Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Council Offices, Caernarfon LL55 1SH and Virtually via Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Louise Hughes ac Elin Hywel:
Cynghorydd John Pughe (Aelod Lleol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion
protocol. . Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd
yr aelod canlynol ei fod yn aelod lleol
mewn perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd
Rhys Tudur (nad oedd yn Aelod i’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C21/1038/41/LL) ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
Cais Rhif C21/1038/41/LL Ty'n Lôn, Afonwen, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6TX PDF 427 KB Sefydlu maes carafanau teithiol (19 uned) gyda bloc
toiledau a gwaith cysylltiedig AELOD
LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: gohirio er mwyn
cynnal ymweliad safle Cofnod: Sefydlu
maes carafanau teithiol (19 uned) gyda bloc toiledau a gwaith cysylltiedig Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer newid
defnydd tir amaethyddol, i sefydlu safle carafanau teithiol i 19 uned, ymestyn
adeilad presennol i greu bloc toiledau a gwaith cysylltiedig ar dir yn Nhŷ’n Lôn, Afonwen. Byddai’r unedau teithiol wedi eu
lleoli o amgylch terfynau’r cae i’r gogledd orllewin o’r eiddo. Eglurwyd bod Datganiad
Cynllunio a datganiad cryno am sut roddwyd ystyriaeth i’r Iaith Gymraeg wedi eu
cyflwyno gyda’r cais gwreiddiol ynghyd ag Asesiad Ecolegol Cychwynnol, Arolwg
Botanegol ac Arolwg Moch Daear a Chynllun mesurau lliniaru bywyd gwyllt yn
ddiweddarach. Roedd y cynlluniau gwreiddiol yn gofyn am floc toiledau newydd,
ond fe gyflwynwyd cynlluniau diwygiedig (12 Rhagfyr 2022) yn dangos bwriad i
ymestyn adeilad modurdy presennol ar y safle i greu bloc toiledau/cyfleusterau
yn eu lle. Cyflwynwyd y cais i’r
Pwyllgor Cynllunio gan fod safle’r cais yn fwy na 0.5 hectar o faint. Nodwyd mai Polisi TWR 5 o’r
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl)
oedd y polisi perthnasol ar gyfer caniatáu datblygiadau ar gyfer carafanau
teithiol. Eglurwyd bod y polisi yn gosod cyfres o feini prawf a chyfeiriwyd at
faen prawf 1 sy’n datgan y dylai unrhyw ddatblygiad carafanau teithiol newydd
fod o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad; wedi’i guddio’n dda
gan nodweddion presennol y dirwedd a / neu mewn lle gellid cydweddu’r unedau
teithiol yn hawdd i’r dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i’w
hansawdd weledol. Adroddwyd y byddai’r bwriad
arfaethedig wedi ei leoli mewn cae gwastad sydd â choed aeddfed ar y terfynau
ac felly’n guddiedig o leoliadau cyhoeddus. Ategwyd bod bwriad i atgyfnerthu
sgrinio’r safle trwy blannu gwrych newydd o goed cynhenid fel ffin orllewinol
newydd i wahanu’r cae carafanau o’r cae ehangach. Nid yw’r safle o fewn yr
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) nac o fewn Ardal Tirwedd Arbennig
ac ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn achosi niwed arwyddocaol i ansawdd y
dirwedd. Mae’r bwriad wedi ei ddylunio i gwrdd â gofynion trwyddedu o safbwynt
gofod a chyfleusterau ac felly derbyniwyd fod y datblygiad yn un safonol. Nodwyd bod ail faen prawf
Polisi TWR 5 yn gofyn osgoi gormodedd o leiniau caled. Yn yr achos hwn ni
ddangosir unrhyw leiniau caled i’r carafanau – y trac graean sydd yn arwain i
fyny’r cae o’r fynedfa yw’r unig lain caled ac ystyriwyd y gall y trac
ymdoddi’n rhwydd i’r dirwedd. Gan na ddangosir lleiniau caled, ystyriwyd y byddai’n
addas gosod amod bod unrhyw leiniau caled yn cael ei gyfyngu i leiniau’r
carafanau yn unig. Yng nghyd-destun y trydydd
maen prawf sy’n gofyn sicrhau mai unedau teithiol yn unig fyddai’n defnyddio’r
safle, amlygwyd y gellid rheoli hynny drwy amod cynllunio priodol. Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, ar sail pellter a natur guddiedig y cae, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith andwyol sylweddol nac achosi aflonyddwch ar unrhyw drigolion cyfagos. Ystyriwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C21/0493/09/AC PV Parc Solar yn Morfa Camp Sandilands, Tywyn, LL36 9BH PDF 471 KB Diwygio a dileu amodau ar ganiatâd
cynllunio C15/0662/09/LL AELOD LLEOL:
Cynghorydd John Pughe Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag
amodau 1.
Cwblheir
y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar
gynllun(iau) rhif 1137/28, 1137/30-03, 1137/24, 1137/30-1, 1137/02B, 1137/05,
1137/07 V2, 1137/23/1137/25-2, 1137/29 a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio
Lleol, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill
gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi
ei gynnwys ar y dyfarniad cynllunio hwn. 2.
Dylid gorffen defnyddio’r tir at ddibenion cynhyrchu trydan fel y
caniateir yma 35 mlynedd neu’n gynharach o ddyddiad cynhyrchu egni y paneli
solar, neu o fewn 6 mis i orffen defnyddio unrhyw baneli solar at ddibenion
cynhyrchu trydan (oni bai iddynt gael eu hamnewid o fewn y cyfnod hwnnw) pa un
bynnag yw’r cynharaf, ac fe ddylid gwneud hynny yn unol â chynllun gwaith a
fydd eisoes wedi ei gyflwyno a’i gytuno’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod
Cynllunio Lleol a bydd hwnnw’n cynnwys rhaglen weithredu. Cwblheir y cynllun gwaith yn unol â’r manylion
a gytunir a bydd y rhain yn cynnwys- 1.
Datganiad dull ar gyfer dad-gomisiynu a datgymalu’r holl gyfarpar ar y
safle; 2.
Manylion unrhyw eitemau sydd am eu gadael ar y safle; 3.
Datganiad dull ar gyfer adfer y tir i amaethyddiaeth; 4.
Amserlenni
ar gyfer digomisiynu, gwaredu ac adfer y tir; 5.
Datganiad dull ar gyfer gwaredu / ailgylchu priodol cyfarpar /
strwythurau segur; 6.
Darpariaeth ar gyfer adolygu’r cynllun fel bo angen. 3.
Rhaid gweithredu’r Asesiad Risg Bioddiogelwch dyddiedig 9 Rhagfyr 2015
trwy gydol oes y datblygiad, oni bai y cytunir yn wahanol yn ysgrifenedig
gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol. 4.
Os y bwriedir gosod system oleuo ar y safle ar unrhyw adeg bydd gofyn
cyflwyno a chytuno yn ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol fanylion y
system oleuo hynny gan dangos math, union leoliad, lefel goleuedd a’r modd o
ddiogelu rhag llygredd neu gorlif golau.
Rhaid fydd gosod y system oleuo yn unol gyda’r manylion gytunwyd. 5.
Rhaid i’r
datblygiad gael ei weithredu’n llwyr unol gyda’r Cynllun Rheolaeth Tirwedd ac
Ecolegol (v5) dyddiedig 10 Mawrth 2021, Adroddiad Monitro Ehedydd cyf S_MSF_V4
dyddiedig 9 Mawrth 2021 a’r Cynllun Tirlunio rhif 1137/29 drwy gydol oes y
datblygiad, oni bai y cytunir yn wahanol yn ysgrifenedig gyda’r Awdurdod
Cynllunio Lleol. 6.
Ni chaniateir unrhyw ddatblygiad gweithredol gymryd lle yn ystod unrhyw
waith yn gysylltiedig gyda’r caniatâd yma o fewn 3 medr naill ochr i linell
ganol y pibelli cyflenwad sy’n croesi’r safle. 7.
Rhaid i’r
datblygiad gael ei weithredu mewn cydymffurfiaeth lwyr gyda’r Datganiad Dull
Cynllun Adeiladu ac Asesiad Risg gan Corylus
dyddiedig Rhagfyr 2015 er diogelu cyflwr strwythurol y ddwy bibell cyflenwad
sy’n croesi’r safle. Ni chaniateir cario
allan unrhyw ddatblygiad pellach yn gysylltiedig gyda’r caniatâd yma hyd nes y
bydd y mesurau diogelu wedi cael eu gweithredu a’u cwblhau Cofnod: Diwygio a
dileu amodau ar ganiatâd cynllunio C15/0662/09/LL Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd i ddiwygio a dileu amodau ar fferm solar
yn Nhywyn. Nodwyd bod y caniatâd wedi ei weithredu a’r fferm yn ei lle, ond bod
bwriad diwygio amodau i adlewyrchu ceisiadau cynllunio mwy diweddar. Eglurwyd bod y bwriad yn ymwneud yn bennaf gyda
diwygio strategaeth lliniaru ehedydd a gytunwyd o dan amod 14 o gais
C15/0662/09/LL. Nodwyd bod yr hyn a gytunwyd fel rhan o’r amod yn clustnodi cae
i’r gogledd o’r safle solar ar gyfer yr ehedydd, ond fel rhan o’r cais dan sylw
mae’r datblygwr am wella’r amodau o fewn y safle er budd yr ehedydd yn hytrach
na defnyddio’r cae nodedig. Cyflwynwyd y cais i bwyllgor oherwydd bod y
safle dros 0.5 hectar. Adroddwyd, gan fod y cais yn ymwneud a diddymu
amodau a osodwyd am resymau cynllunio dilys bod rhaid edrych os yw’r amodau dan
sylw’n berthnasol mwyach dan y canllawiau cenedlaethol mewn perthynas ag amodau
cynllunio sydd wedi’u cynnwys yng Nghylchlythyr Llywodraeth Cymru 016/2014:
Defnyddio Amodau Cynllunio i Reoli Datblygu. Fe restrai’r cylchlythyr chwe phrawf
ar gyfer dilysrwydd amodau cynllunio a bod hi’n angenrheidiol ystyried os yw’r
amodau yn cyd-fynd â’r profion isod: • Eu
bod yn hanfodol. • Eu
bod yn berthnasol i gynllunio. • Eu
bod yn berthnasol i’r datblygiad sydd i’w ganiatáu. • Y
gellir eu gorfodi. • Eu
bod yn fanwl. • Eu
bod yn rhesymol ym mhob agwedd arall. Amlygwyd nad oedd rheswm dros addasu rhai o’r
amodau gwreiddiol ond bod gofyn i’r datblygwr barhau i gydymffurfio a hwy.
Gwnaed cais i ddileu amod 13: Cyflwyno a chytuno manylion system
goleuo’r safle gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Fel rhan o gais C15/1368/09/AC, nodwyd nad oedd bwriad
gosod unrhyw oleuadau fel rhan o’r datblygiad a gyda’r gwaith o ddatblygu’r
fferm solar wedi ei gwblhau bellach, amlygwyd nad oedd goleuadau wedi eu gosod
ar y safle. Fodd bynnag, petai angen
gosod goleuadau ar y safle yn y dyfodol yna nid yw pob math o olau angen
caniatâd cynllunio. Ystyriwyd y gall
gosod goleuadau gael effaith posibl ar fwynderau, gweledol a thrigolion lleol,
ynghyd a bioamrywiaeth ac felly ystyriwyd y byddai’n briodol diwygio’r amod yn
hytrach na’i dileu. Awgrymwyd gosod amod
fyddai yn nodi os bwriedir gosod system oleuo ar safle’r fferm solar bydd rhaid
cyflwyno a chytuno'r manylion hynny gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Byddai hyn yn cadw rheolaeth dros unrhyw
oleuadau posibl allai gael eu rhoi ar y safle ac ystyrir y byddai amod o’r fath
yn rhesymol. Prif ystyriaeth y cais oedd amod 14 Cyn cychwyn gwaith angen cyflwyno a chytuno gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol gynllun tirlunio a phlannu. Eglurwyd, fel rhan o gais C15/1368/09/AC, cyflwynwyd a chytunwyd ar Gynllun Rheolaeth Tirwedd ac Ecoleg ynghyd a chynllun tirweddu oedd yn cynnwys bwriad i glustnodi cae i’r gogledd o’r fferm solar fel dôl gwair ar gyfer ehedydd, i blannu eithin a helygen ac i reoli’r tir o fewn y fferm ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |