skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datgan o fuddiant personol gan y Cynghorwyr Canlynol: Dyfrig Siencyn, Nia Jeffreys, Catrin Wager, Gareth Thomas, Dilwyn Morgan, Ioan Thomas a Cemlyn Williams gan fod eu plant neu wyrion yn derbyn cinio ysgol. Nid oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac felly roedd modd iddynt fod yn bresennol i’r eitem.

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 3 TACHWEDD 2020 pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd 2020 fel rhai cywir.

6.

PRIS CINIO YSGOL pdf eicon PDF 316 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Cemlyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Peidio â chynyddu pris cinio ysgolion cynradd, arbennig a dilynol yn Ionawr

2021 ac i gomisiynu’r Pennaeth Addysg i edrych ar bolisi hir dymor ar gyfer pris cinio ysgol ac i adrodd yn ôl i’r Cabinet.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Cemlyn Williams 

PENDERFYNIAD

Peidio â chynyddu pris cinio ysgolion cynradd, arbennig a dilynol yn Ionawr

2021 ac i gomisiynu’r Pennaeth Addysg i edrych ar bolisi hir dymor ar gyfer pris cinio ysgol ac i adrodd yn ôl i’r Cabinet.

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn un byr ond yn cyfleu cyfrolau am flaenoriaethau’r Cyngor. Nodwyd fod costau darparu cinio wedi cynyddu yn 2020/21, ac er mwyn cwrdd ar gostau hynny byddai angen codi pris i £2.60 sydd yn gynnydd o 4%. Tynnwyd sylw ar atodiad 1 a oedd yn cymharu pris cinio ysgol Gwynedd a gweddill Cymru gan amlygu fod Gwynedd y 5ed sir uchaf o ran cost cinio ysgol.

Mynegwyd os na fydd pris cinio ysgol yn codi y bydd pwysau ychwanegol ar yr adran addysg i gyllido’r bwlch ariannol. Er hyn, amlygwyd yr heriau sydd wedi wynebu teuluoedd dros y misoedd diwethaf ynghyd a blaenoriaeth y Cyngor i leihau anghydraddoldeb.

Mynegwyd fod yr adroddiad hwn bellach yn cael ei gyflwyno yn flynyddol. Nodwyd yr angen i fod yn edrych ar y mater yn yr hir dymor a bod gwaith pellach angen ei wneud i edrych ar bris cinio ysgol.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Croesawyd yr adroddiad gan nodi fod y penderfyniad i beidio codi’r pris yn un i’r groesawu. Nodwyd tristwch fod targed incwm yn cael ei roi ar brydau ysgol pan mae 1 ymhob 3 plentyn yn byw mewn tlodi. Pwysleisiwyd i rai plant mai dyma’r unig bryd cynnes mae rhai plant yn ei dderbyn mewn diwrnod.

¾  Nodwyd yr angen i edrych ar yr hir dymor a nodwyd efallai fod angen mynd gam ymhellach ac i anelu at y deheuad o roi cinio am ddim i bob plentyn ysgol.

¾  Mynegwyd fod nifer o blant yn gymwys am ginio ysgol am ddim gan nodi efallai fod y broses yn rhwystr i rai. Amlygwyd yr angen i hyrwyddo cinio am ddim. Tynnwyd sylw ar drefniadau cinio am ddim gan nodi fod gwaith pellach angen ei wneud i sicrhau fod pawb sydd yn gymwys yn ei dderbyn.

¾  Nodwyd y buasai yn braf cynnig cinio am ddim i bawb. Ond rhaid ystyried cynlluniau hir dymor ar gyfer y dyfodol.

¾    Mynegwyd fod gan yr adran hyblygrwydd ar gyfer eleni werth symud ymlaen ond fod angen edrych ar y gyllideb os yn edrych ar opsiynau.  

Awdur: Bethan Griffith

7.

HUNANIAITH pdf eicon PDF 387 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytunwyd am angen i wneud gwaith pellach ar ystyried opsiynau posib yn y dyfodol ar gyfer Hunaniaith – Menter Iaith Gwynedd.

Sefydlu tasglu o swyddogion y Cyngor i adnabod y camau angenrheidiol sydd angen eu dilyn i greu achos busnes cadarn ar gyfer yr opsiynau posib.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys

PENDERFYNIAD

Cytunwyd am angen i wneud gwaith pellach ar ystyried opsiynau posib yn y dyfodol ar gyfer Hunaniaith - Menter Iaith Gwynedd.

Sefydlu tasglu o swyddogion y Cyngor i adnabod y camau angenrheidiol sydd angen eu dilyn i greu achos busnes cadarn ar gyfer yr opsiynau posib.

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Gymraeg yn agos iawn at galon yr aelod Cabinet. Mynegwyd fod Hunaniaith yn gwneud gwaith arbennig o dda yn gwarchod yr iaith ac mae'r Siarter Iaith wedi amlygu’r gwaith da sydd wedi ei wneud. Pwysleisiwyd bellach fod angen ail edrych ar y ffocws gan symud o weithio yn strategol i weithio o fewn y gymuned.

Nodwyd fod Grŵp Strategol wedi bod yn edrych ar y sefyllfa ac wedi comisiynu cwmni Iaith i fwrw ymlaen a'r gwaith o adolygu gwaith Hunaniaith. Mynegwyd fod yr adroddiad y Cwmni yn ddiddorol a chyffroes ac ai fod yn cydnabod y gwaith da sydd wedi ei wneud. Ychwanegwyd fod yr adroddiad yn rhoi Sylfaen gadarn i symud ymlaen ac yn argymell creu tasglu fel bod modd trafod a chynllunio gwaith i symud ymlaen ac i weithio yn effeithiol ac effeithlon.

Ychwanegodd Cadeirydd y Grŵp Strategol fod adroddiad y Cwmni Iaith yn un cynhwysfawr a chytbwys ac amlygwyd y tri opsiwn sydd yn yr adroddiad. Nodwyd cefnogaeth i opsiwn 3 sef i greu endid annibynnol. Esboniwyd fod oblygiadau ariannol a staffio i hyn. Nodwyd yr angen i symud ymlaen a drwy hyn leihau pwysau ar y Cyngor ynghyd a chyfle i ychwanegu arian cwbl angenrheidiol fel bod modd i’r mudiad ledaeni i weithio o fewn y cymunedau, Pwysleisiwyd yr angen am amserlen dynn i’r tasglu fel bod gwaith yn symud ymlaen.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Nodwyd yr angen i fenter iaith fod yn gweithio o fen y gymuned  ac i fod yn gynaliadwy i barhau a’r gwaith da mae Hunaniaith yn ei wneud. Pwysleiswyd mai cyfle i adeiladu ar y gwaith da yw hwn ac nid i gael gwared â Hunaniaith.

¾  Amlygwyd trefn gyllido Hunaniaith gyd 70% o’r gyllideb yn dod gan y Llywodraeth a’r 30% gan Gyngor Gwynedd. Gan fod y gyllideb gan y Llywodraeth yn grant ei bod yn anodd ar hyn o bryd i gynllunio i’r dyfodol.

¾  Mynegwyd cefnogaeth i edrych ar y sefyllfa gan nodi ei bod yn amserol i symud ymlaen ac i roi cyfle i Hunaniaith i sefyll ar ei draed ei hun.

¾  Nodwyd cefnogaeth i greu endid bychan o fewn cymunedol. Nodwyd blynyddoedd yn ôl ei bod wedi bod yn syniad da i’r menter iaith fod o fewn y Cyngor ond bellach fod angen esblygu.

¾  Diolchwyd i’r gwaith caled mae Tîm Hunaniaith yn ei wneud.

¾  Pwysleiswyd fod llawer o waith angen ei wneud cyn gwneud y penderfyniad ar ba opsiwn ond angen ystyried y ffordd orau ymlaen.

¾  Pwysleiswyd y gwaith da sydd wedi ei wneud ond angen edrych ar esiamplau da o waith mentrau iaith eraill  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Llywela Owain

8.

CYTUNDEB TERFYNOL AR GAIS TWF GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 529 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

¾  Cadarnhawyd y Cynllun Busnes Cyffredinol yn ffurfiol ac yn argymell i’r Cyngor ei gymeradwyo fel y ddogfen sy'n gosod y trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru fel sail ar gyfer ymrwymo i'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.

¾  Cadarnhawyd y darpariaethau yng Nghytundeb Llywodraethu 2 sy’n ymwneud â swyddogaethau gweithredol yn ffurfiol ac yn argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r darpariaethau sy’n ymwneud â swyddogaethau anweithredol a’i fod (y Cabinet) yn benodol yn mabwysiadu'r dirprwyaethau a'r Cylch Gorchwyl yn “Cytundeb Llywodraethu 2: Atodiad 1” ohono fel sail ar gyfer cwblhau'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.

¾  Yn ddarostyngedig i gwblhau Cytundeb Llywodraethu 2, bod Cyngor Gwynedd yn cytuno i weithredu fel yr Awdurdod Lletya a’r Corff Atebol ac yn llofnodi'r llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y Partneriaid drwy law'r Prif Swyddog Cyllid.

¾  Cadarnhawyd ffurfiol ac yn argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r dull a ddefnyddir i gyfrifo cost benthyca sydd ei angen mewn egwyddor i hwyluso'r llif arian negyddol ar gyfer y Cynllun Twf, ac i gynnwys darpariaeth o fewn Cyllideb y Cyngor i dalu’r cyfraniad hwn a'r cyfraniadau craidd ac atodol sydd wedi’u sefydlu fel sydd wedi'i nodi yn GA2 

¾  Bod y Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd, y Swyddog Monitro a'r Swyddog Adran 151, yn derbyn awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i'r dogfennau gyda'r Partneriaid fel sydd angen i gwblhau'r cytundeb.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn.

Cyflwynwyd yr adroddiad gnan odi fod yr adroddiad yn benllanw 3 blynedd o waith cael ar y Cynllun Twf. Diolchwyd i’r tîm rhaglen am weithio yn galed i greu'r dogfennau a’r cynlluniau busnes er mwyn cwblhau’r Cytundeb Terfynol.

Amlygodd y Rheolwr Rhaglen prif nod y Cynllun Twf sef i adeiladu economi bywiog, cynaliadwy a gwydn yn y Gogledd. Mynegwyd y bydd y dulliau gweithredu yn cyflawni twf mewn ffordd gynhwysol gynaliadwy y gellir eu hymestyn unol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Pwysleisiwyd y ffynonellau ariannu a oedd yn cynnwys buddsoddiad gan y Sector Breifat a’r Sector Gyhoeddus.

Tynnwyd sylw ar y buddion rhanbarthol o Gynllun Twf a oedd yn cynnwys twf mewn ffyniant rhanbarthol a chreu swyddi o ansawdd gwell ar gyfer y farchnad lafur. Pwysleisiwyd y buddion a fydd i Wynedd yn benodol a oedd yn cynnwys gwella cysylltedd digidol ar gyfer busnesau, trigolion ac ymwelwyr, mynediad at ymchwil arloesol a chefnogaeth gyda thechnegau ffermio cynaliadwy, buddsoddiad £20m yn isadeiledd safle Trawsfynydd a chyfleodd i ddatblygu safleoedd strategol fel rhan o’r rhaglen Tir ac Eiddo hirdymor.

Amlygwyd y Cynllun Busnes Cyffredinol gan bwysleisio ei fod yn gosod allan y trefniadau ar gyfer gweithredu Cynllun Twf Gogledd Cymru, gan gynnwys trosolwg o’r rhaglenni a phrosiectau er mwyn cael cymeradwyaeth pob partner i’r gofynion Ariannol ar gyfer gweithredu’r cynllun. Ychwanegwyd fod y Swyddfa Rhaglen wedi ymgynghori gyda Llywodraeth y Du a Chymru drwy’r broes o  ddatblygu’r dogfennau.

O ran y Cytundeb Terfynol, nodwyd ei fod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Sioned Williams ac Alwen Williams