skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. Cemlyn Williams.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu

 

5.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR ARWEINYDD A DIRPRWY ARWEINYDD AR Y BYRDDAU RHAGLEN pdf eicon PDF 115 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn a'r Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Dyfrig Siencyn a Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cabinet wedi penderfynu ffurfio dau ffwrdd trawsadrannol yn edrych ar ddau faes penodol – Adfywio a Cefnogi Pobl.

 

Mynegwyd o ran y Maes Adfywio eu bod wedi casglu gwybodaeth am y sir ac wedi rhannu’r sir yn 13 ardal. Ychwanegwyd fod angen ystyried pa waith sydd angen ei wneud ym mhob cymuned er mwyn anelu at y ‘gymuned berffaith’. Ategwyd fod angen ymgysylltu a thrigolion er mwyn bod yn ymwybodol o’u blaenoriaethau ac y bydd y gwaith ymgysylltu yn cychwyn yn fuan.

 

Nodwyd o ran y Maes Cefnogi Pobl ei bod wedi bod yn ddiddorol i weld y mapio ffrydiau gwaith yn y maes hwn. Ychwanegwyd ar rai adegau nad oedd yna gysylltiadau digonol rhwng y ffrydiau ond fod llawer o’r gwaith yn tynnu pobl at ei gilydd yn fwy effeithlon er mwyn edrych ar y gefnogaeth yr ydym yn ei roi drwy safbwynt y dinesydd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd pwysigrwydd o ffocysu ar y trigolion yn y byrddau rhaglen a holwyd o ran y Bwrdd Cefnogi Pobl os oedd asiantaethau neu awdurdodau eraill yn rhan o’r drafodaeth. Mynegwyd fod y Cyngor yn mynychu Byrddau’r Gogledd mewn amryw faes ond fod y bwrdd hwn yn canolbwyntio ar waith y cyngor yn y lle cyntaf cyn ei ymestyn yn ehangach er y byddai hynny yn angenrheidiol maes o law.

¾     Nodwyd fod y byrddau yma yn mynd at wraidd Ffordd Gwynedd gan nodi y bydd yn trawsnewid y ffordd o weithio a sut mae adrannau yn edrych ar wasanaethau a ffrydiau gwaith.

¾     Nodwyd y bydd argymhelliad yn dod ger bron y Cabinet i newid yr Is Grwp Hinsawdd sydd yn cyfarfod ar hyn o bryd yn fwrdd newydd a fydd yn canolbwyntio ar yr Argyfwng Hinsawdd yn drawsadrannol. Mynegwyd y bydd trafodaeth bellach ar y mater bryd hynny. 

Awdur: Dilwyn Williams a Morwena Edwards

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GEFNOGAETH CORFFORAETHOL A CHYFRIETHIOL pdf eicon PDF 142 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y bydd yn canolbwyntio ar rai penawdau yn yr adroddiad. Nodwyd y bu i’r Cabinet dderbyn Cynllun Cydraddoldeb Drafft ym mis Tachwedd ac fod y gwaith ymgynghori ar y ddogfen yn mynd rhagddi. Tynnwyd sylw fod cynnydd yn nifer y digwyddiadau ble mae gwybodaeth am unigolion wedi ei ddwyn neud golli. Pwysleisiwyd fod gwaith ar droed i edrych ar y polisïau gweithredu er mwyn ymateb i’r achosion.

 

Nodwyd fod adolygiad wedi ei wneud o drefniadau ceisiadau Bathodynnau Glas. Ychwanegwyd fod y Cyngor wedi bod yn cynorthwyo’r Llywodraeth er mwyn gwella’r gwasanaeth.    Diolchwyd i staff yr adran gyfreithiol am eu gwaith caled dros gyfnod yr etholiad.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Holwyd pam fod y Cyngor wedi bod yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i sicrhau fod gwasanaeth ar gael yn ddwyieithog. Mynegwyd fod y ffurflenni Bathodynnau Glas wedi bod ar gael yn ddwyieithog ond fod y Cyngor wedi bod yn eu cynorthwyo i sicrhau eu bod yn defnyddio Cymraeg clir fel fod trigolion yn eu deall.

¾      Trafodwyd y maes Caffael gan nodi pwrpas yr uned sef i gael y prisiau gorau i’r cyngor ynghyd a chadw’r budd yn lleol. Mynegwyd os nad yw contract yn mynd i fusnesau lleol, yna rydym wedi methu ar yr ail bwrpas, a bod felly angen gwneud adolygiadau yn gofyn pam.

 

Awdur: Dilwyn Williams

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS BRIFFYRDD A BWRDEISTREFOL AC YMGYNGHORIAETH GWYNEDD pdf eicon PDF 114 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Catrin Wager

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Catrin Wager 

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod targed o wastraff a gesglir sydd yn cael ei ailddefnyddio, ailgylchu neu compostio oed gan y Cyngor wedi ei gyrraedd ac y bydd y targed yn codi o 64% i 70% erbyn 2025. Amlygwyd fod canran y gwastraff sydd yn cael ei anfon i dirlenwi yn ogystal wedi lleihau i 18% a mynegwyd y bydd y ffigwr am leihau unwaith eto gan y bydd yn cael ei anfon i’r Parc Adfer unwaith y bydd yn agor. Esboniwyd y bydd y gwastraff yn cael ei losgi i greu egni yn y parc hwn ac o ganlyniad ni fydd yn cael ei anfon i dirlenwi o gwbl.

 

Tynnwyd sylw at y maes casgliadau gwastraff gan nodi ymddiheuriad fod problemau wedi codi yn dilyn newid trefniadau casglu gwastraff yn Arfon. Ychwanegwyd fod cyfnod y Nadolig, tywydd gwael a problemau cerbydau wedi arwain at lawer o gasgliadau yn cael eu methu. Pwysleisiwyd mai cyfnod trosiannol yw’r cyfnod hwn ac eu bod yn gobeithio y bydd yn gwella.

 

Mynegwyd o ran Newid Hinsawdd fod newid goleuadau stryd i dechnoleg LED yn parhau ac mae 1,700 o lampau wedi ei newid yn ystod 2019/20. Pwysleisiwyd fod hyn yn lleihau allyriadau carbon i lawr o 3,435 yn 2014.15 i 685 erbyn eleni. Nodwyd fod y cynllun i foderneiddio Teledu Cylch Cyfyng yn dirwyn i ben a diolchwyd i staff am eu gwaith caled. Ychwanegwyd ei fod yn ogystal wedi dod i mewn o dan gyllideb.

 

Tynnwyd sylw at y maes Ymgynghoriaeth gan nodi fod diffyg ariannol mewn incwm am eleni ac fod hyn oherwydd ansicrwydd yn y maes o ganlyniad i Brexit. Er hyn pwysleisiwyd fod yr Adran Dŵr ac Amgylchedd wedi llwyddo i gael grantiau ar gyfer ardaloedd llifogydd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾      Tynnwyd sylw at y methiannau yn y maes casglu Gwastraff gan bwyslesio fod y niferoedd mor isel yn y miliynau o gasgliadau sydd yn cael eu casglu. Pwysleisiwyd fod y niferoedd sydd yn cael eu methu oddeutu 0.01% o’r holl gasgliadau.

¾     Mynegwyd fod codi gwastraff sydd yn cael eu hailgylchu i 70% yn darged realistig ond efallai fod angen pwysleisio i gwmnïau fod angen lleihau y defnydd o blastig ac annog pobl i ail ddefnyddio yn hytrach ‘na prynu o’r newydd.

 

Awdur: Dilwyn Williams

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS BLANT A CEFNOGI TEULUOEDD pdf eicon PDF 132 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad gan ofyn i’r Prif Weithredwr ystyried y sefyllfa gyda swyddi sy’n cael eu hariannu o grantiau blynyddol a’r trafferthion y mae hynny yn ei greu i wasanaethau ac i’r staff eu hunain.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Dilwyn Morgan 

 

            PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad gan ofyn i’r Prif Weithredwr ystyried y sefyllfa gyda swyddi sy’n cael eu hariannu o grantiau blynyddol a’r trafferthion y mae hynny yn ei greu i wasanaethau ac i’r staff eu hunain.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn adrodd ar waith y Cyngor ac ar y cyfan fod yr Aelod Cabinet yn hapus ar cynnydd mewn prosiectau. Ychwanegwyd ei bod yn her i’r adran i wireddu’r cynlluniau arbedion.

 

Tynnwyd sylw at y Strategaeth Cefnogi Teuluoedd gan fynegi fod y gwaith o adnabod y galw a mapio pa gefnogaeth sydd ar gael wedi ei gwblhau. Ategwyd fod yr adran wedi cyflawni eu rhaglen waith tymor byd, wrth sefydlu Hwb Teulu Gwynedd sy’n rhoi gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael. Amlygwyd blaenoriaeth yr adran am weddill y flwydd sef i gytuno ar weledigaeth glir gyda’r partneriaid allweddol i er mwyn sicrhau cyd-gynllunio yn y gwasanaethau i deuluoedd.

 

Mynegwyd o ran Perfformiad yr adran fod y trefniadau diogelu yn rhai cadarn. Nodwyd fod ymestyn gwaith sgrinio teclyn Welcomm yn y maes Blynyddoedd Cynnar yn cael ei wneud a fydd yn ceisio gwella datblygiadau iaith plentyn. Amlygwyd llwyddiant cynllun Pontio’r Cenedlaethau ble mae sesiynau wedi eu cynnal rhwng trigolion cartref gofal Bryn Seiont ynghyd â phlant meithrinfa Plas Pawb. Pwysleisiwyd fod pryder am gynlluniau sydd yn cael ei ariannu gan grantiau. Ychwanegwyd fyn aml fod yr arian yn cael ei dderbyn am gyfnod byr ac ei bod yn mynd yn anos i gadw staff profiadol gan nodi oes modd cael cytundeb tymor hir neu barhaol. Gofynnwyd am greu darn o waith i ystyried y sefyllfa.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd bod y nifer swyddi sydd yn cael eu hariannu o grantiau blynyddol yn ei gwneud yn anodd i gadw staff ac yn creu anesmwythdod blynyddol iddynt.  Mae angen anfon neges i Lywodraeth Cymru yn nodi ein pryderon am y swyddi sy’n cael eu hariannu o grantiau blynyddol. Gofynnwyd i’r Prif Weithredwr i ystyried y sefyllfa a’r trafferthion mae hynny yn ei greu i wasanaethau ac i’r staff eu hunain er mwyn gallu cyflwyno tystiolaeth gadarn i’r Llywodraeth.

¾     Gofynnwyd am ddiweddariad o waith y Gwasanaeth Ieuenctid o ran gweithio a mudiadau ieuenctid eraill. Mynegwyd fod gwaith yn cael ei wneud a’r mudiadau ac fod y ddarpariaeth ieuenctid bellach yn cyrraedd mwy o lefydd ac erioed o’r blaen.

¾     Trafodwyd sefyllfa ariannol yr adran gan fynegi fod pwysau ariannol i’w gweld ar draws y wlad. Ychwanegwyd fod nifer y lleoliadau all-sirol yn uwch o’i gymharu a blynyddoedd diwethaf, ac fod y gost yn uchel. Mynegwyd fod trafodaethau yn cael ei cynnal er mwyn gweld os oes modd dod a darpariaeth yn nes at adref ar draws rhanbarth y Gogledd. Yn ychwanegol at hyn mynegwyd fod gwaith yn cael ei wneud a Chyngor Ynys Môn er mwyn datblygu gwasanaeth i weithio a teuluoedd a drwy hyn lleihau’r angen am leoliadau all sirol.

 

Awdur: Morwena Edwards

9.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABIENT DROS ADDYSG pdf eicon PDF 116 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad, a chymeradwyo’r cynlluniau arbedion amgen sydd yn rhan 5 o’r adroddiad, sef defnyddio tan wariant y gyllideb ‘Disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol sy’n mynychu Ysgolion All-Sirol’

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Griffith

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad, a chymeradwyo’r cynlluniau arbedion amgen sydd yn rhan 5 o’r adroddiad, sef defnyddio tan wariant y gyllideb ‘Disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol sy’n mynychu Ysgolion All-Sirol’

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad gan yr Aelod Cabinet dros Amgylchedd yn absenoldeb yr Aelod Cabinet Addysg. Ychwanegwyd i nodi fod yr Aelod Cabinet dros Amgylchedd wedi bod yn eistedd yn y cyfarfodydd herio perfformiad gyda’r Aelod Cabinet Addysg ac wedi  cael bore diddorol yn edrych ar waith yr adran.

 

Tynnwyd sylw at yr prosiect TRAC gan nodi fod yr cynllun wedi cael ei weithredu ers oddeutu tair blynedd ac y bydd y grant yn dod i ben. Mynegwyd fod angen adroddiad pellach er mwyn edrych yn fanylach ar y mater.  Os yw’n effeithiol mae’n rhaid i’r cyngor ystyried a ddylid parhau – grant neu beidio – ond mae angen tystiolaeth i gefnogi hynny.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Codwyd pryderon am y Siarter Iaith yn parhau i greu baich gwaith benaethiaid. Mynegwyd fod lefel y gwaith papur bellach wedi codi yn dilyn y cynllun yn cael ei fabwysiadau yn genedlaethol gan Lywodraeth Cymru. Mynegwyd gobeithio y bydd cyfle i ail edrych ar hyn yn sgil Fframwaith Siarter iaith a fydd yn dod i rym ym Medi 2020.

¾     Mynegwyd pryder am gynllun TRAC a fydd yn dod i ben ymhen dwy flynedd. Ymhelaethwyd gan nodi fod y plant sydd yn rhan o’r cynllun hwn yn bobl ifanc bregus ac yr angen i amlygu hyn.

¾     Nodwyd fod niferoedd sydd yn cael cinio ysgol yn tueddu i fod yn is a gofynnwyd a oes oblygiadau i hyn. Ategwyd fod tystiolaeth yn dangos fod codi’r pris yn y gorffennol wedi bod yn rhannol reswm dros y lleihad. Ychwanegwyd fod yr adran yn awyddus i edrych yn fanylach ar hyblygrwydd yn y maes. Amlygwyd yn ogystal fod gostyngiad mewn demograffi cynradd yn ogystal sydd yn amlwg yn golygu lleihad mewn niferoedd.

Awdur: Dilwyn Williams

10.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS DAI AC EIDDO pdf eicon PDF 114 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Craig ab Iago

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adran yn gobeithio y bydd modd mynd a Strategaeth Tai i’r Pwyllgor Craffu  yn ystod yr wythnosau nesaf ac i’r Cabinet cyn y Pasg. Nodwyd fod y nifer o bobl sydd yn cyflwyno eu hunain yn ddigartref yn parhau i godi. Pwysleisiwyd fod y gwasanaeth yn ddibynnol ar grantiau ac o ganlyniad ei bod yn anodd cynllunio. Ychwanegwyd fod angen arian i sicrhau ateb hir dymor sydd yn mynd at wraidd problemau. 

 

Nodwyd fod prosiect newydd ar y cyd â’r asiantaeth trydydd sector Cais a Grŵp Cynefin wedi  bod yn llwyddiannus yng Ngwobrau Cymorth Cymru yn y categori atal digartrefedd. Amlygwyd mai cynnig cefnogaeth i bobl sy’n gadael carchar a phobl ag anghenion dwys sydd wedi bod yn cysgu allan oedd y prosiect hwn. Nodwyd fod derbyn y wobr hon yn amlygu'r gwaith sydd yn gallu cael ei wneud. Amlygwyd fod gwaith Ffordd Gwynedd angen ei wneud yn y Gwasanaeth Cyflenwad a Gorfodaeth Tai sydd yn gyfrifol am ddarparu grantiau addasu tai ar gyfer pobl ag anableddau. Gobeithir drwy gynnal adolygiad Ffordd Gwynedd y bydd modd ymchwilio i’r llif gwaith i adnabod rhwystrau.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd pwysigrwydd o greu adolygiadau Ffordd Gwynedd ar y gwasanaethau gan, yn y maes hwn, yn holl bwysig i feddwl am dyheadau a anghenion yr unigolion. Pwysleisiwyd gyda chynnydd mewn digartrefedd ac yn benodol digartrefedd cudd fod angen sicrhau fod y pecynnau sydd ar gael yn benodol i’r unigolyn.

¾     Amlygwyd fod maes tai yn faes anodd pan fo 10% o stoc tai yr ardal yn dai haf. Mynegwyd fod angen cyflenwad o dai sydd ar gael ar gyfer byw ynddynt. Ychwanegwyd fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi codi sylw am hyn a’r gobaith yw y byddai’n cael ei drafod yng Nghyfarfod nesaf o Gabinet y Gogledd.

 

 

Awdur: Dilwyn Williams

11.

TROSOLWG ARBEDION 2019/20 - ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 284 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd calonogol tuag ar wireddu cynlluniau arbedion 2019/20 a blynyddoedd blaenorol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd calonogol tuag ar wireddu cynlluniau arbedion 2019/20 a blynyddoedd blaenorol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod gwerth £32m o arbedion wedi eu cymeradwyo i’w gwireddu yn ystod cyfnod 2015/16 i 2019/20. Ychwanegwyd drwy nodi fod yr atodiad yn nodi cyrhaeddiad pob adran yn erbyn y targed arbedion oedd wedi ei osod sydd yn gyfanswm o bron i £27m.

 

Amlygwyd fod risgiau sylweddol i gyflawni arbedion 2019/20 gan yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd sef Adolygiad Dechrau i’r diwedd. Mynegwyd fod Tasglu Cyllideb Plant wedi ei gomisiynu er mwyn rhoi sylw i faterion ariannol yn yr Adran sydd yn cynnwys y maes yma. Tynnwyd sylw ar risgiau o gyflawni arbedion yn yr Adran Tai yn ogystal yn y cynllun Adolygu’r Strwythurau a Lleoliadau presennol gan nodi fod yr adran yn edrych i ddod o hyd i gynlluniau amgen.

 

Nodwyd fod atodiad dau yn crynhoi’r sefyllfa o ran gwireddu cynlluniau arbedion 2019/20. Pwysleisiwyd fod 48% wedi eu gwireddu a 23% ar drac. Amlygwyd fod 22 o gynlluniau yn llithro neu a risgiau i gyflawni. Mynegwyd fod y cyfnod yn gyfnod heriol ond fod y cynlluniau ar y cyfan yn rhai boddhaol.

Awdur: Dafydd Edwards