Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Rhith-gyfarfod (Ar hyn o bryd nid oes modd i’r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. Craig ab Iago

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Penderfyniad:

Datganwyd parodrwydd y Cabinet  i ariannu ymyrraeth yn unol â’r adroddiad a chymorth ymarferol er mwyn cynnal darpariaeth y cartref gofal dros y cyfnod heriol  presennol er  gwrachod lles y preswylwyr.

Nodwyd fod y penderfyniad uchod yn ddarostyngedig i gyrraedd cytundeb priodol  gyda Chymdeithas Dai a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar amodau'r ymyrraeth a chyfraniadau.

Penderfynwyd dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant mewn ymgynghoriad a'r Pennaeth Cyllid a  Phennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i gytuno telerau.

Bod y gwaith o baratoi achos busnes yn unol â phenderfyniad 18fed Chwefror 2020  yn parhau ac yn cael ei gyflwyno cyn diwedd y flwyddyn galendr

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd nodi ei fod wedi cytuno mater brys i’w drafod. Roedd yn fodlon fod y cyd destun yn golygu fod angen ystyried y mater yn y cyfarfod yma. Bu i’r aelodau bleidleisio ar y penderfyniad i gau y allan y wasg a’r cyhoedd gan fod yr eitem yn eithriedig.

EITEM FRYS - SEFYLLFA CARTREF

Cyflwynwyd yr ardoddiad gan Cyng. Dafydd Meurig yn adrodd ar yr amgylchiadau oedd yn bodoli a’r opsiynnau ar gyfer ymateb. Rhoddwyd ystyriaeth i rol budd-ddeiliaid a rol posib y Cyngor yn y sefyllfa.

PENDERFYNIAD

Datganwyd parodrwydd y Cabinet  i ariannu ymyrraeth yn unol â’r adroddiad a chymorth ymarferol er mwyn cynnal darpariaeth y cartref gofal dros y cyfnod heriol  presennol er  gwrachod lles y preswylwyr.

Nodwyd fod y penderfyniad uchod yn ddarostyngedig i gyrraedd cytundeb priodol  gyda Chymdeithas Dai a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar amodau'r ymyrraeth a chyfraniadau.

Penderfynwyd dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant mewn ymgynghoriad a'r Pennaeth Cyllid a  Phennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i gytuno telerau.

Bod y gwaith o baratoi achos busnes yn unol â phenderfyniad 18fed Chwefror 2020  yn parhau ac yn cael ei gyflwyno cyn diwedd y flwyddyn galendr

TRAFODAETH

Trafodwyd yr adroddiad.

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu

5.

COVID-19 : ADFER pdf eicon PDF 64 KB

Penderfyniad:

Penderfynwyd comisiynu’r Bwrdd Adfywio a’r Bwrdd Cefnogi Pobl i ystyried y canlynol -

¾  Y meysydd y dylid rhoi blaenoriaeth iddynt yn nhermau'r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd yn y meysydd hynny y mae’r byrddau yn gyfrifol amdanynt, gan gadw golwg ar y cyfeiriad yr oedd y byrddau eisoes yn ei ystyried cyn i’r argyfwng godi;

¾  pa weithrediadau sydd angen eu cyflawni yn y meysydd hynny yn y tymor byr a’r tymor canolig ac i adrodd yn ôl i’r Cabinet gydag argymhellion,

¾  Yn unol â Chynllun Cydraddoldeb y Cyngor ein bod yn rhoi ystyriaeth i anghenion grwpiau nodedig wrth wneud penderfyniadau yn y maes adfer.

Comisiynu’r Grŵp Rheoli i ystyried pa faterion corfforaethol sydd angen ystyriaeth yn y tymor byr a’r tymor canolig wrth i ni symud ymlaen at y “normal newydd” ac i adrodd yn ôl i’r Cabinet os cyfyd yr angen am benderfyniad fel yn berthnasol.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dilwyn Williams

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod llawer o wersi i’w dysgu yn dilyn y cyfnod hwn a heriau mawr yn parhau os yw cyfyngiadau yn parhau. Nodwyd er bod y Cyngor yn parhau i geisio dygymod ag ymateb i’r argyfwng mae angen trafod adfer yn ogystal. Pwysleisiwyd y bydd y daith yn hir ar gyfer symud ymlaen i gyfnod ‘normal’ newydd i rai adrannau ac efallai y bydd y ‘normal’ newydd yn gwbl wahanol i’r gorffennol yn dilyn dysgu gwersi yn ystod y cyfnod argyfwng.

Mynegwyd fod rhai meysydd angen eu blaenoriaethu er mwyn cael ffocws penodol fel yr economi gan fod trawiad mawr wedi bod i’r economi leol. Nodwyd y bydd y Llywodraeth yn edrych ar ffordd ymlaen ond fod angen i’r Cyngor fod yn dylanwadau ar y cynlluniau yma. Ychwanegwyd fod y Grŵp Ymateb i’r Haint rhanbarthol yn creu Grŵp Cydlynu Adferiad rhanbarthol a fydd yn cyd-gordio gwaith adfer ond pwysleisiwyd mai mater i sefydliadau unigol fyddai cymryd penderfyniadau ar yr hyn y roeddent yn dymuno ei wneud.  Nodwyd fod y Grŵp Cydlynu wedi cyfarfod wythnos diwethaf ac wedi sefydlu maes llafur ac amcanion yn ymwneud a sicrhau rhaglen adfer dros y gogledd. Mynegwyd fod angen sicrhau bod dyheadau lleol a phwysleisiwyd yn hynny o beth y bydd rôl benodol i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. .

O ran Trefniadau Gwynedd amlygwyd opsiynau gwahanol gan fynegi y buasai modd gofyn i’r byrddau rhaglen adfywio a chefnogi pobl sydd wedi bod yn edrych ar drawsffurfio gwasanaethau  i feddwl beth sydd  angen i’r Cyngor ei  wneud i’w alluogi i ddod yn ôl i’r ‘normal’ newydd. Pwysleisiwyd y bydd hyn yn gyfle i’r byrddau ganolbwyntio ar feysydd adfywio a chefnogi pobl ac yna adrodd yn ôl i’r Cabinet er mwyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Nodwyd fod y cyfnod wedi bod yn heriol sydd wedi amlygu ffyrdd gwahanol o weithio. Mynegwyd ei bod yn sylfaenol fod y cyngor yn nodi beth sydd wedi ei ddysgu a beth fydd yn cael ei ddefnyddio yn y ‘normal’ newydd.

¾  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

Awdur: Dilwyn Williams

6.

ARGYFWNG COVID-19 : SEFYLLFA'R ADRAN OEDOLION, IECHYD A LLESIANT pdf eicon PDF 117 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Penderfyniad:

I nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Dafydd Meurig

PENDERFYNIAD

I nodi a derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad.

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod llawer o gartrefi preswyl wedi cael achosion uchel o’r haint Covid-19. Pwysleisiwyd fod yr adran wedi bod yn awyddus i fod yn agored a tryloyw ond fod canllawiau cenedlaethol wedi rhwystro'r adran i fod mor agored am rai achosion ar ddechrau’r cyfnod argyfwng.

Nodwyd yn ogystal ar ddechrau’r argyfwng fod cael offer PPE wedi bod yn broblem ond bellach fod yr adran, gyda chymorth yr Adran Tai ac Eiddo, a threfn gadarn yn ei le. O ran profi nodwyd ei bod wedi cymryd amser i gael trefniadau yn ei lle gan fod derbyn y canlyniad wedi bod yn broblem ar ddechrau’r argyfwng. Ychwanegwyd yn benodol wrth edrych ar gartrefi gofal ble roedd profion preswylwyr a staff yn cael ei gwneud drwy ddwy drefn wahanol. Bellach mae’r trefniadau yma wedi ei haddasu a pryderon yn lleihau. Diolchwyd i staff am eu gwaith caled yn ystod y cyfnod.

Ychwanegodd y Pennaeth Adran Oedolion fod pethau’n newid yn aml ond fod Gwynedd yn un o’r Cynghorau cyntaf i nodi nifer uchel o achosion mewn cartrefi preswyl. Pwysleisiwyd fod angen bod yn hynod wyliadwrus o’r cyfnod i ddod. Ychwanegwyd fod niferoedd sydd yn cael ei chyfeirio at yr adran yn prysur ddod yn ôl i’r arferol yn dilyn cwymp yn ystod y cyfnod ble mae’r cyfyngiadau wedi bod yn eu lle. Pwysleisiwyd fod staff wedi sicrhau fod trefniadau mewn lle i ymateb i achosion ac mae staff wedi bwrw ati i sicrhau fod gwasanaethau yn parhau. Ategwyd ei bod wedi bod yn gyfnod hir gyda llawer o staff heb gymryd gwyliau ac mae y bydd hyn yn effeithio ar unigolion. Wrth gynllunio ymlaen, nododd fod llawer o wersi wedi ei dysgu mewn cyfnod byr o amser ac y bydd angen parhau i weithio'r un modd mewn rhai achosion.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Diolchwyd i’w gwasanaeth am ei gwaith caled yn ystod y cyfnod y benodol y staff rheng flaen.

¾  Diolchwyd am gyfeirio at straen ar staff gan ei fod wedi bod yn straen ar bawb o fewn y sir. Holwyd os bydd gwaith iechyd meddwl yn cael ei uchafu. Nodwyd nad yw’r adran ar hyn o bryd yn ymwybodol o faint  y gwaith iechyd meddwl fydd angen ei wneud ond fod y gwasanaeth yn ceisio creu rhwydweithiau a rhoi arweiniad i bobl mewn cyfnod anodd ond maent yno gystal yn ymwybodol o’r heriau mawr fydd o’i blaenau.

¾  Diolchwyd yn ogystal i staff gofal yn y sector breifat gan nodi fod y cyswllt rhwng cartrefi preswyl preifat a’r Cyngor wedi gwella yn ystod y cyfnod gyda sgyrsiau parhaus yn digwydd a gwybodaeth gadarn yn cael ei rannu. Ychwanegwyd fod manteision wedi amlygu o ddatblygu’r berthynas fel mwy o gefnogaeth ar gael i ymateb i’r argyfwng.

¾     Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ei diolch i’r staff o fewn yr adran, yn y sector breifat ynghyd ag adrannau eraill o fewn y Cyngor  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Aled Davies