skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. Dyfrig Siencyn a’r Cyng. Gareth Thomas.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Ond bu i Swyddogion adael y cyfarfod ar gyfer eitem 9.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 15 RHAGFYR 2020 pdf eicon PDF 370 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2020 fel rhai cywir.

 

 

6.

YSGOL NEWYDD YNG NGHRICIETH pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Treferthyr i 150 ac adleoli’r ysgol i safle amgen, cyfeirir ato fel safle A497 ar 1 Medi 2023 yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Cemlyn Williams

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Treferthyr i 150 ac adleoli’r ysgol i safle amgen, cyfeirir ato fel safle A497 ar 1 Medi 2023 yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi pleser o gyflwyno’r eitem. Nodwyd fod yr adroddiad hwn yn amlygu yr ymatebion a dderbyniwyd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Treferthyr ac i adleoli’r ysgol i safle amgen. Pwysleisiwyd fod y cynllun hwn yn cyd-fynd a blaenoriaethau’r adran sydd wedi eu hamlygu yn y Strategaeth Addysg Gwynedd.

 

Bu i’r Swyddog Addysg amlygu yr canlyniadau yr ymgynghoriad gan nodi’r prif bwyntiau. Pwysleisiwyd fod mwyafrif o’r ymatebion yn gefnogol iawn i’r cynnig a’r buddsoddiad yng Nghricieth. Amlygwyd angen am ddefnydd cymunedol i’r adeilad a nodwyd y bydd yr adran yn cydweithio gyda’r gymuned i gynnig y cyfle gorau iddynt.

 

Mynegwyd fod y mwyafrif o’r sylwadau yn codi pryderon am y lleoliad. Nodwyd fod yr adran wedi edrych yn ofalus ar y lleoliad ac wedi gwneud archwiliadau manwl cyn penderfynu. Pwysleisiwyd fod llawer o’r sylwadau yn nodi pryderon gan ei fod ar lon brysur a mynegwyd y bydd yr adran yn gweithio i ddod o hyd i liniaru y traffig. Ymhelaethwyd ar hyn gan nodi y byddant yn gwneud hyn drwy edrych ar fynediad yr ysgol. Tynnwyd sylw at gilfan sydd gerllaw yr safle gan nodi fod yr adran Briffyrdd yn awyddus i’w gadw. Pwysleisiwyd y bydd camau yn cael eu cymryd i sicrhau na fydd y gilfan yn cael ei defnyddio ar gyfer yr ysgol.

 

Nodwyd pryderon yn ogystal am y coed sydd ar y safle. Mynegwyd nad oes gan yr adran fwriad i dynnu unrhyw goed heb fod angen ac fod yr Ysgol yn awyddus i gadw’r coed a’i defnyddio o fewn gwersi yn yr ysgol.

 

Pwysleisiwyd fod ymatebion cadarnhaol gan y disgyblion gan amlygu mwy o le i chwarae ac ystafelloedd dosbarth mwy. Er hyn, nodwyd fod rhai disgyblion wedi amlygu y bydd mwy o bellter teithio ganddynt i’r ysgol. Tynnwyd sylw at ymateb Estyn â oedd yn nodi nad oedd ganddynt unrhyw bryderon ac fod y cynllun yn cyd-fynd a Strategaeth Addysg y Cyngor.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾ Croesawyd yr adroddiad gan nodi pwysigrwydd gweld ymatebion y disgyblion. Holwyd os oedd unrhyw addasiadau wedi eu hystyried i’r adeilad o ganlyniad i argyfwng Covid-19. Nodwyd fod dyluniad yr ysgol wedi dilyn canllawiau cenedlaethol ond fod Covid-19 wedi amlygu fod angen edrych ar y system awyru a mynediad i ystafelloedd dosbarth ac o ganlyniad i Covid-19 fod addasiadau wedi eu gwneud i sicrhau lleoliadau golchi dwylo ger pob mynediad.  

¾     Mynegwyd fod y sylwadau a dderbyniwyd yn ddiddorol ac fod teithio wedi ei amlygu fel pryder. Nodwyd angen am sicrhau modd diogel i blant deithio i’r ysgol a holwyd os y bydd modd cael lon beics yn gallu cynorthwyo gyda’r ardrawiad traffig. Mynegwyd fod yr adran  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Gwern ap Rhisiart

7.

CYNLLUN GWYBODAETH pdf eicon PDF 597 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd y Cynllun Gwybodaeth. 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys.

 

PENDERFYNIAD

 

Mabwysiadwyd y Cynllun Gwybodaeth. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Strategaeth mae’r Cabinet wedi ei dderbyn yn flaenorol wedi sicrhau fod y Cyngor yn cydymffurfio gyda’r Ddeddf Diogelu Data. Ymhelaethwyd fod y cynllun hwn yn edrych ymhellach ar ddata gan edrych sut y gall y Cyngor wneud y mwyaf o’r data sydd ganddynt. Nodwyd fod argyfwng Covid-19 wedi amlygu yr angen am ddata ac ystadegau. Mynegwyd y bydd y cynllun hwn yn rhoi cyfle i adrannau blotio gwybodaeth ac i gynllunio gwasanaethau.

 

Esboniwyd fod y Cyngor yn rhannu gwybodaeth yn fewnol drwy IGwynedd ac y bydd yn esblygu i rannu gwybodaeth yn allanol. Drwy wneud hyn bydd modd dilyn agenda di-papur y Cyngor a fydd yn arbed costau ynghyd a budd amgylcheddol.

 

Amlygwyd risgiau gan nodi mae’r prif risg yw i gydymffurfio gyda’r Ddeddf a nodwyd fod amryw o Gynghorau gyda nifer uwch yn hawlio arian yn dilyn torri amodau data. Mynegwyd y bydd y cynllun hwn yn cynorthwyo i arbed amser i ganfod gwybodaeth. Nodwyd y bydd mwy o hyfforddiant i staff a fydd yn lleihau risg o ran torri amodau data. Esboniwyd y bydd y cynllun yn cael ei adolygu yn flynyddol a fydd yn rhoi hyblygrwydd i’r adran i’w addasu. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾ Nodwyd fod pobl yn aml, pan yn clywed am ddata yn credu nad yw’n berthnasol iddynt. Er hyn mynegwyd ei bod yn holl bwysig i gael canllawiau yn eu lle. Cymeradwywyd hyfforddiant i staff gan y bydd yn effeithio pawb.

 

Awdur: Ian Jones

8.

NEWID HINSAWDD pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd sefydlu Bwrdd Newid Hinsawdd i lywio’r gwaith o sefydlu a gweithredu ar Gynllun Gweithredu Newid Hinsawdd ac i ddarparu £58,990 o’r Gronfa Drawsffurfio er mwyn cyflogi Rheolwr Prosiect i gydgordio’r gwaith.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dilwyn Williams. 

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd sefydlu Bwrdd Newid Hinsawdd i lywio’r gwaith o sefydlu a gweithredu ar Gynllun Gweithredu Newid Hinsawdd ac i ddarparu £58,990 o’r Gronfa Drawsffurfio er mwyn cyflogi Rheolwr Prosiect i gydgordio’r gwaith.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn fod y Cyngor wedi datgan argyfwng hinsawdd. Yn dilyn y datganiad bu i’r Cabinet greu grwp tasg er mwyn ymateb i’r argyfwng. Nodwyd fod gwaith wedi cael ei wneud yn y cefndir er mwyn creu cynlluniau a fuasai yn gwneud gwahaniaeth ond fod Covid-19 wedi arafu y gwaith hwn.

 

Mynegwyd fod y grwp tasg wedi cyfarfod yn ddiweddar ac yn barod i ail afael yn y gwaith ac i greu cynllun gweithredu ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Nodwyd fod y grwp tasg wedi nodi er mwyn symud ymlaen gyda’r gwaith y bydd angen sefydlu Bwrdd Newid Hinsawdd a fydd yn gweithredu yn draws adrannol. Ychwanegwyd y bydd aelodau’r grwp tasg fydd aelodau y Bwrdd hwn ac y bydd modd ychwanegu aelodau os y bydd angen. Yn ogystal a hyn, amlygwyd fod swyddogion yn hynod brysur ar yn o bryd yn ymateb i argyfwng Covid-19 ac o ganlyniad fod y grwp yn awyddus i gyflogi cydlynydd rhaglen er mwyn ei wthio ymlaen. Ychwanegwyd y bydd yr arian i gyflogi’r Swyddog yn dod o’r Gronfa Drawsffurfio.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾ Mynegwyd fod Covid-19 wedi arafu y gwaith ar y gwaith Newid Hinsawdd, a nodwyd angen symud ymlaen, er llawer o waith wedi ei wneud fod llawer mwy o waith angen ei wneud.

¾     Cefnogwyd yr angen am uchafu’r gwaith yn y maes hwn ac i gael swyddog i arwain ar y gwaith. Mynegwyd pwysigrwydd i gydweithio gyda cymunedau i annog byw yn fwy gwyrdd. Amlygwyd ardrawiad mae’r hinsawdd yn ei wneud ar gymunedau megis tywydd yn fwy eithafol.

¾     Nodwyd fod i gost gyflogi’r Swyddog yn uchel, ond mynegwyd nad cyflog o bron i £59,000 ond mae costau megis pensiynau ar ben unrhyw swydd. Nodwyd fod swydd ddisgrifiad wedi ei greu ac wedi ei arfarnu yn fewnol. Mynegwyd wrth adolygu efallai y bydd y gost yn lleihau. Amlygwyd cynlluniau sydd yn ei lle yn barod o fewn adrannau, ond pwysleisiwyd fod rhai cyfleoedd yn cael eu methu ac felly buasai angen i’r swyddog bod yn fyw i unrhyw gyfleoedd fydd yn codi.

¾     Croesawyd y penderfyniad gan nodi ei fod yn ddatblygiad da i ymateb i’r maes. Amlygwyd fod y Cyngor wedi derbyn gwobr am eu gwaith yn y maes.

Awdur: Dilwyn Williams

9.

YMDDEOLIAD Y PRIF WEITHREDWR pdf eicon PDF 400 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd fod angen recriwtio a phenodi i swydd y Prif Weithredwr ar sail barhaol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd fod angen recriwtio a phenodi i swydd y Prif Weithredwr ar sail barhaol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi angen am y penderfyniad yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weithredwr ei fod am ymddeol. Nodwyd ei bod yn gam gofynnol i’r Cabinet i wneud y penderfyniad os ydynt yn awyddus i lenwi’r swydd a sut y byddant yn gnwued hyn. Nodwyd fod yr adroddiad yn amlygu yr opsiynau ac fod yr Arweinydd wedi rhoi ei farn yn ysgrifenedig ar rhai o’r opsiynau.

 

Amlygwyd y opsiynau â oedd yn cynnwys peidio llenwi y swydd, i ofyn i Awdurdod arall i gymryd y blaen, ac i benodi Prif Weithredwr. Nodwyd fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau a fydd yn dod i rym eleni yn amlygu’r angen i gael Prif Weithredwr ar gyfer y rheoliadau yma. Mynegwyd fod rhestr i’w gweld yn yr adroddiad yn nodi’r gofynion y bydd yn cyd-fynd a’r Ddeddf ac y bydd angen eu ymgorffori yn y swydd ddisgrifiad.

Awdur: Eurig Williams

10.

CYLLIDEB REFENIW 2020/21 - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2020 pdf eicon PDF 86 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2020 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.
  • Nodwyd effaith ariannol Covid19, sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth dilyffethair i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng.
  • Nodwyd fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Plant a Theuluoedd eleni. Mae’r gwaith o gael gwell dealltwriaeth o’r materion yn parhau.
  • Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2).
    • Ar gyllidebau Corfforaethol, fod:

¾     Tanwariant o (£478k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei drosglwyddo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf.

¾     Tanwariant net o (£1,312k) ar gyllidebau Corfforaethol yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor i gynorthwyo i wynebu’r her ariannol sydd yn wynebu’r Cyngor ar ddiwedd 2020/21 yn arbennig felly yn sgil argyfwng Covid19.

·         Fod derbyniadau grant ar gyfer digolledu gwariant ychwanegol a cholledion incwm cysylltiedig â’r argyfwng Covid19 gan y Llywodraeth yn cael ei ddyrannu i’r adrannau perthnasol yn unol â’r hyn a nodir yn Atodiad 1

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

  • Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2020 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.
  • Nodwyd effaith ariannol Covid19, sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth dilyffethair i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng.
  • Nodwyd fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Plant a Theuluoedd eleni. Mae’r gwaith o gael gwell dealltwriaeth o’r materion yn parhau.
  • Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2).
    • Ar gyllidebau Corfforaethol, fod:

¾     Tanwariant o (£478k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei drosglwyddo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf.

¾     Tanwariant net o (£1,312k) ar gyllidebau Corfforaethol yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor i gynorthwyo i wynebu’r her ariannol sydd yn wynebu’r Cyngor ar ddiwedd 2020/21 yn arbennig felly yn sgil argyfwng Covid19.

 Fod derbyniadau grant ar gyfer digolledu gwariant ychwanegol a cholledion incwm cysylltiedig â’r argyfwng Covid19 gan y Llywodraeth yn cael ei ddyrannu i’r adrannau perthnasol yn unol â’r hyn a nodir yn Atodiad 1.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor ynghyd a’r rhagolygon at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Pwysleisiwyd fod yr adroddiad yn amlygu fod effaith ariannol Covid19 yn sylweddol i’r Cyngor gan nodi ei fod yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion gan fod blaenoriaethau eraill dros gyfnod yr argyfwng. Mynegwyd fod y Cyngor bellach wedi derbyn bron i £6miliwn drwy gronfa caledi Llywodraeth Cymru ac fod ceisiadau misol gwerth dros £7.1miliwn wedi eu cyflwyno.

 

Nodwyd o ran colledion incwm, fod y ceisiadau am haner cyntaf y flwyddyn ariannol dros £5.1miliwn gyda £4.8 miliwn eisoes wedi ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru. Esboniwyd fod gwaith ar chwarter 3 newydd ei gwblhau ac wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Amlygwyd y pwysau sydd wedi bod ar adrannau eleni, gan amlygu fod problemau gwireddu arbedion yn fwy fwy amlwg eleni ac yn ffactor sydd wedi cyfannu ar y gorwariant yn y meysydd megis Plant, Oedolion a Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Tynnwyd sylw ar y talfyriad o sefyllfa yr holl adrannau gyda’r rhagolygon wedi eu datgan gyda a heb y cymorth grant Covid-19 gan y Llywodraeth.

 

Tynnwyd sylw ar y trafferthion sylweddol yn rhai adrannau gan nodi fod yr Adran Oedolion wedi cael ardrawiad sylweddol o ganlyniad i Covid19 gyda’r adran yn rhagweld gorwariant o £3.3miliwn eleni gyda methiant i gyflawni arbedion gwerth £1.8miliawn. Yn yr Adran Blant a Chefnogi Teuluoedd mynegwyd fod methiant i wireddu £688k o arbedion yn cyfrannu ar orwariant o £2.5miliwn, Ychwanegwyd gan nodi fod yr ystadegau diweddaraf yn cadarnhau cynnydd pellach yn y galw am wasanaethau, yn arbennig yn y maes lleoliadau ac Ol-16.

 

Mynegwyd fod problemau gorwariant yn a maes Casglu a gwaredu gwastraff yn parhau yn yr Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol ynghyd a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

Awdur: Ffion Madog Evans

11.

RHAGLEN CYFALAF 2020/21 - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD (SEFYLLFA 30 TACHWEDD 2020) pdf eicon PDF 323 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2020) o’r rhaglen gyfalaf.
  • Cymeradwywyd yr ariannu addasedig a gyflwynwyd yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:
    • cynnydd o £2,000 mewn defnydd o fenthyca,
    • cynnydd o £3,019,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau, 
    • dim newid mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf,
    • cynnydd o £313,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw,
    • dim newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf, a
    •  lleihad o £14,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNIAD

 

  • Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2020) o’r rhaglen gyfalaf.
  • Cymeradwywyd yr ariannu addasedig a gyflwynwyd yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:
    • cynnydd o £2,000 mewn defnydd o fenthyca,
    • cynnydd o £3,019,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau, 
    • dim newid mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf,
    • cynnydd o £313,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw,
    • dim newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf, a
    •  lleihad o £14,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn cyflwyno’r rhaglen gyfalaf ddiwygiedig a gofyn am gymeradwyaeth i ffynonellau ariannu perthnasol. Mynegwyd fod effaith argyfwng Covid19 a’r cyfnod clô, wedi cael effaith ar y rhaglen cyfalaf gyda dim ond 31% o’r gyllideb wedi ei wario hyd ar ddiwedd Tachwedd i’w gymharu â dros 51% yn yr un cyfnod y llynedd.

 

Nodwyd fod cynnydd net o oddeutu £3.3miliwn ers yr adolygiad diwethaf. Mynegwyd fod gan y Cyngor gynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi tua £42.3 miliwn eleni, gyda £18.9miliwn ohono wedi’i ariannu drwy ddenu grantiau penodol. Amlygwyd y bydd £4.8miliwn ychwanegol yn llithro o eleni i’r flwyddyn ganlynol gan bwysleisio nad oes unrhyw golled ariannu.

 

Tynnwyd sylw at y grantiau ychwanegol mae’r Cyngor wedi llwyddo eu denu ers yr adolygiad diwethaf a oedd yn cynnwys £1.7miliwn at Gynllun Draenio Tir yn Rhostryfan a £0.5miliwn at welliannau ailgylchu a ac atal gwastraff.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd fod cynlluniau cyffroes i’w gweld yn yr adroddiad gan amlygu y cynllun gwelliannau ailgylchu ac atal gwastraff. Mynegwyd y bydd y cynlluniau yn cynnwys addasu rhan o ganolfan ailgylchu Bangor i fod yn siop a chynlluniau i atal bwyd rhag mynd i’r ffrwd gwastraff ynghyd a sefydlu Caffis Trwsio a fydd ar draws y sir i weithio i ddatblygu sgiliau a lleihau gwastraff.

Awdur: Ffion Madog Evans

12.

SEFYLLFA ARBEDION pdf eicon PDF 245 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

       i.        Derbyniwyd casgliadau’r Prif Weithredwr ar y cynlluniau unigol fel y’i nodwyd yn Atodiadau 1 a 2.

      ii.        Yn unol â’r hyn a nodwyd yn Atodiad 1, cymeradwywyd symud y proffil cyflawni ar gyfer cynlluniau gwerth £1,012,750 i 2022/23, a chydnabod bod y sefyllfa bellach wedi newid cymaint fel na ellir cyflawni cynlluniau arbedion gwerth £848,040 gan eu dileu o’r gyllideb.

     iii.        Defnyddio’r ddarpariaeth o £1.6m a osodwyd o’r neilltu yng nghyllideb 2020/21 er mwyn gwneud hynny, a chyflawni’r bwlch gweddilliol drwy ddefnydd cyntaf o arbedion a gynlluniwyd ar gyfer 2021/22.

     iv.        Wrth baratoi cyllideb 2021/22, cymeradwywyd symud proffil cyflawni cynlluniau gwerth £511,250 i 2022/23 a chydnabod bod y sefyllfa bellach wedi newid cymaint fel na ellir cyflawni cynlluniau arbedion gwerth £595,450 ac y dylid defnyddio arbedion o £705,930 ar gyfer y gyllideb fel y nodwyd yn Atodiad 2.

 

Cofnod:

       i.        Derbyniwyd casgliadau’r Prif Weithredwr ar y cynlluniau unigol fel y’i nodwyd yn Atodiadau 1 a 2.

      ii.        Yn unol â’r hyn a nodwyd yn Atodiad 1, cymeradwywyd symud y proffil cyflawni ar gyfer cynlluniau gwerth £1,012,750 i 2022/23, a chydnabod bod y sefyllfa bellach wedi newid cymaint fel na ellir cyflawni cynlluniau arbedion gwerth £848,040 gan eu dileu o’r gyllideb.

     iii.        Defnyddio’r ddarpariaeth o £1.6m a osodwyd o’r neilltu yng nghyllideb 2020/21 er mwyn gwneud hynny, a chyflawni’r bwlch gweddilliol drwy ddefnydd cyntaf o arbedion a gynlluniwyd ar gyfer 2021/22.

     iv.        Wrth baratoi cyllideb 2021/22, cymeradwywyd symud proffil cyflawni cynlluniau gwerth £511,250 i 2022/23 a chydnabod bod y sefyllfa bellach wedi newid cymaint fel na ellir cyflawni cynlluniau arbedion gwerth £595,450 ac y dylid defnyddio arbedion o £705,930 ar gyfer y gyllideb fel y nodwyd yn Atodiad 2.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad blynyddol gan nodi fod dros £30miliwn o arbedion wedi’u gwireddu ers 2015/16 ond nodwyd fod y adroddiad yn ôl ym mis Hydref wedi amlygu pryderon am risgiau i gynlluniau gwerth £3.4miliwn eleni o ganlyniad i Covid-19. Ychwanegwyd ers hynny fod y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid wedi trafod yr arbedion adrannol gyda’r penaethiaid ac Aelodau Cabinet.

 

Amlygwyd yr argymhellion a ddeilliwyd o’r cyfarfodydd yma. Pwysleisiwyd fod cyfyngiadau Covid-19 wedi amharu ar y cyfle i adrannau roi sylw i nifer o’r cynlluniau arbedion a nodwyd mae mater o amseriad yw hyn gyda gwerth £1.7m o gynlluniau y gellid eu cyflawni yn 2021/22. Er hyn, argymhellwyd i ail broffilio gwerth £1m o gynlluniau a fydd angen mwy o amser i’w gwireddu ynghyd a dileu gwerth £850k o /gynlluniau o’r gyllideb, ble mae’r sefyllfa wedi newid cymaint ni ellir gwireddu’r arbedion.

 

Nodwyd fod cyllideb 2020/21 wrth baratoi yn Chwefror 2020 wedi darparu £1.6m i gydnabod y tebygolrwydd o fethu cyflawni rhai arbedion. Amlygwyd y bydd ail broffilio a dileu yn cael ardrawiad o £1.86m ar y gyllideb, ond drwy ddefnyddio’r ddarpariaeth o £1.6m, wrth baratoi cyllideb 2021/22, byddai angen £260k ychwanegol. Drwy wneud hyn, nodwyd, bydd y gyllideb yn agosach i realiti sefyllfa’r Cyngor.

 

Tynnwyd sylw at Atodiad 2 a oedd yn nodi arbedion oedd wedi eu cynllunio ar gyfer 2021/22. Mynegwyd o’r £1.9m oedd wedi ei gynllunio, y bydd cynlluniau gwerth £511k yn cymryd mwy o amser i’r cyflawni ac mae amheuaeth fawr am wireddu gwerth £595k o arbedion. O ganlyniad, argymhellwyd i ail broffilio £511k a dileu £595k o arbedion gan dderbyn mai dim ond dros £700k o arbedion net fydd ar gael i gefnogi cyllideb 2021/22.

 

Bu i’r Prif Weithredwr egluro y rhesymeg tu ôl i’r argymhellion gan bwysleisio fod rhai cynlluniau am gymryd mwy o amser i’w gwireddu o ganlyniad i argyfwng Covid-19 tra fod eraill angen eu dileu yn gyfan gwbl megis Cynllun Gwella effeithlonrwydd gweithwyr maes gan yr Adran Oedolion gan fod y trafodaethau wedi amlygu annhebygolrwydd o wireddu’r cynllun o ganlynid i’r angen am yr adnodd i weithredu cynlluniau arbedion eraill o fewn yr adran.

 

Awdur: Dafydd Edwards