Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorydd Endaf Cooke, Simon Glyn, Dyfrig Wynn Jones a John Pughe Roberts. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: (a) Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant
personol am y rhesymau a nodir: ·
Y Cynghorydd Gwen Griffith, yn
eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/1081/11/LL) oherwydd ei bod yn aelod o Bwyllgor Rheoli Gwarchodfa Natur Leol Traeth
Lafan; ac yn eitem 5.10 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0901/16/LL)
oherwydd mai hi oedd yr ymgeisydd. ·
Y Cynghorydd June Marshall, yn
eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/1081/11/LL) oherwydd ei bod yn adnabod rhai o’r gwrthwynebwyr; ·
Y Cynghorydd Gethin Glyn
Williams, yn eitem 5.8 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0848/00/LL) oherwydd ei fod yn aelod o gorff llywodraethol Ysgol y Traeth. Roedd yr Aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau a
oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a
nodir. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn
aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Lesley Day, (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C15/1081/11/LL); ·
Y Cynghorydd Angela Russell, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0537/38/LL); ·
Y Cynghorydd Sian Wyn Hughes,
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C16/0590/42/AM); ·
Y Cynghorydd June Marshall,
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C16/0669/11/LL); ·
Y Cynghorydd John Wynn Jones,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C16/0781/11/LL); ·
Y Cynghorydd Gethin Glyn
Williams, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.8 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0848/00/LL); ·
Y Cynghorydd Trevor Edwards (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn), yn eitem 5.9 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0886/15/LL); ·
Y Cynghorwyr John Wyn Williams
a R. Hefin Williams, (aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.9 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0886/15/LL). Ymneilltuodd yr Aelodau i
ochr arall y Siambr yn ystod
y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw
ac ni fu
iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 5 Medi 2016, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 5 Medi 2016 fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio. Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol
i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion
y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C14/0832/11/LL - Castle Hill Arcade, 196, Stryd Fawr, Bangor PDF 927 KB Newid defnydd rhan o'r siop bresennol, gosod blaen siop newydd a chodi estyniad deulawr ar ben yr estyniad cefn presennol i greu 2 siop a llety ar gyfer 65 o fyfyrwyr. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gwynfor Edwards Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd rhan o'r
siop bresennol, gosod blaen siop
newydd a chodi estyniad deulawr ar ben yr estyniad
cefn presennol i greu 2 siop
a llety ar gyfer 64 o fyfyrwyr. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi bod y safle ar y Stryd
Fawr o fewn canol Dinas Bangor gerllaw’r gadeirlan. Nodwyd bod yr adeilad yn
adeilad rhestredig gradd II a hefyd wedi ei leoli
o fewn Ardal Cadwraeth Bangor. Eglurwyd er bod yr estyniad arfaethedig yng nghefn y safle a bod y safle yn eithaf
cuddiedig o fannau cyhoeddus agos, nid oedd yn
cyfiawnhau estyniad o’r raddfa, swmp,
ffurf a’r dyluniad yma gan
yr ystyrir y byddai’n amharu’n sylweddol ar edrychiad
a chymeriad yr adeilad rhestredig. Nodwyd bod Ardal Cadwraeth Bangor yn eang ac yn cynnwys
sawl adeilad rhestredig gradd I gyda topograffi Bangor yn golygu fod
rhannau o’r ddinas yn weladwy
o bellter e.e. golygfeydd o brif adeilad y Brifysgol (sydd yn adeilad
rhestredig gradd I) ar draws y ddinas. Ystyrir y byddai’r elfen to fflat yn ymddangos fel
nodwedd anghydweddol o olygfeydd ar draws y ddinas na
fyddai’n parchu’r adeilad rhestredig o’i flaen, na
phatrymau datblygu strydoedd yr ardal
o’i gwmpas. Tynnwyd sylw y derbyniwyd gwrthwynebiadau ar sail gor-edrych o ffenestri a gerddi. Nodwyd yr ystyrir
bod y bwriad yn groes i bolisi
B23 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG) gan y byddai’r datblygiad yn cael effaith
niweidiol ar fwynderau preswyl unedau a thai
cyfagos ac na fyddai’r datblygiad yn sicrhau safon
byw ddigonol i breswylwyr y datblygiad. (b) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol: ·
Yng nghyswllt asesiad ieithyddol o geisiadau, y dylid asesu’r effaith gronnol yn hytrach
na’r cais yn unig; ·
A fyddai’n bosib derbyn gwybodaeth
o ran nifer yr unedau myfyrwyr a ganiatawyd yn y flwyddyn ddiwethaf ac am y cyfnod o 2 flynedd? ·
Bod yr argymhelliad i wrthod yn gryf,
byddai’r estyniad bwriedig yn dominyddu’r
adeilad rhestredig ac yn dirywio golygfeydd
yn y Ddinas; ·
Bod angen datblygu’r safle ond byddai’r estyniad
yn y cefn yn effeithio’n andwyol ar yr
adeilad rhestredig; ·
Pryder o ran gosod amod sy’n atal
myfyrwyr rhag iddynt ddod a cherbyd
o fewn tair milltir i’r datblygiad
a gofyn am gynllun teithio cyn preswylio’r
datblygiad yn hytrach na darparu
llecynnau parcio ar gyfer y datblygiad
gan na fyddai
modd ei blismona. (c) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y
swyddogion:- ·
Fel y nodir yn yr adroddiad,
ni fyddai’r bwriad yn golygu
unrhyw newid ym mhoblogaeth y Ddinas gan fod
y myfyrwyr yn bresennol yn barod
ac ystyrir na fyddai’n debygol o gael effaith arwyddocaol
ar yr Iaith
Gymraeg; ·
Bod gwybodaeth o ran nifer unedau myfyrwyr
ac asesiad o’r manylion wedi eu
cynnwys yn yr adroddiad ym
mharagraffau 5.5 i 5.16; · O ran gosod amod sy’n atal myfyrwyr rhag iddynt ddod a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1 |
|
Cais Rhif C14/0831/11/CR - Castle Hill Arcade, 196, Stryd Fawr, Bangor PDF 876 KB Newid defnydd rhan o'r siop bresennol, gosod blaen siop newydd a chodi estyniad deulawr ar ben yr estyniad cefn presennol i greu 2 siop a llety ar gyfer 65 o fyfyrwyr. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gwynfor Edwards Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd rhan o'r
siop bresennol, gosod blaen siop
newydd a chodi estyniad deulawr ar ben yr estyniad
cefn presennol i greu 2 siop
a llety ar gyfer 64 o fyfyrwyr. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi ei fod yn
gais adeilad rhestredig ac mai materion cadwraethol a asesir, sef effaith
ar edrychiad a chymeriad hanesyddol a phensaernïol yr adeilad rhestredig. Nodwyd bod y bwriad yn ei
ffurf bresennol oherwydd ei raddfa,
swmp, ffurf a’i ddyluniad yn
golygu y byddai’n dominyddu’r adeilad rhestredig ac yn cael effaith niweidiol
sylweddol ar ei gymeriad hanesyddol. PENDERFYNWYD gwrthod y cais. Rheswm: Byddai’r bwriad oherwydd ei raddfa, swmp,
ffurf a’i ddyluniad yn cael
effaith niweidiol sylweddol ar edrychiad
a gosodiad yr adeilad rhestredig gradd II ac felly yn groes i
bolisïau B2, B3 a B4 CDUG ac i
ofynion Cylchlythyr Swyddfa Gymreig 61/96. |
|
Cais Rhif C15/1081/11/LL - Hen Iard Gychod Dickies, Beach Road, Bangor PDF 1 MB Ail gyflwyniad o gais blaenorol i mewnforio deunydd anadweithiol er mwyn codi lefelau tir presennol. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Lesley Day Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ail gyflwyniad o gais blaenorol i gludo
i mewn deunydd
anadweithiol er mwyn codi lefelau
tir presennol. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan
nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf
2016 er mwyn derbyn gwybodaeth bellach o ran y pryderon a gyflwynwyd gan yr
aelod lleol. Nodwyd yr ail-ymgynghorwyd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a
Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor ar y Cynllun Rheoli Amgylchedd Adeiladu
a’r atodlen o fesurau lliniaru amgylcheddol a gyflwynwyd i gefnogi’r cais.
Roedd CNC a Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor yn fodlon efo’r hyn a
gyflwynwyd. Pwysleisiwyd bod y cais gerbron ar gyfer gwneud gwaith
peirianyddol a chodi lefel tir er mwyn darparu safle ar gyfer datblygiad
pellach. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.
Adroddwyd y derbyniwyd gwrthwynebiad hwyr heddiw gan Gyfeillion y Ddaear.
Nodwyd bod y materion a godwyd wedi eu hasesu yn yr adroddiad. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b) Gwnaed y prif bwyntiau
canlynol gan yr aelod lleol
(nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn):- ·
Bod rhan o’r cais yn ôl-weithredol
gan fod lefelau tir wedi eu codi eisoes; ·
Bod ddim cofnod o ran y
deunyddiau ar y safle felly nid oes sicrwydd o ran ei strwythur; ·
Bod yr archwiliadau a
gynhaliwyd o’r tir yn arwynebol; ·
Bod y safle yn agored i
erydiad a’i phryderon o ran sefydlogrwydd y tir; ·
Nad oedd dyluniad y morglawdd
yn ddigonol ac ni fyddai’n gwarchod y safle o’r môr; ·
Bod achosion lle bo’r Awdurdod
Lleol wedi ei erlyn yn llwyddiannus pan fo pethau’n mynd o’i le ar dir
ansefydlog a halogedig lle derbyniwyd caniatâd cynllunio; ·
Y gallai asesiadau geo-amgylcheddol digonol sicrhau y byddai’r safle yn
ddiogel; ·
Bod y bwriad yn groes i bolisi
B28 a B30 o’r CDUG ynghyd â Nodyn Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru 15; ·
Bod y tir wedi ei halogi er
nad oedd wedi ei gofnodi ar gofrestr tir halogedig a pe byddai datblygiad tai
ar y safle yn y dyfodol yna fe fyddai risg sylweddol i iechyd dynol; ·
Bod risg i’r deunydd a
halogwyd ollwng i’r Fenai. A yw’r amodau a argymhellir yn ddigonol i sicrhau na
fyddai llygredd yn dianc o’r safle? (ch) Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth
Cynllunio:- ·
Y byddai unrhyw gais am ddatblygiad yn y dyfodol yn cael
ei benderfynu ar ei haeddiant
ac mai’r bwriad oedd darparu safle
ar gyfer datblygiad; ·
Bod y tir wedi ei ddynodi
yn y CDUG fel safle ail-ddatblygu; ·
Y derbyniwyd cadarnhad nad oedd
gan CNC na Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd wrthwynebiad i’r cais; ·
Nid oedd tystiolaeth i gyfiawnhau
gwrthod o ran llygredd; ·
Bod adroddiadau technegol manwl a oedd wedi
eu cyflwyno fel rhan o’r
cais wedi eu hasesu gan
arbenigwyr. (d) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r
cais. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3 |
|
Cais Rhif C16/0537/38/LL - Bryniau Caravan Park, Lôn Pin, Llanbedrog PDF 717 KB Cais ôl-weithredol i gadw safle carafanau ar gyfer 10 carafan deithiol, cadw gwasanaethau cysylltiedig a storio carafanau dros y gaeaf. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Angela Russell Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais
ôl-weithredol i gadw safle carafanau
ar gyfer 10 carafán deithiol, cadw gwasanaethau cysylltiedig â storio carafanau dros y gaeaf. (a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad
ac o fewn Ardal Gwarchod y Dirwedd ac o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol
Eithriadol. Adroddwyd nad oedd
gan yr Uned
Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad os
gosodir amod i sicrhau llain
gwelededd digonol yn y fynedfa. Nodwyd bod y safle yn ei
ffurf bresennol yn weddol guddiedig
gyda chynllun tirlunio wedi ei
gyflwyno i atgyfnerthu’r sgrinio. Ni ystyrir y byddai’r
datblygiad yn achosi niwed arwyddocaol
hirdymor i ansawdd gweledol y dirwedd. Roedd
y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b) Cefnogwyd y cais gan yr aelod
lleol, (nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd bod y safle yn guddiedig a’i
bod yn falch o gefnogi teulu ifanc
lleol er mwyn eu galluogi
i fyw ym
Mhen Llŷn. (c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r
cais. Nododd aelod bod gwrychoedd uchel ar y safle
ac mai prin gellir gweld y safle o fannau eraill. Tynnodd aelod sylw bod
y Cyngor Cymuned yn gefnogol i’r
cais. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. Unol â chynlluniau a gyflwynwyd; 2. Nifer o unedau ar y safle ar unrhyw un adeg
i’w cyfyngu i 10 ac ar y lleoliadau a ddangosir ar y cynllun a gyflwynwyd; 3. Amodau cyfnod gosod carafanau/cyfnod
gwyliau/symud y carafanau pan ddim mewn defnydd; 4. Storio ar y tir i dde'r safle sydd wedi ei amlinellu yn felyn ar
y cynllun a gyflwynwyd rhwng 1 Tachwedd mewn un flwyddyn a 28 Chwefror y
flwyddyn ganlynol; 5. Rhestr cofnodi; 6. Tirlunio o fewn tri mis o ddyddiad caniatâd
cynllunio; 7. Gwaith
o wella’r fynedfa i’w gwblhau yn unol â chynllun a gyflwynwyd o fewn tri mis o
ddyddiad y caniatâd ac i’w gadw felly wedi hynny; 8. Gostwng uchder y clawdd i ogledd y fynedfa
a’i gapio yn barhaol. Nodiadau: 1. Awgrymir fod mesurau lliniaru yn cael eu
cymryd i warchod a hyrwyddo’r iaith, megis enw Cymraeg ar y safle, arwyddion
Cymraeg a / neu ddwyieithog a chyfleoedd i ddarparu gwybodaeth am hanes a
diwylliant yr ardal. Awgrymir fod rheolwr y safle yn cysylltu gyda’r Fenter
Iaith Leol (HunanIaith) i gael trafodaeth ynglŷn
â mesurau a allai ychwanegu gwerth i’r busnes. 2. Angen cael trwydded safle carafanau. |
|
Cais Rhif C16/0590/42/AM - Tir ger 10 Penrhos, Morfa Nefyn PDF 599 KB Adeiladu annedd a creu llefydd parcio. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Sian Wyn Hughes Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu annedd a chreu llefydd parcio. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 5 Medi 2016 er mwyn asesu’r
manylion diwygiedig a’r ymatebion i’r
ail-ymgynghori. ‘Roedd
aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r
safle cyn y cyfarfod. Adroddwyd
bod y cais yn gais amlinellol ar gyfer codi
tŷ annedd ar lain o dir
sy’n ffurfio rhan o ardd 10 Penrhos, Morfa Nefyn. Nodwyd gan mai cais amlinellol oedd gerbron mai’r
unig faterion yr ystyrir oedd
yr egwyddor o ddatblygu’r safle. Tynnwyd
sylw nad oedd gan yr
Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad os gosodir amodau priodol i sicrhau
fod y gwrych / wal i ogledd
y fynedfa yn cael ei gostwng
a’i chynnal ar uchder dim uwch
nag 1 medr er mwyn diogelu’r llain gwelededd angenrheidiol o’r fynedfa. Nodwyd wrth
ymdrin gyda’r cais daeth i’r
amlwg fod yna rai materion yn codi o safbwynt
perchnogaeth y trac preifat sy’n arwain
o’r ffordd sirol i’r safle.
Pwysleisiwyd bod y materion
o ran perchnogaeth tir yn gysylltiedig gyda’r trac yn
faterion sifil i’w datrys rhwng
yr ymgeisydd a pherchennog y tir neillog. Nodwyd
oherwydd natur preswyl yr ardal,
ni ystyrir
byddai’r datblygiad allan o gymeriad nac yn cael
effaith andwyol ar fwynderau gweledol
na phreswyl yr ardal. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio
gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod
lleol, (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), gwnaed y prif bwyntiau canlynol
ganddi:- ·
Byddai’r bwriad yn golygu
colli gwyrddni yn yr ardal gan effeithio ar fioamrywiaeth a phreifatrwydd tai
gerllaw; ·
Cwestiynu os oes angen am y
tŷ o ystyried bod oddeutu 30 o dai ar werth yn y pentref; ·
Na fyddai’r tŷ yn dŷ
fforddiadwy; ·
Pryder o ran effaith ar y gymuned
a’r Iaith Gymraeg gan fod y stoc tai bresennol ddim yn fforddiadwy; ·
Bod nifer o dai yn y pentref
yn rhai gwyliau ac yn wag ar adegau; ·
Pryder o ran mynediad i’r
safle a diogelwch ffyrdd mewn ardal lle bo damweiniau; ·
Bod yr hyn a fwriedir yn or-ddatblygiad na fyddai’n gweddu ei leoliad. (c) Mewn ymateb i sylwadau’r
aelod lleol, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio mai cais am dŷ tu
fewn i’r ffin datblygu oedd
gerbron y Pwyllgor. (ch)
Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol: ·
Pryder o ran gwelededd
pan fo’r trac yn dod i’r lôn. A ddylid
gofyn am ymlediad i wella’r sefyllfa? ·
O ystyried maint y tŷ a fyddai’n cyffwrdd â’r ffiniau ar
y ddwy ochr? ·
Pryder y gosodir cynsail yn yr
ardal os caniateir adeiladu tŷ yn yr
ardd; ·
Bod y Cyngor Tref yn gwrthwynebu’r
cais ac nid oedd mannau pasio
ar y trac preifat; ·
Y gwrych ddim ym mherchnogaeth
yr ymgeisydd; · Bod tai modern arall ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.5 |
|
Cais Rhif C16/0669/11/LL - 17, Ffordd y Coleg, Bangor PDF 809 KB Newid defnydd tŷ 7 lloft i dŷ aml-feddianaeth 7 lloft. AELODAU LLEOL: Cynghorwyr June Marshall a Mair
Rowlands Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd tŷ 7 llofft i dŷ amlfeddiannaeth 7 llofft. (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan
nodi bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Dinas Bangor, ac o fewn
ardal breswyl a’i nodweddir gan ei ganran uchel o lety myfyrwyr. Nodwyd ni ystyrir y byddai caniatáu un uned amlfeddiannaeth
ychwanegol mewn ardal lle mae’r mwyafrif o dai eisoes yn dai amlfeddiannaeth,
yn cael effaith niweidiol ychwanegol arwyddocaol ar gymeriad cymdeithasol yr
ardal leol. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio
gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod lleol (oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn):- ·
Bod gorddarpariaeth o lety
amlfeddiannaeth ar Ffordd y Coleg gyda 90% o’r tai yn rhai amlfeddiannaeth; ·
Bod Cynllun Datblygu Lleol ar
y Cyd Gwynedd a Môn, a oedd yn destun archwiliad ar hyn o bryd, yn argymell
cyfyngu’r nifer o dai amlfeddiannaeth mewn ardal i 25% ac fe ddylid cyfyngu’r
niferoedd rŵan; ·
Bod problemau parcio yn yr
ardal; ·
Y byddai mwy o sŵn a
tharfu ar drigolion pe caniateir y cais; ·
Y bwriad yn groes i bolisi
CH14 o’r CDUG oherwydd byddai’r datblygiad yn cael effaith negyddol ar gymeriad
cymdeithasol ac amgylcheddol yr ardal. (c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r
cais. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol: ·
Er yn cytuno efo sylwadau’r
aelod lleol nid oedd rhesymau
cynllunio dilys i gefnogi gwrthod
y cais; ·
Bod Bangor yn troi yn ddinas
i fyfyrwyr yn unig gyda
thai i bobl
leol yn diflannu; ·
Bod nifer y myfyrwyr yn gostwng; ·
A fyddai’n bosib derbyn eglurder
o ran yr ystadegau a nodir yn yr
adroddiad a’r ystadegau a nodwyd gan yr aelod
lleol? ·
Pryderu o ran effaith gronnus datblygiadau o’r fath ar
yr ardal; ·
Pryd y gellir rhoi ystyriaeth i’r hyn a nodir
yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd? ·
Nad oedd yr ardal
yn le i deuluoedd. (ch)
Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:- ·
Bod effaith cronnus ar yr
ardal o ran tai amlfeddiannaeth
eisoes ac fe ganiateir ceisiadau o’r fath yma
gan gadw ardaloedd eraill yn breswyl; ·
Bod yr ystadegau yng nghyswllt
tai amlfeddiannaeth yn yr adroddiad yn
cyfeirio at y ward tra bod yr aelod lleol
yn darparu ffigyrau o ran y stryd benodol yma; ·
Defnyddir y dystiolaeth a gasglwyd wrth lunio’r Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd rŵan
ond oherwydd bod y cynllun ar hyn
o bryd yn destun archwiliad ei fod yn
gynamserol i ystyried y polisïau. Fe ail-asesir y sefyllfa
o ran y pwysau y gellir eu rhoi ar
y polisïau yn dilyn yr archwiliad. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. 5 mlynedd 2. Yn unol â'r
cynlluniau |
|
Newid amod rhif 2 (yn unol a'r cynlluniau a ganiatawyd) o caniatad rhif APP/Q6810/A/16/314218 er mwyn diwygio gosodiad mewnol yr ail lawr er mwyn darparu 8 uned 1 llofft a 2 uned 4 lloft yn lle 8 uned 1 lloft. AELOD LLEOL: Cynghorydd
John Wynn Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid amod rhif 2 (yn unol
â'r cynlluniau a ganiatawyd) o ganiatâd rhif APP/Q6810/A/16/314218 er mwyn diwygio gosodiad
mewnol yr ail lawr er mwyn
darparu 8 uned 1 llofft a 2 uned 4 llofft yn lle
8 uned 1 llofft. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi mai cais ydoedd
i ddiwygio amod rhif 2 o ganiatâd
blaenorol er mwyn diwygio gosodiad
mewnol yr ail lawr er mwyn
darparu 2 uned ychwanegol o fewn y datblygiad (sef cyfanswm o 29 uned yn lle’r 27 uned
a ganiatawyd yn flaenorol). Nodwyd nad oedd
y cynllun yn golygu unrhyw newid
i edrychiad allanol yr adeilad
na gosodiad ffenestri o’r hyn
oedd eisoes wedi ei ganiatáu
ar apêl. Nodwyd y caniatawyd y cais blaenorol ar apêl ac roedd
yr arolygydd cynllunio o’r farn
bod y nifer o unedau yn weddol gymedrol
ac na fyddai’n or-ddatblygiad o’r safle nac yn
debygol o arwain at unrhyw niwed sylweddol
i fwynderau preswylwyr presennol o ran sŵn neu aflonyddwch
oherwydd gosodiad a dyluniad yr adeilad,
rheolaeth y defnydd a phresenoldeb o fusnesau yn yr ardal
gyfagos. Pwysleisiwyd nad
oedd newid wedi bod yn y sefyllfa
bolisi ers caniatáu’r cynllun blaenorol ac felly bod yr egwyddor yn parhau
i fod yn
dderbyniol gan fod y defnydd eisoes
wedi ei ganiatáu
ac mae’r bwriad yma yn ddiwygiad
bychan i’r caniatâd hwnnw felly ni ellir cwestiynu’r
angen. Nodwyd y dylid
rhoi ystyriaeth a phwysau sylweddol i’r arweiniad clir
a roddwyd yn y penderfyniad apêl diweddar. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio
gyda’r CDUG ynghyd â pholisïau cenedlaethol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (a)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd asiant yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Mai newid gosodiad mewnol yn unig oedd
dan sylw; ·
Fe newidir y gosodiad gan nad
oedd galw am y math o unedau a gynlluniwyd; ·
Y byddai’r bwriad yn darparu
unedau hunangynhaliol o safon ar gyfer
myfyrwyr; ·
Bod yr arolygydd wedi nodi wrth benderfynu’r
apêl “Yn groes i farn
y Cyngor, rwy’n ystyried bod nifer yr unedau a gynigir
yn weddol gymedrol.” (b)
Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol, (nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn), a gwnaed y prif
bwyntiau canlynol ganddo: ·
Nad oedd yn ymwybodol o’r apêl
tan ar ôl y dyfarniad; ·
Ei siomedigaeth y cysidrir
caniatáu’r cais gan nad oes gofyn am y math yma o ddarpariaeth; ·
Y byddai’r fflatiau yn wag gan
fod maint yr ystafelloedd yn mynd rhy fach; ·
Ei fod yn flin bod adeilad hanesyddol wedi ei golli. (ch) Mewn ymateb i
sylwadau’r aelod lleol, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:- ·
Ei fod wedi trafod y mater o ran derbyn rhybudd o’r apêl efo’r
aelod lleol a’i fod wedi
dod i’r amlwg
bod problemau technegol efo I-Pad yr aelod
wedi golygu nad oedd wedi
derbyn rhybudd; · Ei fod yn deall y pryderon a’r siom ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.7 |
|
Cais Rhif C16/0848/00/LL - Toiledau Abermaw, Marine Parade, Abermaw PDF 724 KB Cais i drosi cyfleusterau cyheddous di-ddefnydd i dŷ annedd, i gynnwys codi uchder y tô presennol a newidiadau allanol. AELOD LLEOL: Cynghorydd Gethin Glyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais i drosi cyfleusterau
cyhoeddus diddefnydd i dŷ
annedd, i gynnwys codi uchder
y to presennol a newidiadau
allanol. (a) Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi bod y safle wedi ei
leoli yng nghanol tref arfordirol
Abermaw a bod Ysgol y Traeth i ddwyrain
y safle gyda’r cae chwarae ar
derfyn cefn a gogleddol safle’r cais. Adroddwyd y derbyniwyd
nifer o wrthwynebiadau gan y cyhoedd gan
gynnwys ystyriaethau megis agosatrwydd yr adeilad at gae
chwarae’r ysgol, diffyg tir mwynderol
o amgylch yr adeilad, yr adeilad
yn anaddas i’w drosi a bod safon y dyluniad yn annerbyniol. Roedd hefyd gohebiaeth
yn croesawu’r datblygiad fel gwelliant i gyflwr
blêr presennol y safle. Pwysleisiwyd mai cais oedd
gerbron i drosi adeilad presennol
i annedd o fewn ffin datblygu
canolfan lleol fel y diffiniwyd gan y CDUG. Nodwyd y byddai adfer ac ail ddefnyddio’r adeilad yn gyfle i’w
dacluso a’i atal rhag dirywio
ymhellach a thrwy hynny fe
ellir gwarchod a gwella ansawdd a chyflwr y safle ac amddiffyn mwynderau gweledol yr ardal
yn gyffredinol. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd yn
ymateb i wrthwynebiadau gyda nifer o’r sylwadau yn ymwneud â chyfamod
cyfreithiol ar yr adeilad ond nid oedd y rhain yn ystyriaethau cynllunio
materol. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio
gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Cychwynnodd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), annerch y Pwyllgor. Cynghorwyd yr aelod lleol gan yr
Uwch Gyfreithiwr, y dylai ddatgan buddiant
a gadael y siambr gan ei fod
yn Llywodraethwr Ysgol y Traeth. Datganodd yr aelod
lleol fuddiant ac fe adawodd
y siambr. (c) Cynigwyd i ohirio’r cais er mwyn galluogi aelod arall i weithredu fel aelod
lleol.
Eiliwyd y cynnig. PENDERFYNWYD gohirio’r
cais. |
|
Cais Rhif C16/0886/15/LL - Glyn Rhonwy Pumped Storage, Glyn Rhonwy, Llanberis PDF 932 KB Cais ar gyfer gosod llinnell cyswllt grid 132KV tanddaearol rhwng safle storio pwmp Glyn Rhonwy a Is-orsaf Pentir. AELODAU LLEOL: Cynghorwyr Trevor
Edwards, Brian Jones, Elfed Wyn
Williams, John Wyn Williams a R. Hefin
Williams. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais
ar gyfer gosod llinell gyswllt
grid 132KV tanddaearol rhwng
safle storio pwmp Glyn Rhonwy ac Is-orsaf Pentir. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi bod yr egwyddor o greu
adnodd storfa bwmp yng Nglyn
Rhonwy eisoes wedi ei dderbyn
a’i gymeradwyo gan y Cyngor. Credir fod yr egwyddor
yn dderbyniol a bod yr elfen yma
yn gam angenrheidiol i sicrhau cyswllt
rhwng y safle ble cynhyrchir y trydan a’r safle
sydd yn ei
ddosbarthu. Nodwyd, er
gwybodaeth, bod cais yn cael ei
ystyried ar hyn o bryd ar
gyfer Gorchymyn yn rhoi Caniatâd
Datblygu i gynllun storfa bwmp 99.9MW yng Nglyn Rhonwy. Eglurwyd bod cais o’r maint yma
yn cael ei
ystyried fel Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol ac felly fe wneir
penderfyniad terfynol gan yr Ysgrifennydd
Gwladol. Nodwyd yr argymhellir gosod amod ychwanegol
i’r hyn a nodir yn yr
adroddiad, i gytuno ar ddull
o groesi’r afon cyn dechrau unrhyw
ddatblygiad. (b) Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol
(nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn). Gofynnodd am eglurhad o ran statws y cais gwreiddiol am storfa bwmp pe
byddai’r cais sydd yn cael
ei ystyried ar hyn o bryd
gan yr Ysgrifennydd
Gwladol yn cael ei wrthod.
Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu y byddai’r cais gwreiddiol dal yn fyw. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. Amser 2. Cydymffurfio gyda chynlluniau 3. Angen cyflwyno a chytuno ar gynllun rheoli
adeiladu amgylcheddol
(construction environmental management plan) 4. Amodau Cyfoeth Naturiol Cymru. 5. Nodiadau Priffyrdd 6. Nodyn Deddf Wal Rhannol 7. Cytuno ar ddull o groesi’r afon cyn dechrau
unrhyw ddatblygiad |
|
Cais Rhif C16/0901/16/LL - 19, Llwybrmain, Mynydd Llandygai, Bangor PDF 595 KB Codi estyniad unllawr cefn. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gwen Griffith Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi estyniad unllawr cefn. (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi oherwydd ei faint a’i leoliad ni
fyddai estyniad o’r fath hwn
angen caniatâd cynllunio fel arfer,
fodd bynnag o ganlyniad i’w leoliad
o fewn Ardal Gadwraeth Mynydd Llandygai bod caniatâd yn angenrheidiol ar gyfer newid
defnydd to i fetel o lechi naturiol. Eglurwyd oherwydd lleoliad yr estyniad,
fe fyddai
llethr yr estyniad yn wynebu
i ffwrdd o unrhyw welfannau cyhoeddus ac o’r herwydd ni ystyrir
y byddai unrhyw niwed gweledol yn digwydd i’r
eiddo. Cadarnhawyd nad oedd
unrhyw or-edrych o’r safle ac ni
fyddai unrhyw effaith ar fwynderau
cymdogion. Tynnwyd sylw y derbyniwyd gohebiaeth gan Gyngor Cymuned Llandygai yn datgan
cefnogaeth i’r cais. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio
gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r
cais. Nododd
aelod ei fod yn anfodlon
na ddefnyddir
llechi ar y to o ystyried bod yr eiddo mewn ardal
cadwraeth a byddai hyn yn gosod
cynsail. Holodd aelod os fyddai’n bosib amodi bod lliw’r to yn gweddu gyda
lliw llechi. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu y gellir gosod amod i’r
perwyl hwn. PENDERFYNWYD caniatáu’r
cais. Amodau: 1. Amser
- 5 mlynedd, 2. Deunyddiau’r
waliau’n gweddu gyda’r tŷ 3. Datblygiad
i gydymffurfio gyda’r cynlluniau a gymeradwywyd 4. Lliw’r to i weddu gyda lliw
llechi |