Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorydd W Tudor Owen |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant
personol am y rhesymau a nodir: ·
Y Cynghorydd Seimon Glyn yn
eitem 5.7 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/1105/39/LL) oherwydd bod ei fab
a’i fab yng nghyfraith yn gyflogedig gan gwmni Haulfryn
sydd yn berchnogion y Warren. Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd
yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais a nodir. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn
aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Ioan Thomas (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C16/0712/14/LL) ·
Y Cynghorydd Aled Lloyd Evans,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 a 5.8 ar y rhaglen
(ceisiadau cynllunio rhif C16/1089/42/LL a C16/1105/39/LL) ·
Y Cynghorydd Siân Wyn Hughes
(a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 ar y rhaglen (cais
cynllunio rhif C16/1089/42/LL) ·
Y Cynghorydd R H Wyn Williams
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C16/0724/20/AM). Ymneilltuodd yr Aelodau i
ochr arall y Siambr yn ystod
y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw
ac ni fu
iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n
fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
17.10.16 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2016 fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO I gyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol
i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion
y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C16/0563/26/LL Cyn Ysgoldy a Capel Moriah, Waunfawr PDF 766 KB Addasu cyn-ysgoldy
segur i lety gwyliau, darparu mannau parcio ynghyd a newid defnydd llecyn o dir
ar gyfer gardd i ddeliaid y
llety gwyliau AELOD LLEOL: Cynghorydd Edgar W Owen Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Addasu cyn-ysgoldy segur i lety gwyliau,
darparu mannau parcio ynghyd a newid defnydd llecyn o dir ar gyfer gardd i ddeliaid y llety gwyliau (a)
Adroddodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd i addasu cyn-ysgoldy
ar gyfer llety gwyliau 3-llofft ynghyd â defnyddio’r llecyn tir cyfochrog ar gyfer gardd i
ddeiliaid y llety a chreu 2 man parcio. Yn fewnol, bydd y cyfleusterau yn
cynnwys 2 lofft, cegin, cyntedd ac ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod gyda
llofft, tŷ bach a lolfa ynghyd â chlwydfan ystlumod
ar y llawr cyntaf. Nodwyd bod safle’r cyn-ysgoldy wedi ei leoli o fewn pentref gwledig
Groeslon, Waunfawr ar safle mewn-lenwi rhwng eiddo preswyl a adnabyddir fel
Llys Morley i’r dwyrain a Rose Mount
i’r gorllewin. O ran egwyddor, amlygwyd bod addasu'r ysgoldy i uned wyliau yn
dderbyniol ar sail ei raddfa oherwydd ei osodwaith
rhwng adeiladwaith presennol. Er o fewn ardal breswyl, ni fydd yn achosi niwed
i gymeriad preswyl yr ardal ar sail ei raddfa a’i ddefnydd arfaethedig. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r polisïau perthnasol a’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. Yn dilyn cyfnod ymgynghori cyhoeddus amlygwyd mai'r ddau brif bryder a
dderbyniwyd am y cynlluniau oedd gor edrych, colli
preifatrwydd ac aflonyddwch sŵn. Cyfeiriwyd at ymateb llawn i’r pryderon
yma yn 5.7 o’r adroddiad gan dynnu sylw penodol fod yr ymgeisydd wedi cyflwyno
cynlluniau diwygiedig i leihau maint y ffenest ar dalcen yr ysgoldy fyddai o
ganlyniad yn goresgyn pryderon o or-edrych i ardd
Rose Mount ac eraill. Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys y
gwrthwynebiadau ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i’r polisïau a chyngor
cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol. Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif
sylwadau canlynol: ·
Bod
y cais yn un addas ar gyfer addasu cyn ysgoldy ·
Ail
ddefnydd da o adeilad segur ·
Angen sicrhau digon o amodau i
ddiogelu'r Gymuned Leol PENDERFYNWYD caniatáu’r cais
yn unol â’r
argymhelliad Amodau:- 1.
5 mlynedd. 2.
Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig. 3.
Mesuriadau lliniaru rhywogaethau gwarchodedig. 4.
Amodau gwaredu dŵr wyneb o’r safle. 5.
Tynnu hawliau datblygiadau a ganiateir. 6.
Amodau/nodiadau Priffyrdd. 7.
Amod materion archeolegol. 8.
Amodau llety gwyliau a chadw cofrestr. 9.
Lleoliad y ffenestri to i’w cytuno. 10.
Deunyddiau allanol i’w cytuno. |
|
Cais Rhif C16/0638/39/LL Cilfan, Lon Gwydryn, Abersoch PDF 727 KB Dyluniad
diwygiedig i estyniad a ganiatawyd gan ganiatad rhif C14/0215/39/LL AELOD LLEOL: Cynghorwyr
R H Wyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dyluniad diwygiedig i
estyniad a ganiatawyd gan ganiatâd rhif C14/0215/39/LL (a) Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd yn nodi bod yr
ymgeisydd yn dymuno i’r Pwyllgor Cynllunio ohirio'r penderfyniad er mwyn rhoi
cyfle i ddatrys anghysondebau rhwng y cynlluniau a gyflwynwyd. (b) Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio’r penderfyniad PENDERFYNWYD
gohirio’r cais. |
|
Cais Rhif C16/0712/14/LL Menai View, North Road, Caernarfon PDF 826 KB Newid defnydd o
eiddo aml-feddiannaeth (14 lloft) i 6 uned breswyl AELOD LLEOL: Cynghorydd
Ioan C Thomas Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd o eiddo
amlfeddiannaeth (14 llofft) i 6 uned breswyl (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai
cais llawn ydoedd ar gyfer
newid defnydd adeilad o eiddo amlfeddiannaeth 14 llofft i 6 uned breswyl
un-llofft hunan gynhaliol dros 4 llawr. Nid oedd bwriad i ymgymryd
ag unrhyw waith strwythurol sylweddol yn allanol
nag yn fewnol ar wahân i
gau rhai o’r agoriadau presennol
a chodi paredau newydd o amgylch y grisiau. Nodwyd fod lleoliad yr adeilad gyferbyn ac encilfa’r gefnffordd A487 ac
oddi fewn i ffin datblygu’r Canolfan Trefol mewn ardal gyda chymeriad cymysg o
ddeunyddiau sydd yn cynnwys gwesty, anheddau preswyl, archfarchnad, tafarn
ynghyd a chyhoeddwyr ac argraffwyr llyfrau. Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor
gan ei fod
yn golygu darparu mwy na 5 uned breswyl. Amlygwyd bod yr egwyddor o drosi tai yn fflatiau, ystafelloedd byw a chysgu
neu dai amlfeddiannaeth wedi ei selio ym Mholisi CH14 o GDUG. Nodwyd bod y
polisi yn datgan y caniateir newid defnydd tai neu adeiladau preswyl eraill yn
fflatiau, ystafelloedd byw a chysgu neu unedau amlfeddiannaeth os na fydd y
datblygiad yn creu gorddarpariaeth o’r math hwn o lety mewn stryd neu ardal
benodol ble fyddai’r effaith gronnus yn cael effaith negyddol ar gymeriad
cymdeithasol ac amgylcheddol y stryd neu’r ardal. Nodwyd bod yr eiddo presennol yn cael ei ddefnyddio fel uned breswyl
amlfeddiannaeth sy’n cynnwys 14 llofft (sy’n golygu oleiaf
14 deiliad a all fod yn breswyl yn yr eiddo'r un pryd). Er bod yr eiddo yn
adeilad o raddfa eithaf mawr, mae dwysedd defnydd preswyl uchel iddo o’i
gymharu â defnyddiau preswyl yn nalgylch safle’r cais. Amlygwyd y byddai’r bwriad cyfredol yn golygu gostyngiad yn y
dwysedd yma o greu 6 uned un-llofft fydd o ganlyniad yn diogelu mwynderau
preswyl trigolion cyfagos. (b)
Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Bod problemau
cymdeithasol hanesyddol i’r adeilad ·
Bod y bwriad
yn ddefnydd llawer gwell o’r
adeilad ·
Bod gwell
darpariaeth ·
Cymdogion a thrigolion cyfagos
yn croesawu'r gwelliant ·
Cefnogol i’r cais (c)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais (ch) Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â sefyllfa tai fforddiadwy, amlygodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu bod
maint yr unedau eisoes yn
fforddiadwy ac felly'r maint ei hun
yn cyfyngu'r gost (d) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol: ·
Bod y cais yn un i’r cyfeiriad
cywir PENDERFYNWYD caniatáu y cais Amodau: 1.
5 mlynedd. 2.
Yn unol â’r cynlluniau. |
|
Cais Rhif 16/0879/30/LL Tir Glyn, Uwch Mynydd PDF 637 KB Cynyddu
nifer o unedau teithiol 30 i 39 heb gydymffurfio ag amod 2 o’r ganiatad rhif
2/10/134A ynghyd ag ymestyn y bloc
toiledau AELOD LLEOL: Cynghorydd
W Gareth Roberts Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cynyddu nifer o unedau teithiol 30 i 39
heb gydymffurfio ag amod 2 o ganiatâd rhif 2/10/134A ynghyd ag ymestyn y bloc toiledau (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai
cais llawn ôl weithredol ydoedd ar
gyfer cynyddu nifer unedau teithiol o 30 i 39 heb gydymffurfio gydag amod 2 ar
ganiatâd cynllunio rhif 2/10/134 ‘A’ .
Roedd y cais hefyd yn cynnwys ymestyn ac uwchraddio'r bloc toiledau, codi sgrin
o amgylch y sgip sbwriel ac adeiladu
estyniad ar wal dalcen y bloc toiledau presennol ar gyfer darparu uned
cawod a thoiled i’r anabl ac ystafell golch llestri. Adroddwyd bod yr ymgeisydd eisoes wedi plannu
coed ar hyd cyrion y safle gyda bwriad cau unrhyw ofodau amlwg presennol ar hyd
y terfyn dwyreiniol ynghyd a phlannu coed brodorol o fewn y safle. Amlygwyd bod y safle wedi ei leoli y tu allan i unrhyw ffin pentref fel y
dynodwyd o fewn Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG) a thu mewn i Ardal o
Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) ac Arfordir Treftadaeth. Nodwyd bod llwybr
cyhoeddus yn rhedeg drwy ganol y safle, ond nad oedd yr unedau presennol na bwriadedig yn amharu arno. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd ynghyd a’r ffaith bod
hawl cynllunio am 30 uned deithiol yn bodoli ar y safle yn ystyriaeth cynllunio
o bwys wrth drafod y cais presennol. Ystyriwyd nad oedd y bwriad yn amharu ar fwynderau gweledol yr ardal, diogelwch ffyrdd na mwynderau trigolion
cyfagos ac roedd yn cydymffurfio â’r cyfan o’r
polisïau a nodwyd yn yr adroddiad. (b)
Cynigwyd ac eiliwyd i
ganiatáu’r cais gydag amod ychwanegol i warchod y llwybr cyhoeddus (c)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Pryderon bod safleoedd fel hyn
yn cael eu hehangu - angen ystyried cyfyngiad ar y nifer er mwyn osgoi
gormodedd ·
Cais i dynnu sylw’r ymgeisydd
at sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru am gynnal y tanc septig a’r pwll mwydo PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. 1. Cyfyngu gosodiad yr unedau teithiol
i’r hyn a ddangosir ar y cynllun. 2. Cyfanswm yr unedau teithiol
ar y safle i’w gyfyngu i
39. 3. Cyfnod meddiannu 1 Mawrth-31 Hydref 4. Lleoli gwir unedau teithiol
ar daith yn unig. 5. Cadw cofrestr ymweliadau. 6. Cwblhau’r cynllun tirlunio yn unol
â’r manylion a gyflwynwyd ac i’w gynnal a’i gadw
felly wedi hynny. 7. Cyflwyno manylion sgrin y sgip ysbwriel
i’r Cyngor o fewn mis o ddyddiad
y caniatâd. 8. Dim storio unedau teithiol ar y safle ar
unrhyw adeg 9. Gwarchod y
llwybr cyhoeddus Nodyn tanc septig yn unol â
sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru |
|
Cais Rhif C16/1072/41/LL Llwyn Bugeilydd, Ffordd Caernarfon, Criccieth PDF 611 KB Cais ar gyfer
cynyddu'r nifer o unedau teithiol o 30 i 40 o fewn cyffiniau'r safle,
gwelliannau amgylcheddol, ymestyn trac mynediad, estynnu'r bloc toiledau
presennol a darparu ystafell chwaraeon AELOD LLEOL: Cynghorydd
Aled Lloyd Evans Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ar gyfer cynyddu'r nifer o unedau teithiol o 30 i 40 o fewn
cyffiniau'r safle, gwelliannau amgylcheddol, ymestyn trac mynediad, ymestyn y
bloc toiledau presennol a darparu ystafell chwaraeon (a)
Amlygwyd bod argymhelliad y
cais wedi newid oherwydd, bod sylwadau ffafriol i’r cais bellach wedi eu derbyn
gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd ac wedi eu cynnwys ar y daflen sylwadau
ychwanegol. (b)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y
cais gan nodi mai cais llawn ydoedd i gynyddu nifer o unedau teithiol ar y
safle o 30 i 40 o fewn cyffiniau presennol safle carafanau teithiol sefydledig.
Yn ogystal, roedd y bwriad yn golygu
cynnal gwelliannau amgylcheddol a thirlunio, ymestyn trac mynediad presennol,
ymestyn bloc toiledau/cawodydd presennol trwy ddarparu toiled a chawod yn
benodol i’r anabl yn ogystal â darparu ystafell chwaraeon ag ystafell golchi
llestri. Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli ar gyrion Criccieth, gyda mynedfa
a rhodfa uniongyrchol at y safle oddi-ar ffordd brysur y B4411. Golygai’r bwriad fod un man carafán ychwanegol yn cael ei osod gyda’r 12
llain bresennol yng nghanol y safle a 9 llain cwbl newydd yn cael eu gosod ar hyd
rhan ddeheuol y safle presennol. Adroddwyd bod y datblygiad yn cydymffurfio
gyda’r polisïau perthnasol a’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. Nodwyd hefyd bod y cynlluniau
wedi eu newid
o’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol,
gyda mwy o welliannau wedi eu cynnig ar
ôl trafodaethau gyda swyddogion. O asesu’r bwriad yn erbyn gofynion polisi D20, ystyriwyd bod y lleiniau
ychwanegol o ran eu lleoliad a gosodiad yn debygol o integreiddio a chymhathu
i’r safle a’i dirwedd. Amlygwyd eu bod i gyd i’w cynnwys o fewn ffiniau
presennol ac felly nid oedd angen ymestyn i diroedd newydd. Mynegwyd nad oedd y
safle’n amlwg nac yn ymwthiol yn y tirlun ac ni ystyriwyd y byddai ardrawiad
niweidiol o ran mwynderau gweledol ar yr ardal gyfagos. Byddai’r tirlunio a’r
newidiadau arfaethedig yn welliannau amgylcheddol fyddai’n gwella gwedd a
chyfleusterau’r safle yn ei gyfanrwydd. Ni ystyriwyd bod safle teithiol arall
yn agos i’r safle yma ac felly ni fyddai effaith gronnol
niweidiol amlwg. Nodwyd bod y cynnydd mewn niferoedd,
y tirlunio a’r cyfleusterau newydd arfaethedig yn cydymffurfio gyda gofynion
polisïau D20. Ystyriwyd bod y bwriad i ymestyn nifer y carafanau teithiol o fewn y safle
sefydledig yma ynghyd a chynnal datblygiadau cysylltiol, yn dderbyniol ac yn
cydymffurfio gyda’r polisïau perthnasol. (c)
Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu
y cais. PENDERFYNWYD caniatáu’r
cais 1.
Amser 2.
Cydymffurfio gyda chynlluniau 3.
Deunyddiau 4.
Cyfyngu niferoedd i 40 uned deithiol
a’u lleoliad i’w cyfyngu ar
y mannau a ddangosir ar y cynllun yn
unig 5.
Cyfyngu cyfnod defnydd rhwng Ebrill
1af a Hydref 31ain 6.
Ar gyfer unedau teithiol yn unig 7.
Cadw cofrestr 8.
Tirlunio 9.
Dim storio deunydd i greu'r ffordd
mewn unman ar y safle Nodyn: Mesurau i hybu’r iaith
Gymraeg |
|
Cais Rhif C16/1089/42/LL Tir rhan o Fferm Bryn Rhydd, Edern PDF 593 KB Adeiladu adeilad
newydd i gynhyrchu hufen ia, siop/caffi hufen ia a chynnyrch lleol, adnodd
addysgiadol, newidiadau i fynedfa, gwaith allanol cysylltiedig a mynedfa
amaethyddol newydd AELOD LLEOL: Cynghorydd Sian Wyn Hughes Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu adeilad newydd i gynhyrchu hufen ia, siop/caffi hufen ia a
chynnyrch lleol, adnodd addysgiadol, newidiadau i fynedfa, gwaith allanol
cysylltiedig â mynedfa amaethyddol newydd (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi ei
fod yn gais llawn ar gyfer adeiladu adeilad newydd i gynhyrchu hufen ia
fyddai’n cynnwys siop/caffi ac adnodd addysgiadol. Fel rhan o’r cais bydd angen
gwneud newidiadau i’r fynedfa a thynnu clawdd ffin a gwaith allanol
cysylltiedig yn ogystal â chreu mynedfa amaethyddol newydd i’r cae. Byddai’r
adeilad unllawr yn mesur oddeutu 325m² gyda
gorffeniad bocs proffil lliw llwyd i ymdebygu sied amaethyddol. Byddai’r
defnydd arfaethedig yn ddefnydd cymysg manwerthu, bwyd a diwydiant ysgafn. Nodwyd bod yr eiddo wedi ei leoli ar gyrion pentref Edern, gyfochrog a’r
ffordd sirol dosbarth 2 ac o fewn y parth 30 milltir yr awr. Eisteddai’r safle
tu allan i ffin datblygu pentref Edern ac o fewn Ardal Gwarchod y Tirlun sef pellter o ddau gae i ffwrdd - caiff
y safle ei ystyried yn safle cefn gwlad. Amlygwyd bod y cais yn ail gyflwyniad
o gais a wrthodwyd yn ddirprwyedig yn 2015 (rhif C15/0409/42/LL) ar gyfer yr un
bwriad. Yr unig newid o ran y cynlluniau yw bod mwy o dirlunio wedi ei ddangos
ar y terfynau. Adroddwyd bod yr ymgeisydd yn ffermwr llaeth ar fferm Bryn Rhydd, sy’n
fferm ystâd Cefn Amwlch, sydd gerllaw safle’r cais
a'i fod wedi ehangu ei fenter i sefydlu busnes cynhyrchu Hufen Ia ‘Glasu’ gan
ddefnyddio cynnyrch ei fferm. Y bwriad oedd codi adeilad pwrpasol i gynhyrchu’r
hufen ia o fewn cyrraedd hwylus i’r fferm a hynny ar dir o fewn perchnogaeth yr
ymgeisydd ac nid ar dir yr ystâd. Disgrifiwyd golygfeydd agored a di-rwystr dros y caeau i gyfeiriad arfordir
yr AHNE ac ystyriwyd y byddai’r bwriad yn sefyll allan fel nodwedd weledol
anghyffredin yn y lleoliad hwn. Byddai’r gosodiad arfaethedig yn anghyson ac yn
ffurfio perthynas ar wahân Yn ychwanegol, amlygwyd bod y safle wedi ei leoli ar
ei ben ei hun ac oddeutu 850m i ffwrdd o adeiladau’r fferm bresennol, a thros
200m i ffwrdd o’r adeilad agosaf ar yr un ochr i’r ffordd a safle’r cais. Yn yr
achos yma, nodwyd nad oedd lleoliad tai presennol gyferbyn a’r ffordd yma yn
ddigonol i leddfu edrychiad gweledol y bwriad ac fe ystyriwyd fod y ffordd sy’n
arwain drwy’r pentref yn creu ffin ffisegol bendant
rhwng y tai a safle’r cais. Derbyniwyd 3 gwrthwynebiad i’r cais yn datgan
pryder am y bwriad ar sail pryderon am ddiogelwch ffyrdd a pharcio. Ystyriwyd y
byddai gweithgarwch busnes o’r safle yn debygol o beri aflonyddwch i’r
preswylwyr cyfagos. Nodwyd nad oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno tystiolaeth ddigonol i ddangos bod ystyriaeth ddigonol wedi ei roi i safleoedd eraill, nac asesiadau o unedau na safleoedd presennol y gellid eu defnyddio yn yr ardal. Er bod polisïau a gynhwysir o fewn y CDUG yn gyffredinol yn cefnogi ceisiadau ar gyfer busnesau bach cefn gwlad; mae’n ofynnol bod unrhyw gynnig yn cydymffurfio gyda ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.6 |
|
Cais Rhif C16/1105/39/LL The Warren, Abersoch PDF 632 KB Estyniad i adeilad
hamdden er mwyn ymestyn spa presennol gan gynnwys ystafelloedd triniaeth,
pyllau, lle bwyta ac ystafelloedd newid AELOD LLEOL: Cynghorydd
R H Wyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Estyniad i adeilad hamdden er mwyn ymestyn spa presennol gan gynnwys ystafelloedd triniaeth, pyllau,
lle bwyta ac ystafelloedd newid (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan
nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu estyniad i adeilad hamdden er mwyn
ymestyn cyfleusterau spa presennol i ddarparu
ystafelloedd triniaeth, pyllau, lle bwyta ac ystafelloedd newid. Byddai’r
estyniad wedi ei leoli ar dalcen de gorllewinol yr adeilad presennol gyda rhan
to fflat yn y canol yn cysylltu i’r adeilad presennol a rhan to ‘hip’ llechi ar
y talcen. Amlygwyd mai'r bwriad oedd ail-fuddsoddi a gwella ansawdd ac amrediad cyfleusterau o fewn
y gyrchfan i alluogi mwy o ddefnydd o’r cyfleuster tu allan i’r cyfnod gwyliau. Yng nghyd-destun mwynderau
gweledol, cydnabuwyd bod maint a graddfa'r arwynebedd llawr (oddeutu 771m²) yn
sylweddol, fodd bynnag ystyriwyd bod y maint yn gymesur a chyfleusterau hamdden
presennol y safle ac na fyddai’n or-ddatblygiad. Gan mai golygfeydd lleol yn unig fydd o’r adeilad, oherwydd ei osodiad yn y
tirlun, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith ar y dirwedd a'r
golygfeydd. Er bod y bwriad wedi ei leoli o fewn Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn achosi niwed
arwyddocaol i’r dirwedd a’r arfordir nac yn groes i ofynion polisi B8 CDUG. Er gwaethaf maint yr adeiladau
presennol, mae natur eu lleoliad o fewn tirffurf powlen ynghyd a’r tirlunio
presennol yn golygu nad yw’r adeiladau yn sefyll allan yn y tirlun ac ni
ystyriwyd y byddai’r estyniad yn amlwg ychwaith. Ystyriwyd bod y bwriad, yn erbyn y polisïau a restrwyd yn yr adroddiad yn dderbyniol o agwedd polisïau ac felly yn
dderbyniol i’w ganiatáu gydag amodau (b)
Yn manteisio ar ei hawl
i siarad, nododd Asiant ar
ran yr ymgeisydd y sylwadau canlynol: ·
Bod y datblygiad yn gam pellach o uwchraddio a buddsoddi ar y safle ·
Bod y cynllun yn cynnig
gwelliannau i’r parc ac i'r amgylchedd ·
Bwriad yw annog cyfnodau
gwyliau byr tu allan i’r prif dymor gwyliau ·
Ymgynghori a chydweithio da
wedi bod gyda’r swyddogion cynllunio ·
Nad oedd y cynllun yn creu effaith
ar y tirlun ·
Bydd y gwaith o uwchraddio yn sicrhau 17 swydd newydd – 5 llawn amser a 12 rhan amser ·
Os caniatáu, y gwaith i
ddechrau mor fuan â phosib - bwriad agor Haf 2017 ·
Dim gwrthwynebiadau wedi eu derbyn (c)
Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn): ·
Ei fod yn gefnogol i’r cais
oherwydd darpariaeth lleoliad ·
Croesawu sylwadau'r Uned ANHE ·
Ddiolchgar i swyddogion am
gydweithio gyda'r datblygwr ·
Adnodd ardderchog i’r ardal –
codi ansawdd ·
Trafodaethau cychwynnol am
gysylltiad lleol gyda’r ddarpariaeth yma o ran defnydd o’r adnodd yn ystod y
gaeaf (ch) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu y cais (d)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Awgrymu dwyn pwys ar yr ANHE i
neilltuo Abersoch allan o’r ANHE er mwyn i ddatblygiadau fel hyn gael rhwydd
hynt · Bod y safle tu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.7 |
|
Cais Rhif C16/1154/41/LL Penarth Fawr, Chwilog PDF 763 KB Dyluniad
diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd o dan C16/0705/41/LL i drosi adeilad allanol i
dy fforddiadwy 4 llofft AELOD LLEOL: Cynghorydd
Aled Lloyd Evans Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dyluniad diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd
o dan C16/0705/41/LL i drosi adeilad allanol i dy fforddiadwy 4 llofft a)
Tynnwyd sylw at y ffurflen
sylwadau ychwnaegol lle amlygwyd cais gan asiant yr ymgeisydd i bwyso a mesur eu
cais a darbwyllo am ragor o amser i ystyried eu cynlluniau gan fod y cais
cynllunio blaenorol wedi ei wrthod. b)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio
y cais PENDERFYNWYD gohirio y cais |