Lleoliad: Neuadd Dwyfor - Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorydd Linda A. W. Jones (Aelod Lleol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol a nodi materion protocol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2019, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2019, fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd. Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y
ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau
o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais amlinellol gyda'r holl faterion wedi eu cadw yn ôl i godi 7 tŷ unllawr ar wahân i'r henoed gyda datblygiadau cysylltiol. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Linda A. W. Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais
amlinellol gyda'r holl faterion wedi eu cadw yn ôl i godi 7 tŷ unllawr ar
wahân i'r henoed gyda datblygiadau cysylltiol. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod safle’r
cais wedi ei leoli tu mewn i ffin datblygu ardal Manod ym Mlaenau Ffestiniog.
Nodwyd y gallai’r safle fod yn addas ar gyfer datblygiad tai ond ni dderbyniwyd
gwybodaeth digonol i asesu’r cais yn llawn yn erbyn y polisïau perthnasol.
Adroddwyd y cysylltwyd â’r asiant ar sawl achlysur am wybodaeth ychwanegol, ond
ni dderbyniwyd gwybodaeth ychwanegol. Eglurodd bod y cais wedi ei gyflwyno ers
2017, rhoddwyd cyfle digonol i’r ymgeisydd gyflwyno gwybodaeth ychwanegol felly
penderfynwyd asesu’r cais. Nodwyd er ei fod yn sefyllfa anffodus roedd rhaid
dod â’r mater i ben. Tynnwyd sylw at yr argymhelliad i wrthod y cais. Ymhelaethwyd y gallai’r
safle fod yn addas pe byddai’r ymgeisydd yn dymuno cyflwyno cais gyda’r
wybodaeth angenrheidiol. (b) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais. Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod yng nghyswllt gohirio’r cais, nododd y
Rheolwr Cynllunio bod cyfnod amser rhesymol wedi ei roi i’r ymgeisydd i
gyflwyno gwybodaeth. Mewn ymateb i gwestiwn pellach, ymhelaethodd nad oedd
cyfiawnhad wedi ei dderbyn ar gyfer darparu 7 tŷ o’r un math felly nid
oedd y bwriad yn cyd-fynd â gofynion Canllaw Cynllunio Atodol Cymysgedd Tai. Holodd aelod os oedd y datblygiad tai ar gyfer
tai cymdeithasol. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio nad oedd
cymdeithas dai ynghlwm â’r bwriad. PENDERFYNWYD gwrthod y cais. Rhesymau: 1. Nid yw’r datblygiad arfaethedig yn cyflawni cymysgedd priodol o dai nac yn
darparu unrhyw dai fforddiadwy ac felly ystyrir fod y bwriad yn groes i ofynion
perthnasol polisïau ISA 1, TAI 8 a TAI 15 ynghyd â gofynion perthnasol
Chanllawiau Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy a Chymysgedd Tai. 2. Nid yw’r cais fel a gyflwynwyd yn darparu tystiolaeth i brofi’r angen am y math o unedau fel a fwriedir, o ganlyniad, credir fod y bwriad yn groes i ran 1c o bolisi PS1 gan na ellir ystyried yr effaith ar yr iaith Gymraeg. |
|
Cais Rhif C18/1198/45/AM - Cyn Gae Hoci, Allt Salem, Pwllheli PDF 148 KB Adeiladu 15 o dai annedd, gyda 5 i fod yn dai fforddiadwy, creu mynediad gerbydol newydd a ffordd fynediad fewnol. AELOD LLEOL: Cynghorydd Dylan Bullard Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu
15 o dai annedd, gyda 5 i fod yn dai fforddiadwy, creu mynediad cerbydol newydd
a ffordd fynediad fewnol. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod
y cais yn gais amlinellol gyda’r mynediad a gosodiad yn ffurfio rhan o’r cais
amlinellol ac yn faterion i’w ystyried. Eglurwyd bod materion edrychiad,
tirweddu a graddfa yn faterion a gadwyd yn ôl ac felly ddim yn faterion i’w
ystyried fel rhan o’r cais. Nodwyd y byddai’r datblygiad yn cynnwys cymysgedd o
dai unllawr a deulawr 2,3 a 4 ystafell wely. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli tu mewn i ffin datblygu
Pwllheli ac wedi ei ddynodi ar gyfer tai yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
(CDLl). Nodwyd y byddai 5 o’r tai ar gyfer angen fforddiadwy, sef unedau 2
ystafell wely a oedd yn cynnwys 4 tŷ teras ac 1 byngalo. Amlygwyd bod yr Uned
Strategol Tai wedi cadarnhau'r angen am y math yma o dai ym Mhwllheli. Nodwyd
bod y bwriad yn cynnig amrywiaeth briodol o dai ar y safle gan gydymffurfio â
gofynion polisi TAI 8 o’r CDLl ac yn unol â’r Canllaw Cynllunio Atodol
Cymysgedd Tai. Nodwyd o ran materion mwynderau gweledol a mwynderau
cyffredinol a phreswyl y gellir sicrhau bod y materion yma yn dderbyniol drwy’r
cais materion a gadwyd yn ôl ynghyd a’r amodau a argymhellir ar y cais gerbron.
Ymhelaethwyd bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt bioamrywiaeth a
thrafnidiaeth. Ychwanegodd bod y Cyngor Tref yn gefnogol i’r cais. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd a oedd
yn cynnwys cadarnhad gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd mai’r cyfraniad
ariannol a fyddai’n ofynnol tuag at lefydd chwarae / mannau agored oedd
£5,001.71. Eglurwyd y byddai’r cyfraniad yn cael ei sicrhau drwy gytundeb 106. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol
perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. Nodwyd bod yr argymhelliad wedi ei ddiwygio i’r hyn a
nodwyd yn yr adroddiad, ar sail y wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd nad oedd
yr ymgeisydd wedi cynnal trafodaethau efo cymdeithas dai yng nghyswllt
trosglwyddo’r tai ar hyn o bryd oherwydd bod y cais yn gais amlinellol ond bod
bwriad i wneud hyn ac i adeiladu’r tai i safonau adeiladu cymdeithasau tai
(safon ‘DQR’) a fyddai’n galluogi trosglwyddo’r unedau i gymdeithas dai.
Argymhellwyd sicrhau’r tai fforddiadwy drwy amod yn hytrach na drwy gytundeb
106 oherwydd y gellir asesu’r disgownt o dan gais materion a gadwyd yn ôl pan
fyddai manylion megis dyluniad a maint wedi ei gadarnhau. Argymhellwyd yn
ogystal i osod amod ychwanegol er mwyn sicrhau bod enwau Cymraeg i’r tai/stad. (b) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Mai cais amlinellol oedd
gerbron a bod gosodiad y safle a mynediad i’w gytuno; ·
Byddai 5 tŷ yn dai
fforddiadwy ac roedd amod i sicrhau hyn yn dderbyniol i’r ymgeisydd; · Gan mai cais amlinellol a gyflwynwyd nid oedd yr ymgeisydd wedi cysylltu efo cymdeithas dai ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2 |