Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorydd Endaf Cooke a Jean Forsyth (Aelod
Lleol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Datganodd y Cynghorydd Gwen Griffith fuddiant personol yn Eitem
1 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C13/1412/13/LL) oherwydd bod ei mab yn byw
gerllaw mewn safle allasai gael ei orlifo ag hefyd yn amharu ar ei fwynderau ef
a’i deulu. Roedd yr Aelod o’r farn ei bod yn fuddiant a oedd
yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais a nodir. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn
aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd John Wyn Williams
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 4 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C14/1111/25/LL). ·
Y Cynghorydd E Selwyn
Griffiths, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 4 ar y
rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C15/0109/44/LL); ·
Y Cynghorydd Anwen Davies,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 4 ar y rhaglen,
(ceisiadau cynllunio rhifau C15/0162/33/LL); ·
Y Cynghorydd Eirwyn Williams,
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C15/0226/35/LL). ·
Y Cynghorydd Alwyn Gruffydd,
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 4 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C15/0255/44/LL). ·
Y Cynghorydd Gwen Griffith,
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 4 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C15/0345/15/LL). Ymneilltuodd yr Aelodau i
ochr arall y Siambr yn ystod
y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw
ac ni fu
iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 18 Mai 2015, fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18 Mai 2015 fel
rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth
i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.
Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais rhif C13/0412/13/AM - Tir Maes Coetmor, Bethesda Cais amlinellol ar gyfer codi 69 o dai, gan gynnwys 20 uned fforddiadwy. Aelod Lleol: Cynghorydd Ann Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais amlinellol ar
gyfer codi 69 o dai, gan
gynnwys 20 uned fforddiadwy (a)
PENDERFYNWYD o ganlyniad i
sylwadau a dderbyniwyd gan yr Uned Bioamrywiaeth, gohirio’r cais er mwyn derbyn
gwybodaeth bellach ynglŷn ag ystlumod, coed a cholli cynefin pwysig. (b)
Mewn ymateb
i sylw ynglŷn â chais i ddosbarthu'r datganiad iaith gyda’r rhaglen,
cynigiwyd bod modd trafod cytundeb y broses dosbarthu yn y Pwyllgor Craffu
priodol neu’r Pwyllgor Iaith. |
|
Cais rhif C14/1111/25/LL - Coed Fodol, Y Felinheli Darparu safle sipsiwn parhaol sy'n cynnwys 8 llecyn caled gyda unedau parhaol, creu mynedfa a trac gerbydol a phont, codi bloc toiledau a storfa biniau, ynghyd a gwaith draenio a gwaith trin carthffosiaeth a gwaith tirweddu. Aelod Lleol: Cynghorydd John Wyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Darparu safle sipsiwn parhaol sy'n cynnwys 8 llecyn
caled gydag unedau parhaol, creu mynedfa a thrac cerbydol a phont, codi bloc
toiledau a storfa biniau, ynghyd a gwaith draenio a gwaith trin carthffosiaeth
a gwaith tirweddu (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y
cais wedi ei gyflwyno er mwyn darparu safle sipsiwn parhaol sy’n cynnwys 8
llecyn caled gydag unedau parhaol, creu mynedfa a thrac cerbydol a phont dros
yr afon, codi bloc toiledau a storfa biniau, ynghyd a gwaith draenio a gwaith
trin carthffosiaeth a gwaith tirweddu. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli ar
ddarn o dir rhwng y B4547 a’r A487 ger cylchfan rhwng
Felinheli a Bangor. Nodwyd bod rhannau o’r safle, ynghyd a rhannau o’r fynedfa
a’r briffordd B4547 wedi eu lleoli o fewn parth llifogi
C2. (b)
O ran egwyddor y datblygiad,
nodwyd bod polisi CH16 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd yn ymwneud a chynigion
ar gyfer safleoedd sipsiwn newydd, a bod y polisi yn caniatáu cynigion am
safleoedd newydd yn ardal y Cynllun ar yr amod y darparwyd tystiolaeth o wir
angen am y datblygiad. Nid yw’r cynllun gosodiad safle er hynny
yn dangos llecynnau parcio ar gyfer cerbydau
mawrion, carafanau teithiol nac ardal
agored ar gyfer amwynder/sychu dillad/chwarae
ar gyfer plant, ac oherwydd y nifer uchel o leiniau ni ystyrir
fod lle digonol
ar gyfer troi cerbydau mawrion/cerbydau sy’n towio.
Ychwanegwyd nad
yw’r bwriad yn darparu cyfleusterau
mwynderau ar wahân i bob llain,
sydd yn cael
ei gynnig fel rhan o’r
cais ac sydd i’w rannu rhwng
yr 8 uned yn ddigonol. Nid
oedd gwybodaeth ddigonol ar gyfer
asesu effaith sŵn y briffordd a’r gefnffordd gerllaw ar drigolion
y safle bwriadedig wedi ei gyflwyno. (c) Nodwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth yn cadarnhau fod y safle wedi
ei leoli ar dir coediog gydag afon yn rhedeg drwy’r
safle. Mae’r tir yn wlyb. Mae cofnod o foch daear a draenog ar y briffordd ger
y safle ac mae trochydd yn yr afon a thebygolrwydd
fod dyfrgwn yno hefyd. Mae afonydd yn gynefin a choridor bywyd gwyllt pwysig ac
y dylid osgoi datblygiad sy’n debygol o gael effaith arnynt. Yn ychwanegol, mae
Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn fod diffyg gwybodaeth
ecolegol er mwyn gwneud asesiad llawn o’r bwriad, a hefyd yn nodi fod yr
adeiladau toiled/storfa yn rhy agos i’r afon. Nodir fod angen adroddiad coed,
cynllun rheoli rhododendron, ac y dylid gwahardd cŵn o’r safle oherwydd
bod dyfrgwn yn bresennol yno, ac nad yw’n glir os bydd y gofyniad hynny yn
realistig ar safle fel hyn. (ch) Ar sail sylwadau’r Uned Bioamrywiaeth, ystyriwyd nad yw’r datblygiad yn addas ar gyfer safle mor sensitif, ac y byddai’n debygol o gael effaith andwyol ar goridor bywyd gwyllt sydd o werth uchel. Tynnwyd sylw bod Asesiad Canlyniad Llifogydd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais ac yn dilyn asesu’r Asesiad Canlyniad Llifogydd, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais rhif C14/1248/11/AM - Cyn Safle Jewsons, Penlon Works, Stryd Fawr, Bangor Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ol i godi 4 adeilad fyddai'n cynnwys 77 uned byw, creu mynedfa gerbydol newydd gyda lonydd cysylltiol, mannau parcio a chyfleusterau cysylltiol. Aelod Lleol: Cynghorydd Jean Forsyth Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl i godi 4 adeilad
fyddai'n cynnwys 77 uned byw, creu mynedfa gerbydol newydd gyda lonydd
cysylltiol, mannau parcio a chyfleusterau cysylltiol. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar y cais gan egluro mai cais amlinellol ydoedd ar
gyfer bwriad sydd yn cynnwys manylion
mynedfa gerbydol a gosodiad yr adeiladau oddi mewn i’r safle fydd yn cynnwys 4
adeilad gyda 77 uned byw neu fflatiau hunan gynhaliol. Eglurwyd bod y safle wedi
ei leoli oddi mewn i ffiniau datblygu dinas Bangor, sydd wedi ei ddynodi fel
canolfan isranbarthol yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd (Gorffennaf 2009).
Mae’r safle mewn lleoliad gymharol amlwg yn gyfochrog gyda rhan isaf y Stryd
Fawr o fewn ardal a adnabyddir fel Hirael. Defnydd diweddaraf y safle oedd fel busnes gwerthu
nwyddau adeiladu (Jewsons), sydd bellach wedi dod i
ben. Mae’r holl adeiladau wedi eu dymchwel a’r safle cyfan bellach yn segur. (b)
Egwyddor y datblygiad yw’r
ystyriaeth bennaf yn yr achos yma ac o ystyried y manylion sydd wedi’u cyflwyno
am gymeradwyaeth fel rhan o gais amlinellol ynghyd a lleoliad y safle o fewn
ardal breswyl ag o fewn ffin datblygu dinas Bangor credwyd fod y bwriad yn
dderbyniol o safbwynt y mater hwn. (c) Nodwyd y byddai’r unedau unigol yn amrywio o ran eu maint yn
ddibynnol ar iddynt fod yn uned 1 neu 2 ystafell wely ond maent oll yn cynnwys
cegin, ystafell fyw ac ystafelloedd ymolchi ar wahân. Mae’r safle mewn lleoliad
gymharol amlwg yn y rhan yma o’r Ddinas Bangor. Mae tai preswyl yn amgylchynu’r
safle ac yn amrywio o ran eu maint, dyluniad a gorffeniad. Datganiad yr Uned
Strategol Tai yw bod galw cyffredinol am dai fforddiadwy ym Mangor
ac felly y dylid cynnwys 23 yn uned fforddiadwy fel rhan o’r cynllun hwn. Mae’n
ymddangos mai pris cyfartaledd fflat 2 lofft yn ardal Bangor yw £116,000 tra
bod fflat 1 ystafell wely yn £90,000.
Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi darparu adroddiad manwl ar ffurf asesiad
o’r farchnad dai yn lleol a’r angen ac yn yr achos yma oherwydd maint a
phrisiad yr unedau, credir fod yr unedau eisoes yn fforddiadwy beth bynnag. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol
a dderbyniwyd. (ch) Cynigiwyd
ac eiliwyd i ohirio y cais gan nad oedd digon o wybodaeth wedi ei gyflwyno. Pleidleisiwyd ar y cynnig.
Disgynnodd y cynnig Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais (d) Nodwyd
y sylwadau canlynol o blaid yr argymhelliad ·
Cymeradwyo bod y datblygwyr
wedi gwrando ac ymateb i sylwadau’r Pwyllgor ·
Nifer yr unedau wedi lleihau yn
sylweddol ynghyd â gofod addas rhwng
y blociau ·
Y safle wedi bod yn segur ers
peth amser ac yn denu llygredd ·
Nid oes darpariaeth ddigonol
yn lleol am unedau i bobl sengl ac felly'r datblygiad
yn ymateb i’r galw ·
Cais am amod tai fforddiadwy
ac amod mai unedau ar
gyfer bobl leol ydynt (dd) Nodwyd y sylwadau canlynol yn groes i’r
argymhelliad ·
Pryder nad oes buddsoddiad i
adfer canol y ddinas · Pryder ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais rhif C15/0109/44/LL - Gelert House, Ffordd Penamser, Porthmadog Newid defnydd i gyfleuster ailgylchu deunyddiau a gweithgynhyrchu tanwydd solet sydd wedi ei adfer. Aelod Lleol: Cynghorydd E. Selwyn Griffiths Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd i gyfleuster ailgylchu deunyddiau a gweithgynhyrchu tanwydd
solet sydd wedi ei adfer (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau
a Gwastraff bod y cais hwn yn rhannol ôl-weithredol ac yn ymwneud â newid
defnydd perthnasol o uned ddiwydiannol sy’n bodoli i gyfleuster ailgylchu
deunyddiau ar gyfer gweithgynhyrchu Ynni Solid wedi’i Adfer (SRF) allan o
wastraff sgip o ffynonellau lleol, wedi’i ddidoli ac sydd heb fod yn. Bydd y
datblygiad yn destun mewnbwn o 72,000 tunnell y flwyddyn a bydd yr holl
weithgaredd yn cael ei gynnal tu mewn i’r adeilad. Bwriedir gweithgynhyrchu SRF
i’w werthu i gwmnïau cynhyrchu ynni a rhai eraill sy’n defnyddio tanwydd solid. (b)
O ran egwyddor y datblygiad, eglurwyd bod Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud
yn glir drwy
fabwysiadu dogfen strategaeth gwastraff cyffredinol i Gymru,
Tuag at Ddyfodol Ddiwastraff, ei fod wedi ymrwymo
i strategaeth hirdymor ar gyfer
effeithlonrwydd adnoddau a rheoli gwastraff rhwng nawr a 2050, yn seiliedig ar
lefelau uchel iawn o ailgylchu gwastraff a chompostio ynghyd â’r lefelau
isaf posib o dirlenwi. (c)
Amlygwyd bod datblygu cyfleuster i gynhyrchu ynni
solid wedi’i adfer yn dderbyniol mewn
egwyddor yn y lleoliad hwn ac yn cydymffurfio â pholisïau a chanllawiau cenedlaethol a rhanbarthol a hefyd gyda Pholisïau
C3, C22 a D2 y CDU yn amodol
ar asesiad o'r ystyriaethau cynllunio perthnasol. Mynegwyd bod yr adeilad yn adeilad
pwrpasol ar gyfer y math yma o weithgaredd. Tynnwyd sylw at y sylwadau
ychwanegol a dderbyniwyd (ch) Yn manteisio ar
yr hawl i
siarad nododd asiant ar ran yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Mai amrywiad
bychan ydyw o’r defnydd presennol ·
Y lleoliad yn
addas, yr adeilad wedi ei insiwleiddio i safon uchel ·
Ni
fydd ardrawiad sŵn ·
Oriau gwaith yn y dydd yn unig,
6 diwrnod yr wythnos ·
Cyflawni tuag at her Gwynedd i
gyflawni eu targedau rheoli gwastraff ·
Tystiolaeth yn dangos fod y cais yn
un dilys ·
Bydd cyflogaeth o 11 person ar y dechrau ·
Bod y lleoliad yn
cydymffurfio â pholisïau a chanllawiau a rhanbarthol ·
Bod y safle eisoes
gyda chaniatâd cynllunio ar gyfer warws a chanolfan dosbarthu (d)
Gwnaed y pwyntiau canlynol
gan yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- · Bod y safle wedi
bod yn wag ers tro · Pryderon pobl leol yn cynnwys, materion iechyd a
diogelwch, llwch a safon yr awyr, effaith sŵn o’r gwaith a sŵn o
drafnidiaeth · Os daw ceisiadau am ychwanegiadau
neu ehangu pellach bod rhaid cyflwyno cais cynllunio
penodol · Angen sicrhau monitro
rheolaidd yng nghyd-destun y gwaith fydd yn cael
ei gyflawni ar y safle ynghyd
â monitro diogelwch tân · A fydd y dŵr ar y safle yn cael ei storio? A fydd y
dŵr yn llifo allan? Angen eglurder. · Angen i oriau gwaith gyd-fynd ac oriau derbyn a danfon
deunyddiau (dd)
Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais (e)
Nodwyd y sylwadau canlynol
o blaid yr argymhelliad · Er yn derbyn pryderon Cyngor Tref Porthmadog a’r gymuned ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cais rhif C15/0119/15/HY - Siop Spar, Stryd Fawr, Llanberis Gosod arwyddion newydd gan gynnwys arwyddion wedi eu goleuo. Aelod Lleol: Cynghorydd Trevor Edwards Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosod arwyddion newydd gan gynnwys arwyddion wedi eu goleuo (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi ei fod yn gais arddangos
hysbysebion yw hyn sy’n cynnwys amryw arwyddion wedi eu goleuo ar edrychiad
blaen Siop Spar ac un wrth y mannau parcio ar Stryd
Fawr, Llanberis. Daw hyn ar ar sail bod defnyddiwr ychwanegol yn cael ei
sefydlu oddi fewn i’r siop sydd angen hysbysebu drwy osod arwyddion yn allanol.
Yn dilyn pryderon y Cyngor Cymuned a’r gwrthwynebwyr ac yn dilyn ymweliad safle
gan y Swyddog Cynllunio cyflwynwyd cynlluniau diwygiedig oedd yn nodi :- ·
Mai
dim ond rhan o’r arwydd sy’n sefyll ar ben ei hun sy’n cael ei oleuo erbyn hyn
yn hytrach na’r arwydd yn ei gyfanrwydd
fel y’i cyflwynwyd yn wreiddiol. ·
Lleihad
yn hyd yr arwyddion ffasgia uwchben y prif ddrws o
4.1m i 3.1m gyda’r llythrennau yn unig i’w goleuo. ·
Arwyddion
wedi eu haddasu i fod yn ddwyieithog. Ategwyd bod y ddogfen NCT 7 Rheoli Hysbysebion awyr Agored yn datgan dim
ond er budd amwynder a diogelwch y cyhoedd (effaith ar ddefnydd a gweithrediad
diogel unrhyw fath o draffig neu drafnidiaeth) y gellir
rheoli arddangos hysbysebion awyr agored. Gan ystyried cynnwys yr asesiad yn ei
gyfanrwydd nodwyd fod y bwriad, fel y’i diwygiwyd, yn dderbyniol mewn egwyddor
ac yn cydymffurfio â pholisïau a chyngor cynllunio lleol a chenedlaethol. (b) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r
cais (c) Nodwyd sylwadau o’r drafodaeth: ·
Bod angen
rheoli goleuadau masnacha ·
Rhaid ystyried llygredd
goleuni - yr adeilad yn amlwg yng nghanol y pentref ac felly beth yw’r angen am
arwyddion wedi eu goleuo ·
Angen arwyddion i hysbysebu
busnesau ·
Angen sicrhau bod yr arwyddion yn ddwyieithog PENDERFYNWYD caniatáu y cais Amodau: 1. Yn unol â’r cynlluniau
diwygiedig. 2. Cyfyngiadau
ar lefel goleuo’r arwyddion. 3. Goleuo’r arwyddion rhwng 7:00 – 23:00 Llun i Sul (sydd
yn cyd-fynd ac oriau agor y siop). |
|
Cais rhif C15/0162/33/LL - Gallt y Beren, Rhydyclafdy Cais rhannol ol-weithredol ar gyfer codi adeilad a’i ddefnyddio fel modurdy masnachol, newid adeilad a ganiatawyd ac a ddefnyddiwyd yn flaenorol fel modurdy masnachol yn Gallt y Beren i ddefnydd amaethyddol, ynghyd a gwelliannau bwriedig i’r fynedfa i’r B4415 o Hendre Wen. Aelod Lleol: Cynghorydd Anwen J. Davies Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cais rhannol ôl-weithredol ar gyfer codi adeilad a’i ddefnyddio fel modurdy
masnachol, newid adeilad a ganiatawyd ac a ddefnyddiwyd yn flaenorol fel
modurdy masnachol yn Gallt y Beren i ddefnydd amaethyddol, ynghyd a gwelliannau
i’r fynedfa i’r B4415 o Hendre Wen (a) Ymhelaethodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio ar gefndir y cais. Adroddwyd i’r Pwyllgor Cynllunio ar y 27
Ebrill 2015 a bwriad y Pwyllgor oedd caniatáu’r cais yn groes i argymhelliad
swyddogion. Y rhesymau a roddwyd gan y Pwyllgor dros gefnogi’r cais oedd
oherwydd eu bod yn ystyried bod y datblygiad yn cydymffurfio a pholisi D7 o
Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd (Gweithdai Gwledig neu Unedau
Diwydiannol/Busnes ar raddfa fach tu allan i ffiniau datblygu); bod y
datblygiad yn darparu cyflogaeth yn lleol; bod angen lleol yn ddaearyddol, a
bod diffyg busnes cyffelyb o fewn cyrraedd y
safle. Tynnwyd sylw y derbyniwyd
1 llythyr o gefnogaeth i’r cais ar y sail fod yr effaith weledol yn cael ei
ystyried yn dderbyniol, nad oedd safleoedd amgen addas ac nad oedd yna effaith
o ran trafnidiaeth, ers cyhoeddi’r adroddiad. (b) Manylwyd ar gefndir y cais gan nodi mai’r elfen ôl-weithredol o’r cais yw
cadw adeilad a’i ddefnyddio fel modurdy masnachol gydag arwynebedd llawr o
264m2 ger annedd a adnabyddir fel Hendre Wen, ynghyd a newidiadau i’r fynedfa
i’r B4415 o Hendre Wen. O ran hanes cynllunio'r safle tynnwyd sylw y gwrthodwyd cais i newid
defnydd sied amaethyddol yn Hendre Wen i fod yn garej a gorsaf MOT ar 21
Chwefror 2013, ac o ganlyniad rhoddwyd rhybudd gorfodaeth i ddiweddu’r defnydd
a dymchwel yr adeilad a ddefnyddir fel modurdy masnachol a symud yr holl
ddeunydd cysylltiedig â’r defnydd hwnnw oddi ar y
safle. Adroddwyd yr apeliwyd y rhybudd gorfodaeth a’r gwrthodiad cynllunio,
gwrthodwyd y ddwy apêl yn Mai 2014. Diwygiwyd y rhybudd gorfodaeth, yn unol â
phenderfyniad yr Arolygiaeth Cynllunio, er mwyn ymestyn y cyfnod cydymffurfio
efo’r rhybudd i 12 mis. Nodwyd y byddai’r cyfnod yn dod i ben ar 4 Mai 2015,
ond nad oedd unrhyw ymgais wedi ei wneud hyd yn hyn i gydymffurfio ag anghenion
y rhybudd. Amlygwyd bod yr ymgeisydd yn
gweithredu yn groes i’r argymhelliad yr Arolygydd ac felly yn troseddu. Pwysleiswyd fod yr hanes cynllunio diweddar i’r cais yn
sefydlu’n gadarn a chlir beth oedd y safbwynt polisi cynllunio cyfredol gyda’r
cais yma, a bod y cais yn gwbl groes i bolisi o ran egwyddor. Nodwyd gan fod y datblygiad yn un diwydiannol ei fod yn hanfodol ystyried os oedd gan y datblygiad anghenion lleoli arbennig dan bolisi D5 o’r CDUG. Yn yr achos yma nid oes unrhyw anghenion lleoli arbennig i leoli busnes ar y safle penodol hwn yng nghefn gwlad agored, yn arbennig o gofio bod gan yr ymgeisydd fusnes sefydledig mewn sied ar y fferm deuluol gyferbyn a’r safle yn bresennol. Nodwyd bod unedau ar gael yn ardaloedd fel Nefyn ac Y Ffor a fyddai o bosib yn cydymffurfio gydag anghenion yr ymgeisydd, ac ystyriwyd y dylid archwilio’r posibilrwydd o addasu a defnyddio un ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Cais rhif C15/0226/35/LL - Garage, Lôn Merllyn, Cricieth Dymchwel modurdy presennol a chodi uned gwyliau deulawr. Aelod Lleol: Cynghorydd Eirwyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel modurdy presennol a chodi uned gwyliau deulawr (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi
mai'r bwriad yw dymchwel modurdy presennol a chodi uned wyliau deulawr yn ei
le. Mae’r safle wedi ei leoli gerllaw i ffin ddatblygu Criccieth. I’r gogledd
o’r safle mae llinell Rheilffordd y Cambrian ac i’r
de a’r gorllewin mae maes parcio cyhoeddus. Amlygwyd bod pensaernïaeth ganol
Criccieth yn draddodiadol iawn, ond o gwmpas safle’r cais mae tai mwy modern ac
mae caffi Morannedd wedi ei restru fel adeilad
(modern) Gradd II. Mae dyluniad y bwriad yn fodern ond gyda defnydd gofalus o
ddeunyddiau a lliwiau ni ystyrir bydd y datblygiad yn nodwedd estronol. (b) Derbyniwyd gwrthwynebiad gan berchennog yr eiddo sydd ar yr ochr arall i’r
rheilffordd o’r safle yn datgan pryder ynghylch yr effeithiau mwynderol ar ei eiddo. Wrth dderbyn y byddai niwed i’r
golygfeydd o’r tŷ tua’r castell, ni fyddai’r adeilad newydd yn union o
flaen y tŷ presennol ac fe fyddai golygfeydd agored i’r de i gyfeiriad y
môr yn parhau. Ni ystyriwyd felly y byddai’r datblygiad yn cael effaith
gormesol ar drigolion Merllyn Crossing Cottage. Yn ogystal, o ystyried y pellter fydd rhwng yr
adeiladau, ni ystyriwyd y byddai colled goleuni arwyddocaol yn deillio o’r
datblygiad nac yn cael effaith gormesol. Nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
Amlygwyd bod amod ychwanegol i sicrhau preifatrwydd
i Merllyn Crossing Cottage
drwy osod sgrin preifatrwydd ar y balconi cefn a gwydr afloyw yn y ffenestr
cefn ar y llawr cyntaf. (c) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
nododd gwrthwynebydd y pwyntiau canlynol:- ·
Pryderon ynglyn
a mynediad diogel i ddefnyddwyr Llwybr yr Arfordir ·
Pryderon ynglyn
a diogelwch ffordd gan y buasai'r eiddo bwriadedig yn
atal golygfa glir o drafnidiaeth yn dod i lawr yr allt a cherddwyr yn croesi'r
ffordd ·
Pryderon y bydd golygfa'r tai
cyfagos yn cael ei ddifetha ·
Bod ‘cyfamod’ i olygfa rhwng
cymdogion ·
Bod adeilad deulawr yn
difethaf golygfa o’u heiddo. (ch) Mynegodd yr aelod lleol (a oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), ar sail cynllunio nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad
i’r cais a'i fod yn cytuno gyda’r argymhelliad a’r amodau. (d) Mewn ymateb i’r sylw ynglyn â chyfamod preifat,
mynegodd y Cyfreithiwr, mai trafodaeth rhwng y perchnogion yn unig yw hyn ac
nid ydyw yn ystyriaeth i’r Pwyllgor Cynllunio. (dd) Cynigwyd a eiliwyd i ganiatáu’r
cais. (e)
Nodwyd sylwadau o’r drafodaeth: ·
Bod yr eiddo presennol yn
ddolur llygad ar ochr y ffordd. Criccieth yn dref hyfyw a llewyrchus ac felly
yn croesawu'r bwriad. ·
Garej oedd ar y safle ac felly
wedi bod yn safle prysurach dros y blynyddoedd ·
Y gosodiad bwriadedig
yn isel ac felly nid yw yn dramgwydd i eraill ·
Ystyried
adeilad un llawr yn hytrach na deulawr? (a) Mewn ymateb i’r sylw ynglyn ag ystyried adeilad un llawr, nodwyd bod trafodaethau helaeth wedi bod rhwng yr ymgeisydd a’r pensaer a derbyniwyd bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Cais rhif C15/0255/44/LL - Cyn Furniture Wales, Heol Dulyn, Tremadog Newid defnydd o ddosbarth busnes A1 (siopau) i ddosbarth busnes D2 (ymgynnull a hamdden) er galluogi darparu dosbarthiadau celfyddyd milwrol. Aelod Lleol: Cynghorydd Alwyn Gruffydd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd o ddosbarth busnes A1 (siopau) i ddosbarth
busnes D2 (ymgynnull a hamdden) er galluogi
darparu dosbarthiadau celfyddyd milwrol. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi mai cais ydoedd
ar gyfer newid adeilad (cyn warws manwerthu)
o ddefnydd A1 (siop) i ddefnydd D2 (ymgynnull a hamdden) ar gyfer defnydd
fel stiwdio i ddarparu dosbarthiadau
celfydd milwrol (martial
arts). Nodwyd bod yr uned wedi bod yn
wag ers cyfnod ac nad oes bwriad gwneud unrhyw
newidiadau allanol. Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol, a nodwyd bod polisi C3 yn cymeradwyo
ceisiadau sy’n rhoi blaenoriaeth i ail defnyddio adeiladau a ddatblygwyd o’r
blaen yn hytrach na defnyddio safleoedd tir glas. Nodwyd hefyd bod
gwrthwynebiadau gan drigolion lleol wedi derbyn ystyriaeth lawn a bod ymatebion
i’r cyfnod ymgynghorol wedi ei rhestru yn yr adroddiad. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd a hefyd bod yr
ymgeisydd wedi darparu gwybodaeth o ran maint y dosbarthiadau fydd yn cael eu
cynnal. (b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:- ·
Bod y cwmni
yn rhedeg dosbarthiadau drwy Wynedd. ·
Bod y cwmni yn dysgu parch,
rhoi hyder, gwybodaeth iechyd a lles i blant ·
Yn llogi ystafell yn yr ysgol
leol, ond y bwriad yw sefydlu
safle eu hunain ·
Y busnes
yn cefnogi busnesau lleol eraill yn yr
ardal (c) Mynegodd yr aelod lleol
(a oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn) y pwyntiau canlynol: ·
Y busnes blaenorol wedi cau
oherwydd datblygiad y ffordd osgoi ac o ganlyniad wedi gosod her i’r pentref
barhau yn hyfyw ·
Gwrthwynebiadau yng nghyd
destun parcio. Ymddengys er hynny mai
safle gollwng a chodi fydd ei angen ac nid safleoedd parcio parhaol ·
Ei fod yn gefnogol i’r cais ar
fenter yn ychwanegiad cyffrous i fwrlwm y pentref. (ch) Cynigwyd a eiliwyd i ganiatáu’r
cais PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ar
argymhelliad Amodau 1. Cychwyn datblygiad o fewn 5 mlynedd 2. Cwblhau’r datblygiad yn unol â’r
Datganiad Dyluniad a Mynediad a’r cynlluniau
a gyflwynwyd |
|
Cais rhif C15/0276/16/LL - Zip World, Chwarel Penrhyn, Bethesda, Bangor Cais llawn i godi adeilad tri llawr newydd ar gyfer canolfan cwmni Zip World i gynnwys derbynfa/adnoddau cysylltiol gan gynnwys caffi a bar ynghyd a gwaredu adeiladau dros dro presennol, codi cwrs weiren sip newydd, creu maes parcio, codi llwybr troed pren cysylltiol a'r maes parcio presennol i ymwelwyr a gosod gwaith trin carthffosiaeth. Aelod Lleol: Cynghorydd Gwen Griffith Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi mai cais llawn
ydoedd ar gyfer codi adeilad
tri llawr newydd ar gyfer canolfan
cwmni Zip World i gynnwys derbynfa/adnoddau cysylltiol gan gynnwys caffi
a bar ynghyd a gwaredu adeiladau dros dro presennol, codi cwrs weiren
sip newydd, creu maes parcio, codi
llwybr troed pren cysylltiol o’r maes parcio
presennol i ymwelwyr a gosod gwaith trin carthffosiaeth. Mae’r safle’r cais ei
hun ar blatfform
o wastraff llechi/carreg sydd wedi
ei leoli’n is na’r safle sydd
yn cael ei ddefnyddio’n bresennol. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffiniau Chwarel Penrhyn ar gyrion
Bethesda, gan ddefnyddio’r un fynedfa i’r Chwarel ag sydd yn bresennol. Mae
busnes Zip World wedi ei
sefydlu o fewn y Chwarel ac wedi datblygu fel atyniad llwyddiannus a
phoblogaidd iawn sydd yn cyfrannu i’r economi
leol ynghyd a chynnig ffordd i gysylltu gyda threftadaeth economaidd yr
ardal. O ganlyniad mae galw am ddarparu adeilad o safon fydd yn gwella delwedd
yr atyniad i’r dyfodol. Cyfeiriwyd at bolisi D8 o’r Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd sydd yn ymwneud
ac ehangu mentrau diwydiannol a busnesau presennol neu fentrau eraill os gellir cydymffurfio gyda meini prawf penodol yn ymwneud
gydag addasrwydd y defnydd presennol o safbwynt yr ardal o’i amgylch a
defnyddiau cyfagos a’i berthynas a’r gwaith presennol. Nodwyd hefyd ei bod yn
ofynnol cyflwyno Datganiad Ieithyddol a Chymunedol ar gyfer y bwriad oherwydd
maint ei arwynebedd llawr, sy’n fwy na 1000m sgwâr. Eglurwyd bod yr Uned Bolisi
ar y Cyd wedi cadarnhau na ragwelir bydd y datblygiad yn cael adrawiad arwyddocaol ar fewnfudiad i’r ardal ac felly yn
unol gyda gofynion polisi A2. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd ynghyd a gwybodaeth
hwyr sydd i law yn gofyn ystyried ail
leoli’r adeilad a’r maes parcio ar safle arall o fewn y linell goch oherwydd
problemau sydd wedi dod i’r amlwg gyda datblygu yn y lleoliad sydd wedi ei
ddangos fel rhan o’r cais presennol. (b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:- ·
Bod angen
symud y lleoliad rhyw ychydig, o fewn y llinell goch, gan nad
yw’r sylfaeni yn addas ·
Yr atyniad yn denu ymwelwyr i
Ogledd Cymru ·
Adnoddau presennol ddim yn
dderbyniol ar gyfer ymwelwyr a staff ac felly angen gwella'r ddarpariaeth ·
Bydd yr adeilad yn cael ei
ddefnyddio fel Pencadlys y Cwmni sydd bellach yn
gweithredu drwy’r Deyrnas Unedig ·
Bydd 20 person ychwanegol yn
cael eu cyflogi. (c) Mynegodd yr aelod lleol
(a oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn) y pwyntiau canlynol: ·
Cyflogaeth y cwmni yn bwysig i
Wynedd ·
Bydd zip
fechan i’r plant yn cynnig atyniad i’r teulu ·
Angen adnoddau gwell i’r staff ·
Cwmni yn buddsoddi yn lleol ·
Bod penderfyniad y Cwmni i
leoli eu Pencadlys yng Ngwynedd yn arwydd calonogol
o’u hymrwymiad i’r Sir · 85,000 yn defnyddio'r wifren yn flynyddol - y busnes yn datblygu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14. |
|
Cais rhif C15/0345/15/LL - Rhan o Lyn Padarn, ger Ystad Diwydiannol y Glyn, Llanberis Gwaith peirianyddol i greu llithfra (lleoliad diwygiedig i'r hyn a ganiatawyd yn flaenorol o dan gyfeirnod C15/0022/15/LL). Aelod Lleol: Cynghorydd Trevor Edwards Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gwaith peirianyddol i
greu llithrfa (lleoliad diwygiedig i'r hyn a ganiatawyd
yn flaenorol o dan gyfeirnod C15/0022/15/LL). (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais am ganiatâd, ar gyfer gwaith
peirianyddol i osod llithrfa ar
gyfer defnyddwyr Llyn Padarn er
mwyn hwyluso mynediad uniongyrchol i mewn i’r
llyn. Mae’r safle yn rhan
o ardal a adnabyddir fel ‘Y Glyn’ ar gyrion pentref
Llanberis sef ardal gymysg o ran defnydd. Nodwyd bod y bwriad yn golygu cynnal gwaith
ail raddio tir ansylweddol ar lan y llyn
er mwyn creu
dynesiad addas tuag at ac i mewn
i’r llyn. Bwriedir gosod y llithrfa, fyddai’n mesur 3m o lêd ac oddeutu 11m o hyd, ar y tir ac ar
wely’r llyn wedi hynny. Byddai’r
llithrfa o wneuthuriad concrid ‘pre-cast’ tebyg i fath o ‘lain’ sydd yn cael
ei osod ar
ben y tir gan ei ddiogelu i’r
ddaear trwy ei angori i
drawst concrid o dan y ddaear ac yna gyda chyfres
o begiau. Bydd y bwriad yn gwella
cyfleusterau hamddena ar y Llyn o gymharu
â’r ddarpariaeth bresennol. (b) Yng nghyd destun ystyriaethau
eraill nodwyd oherwydd bod lleoliad y safle o fewn SSSI ac er mwyn cydymffurfio
gyda gofynion cyfredol, mae’r datblygiad arfaethedig wedi cael ei
sgrinio yn ffurfiol i ganfod
os oes angen
cyflwyno Asesiad Effaith Amgylcheddol (AEA). Roedd canlyniad y sgrinio yn cadarnhau
na fyddai
angen cyflwyno AEA yn yr achos
yma. (c) O ran y cyfnod ymgynghori, nodwyd bod nifer o wrthwynebiadau i’r cais
oherwydd pryderon bod y llithrfa ar gyfer cychod pŵer. Amlygwyd mai nad
dyna oedd y bwriad. Er eglurdeb cychod rhwyfo a chychod hwylio yn unig sydd yn
cael defnyddio Llyn Padarn ac ni chaniateir cychod pŵer ar y llyn oni bai
fod y cwch pŵer yn goruchwylio neu’n gwarchod diogelwch digwyddiad neu
weithgaredd ble mae gofyn am oruchwyliaeth cwch pŵer. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd (ch) Cynigwyd a eiliwyd i
ganiatáu’r cais. (d) Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth ·
A oedd yr adran wedi
ymgynghori gyda Chlwb Pysgota Seiont a Chyngor Plwyf
Llanddeiniolen? ·
O ran yr elfen iechyd a
diogelwch, croesawyd llithrfa gan fod llechi miniog yn y dŵr. ·
Y llithrfa yn fudd i bobl leol
ac ymwelwyr (dd) Mewn ymateb i gwestiwn ynglyn
â’r ymgynghori, nodwyd bod yr adran wedi ymgynghori
yn unol gyda’r gofynion statudol a bod y llithrfa a phopeth ar y safle bellach
yn dderbyniol ac wedi derbyn cefnogaeth yr ymghynghorwyr
statudol. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais Amodau 1. Amser 2. Cydymffurfio gyda chynlluniau |