Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol ac i nodi materion protocol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd yr aelodau canlynol eu bod gyda
buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y
Cynghorydd Elin Hywel yn eitem 5.4 (C22/0898/42/LL) ar y rhaglen oherwydd
cyswllt teuluol Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a
oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais. b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelod lleol mewn perthynas â’r eitem a
nodir: ·
Y Cynghorydd
RobTriggs (nad oedd yn Aelod i’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.2 (C21/0575/00/LL) ar y rhaglen ·
Y
Cynghorydd Gareth Tudor Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn
eitem 5.4 (C22/0898/42/LL) ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
Cais Rhif C22/0727/14/DT 9 Ffordd Menai, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1LF PDF 301 KB Estyniad deulawr i'r
cefn ac ochr yr annedd. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniatáu – amodau
Nodyn Gwybodaeth: Dwr Cymru Rhywogaethau gwarchodedig Cofnod: Estyniad
deulawr i'r cefn ac ochr yr annedd. a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi
estyniad deulawr ar ddrychiad cefn tŷ deulawr. Byddai’r estyniad yn
cynnwys ystafell wely a baddon ar lefel daear a chegin gyda balconi blaen ar
lefel llawr cyntaf. Cyflwynwyd y cais i bwyllgor oherwydd bod tad yr ymgeisydd
yn Gynghorydd Lleol. Lleolir y tŷ ar safle
wedi ei gloddio i mewn i lethr o fewn ystâd breswyl a ffin datblygu'r dref gyda
gardd flaen yn llawer is na’r ardd gefn. Byddai'r estyniad yn llenwi cornel wag
yng nghefn y tŷ gyda grisiau allanol ar hyd ochr deheuol yr estyniad yn
ffurfio mynediad o’r ardd flaen i’r cefn; lleolir y grisiau hyn ar hyd terfyn yr eiddo gyda chymydog. Mae’n debygol mai rhan llawr cyntaf cefn yr
estyniad yn unig fyddai yn weladwy o’r ffordd yr ystâd i’r dwyrain, a chip olwg
yn unig o ddrychiad blaen yr estyniad o’r ffordd sirol i’r gorllewin. Ystyriwyd bod dyluniad ac
edrychiad y bwriad yn dderbyniol ac yng nghyd-destun mwynderau gweledol,
ychydig iawn o’r estyniad fyddai yn weladwy o fannau cyhoeddus. Y bwriad felly
yn cydymffurfio a pholisi PCYFF 2 a 3 o’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Yng nghyd-destun materion
trafnidiaeth a mynediad amlygwyd bod sylwadau wedi eu derbyn gan yr Uned
Trafnidiaeth yn datgan dim gwrthwynebiad mewn egwyddor ond o’r cynlluniau a
ddarparwyd y byddai’n ymddangos y gall y bwriad gynnwys strwythur cynnal
sefydlogrwydd y briffordd gyfochrog. Ategwyd nad oedd yn glir o’r cynllun os
oedd y strwythur yn bodoli neu’n rhan o’r cais ac felly bwriad gwneud cais i’r ymgeisydd ddarparu rhagor o fanylion er
eglurhad. Nodwyd y bydd angen gosod amod i orfodi cyflwyno manylion y wal
gynnal cyn dechrau gwaith ar y safle. Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol
oherwydd na fyddai’n cael effaith ar y strydlun, mwynderau trigolion cyfagos na
diogelwch ffyrdd. b)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn unol ar argymhelliad PENDERFYNWYD: Caniatáu – amodau 1. 5 Mlynedd i ddechrau
gwaith. 2. Unol a chynlluniau. 3. Gosod gwydr afloyw
1.8m mewn uchder ar hyd ochr
deheuol y balconi bwriededig. 4. Cyflwyno manylion yn dangos y wal
gynnal cyn dechrau gwaith ar y safle. 5. Gorffen gwaith ar y wal gynnal
cyn dechrau gwaith ar yr estyniad. 6. Gorffeniad i gydweddu
gyda’r tŷ presennol. Nodyn Gwybodaeth: Dwr Cymru Rhywogaethau gwarchodedig |
|
Cais Rhif C21/0575/00/LL Aukland House, 17 Rhodfa'r Môr, Abermaw, Gwynedd, LL42 1NA PDF 438 KB Trosi a newid defnydd
un annedd i fod yn 6 fflat 1 ystafell wely AELOD LLEOL: Cynghorydd
Rob Triggs Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau 1.
5
mlynedd. 2.
Yn
unol â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais. 3.
Unrhyw
addasiadau i wynebau allanol yr adeilad i gael eu gorffen i gydweddu. 4.
Amod i
gytuno cynllun tai fforddiadwy. 5.
Y
fflatiau a ganiateir drwy hyn i fod ar gyfer dosbarth defnydd C3 yn unig o’r
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) (Diwygiad) (Cymru)
2022 ac nid ar gyfer defnydd C5 na C6. 6.
Cyflwyno
a chytuno manylion lle ar gyfer storio biniau gwastraff / ailgylchu. 7.
Oriau
gwaith. Nodiadau - Dŵr Cymru, Deddf Wal Gydrannol Cofnod: Trosi a newid defnydd un annedd i fod yn 6 fflat
1 ystafell wely Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd yn ymwneud a throsi a newid
defnydd un annedd yn 6 fflat 1 ystafell wely.
Byddai 1 fflat ar yr islawr, 2 ar lefel llawr daear ac 1 fflat ar lefel y llawr cyntaf, ail a
trydydd. Yn allanol byddai’r newid yn
cynnwys cyfnewid 1 ffenestr am ddrws ac adeiladu ffrâm ddur cerdded yn y cefn
ar lefel llawr daear. Saif y safle o fewn ffin ddatblygu Abermaw gyda’r eiddo
yn ffurfio rhan o res o dai. Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan fod y cais yn
ymwneud â 5 neu fwy o dai. Adroddwyd
bod Abermaw, yn y CDLl, wedi ei adnabod fel Canolfan
Gwasanaeth Lleol o dan Bolisi TAI 2 sy’n cefnogi datblygiadau tai fyddai’n
cwrdd â strategaeth y Cynllun wedi ei
seilio ar ddarpariaeth dangosol y Polisi. O’r wybodaeth a dderbyniwyd gan Uned
Polisi Cynllunio ar y Cyd, nodwyd mai lefel cyflenwad dangosol Abermaw dros
gyfnod y Cynllun oedd 91 uned gyda 50 uned wedi eu cwblhau rhwng 2011 a 2021, ynghyd a 36 unedau gyda
chaniatâd cynllunio presennol. Byddai’r bwriad yn creu 6 uned byw ychwanegol
fyddai’n golygu bod Abermaw wedi cyrraedd y lefel twf dangosol gyda’r datblygiad
yma ac felly'r bwriad yn dderbyniol yn nhermau Polisi TAI 2 CDLl. Cyfeiriwyd
at Polisi TAI 9 sy’n caniatáu rhannu eiddo presennol yn fflatiau hunangynhaliol
cyhyd â'u bod yn cydymffurfio â 4 maen prawf y polisi. Tynnwyd sylw penodol at
faen prawf (4) sy’n nodi na ddylai’r cynnig waethygu problemau parcio yn yr
ardal leol. Adroddwyd, er nad oedd llefydd parcio o fewn cwrtil yr eiddo, bod
yr eiddo presennol yn un 9 ystafell wely a byddai’r bwriad yn darparu cyfanswm
o 6 ystafell wely. Ategwyd bod yr Uned Drafnidiaeth yn ystyried, oherwydd
gostyngiad mewn nifer ystafelloedd gwely a ddarperir, yn golygu llai o alw am
lefydd parcio yn lleol ac y byddai’r effaith yn un gadarnhaol ar y ddarpariaeth
barcio leol. Y bwriad felly yn dderbyniol o ran maen prawf (4) Polisi TAI 9
CDLL. Nodwyd bod sylwadau gan drydydd parti wedi ei derbyn yn amlygu pryder y byddai’r fflatiau yn cael eu defnyddio fel fflatiau gwyliau a’r effaith byddai hynny yn cael ar y dref o ystyried y posibilrwydd y byddai’n mynd yn debyg i ardaloedd eraill o fewn Gwynedd ac ymhellach draw. Mewn ymateb, amlygwyd, bod Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) (Diwygiad) (Cymru) 2022 a ddaeth i rym 20/10/22 wedi gwneud newidiadau o ran dosbarthiadau defnydd unedau preswyl gyda dosbarth defnydd C3 bellach wedi ei nodi fel tai annedd a ddefnyddir fel unig neu brif breswylfa. Ychwanegwyd dau ddosbarth defnydd - C5 yn dai annedd a ddefnyddir mewn modd gwahanol i brif neu unig breswylfa a dosbarth C6 ar gyfer gosod tymor byr o ddim mwy na 31 diwrnod ar gyfer pob cyfnod o feddiant. Ystyriwyd y byddai’n briodol felly gosod amod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C22/0886/41/LL Cabin Wood, Llanystumdwy, LL52 0SU PDF 327 KB Addasiadau i fynedfa a
gosod ffens 1.8 medr o uchel AELOD LLEOL:
Cynghorydd Rhys Tudur Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Caniatáu gydag amodau 1.
Yn unol â’r cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r
cais. 2.
Gwaith i’w wneud yn unol gyda’r datganiad
mynediad. 3.
Unrhyw lystyfiant / ffens / wal o fewn
lleiniau gwelededd i fod dim uwch na 1 medr o uchder. 4.
Y gwaith i gael ei gwblhau o fewn 3 mis o
ddyddiad y caniatâd. Nodyn – Llythyr Dŵr Cymru
10/10/22, trwydded priffyrdd am waith gerllaw’r briffordd Cofnod: Addasiadau i fynedfa
a gosod ffens 1.8 medr o uchel a) Amlygodd y
Rheolwr Cynllunio bod y cais, un rhannol ôl weithredol, yn ymwneud ag addasu
mynedfa a gosod ffens uchel ar safle yng nghefn gwlad yn union gerllaw ffordd
ddosbarth 3 sydd yn rhedeg o Llanystumdwy i Rhoslan. Nodwyd mai creu mynedfa
i’r goedwig yw’r bwriad fydd yn mesur oddeutu 24.5 medr o led gyda giât yn cael
ei gosod 10 medr yn ôl o’r briffordd. Byddai ffens diogelwch 1.8 medr o uchder
yn cael ei godi rhwng y giât a’r lleiniau gwelededd gyda llystyfiant i’w dorri
ac i’w gynnal a’i gadw, oddi fewn y lleiniau gwelededd, o dan 1 medr mewn
uchder. Er yn
cydnabod pryder cymdogion, nid oedd y cais yn ymwneud ag unrhyw newid defnydd /
gweithgareddau a fyddai’n cymryd lle oddi fewn i’r goedwig ei hun. Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol. Cyfeiriwyd
at sylwadau a dderbyniwyd gan yr Uned Drafnidiaeth. Er nad oedd ganddynt
wrthwynebiad i’r bwriad, cynigwyd gosod amod fel nad yw llain welededd y
mynediad yn cael ei effeithio. Byddai’r amod yn rhoi sicrwydd bod y gwaith
cynnal a chadw i’w gwblhau yn unol â’r cynlluniau a’r datganiad mynediad gydag
unrhyw dyfiant a / neu ffens / wal o fewn y lleiniau gwelededd i fod dim uwch
na 1 medr mewn uchder. Ategwyd y
byddai’n briodol, o dan amgylchiadau’r cais, gosod amod i sicrhau fod y gwaith
i’w gwblhau o fewn amser penodol gan awgrymu bod 3 mis yn rhesymol.. Ystyriwyd fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau perthnasol. b) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais c) Mewn ymateb i wrthwynebiad y Cyngor Cymuned bod y ffens rhy uchel,
nodwyd nad oedd rhesymeg tu ôl i uchder y ffens, ond bod yr uchder yn gymorth i
gadw llystyfiant yn ôl. Ategwyd nad oedd y ffens yn amgylchynu’r safle yn ei
gyfanrwydd ac felly nid oedd i bwrpas cadw da byw. Nid oedd cyfiawnhad felly
dros yr uchder. PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau 1. Yn unol â’r cynlluniau a gyflwynwyd
gyda’r cais. 2. Gwaith i’w wneud yn unol gyda’r
datganiad mynediad. 3. Unrhyw lystyfiant / ffens / wal o fewn
lleiniau gwelededd i fod dim uwch na 1 medr o uchder. 4. Y gwaith i gael ei gwblhau o fewn 3 mis
o ddyddiad y caniatâd. Nodyn –
Llythyr Dŵr Cymru 10/10/22, trwydded priffyrdd am waith gerllaw’r
briffordd |
|
Adeiladu Capel Gorffwys
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gareth Tudor Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Gohirio ar gais asiant yr ymgeisydd Cofnod: Adeiladu Capel
Gorffwys Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod cais wedi ei dderbyn gan asiant yr
ymgeisydd yn gofyn am ohiriad fel bod modd trafod materion trafnidiaeth y cais
dan sylw. Nodwyd hefyd bod gwybodaeth ychwanegol wedi ei dderbyn gan yr
ymgeisydd oedd yn cyfarch un o’r rhesymau gwrthod. b) Cynigiwyd ac eiliwyd
gohirio y cais PENDERFYNWYD: Gohirio ar gais asiant yr ymgeisydd |