skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Rhith-gyfarfod (Ar hyn o bryd nid oes modd i’r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd diweddariad o ran gwasanaethau ailgylchu’r Cyngor yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y bydd modd i ganolfannau ailgylchu ail agor.

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 28 EBRILL 2020 pdf eicon PDF 72 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2020 fel rhai cywir.

6.

YSGOL LLANAELHAEARN pdf eicon PDF 771 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i gadarnhau’n derfynol i gau Ysgol Llanaelhaearn ar 31 Awst 2-2- a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol Bro Plennydd, Y Ffôr o 1af Medi 2020, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Cemlyn Williams 

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd i gadarnhau’n derfynol i gau Ysgol Llanaelhaearn ar 31 Awst 2-2- a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol Bro Plennydd, Y Ffôr o 1af Medi 2020, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018.

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cabinet ar 5 Tachwedd wedi penderfynu ar gynnal cyfnod ymgynghori statudol yn unol a Deddf Safonau a Threfniadau Ysgolion ar y cynnig i gau Ysgol Llanaelhaearn. Mynegwyd fod y cyfnod statudol bellach wedi dod i ben a nad oedd dim gwrthwynebiad i’r cynnig. Ychwanegwyd drwy nodi fod yr adran o ganlyniad yn credu mai cau yr ysgol yw’r opsiwn priodol. Diolchwyd i’r gymuned, llywodraethwyr a rhieni am y trafodaethau aeddfed a phriodol gan bwysleisio ei bod wedi bod yn drafodaeth anodd ar adegau.

 

Nododd yr Aelod Lleol ei bod yn drist iawn fod yr ysgol yn cau er ei hanes hir a disglair. Mynegodd os yw pobl am gadw eu hysgolion lleol ar agor fod angen iddynt eu defnyddio, diolchwyd i’r staff am eu holl waith.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Diolchwyd i’r Aelod Lleol am ei gyfraniad gwrthrychol yn ystod y trafodaethau ac am gyfraniad i’r trafodaethau.  the discussions.  

Awdur: Gwern ap Rhisiart

7.

EFFAITH COVID-19 AR GYLLIDEB 2020/21 pdf eicon PDF 184 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

 

Nodi’r bwlch posibl yng nghyllideb 2020/21 a chefnogi ymdrechion yr Arweinydd a swyddogion i sicrhau opsiynau ariannu addas gan Lywodraeth Cymru.

 

Oherwydd y colledion ariannol ym mlwyddyn gyntaf (2019/20) Byw’n Iach yn sgil Covid-19, a’r rhagdybiaeth y bydd colledion pellach yn parhau yn 2020/21 am yr un rheswm, fod y Cabinet yn cadarnhau

 

  1. Ei fod yn fodlon darparu y gefnogaeth ariannol angenrheidiol i gynnal Gwasanaethau  Cwmni’n Byw’n Iach yn y man cyntaf hyd at ddiwedd blwyddyn ariannol 2020/21.
  2. Awdurdodi’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad a'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Economi a Chymuned, ac yn unol â’r ddarpariaeth yn y Cytundeb gyda Chwmni  Byw’n Iach (Atodlen 4),  i ddarparu llythyr o sicrwydd i’r cwmni a chytuno ar amodau a chynnwys y gefnogaeth.
  3. Fod y Cabinet yn derbyn adroddiad  penodol ar y trefniadau fel rhan o adroddiadau adolygu cyllidebau y Cyngor

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Nodi’r bwlch posibl yng nghyllideb 2020/21 a chefnogi ymdrechion yr Arweinydd a swyddogion i sicrhau opsiynau ariannu addas gan Lywodraeth Cymru.

 

Oherwydd y colledion ariannol ym mlwyddyn gyntaf (2019/20) Byw’n Iach yn sgil Covid-19, a’r rhagdybiaeth y bydd colledion pellach yn parhau yn 2020/21 am yr un rheswm, fod y Cabinet yn cadarnhau

 

1.   Ei fod yn fodlon darparu y gefnogaeth ariannol angenrheidiol i gynnal Gwasanaethau  Cwmni’n Byw’n Iach yn y man cyntaf hyd at ddiwedd blwyddyn ariannol 2020/21.

2.   Awdurdodi’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad a'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Economi a Chymuned, ac yn unol â’r ddarpariaeth yn y Cytundeb gyda Chwmni  Byw’n Iach (Atodlen 4),  i ddarparu llythyr o sicrwydd i’r cwmni a chytuno ar amodau a chynnwys y gefnogaeth.

3.   Fod y Cabinet yn derbyn adroddiad  penodol ar y trefniadau fel rhan o adroddiadau adolygu cyllidebau y Cyngor.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y sefyllfa yn un fregus gydag incwm wedi lleihau a gwariant yn uwch yn ystod y cyfnod argyfwng. Ychwanegwyd fod hyn i’w gweld ym mhob awdurdod lleol.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid fod Llywodraeth Prydain wedi cynnig ariannu rhan o'r golled mewn incwm, ynghyd â chostau ychwanegol, i awdurdodau lleol yn Lloegr.  Mynegwyd fod gwahanol adrannau o Lywodraeth Cymru yn trafod gyda’i gilydd a gobeithir y bydd cyhoeddiad yn fuan. Ategwyd fod colled incwm y Cyngor am 3 mis oddeutu £5m, ac os fydd sefyllfa’r argyfwng yn parhau mi fydd y golled incwm oddeutu £10m dros 6 mis.  Pwysleisiwyd fod y golled yn ddibynnol ar effaith y cyfyngiadau yn ystod y cyfnod.

 

Mynegwyd fod trafodaethau yn parhau gyda Llywodraeth Cymru, a’i fod yn anodd i’r Cyngor gynllunio yn ariannol hyd nes bydd gwybodaeth gan y Llywodraeth faint o grant disgwylir ei dderbyn, a pa mor hir y bydd yr argyfwng yn parhau.

 

Trafodwyd sefyllfa ariannol cwmni Byw’n Iach yn sgil cyfyngiadau’r argyfwng Covid-19, yn 2019/20 a 2020/21, a phenderfynwyd fod y Cyngor yn cynnig cefnogaeth iddynt yn sgil effaith yr argyfwng.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Nodwyd fod angen galw ar Lywodraeth Cymru i gamu ymlaen ac i gefnogi’r Cyngor i warchod ei thrigolion.

¾  Pwysleisiwyd fod y cyfnod wedi dangos gallu’r Cyngor i ymateb a gweithredu ar fyrder i edrych ar ôl ei thrigolion, ynghyd ag amlygu pwysigrwydd gwasanaethau darparu.

 

Awdur: Dafydd Edwards a Ffion Madog Evans

8.

DATGANIAD TECHNOLEG RHANBARTHOL AR AGREGAU: DRAFFT AIL ADOLYGIAD pdf eicon PDF 110 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr Ail Adolygiad o’r Datganiad Technoleg Rhanbarthol ac i awdurdodi’r Pennaeth Adran Cynorthwyol i gyflwyno cadarnhad o’r gymeradwyaeth y Cabinet i Lywodraeth Cymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd yr Ail Adolygiad o’r Datganiad Technoleg Ranbarthol ac i awdurdodi’r Pennaeth Adran Cynorthwyol i gyflwyno cadarnhad o’r gymeradwyaeth y Cabinet i Lywodraeth Cymru.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi'r penderfyniad. Ychwanegodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran ei bod yn ofyn i baratoi ac adolygu'r datganiadau er mwyn darparu strategaeth ar gyfer cyflenwad digonol i agregau adeiladau ar gyfer y dyfodol. Nodwyd fod y datganiad yn argymell faint o agregau sydd angen i bob awdurdod gynllunio ar ei gyfer yn y Cynlluniau Datblygu Lleol. Pwysleisiwyd wrth edrych ar Wynedd o ran y datganiad ac ar sail fod cyflenwad wrth gefn o ran agregau a bod yr adran yn  ymwybodol o ardaloedd eraill o fewn y sir ble mae agregau yn bosib nad oes angen i’r Cyngor wneud dim byd ar frys. Mynegwyd yn y tymor hir y bydd angen ymgorffori'r argymhelliad sydd i’w gweld yn y datganiad wrth adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd yn ystod 2021.

 

Mynegwyd fod ymgynghoriad cyhoeddus wedi ei gynnal a bod yr ymatebion i’w gweld yn atodiad 2 yr adroddiad.

 

Awdur: Dafydd Wyn Williams

9.

STRWYTHUR YR ADRAN TAI pdf eicon PDF 118 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd ariannu’r gost net ychwanegol o £150,500 drwy ddefnydd o gynnyrch treth y Premiwm Treth Cyngor ar dai gwag ac ail gartrefi, er mwyn gwireddu newidiadau i strwythur staffio’r Gwasanaeth Tai, fel amlygwyd ym mharagraffau 3.4 a 3.7 o’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd ariannu’r gost net ychwanegol o £150,500 drwy ddefnydd o gynnyrch treth y Premiwm Treth Cyngor ar dai gwag ac ail gartrefi, er mwyn gwireddu newidiadau i strwythur staffio’r Gwasanaeth Tai, fel amlygwyd ym mharagraffau 3.4 a 3.7 o’r adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y sefyllfa dai yn yng Ngwynedd yn argyfyngus gyda niferoedd digartref yn codi ynghyd a nifer uchel o dai'r sir yn cael ei defnyddio fel tai haf. Mynegwyd yn dilyn Adolygiad Rheolaethol y llynedd penderfynwyd creu adran Tai ac Eiddo. Pwysleisiwyd fod yr adran yn dangos potensial gyda swyddogion yn awyddus i wneud gwahaniaeth.

 

Nodwyd fod gwaith wedi ei wneud i edrych ar strwythur yr adran a bod angen arian er mwyn gwireddu newidiadau i’r strwythur staffio. Pwysleisiwyd os na fydd ail strwythuro  ni fydd modd newid y sefyllfa. Ychwanegwyd fod yr adran wedi dod o hyd i £200k o arbedion drwy newid cyflenwyr yn y maes eiddo ac mae posibilrwydd o ddefnyddio’r arian hwn er mwyn ariannu’r ail strwythuro.

 

Ychwanegodd Pennaeth yr Adran Tai mai dim ond 5 mis oed oedd yr adran pan fu i argyfwng Covid-19 daro. Mynegwyd yn ystod y 5 mis fod y Pennaeth wedi cael amser i ddysgu mwy am y maes tai ac i adnabod mwy o opsiynau a chynlluniau newydd. Nodwyd y bydd angen i’r adran fod yn barod wrth fynd yn ôl i normalrwydd gan fod posibilrwydd cryf y bydd y sefyllfa yn waeth, gan fod niferoedd digartref yn parhau i godi yn ystod y cyfnod argyfwng. Ategodd fod yr ailstrwythuro yn gosod seiliau ar gyfer y dyfodol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd fod problemau tai yn broblem sydd i’w gweld gan bob Cynghorydd ar draws y Sir a dangoswyd cefnogaeth i’r ail strwythuro. Amlygwyd yr argyfwng tai yng Ngwynedd yn benodol digartrefedd cudd drwy orlenwi tai gan bwysleisio fod y sefyllfa wedi bod yn waeth yn ystod y cyfnod ble mae cyfyngiadau. Nododd un Aelod Cabinet ei bod yn gwrthwynebu’r cais i ariannu drwy’r premiwm Treth Cyngor ar dai gwag ac ail gartrefi, gan fod yr arian hwnnw ar gael i gael tai i deuluoedd lleol. Holwyd pryd y bydd cynllun gweithredol ar gael a nodwyd fod Cynllun Gweithredu yn ei le ac y bydd yn cael ei rannu mor fuan a bo modd.

¾     Mynegwyd yr eironi fod argyfwng tai yng Ngwynedd, ond nad oes prinder tai i’w gweld yma. Nododd fod defnyddio canran bychan iawn o’r Premiwm Treth Cyngor yn ddefnydd dilys o’r arian.

¾     Holwyd o ran yr 1% y bydd y Cyngor yn ei dderbyn o unrhyw arbedion a gaiff ei gwireddu gan awdurdod arall, os yn defnyddio Fframwaith Gwynedd, os bydd hwn yn flynyddol neu yn un taliad. Mynegwyd nad ydynt yn gwbl sicr eto gan ei bod yn ddibynnol ar faint o siroedd fydd yn rhan o’r Fframwaith. Ychwanegwyd y bydd modd cael mwy o arbedion gan fod yr arbedion yma am gyflenwad nwy yn unig.

¾  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

Awdur: Dafydd Gibbard