Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Dyfrig Wynn Jones a Michael Sol Owen a’r Cynghorwyr D. Gwynfor Edwards, Aled Ll. Evans a Llywarch Bowen Jones (Aelodau Lleol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: (a) Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant
personol am y rhesymau a nodir: ·
Y Cynghorydd Gruffydd
Williams, yn eitem 5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/0034/37/LL) oherwydd bod ei dad yn berchen parc carafanau wedi ei leoli llai na chwe milltir o’r safle; ·
Y Cynghorydd Owain Williams,
yn eitem 5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/0034/37/LL) oherwydd ei fod yn berchennog parc carafanau wedi ei leoli llai na chwe milltir o’r safle. Roedd yr Aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau a
oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a
nodir. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn
aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Lesley Day, (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C15/0016/11/LL); ·
Y Cynghorydd Eric M. Jones,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C15/0233/17/AM); ·
Y Cynghorydd R. H. Wyn
Williams, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/0246/39/LL); ·
Y Cynghorydd E. Selwyn
Griffiths, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/0375/44/LL). Ymneilltuodd yr Aelodau i
ochr arall y Siambr yn ystod
y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw
ac ni fu
iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 15 Mehefin, 2015, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2015
fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio. Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth
i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar
fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau
mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais rhif C13/0953/13/LL - Tŷ Bach, Salem Place, Llanllechid, Bangor Codi estyniad llawr cyntaf. Aelod Lleol: Cynghorydd Dyfrig W. Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi estyniad llawr cyntaf. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y bwriad yn addas o ran
maint, dyluniad a deunyddiau allanol a ni ystyrir byddai’r bwriad yn debygol o
gael effaith andwyol sylweddol ar fwynderau unrhyw drigolion nag eiddo gerllaw
yn fwy na’r eiddo presennol. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda Chynllun Datblygu Unedol
Gwynedd (CDUG) am y rhesymau a roddwyd
yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau 1. 5 mlynedd 2. Sicrhau cwblhau’r datblygiad yn unol â’r cynlluniau a gyflwynwyd 3. Deunyddiau allanol i gydweddu a’r eiddo
presennol 4. Tynnu hawliau dirprwyedig a ganiateir Nodyn wal gydrannol Nodyn
Dwr Cymru |
|
Cais rhif C15/0016/11/LL - The Three Crowns, 3 Well Street Bangor Newid defnydd ac estynnu tafarn A3 presennol i 15 llety myfyrwyr hunan gynhaliol. Aelod Lleol: Cynghorydd D. Gwynfor Edwards Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd ac estynnu tafarn A3 presennol i 15 llety myfyrwyr
hunan gynhaliol. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod yr adeilad wedi ei
ddefnyddio yn y gorffennol fel tafarn, ond yn wag ar hyn o bryd yn dilyn difrod
tan yn y blynyddoedd diwethaf. Nodwyd bod y bwriad yn golygu codi estyniad
uwchben rhan o lawr gwaelod presennol ar gyfer darparu lloriau ychwanegol
gyda’r dyluniad yn cydweddu gyda gweddill yr adeilad. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Nodwyd bod ardal y cais yn benodol yn ffurfio rhan o Stryd Fawr Bangor,
gydag amryw o fflatiau uwchben siopau ac adeiladau masnachol, gydag ardal
breswyl union gerllaw'r safle hefyd, sy’n boblogaidd gyda myfyrwyr, gyda nifer
o’r unedau tai confensiynol yn cael eu defnyddio gan fyfyrwyr yn hytrach na
theuluoedd lleol. Adroddwyd bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi bod yn casglu
tystiolaeth er mwyn hwyluso’r gwaith o lunio polisi yn y Cynllun Datblygu Lleol
ar y Cyd arfaethedig. Nodwyd bod y manylion diweddaraf o ran y nifer o unedau
tai a ddefnyddir gan fyfyrwyr, tai amlfeddiannaeth a llety pwrpasol i fyfyrwyr
sy’n bodoli yn ward Deiniol wedi ei nodi mewn fersiwn diwygiedig o Atodiad 1
o’r daflen sylwadau ychwanegol. Nodwyd bod tystiolaeth glir ar
gyfer profi’r angen ar gyfer
llety myfyrwyr pwrpasol, ac ystyrir ei fod yn
rhesymol ystyried y buasai darparu llety pwrpasol, yn golygu y byddai
myfyrwyr yn dewis byw yn
y llety pwrpasol yn lle tai confensiynol.
Ni ystyrir byddai caniatáu’r bwriad yn achosi anghydbwysedd
yn y boblogaeth leol, yn enwedig
o ystyried ei leoliad canol Dinas
a thu ôl
i’r Stryd Fawr. Ni ystyrir
byddai’r datblygiad yn achosi niwed
arwyddocaol i gymeriad a mwynderau’r ardal leol. Ystyrir fod y bwriad yn gynllun sy’n
sicrhau dyfodol adeilad eithaf sylweddol ym Mangor
a’i fod yn
cydymffurfio gyda holl bolisïau perthnasol
y CDUG ac na fyddai’r bwriad yn debygol o gael
effaith andwyol sylweddol ar fwynderau’r
ardal leol nac ar unrhyw
eiddo cyfagos. (b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan y Cynghorydd Lesley Day a oedd yn gweithredu
fel aelod lleol (nid oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn):- ·
Bod 3 elfen i’w gwrthwynebiad
i’r datblygiad sef – diffyg angen am lety myfyrwyr, yr effaith ar fwynderau
lleol a’r gymuned a gor-ddatblygiad o’r safle a’r effaith
ar drigolion lleol; ·
Bod niferoedd myfyrwyr wedi
gostwng yn flynyddol ers 2011-12; ·
Ei bod wedi derbyn gwybodaeth
gan Is-ganghellor y Brifysgol bod tua 8,500 o fyfyrwyr llawn amser a bod
niferoedd myfyrwyr rhan amser yn amherthnasol gan ei fod yn annhebygol eu bod
angen llety; ·
Bod Llywydd Undeb Myfyrwyr
Bangor wedi ei hysbysu bod ganddynt bolisi newydd yn nodi nad oedd angen na
dymuniad ar gyfer mwy o lety myfyrwyr; · Bod digonedd o lety ar gyfer myfyrwyr ym Mangor gyda darpariaeth ar gyfer 8,878 o fyfyrwyr o leiaf mewn gwahanol ffurf ac nad oedd hyn yn cynnwys llety ym Methesda, Porthaethwy ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2 |
|
Cais rhif C15/0034/37/LL - Parc Elernion Caravan Park, Trefor Trosi bloc toiledau
presennol yn uned wyliau, codi bloc toiledau newydd, lleoli dwy garafan
sefydlog, lleoli 5 carafan teithiol, ardal barcio gysylltiedig a thirlunio. Aelod Lleol: Cynghorydd Llywarch Bowen Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Trosi bloc toiledau presennol yn uned wyliau,
codi bloc toiledau newydd, lleoli dwy garafán sefydlog,
lleoli 5 carafán teithiol, ardal barcio gysylltiedig â thirlunio. (a) Adroddwyd bod asiant yr ymgeisydd
wedi cysylltu ar fore’r cyfarfod
yn nodi eu
bod bellach eisiau diwygio’r cais i ofyn am leoli
un garafán sefydlog ychwanegol yn hytrach na
dwy. Nodwyd na dderbyniwyd
cynlluniau diwygiedig a bod
angen ail-ymgynghori ac ail
asesu’r cais felly gofynnir am ohirio ystyried y cais. PENDERFYNWYD gohirio’r cais. |
|
Cais rhif C15/0233/17/AM - Tir ger Bryn Llan, Llandwrog Cais amlinellol i godi naw
annedd gan gynnwys tri annedd fforddiadwy ag addasu
mynediad presennol. Aelod Lleol: Cynghorydd Eric M. Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais amlinellol i godi naw
annedd gan gynnwys tri annedd fforddiadwy ag addasu
mynediad presennol. (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan
nodi bod safle’r cais tu fewn i ffin datblygu Llandwrog ac wedi ei ddynodi yn benodol
ar gyfer tai yn y CDUG. Nodwyd byddai’r holl eiddo
yn dai
deulawr a thynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Cyfeiriwyd yn ogystal at argymhelliad
yr Uned Drafnidiaeth
y dylid gosod amod i ddarparu
troedffordd (i’w fabwysiadu fel priffordd) ar hyd
blaen y safle. Nodwyd y byddai hyn o bosib yn
golygu torri coed a chlirio/symud clawdd ond
yn dilyn pryderon gan yr
Uned Bioamrywiaeth roedd asiant yr
ymgeisydd wedi cadarnhau nad
oes bwriad i dorri coed.
Ychwanegwyd bod ffiniau gwreiddiol
megis waliau a chloddiau yn cyfrannu
fel nodweddion pwysig i’r amgylchedd
hanesyddol a dylid eu cadw. Adroddwyd y byddai trafodaethau yn parhau gyda’r
Uned Drafnidiaeth a gofynnir os penderfynir
caniatáu’r cais i ddirprwyo’r hawl
i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais
yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau
ffafriol gan yr Uned Drafnidiaeth
a’r Uned Bioamrywiaeth a gosod amodau priodol. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:- •
Bod cais amlinellol ar gyfer
y safle wedi ei ganiatáu yn
2010 ac mai adnewyddu caniatâd cynllunio ydoedd; •
Bod safle’r
cais wedi ei ddynodi ar
gyfer tai; •
Bod asesiad
iaith wedi ei lunio ar
gyfer y datblygiad; •
Y byddai’r
holl adeiladau yn ddeulawr yn
unig; •
Y byddai garej a dreif ar
gyfer bob tŷ felly ni fyddai effaith
o ran parcio yn yr ardal; •
Bod Grŵp
Cynefin wedi datgan diddordeb yn y datblygiad; •
Y byddai’r bwriad yn darparu
tai sydd wir angen yn yr
ardal; •
Gofyn i ganiatáu’r cais. (c) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod lleol
(nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn):- ·
Bod teimlad yn lleol y
byddai’r tai dros dri llawr ond bod cadarnhad wedi ei dderbyn mai tai deulawr a
gynhwysir yn y datblygiad; ·
Bod pryderon wedi eu lleisio o
ran effaith ar fynedfa Maes Gwydion ond derbyniwyd cadarnhad na fyddai effaith
ar y fynedfa gan fod darpariaeth parcio wedi ei gynnwys yn y datblygiad; ·
Bod y bwriad yn ymateb i’r
gofynion. Cynigwyd a eiliwyd i
ganiatáu’r cais. (ch) Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Pryder o ran torri’r gwrychoedd a’r effaith y byddai hyn yn cael
ar ystlumod; ·
Ei fod yn siom na
fyddai’r lôn yn cael ei
fabwysiadu fel priffordd a dylid ceisio dod i
gytundeb o ran ei mabwysiadu; ·
Bod y ffordd ddosbarth yn yr
ardal yma yn droellog felly dylid sicrhau diogelwch
y ffordd; · Na fyddai problemau o ran parcio gan fod mannau parcio wedi eu cynnwys fel rhan o’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.4 |
|
Cais rhif C15/0246/39/LL - Harbour Hotel, Abersoch Adeiladu 4 tŷ preswyl gyda gwaith
atodol yn cynnwys dull mynediad a tirlunio manwl (mae uned
13 o ganiatad C13/0736/39/LL yn
cael ei ail leoli gyda'r cais
yma ac felly y bwriad yn cynnwys 3 tŷ
ychwanegol). Aelod Lleol: Cynghorydd R. H. Wyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu 4 tŷ preswyl gyda gwaith atodol
yn cynnwys dull mynediad a thirlunio manwl (mae
uned 13 o ganiatâd
C13/0736/39/LL yn cael ei ail leoli gyda'r
cais yma ac felly'r bwriad yn cynnwys 3 tŷ
ychwanegol). (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y safle oddi mewn i Ardal o
Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) ac o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol
Eithriadol. Adroddwyd y cyflwynwyd Datganiad Cynllunio a Thai Fforddiadwy fel rhan o’r
cais lle amlinellwyd opsiynau a roddwyd ymlaen mewn trafodaethau cyn cyflwyno
cais ar gyfer darparu tai fforddiadwy. Nodwyd mai’r tri opsiwn posib oedd: ·
Opsiwn 1 – Datblygu’r safle ar
gyfer 16 uned breswyl gyda 12 yn rhai marchnad agored a chadw’r 4 tŷ fforddiadwy (25%) a ganiatawyd o
dan gais C13/0736/39/LL. ·
Opsiwn 2 – Datblygu’r safle ar
gyfer 18 uned breswyl sef 12 tŷ marchnad agored a 6 fflat / apartment fforddiadwy (33%). ·
Opsiwn 3 – Swm cymudol o £400,000
yn lle’r ddarpariaeth o dai ar y safle. Trafodwyd yr opsiynau
efo’r ymgeisydd a datganodd swyddogion yr ystyrir y byddai’r
angen lleol yn Abersoch yn
cael ei gwrdd
â’i wasanaethu’n well gan opsiwn 1. Cynghorwyd
yr ymgeisydd i gysylltu gyda
chymdeithasau tai er cael eu
barn hwy ar hyn. Nodwyd bod nifer o gymdeithasau tai efo diddordeb
a bod Grŵp Cynefin wedi datgan y byddai
tai yn well dewis na fflatiau/apartments. Roedd rhestr Tai Teg yn ogystal
yn dangos fod rhestr aros
o 35 ar gyfer tai 3 ystafell wely
o’i gymharu gyda 14 yn edrych
am fflatiau/apartment 2 ystafell
wely. Ystyrir bod opsiwn 1 yn cwrdd
â’r gofynion o ran sicrhau canran o dai fforddiadwy
ar safleoedd datblygu yn unol
â pholisi CH4 o’r CDUG. Nodwyd bod dyluniad yr unedau preswyl
yn y cais cyfredol yn adlewyrchu’r
hyn a dderbyniodd caniatâd ar ran 1 o’r datblygiad. Ychwanegwyd er bod y dyluniad o natur gyfoes nid oedd
hyn o anghenraid yn golygu byddai’n
achosi niwed arwyddocaol i’r AHNE ac ystyrir byddai’r bwriad ddim yn
cael mwy nag effaith leol ar
y Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am
y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd pensaer yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:- •
Ers cychwyn ar ran 1 o’r
datblygiad bod gwaith wedi ei wneud
i gyfarch materion ecolegol gyda’r
broblem Llysiau Dial wedi ei ddatrys
a’r tŷ ystlumod yn ei
le; •
Bod coed
wedi eu plannu
i warchod golygfeydd o’r safle; •
Y bwriedir creu caergawell wedi ei orchuddio
gan blanhigion er mwyn gwella
ecoleg ond nid oedd angen
bellach am gaergawell ar ffin ogledd-ddwyreiniol
y safle; •
Bod y wybodaeth
a gasglwyd o ran yr elfen tai fforddiadwy wedi dangos y ffafrir
tai 3 ystafell wely o safon uchel gyda’r
Cyngor Cymuned yn gefnogol i
hyn; • Y cafwyd trafodaethau efo Comisiwn Dylunio Cymru o ran ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.5 |
|
Cais rhif C15/0301/30/LL - Fferm Bryn, Aberdaron Dymchwel adeilad amaethyddol presennol ac adeiladu sied amaethyddol
newydd i gadw anifeiliaid yn ystod y gaeaf. Aelod Lleol: Cynghorydd W. Gareth Roberts Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel
adeilad amaethyddol presennol ac adeiladu sied amaethyddol newydd i gadw
anifeiliaid yn ystod y gaeaf. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y safle yn gorwedd
yng nghefn gwlad ac oddi fewn
i’r AHNE a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Sylweddol. Adroddwyd y cyflwynir y cais gerbron y Pwyllgor gan fod perthynas
i’r ymgeisydd yn gweithio i’r
Gwasanaeth Cynllunio.
Nodwyd o ran materion archeolegol yr ystyrir ei fod yn
briodol fod cofnod o’r adeilad yn cael ei wneud cyn dymchwel yr adeilad er mwyn
lliniaru’r golled o dystiolaeth ffisegol ac i weithredu fel cofnod archif. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b) Nodwyd
bod yr Aelod Lleol yn gefnogol i’r cais. Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol: ·
A
fyddai’n bosib peidio dymchwel yr adeilad ac adeiladu sied ar ran arall o’r
fferm?; ·
Gan fod y safle wedi ei leoli yn yr AHNE bod gofyn statudol i warchod
amcanion y dynodiad; ·
Bod
yr adeilad yn rhan o hanes yr ardal a’i fod yn drist ei fod yn cael ei
ddymchwel; ·
Ei fod yn siomedig bod llechi
ar do’r adeilad wedi eu tynnu cyn i swyddog o’r Uned
Bioamrywiaeth ymweld â’r safle a dylid gwybyddu’r ymgeisydd bod hyn yn gwbl annerbyniol; ·
Nad
oedd yr adeilad yn addas i bwrpas. (c) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y
swyddogion:- ·
Nad oedd angen caniatâd i
ddymchwel yr adeilad presennol; ·
Nad oedd yr adeilad yn addas a
bod angen am sied fodern yn cwrdd ag anghenion ffermio. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2. Unol a’r cynlluniau. 3. Waliau allanol a tho i fod
o liw gwyrdd tywyll BS 12 C 39. 4. Defnydd amaethyddol o’r adeilad yn
unig. 5. O fewn mis o ddyddiad
cwblhau’r adeilad dylid gosod bocs(ys)
i adar y to nythu yn uchel
ar wyneb gogleddol neu ddwyreiniol
yr adeilad neu yn uchel
y tu mewn i’r adeilad a dylai’r
bocs(ys) gynnwys lleiafswm o 6 twll yn eu
cyfanrwydd. 6. Cyn
cychwyn y datblygiad (gan gynnwys unrhyw
waith dymchwel, clirio safle neu
stripio allan)
dylid ymgymryd â gwneud cofnod ffotograffig
o’r adeilad a chytuno ar y cofnod
gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol. |
|
Cais rhif C15/0375/44/LL - Tŷ Samson, Borth y Gest, Porthmadog Codi garej
domestig a newidiadau i'r mynediad troed. Aelod Lleol: Cynghorydd E. Selwyn Griffiths Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi
garej domestig a newidiadau i'r mynediad troed. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y
safle wedi ei leoli gerllaw aber yr Afon Glaslyn sy’n Ardal Cadwraeth Arbennig
ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac oddi mewn i Dirwedd o Ddiddordeb
Hanesyddol Arbennig Aberglaslyn. Ystyrir fod y bwriad o greu garej a lle parcio yn y man hwn yn dderbyniol o
safbwynt diogelwch y ffordd fodd bynnag o ystyried ansawdd yr amgylchedd lleol
a'i bwysigrwydd o safbwynt mynediad cyhoeddus a mwynhad y cyhoedd o’r ardal hon
ni ystyrir fod y bwriad yn cwrdd â gofynion polisïau'r Cynllun Datblygu Unedol
sy’n ymwneud gyda gwarchod y nodweddion hyn. Nodwyd y derbyniwyd cais gan asiant yr ymgeisydd yn gofyn i ohirio ystyried
y cais ond ni ystyrir bod sail i ohirio. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am
y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Gwnaed y prif bwyntiau
canlynol gan yr aelod lleol
(nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn):- ·
Ei fod yn cefnogi’r
argymhelliad; ·
Bod yr ardal yma yn ddistaw
gyda nifer isel o geir yn teithio ar hyd y lôn; ·
Bod perygl o osod cynsail os
caniateir y cais; ·
Ei fod yn ardal o harddwch a
dylid ei warchod. Nododd aelod nad oedd sail i ohirio’r
cais gan nad oedd newid i fanylion y cais. PENDERFYNWYD gwrthod y cais. Rheswm: Byddai adeiladu garej a chreu man parcio oddi ar y ffordd yn y lleoliad hwn yn niweidiol i fwynderau gweledol y drefwedd yn y rhan hwn o Borth y Gest ac i fwynhad y cyhoedd o’r ardal sydd ger Llwybr Arfordir Cymru ac sy’n ffurfio rhan o Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig Aberglaslyn ac fe fyddai’r datblygiad felly’n groes i bolisïau B12, B22, B23 a B25 Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd. |
|
Cais rhif C15/0421/41/LL - Llety Plu, Llangybi Estyniad i fodurdy
presennol (diwygiad i gynllun a wrthodwyd
dan gais rhif C15/0012/41/LL). Aelod Lleol: Cynghorydd Aled Ll. Evans Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Estyniad i fodurdy presennol
(diwygiad i gynllun a wrthodwyd dan gais rhif
C15/0012/41/LL). (a) Adroddwyd y derbyniwyd cais gan yr Aelod
Lleol i ohirio
trafod y cais gan nad oedd ef nac
asiant yr ymgeisydd yn gallu
bod yn bresennol. PENDERFYNWYD gohirio’r cais. |