Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a)
(i) Datganodd y Y
Cynghorydd Simon Glyn fuddiant personol mewn perthynas ag Eitem 5 ar y rhaglen
gan mai ef wnaeth gais i gofrestru’r llwybr troed. Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant
oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a
nodir. (ii)
Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol mewn perthynas âg eitem 6.11(Cais rhif C16/0134/16/LL) ar y rhaglen gan eu
bod yn Aelodau o Fwrdd Catrefi
Cymunedol Gwynedd: ·
Y
Cynghorydd Anne Lloyd Jones ·
Y
Cynghorydd Michael Sol Owen ·
Y
Cynghorydd John Wyn Williams Roedd yr
Aelodau o’r farn ei fod yn
fuddiant oedd yn rhagfarnu a gadawsont y Siambr yn ystod y drafodaeth
ar y cais a nodir. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol
mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Lesley Day
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 6.1, 6.2 a 6.8
(ceisiadau cynllunio rhifau C13/0156/11/LL, C16/0440/11/CR a C16/0518/11/LL) ·
Y
Cynghorydd Eirwyn Williams, (a oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.4 ar
y rhaglen, (cais rhif C16/0292/35/LL) ·
Y
Cynghorydd Charles Wyn Jones (nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn),
yn eitem 6.7 ar y rhaglen, (cais rhif C16/0493/23/AM) ·
Y
Cyngorydd Dafydd Meurig (nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn),
yn eitem 6.11 ar y rhaglen (cais
rhif C16/0134/16/LL) ·
Y
Cynghorydd Anwen J. Davies (nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn),
yn eitem 6.12 ar y rhaglen (cais
rhif C15/1356/40/LL) Ymneilltuodd yr
Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod
y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw
ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. (c)
Datganodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol fuddiant personol yn Eitemau 6.9, 6.10 a 6.12 (Ceisiadau cynllunio rhifau C15/0828/11/LL, C15/0844/11/CR, a C15/1356/40/LL) oherwydd ei fod
yn perthyn i asiant yr ymgeiswyr. Roedd y swyddog o’r farn ei fod yn fuddiant
oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a
nodir. |
|
MATERION BRYS I nodi
unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofndion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor
hwn, a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2016, fel rhai cywir. (copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4
Gorffennaf 2016, fel rhai cywir. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Adran
Rheoleiddio ynglyn a chais i gofrestru llwybr troed rhwng Haulfryn a Phen
Caerau, Garn Fadryn. Ymhelaethwyd ar y cais gan yr Uwch Swyddog
Hawliau Tramwy (Arfon) gan nodi y derbyniwyd
cais i gofrestru’r llwybr troed uchod yn seiliedig ar y ffaith bod y cyhoedd
wedi ei ddefnyddio dros ugain mlynedd.
Pan fo llwybrau yn cael eu defnyddio am gyfnod llawn o ugain mlynedd heb
ymyrraeth pennir bod y ffordd honno wedi’i neilltuo fel priffordd oni bai bod
tystiolaeth digonol nad oedd y bwriad i’w neilltuo yn ystod y cyfnod
hwnnw. Heriwyd yr hawl i ddefnyddio’r
llwybr am y tro cyntaf ym mis Medi 2014 pan roddwyd clo ar y giat. Cefnogir y cais gan dystiolaeth o ddefnydd ac
fel rhan o’r broses ymgynghori derbyniwyd un gwrthwynebiad gan berchennog Pen
Caerau. Yn dilyn archwilio’r holl dystiolaeth, ystyrir ei bod yn rhesymol
honni, yn seiliedig ar falans tebygolrwydd, bod hawl tramwy cyhoeddus i
gerddwyr yn bodoli ar hyd y llwybr uchod ac yn ofynnol felly i’r Cyngor lunio
Gorchymyn Diwygio Map Swyddogol. Cyfeiriodd y Pennaeth Cyfreithiol at y
dystiolaeth anfonwyd i Aelodau’r Pwyllgor ar wahan a’i fod yn benderfyniad oedd
yn seiliedig ar gloriannu’r dystiolaeth
oedd gerbron er dod i gasgliad. Cynigwyd ac eilwyd i gymeradwyo llunio
Gorchymyn Diwygio yn seiliedig bod mwy o dystiolaeth cadarn bod y llwybr wedi
cael ei ddefnyddio am y gyfnod di-dor o 20 mlynedd. Penderfynwyd: Cymeradwyo
i’r Cyngor lunio Gorchymyn Diwygio o dan Adran 53 (3)(c)(i) Deddf Bywyd Gwyllt
a Chefn Gwlad 1981 i gofrestru’r llwybr troed a hawlir ar Fap Swyddogol Hawliau
Tramwy Cyhoeddus. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO I gyflwyno
adroddiad y Pennaeth Adran Rheoleiddio
(copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac
ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif: C13/0156/11/LL - 7 Rhes Glandwr, Bangor PDF 602 KB Dymchwel estyniad cefn presennol ynghyd a chodi estyniad
rhannol deulawr a rhannol unllawr ar gefn yr eiddo,
ynghyd a darparu drysau ffrenig a chodi ffens 1.8m newydd ger y hawl dramwy. AELOD LLEOL: Y
Cynghorydd Lesley Day Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel estyniad cefn
presennol ynghyd a chodi estyniad rhannol deulawr a rhannol unllawr ar gefn yr
eiddo, ynghyd a darparu drysau ffrenig a chodi ffens 1.8m newydd ger y hawl
dramwy. Adroddodd yr Uwch Reolwr
Gwasanaeth Cynllunio bod cryn dipyn o sylwadau ychwanegol wedi eu cyflwyno
ynglyn a’r cais uchod ac o’r herwydd mai gwell fyddai gohirio penderfynu ar y
cais er mwyn gallu rhoi ystyriaeth fanwl i’r holl wybodaeth ychwanegol. Penderfynwyd:
Gohirio’r cais er mwyn rhoi ystyriaeth fanwl i wybodaeth ychwanegol a
ddaeth i law. |
|
Cais Rhif: C16/0440/11/CR - 7 Rhes Glandwr, Bangor PDF 707 KB Dymchwel estyniad cefn presennol ynghyd a chodi estyniad rhannol deulawr a rhannol unllawr ar gefn yr eiddo. AELOD LLEOL:
Y Cynghorydd Lesley Day Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel estyniad cefn presennol ynghyd a chodi estyniad rhannol deulawr
a rhannol unllawr ar gefn yr eiddo. Yn yr un modd, adroddodd yr
Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio mai gwell fyddai gohirio penderfynu ar y cais uchod er mwyn rhoi
ystyriaeth manwl i’r gwybodaeth ychwanegol a ddaeth
i law. Penderfynwyd: Gohirio’r cais er mwyn rhoi ystyriaeth fanwl i wybodaeth ychwanegol a
ddaeth i law. |
|
Cais Rhif: C14/1222/30/LL - Bryn Gwynt, Anelog, Aberdaron PDF 534 KB Defnyddio safle carafanau eithriedig Clwb Gwersylla a Charafanau fel safle annibynnol ar gyfer lleoli 10 o garafanau teithiol tymhorol a 5 pabell. AELOD LLEOL:
Y Cynghorydd
W. Gareth Roberts Dolen i’r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Defnyddio safle
carafanau eithriedig Clwb Gwersylla a Charafanau fel safle annibynnol ar gyfer lleoli 8 o garafanau teithiol tymhorol a 4 pabell a chreu lle chwarae (a) Ymhelaethodd yr
Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi mai ail-gyflwyniad o gais ôl-weithredol a gafodd ei ohirio
ym Mhwyllgor Cynllunio mis Medi 2015 oedd
gerbron. Yn dilyn trafodaeth
gyda’r ymgeisydd derbyniwyd cynllun diwygiedig sy’n gostwng y nifer i 8 carafan teithol a 4 pabell. Cyfeiriwyd at y polisiau perthnasol a amlinellir o fewn yr adroddiad
gan dynnu sylw penodol at Bolisi D19 yn ymwneud
a gwarchod y tirwedd, gosodiad, lleoliad, materion traffig, cyfyngu defnydd yr unedau ac effaith
cronnol ar yr ardal leol. O safbwynt yr ymgynghoriadau cyhoeddus, nodwyd nad oedd y Swyddog
AHNE yn ystyried y byddai’r bwriad yn amharu ar
yr AHNE os gweithredir cynllun tirlunio ychwanegol a chyfyngu’r unedau i ran uchaf y cae gan
sicrhau bod yr unedau yn cael
eu symud oddi ar y safle
a’u storio yn y lleoliad priodol. (b) Mewn ymateb
i sylw wnaed gan Aelod ynglyn
a’i bryder yn yr amser
a gymerwyd i ymdrin a’r cais hwn
ers ei grofrestriad
yn 2014, eglurwyd bod y swyddogion wedi cydweithio gyda’r ymgeisydd a’i asiant
er mwyn ei
gefnogi ac yn derbyn ei fod
wedi cymryd mwy o amser nag yn arferol. (c) Cynigwyd ac eilwyd
i ganiatau’r cais. Penderfynwyd: Caniatau’r cais yn ddarostyngedig
i’r amodau canlynol: 1. Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig. 2. Cynllun tirlunio. 3. Cyfyngu nifer carafanau teithiol i 8 a phebyll i 4 ac i’w lleoli ar y
mannau a nodir yn unig. 4. Cyfnodau defnydd y safle, safle teithiol yn unig. 5. Unedau teithiol ar daith yn unig. 6. Dim storio ar y safle. 7. Rhestr cofnodi. 8. Dim carafanau na
phebyll ar y cae chwarae. |
|
Cais Rhjif: C16/0292/35/LL - Tir gyferbyn Gwesty's George IV, Stryd Fawr, Cricieth PDF 658 KB Cais i newid amod 3 o ganiatâd cynllunio C13/0028/35/AM er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i gyflwyno'r materion a godwyd yn ôl. AELOD LLEOL: Y
Cynghorydd Eirwyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais i newid
amod 3 o ganiatad cynllunio C13/0028/35/AM er mwyn ymestyn yr
amser a roddwyd i gyflwyno'r materion a godwyd yn ôl (a) Ymhelaethodd yr
Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi y gohirwyd y cais o bwyllgor cynllunio blaenorol er mwyn
derbyn gwybodaeth am faterion ieithyddol a chadarnhawyd bod y Datganiad Cymunedol ac Ieithyddol wedi ei gyflwyno
ar 1 Gorffennaf 2016 sy’n cynnwys gwybodaeth
yn seilieidg ar Gyfrifiad 2011. Golyga’r bwriad godi 34 uned breswyl i’r
henoed, un llety warden a 2
llety staff a chyfleusterau
cymunedol ynghyd â 18 llecyn parcio i’r
unedau preswyl a 15 llecyn parcio i ddefnydd Gwesty’r George VI. Cyfeiriwyd at y polisiau perthnasol a nodwyd yn yr
adroddiad ynghyd a’r hanes cynllunio
perthnasol i ganiatau 37 o unedau preswyl ar apel yn
2010 a chaniatau 34 o unedau
yn 2013. Nodwyd nad oedd
unrhyw newid yn y sefyllfa Cynllunio ers 2013 ar sail y polisiau cynllunio lleol na’r cyngor
cenedlaethol perthnasol. Nodwyd bod yr Uned Polisi ar y Cyd
yn credu y byddai’r datblygiad yn debygol o gynorthwyo
i gadw aelwydydd 50+ mlwydd all fod yn siarad Cymraeg
yn yr ardal,
ac ar sail mai aelwydydd cyfredol fydd yn fwy
na thebyg yn symud i’r
unedau newydd, gall hyn ryddhau tai i aelwydydd lleol eraill. Argymhelliad y swyddogion ydoedd i’w ganiatau
a derbyniwyd datganiad hwyr gan asiant
yr ymgeisydd yn datgan ei
fod yn fodlon
newid cyfnod o gyflwyno cais materion
a gadwyd yn ol o 3 mlynedd i 2 flynedd. (b) Siaradodd yr Aelod lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn ond
ni gymerodd ran yn y penderfyniad) gan ddatgan
ei fod yn gwrthwynebu’r cais. (c) Cynigwyd ac eilwyd
i ganiatau’r cais. (ch) Nodwyd y pwyntiau canlynol o blaid yr argymhelliad
i’w ganiatau: ·
Mai
cais amlinellol oedd gerbron ac y byddai cais llawn
i’w gyflwyno maes o law ·
Tra’n cydymdeimlo gyda’r Aelod lleol
nad oedd rheswm cynllunio dilys i’w wrthod
·
Sicrhau bod trefniadau i waredu’r llysiau dial mor fuan ag sy’n
bosibl (d) Nodwyd y pwyntiau canlynol o blaid ei wrthod: ·
Gwrthwynebwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor
Cynllunio dyddiedig 13 Mehefin
2016 oherwydd bod angen mwy o wybodaeth am faterion ieithyddol ·
Mynegwyd bod y sefyllfa ers 2010 wedi newid
yn sylweddol gan i nifer o ddatblygiadau
cyffelyb fod wedi eu
caniatau ers 2010 ynghyd a chartrefi nyrsio megis y Pines, Bryn Awelon wedi ehangu,
a Hafod y Gest ym Mhorthmadog wedi ei ddymchwel ar
gyfer adeiladu datblygiad newydd ar gyfer y math yma o ddefnyddwyr gwasanaeth, heb son am y datblygiadau sydd wedi eu cymeradwyo
ym Mhwllheli yn ddiweddar ·
Yn sgil yr uchod, cwestiynwyd
felly a oedd angen mwy o’r math yma
o gyfleusterau yn yr ardal · Darllenwyd llythyr a dderbyniwyd gan Feddyg mewn practis lleol a oedd yn llwyr wrthwynebus i’r bwriad oherwydd fel practis eu bod o dan bwysau aruthrol yn barod wrth delio gyda’r henoed ac yn ychwanegol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cais rhif: C16/0360/41/LL - Tir ger Y Dolydd, 4 Glasfryn Terrace, Pencaenewydd PDF 609 KB Ail gyflwyniad a diwygiad o gais a wrthodwyd o dan C16/0091/41/LL i godi ty fforddiadwy ar safle eithrio gwledig. AELOD LLEOL: Y
Cynghorydd Aled Lloyd Evans Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ail gyflwyniad
a diwygiad o gais a wrthodwyd o dan C16/0091/41/LL i godi ty fforddiadwy ar safle eithrio
gwledig (a) Ymhelaethodd yr
Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi mai cais ydoedd
ar gyfer tþ annedd deulawr
a wrthodwyd yn flaenorol oherwydd nad oedd y tŷ
yn destun y cais wedi ei
gyflwyno fel cais am dŷ fforddiadwy a bod ei faint yn fwy na’r
hyn a ganiateir fel tŷ fforddiadwy. Saif y lleoliad o fewn pentref gwledig Pencaenewydd ar lain o dir sy’n ffurfio
rhan o ardd eiddo. Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor oherwydd y nifer o wrthwynebiadau a dderbyniwyd. Cyfeiriwyd at y polisiau perthnasol a’r ymatebion i’r ymgynghoriadau
cyhoeddus o fewn yr adroddiad. Nodwyd bod Pencaenewydd wedi ei nodi fel
pentref gwledig yng Nghynllun Datblygu
Unedol a’r datblygiad arfaetheidg wedi ei leoli
o fewn cwrtil gardd eiddo pen teras presennol a ystyrir yn addas
yn nhermau ei leoliad a pherthynas
gyda thai eraill a phatrwm datblygu cyffredinol y pentref. Fel arfer, gyda’r
math yma o gais, rhaid i unigolyn neu deulu penodol
brofi’r angen ond yn yr
achos hwn nodwyd bod yr Uned Strategol Tai wedi ymateb i’r
cais ac wedi cydnabod bod angen enfawr am y math yma o ddatblygiad yn yr ardal ac felly yn profi’r angen
am dŷ fforddiadwy. Byddai angen rheoli’r
datblygiad drwy Gytundeb 106 sy’n golygu meddiant gan unigolion sydd
a gwir angen am dŷ fforddiadwy boed hyn drwy
brynu neu rentu’r eiddo. Er cywirdeb yn yr
adroddiad bydd rhaid cyfyngu’r eiddo i angen lleol fforddiadwy
yn unol a pholisi CH5 ac ddim fel angen cyffredinol
sy’n golygu cyfyngu’r tŷ i bobl lleol yr
ardal. Nodwyd ymhellach bod maint y tŷ yn cydfynd hefo
canllaw Cynllunio atodol a thynnwyd sylw bod y gwrthwynebiadau wedi cael ystyiaeth lawn ac felly ystyrir bod y bwriad yn dderbyniol ac argymhellir i’w ganiatau. (b) Cynigwyd ac eilwyd
i ganiatau’r cais. c)
Mewn ymateb i sylw ynglyn a sut
y gellir sicrhau na fyddai’r amod
Cytundeb 106 yn cael ei godi,
esboniwyd bod digon o dystiolaeth mewn gwybodaeth gan yr Adran Strategol Tai bod angen am y math yma o ddatblygiad yn yr ardal ac ni
fyddai unigolyn mewn sefyllfa i fedru codi’r amod
106 heb orfod mynd drwy lawer
iawn o gamau i wneud hynny. Penderfynwyd: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch
Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i arwyddo Cytundeb 106 i
sicrhau fod y ty yn dy fforddiadwy ar gyfer angen
lleol ac i amodau perthnasol yn ymwneud â: 1. 5 mlynedd 2. Yn unol â’r cynlluniau 3. Llechi ar y to 4. Deunyddiau 5. Tynnu hawliau a ganiateir 6. Amod cynllun draenio - Dwr Cymru 7. Darparu llecynnau parcio a throi o fewn y cwrtil 8. Amod Dwr Cymru 9. Amod gwarchod llwybr |
|
Cais Rhif: C16/0407/41/LL - Swn y Don, Afonwen, Chwilog PDF 619 KB Cais ar gyfer creu safle carafanau teithiol newydd 17 uned, ail leoli 2 uned statig bresennol a chodi bloc toiledau. AELOD LLEOL: Y
Cynghorydd Aled Lloyd Evans Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ar gyfer creu safle
carafanau teithiol newydd 17 uned, ail leoli 2 uned statig bresennol a chodi
bloc toiledau. Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y safle ar dir agored ar gyrion Afonwen
gyda mynediad tuag at y safle i lawr ffordd gul bresennol oddiar briffordd yr
A497. Cyfeirwyd at y polisiau perthnasol
o fewn yr adroddiad. Tynnwyd sylw bod
polisi D19 yn datgan caniatau cynigion i ddatblygu safleoedd carafanau
teithiol, gwersylla neu unedau teithiol newydd os gellir cydymffurfio gyda’r
holl feini prawf y polisi. Nodwyd bod
Uned Trafnidiaeth yn nodi bod 50m cyntaf y ffordd o’r gylchfan ar yr A497 yn addas,
ond wedi hynny mae’n culhau gan wneud cyfleon pasio i gerbydau yn tynnu
carafanau yn brin. Ystyrir felly bod y
bwriad yn anaddas ac nad yw yn cydymffurfio gyda gofynion polisi CH33. Nodwyd pryder hefyd y byddai gwrthdaro rhwng
cerddwyr a cherbydau oherwydd culni’r ffordd. Nid yw’r elfen o ail leoli’r ddwy
garafan yn hollol eglur o ran defnydd presennol yr unedau a phe derbynnir cais
arall i’r dyfodol byddai’n rhaid egluro a chyfiawnhau’r bwriad er mwyn gallu ei
asesu yn briodol. Yn sgil ystried yr
holl faterion cynllunio a pholisiau perthnasol credir bod y bwriad yn
annerbyniol yn unol a’r hyn a nodir yn yr adroddiad. (a) Cynigwyd ac eilwyd i wrthod
y cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion. (b) Mewn ymateb i ymholiad gan
Aelod, eglurwyd nad oedd modd creu mannau pasio pwrpasol ar y lôn sy’n arwain
i’r safle. Penderfynwyd: Gwrthod oherwydd byddai'r datblygiad arfaethedig o’i
ganiatáu yn achosi trafnidiaeth ychwanegol i ddefnyddio ffordd trac sengl
is-safonol sy'n arwain i'r safle er niwed sylweddol i ddiogelwch ffyrdd a
cherddwyr y llwybr cyhoeddus. Mae'r bwriad felly yn groes i ofynion polisïau
CH33 a D19 Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd (2009) a Chanllaw Cynllunio Atodol: Llety Gwyliau, Cyngor
Gwynedd (Gorffennaf 2011). |
|
Cais Rhif: C16/0493/23/AM - Tir ger Bryn Celyn, Lon Groes, Llanrug PDF 745 KB Cais amlinellol i godi ty annedd. AELOD LLEOL: Y
Cynghorydd Charles Wyn Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais amlinellol
i godi tŷ annedd (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi mai cais amlinellol
oedd gerbron ar gyfer codi
tŷ annedd 11m wrth 6m ar lain o dir sy’n ffurfio
rhan o gwrtil Bryn Celyn, LLanrug, wedi ei leoli
oddi ar ffordd
di-ddosbarth. Byddai cwrtil Bryn Celyn yn cael ei
addasu i ddarparu dau lecyn parcio. O safbwynt yr ymgynghoriadau cyhoeddus, derbyniwyd nifer o wrthwynebiadau yn seiliedig ar: ·
Cylfat yn rhedeg drwy’r safle ·
Achosi risg llifogi i’r tai a’r cae cyfagos ·
Dim
lle troi wedi ei ddangos
o fewn y cwrtil ·
Angen darparu llefydd parcio newydd i’r tŷ
presennol a’r tŷ araethedig Tynnwyd sylw
at y polisiau Cynllunio perthnasol
gan nodi bod y bwriad arfaethedig yn cydymffurfio a gofynion y polisiau hynny. O safbwynt materion isadeiledd a’r gwrthwynebiadau ynglyn a llifogydd, byddai modd gosod amod
i sicrhau na ellir cychwyn y datblygiad hyd nes cyflwynir cynllun
traeniad dwr ar gyfer y safle
sydd yn gwarchod
y cwrs dwr ac yn cydymffurfio ag anghenion Dðr Cymru. Yn dilyn rhoi sylw
i’r holl ystyriaethau a’r gwrthwynebiadau, ystyrir bod y bwriad yn dderbyniol
yn ddarostyngedig i amodau perthnasol. (b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd tra nad oedd
yn wrthwynebus i’r datblygiad roedd yn pryderu
am risg o lifogydd gyda’r cylfat wedi
blocio ers rhai blynyddoedd ac y dylid ei ddatrys
cyn caniatau’r cais. (c) Ategodd yr
Aelod Lleol (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn) bryderon y gwrthwynebydd a thrigolion lleol ac y dylid sicrhau amod ynglyn
a’r cylfat yn gyntaf cyn
dechrau unrhyw ddatblygiad. Nodwyd ymhellach bod cae yng nghefn
yr eiddo yn wlyb gyda
ffrwd yn codi yno. Tra yn eithaf bodlon
gyda’r argymhelliad, nodwyd yr angen
i sichrau mannau parcio o fewn y safle ynghyd a mannau parcio i Bryn Celyn gan bod y lôn yn gul
heb balmentydd. (d) Cynigwyd ac eilwyd
i ganiatau’r cais. (dd) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: ·
Nad oedd y ffurflenni wedi eu cwblhau yn
gywir ac oni ddylid gohirio hyd nes y derbynnir
rhain yn gywir ·
Yn amlwg mai’r prif bryder
ydoedd y cylfat a derbyniwyd sicrwydd y byddai’n cael sylw
ac felly nad oedd unrhyw reswm i wrthod y cais ·
Y
dylid sicrhau mannau parcio o ystyried bod y ffordd yn brysur ac yn
arwain i Ysgol Uwchradd Brynrefail ·
Pan
dderbynnir cais llawn gerbron dylai’r
ymgeisydd ddangos y bwriadau ynglyn a’r cylfat ·
Sicrhau bod y cylfat o’r maint mwyaf (e) Mewn ymateb i’r sylwadau
uchod, esboniwyd mai cais amlinellol
oedd gerbron ac nad oedd cyfiawnhad
i ohirio cymryd penderfyniad ar y cais, yn wyneb
y ffaith bod y bwriad yn dderbyniol gan
Dwr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn ddarostyngedig
bod y pryderon ynglyn a’r cylfat yn
cael eu cyfarch
gyda’r amodau priodol. Penderfynwyd: ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13. |
|
Cais Rhif: C16/0518/11/LL - 56 Upper Garth Road, Bangor PDF 773 KB Newid defnydd ty annedd yn dy amlfeddianaeth (HMO) ar gyfer hyd at 5 o bobl. AELOD LLEOL: Y
Cynghorydd Lesley Day Dolen
i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd tŷ annedd yn dŷ amlfeddianaeth (HMO) ar gyfer hyd at 5 o bobl (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod yr eiddo yn dŷ par wedi ei leoli ar Ffordd Garth Uchaf mewn ardal
breswyl yn bennaf. Nodwyd mai defnydd
cyfreithlon presennol yr eiddo ydoedd annedd preswyl preifat gyda 5 ystafell
wely ar y llawr cyntaf. Eglurwyd i’r
Pwyllgor ddiffiniad aml-feddianaeth a thynnwyd sylw i’r polisiau Cynllunio
perthnasol o fewn yr adroddiad. O
safbwynt yr ymgynhgoriadau cyhoeddus derbynwyd gwrthwynebiadau i’r bwriad am
resymau cynllunio dilys isod: ·
Diffyg gwybodaeth ynglyn
a pharcio ·
Pryder bod problemau
parcio eisoes ar y stryd ·
Gorddarpariaeth o dai
amlfeddiannaeth yn ward Garth ·
Y datblygiad yn
niweidiol i fwynderau cymdogion Yn ogystal derbyniwyd sylwadau nad oeddynt yn ystyriaethau cynllunio
cyfredol a thynnwyd sylw at y sylwadau hwyr a dderbyniwyd ar y ffurflen sylwadau
ychwanegol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor. Ystyrir bod y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisi CH14 o Gynllun
Datblygu Unedol Gwynedd ac ni ystyrir y byddai
caniatau un uned aml-feddianaeth ychwanegol yn yr ardal yn cael effaith
arwyddocaol ar fwynderau cyffredinol na phreswyl yr ardal leol. O safbwynt materion trafnidiaeth a mynediad,
er nad oedd darpariaeth parcio preifat newydd yn rhan
o’r bwriad, gan na fyddai cynnydd yn nwysedd defnydd y safle, ni ddisgwylir
newid arwyddocaol o safbwynt y galw am barcio a phroblemau trafnidiaeth. Yn dilyn ystriaeth o’r
holl faterion perthnasol credir bod y cais yn dderbyniol ac yn cydymffurfio a
pholisiau cynllunio perthnasol ac argymhelliad y swyddogion ydoedd i’w ganiatau
gydag amodau. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau
canlynol: ·
Ei fod yn Gadeirydd
Cymdeithas Trigolion Maes Hyfryd ac yn cynrychioli barn trigolion 22 o dai sydd
wedi eu lleoli gyferbyn a’r datblygiad arfaethedig ·
Bod llawer o’r
preswylwyr yn oedrannus ·
Bod gan yr ardal ei
gwota o dai aml-feddiannaeth sef rhifau 52, 54, a 55 yn ychwanegol i Neuaddau
Garth a Rathbone sydd wedi eu lleoli oddeutu 200 llath i fyny’r ffordd ·
Ei fod yn ardal o dai
teuluoedd ·
Bod gormodedd o lety
myfyrwyr yn yr ardal gyda rhai newydd yn St. Mary, Dean a’r Stryd Fawr ac yn
enwedig o ystyried bod ffigyrau myfyrwyr yn gostwng ·
Bod problemau parcio yn
bodoli yn yr ardal ac y byddai’r datblygiad arfaethedig yn cynyddu’r broblem
gyda staff a myfyrwyr y Brifysgol yn parcio yn yr ardal yn ystod y dydd ·
Bu i Gyngor Gwynedd
ychydig o flynyddoedd yn ôl gyfarch y broblem o barcio anghyfrifol yn yr ardal
drwy osod llinellau melyn ar hyd un ochr i’r ffordd a rhan o’r ochr arall ·
Bod oddeutu 139medr
rhwng rhifau 42 a 93 cyffordd Love Lane o fannau parcio ar y ffordd ar gyfer 25
cerbyd ond bod 27 o dai ar hyd darn yma o’r ffordd ·
Gall y datblygiad
arfaethedig am 5 llety olygu 5 cerbyd ac
ddim darpariaeth parcio ar eu cyfer · Bod unigolyn yn dewis peidio symud ei cherbyd i fynd i siopau oherwydd na fyddai ganddi le i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14. |
|
Cais Rhif: C15/0828/11/LL - Cyn Swyddfa Bost, 60 Ffordd Deiniol, Bangor PDF 922 KB Newid defnydd adeilad presennol i greu caffi a bwyty a chreu 29 unedau byw hunan gynhaliol myfyrwyr, ynghyd a dymchwel rhan o'r adeiladau cefn a chodi adeilad newydd i greu 116 unedau byw hunan gynhaliol myfyrwyr gyda chyfleusterau cysylltiol. AELOD LLEOL: Y Cynghorydd David Gwynfor Edwards Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd adeilad
presennol i greu caffi a bwyty a chreu 29 unedau byw hunan gynhaliol myfyrwyr,
ynghyd a dymchwel rhan o'r adeiladau cefn a chodi adeilad newydd i greu 116
unedau byw hunan gynhaliol myfyrwyr gyda chyfleusterau cysylltiol Roedd 6 Aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio wedi ymweld a’r safle. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais gan nodi y gohirwyd y cais o Bwyllgor Cynllunio ym
mis Gorffennaf 2016 er cynnal ymweliad safle a chywiro ffigyrau yn yr
adroddiad. Golyga’r bwriad newid defnydd
ac addasu adeilad presennol i greu caffi a bwyty a chreu 29 uned hunan
cynhaliol ar gyfer myfyrwyr o fewn yr adeilad presennol, ynghyd a dymchwel rhan
o’r adeiladau cefn presennol a chodi adeilad newydd I greu 116 o unedau hunan
cynhaliol newydd, sef cyfanswm o 145 o unedau byw hunan cynhaliol ar gyfer
myfyrwyr. Nodwyd bod y datblygiad yn cynnwys ardal biniau ac ailgylchu wrth
ochr yr adeilad a fydd yn guddiedig tu ol i wal ynghyd a chreu 2 ardal storio
beics ond nid oedd unrhyw ddarpariaeth parcio yn rhan o’r bwriad. Nodwyd bod sawl adeilad wedi eu codi dros y
blynyddoedd ar gefn yr adeilad a bwriedir eu dymchwel er mwyn bodi adeilad
newydd pum llawr. Byddai’r adeilad
newydd yn un ar wahan i’r prif adeilad ond yn gysylltiedig drwy linc gwydr ar
yr ochr, a llecyn agored rhwng yr adeilad gwreiddiol a’r adeilad hwn. Cyflwynir cais adeilad
rhestredig ond byddai’n rhaid ymdrin a’r cais hwn ar wahan sef yr eitem nesaf
ar y rhaglen. Tynnwyd sylw at y sylwadau
hwyr a dderbyniwyd gan asiant yr ymgeisydd a hefyd derbyniwyd sylwadau gan yr
Aelod Lleol yn datgan ei gefnogaeth i’r bwriad arfaethedig. Nodwyd bod yr adeilad yn
rhestredig ac wedi ei leoli o fewn Ardal Cadwraeth Bangor. Ychwanegwyd bod yr adeilad yn wag yn dilyn
defnydd fel clwb nos a deintyddfa. Ceir
adeilad sylweddol mewn maint o amgylch yr adeilad ond nodwyd bod nifer o
adeiladau rhestredig sy’n cynnwys y Llyfrgell sydd wedi ei leoli tu ôl i’r
safle. Cyfeirwyd at y polisiau perthnasol
ynghyd a’r ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad. O safbwynt egwyddor yng
nghyswllt llety myfyrwyr ym Mangor, esboniwyd nad oedd un polisi penodol yn
ymwneud a math yma o lety ond pwysleiswyd nad oedd y Cynllun Dablygu Unedol yn
rhwystro y math yma o lety. Nodwyd bod y safle o fewn
ffin datblygu gan nodi bod y math yma o ddatblygiadau yn dderbyniol a bod y
safbwynt wedi ei gadarnhau gan Arolygwyr mewn penderfyniad apel yn Lon
Bopty. Cydnabyddir bod y safle mewn
ardal hygyrch, yn agos i siopau, cludiant cyhoeddus ac adeiladau y
Brifysgol. Felly o ran safle, roedd y
swyddogion cynllunio o’r farn bod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor. Nodwyd bod y bwriad o ddarparu caffi a bwyty yn dderbyniol yn ddarostyngedig i ychwanegu amod ychwanegol sef A3 yn cyfyngu’r bwriad i’w hatal i’w newid i ddefnydd A1 sef siopau heb ganiatad cynllunio oherwydd bod y safle tu allan i ffin ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 15. |
|
Cais Rhif: C15/0844/11/CR - Cyn Swyddfa Bost, 60 Ffordd Deiniol, Bangor PDF 874 KB Newid defnydd adeilad presennol i greu caffi a bwyty a chreu 29 unedau byw hunan gynhaliol myfyrwyr, ynghyd a dymchwel rhan o'r adeiladau cefn a chodi adeilad newydd i greu 116 unedau byw hunan gynhaliol myfyrwyr gyda chyfleusterau cysylltiol. AELOD LLEOL: Y Cynghorydd David Gwynfor Edwards Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd
adeilad presennol i greu caffi a bwyty
a chreu 29 unedau byw hunan gynhaliol
myfyrwyr, ynghyd a dymchwel rhan o'r
adeiladau cefn a chodi adeilad newydd
i greu 116 unedau byw hunan gynhaliol
myfyrwyr gyda chyfleusterau cysylltiol Cynigwyd ac eilwyd
i wrthod y cais gerbron yn unol
a’r rhesymau a gynigwyd yn y cais
uchod. Penderfynwyd: Gwrthod y
cais oherwydd byddai’r elfennau o’r adeilad newydd
a’r estyniad
yn cael effaith
ar raddfa, maint, deunyddiau, gosodiad yr adeilad
rhestredig presennol
ac effaith niweidiol ar ardal gadwraeth
sydd yn groes i bolisiau B2, B3 A B4 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd. |
|
Cais Rhif: C16/0134/16/LL - Plas y Coed, Bangor PDF 766 KB Cais diwygiedig – Diwygio amod 1. o ganiatâd C11/1077/16/LL er mwyn caniatáu 5 mlynedd ychwanegol i weithredu’r caniatâd ynghyd a diwygio amod 2. (yn unol a’r cynlluniau a ganiatawyd) er mwyn addasu’r gosodiad a ganiatawyd i leoli 39 o dai yn lle 17. AELOD LLEOL: Y Cynghorydd Dafydd Meurig Dolen
i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cymerwyd y Gadair gyda caniatad y Pwyllgor gan y Cynghorydd Gwen
Griffiths ar yr eitem hon gan bod y Cadeirydd wedi datgan buddiant personol ac
wedi gadael y Siambr ac nad oedd yr Is Gadeirydd yn bresennol Cais diwygiedig – Diwygio
amod 1. o ganiatâd C11/1077/16/LL er mwyn caniatáu 5 mlynedd ychwanegol i
weithredu’r caniatâd ynghyd a diwygio amod 2. (yn unol a’r cynlluniau a
ganiatawyd) er mwyn addasu’r gosodiad a ganiatawyd i leoli 39 o dai yn lle 17 Roedd Aelodau’r Pwyllgor
Cynllunio wedi ymweld a’r safle. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais i ddiwygio amod oedd gerbron er mwyn caniatau 5 mlynedd ychwanegol i weithredu’r caniatad ynghyd a diwygio amod 2. Nodwyd bod y cais blaenorol a ganiatwyd yn ymwneud a throsi adeilad rhestredig Plas y Coed ei hun i gynnwys 12 uned byw yn ogystal a chodi 17 uned byw ar wahan o fewn y cae cyfagos. Golyga’r bwriad greu mynedfa gerbydol newydd. Prif bwrpas y cais ydoedd addasu’r cynllun er mwyn adeiladu 39 o dai yn lle’r 17 ac yn golygu codi 23 tŷ 3 llofft, 8 tŷ 2 llofft ac 8 tŷ 1 llofft. Tynnwyd sylw bod y bwriad yn cynnwys cynlluniau i drosi’r Plas i 12 uned byw. Nodwyd bod gosodiad y tai yn eithaf tebyg i’r caniatad roddwyd yn flaenorol ac fe fydd y tai ychwanegol yn cael eu darparu trwy godi tai par a dau floc o fflatiau un llofft yn lle’r unedau mwy ar wahan oedd yn rhan o’r cais blaenorol. Cyfeiriwyd at y polisiau perthnasol ynghyd a’r ymgynghoriadau cyhoeddus. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffiniau datblygu dinas Bangor ac egwyddor i’w ddatblygu eisoes wedi ei dderbyn trwy’r caniatad blaenorol ac nid oedd newid yn y polisiau ers hynny. Prif ystyriaeth y cais ydoedd effaith sy’n deillio o 22 o dai ychwanegol ar y safle. Nodwyd wrth gynyddu’r nifer bod y bwriad yn gwneud gwell defnydd o’r safle gyda dwysedd y datblygiad yn fwy cymesur a’r ffigwr o 30 uned yr hectar. Oherwydd cynnydd yn y datblygiad, nodwyd bod posibilrwydd o ail-asesu’r tai fforddiadwy gyda’r caniatad cyfredol wedi sicrhau 4 uned fforddiadwy o fewn y Plas a chyfraniad ariannol a oedd gyfystyr a 3 uned fforddiadwy. Nodwyd bod y cynllun wedi newid o’r caniatad blaenorol drwy gynnig cymysgedd o dai gwahanol sy’n golygu cynnig 10 uned fforddiadwy ar safle’r cae ac fe geir rhesymau o fewn yr adroddiad paham nad yw’n hyfyw i ddarparu unedau fforddiadwy yn y Plas. Tynnwyd sylw bod y cais yn parhau i fod yn dderbyniol o safbwynt llecynnau adloniadol, darpariaeth addysgol, materion trafnidiaeth a mynediad gyda digon o lefydd parcio. O safbwynt effaith ar fwynderau preswyl, nodwyd mai’r Lodge wrth y fynedfa fyddai’n gweld effaith mwyaf o’r datblygiad oherwydd ei leoliad ac agosrwydd i’r safle. Er gwybodaeth, derbyniwyd cais cynllunio i ymestyn cwrtil y Lodge sy’n golygu y gellir gosod rhwystr rhwng y fynedfa a lon y stad. O ran dyluniad nodwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 17. |
|
Cais Rhif: C15/1356/40/LL - 1-3 Wenallt, Arddgrach, Llannor PDF 583 KB Cais diwygiedig i ddymchwel annedd presennol ac adeiladu annedd newydd yn ei le ynghyd a gwaith cysylltiol. AELOD LLEOL: Y Cynghorydd Anwen J Davies Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais diwygiedig i ddymchwel
annedd presennol ac adeiladu annedd newydd yn ei le ynghyd a gwaith cysylltiol (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais gan nodi y gohirwyd y cais hwn ym Mhwyllgor
Cynllunio Chwefror 2015 er mwyn derbyn gwybodaeth angenrheidiol o ran ystlumod
ac i dderbyn adroddiad technegol i gyfiawnhau pam nad yw’n bosib lleoli’r
tŷ yn agosach at leoliad y tŷ presennol. Golyga’r bwriad i ddymchwel annedd presennol
ac adeiladu annedd newydd yn ei le ar leoliad gwahanol o fewn eiddo 1-3
Arddgrach, Llannor, ynghyd a gwaith cysylltiol, a oedd yn cynnwys byngalo
gromen gyda thair ystafell wely, gyda’i wyneb blaen yn wynebu’r de
ddwyrain. Byddai’r tŷ wedi ei
orffen gyda tho llechi ac wyneb rendr llyfn wedi ei beintio. Bwriedir creu mynedfa newydd ar safle’r
tŷ presennol, gan ymestyn trac o ymyl y gerbydlon i’r tŷ a throi i
gyfeiriad giat mynedfa i’r cae cyfochrog.
Gwrthodwyd cais y llynedd i ddymchwel yr annedd a chodi tŷ newydd
o’r un dyluniad a’r cais hwn ond ymhellach i mewn i gefn y llain. Cyfeiriwyd at y polisiau perthnasol o fewn yr
adroddiad ynghyd a’r ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus. O safbwynt egwyddor y datblygiad, nodwyd nad
oedd y bwriad yn cydymffurfio a holl meini prawf polisi CH13 o Gynllun Datblygu
Unedol Gwynedd. Er bod materion ystlumod
wedi ei ddatrys drwy gyflwyno gwybodaeth ychwanegol, ystyrir bod y swyddogion
cynllunio o’r farn bod lleoliad a gosodiad y tŷ annedd arfaethedig yn
anaddas ac yn groes i egwyddor polisiau tai, dylunio Cynllun Datblygu Unedol
Gwynedd. Er bod potensial i ddatblygu’r safle, ni ystyrir fod yr ail gyflwyniad
gerbron yn dderbyniol ac yn seiliedig ar y wybodaeth ychwanegol a’r cynlluniau
a gyflwynwyd argymhellir i wrthod y cais. (b) Nododd yr Aelod lleol (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y prif bwyntiau canlynol o blaid y
cais: ·
Tra’n
derbyn bod y lleoliad wedi newid pwysleiswyd ni ellir adeiladu ar yr un
sylfeini oherwydd cyflwr y tir o ran llifogydd o godiad tir y tu ol i’r tai ·
Cefnogwyd
yr uchod mewn adroddiad annibynol oddi wrth Mr Phil Jones, arbenigwr mewn
rheolaeth draenio a llifogydd, a oedd yn nodi, yn dilyn archwiliad, bod y wal
gynnal yn gollwng dwr ac yn arllwys i lawr y ffordd. Roedd tystiolaeth o dryddiferiad afreolus mewn sawl lleoliad ac y
byddai’n annoeth i ystyried ailosod yr annedd ar safle’r tŷ presennol
oherwydd ei agosrwydd i’r wal gynnal a natur gwlyb y tir. Rhaid i’r tŷ fod wedi ei leoli oddi wrth
y wal gynnal a’r problemau draenio cysylltiol. ·
Bod
tai cymysg eu mhaint wedi eu hadeiladu ym mhentref Llannor ac yn gweddu o fewn
y pentref ·
Bod
trigolion y pentref yn gefnogol i’r cais ac y byddai’n welliant aruthrol i’w
leoli ar safle hen sied amaethyddol ·
Bod
yr ymgeisydd yn lleol – yn nain gyda theulu o’i chwmpas ·
Bod
yr holl ymgynghoriadau cyhoeddus yn gefnogol i’r cais (c) Cynigwyd ac eilwyd i’w
ganiatau yn erbyn argymhelliad y swyddogion Cynllunio. (ch) Nodwyd y prif bwyntiau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 18. |