skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Eirwyn Williams

 

Croesawyd y Cynghorydd Gareth T Jones i’w gyfarfod cyntaf.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Y Cynghorydd Gruffydd Williams (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0046/42/LL) oherwydd roedd yn aelod o Gyngor Tref Nefyn – Cyngor Tref Nefyn oedd yn cyflwyno’r cais

 

Y Cynghorydd Owain Williams (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0046/42/LL) oherwydd roedd yn aelod o Gyngor Tref Nefyn – Cyngor Tref Nefyn oedd yn cyflwyno’r cais

 

Y Cynghorydd Gareth T Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0046/42/LL) oherwydd roedd yn aelod o Gyngor Tref Nefyn – Cyngor Tref Nefyn oedd yn cyflwyno’r cais

 

Roedd yr aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

b)    Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

Y Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones  (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/1028/03/LL)

 

Y Cynghorydd Gruffydd Williams (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0022/42/DT)

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 259 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig bod cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16 Gorffennaf 2020 yn rhai cywir  

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cadarnhawyd bod y cofnod yn gofnod priodol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 16 o Orffennaf 2020.

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

6.

Cais Rhif: C19/1028/03/LL - Wynnes Arms Hotel, Ffordd Manod, Manod, Blaenau Ffestiniog LL41 4AR pdf eicon PDF 357 KB

Cais ar gyfer addasu tŷ tafarn yn 5 fflat ynghyd â chodi estyniad cefn a llefydd parcio

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gohirio’r penderfyniad er mwyn derbyn mwy o wybodaeth ynglŷn â materion draenio

Cofnod:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd - mewn ymateb i sylwadau gan yr Aelod Lleol ymgynghorwyd gyda’r Uned Rheoli Risg Llifogydd y Cyngor a derbyniwyd ymateb sydyn i’r pryder. Nodwyd nad oedd gan yr Adran wybodaeth am y sefyllfa ond bod bwriad i ymchwilio i’r gwyn. Nid oedd amserlen ar gyfer y gwaith yma wedi ei osod.

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi y cyflwynwyd y cais gerbron Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 02.03.2020 pryd penderfynwyd trefnu i’r aelodau ymweld â’r safle. Yn y cyfamser, adroddwyd bod yr ymgeisydd wedi hysbysu’r Cyngor ei fod wedi cyflwyno apêl i’r Arolygaeth Cynllunio yn erbyn diffyg penderfyniad gan y Cyngor ar y cais (dyddiad heb ei dderbyn hyd yma).

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod y cais ar gyfer addasu tŷ tafarn i 5 fflat preswyl hunangynhaliol ynghyd â chreu llefydd parcio a mynedfa. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Blaenau Ffestiniog a bod defnydd y safle fel tafarn wedi dod i ben ddechrau 2017. Byddai’r bwriad yn golygu newidiadau mewnol i greu'r fflatiau ar y tri llawr.  Cyfyngir y newidiadau allanol i’r estyniad ochr ac addasu fymryn ar osodiad agoriadau ffenestri a drws ar lefel daear ar y drychiad cefn.

 

Darparwyd lluniau a fideo ychwanegol gan nad oedd modd cynnal ymweliad safle oherwydd cyfyngiadau covid 19.

 

Polisi TAI9 yn caniatáu isrannu eiddo presennol i fflatiau hunangynhaliol cyn belled ei fod yn cydymffurfio gyda’r meini prawf perthnasol sydd wedi ei cynnwys yn yr adroddiad:- ni ystyrir y byddai'r bwriad i addasu'r adeilad yn 5 fflat yn groes i amcanion polisi TAI 9.

 

Cyfeiriwyd at bolisi TAI15  sydd yn  gofyn i bob datblygiad gyflawni cymysgedd priodol ar sail deiliadaeth, mathau a maint o dai fforddiadwy sy’n cael ei ategu gan Bolisi TAI 8 ynghyd â ChCA: Cymysgedd Tai.  Noder bod sylwadau gan Uned Strategol Tai yn datgan bod angen cydnabyddedig am fflatiau 1 a 2 ystafell wely yn y dref.   Ystyriwyd bod y cais fel y diwygiwyd yn darparu cymysgedd briodol o lety mewn adeilad presennol ac yn cyfarch angen cydnabyddedig am dai yn y dref.

 

Nodai Polisi TAI 15 (Trothwy Tai Fforddiadwy a’u Dosbarthiad) fod disgwyl i o leiaf 0.4  o’r unedau fod yn fforddiadwy, yn unol â’r wybodaeth a gyflwynwyd  Derbyniwyd gwybodaeth gan yr ymgeisydd yn datgan ei fod wedi ymchwilio prisiau rhentu/gwerthu o fewn tua milltir i’r safle fel rhan o’r datblygiad. Er nad oedd y swyddogion yn anghytuno gyda’r prisiau, nid oedd y prisiau yn seiliedig ar y Llyfr Coch ac roedd man wendidau eraill yn y wybodaeth a gyflwynwyd. O dan yr amgylchiadau  ystyriwyd y gellid caniatáu’r cais  yn ddarostyngedig i osod amod i gytuno ar faterion fforddiadwyedd ar gyfer un o’r unedau cyn rhyddhau unrhyw ganiatâd.

 

Yng nghyd-destun materion gweledol a mwynderau cyffredinol a phreswyl nodwyd bod y rhain wedi eu hasesu yn llawn ac nad oedd unrhyw  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C20/0022/42/DT - Tan y Mynydd, Mynydd Nefyn, Nefyn, LL53 6LN pdf eicon PDF 318 KB

Dymchwel storfa allanol bresennol, addasiadau i'r prif presennol ac estyniad rhanol unllawr, rhannol deulawr i'r ochr a'r cefn

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gwrthod y cais ar sail gorddatblygiad

 

Cofnod:

Amlygwyd bod sylwadau hwyr wedi eu derbyn

 

Ymhelaethodd Y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi bod y cais yn un ar gyfer ailwampio ac ymestyn tŷ presennol. Adroddwyd y byddai’r datblygiad newydd yn cynyddu nifer y llofftydd o 3 i 4 gan gynyddu maint y gofod byw i lawr grisiau.

 

Saif yr eiddo ar lethrau Mynydd Nefyn ar ben ffordd breifat (sy’n rhannol yn llwybr cyhoeddus) sy’n arwain o ffordd ddi-ddosbarth Bryn Glas. Mae’r safle mewn cefn gwlad agored, oddeutu 340m i’r dwyrain o ffin ddatblygu Canolfan Gwasanaeth Lleol Nefyn a 50m y tu allan i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn.

 

Fe drafodwyd y cais hwn yn y Pwyllgor Cynllunio ar 02/03/2020 pryd y gohiriwyd gwneud penderfyniad er caniatáu trefnu ymweliad safle ac er mwyn galluogi cyflwyno adroddiad rhywogaethau gwarchodedig. Derbyniwyd aroddiad o Arolwg Rhywogaethau Gwarchodedig ar 29 Mai, 2020.

 

Darparwyd lluniau a fideo ychwanegol gan nad oedd modd cynnal ymweliad safle oherwydd cyfyngiadau covid 19.

 

Amlygwyd bod sylwadau hwyr wedi eu derbyn (ond heb eu cynnwys yn y ffurflen sylwadau hwyr) gan Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig yn pryderu bod maint a dyluniad yr estyniad yn nodwedd estron yn y dirwedd. Ategwyd bod sylwadau hefyd wedi eu derbyn gan Swyddog yr AHNE (oedd heb eu cynnwys yn yr adroddiad) yn pryderu am yr estyniadau ochr sylweddol, y ffenestri mawr ar effaith ar yr AHNE.

 

Adroddwyd y byddai’r ar ei newydd wedd yn debygol o fod yn sylweddol fwy na'r presennol gyda’r arwynebedd llawr mewnol yn fwy na dyblu. Er hynny, gan na fyddai cynnydd mewn uchder yr adeilad, ystyriwyd bod y dyluniad a gyflwynwyd o ansawdd uchel gyda’r defnydd o garreg, gwydr a llechi  yn briodol ar gyfer y lleoliad. Gwerthfawrogwyd bod y dyluniad ynfater o farn’. 

 

Saif yr eiddo mewn lleoliad agored ar lethr y mynydd ac felly’n weladwy gan y cyhoedd o briffordd gyfagos ac ardaloedd cyhoeddus eraill. Wrth werthfawrogi’r pryder ynghylch sensitifrwydd y dirwedd yn yr ardal hon, nid oedd y swyddogion yn ystyried y byddai’r estyniadau fel y’u dyluniwyd yn cael effaith niweidiol arwyddocaol ar ansawdd y dirwedd ac ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn effeithio gosodiad yr AHNE, neu’r golygfeydd allan ohoni, mewn ffordd niweidiol.

 

            Tynnwyd sylw at sylwadau oedd wedi ei derbyn am orddarpariaeth o unedau gwyliau yn yr ardal ond amlygwyd mai cais am estyniad i oedd gerbron ac nid cais am lety gwyliau. Cydnabuwyd hefyd bod yr effaith weledol yn destun pryder a materion dylunio yn gallu bod yn gynhennus, ond bod swyddogion wedi pwyso a mesur y cais cynllunio yn erbyn gofynion y polisïau perthnasol ynghyd a’r sylwadau a gwrthwynebiadau a dderbyniwyd. O ganlyniad ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ac yn cwrdd gyda gofynion polisi cynllunio lleol a chenedlaethol ac y dylid ei ganiatáu gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

a)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C20/0046/42/LL - Tir Ger Fynwent Gyhoeddus Nefyn, Nefyn, LL53 6EG pdf eicon PDF 329 KB

Cais ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol i ffurfio rhan o estyniad i fynwent presennol ynghyd a gwaith i estynnu maes parcio presennol, creu llwybrau a chodi ffensiau/giataiau cysylltiedig

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Caniatáu y cais

 

1.          Rhaid cychwyn ar y datblygiad y cyfeirir ato yn y caniatâd hwn dim hwyrach na   PHUM mlynedd o ddyddiad y caniatâd.

2.          Cwblheir y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynlluniau a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar 06/05/20, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad cynllunio hwn.

3.          Bydd pob claddedigaeth yn y fynwent yn:  lleiafswm o 50 metr i ffwrdd o gyflenwad dŵr yfed tanddaearol; • o leiaf 30 metr o gwrs dŵr neu darddiad; • pellter o 10 metr o leiaf o ddraeniau tir; • Ni ddylai unrhyw gladdu fod mewn dŵr sy’n sefyll, a gwaelod y bedd fod yn uwch na'r tabl dŵr lleol.

4.          Ni chaniateir i ddŵr wyneb a / neu ddraeniad tir gysylltu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol a'r rhwydwaith carthffosiaeth gyhoeddus.

5.          Rhaid  cwblhau'r  lle  parcio  ceir  yn  gwbl  unol  fel  y dangoswyd ar y cynllun amgaeedig cyn cychwyn ar y defnydd a ganiateir yma.

 

Cofnod:

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer creu estyniad rhesymol i’r fynwent bresennol drwy newid defnydd tir amaethyddol sydd wedi ei leoli oddi ar Ffordd Dewi Sant yn Nefyn. Nodwyd bod y safle  wedi ei leoli tu allan, ond yn gyfochrog i ffin datblygu Nefyn wrth gefn y Parc Busnes.  Ystyriwyd fod lleoliad, maint a gosodiad yr estyniad yn un rhesymegol ac y byddai’n ychwanegu at wasanaeth cymunedol presennol yn effeithiol.

 

Gyda materion dwr daear wedi eu datrys, ystyriwyd fod y bwriad hwn yn cydymffurfio gyda holl ystyriaethau a pholisïau cynllunio perthnasol.

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod;

1.         Rhaid cychwyn ar y datblygiad y cyfeirir ato yn y caniatâd hwn dim hwyrach na PHUM mlynedd o ddyddiad y caniatâd. 

2.         Cwblheir y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynlluniau a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar 06/05/20, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad cynllunio hwn.

3.         Bydd pob claddedigaeth yn y fynwent yn:  lleiafswm o 50 metr i ffwrdd o gyflenwad dŵr yfed tanddaearol; • o leiaf 30 metr o gwrs dŵr neu darddiad; • pellter o 10 metr o leiaf o ddraeniau tir; • Ni ddylai unrhyw gladdu fod mewn dŵr sy’n sefyll, a gwaelod y bedd fod yn uwch na'r tabl dŵr lleol.

4.         Ni chaniateir i ddŵr wyneb a / neu ddraeniad tir gysylltu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol a'r rhwydwaith carthffosiaeth gyhoeddus.

5.         Rhaid  cwblhau'r  lle  parcio  ceir  yn  gwbl  unol  fel  y dangoswyd ar y cynllun amgaeedig cyn cychwyn ar y defnydd a ganiateir yma.

 

9.

Cais Rhif C19/1068/11/LL - Neuadd Ogwen, Y Coleg Normal, Ffordd Y Coleg, Bangor, Gwynedd, LL57 2DB pdf eicon PDF 332 KB

Addasu cyn adeilad y Brifysgol i 6 uned breswyl  hunan-gynhaliol ynghyd a llecyn parcio ychwanegol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Huw Gruffydd Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gohirio er mwyn cael barn annibynnol gan y Prisiwr Dosbarth

 

Cofnod:

a)    Oherwydd pryderon diweddar am wybodaeth ariannol, prisiad, a’r ddadl hyfywedd sydd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais awgrymodd y Rheolwr Cynllunio y dylid gohirio’r drafodaeth ar y cais er mwyn cael barn annibynnol ar y materion yma gan y Prisiwr Dosbarth.

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio’r cais

PENDERFYNWYD gohirio’r cais er mwyn cael barn annibynnol gan y Prisiwr Dosbarth