Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien (01341) 424301
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd am 2015/16. Cofnod: Penderfynwyd: Ail-ethol y Cynghorydd Michael Sol
Owen yn Gadeirydd i’r Pwyllgor Cynllunio am y flwyddyn 2015/16. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd am 2015/16. Cofnod: Penderfynwyd: Ail-ethol y Cynghorydd Anne Lloyd
Jones yn Is-gadeirydd i’r Pwyllgor Cynllunio am y flwyddyn 2015/16. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Cynghorwyr Craig ab Iago, Dyfrig
Wynn Jones, W Tudor Owen, John Pughe Roberts, Eric Merfyn Jones (Eilydd) a Gethin Glyn Williams (Aelod Lleol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: (a) Datganodd y Cynghorydd Owain Williams fuddiant personol yn Eitem 7 ar y rhaglen
(cais cynllunio rhif C14/1107/34/LL oherwydd ei fod yn berchen darn o dir
gerllaw Fferm Graianog, Llanllyfni, lle mae gan yr ymgeisydd safle carafanau arall a’i fod hefyd yn
berchennog safle carafanau ei hun. Roedd yr Aelod o’r farn eu bod yn fuddiannau a
oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais a nodir. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd John Wyn Williams
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7 ar y rhaglen (cais
cynllunio rhif C14/1111/25/LL) ·
Y Cynghorydd June E. Marshall
(a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7 ar y rhaglen (cais
cynllunio rhif C14/1234/11/LL) ·
Y Cynghorydd John B. Hughes
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7 ar y rhaglen (cais
cynllunio rhif C15/0158/39/AM) ·
Y Cynghorydd E. Selwyn
Griffiths (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7 ar y
rhaglen (cais cynllunio rhif C15/0164/44/LL) ·
Y Cynghorydd Gweno Glyn (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7 ar y rhaglen (cais
cynllunio rhif C15/0201/32/RC) Ymneilltuodd yr Aelodau i
ochr arall y Siambr yn ystod
y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw
ac ni fu
iddynt bleidleisio ar y materion hynny. (c)
Datganodd yr Uwch
Gyfreithiwr fuddiant personol yn Eitem
7 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C14/1012/14/LL) oherwydd cysylltiad personol agos gyda’r gwrthwynebydd
ac fe adawodd y Siambr yn ystod
y drafodaeth ar y cais hwn. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2015, fel rhai cywir. (copi ynghlwm) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2015,
fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio (copi ynghlwm). Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol
i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion
y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C14/0240/15/MG - Tir ger Ffordd Ty Du Road, Llanberis, Caernarfon Cais Materion a gadwyd yn ô lar gyfer codi 11 annedd preswyl fel ganiatwyd o dan gyfeirnod C11/1103/15/AM. Aelod Lleol: Cynghorydd Trevor Edwards Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais materion a gadwyd yn ôl ar
gyfer codi 11 annedd preswyl fel a ganiatawyd o dan gyfeirnod C11/1103/15/AM. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais, gan nodi bod y cais yn ymwneud â materion
a gadwyd yn ôl i gynnwys
maint, ymddangosiad a thirlunio. Bwriedir codi 11 tŷ deulawr gyda mynediad
a ffordd gerbydol oddi ar y ffordd
gyhoeddus gyfagos gyda’r tai yn
amrywio mewn maint i gynnwys
cymysgedd o dai 4 a 3 ystafell wely. Cyfeiriwyd at y polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol. Tynnwyd sylw at yr ymgynghoriadau
cyhoeddus a oedd yn cynnwys gwrthwynebiadau
gan drigolion lleol ond yn
dilyn rhoi ystyriaeth lawn i’r pryderon ni
chredir y byddai dyluniad a gosodiad y tai yn debygol o amharu
ar fwynderau cyffredinol a phreswyl yr ardal i
raddfa annerbyniol. Nodwyd ymhellach bod y safle
wedi gordyfu a thrwy ddatblygu’r safle y byddir yn gwaredu rhywogaethau
ymwthiol mewn ffordd ddiogel. Ystyrir bod materion trafnidiaeth yn dderbyniol ynghyd
ag asesiadau ffurfiol bioamrywiaeth a gyflwynwyd. Nodwyd bod y safle yn wlyb
oherwydd y diffyg cynnal a chadw dyfrffos yn y gorffennol. Cyflwynwyd pryderon ynglŷn ag effaith llifogydd yn enwedig
ar dai cyfagos
ac ar diroedd yn is i lawr
o’r safle ond er hyn,
ni wrthwynebwyd y cais gan Gyfoeth
Naturiol Cymru, Dŵr Cymru nag ychwaith Uned Draenio
Tir y Cyngor a bod amodau priodol wedi eu cynnig
er mwyn gwarchod
y sefyllfa. Yn sgil y pryderon
a gyflwynwyd, gofynnwyd i Cyfoeth Naturiol
Cymru am wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â strategaeth gwaredu dŵr wyneb tu fewn
ac i ffwrdd o’r safle a chyflwynwyd
y wybodaeth yn ddiweddarach gan yr ymgeisydd a
oedd yn dderbyniol. Tynnwyd sylw at sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan Uned Draenio Tir
y Cyngor ar y ffurflen sylwadau hwyr a ddosbarthwyd i’r Pwyllgor sydd
yn gefnogol i’r bwriad arfaethedig
yn ddarostyngedig i amodau priodol. Yn seiliedig ar yr holl
ystyriaethau, argymhelliad
y swyddogion cynllunio ydoedd caniatáu’r cais yn ddarostyngedig
i amodau yn ymwneud â draenio’r
safle, a chario allan gwaith
yn unol ag argymhellion yn yr adroddiad coed
a Bioamrywiaeth.
(b) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r
cais. (c) Mewn ymateb i
ymholiad ynglyn â diffyg cyfeiriad i dai fforddiadwy,
nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu mai cais yn
ymwneud â materion a gadwyd yn ôl
oedd gerbron a bod yr egwyddor o sefydlu’r
11 tŷ wedi ei ganiatáu yn
2012 a’r rheswm pennaf dros beidio
neilltuo canran o’r tai yn rhai
fforddiadwy ydoedd hyfywdra’r datblygiad o ystyried natur y tir a materion draenio fyddai’n gostu (ch) Ychwanegodd Aelod
bod prinder tai a thir yn Llanberis
ar gyfer adeiladu a’i bod yn ymwybodol bod yr Aelod Lleol
yn gefnogol i’r cais. Penderfynwyd: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatau’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn ymateb ffafriol gan yr Uned Draenio Tir ynglyn a threfniadau gwarchod y dyfrffos ar y safle ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C14/1012/14/LL - Welcome Furniture, Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon Gosod uned llosgi biomas newydd oddi fewn i gysgodfan presennol, codi simdde newydd ynghyd â chreu estyniad i gadw peiriant rhwygo. Aelod Lleol: Cynghorydd W. Tudor Owen Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn i osod uned
llosgi biomas newydd oddi fewn i gysgodfan presennol, codi simdde newydd ynghyd
â chreu estyniad i gadw peiriant rhwygo. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan
nodi bod tair elfen i’r datblygiad sef gosod uned biomas newydd yn lle’r uned
bresennol, gosod simdde newydd uwchben yr uned biomas a chreu estyniad bach yng
nghefn yr eiddo ar gyfer peiriant rhwygo.
Ystyriwyd nifer o agweddau wrth asesu’r cais yng nghyd-destun mentrau
presennol a chredir bod yr egwyddor yn dderbyniol. Ni chredir y byddai’r
datblygiad yn achosi difrod arwyddocaol i’r ardal o amgylch y safle er gwaethaf
derbyn gwrthwynebiadau sy’n cyfeirio at broblemau presennol sy’n achosi pryder
i drigolion lleol ar sail aflonyddwch sŵn a llygredd. Pwysleisiwyd bod yr egwyddor o sefydlu’r
safle wedi ei ganiatau ers 2002 a bod y cynnig diweddaraf wedi ei leoli oddi
fewn i gwrtil safle diwydiannol. Credir
ymhellach na fyddai graddfa’r bwriad yn amharu’n
arwyddocaol ar yr amgylchedd o ystyried lleoliad y gwaith union gyferbyn â’r
adeiladwaith presennol. Cyfeiriwyd
hefyd bod yr amcanion uchod wedi eu hadlewyrchu yn genedlaethol gan Lywodraeth
Cymru. O safbwynt mwynderau gweledol, er bod rhan
fwyaf o’r offer wedi eu lleoli o dan gribau’r toeau’r
uned bod un simdde/echdynnydd eisoes wedi ei leoli oddeutu 2m uwchben un crib.
Nodwyd bod lleoliad yr offer a’r strwythurau cysylltiol wedi eu rheoli a’u
siapio gan ofynion statudol cyrff rheoleiddio ac nid yw’n bosib eu gorchuddio
gydag arwisg. Nid yw’n
hawdd ceisio cymhathu strwythurau diwydiannol o’r fath i’r amgylchedd oherwydd
natur yr adeiladau eu hunain. Er
hyn, nodwyd bod yr ymgeisydd wedi ceisio lleihau effaith gweledol y strwythurau
ychwanegol er mwyn i’r estyniad arfaethedig gydweddu i’r estyniad presennol. Derbyniwyd gwrthwynebiadau i’r cais hwn yn
ymwneud â sŵn ac aflonyddwch a phryder bod y biomas presennol yn rhedeg 24
awr am 7 diwrnod yr wythnos sydd yn groes i’r amodau cynllunio ar y ceisiadau
blaenorol sydd yn cyfyngu ar bryd y gellir defnyddio’r offer ynghyd ag isafswm lefelau
sŵn. Yn amlwg o
dderbyn y gwrthwynebiadau bod tor-amod wedi digwydd. Nodwyd bod Adran Gwarchod y
Cyhoedd y Cyngor ynghyd â’r Uned Gorfodaeth yn ymwybodol o’r sefyllfa ond gan
fod y cais cyfredol wedi ei gyflwyno byddir yn atal cymryd camau gorfodaeth ar
hyn o bryd. Pe byddir yn
caniatáu’r cais, gwelir bod cyfle i ymgymryd â mesuriadau lliniaru er mwyn
sicrhau bod yr offer newydd yn cydymffurfio â gofynion lefelau swn statudol gan
obeithio na fydd ardrawiad sylweddol ar fwynderau
preswyl a chyffredinol trigolion cyfagos. Gellir gosod amodau cynllunio ar
gyfer oriau gweithio’r offer ynghyd â gosod lefelau uchafswm swn a fydd yn
deillio o’r uned biomas a’r peiriant rhwygo.
Pe bai sefyllfa yn codi yn y dyfodol ynglyn â
thor-amod, gellir ymgymryd â mesurau gorfodaeth priodol bryd hynny. Yn ogystal, derbyniwyd gwrthwynebiadau ynglyn a gollyngiadau llygryddion i’r awyr a chadarnhawyd bod yr Adran Gwarchod y Cyhoedd wedi ymgymryd ag asesiadau ac wedi dod i gasgliad nad oes perygl i’r boblogaeth leol ar sail dirywiad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Amrywio Amod Rhif 3 o ganiatad cynllunio C11/0836/34/LL i ganiatau 15 carafan symudol a 15 uned symudol cymysg yn lle 15 carafan symudol a 30 pabell. Aelod Lleol: Cynghorydd Owain Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn i amrywio
amod Rhif 3 o ganiatâd cynllunio C11/0863/34/LL
i ganiatau 15 carafán symudol a 15 uned symudol gymysg
yn lle 15 carafán symudol a 30 pabell. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi bod y cais yn cynnwys
trefniant mewnol newydd ar gyfer
yr unedau sy’n defnyddio’r safle ynghyd â gwaith tirlunio a phlannu coed er
mwyn gwella’r sgrinio o’r tu
allan a chodi
ansawdd yr amgylchedd mewnol. Cyfeiriwyd at y polisiau lleol a chenedlaethol perthnasol a’r sylwadau ychwanegol
a dderbyniwyd gan y Cyngor Cymuned ac Uned Polisi’r Cyngor. Ystyrir bod y cais i amnewid 30 pabell am 15 o unedau gwyliau cymysg yn dderbyniol
ac argymhelliad y swyddogion
cynllunio ydoedd caniatáu yn unol
â’r amodau amlinellwyd yn yr adroddiad ynghyd
â dau amod ychwanegol sef cyfyngu’r defnydd i wyliau teithiol
yn unig ac i’r perchennog gadw cofrestr. (b) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatau’r
cais. (c) Mewn ymateb i bryder
gan Aelod ynglyn â sicrwydd nad yw’r
carafanau yn cael eu gadael
ar y safle, nododd yr Uwch
Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y ddau amod a grybwyllwyd uchod yn cyfarch
hyn. Penderfynwyd: Caniatau’r
cais yn unol
â’r amodau canlynol: 1.
5 mlynedd 2.
Gwaith yn unol
â’r cynlluniau 3.
Amodau Tirlunio 4.
Cyfyngiad niferoedd – 15 carafan symudol a 15 uned symudol gymysg
yn unig 5.
Cyfyngiad tymor – 1 Mawrth hyd 31 Hydref 6.
Cyfyngu’r defnydd i wyliau teithiol
yn unig 7.
Perchennog i gadw
cofrestr |
|
Cais Rhif C14/1111/25/LL - Coed Fodol, Y Felinheli, Gwynedd. Darparu safle sipsiwn parhaol sy’n cynnwys 8 llecyn caled gyda unedau parhaol, creu mynedfa a trac gerbydol a phont, codi bloc toiledau a storfa biniau, ynghyd â gwaith draenio a gwaith trin carthffosiaeth a gwaith tirweddu. Aelod Lleol: Cynghorydd John Wyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn i ddarparu
safle sipsiwn parhaol sy’n cynnwys
8 llecyn caled gydag unedau parhaol,
creu mynedfa a thrac cerbydol a phont, codi bloc toiledau a storfa biniau, ynghyd â gwaith draenio a gwaith trin carthffosiaeth
a gwaith tirweddu. (a) Adroddodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu bod y cais uchod wedi ei
ohirio ac y bydd yn cael ei
drafod yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio oherwydd cyfarwyddyd a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn ymwneud â safleoedd
preifat i sipsiwn. Penderfynwyd: Gohirio ystyried y cais. |
|
Cadw llawr caled a lloches beics arfaethedig. Aelodau Lleol: Cynghorwyr Mair E. Rowlands a June Marshall Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn i gadw
llawr caled a lloches beics arfaethedig. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi bod y cais gerbron yn
rhannol ôl-weithredol gyda’r bwriad i
gadw llain galed o wastraff llechi ac i osod
wyth bolard ar hyd ochr
ogledd dwyreiniol yr ardal ynghyd
â lloches beics sy’n ffurfio rhan
o gampws Prifysgol
Bangor. Nodwyd bod yr ardal wedi ei ddefnyddio
yn ddiweddar fel
maes parcio anffurfiol yn achlysurol. Cymeradwywyd cais cynllunio blaenorol i wella’r
ganolfan ac yn ystod y cyfnod adeiladu, sefydlwyd llain galed ar
lecyn o dir gwyrdd er mwyn
lleoli cynwysyddion. Ar ôl y gwaith cafodd
y cynwysyddion eu symud i ffwrdd
ond erys y llain galed sy’n
destun y cais hwn ynghyd â’r
lloches beics arfaethedig. Cyfeiriwyd at y polisiau strategol
perthnasol ac ystyrir bod y
cais yn dderbyniol
ar sail egwyddor. O ran mwynderau gweledol, ystyrir bod y datblygiad yn dderbyniol
ac nad yw’n
cael effaith andwyol annerbyniol ar ffurf a chymeriad
y drefwedd gyfagos na’r amgylchedd hanesyddol. Nodwyd y codwyd pryderon gan breswylwyr cyfagos y byddai’r tir yn cael
ei ddefnyddio ar gyfer parcio
cerbydau. Derbyniwyd llythyr gan y brifysgol
yn datgan nad oes unrhyw fwriad i
ddefnyddio’r llain galed fel maes
parcio ac y bydd bolardiau’n cael eu codi i
rwystro mynediad ar gyfer y pwrpas
hwn. Fodd bynnag, nododd
y Brifysgol bod bwriad i’w ddefnyddio ar gyfer “gweithgareddau”
awyr agored, sef digwyddiadau gan fyfyrwyr ar
ddiwrnodau agored. Er mwyn datrys pryderon
y trigolion, ystyrir y dylid atodi amodau
ar unrhyw ganiatâd yn rhwystro’r
llain galed rhag cael ei
ddefnyddio fel ardal parcio cerbydau
neu ar gyfer
cynnal digwyddiad, achlysur neu weithgaredd
gan y Brifysgol. Petai’r fath amodau’n cael eu gosod,
byddent yn goresgyn unrhyw wrthwynebiad cynllunio i’r cais ac o ganlyniad
byddai’r datblygiad yn dderbyniol a byddai’n cydymffurfio â’r polisi perthnasol. Argymhelliad y swyddogion ydoedd
caniatau’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau amlinellir
yn yr adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad,
nododd cynrychiolydd ar ran preswylydd rhif 26 Ffordd Ffriddoedd y prif bwyntiau canlynol: ·
Bod y tir yn
flaenorol heb ei ddatblygu ac asiant y Brifysgol yn camgymryd wrth gyfeirio ato
mewn termau polisi fel tir a ddatblygwyd o'r blaen ·
Rhagdybiaeth y
polisi yw ei fod yn cael ei ddychwelyd i'w statws fel tir heb ei ddatblygu
a bod amheuaeth bod y Brifysgol
yn ennill caniatâd ar gyfer
datblygiadau drwy ymgripio ychydig ar y tro ·
Yn nhermau polisi'r prif gyfiawnhad a gyflwynwyd yw parcio
beiciau a chredir bod asiant y Brifysgol wedi awgrymu parcio
beiciau am yr union bwrpas a heb fod
cyfiawnhad nid oes cefnogaeth polisi ar gyfer
y cais hwn ·
Bod yr
ardal ar gyfer y beiciau yn fychan o’i
gymharu â’r llecyn llechi a’i
fod ger y neuadd chwaraeon ac y gellid ei ddarparu
heb lain galed neu lecyn llechi
· Bod digon o fannau cadw ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Cais Rhif C15/0051/00/LL - Lleiniau 31-32 Ffordd Pentre Mynach, Abermaw, Gwynedd. Amrywio Amod Rhif 8 ar ganiatad cynllunio cyfeirnod C09M/0060/00/LL at gwblhau’r ffordd stad ynghyd â goleuo. Aelod Lleol: Cynghorydd Gethin Glyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn i amrywio
amod Rhif 8 ar ganiatad cynllunio
cyfeirnod C09M/0060/00/LL sydd
yn cyfeirio at gwblhau’r ffordd stad ynghyd â goleuo. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais, gan nodi y rhoddwyd amod yn wreiddiol
ar ganiatâd yn 2011 i godi
tri annedd preswyl ar wahân ar
leiniau oedd yn ffurfio rhan
o stad o dai annedd er mwyn
gwarchod buddiannau’r briffordd. Gofynnir y cais gerbron am ddileu’r angen i ddarparu
golau stryd drwy ddiwygio’r rhan hwn o’r
amod. Ymwelwyd â’r safle
gan swyddogion a gweld bod y gerbydlon a’r palmentydd wedi eu hwynebu’n
derfynol gyda tharmac. Cyfeiriwyd at y polisiau perthnasol
ynghyd â’r ymgynghoriadau cyhoeddus fel amlinellir yn yr adroddiad,
ynghyd â’r ffurflen sylwadau hwyr a gyflwynwyd i’r Aelodau. O ystyried bod y ffordd stad wedi
ei chwblhau credir mai’r brif
ystyriaeth cynllunio wrth ddelio â’r
cais gerbron yw effaith dileu
darparu golau stryd ar ddiogelwch
ffyrdd a mwynderau’r gymdogaeth leol. Yn ystod ymchwilio’r cais, derbyniwyd cadarnhad gan asiant
yr ymgeisydd nad oedd y tir
a oedd yn destun yr amod
ym mherchnogaeth yr ymgeisydd a ddim yn gallu
derbyn caniatâd y cwmni a oedd yn
berchen ar y tir i ddarparu
golau stryd ar safle. Trafodwyd y mater hwn gan y swyddogion
cynllunio a swyddogion yr Uned Trafnidiaeth
a’r datblygwr gan benderfynu cyflwyno cais i
ddiwygio amod. Nodwyd nad oedd yr
Uned Trafnidiaeth yn ystyried bod angen darparu golau
stryd er mwyn cymhwyso trafnidiaeth
o’r datblygiad yn ddiogel ac effeithlon
gan na fyddai
cynnwys darpariaeth o’r fath yn
amau ar ddiogelwch
ffyrdd. Cadarnhawyd nad oedd yr
Uned Trafnidiaeth yn gwrthwynebu’r cais. Yn ogystal roedd amheuaeth
os gellid gorfodi’r amod o gwbl oherwydd nad
oedd y tir yn ffurfio rhan
o’r stad ac ym mherchnogaeth yr ymgeisydd. O safbwynt ymateb i bryderon
sydd wedi eu codi am effaith
peidio darparu golau stryd ar
ddiogelwch defnyddwyr y ffordd a chynnydd mewn achosion o dor cyfraith yn
sgil peidio darparu golau stryd,
ni ystyrir bod sail wirioneddol i bryderu
oherwydd bod nifer o dai preswyl yn
gor edrych y fordd sydd yn
golygu fod gwyliadwriaeth naturiol yn bodoli gyda’r
stad yn weddol
agored ei natur. Tra’n derbyn bod pryderon wedi eu lleisio,
ni ystyrir bod y gwrthwynebiadau yn gorbwyso’r ffaith bod y ffordd stad yn
ei ffurf orffenedig yn dderbyniol
o safbwynt diogelwch ffyrdd ac na fyddai
diffyg darpariaeth golau stryd yn
amharu ar fwynderau’r gymdogaeth leol. Argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd caniatau’r cais yn ddiamod. (b) Cynigwyd ac eilwyd i ganiatau’r
cais. (c) Nodwyd y sylwadau canlynol yn groes i’r
argymhelliad: ·
Byddai ei ganiatau yn gosod cynsail
i’r dyfodol ·
Pryder o ystyried nifer y
tai ar y stad ynglyn â diogelwch plant ar y stad yn
enwedig ar nosweithiau yn ystod y gaeaf ·
Nad oedd y Cyngor wedi gwneud ymgais
i orfodi’r amod · Gofynnwyd beth yw ‘r nifer o dai ar stadau lle mae angen ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13. |
|
Cais Rhif C15/0158/39/AM - Tir ger Minffordd, Lon Engan, Llanengan, Pwllheli, Gwynedd. Adeiladu tŷ annedd tair ystafell wely a modurdy. Aelod Lleol: Cynghorydd John B. Hughes Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais amlinellol i adeiladu tŷ
annedd tair ystafell wely a modurdy. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais, gan nodi mai cais
amlinellol oedd gerbron ar gyfer
codi tŷ deulawr sy’n cynnwys
modurdy cysylltiol. Er bod y materion wedi eu
cadw yn ôl
cyflwynwyd cynlluniau ar gyfer rhoi
syniad o’r math o dŷ y bwriedir
ei leoli ar y safle. Derbyniwyd ymholiad cyn cyflwyno cais ar
gyfer adeiladu’r tŷ ar y safle
dan sylw a rhoddwyd neges glir a phendant bod y safle yn gorwedd
bryn bellter y tu allan
i’r ffin datblygu ac na fyddai modd cefnogi’r
cais. Cyfeiriwyd at y polisiau lleol a chenedlaethol perthnasol ynghyd â’r sylwadau i’r
ymgynghoriadau cyhoeddus. Ystyrir na fyddai’r
bwriad yn dderbyniol gyda’r dyluniad yn rhy
fawr a swmpus i’r lleoliad dan
sylw. Byddai’n debygol o arwain at or-edrych ac yn groes
i bolisïau perthnasol. Argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd gwrthod y cais am y rhesymau amlinellir yn yr adroddiad
gerbron. (b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad,
nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol: ·
Bod ef
a’i ddarpar briod yn bobl
leol i’r ardal, yn rhentu
tŷ ar y funud ac nad oedd
llawer o siawns i brynu tai o gwmpas
yr ardal oherwydd eu bod allan o’u cyrraedd
yn ariannol ·
Eu bod fel cwpl yn gweithio’n lleol
ac yn awyddus i fyw o gwmpas
y pentref ac ar ôl priodi yn
dymuno magu teulu yn yr
ardal ·
Ei fod yn rhentu ers oddeutu
6 mlynedd a’u bod wedi cael cynnig
prynu’r tir dan sylw ac yn
gyfle gwych i fedru adeiladu
tŷ eu hunain (c) Cefnogwyd y cais gan yr
Aelod Lleol (nad oedd yn
Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) ac fe wnaed
y prif bwyntiau canlynol: ·
Rhestrwyd nifer o dai sydd wedi eu
datblygu o gwmpas y tir dan sylw
ac ni chredir ei fod wedi
ei leoli mewn cefn gwlad ·
Ni dderbyniwyd
unrhyw wrthwynebiad gan y cyrff statudol
i’r datblygiad arfaethedig heblaw ynglyn â deunyddiau a fwriedir ei ddefnyddio
ond rhaid ysytried bod y dyluniad yn un modern ·
Mai dim ond dau le sydd
i’w ddatblygu yn Llanengan ·
Derbyniwyd un gwrthwynebiad gan
berchennog eiddo Minffordd ynglyn ag uchder y modurdy a phe byddai’r ymgeisydd
yn ei leihau
byddai’r gwrthwynebydd yn hapus ·
Bod digon
o le parcio ·
Nad oedd modd i’r cwpl brynu
tŷ a’u bod yn gweithio’n lleol
ac yn cadw’r iaith Gymraeg yn
fyw yn yr
ardal ·
Bod Llanengan
yn bentref bywiog a chredir bod y datblygiad arfaethedig yn cyfarch anghenion
y cwpl ac y dylid eu cefnogi (ch) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod y datblygiad arfaethedig wedi ei leoli yng nghefn gwlad ac yn gwbl groes i bolisiau cynllunio ac nad oedd cyfiawnhad i’w ganiatau. Atgoffwyd yr Aelodau mai polisiau’r Cyngor oedd yn rhwystro’r math yma o ddatblygiad o ran egwyddor.. Awgrymwyd ymhellach y gallasai’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14. |
|
Cais Rhif C15/0164/44/LL - 23 Ralph Street, Borth-y-Gest, Porthmadog. Estyniad i adeilad allanol presennol. Aelod Lleol: Cynghorydd E. Selwyn Griffiths Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn ar gyfer
estyniad i adeilad allanol presennol. (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais, gan nodi bod y cais i ymestyn dau
adeilad gardd to fflat presennol sydd wedi’u gosod
mewn siâp L i greu un
adeilad to brig ym mhendraw gardd tŷ teras. Eglurwyd na fyddai
hyd na lled
yr adeilad ddim mwy na’r
ddwy ochr i’r “L” presennol (5.6m x 6.2m)
ac ni fyddai’r to ddim uwch na
tho adeilad gardd y ty drws nesaf. Nodwyd oherwydd natur yr ardal
a’r lefelu tir mai’n anorfod
fod peth gor-edrych yn bodoli
rhwng y tai a’r gerddi. O safbwynt pryderon amlygwyd gan berchennog
y ty drws nesaf i’r gogledd (Rhif
25) ynglyn a gor-edrych, ni ystyrir y byddai’r
bwriad yn gwaethygu’r sefyllfa bresennol i’r fath
raddau ei fod yn cael
effaith annerbyniol ar fwynderau preswyl
/ preifatrwydd tai cyfagos. Gan i’r datblygiad redeg ar hyd
rhan o ffin gardd rhif 25 drws
nesaf, derbynnir yr achosir peth
cysgodi i ben gardd yr eiddo
hwn ond ni ystyrir y byddai niwed arwyddocaol
i fwynderau gweledol ty na gardd rhif 25 nac
unrhyw dy arall ychwaith. Datganwyd pryder ynghylch effaith y ffenestri to yn llethr cefn
to’r adeilad a’r posibilrwydd o or-edrych neu lygredd
olau, ac fe
nodwyd bod modd rhoi amod priodol
ynghylch ffenestr to afloyw i oresgyn
y pryder. Yn dilyn ystyried yr holl ystyriaethau
perthnasol, argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd caniatau’r cais yn ddarostyngedig
i amodau amlinellir yn yr
adroddiad. (b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad, nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol: ·
Bod gwendid
gyda’r cynllun yn yr ystyr nad yw'n rhoi proffil cywir o'r tir ·
Bod y tir yn
disgyn yn sydyn i'r chwith o'r adeilad ac os yw'n ymestyn 3m oddi wrth y wal
byddai'n effeithio ar yr ardd gyfagos ·
Nid yw'n
ddefnyddiol bod lefel y llawr ar yr un uchder ag ystafelloedd gwely Rhif 25 ·
Ni chytunir â phwynt 5.6 o’r adroddiad sy’n nodi bod goredrych
yn bodoli eisoes - nid yw hyn yn gywir ·
Bod gardd rhif 23 yn is na rhif 25 ·
Bod gan Rif 25 patio sy'n mesur 1.25m islaw lefel yr adeilad arfaethedig
felly bod rhywfaint o breifatrwydd yn cael ei ddileu oherwydd bod yr adeilad
yno ·
Yn ogystal bod
hyn yn gwaethygu’r broblem o gysgodi - mae dau fan lle gellir eistedd y tu allan yn rhif 25 a pe byddir yn caniatáu adeilad i fod
3.6m o uchder ac ymestyn 3m o’i flaen golygai y bydd hyn yn creu i’r lle fod yn
dywyll ·
Bod patio rhif
25 yn is na'r lefel ac felly yn cael ei effeithio yn sylweddol ·
Bod y to yn rhy
uchel, o’i gymharu â rhif 21 a bod
gweddill y stryd gyfan yn is ac nid oes yr un yn ymestyn i'r prif dŷ fel
sy'n digwydd gyda'r cais hwn · Cyfeiriwyd at Bolisi B22 a thynnu sylw bod gan y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 15. |
|
Cais Rhif C15/0201/32/RC - Stad Congl Meinciau, Botwnnog, Pwllheli. Diddymu Cytundeb 106 Tai Fforddiadwy. Aelod Lleol: Cynghorydd Gweno Glyn Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais i ddiddymu
Cytundeb 106 Tai Fforddiadwy. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y bwriad yn ymwneud
â thynnu Cytundeb 106 er mwyn i
Grŵp Cynefin fedru benthyca arian ar
gyfer cyllido datblygiadau tai cymdeithasol / fforddiadwy newydd. Tynnwyd i sylw nad oedd yn fwriad gwerthu’r
tai arstad Congl Meinciau a phwysleisir y byddai polisiau gosod lleol Grŵp
Cynefin yn parhau i fod
mewn grym i reoli’r denantiaeth
y stad i’r dyfodol i rai mewn
angen cymunedol am dai fforddiadwy. Noda’r ddeddfwriaeth berthnasol bod angen i awdurdod sy’n derbyn cais i
newid neu ddiddymu ymrwymiad cynllunio ystyried os yw’r ymrwymiad yn cyflawni
pwrpas defnyddiol yn nhermau cynllunio. Nid yw’r ddeddfwriaeth yn dweud bod y
rhaid i’r pwrpas defnyddiol fod yr un peth â’r
gwreiddiol. Bydd yn bwysig felly ystyried os yw’r amgylchiadau cynllunio wedi
newid ers y caniatâd gwreiddiol. Nodwyd ymhellach nad yw cefndir polisi cynllunio
lleol wedi newid ers i’r cais gael ei ganiatáu yn 2009 ac mae Cynllun Datblygu
Unedol Gwynedd yn parhau i fod yn weithredol. Mae maint y tai yn disgyn o dan
ganllawiau maint a nodir yng Nghanllaw Cynllunio Atodol: Tai Fforddiadwy
(Tachwedd, 2009) ac i bob pwrpas mae eu maint yn rheoli eu fforddiadwyedd
i’r dyfodol. Cyfyngir ar eu maint i’r dyfodol trwy amod cynllunio, sydd wedi ei osod i dynnu rhai nodweddion o
hawliau datblygu cyffredinol a ganiateir yn ôl.
Caniatawyd sawl cais gan y Pwyllgor Cynllunio yn
ddiweddar ar gyfer tai newydd i gymdeithasau tai mewn sawl man yng Ngwynedd megis dau gais ym Maesgeirchen, Bangor, Lon
Abererch, Pwllheli, Pendre Gardens, Tywyn a'r Wern yn
y Felinheli. Mae’n bwysig nodi na ofynnwyd am Gytundebau 106 Fforddiadwy ar y
rhain oherwydd ystyriwyd bod rheoliadau statudol y cymdeithasau tai a’u polisïau gosod yn ddigonol i reoli
tenantiaeth/ preswyliaeth i rai mewn angen lleol/ cymunedol
fforddiadwy (fel y buasai’r Cytundebau 106 hefyd wedi ei wneud). Yn yr achos hwn nodwyd bod Grŵp Cynefin yn
paratoi tai cymdeithasol ar rent i drigolion lleol dan ei gyfrifoldeb statudol
ac fe adlewyrchir hyn yn eu Polisi Gosod. Ni fydd y polisi gosod yng Nghongl
Meinciau yn newid yn sgil tynnu’r cytundeb, a bydd y gymdeithas dai yn parhau i
asesu tenantiaid ar sail eu hanghenion, sef eu bod gyda chysylltiad â’r gymuned leol ers deng mlynedd ac yn erbyn eu system
bwyntiau. O ystyried bod polisi gosod mewn grym, gellir
dadlau felly bod y cytundeb 106 fforddiadwy yn ddianghenraid gan fod trefniadau
priodol a boddhaol ar gael i gyfyngu meddiannaeth, yn unol â maen prawf 4
polisi CH7 CDUG. Ar sail yr wybodaeth sydd wedi dod i law, gan gynnwys Polisi Gosod Lleol Grŵp Cynefin a’r eglurhad a gyflwynwyd ganddynt, ynghyd a hanes cynllunio a’r ffaith na roddir cytundebau 106 ar geisiadau tai cymdeithasol newydd, ni ystyrir bod gan yr ymrwymiad sy’n destun i’r cais hwn unrhyw ddiben cynllunio defnyddiol yn ymwneud a pholisïau cyfredol mwyach ac mae modd cyflawni hyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 16. |