Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion
Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Media
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Dafydd Edwards (Pennaeth Cyllid). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 26 TACHWEDD 2019 PDF 65 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 26
Tachwedd 2019 fel rhai cywir. |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd i: ·
Gydnabod yr adborth yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Gynllun
Rheoli Safle Treftadaeth Byd Tirlun Lechi Gogledd Cymru ·
Cydnabod yr addasiadau perthnasol sydd wedi eu gwneud i gynnwys y
Cynllun Rheoli a’r Enwebiad Unesco mewn ymateb i’r ymgynghoriad; ·
Cymeradwyo cyflwyno Enwebiad Llawn Safle
Treftadaeth Byd Tirlun Lechi Gogledd Orllewin Cymru i Adran Ddigidol,
Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru a Chanolfan Treftadaeth Byd
Unesco ym Mharis er ystyriaeth y Pwyllgor Treftadaeth Byd. Cofnod: Cyflwynwyd gan
Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNIAD Penderfynwyd
i:
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi’r penderfyniad a gesiwyd. Ychwanegwyd fod ymgynghoriad
cyhoeddus wedi ei gynnal ar y Cynllun Rheoli ac fod addasiadau wedi eu gwneud
yn dilyn yr ymgynghoriad hwn. Ategwyd fod dwy ran
i’r cais a fydd yn cael ei gyflwyno i Unesco sef y Cynllun Rheoli a’r Cais
Llawn. Pwysleisiwyd fod y llechi, y diwylliant ac yr iaith yn rhan o’r tirlun
sydd yn cael ei gyfleu yn y cais. Nodwyd fod addasiadau wedi cael eu gwneud i’r
cais hyd y funud olaf, ac o ganlyniad fod y cais yn uniaith Saesneg ar hyn o
bryd er mwyn ei gyflwyno i Unesco. Ychwanegwyd y bydd cyfieithiad ar gael yn y
flwyddyn newydd. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ¾
Diolchwyd
am y gwaith gan holi beth fydd y camau a fydd yn cael eu cymryd o ran y
pryderon oedd wedi codi o ran yr iaith a thwristiaeth yn dilyn yr ymgynghoriad.
Cydnabuwyd fod yr elfennau iaith a diwylliant yn wan yn y cais gychwynnol ond
eu bod bellach wedi eu cryfhau. Ychwanegwyd y bydd gwaith cael ei wneud ar
effaith twristiaeth gan y Gwasanaeth Cynllunio ynghyd â’r Gwasanaeth Iaith. ¾
Nodwyd
fod gordwrisitiaeth wedi bod yn bryder dros y misoedd diwethaf ond ei bod yn
bwysig fod y cais wedi ymateb i’r pryderon drwy edrych ar effaith. ¾
Diolchwyd
i’r cyhoedd a rhanddeiliaid am gymryd amser i ymateb i’r ymgynghoriad. ¾
Holwyd
os yw’r mentrau cymdeithasol sydd i’w gweld yn frith ar hyd yr ardaloedd llechi
wedi bod yn rhan o’r broses. Nodwyd eu bod wedi bod yn rhan o’r broses a hefyd
yn bartner. Ychwanegwyd eu bod yn gweld y cais fel cyfle. Awdur: Roland Evans |
|
CYFRANIAD CYLLID GAN GYNGOR GWYNEDD I ELUSEN AMGUEDDFA LLOYD GEORGE PDF 96 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: I gyfrannu £27,000
o’r Gronfa Drawsffurfio i Elusen Amgueddfa Lloyd George ar gyfer 2020-21 er
mwyn caniatáu mwy o amser i’r Ymddiriedolwyr ystyried modelau gorau ar gyfer y
dyfodol. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Gareth Thomas PENDERFYNIAD I gyfrannu £27,000 o’r Gronfa Drawsffurfio i Elusen Amgueddfa Lloyd
George ar gyfer 2020-21 er mwyn caniatáu mwy o amser i’r Ymddiriedolwyr
ystyried modelau gorau ar gyfer y dyfodol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod y Cyngor wedi penderfynu torri'r cyfraniad a wneir ar
gyfer Amgueddfa Lloyd George yn 2017. Mynegwyd yn dilyn y penderfyniad fod
Canghellor Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi y byddai’r bwlch ariannol yn cael
ei gyfarch gan Lywodraeth Prydain ar gyfer cyfnod pontio. Ychwanegwyd nad oes
datrysiad parhaol wedi ei gytuno yn ystod y cyfnod hwn ac felly fod yr adran yn
gofyn am flwyddyn ychwanegol o gyllid er mwyn penderfynu ar opsiynau o sut y
gall yr Amgueddfa symud yn ei blaen. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Nodwyd
fod gan y Cyngor ddwy rôl yn y sefyllfa hon gan fod y Cyngor yn gweithredu fel ymddiriedolwr elusennol yr
Amgueddfa yn ogystal â rhedeg yr amgueddfa fel un o’i wasanaethau. Pwysleisiwyd
fod yr adroddiad gerbron er ystyriaeth yn edrych ar y priodweddau ariannol ac y
bydd trafodaeth bellach fel ‘Ymddiriedolwyr’ yn digwydd yn dilyn y penderfyniad
hwn. ¾
Pwysleisiwyd
fod yr adnodd yn un mor bwysig i Gymru ac y byddai’r flwyddyn ychwanegol yn
rhoi cyfle i wneud mwy â’r amgueddfa ac i ddod o hyd i ateb er mwyn sicrhau
dyfodol yr Amgueddfa. ¾
Mynegwyd
fod efallai angen trafodaeth i weld os oes modd i’r Amgueddfa fod yn rhan o’r
Cynllun Llechi ar gyfer y cais Safle Treftadaeth y Byd fel un o’r lleoliadau. ¾
Gan fod
y cais yn un ar gyfer edrych am ddatrysiad hir dymor i’r Amgueddfa,
pwysleisiwyd mai'r Gronfa Drawsffurfio fyddai ffynhonnell briodol y cyllid. Awdur: Roland Evans |
|
CYNIGION ARBEDION A CHYLLIDEB Y CYNGOR PDF 52 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ein bod yn derbyn y
wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan yr Adran Gyllid am yr hyn y mae’r setliad yn
ei olygu, ac at ddibenion ymgynghori gyda’n cyd aelodau yn y gweithdai yn
Ionawr, ein bod yn ymwrthod rhag defnyddio’r arbedion yn y bedair rhes isaf yn
y tabl ym mharagraff 13, ond y dylid defnyddio’r rhai sy’n gynwysedig yn
llinell gyntaf y tabl (gwerth £1.06m) er mwyn cwrdd ag elfen o’r galwadau
ychwanegol sydd arnom ac er mwyn i ni fedru ystyried cynnydd Treth Gyngor sy’n
fwy rhesymol.
Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD Ein bod yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan yr Adran Gyllid
am yr hyn y mae’r setliad yn ei olygu, ac at ddibenion ymgynghori gyda’n cyd
aelodau yn y gweithdai yn Ionawr, ein bod yn ymwrthod rhag defnyddio’r arbedion
yn y pedair rhes isaf yn y tabl ym mharagraff 13, ond y dylid defnyddio’r rhai
sy’n gynwysedig yn llinell gyntaf y tabl (gwerth £1.06m o arbedion
effeithlonrwydd) er mwyn cwrdd ag elfen o’r galwadau ychwanegol sydd arnom ac
er mwyn i ni fedru ystyried cynnydd Treth Gyngor sy’n fwy rhesymol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ein bod bellach wedi derbyn y setliad drafft a'i fod yn well
na’r disgwyl. Ategwyd er bod y setliad yn cyfarch chwyddiant nid yw’n cyrraedd
lefel fydd ei angen er mwyn ariannu’r galw ychwanegol ar adrannau. Ychwanegwyd ym mis
Gorffennaf fod y Cabinet wedi penderfynu ar strategaeth o gynllunio i gwrdd â
bwlch o £2 filiwn a fuasai’n cael ei rannu rhwng yr holl adrannau. Ategwyd fod
y cynlluniau yma wedi cael ei graffu gan y Pwyllgorau Craffu perthnasol cyn
cael eu cyflwyno i’r Cabinet. Er hyn mynegwyd fod y setliad yn un cadarnhaol
ond pwysleisiwyd ei fod yn un drafft a dim ond am y flwyddyn sydd i ddod. Ni
wyddom beth fydd yn digwydd mewn blynyddoedd dilynol. Ychwanegodd yr Uwch
Reolwr Cyllid y bydd y setliad terfynol yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror.
Nodwyd ar gyfartaledd fod awdurdodau wedi derbyn cynnydd o 4.3% yn y grant ar
gyfer y flwyddyn nesaf ond fod Gwynedd ychydig yn uwch ar 4.6%. Mynegwyd fod y
setliad drafft yn cyfarch y 3.1% o chwyddiant ond nad yw’n cyfarch y 2.3% o alw
ychwanegol ar wasanaethau. Amlygwyd y tebygolrwydd y bydd bwlch ariannol o
£3.5miliwn yn parhau i fod angen ei gyfarch. Pwysleisiodd y Prif
Weithredwr y gall y ffigyrau yma newid cyn mis Chwefror, ond fod y drafft yn
amlygu mai’r setliad hwn fydd y gorau ers 10 mlynedd i’r Cyngor gan ei fod yn
cyfarch ein anghenion chwyddiant. Ategodd er mwyn cyfarch y bwlch y byddai modd
codi’r dreth Cyngor 5% neu benderfynu defnyddio’r holl gynigion arbedion o’r adrannau a chodi’r
dreth 2% neu unrhyw gyfuyniad rhwng y ddau begwn yma. Nodwyd fod angen
penderfyniad ar argymhelliad fel bod modd i’r Adran Gyllid ymgynghori â’r holl
gynghorwyr ar y gyllideb ym mis Ionawr. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ¾
Pwysleisiwyd
fod toriadau difrifol i’w gweld yn y tabl o arbedion ac y buasai effaith mawr
ar drigolion Gwynedd. Cynigwyd i ddefnyddio'r arbedion sy’n gynwysedig yn
llinell gyntaf y tabl (gwerth £1.06miliwn o arbedion effeithlonrwydd lle na
fyddai effaith o sylwedd ar drigolion Gwynedd) er mwyn i ystyried cynnydd Treth
Cyngor mwy rhesymol. ¾
Nodwyd
balchder fod y gyllideb yn cydnabod y galw ychwanegol sydd ar adrannau gan fod yr arian ar gyfer y bobl mwyaf bregus
yn y sir. Awdur: Dafydd Edwards |
|
YMATEB CYNGOR GWYNEDD I BIL LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU PDF 71 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd yr
ymateb drafft a baratowyd ar ran y Cyngor i’r ymgynghoriad ar Bil Llywodraethol
Lleol ac Etholiadau (Cymru) - Tachwedd 2019 er ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn am
gymeradwyaeth ar 19 Rhagfyr 2019. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD Cymeradwywyd yr ymateb drafft a baratowyd ar ran y Cyngor i’r
ymgynghoriad ar Bil Llywodraethol Lleol ac Etholiadau (Cymru) - Tachwedd 2019
er ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn am gymeradwyaeth ar 19 Rhagfyr 2019. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod y Bil wedi ei gyhoeddi a bod rhai elfennau mae’r Cyngor
yn cytuno â hwy, megis yr oed pleidleisio ac egwyddor i bleidlais sengl
drosglwyddadwy. Mynegwyd nad oedd y cynnig i greu Cyd Bwyllgor Corfforaethol
ar gyfer prif elfennau yn dderbyniol gan ei fod yn gam tuag at greu haen uwch o
awdurdod rhanbarthol. Ategwyd y byddai ychwanegu’r awdurdodau hyn yn pellhau’r
penderfyniadau oddi wrth yr etholwyr. Ychwanegwyd fod gwaith o gydweithio
rhanbarthol sydd i’w gweld yn y Maes Iechyd ar hyn o bryd yn gweithio yn dda
oherwydd ei fod wedi digwydd yn wirfoddol. Pwysleisiwyd y buasai cydweithio
gorfodol yn aneffeithiol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Mynegwyd
fod angen edrych ar ôl y Cynghorau Cymuned ac efallai dechrau ail edrych ar y
drefn o’r lefel yma er mwyn cryfhau’r seiliau cyn mynd ymhellach. ¾
Nodwyd
fod y bil hwn yn fygythiad i ddemocratiaeth ac yn ychwanegu haen ychwanegol ble
nad oes sôn am atebolrwydd ac yn mynd a penderfyniadau ymhellach oddi wrth yr
etholwyr. ¾
Pwysleisiwyd
fod angen ail edrych ar y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru ac yr awdurdodau i
sefydlu perthynas gyfartal fel na fydd Llywodraeth Cymru yn ymyrryd â
phenderfyniadau ar lefel leol. Awdur: Geraint Owen a Iwan Evans |
|
LLYTHYR BLYNYDDOL YR OMBWDSMON 2018/19 PDF 68 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd Llythyr
Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2018/19 Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Dafydd Meurig a’r Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD Derbyniwyd Llythyr
Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2018/19 a’r sylwadau a nodwyd. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y llythyr yn adrodd ar
gwynion o fewn y Cyngor. Ategwyd fod adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Cabinet yn
ystod yr haf yn adrodd ar y drefn gwynion a’r achosion unigol oedd y tu ôl i
ffigyrau’r adroddiad. Esboniwyd nad oes neges nodweddiadol nac unrhyw bryderon
yn codi. Fodd bynnag nododd y Prif Weithredwr fod yna broblemau wedi
codi gyda’r ffordd y bu i ni ymdrin a’r achos a gyfeiriwyd ato lle cafwyd
adroddiad gan yr Ombwdsmon gan egluro’r cefndir. Nid oeddem wedi gweithredu yn unol ag union
eiriad yr hyn a gytunwyd gydag ef. Yn sgil hynny roedd yn afnodlon gydag ymateb
y Cyngor a bu’r Prif Weithredwr yn ei weld er mwyn egluro’r sefyllfa. Bwriad y
Prif Weithredwr oedd adolygu ein trefniadau cwynion pan yr oedd adroddiad yn
cyrraedd yr Ombwdsmon er mwyn sicrhau gweithrediad priodol. Ychwanegwyd fod trefn cwynion y Cyngor yn annog Adrannau i ddysgu o’r cwynion a rhoi eu hunain yn esgidiau’r dinesydd. Mynegwyd fod yr Ombwdsmon yn gwneud i’r Cyngor weithio mewn ffordd wahanol ac felly fod angen o bosib rhoi camau yn y drefn gwynion i fewnosod cyfundrefn gorfforaethol pan fydd adroddiad Ombwdsmon drafft yn cyrraedd fel bod y ddwy drefn yn gweithio gyda’i gilydd. Awdur: Iwan Evans a Sion Huws |