllfa o dan reolaeth ‘roedd y Prif Weithredwr eisioes wedi cynull cyfarfodydd gyda’r adrannau er mwyn dechrau ar y gwaith yma, gyda’r bwriad o adrodd yn ol i’r Cabinet maes o law.

Ychwanegwyd bod oddeutu £733k o orwariant gan yr adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Nid oedd fodd bynnag yn achosi pryder ga ei fod yn cynnwys costau trosiannol oedd yn deillio o newid trefniadau ym maes gwastraff.

‘Roedd yn ddarbodus trosglwyddo arian oedd ar gael oherwydd tanwariant ar gyllidebau Corfforaethol er mwyn lleddfu’r risg gorwariant ar gyfer adrannau’r Cyngor ar gyfer 2019/20.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Nodwyd pryder am y lefel o orwariant yn yr adrannau Plant ac Oedolion, gan nodi mai dyma oedd canlyniad blynyddoedd o lymder a gwasgfa ariannol.

¾    Nodwyd pryder bod y cynnydd yn y galw yn annisgwyl o uchel yn y sector gofal.

¾    Nodwyd bod yma neges glir i Lywodraeth Cymru yn dilyn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Ffion Madog Evans

9.

RHAGLEN GYFALAF 2019/20 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST pdf eicon PDF 104 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2019 o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig gwerth £17.85 miliwn, sef :

       Defnydd o £8.304 miliwn o amryw ffynonellau i ariannu llithriadau o 2018/19

       Cynnydd yn y defnydd o

£5.936 miliwn o fenthyca

£3.411 miliwn yn y grantiau a chyfraniadau

£82 mil o dderbyniadau cyfalaf

£154 mil o Gronfeydd adnewyddu ac eraill

        Lleihad o £37 mil o gyfraniadau refeniw

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas

PENDERFYNIAD

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2019 o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig gwerth £17.85 miliwn, sef :

       Defnydd o £8.304 miliwn o amryw ffynonellau i ariannu llithriadau o 2018/19

       Cynnydd yn y defnydd o

£5.936 miliwn o fenthyca

£3.411 miliwn yn y grantiau a chyfraniadau

£82 mil o dderbyniadau cyfalaf

£154 mil o Gronfeydd adnewyddu ac eraill

        Lleihad o £37 mil o gyfraniadau refeniw

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn cyflwyno adolygiad diwedd Awst (sefyllfa 31 Awst 2019) ar gyfer rhaglen gyfalaf y Cyngor fel rhan o drefn adolygu cyllideb 2019/20.

‘Roedd rhaid sicrhau trefniadau ariannu priodol ar gyfer cynlluniau’r Cyngor i wario

ar gyfalaf, ac ‘roedd rhaid i’r Cabinet gymeradwyo’r rhaglen gyfalaf a’r ffynonellau ariannu. ‘Roedd y Cyngor mewn sefyllfa i fedru buddsoddi £39.7miliwn ar gyfer

cyfalaf yn 2019/20, gydag £17.9miliwn ohono yn deillio o grantiau

Er mai mater o drefn oedd ymgorffori ariannu trwy grant, ‘roedd angen hefyd delio gyda sefyllfaoedd lle bu newid rhwng blynyddoedd mewn proffil gwario a newid

mewn gwerth cyfraniadau a derbyniadau cyfalaf.

Awdur: Ffion Madog Evans

10.

BLAEN RAGLEN Y CABINET pdf eicon PDF 59 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Dyfrig Siencyn er gwybodaeth.

11.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Mae copi ar wahan o’r adroddiad wedi ei ddarparu i aelodau’r Pwyllgor yn unig.

Bydd y cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithredig fel y’i diffinir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf llywodraeth leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny)

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn â chytundebau gyda chwmni masnachol ynglŷn â phrosiect a ariennir gan grant. Mae natur y wybodaeth yn sensitive i’r cwmni a gall ei gyhoeddi gael ardrawiad ar eu buddiannau masnachol. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitive o’r math yma hefyd yn gallu tanseilio hyder ymgeiswyr am grantiau a chymorth i ddod at y Cyngor. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus o ganiatáu asesiadau a trafodaeth agored a thrylwyr gyda ymgeiswyr am gefnogaeth ariannol. Am y rhesymau yma mae’r balans yn gorwedd gyda ystyried y mater fel eitem eithriedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Dyfrig Siencyn

PENDERFYNIAD

Penderfynwyd y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithredig fel y’i diffinir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf llywodraeth leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny)

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn â chytundebau gyda chwmni masnachol ynglŷn â phrosiect a ariennir gan grant. Mae natur y wybodaeth yn sensitive i’r cwmni a gall ei gyhoeddi gael ardrawiad ar eu buddiannau masnachol. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitive o’r math yma hefyd yn gallu tanseilio hyder ymgeiswyr am grantiau a chymorth i ddod at y Cyngor. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus o ganiatáu asesiadau a trafodaeth agored a thrylwyr gyda ymgeiswyr am gefnogaeth ariannol. Am y rhesymau yma mae’r balans yn gorwedd gyda ystyried y mater fel eitem eithriedig.

12.

CYTUNDEB GYDA SNOWDONIA AEROSPACE LLP I WIREDDU CYNLLUNIAU ISADEILEDD CANOLFAN AWYROFOD ERYRI LLANBEDR

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1)  Ar sail yr adroddiad, yr asesiad risg a’r cyngor arbenigol sydd wedi ei dderbyn, awdurdodi gwireddu cynllun Isadeiledd Canolfan Awyrofod Eryri, Llanbedr.

2)  Awdurdodi’r Pennaeth Economi a Chymuned, mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, i negodi ac arwyddo cytundeb gyda Snowdonia Aerospace LLP fydd yn gwarchod buddiannau’r Cyngor cyn belled ag y bo modd, gan gynnwys cyfyngiadau ar gyfer defnydd sifil o’r ganolfan yn unig.

3) Bod y cytundeb yn  sicrhau  y defnydd sifil o’r datblygiad drwy  gynnwys  cymal  fydd yn  gwahardd defnydd milwrol o’r adeiladau sydd  yn cael eu gwella drwy’r prosiect arian Ewropeaidd

Cofnod:

Cyflwnwyd gan Cyng. Gareth Thomas.

PENDERFYNIAD

1)  Ar sail yr adroddiad, yr asesiad risg a’r cyngor arbenigol oedd wedi ei dderbyn, awdurdodi gwireddu cynllun Isadeiledd Canolfan Awyrofod Eryri, Llanbedr.

2)  Awdurdodi’r Pennaeth Economi a Chymuned, mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, i negodi ac arwyddo cytundeb gyda Snowdonia Aerospace LLP fyddai yn gwarchod buddiannau’r Cyngor cyn belled ag y bo modd, gan gynnwys cyfyngiadau ar gyfer defnydd sifil o’r ganolfan yn unig.

3) Bod y cytundeb yn  sicrhau  y defnydd sifil o’r datblygiad drwy  gynnwys  cymal  fyddai yn  gwahardd defnydd milwrol o’r adeiladau fyddai’n cael eu gwella drwy’r prosiect arian Ewropeaidd

TRAFODAETH

Nodwyd bod pecyn ariannu cyflawn bellach yn ei le ar gyfer cynllun Isadeiledd Canolfan Awyrofod Eryri, oedd yn gynnwys £7.5M o arian Ewrop. Pwysleisiwyd mai ar gyfer datblygu adeiladau ar gyfer y Ganolfan oedd y pecyn ariannu.

Cyngor Gwynedd oedd y corff atebol ar gyfer yr arian Ewrop ond lesddeiliaid / gweithredwyr Canolfan Awyrofod Eryri - Snowdonia Aerospace LLP – oedd yn gyfrifol am y gwaith oedd i’w gyflawni ar safle maes awyr Llanbedr.

Cyn belled ag y bo modd, roedd angen sicrhau buddiannau’r Cyngor drwy sefydlu cytundeb cyfreithiol gyda Snowdonia Aerospace LLP fyddai’n adlewyrchu ac yn ymateb i’r risgiau i’r Cyngor yn deillio o wireddu’r cynllun gan gynnwys cyfyngu’r defnydd o’r ganolfan i ddefnydd sifil yn unig.

Awdur: Sioned Williams