skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

CYFRIFON TERFYNOL 2018/19 - ALLDRO REFENIW pdf eicon PDF 71 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

1.1   Nodi sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2018/19.

1.2   Cymeradwyo’r symiau i’w cario ymlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1) sef -

ADRAN

£’000

Oedolion, Iechyd a Llesiant

15

Plant a Theuluoedd

100

Addysg

100

Economi a Chymuned

28

Priffyrdd a Bwrdeistrefol

100

Amgylchedd

(100)

Ymgynghoriaeth Gwynedd

(59)

Tîm rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol

(76)

Cyllid

(59)

Cefnogaeth Gorfforaethol

(61)

1.3   Cymeradwyo’r argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2)

·         Yr Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £1,544k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i £100k, i'w cynorthwyo i symud ymlaen i wynebu her 2019/20.

·         Yr Adran Addysg i dderbyn cymorth ariannol rhannol un-tro o £16k gan gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i £100k.

·         Digolledu'r Adran Economi a Chymuned £157k, sef swm y gorwariant o ganlyniad i lithriad yn yr amserlen sefydlu cwmni Byw'n Iach i redeg y cyfleusterau hamdden, sydd felly yn cyfyngu lefel y gorwariant i'w gario ymlaen gan yr Adran i £28k.

·         Yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cymorth ariannol un-tro rhannol o £518k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i £100k, i'w cynorthwyo i wynebu her 2019/20.

·         Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol, cadw at y drefn arferol i ganiatáu i'r Adran Amgylchedd gadw (£100k) o'i danwariant, a symud (£392k) sef y swm uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2018/19.

·         Ar gyllidebau Corfforaethol, trosglwyddo:

- (£19k) cysylltiedig â'r premiwm Treth y Cyngor i gronfa benodol i'w ystyried ar gyfer y Strategaeth Dai.

- (£551k) yn ymwneud â chostau cyfalaf i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf.

- (£738k) ar gynnal a chadw i gronfa cynnal a chadw.

·         Defnyddio (£1,843k) o'r tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2018/19.

·         Bydd gweddill tanwariant Corfforaethol (£173k) yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor.

 

1.4  Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd a darpariaethau penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd a darpariaethau, sef:

·                     Cynaeafu (£3.931m) o gronfeydd a (£69k) o ddarpariaethau.

·                     Trosglwyddo £3m i’r Gronfa Trawsffurfio ar gyfer Cynllun y Cyngor.

·                     Trosglwyddo £1m i Falansau Cyffredinol y Cyngor.

·                     Neilltuo £262k am gyfnod o flwyddyn o’r gronfa Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol i bontio’r ffynhonnell ariannu ymrwymiadau perthnasol i’r Gronfa

Bensiwn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Ioan Thomas   

 

PENDERFYNWYD

 

1.1   Nodi’r sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2018/19

1.2   Cymeradwyo’r symiau i’w cario ymlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1) sef –

 

ADRAN

£’000

Oedolion, Iechyd a Llesiant

15

Plant a Theuluoedd

100

Addysg

100

Economi a Chymuned

28

Priffyrdd a Bwrdeistrefol

100

Amgylchedd

(100)

Ymgynghoriaeth Gwynedd

(59)

Tîm rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol

(76)

Cyllid

(59)

Cefnogaeth Gorfforaethol

(61)

 

1.3   Cymeradwyo’r argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2)

·         Yr Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £1,544k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i £100k, i'w cynorthwyo i symud ymlaen i wynebu her 2019/20.

·         Yr Adran Addysg i dderbyn cymorth ariannol rhannol un-tro o £16k gan gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i £100k.

·         Digolledu'r Adran Economi a Chymuned £157k, sef swm y gorwariant o ganlyniad i lithriad yn yr amserlen sefydlu cwmni Byw'n Iach i redeg y cyfleusterau hamdden, sydd felly yn cyfyngu lefel y gorwariant i'w gario mlaen gan yr Adran i £28k.

·         Yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cymorth ariannol un-tro rhannol o £518k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario mlaen gan yr Adran i £100k, i'w cynorthwyo i wynebu her 2019/20.

·         Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol, cadw at y drefn arferol i ganiatáu i'r Adran Amgylchedd gadw (£100k) o'i danwariant, a symud (£392k) sef y swm uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2018/19.

·         Ar gyllidebau Corfforaethol, trosglwyddo:

- (£19k) cysylltiedig â'r premiwm Treth y Cyngor i gronfa benodol i'w ystyried ar gyfer y Strategaeth Dai.

- (£551k) yn ymwneud â chostau cyfalaf i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf.

- (£738k) ar gynnal a chadw i gronfa cynnal a chadw.

·         Defnyddio (£1,843k) o'r tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2018/19.

·         Bydd gweddill tanwariant Corfforaethol (£173k) yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor.

 

1.4   Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd a darpariaethau penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd a darpariaethau, sef:

·                     Cynaeafu (£3.931m) o gronfeydd a (£69k) o ddarpariaethau.

·                     Trosglwyddo £3m i’r Gronfa Trawsffurfio ar gyfer Cynllun y Cyngor.

·                     Trosglwyddo £1m i Falansau Cyffredinol y Cyngor.

·                     Neilltuo £262k am gyfnod o flwyddyn o’r gronfa Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol i bontio’r ffynhonnell ariannu ymrwymiadau perthnasol i’r Gronfa Bensiwn.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn manylu ar wariant y Cyngor am 2018/19. Diolchwyd i’r Cyng. Peredur Jenkins am ei ymrwymiad  i sicrhau sefyllfa ariannol y Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf. Mynegwyd fod rheolaeth ariannol y Cyngor wedi bod yn effeithiol yn ystod y flwyddyn er y gofynion i gyflawni arbedion.

 

Mynegwyd fod yr adroddiad yn nodi sefyllfa derfynol yr holl adrannau, a thynnwyd sylw at y prif faterion. Nodwyd fod hanner yr adrannau wedi medru cadw o fewn eu cyllidebau. Tynnwyd sylw at welliant yn sefyllfa’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant erbyn diwedd y flwydd o ganlyniad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

Awdur: Ffion Madog Evans

6.

RHAGLEN CYFALAF 2018/19 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN (31 MAWRTH 2019) pdf eicon PDF 88 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2019) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

 

  • £7,000 cynnydd mewn defnydd o fenthyca
  • £1,739,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau
  • £71,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf
  • £158,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau refeniw
  • Dim newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf
  • £184,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2019) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

 

  • £7,000 cynnydd mewn defnydd o fenthyca
  • £1,739,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau
  • £71,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf
  • £158,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau refeniw
  • Dim newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf
  • £184,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai prif ddiben yr adroddiad yw cyflwyno sefyllfa derfynol rhaglen gyfalaf 2018/19.  Mynegwyd fod yr adroddiad yn rhoi dadansoddiad fesul adran o’r rhaglen gyfalaf o £53.53 miliwn am y 3 blynedd 2018/19 - 2020/21.

 

Tynnwyd sylw at brif gasgliad, sef fod y Cyngor wedi gwario dros £22.8m drwy gynlluniau cyfalaf, ble mae 55% ohono wedi ei ariannu drwy grantiau. Codwyd pryderon am ostyngiad yn nifer y staff o fewn y Cyngor a’r capasiti fydd ar gael i sicrhau fod cynlluniau yn aeddfed i’w cyflwyno am grantiau yn y dyfodol. Esboniwyd fod cyfanswm o £12.7m yn llithro o 2018/19 o’i gymharu â £15.6m ar ddiwedd 2017/18. Ymhelaethwyd ar y prif resymau dros y llithriadau a oedd yn cynnwys Grant Cynnal a Chadw Ysgolion o £1.8m yn cyrraedd yn hwyr, newid mewn amseriad gwario ar gyfer adnewyddu cerbydau’r Cyngor a disgwyl am benderfyniadau arian cyfatebo gan Lywodraeth Cymru ar gynlluniau yn y maes Eiddo.

 

Pwysleisiwyd fod y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus yn derbyn grantiau ychwanegol ers yr adolygiad diwethaf, yn cynnwys grantiau Cynnal a Chadw Ysgolion a’r grant Cronfa Gofal Canolradd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Holwyd, gan fod y rhai gwasanaethau yn ddibynnol ar grantiau, sut y gall hyn effeithio’r Cyngor yn y dyfodol. Nodwyd fod y Cyngor yn ceisio rhoi pwysau ar y Llywodraeth i grantiau gael ei rhoi yn rhan o’r setliad, mynegwyd fod gwasanaethau yn ddibynnol ar grantiau yn peri ansicrwydd ac yn ei gwneud yn anodd cynllunio i’r dyfodol.

¾     Diolchwyd i staff am eu gwaith caled yn sicrhau grantiau ac i gynllunio ar gyfer cynlluniau’r dyfodol.

 

Awdur: Ffion Madog Evans

7.

TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD AR GYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 334 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad a’r cynnydd calonogol tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2018/19 a blynyddoedd blaenorol.

 

Cofnod:

trosolwg arbedion: adroddiad ar gynnydd ar wireddu cynlluniau arbedion

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNIAD

 

Nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad a’r cynnydd calonogol tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2018/19 a blynyddoedd blaenorol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod dros 96% o arbedion 2015/16 - 2017/18 wedi’u gwireddu erbyn Mawrth 2018, ychwanegwyd fod hyn yn gyfanswm o dros £23m. Mynegwyd fod llithriad ar 12 o’r cynlluniau gyda 7 ohonynt gan yr Adran Oedolion. Codwyd pryder am 2 gynllun yn yr Adran Addysg sef Elfen Gwarchod o fewn y Cynllun Brecwast am Ddim, a Chynyddu Pris Prydau Ysgolion Cynradd o £2.30 i £2.50. Ychwanegwyd nad yw’r cynlluniau yn cyrraedd yr arbedion disgwyliedig ac o ganlyniad wedi arwain at orwariant.

 

Nodwyd fod Strategaeth Ariannol 2018/19 wedi cynllunio gwerth £2.5m o arbedion. Er hyn, mynegwyd fod 73% o’r cynlluniau wedi’u gwireddu ond fod 7 wedi llithro a oedd yn cynnwys oediad yn trosglwyddo’r ddarpariaeth hamdden i Gwmni Byw’n Iach, a chynllun ‘Dechrau i’r Diwedd’ yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd. Ychwanegwyd fod adolygiad wedi ei gynnal yn y maes Gofal Plant sydd wedi casglu fod niferoedd o nosweithiau plant mewn lleoliadau preswyl wedi disgyn, ond fod yr achosion wedi mynd yn fwy dwys, ac o ganlyniad wedi cynyddu cost y lleoliadau.

 

Yn gyffredinol, nodwydd fod y cynnydd sydd wedi ei wneud i wireddu arbedion yn dderbyniol, ond fod rhai trafferthion cyflawni wedi eu hamlygu. Ychwanegwyd pwysigrwydd o gadw at arbedion, gan nodi os na fydd modd cadw at y cynlluniau arbedion, yr unig ddewis arall fydd torri gwasanaethau. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Mynegwyd gyda chynllun codi pris cinio ysgol, fod lleihad wedi bod yn nifer y disgyblion sydd yn prynu cinio yn dilyn codi’r pris, o ganlyniad i hyn nid yw’r cynllun wedi cyrraedd ei darged arbedion.

-        Nodwyd fod cyflawni cynlluniau arbedion yn mynd yn fwyfwy anodd i adrannau. Er hyn, ychwanegwyd fod yr adroddiad yn dangos llwyddiant i gyflawni, bod y Cyngor wedi cynllunio yn briodol ar gyfer arbedion, a bod ei drefniadau ariannol cadarn yn golygu ein bod mewn gwell sefyllfa i sicrhau fod hynny’n parhau.

 

Awdur: Ffion Madog Evans