Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Endaf Cooke, Elwyn Edwards, Dilwyn Lloyd (eilydd) Hefin Williams, Gruffydd Williams a’r Cynghorwyr Ann Williams a Llywarch B Jones (Aelodau Lleol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant
personol am y rhesymau a nodir: ·
Y Cynghorydd June Marshall, yn
eitem 5 ar y rhaglen, (cais cynllunio C13/0412/13/AM) oherwydd ei bod yn
adnabod yr ymgeisydd ·
Y Cynghorydd Gwen Griffith, yn eitem 5 ar y rhaglen, (cais
cynllunio C13/0412/13/AM) oherwydd bod ei mab yn byw yn agos ac yn cerdded y
llwybr cyhoeddus trwy’r safle i’r ysgol gynradd
gerllaw. ·
Y Cynghorydd Owain Williams,
yn eitem 5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/0034/37/LL) oherwydd ei fod yn berchennog parc carafanau wedi ei leoli llai na chwe milltir o’r safle. ·
Y Cynghorydd Ann Lloyd Jones,
yn eitem 5 ar y rhaglen, (cais cynllunio C15/0337/11/AM) oherwydd ei bod yn
aelod o Fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd) ·
Y Cynghorydd Michael Sol Owen,
yn eitem 5 ar y rhaglen, (cais cynllunio C15/0337/11/AM) oherwydd ei fod yn
aelod o Fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd) ·
Y Cynghorydd John Wyn
Williams, yn eitem 5 ar y rhaglen, (cais cynllunio C15/0337/11/AM) oherwydd ei
fod yn aelod o Fwrdd
Cartrefi Cymunedol Gwynedd) Datganodd y swyddog canlynol
fuddiant personol am y rhesymau a nodir: ·
Medi Emlyn Davies (Swyddog Rheolaeth
Datblygu), yn eitem 5 ar y rhaglen, (cais cynllunio C14/0984/44/HD) oherwydd ei
bod yn gyfranddaliwr Roedd yr Aelodau a’r swyddog o’r farn eu bod yn
fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y
ceisiadau a nodir. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn
aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Elin Walker Jones
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C13/0412/13/AM). ·
Y Cynghorydd Elfed Wyn
Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C13/0611/18/AM); ·
Y Cynghorydd P Jason
Humphreys, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C14/0984/44/HD); ·
Y Cynghorydd Aled Lloyd Evans,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C15/0421/41/LL). ·
Y Cynghorydd Sian Gwenllïan
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C15/0435/20/LL - C15/0603/20/CR). |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2015, fel rhai cywir. (copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2015
fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio. (copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol
i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais rhif C13/0412/13/AM - Tir Maes Coetmor, Bethesda Cais amlinellol ar gyfer codi 69 o dai, gan gynnwys 20 uned fforddiadwy. Aelod Lleol: Cynghorydd Ann Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais amlinellol ar gyfer codi 69 o dai gan gynnwys 20 uned fforddiadwy (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y
cais yn un amlinellol am ganiatâd cynllunio (gyda’r manylion i gyd wedi eu
cadw’n ôl) i godi 69 uned breswyl newydd ar dir amaethyddol ym mhentref
Bethesda. Cafodd y cais ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ym Mehefin 2015, lle
y’i gohiriwyd er mwyn derbyn gwybodaeth bellach ynglŷn ag ystlumod, coed a
cholli cynefin pwysig. Nodwyd bod Gorchymyn Gwarchod Coed wedi ei osod ar goed
y safle ers 31.8.15 ac fod yr asiant ar y cais bellach wedi cyflwyno asesiad coed ac ystlumod ac fod ‘rhain wedi
ei asesu. O safbwynt egwyddor y datblygiad nodwyd bod y safle wedi ei ddynodi yn yn CDU ar gyfer tai ac y byddai’r bwriad yn ymateb i’r galw
am dai yn yr ardal. Cyfeiriwyd at benderfyniad apêl ar safle cyfagos lle
gwrthodwyd datblygiad preswyl ar safle ‘Gray Garage’
gan y Cyngor yn 2014. Cynhaliwyd apêl i’r gwrthodiad yma ac bu i’r Arolygydd
ddatgan yn y penderfyniad apêl fod angen
y datblygiad er mwyn diwallu’r angen am dai gan nad yw targedau presennol yn
cael eu bodloni. Cyfeiriwyd hefyd at wrthwynebiadau i’r cais sydd gyda’r mwyafrif ohonynt yn
ymwneud a’r Iaith Gymraeg a’r honiad o effaith andwyol y byddai’r datblygiad
yma o’i ganiatáu yn ei gael ar yr iaith yn Methesda /
Dyffryn Ogwen. Mewn ymateb, un o gasgliadau’r Astudiaeth Tai ac Iaith ddiweddar
a gafodd ei wneud ar y cyd gyda Chyngor Sir Ynys Môn
ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri oedd y gallai hyrwyddo cymysgedd gywir o
unedau tai yn y lleoliadau cywir gyfrannu at gynnal neu gryfhau cymunedau
Cymraeg. Mae’r wybodaeth yn ail-adrodd gwybodaeth am gryfder cymharol yr iaith
yn ward Ogwen ac mae’n cyfeirio at yr isadeiledd cymdeithasol sy’n bodoli’n
barod, y gefnogaeth gan y Fenter Iaith, polisi iaith yr ysgolion a mesurau
ychwanegol ellir eu rhoi yn eu lle. Gyda’i gilydd gallai hynny gyfrannu at y
nod o gynnal a chryfhau’r iaith ym Methesda a’r ardal
leol. Er bod yr Uned Bolisi Cynllunio ar y Cyd wedi cyfeirio at rai diffygion yn y
Datganiad Iaith a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd, ystyrir yn ei hanfod ei fod yn
dderbyniol ac oherwydd hynny, y cais yn dderbyniol ac yn bodloni gofynion
Polisi Strategol 1, a gofynion polisïau A1, A2 ac A3 o safbwynt materion
ieithyddol. Yng nghyd-destun trafnidiaeth a llifogydd, nid oedd gwrthwynebiad i’r
bwriad. Pwysleisiwyd bod newid i’r argymhelliad yn yr adroddiad oherwydd bod asesiadau coed ac ystlumod wedi’u derbyn wedi paratoi’r adroddiad ac o asesu’r asesiadau yma fod y bwriad yn cael ei ystyried yn annerbyniol ar sail diffyg gwybodaeth derbyniol a gyflwynwyd mewn perthynas â’r gallu i asesu yn drylwyr yr effaith ar rywogaethau wedi eu gwarchod sef gweithgaredd ystlumod ynghyd ag asesiad o’r coed ar gyfer clwydfannau. Yn yr un modd ni chyflwynwyd asesiad digonol o’r coed o safbwynt effaith y datblygiad arfaethedig ar y coed hyn gan gynnwys ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais rhif C13/0611/18/AM - Rhiwgoch, Clwt-y-bont, Caernarfon Datblygiad preswyl o 17 o dai (yn cynnwys 2 uned fforddiadwy) ynghyd â mynedfa newydd. Aelod Lleol: Cynghorydd Elfed Wyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datblygiad preswyl o 17 o dai (yn cynnwys 2 uned
fforddiadwy) ynghyd â mynedfa newydd. (a) Ymhelaethodd y Uwch Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais
cnoi cil wedi ei adrodd i’r Pwyllgor Cynllunio ar 27.07.15 gydag argymhelliad y
swyddogion i ganiatáu’r bwriad gan fod yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth
oedd yn ymateb i bryderon y Pwyllgor Cynllunio ar sail gor-ddatblygu a diffyg darpariaeth llecyn chwarae yn dilyn cyflwyno’r
cais cynllunio gwreiddiol i Bwyllgor yn ôl ym Mawrth, 2015. Fodd bynnag,
penderfynodd y Pwyllgor i ohirio gwneud penderfyniad ar y cais er mwyn
cadarnhau bod y Datganiad Ieithyddol a Chymunedol wedi ei dderbyn a’i asesu’n
briodol gan yr Uned Polisi ar y Cyd. Cadarnheir fod Datganiad wedi ei dderbyn
a’i asesu’n briodol gan yr Uned Bolisi Cynllunio ar y Cyd a bod hyn wedi ei
gynnwys fel rhan o’r adroddiad a gyflwynwyd yn wreiddiol i’r Pwyllgor Cynllunio
ar 02.03.15. Nodwyd mai cais amlinellol ydoedd ar gyfer codi 17 o dai deulawr gan
gynnwys 2 dy fforddiadwy ar safle sydd i’r de-orllewin o Ddeiniolen/Clwt
y Bont ar lecyn o dir llwyd sydd wedi ei gynnwys oddi fewn i ffin datblygu’r
pentref. Roedd y bwriad hefyd yn cynnwys
creu agoriad cerbydol i’r ffordd sirol dosbarth III gyfochrog. Eglurwyd bod
cais blaenorol am 17 o dai (gan gynnwys 2 dy fforddiadwy) wedi ei ganiatáu yng Ngorffennaf, 2010 gyda chytundeb o dan Adran 106 er mwyn
sicrhau fod 2 dy allan o’r 17 yn dai fforddiadwy. Fodd bynnag, ni chyflwynwyd
cais materion a gadwyd yn ôl o fewn y cyfnod statudol ac mae’r caniatâd bellach
wedi rhedeg allan.
Ymhelaethodd yr Uwch Reolwr ar risgiau tebygol fyddai i’r Cyngor o wrthod y
cais (wedi eu rhestru yn glir yn yr adroddiad)
ynghyd a’r ddau opsiwn oedd gan y Pwyllgor: 1. Gwrthod y cais ar sail gor-ddatblygiad o’r safle yn nhermau dwysedd adeiladu. Byddai gwrthod y cais am 17 o dai ar y safle hwn (sy’n gyfystyr a dwysedd adeiladu o 24 tŷ yr hectar mewn cymhariaeth a’r dwysedd o 30 uned yr hectar sy’n cael ei awgrymu gan y Cynllun Datblygu Unedol ac yn genedlaethol) ar sail gor-ddatblygu yn rheswm gwrthod fyddai’n anodd iawn i’w gyfiawnhau yn enwedig o ystyried fod y safle wedi ei leoli tu mewn i’r ffin datblygu, ar dir a ddatblygwyd o’r blaen, ac sydd eisoes wedi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais rhif C14/0984/44/HD - Sinema Coliseum, Stryd Fawr, Porthmadog Rhybudd o flaen llaw i ddymchwel. Aelod Lleol: Cynghorydd Jason Humphreys Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhybudd o flaen llaw i ddymchwel. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi
mai cais ydoedd am ganiatâd o flaen llaw ar gyfer dymchwel cyn sinema a
chlirio’r safle. O ran y wybodaeth a dderbyniwyd ymddengys nad yw’n hyfyw i
gadw’r adeilad presennol. Mae cyflwr presennol yr adeilad yn gymharol wael ac
mae’r ymgeisydd yn awyddus i ddymchwel yr adeilad a chlirio’r safle cyn i’r
cyflwr waethygu gyda’r bwriad o ail ddatblygu’r safle at ddibenion masnachol. O ran tystiolaeth, nid oes dim rheswm i wrthod y cais o safbwynt dull
dymchwel ond rhaid rhoi ystyriaeth a derbyn gwybodaeth bellach ynglŷn â
sut yn union y bydd hyn yn cael ei weithredu. Eglurwyd bod dymchwel adeiladu o’r fath yn
‘ddatblygiad’ ac o ganlyniad mae cynlluniau o’r fath yn disgyn o dan reolaeth
cynllunio. Er hynny, mae dymchwel yn cael ei ganiatáu o dan Ran 31 o Atodlen 2
o’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995
(fel y’i diwygiwyd). Mae hyn y golygu nad oes angen caniatâd cynllunio ffurfiol
ar gyfer dymchwel adeiladau os yw’r datblygwr yn cydymffurfio gyda gofynion
Rhan 31. Mae’r meini prawf yn gofyn i’r ymgeisydd gyflwyno hysbysiad ymlaen
llaw i’r Awdurdod Cynllunio Lleol benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw
gan yr Awdurdod ar gyfer y dull dymchwel ac unrhyw waith adfer y bwriedir ei
wneud ar y safle. O ganlyniad yr unig
ystyriaethau sydd o dan sylw yw’r dull dymchwel a’r gwaith adfer. Nodwyd bod asesiad ystlumod wedi ei dderbyn ac felly nid oedd gan Uned
Bioamrywiaeth y Cyngor na Chyfoeth Naturiol Cymru unrhyw wrthwynebiad i’r
bwriad os bydd y gwaith dymchwel yn cael ei gwblhau yn unol ag argymhellion yr
adroddiad ystlumod. Ystyriwyd felly fod y cais yn cwrdd ag anghenion polisi
B20. Ategwyd nad oedd y bwriad yn groes i unrhyw bolisi perthnasol nac yn
debygol o achosi effaith andwyol ar fwynderau’r ardal leol na thai cyfagos,
diogelwch ffyrdd na rhywogaethau sy’n cael eu gwarchod, felly o dderbyn gwynodaeth ychwanegol ynghlyn a
sut â sut yn union y bydd y gwaith dymchwel ac adfer yn cael ei weithredu.ystyrir y bwriad yn dderbyniol i’w ganiatáu. (b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Cyngor Dosbarth Dwyfor wedi
gwrthod cais gan drigolion Porthmadog yn 1984 i gefnogi / cynorthwyo mewn
cynnal sinema yn y dref. Gwrthwynebiad i’r cais yma yn parhau yn fater sensitif
gan rai trigolion y dref. ·
Bod y Coliseum
wedi bod yn rhan fawr o gymuned Porthmadog ·
Llawer o ymdrechion wedi ei
gwneud i gadw’r Coliseum, gyda nifer o wirfoddolwyr
wedi rhoi eu hamser i geisio adfer yr adeilad ·
Ffrindiau Coliseum
wedi ffurfio yn 2011 ond heb lwyddo i sicrhau dyfodol i’r Coliseum ·
Tystiolaeth ddigonol o
ymdrechion y gymuned i geisio achub y Coliseum ·
Cais am gefnogaeth gan Cyngor
Gwynedd i faterion celfyddydol fydd yn cael eu trafod /cynnal i’r dyfodol Cynigwyd a eiliwyd, gyda
thristwch, i ganiatáu’r cais. (c) Yn ystod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais rhif C15/0034/37/LL - Parc Carafanau Elernion, Trefor Trosi bloc toiledau presennol yn uned wyliau, codi bloc toiledau newydd, lleoli dwy garafan sefydlog, lleoli 5 carafan teithiol, ardal barcio gysylltiedig a thirlunio. Aelod Lleol: Cynghorydd Llywarch Bowen Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Trosi bloc toiledau presennol yn uned
wyliau, codi bloc toiledau newydd, lleoli dwy garafán sefydlog, lleoli 5
carafán teithiol, ardal barcio gysylltiedig â thirlunio. (a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan
nodi bod sawl elfen i’r cais oedd yn cynnwys: • Trosi bloc toiledau presennol yn llety gwyliau
hunangynhaliol • Adeiladu bloc toiledau / cyfleusterau newydd • Gosod un garafán sefydlog
newydd • Lleoli 5 carafán deithiol (yn lle 5 carafán
sydd â thystysgrif eithriedig) • Gwaith tirlunio gan gynnwys
plannu coed a chreu mannau caled
ar gyfer parcio Ategwyd bod y safle mewn man cuddiedig o ffyrdd cyfagos ond sy’n
weladwy o dir uchel o fewn Ardal
o Harddwch Naturiol Eithriadol ac Arfordir Treftadaeth. Eglurwyd bod coed aeddfed
yn ffinio’r safle ar dair
ochr, a chae amaethyddol ar y ffin arall. Mae llwybr cyhoeddus
rhif 9 Llanaelhaearn yn croesi rhan
ogleddol y safle. Gohiriwyd trafodaeth ar y cais hwn ym
Mhwyllgor Cynllunio
06/07/15 ar gais yr ymgeiswyr er
mwyn eu galluogi
i ddiwygio'r cynllun i gynnwys
un garafán sefydlog yn hytrach
na dwy. O ran egwyddor y datblygiad, nodwyd bod Polisi Strategol 17 Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd yn gefnogol i
gynigion sy’n datblygu neu wella’r
amrywiaeth a’r safon o gyfleusterau twristiaeth os nad ydynt
yn niweidiol i’r amgylchedd, nodweddion diwylliannol yr ardal neu
fwynderau trigolion cyfagos mewn modd
arwyddocaol. Yn ogystal mae
Polisi D17 CDUG yn gefnogol i uwchraddio
safleoedd carafanau gwyliau sefydlog cyn belled a bod y cynnig yn cwrdd â chyfres
o feini prawf perthnasol. Nodwyd bod y cais yn cynnig gwelliannau i ansawdd a chyfleusterau'r
safle ac mae'r cynnydd mewn niferoedd
yr unedau sefydlog sy’n cael
ei gynnig yn dderbyniol o safbwynt y polisiau perthnasol a’r CCA. (b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod egwyddor y datblygiad yn dderbyniol ·
Bod y cais yn cydffurfio a pholisïau 17, D17 ac 18 sydd yn
cyfeirio at wella amrywiaeth a darpariaeth ar gyfer twristiaeth ·
Bod y cais yn cynnig gwelliannau
sylweddol - tirlunio a sgrinio pwrpasol i wella’r elfen weledol o diroedd uchel a llwybrau cyhoeddus ·
Ehangu'r dewis / math o lety drwy
amddiffyn cymeriad yr adeilad ·
Gwella'r ddarpariaeth o ran toiledau ar
y safle ·
Nid yw’r
gwelliannau yn cael effaith andwyol
na gweledol ar fwynderau Cynigwyd a eiliwyd i
ganiatáu’r cais. PENDERFYNWYD caniatáu gydag amodau : 1.
5 mlynedd 2. Yn unol â'r cynlluniau 3. Deunyddiau ar gyfer yr
adeiladau 4. Amodau bioamrywiaeth 5. Amodau tirlunio 6. Tymor safonol carafanau teithiol 7. Rhaid tynnu'r uned o’r
safle tu allan i’r
tymor 8. Defnydd
gwyliau yn unig - carafanau sefydlog a teithiol. 9 Rhaid cadw cofrestr
o ddefnyddwyr Nodiadau er gwybodaeth: Rhaid diogelu Llwybr
Cyhoeddus Rhif 9 Llanaelhaearn Sylwadau Uned Rheoli
Risg Llifogydd Sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru |
|
Cais rhif C15/0337/11/AM - Plas Llwyd, Stryd Fawr, Bangor Cais amlinellol ar gyfer dymchwel adeilad presennol ynghyd a chodi adeilad newydd yn darparu cyfanswm o 9 fflat (6 x 1 ystafell wely ac 3 x 2 ystafell wely). Aelod Lleol: Cynghorydd Jean Forsyth Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cadeiriwyd y drafodaeth ar y cais hwn
gan y Cynghorydd Gwen
Griffith Cais amlinellol ar gyfer dymchwel adeilad presennol ynghyd a chodi adeilad
newydd yn darparu cyfanswm o 9 fflat (6 x 1 ystafell wely ac 3 x 2 ystafell wely) (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y bwriad yn golygu dymchwel
yr adeilad presennol, ynghyd a chodi adeilad newydd
yn ei le i ddarparu 9 fflat
o fewn yr adeilad. Mae’r bwriad hefyd yn
darparu 5 llecyn parcio o fewn cwrtil
yr adeilad, ynghyd a storfa biniau a 2 llinell sychu. Nodwyd yn
y ffurflen gais bod mynediad, ymddangosiad, gwaith tirlunio, cynllun a graddfa yn ffurfio’r rhan
o’r cais amlinellol yma a bod yr adeilad bwriadedig
oddeutu’r un uchder a’r adeilad
presennol. Gan fod y bwriad yn cynnig 9 uned byw newydd, mae’n ofynnol ystyried canran
o’r unedau ar gyfer angen fforddiadwy. Y canran cyffredinol yw 30% sy’n
gyffelyb a 3 uned yn yr achos yma; Mae’r Uned Strategol Tai yn cytuno fod angen
ar gyfer unedau fforddiadwy ac wedi cytuno i’r nifer, a chynnig disgownt o 20%
er mwyn sicrhau eu bod yn fforddiadwy. Mae hyn ar sail fod y prisiau rhent a
gynhwyswyd yn Datganiad Tai Fforddiadwy yn uwch na’r hynny mae’r Uned Tai
Strategol yn cysidro i fod yn fforddiadwy. Nodwyd yr angen am wybodaeth bellach
o ran gosod amod 106 ar y datblygiad gan yn ddiweddar nad yw’r Awdurdod
Cynllunio Lleol wedi bod yn gofyn i CCG
gwblhau 106 ar ddatblygiadau tai newydd ganddynt oherwydd ei fod yn dyblygu eu
polisi gosod. Ystyriwyd fod y bwriad yn
cydymffurfio gyda holl bolisïau perthnasol
y Cynllun Datblygu Unedol a chyngor cenedlaethol perthnasol ac nad yw’r
bwriad yn debygol o achosi effaith andwyol sylweddol ar fwynderau’r
ardal leol nac ar unrhyw
eiddo cyfagos Cynigwyd a eiliwyd i ganiatáu’r
cais yn unol
gyda’r argymhellaid i ddirprwyo’r hawl
i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatau’r cais
yn ddarostyngedig i sicrhau trefniadau
ynghlyn a darparu tai fforddiadwy ac i amodau perthnasol. (b)
Yn ystod y drafodaeth nodwyd y prif sylwadau canlynol: ·
A fydd y fflatiau yn cael
eu darparu ar gyfer unigolion
sydd ar y rhestr tai? ·
Angen sicrwydd pwy yw perchennog
y safle ·
Os bydd y safle yn cael
ei rhyddhau rhaid sicrhau bod amod 106 yn cael
ei gynnwys ·
Nad oedd angen ystyried pwy yw’r ymgeisydd ·
Rhaid sicrhau bod y fflatiau
ar gyfer pobl leol ·
Cais i ohirio er mwyn
derbyn mwy o wybodaeth (c)
Mewn ymateb i’r sylwadau
uchod, nododd y Cyfreithiwr:- ·
Cais ydoedd am ddatblygiad tai
ac i’r Pwyllgor ddirprwyo hawl yn ddarostyngedig ar gwblhau cytundeb 106, ac os
daw gwybodaeth bellach i law mai CCG fydd y datblygwr, yna bydd angen
ailystyried yr amod. ·
Nid yw cysylltiad CCG a Cyngor Gwynedd yn berthnasol yma.
Nid yw ystyried
pwy yw’r ymgeisydd yn fater
cynllunio Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i’r cynnig i ohirio y cais er mwyn derbyn mwy ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cais rhif C15/0421/41/LL - Llety Plu, Llangybi, Pwllheli Estyniad i fodurdy presennol (diwygiad i gynllun a wrthodwyd dan gais rhif C15/0012/41/LL). Aelod Lleol: Cynghorydd Aled Ll. Evans Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Estyniad i fodurdy
presennol (diwygiad i gynllun a wrthodwyd dan gais rhif
C15/0012/41/LL) (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi
bod y cais wedi ei ohirio yn y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 6 Gorffennaf 2015 ar gais yr
Aelod Lleol. Nodwyd mai cais ydoedd
ar gyfer ymestyn modurdy presennol yn Llety
Plu, Llangybi. Mae’r modurdy sengl
presennol yn mesur oddeutu 6.3m o hyd ac oddeutu 5.1m o led (32m²)
ac wedi ei leoli yng nghornel
cwrtil yr eiddo. Mae’r Datganiad
Dylunio a Mynediad yn manylu mai’r
rheswm dros yr estyniad fyddai
ar gyfer darparu mwy o le i gadw offer a pheiriannau sy’n rhan o hobi casglu’r
perchennog. Mae caniatâd
cynllunio eisoes wedi ei roddi
i ymestyn y modurdy, sef cais
C13/0162/41/LL, oedd hefyd yn cynnwys ehangu
cwrtil y safle. Mae’r cwrtil eisoes wedi
ei ehangu ond nid yw’r
estyniad wedi ei gychwyn. Mae’r estyniad arfaethedig yn wahanol yn
yr ystyr ei fod yn
lletach na’r modurdy presennol i gyfeiriad y llwybr
cyhoeddus. Nodwyd bod y cais hwn yn ail gyflwyniad
o gais C15/0012/41/LL oedd ar gyfer estyniad
ychwanegol oedd ychydig mwy na’r
cais hwn sydd gerbron ac roedd yn gofyn
am 32 m² o arwynebedd llawr
ychwanegol (fyddai wedi golygu cyfanswm
o 94m² o arwynebedd llawr i’r modurdy cyfan).
Fe wrthodwyd y cais yma ym mis
Ionawr eleni am dri rheswm: Gor-ddatblygiad
o’r safle; Niweidiol i’r Ardal
Gadwraeth; Effaith ar Lwybr Cyhoeddus
Rhif 6 Llanystumdwy. Tynnwyd sylw at Polisi B24 y Cynllun Datblygu Unedol sydd yn argymell
caniatáu ymestyn adeiladau o fewn ffiniau datblygu, pentrefi gweledig a chefn gwlad dim ond bod y cynnig yn cwrdd â’r
ddau faen prawf isod: ·
Bod y dyluniad a’r raddfa’n gweddu
i’r prif adeilad a’r ardal
leol, ·
Na fydd yr estyniad yn arwain
at leihad annerbyniol mewn lle gwag amwynderol o fewn
cwrtil y tŷ Sylweddolwyd fod caniatâd eisoes wedi ei roddi am estyniad
i’r modurdy, ond amlygwyd pryder
sylweddol am faint a graddfa’r estyniad arfaethedig o gofio
mai adeilad atodol ydoedd. Ystyriwyd bod yr estyniad arfaethedig i’r modurdy yn
or-ddatblygiad o ran graddfa, maint a ffurf o’i
gymharu â’r prif adeilad ac yn debygol o gael effaith
ar osodiad yr ardal gadwraeth a'i fod yn groes i bolisïau B4, B22 a B24 CDUG. (a)
Gwnaed
y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn):- ·
Bod disgrifio'r
datblygiad fel ‘gor-ddatblygiad
‘estron’ yn mynd braidd dros ben llestri ·
Bod
arwynebedd y tŷ yn ddigonol i dderbyn maint yr estyniad i’r modurdy ·
Nad
oedd gwrthwynebiad wedi dod i law gan gymdogion ·
Y cwrtil eisoes wedi ei
ymestyn ·
Pwrpas yr adeilad yw darparu
mwy o le i’r ymgeisydd gadw offer a hen beiriannau ·
Anghydweld gyda’r effaith ar
fwynderau gweledol - y datblygiad yn cydymffurfio â nodweddion yr ardal ac
felly nid yw yn amharu ar fwynderau gweledol · Cynnig bod y Pwyllgor Cynllunio yn ymweld â’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Cais rhif C15/0435/20/LL - Bron Menai, Helen Terrace, Y Felinheli Cais i newid defnydd tŷ 3 ystafell wely i ddau fflat 2 ystafell wely ynghyd a dymchwel modurdy a chreu 3 llecyn parcio a chadw'r caniatad cynllunio rhif C08A/0420/20/LL ar gyer codi tŷ ychwanegol ar y safle. Aelod Lleol: Cynghorydd Sian Gwenllian Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais i newid defnydd tŷ 3 ystafell wely i ddau fflat 2 ystafell wely
ynghyd a dymchwel modurdy a chreu 3 llecyn parcio a chadw'r caniatâd cynllunio
rhif C08A/0420/20/LL ar gyfer codi tŷ ychwanegol ar y safle. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y
cais yn un cymhleth: yn gais llawn i newid defnydd tŷ 3 ystafell wely i
ddau fflat 2 ystafell wely ynghyd a dymchwel modurdy presennol a chreu 3 llecyn
parcio ychwanegol. Yn ogystal, ac o fewn yr un safle, bwriedir codi tŷ
ychwanegol a ganiatawyd (drwy apêl) o dan gyfeirnod C08A/0420/20/LL. Nodwyd bod
holl fanylion hanesyddol y cais wedi ei gynnwys yn yr adroddiad. Mae’r bwriad i
bob pwrpas, yn golygu datblygu cyfuniad
o’r caniatadau sydd eisoes wedi eu rhoi er mwyn
galluogi trosi’r eiddo presennol i ddau fflat 2 ystafell wely, ac er mwyn
datblygu tŷ newydd 3 llofft, a’r parcio cysylltiol ar gyfer y tair uned i
gyd o fewn yr un safle. Ystyriwyd hefyd bod y bwriad yn cydymffurfio gyda
gofynion polisïau B22, B24 a B25 o’r Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd Nodwyd bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn ar sail effaith ar breifatrwydd a
golau oherwydd y bwriad o godi tŷ newydd deulawr ar y safle. Nodwyd bod y
materion hyn yn cael eu trafod yn y penderfyniad apêl, ac mae’n datgan fod
cymeriad yr ardal yn cynnwys adeiladau sy’n agos i’w gilydd ar ffurf terasau
wedi cael eu cymysgu’n fwy diweddar gan eiddo o wahanol arddulliau, meintiau a
chynlluniau ac mae amrywiaeth sylweddol yn nhrefniant gofodol yr adeiladau a’r
lle o’u cwmpas. O ystyried yr holl
faterion perthnasol, polisïau lleol a chenedlaethol, sylwadau a dderbyniwyd ar
y cais gan gynnwys y gwrthwynebiad, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yma yn
annerbyniol ac o ganlyniad yn bodloni gofynion y polisïau. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau
canlynol:- ·
O ystyried hanes a chefndir y
cais, y datblygiad eisoes wedi ei
ganiatáu ·
Maint y datblygiad heb ei
addasu ac felly yn gwbl addas ·
Nid yw yn amharu ar y tŷ
gyferbyn ac felly nid yw yn or-ddatblygiad ·
Nid oes effaith ar fwynderau
gweledol ·
Gofynion parcio yn parhau'r un
fath er i’r safle parcio gael ei ail leoli o fewn y safle ·
Cais i gymeradwyo ar sail
argymhelliad y Swyddog Cynllunio (c) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Hanes a chefndir helaeth i’r
cais / safle ·
Ei bod o’r farn
bod y datblygiad yn or-ddatblygiad ·
Cydymdeimlo gyda thrigolion
lleol o ran yr holl ansicrwydd sydd wedi bod ynghylch y safle ·
Nid yw newid i’r mannau parcio
yn dderbyniol o ystyried ei fod yn agos i gornel beryglus ·
Er hynny, o ran tacluso'r caniatadau cynllunio bod angen caniatáu, ond pryder bod dau
adeilad mawr yn cael eu cynnwys ar safle bach iawn. Cynigwyd
a eiliwyd i ganiatáu’r cais. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais Amodau 1. Amser 2. Cydymffurfio gyda chynlluniau |
|
Cais rhif C15/0603/20/CR - Menai Marina, Hen Gei Llechi, Y Felinheli Cais ol-weithredol i gadw 3 giat caeedig diogelwch. Aelod Lleol: Cynghorydd Sian Gwenllian Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ôl-weithredol i gadw 3
giât caeedig diogelwch. (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y
cais yn un rhestredig ôl-weithredol i gadw 3 giât gaeedig diogelwch wedi lleoli
a’r wal yr harbwr. Nodwyd bod y 3 giât wedi lleoli ar y wal ogleddol, de a
gorllewinol, ble roedd ysgolion presennol yn mynd i lawr at y cychod. Oherwydd
materion diogelwch mae’r giatiau wedi cael ei gosod o gwmpas yr ysgolion ac yn
gysylltiedig i’r ddaear gyda 4 polten. Mae’r 3 giât
yn mesur 2.2m o uchder ac 1.8m a 1.6m o hyd
ac maent wedi ei gwneud o haearn wedi eu paentio yn ddu. Mae rheiliau
atodol wedi lleoli o gwmpas y cei yn o gystal ag offer morwrol sydd wedi eu
codi ar ochr y cei. Mae’r safle yn rhan
o’r marina presennol sydd wedi ei leoli yn y Felinheli. Mae wal yr harbwr wedi
ei restru fel adeilad rhestredig gradd II. Mae’r safle o fewn parth C2 ardal
llifogydd. (b) Cyfeiriwyd at wrthwynebiadau oedd wedi ei derbyn ynglŷn ag effaith y
giatiau ar fwynhad y cyhoedd o’r marina. Er gwaethaf y ffaith fod y giatiau
presennol yn eithaf mawr ar y safle, rhaid ystyried cyd-destun y safle yn ei
gyfanrwydd - mae’r safle yn rhan o farina gweithredol gyda chychod sylweddol
a’r holl daclau cysylltiedig gyda gweithgareddau hwylio i’w gweld o gwmpas. Am
y rhesymau hyn, nid yw’r giatiau i’w gweld allan o le ar y safle yma nac yn
cael effaith ar gymeriad y wal restredig. Mae’r giatiau yn gysylltiedig gyda’r
rheiliau presennol ac yn dderbyniol yn y cyd-destun hwnnw hefyd. Ni ystyriwyd y byddai caniatáu’r cais yn cael
effaith andwyol a’r edrychiad na chymeriad hanesyddol yr adeilad rhestredig na
mwynderau’r ardal yn ehangach ac felly ystyrir fod y bwriad yn unol â pholisïau
B2 a B3 CDUG. (c) Roedd y cyfiawnhad am y giatiau yn datgan eu bod yn rhan hanfodol o sicrhau
iechyd a diogelwch ar y marina a'u bod yn ymdoddi i’w cefndir a’r holl
weithgareddau hwylio presennol a welir yno. Cynigwyd a eiliwyd i ganiatáu’r
cais. PENDERFYNWYD caniatáu yn unol â’r argymhelliad. |