Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Seimon Glyn, Dyfrig Jones, John Wyn Williams: Angela Russell ac Ann Williams (Aelodau Lleol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol am y rhesymau a nodir: ·
Y Cynghorydd Tudor Owen, yn eitem
5.1 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C15/0807/20/CR a C15/0807/20/CR) oherwydd
ei fod yn aelod o Ymddiriedolaeth Harbwr
Caernarfon ·
Y Cynghorydd Gwen Griffith, yn
eitem 5.6 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0603/09/LL) oherwydd ei bod yn aelod o Bwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd ·
Y Cynghorydd Michael Sol Owen yn eitem 5.6 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C16/0603/09/LL) oherwydd ei fod yn aelod o Bwrdd Cartrefi
Cymunedol Gwynedd ·
Y Cynghorydd Anne Lloyd Jones
yn eitem 5.6 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0603/09/LL) oherwydd ei bod
yn aelod o Bwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd Roedd yr Aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a
gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a nodir. (b) Datganodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu
buddiant personol, yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0329/18/LL)
oherwydd bod ei chefnder a oedd yn byw gyferbyn a’r safle wedi gwrthwynebu’r
cais. Roedd y swyddog o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd
y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais. (c) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r
eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd John Wynn Jones,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C15/0808/20/LL a C15/0807/20/CR); ·
Y Cynghorydd Elfed W.
Williams, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/0329/18/LL); ·
Y Cynghorydd Gareth Griffith,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C16/0724/20/AM). Ymneilltuodd yr
Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac
ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 25 Gorffennaf 2016 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2016 fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO I gyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C15/0808/20/LL Menai Marina, Hen Gei Llechi, Y Felinheli PDF 624 KB Cais ol-wethredol i gadw pontwn o fewn y cei Aelod Lleol:
Cynghorydd Gareth Griffith Dolen
i’r dogfennau cefndirol perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ôl weithredol i gadw
pontŵn o fewn y cei (a)
Adroddodd y Rheolwr Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y cais wedi ei ohirio nifer o weithiau
am amryw o resymau sydd wedi eu rhestru yn yr adroddiad. Atgoffwyd yr Aelodau mai cais llawn ôl weithredol ydoedd i gadw pontwn o
fewn y cei. Disgrifiwyd bod y pontwn wedi ei
gysylltu â wal yr harbwr mewn tri lleoliad gyda braced haearn a fydd yn
gadael i’r pontwn godi gyda’r llanw. Nodwyd bod y safle yn rhan o’r Marina
presennol yn y Felinheli. Tynnwyd sylw i’r sylwadau hwyr a dderbyniwyd. Amlygwyd bod y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn tynnu sylw at gyflwr wal yr
harbwr ac at addasrwydd y wal honno i gynnal pontŵn ble mae rhannau o’r
wal wedi disgyn yn y gorffennol. Nodwyd bod hyn yn codi pryder a yw’r wal yn
strwythurol gadarn i allu cynnal pontŵn a’r llanw. Mynegwyd bod adroddiad
peirianyddol wedi ei gyflwyno gyda’r cais ac yn datgan nad yw gosod y
pontŵn yn debygol o gael unrhyw effaith andwyol o safbwynt strwythur
peirianyddol. Yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor o ofyn am fwy o wybodaeth ac yn sgil hynny
bod diweddariad i’r asesiad strwythurol gwreiddiol wedi ei dderbyn,
ymgynghorwyd gyda syrfëwr o fewn y Cyngor er mwyn derbyn cadarnhad bod yr
adroddiad a dderbyniwyd yn addas ar gyfer ei bwrpas. Cyfeiriwyd at sylwadau'r
syrfëwr yn paragraff 5.4 o’r adroddiad. Er yr asesiad, nodwyd o’r ymateb i’r
ail ymgynghori bod y pryderon yn parhau am y sefyllfa a chynnwys yr adroddiad
mwyaf diweddaraf. Fodd bynnag, amlygwyd nad oedd tystiolaeth arbenigol wedi ei
dderbyn yn datgan i’r gwrthwyneb ac felly nid oedd rheswm i beidio derbyn y
casgliadau a'r cyngor a dderbyniwyd gan Richard Broun Associates. Adroddwyd bod y pontŵn yn gweddu i’r ardal o agwedd dyluniad ac edrychiad
ac o’r safbwynt ei fod o fewn marina weithredol. Ni ystyriwyd bod goblygiadau
ar edrychiad na chymeriad strwythur rhestredig na mwynderau ardal na thrigolion
cyfagos, a amlinellwyd bod yr adroddiad peirianyddol a gyflwynwyd a oedd yn
cynnwys diweddariad yn datgan cryfder y wal i gynnal y pontŵn. Ystyriwyd
bod y bwriad yn dderbyniol ac yn unol â'r polisïau perthnasol. (b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Nad oedd gan 87 o
wrthwynebwyr wrthwynebiad i’r pontwn, dim ond gwrthwynebiad i osod y pontwn ar
hen wal Fictorianaidd – llawer o wybodaeth briodol gan y trigolion lleol am
effaith y wal a’r llanw ·
Bod y wal yn
derbyn effaith andwyol gwynt, tywydd garw a llanw uchel ·
Bod darn o’r wal wedi disgyn yn 2000 ·
Wedi gosod pontwn
yn 2001 ymhen ychydig flynyddoedd dangosodd y wal ychydig o straen. Amlygwyd y
pryderon hyn i’r Cyngor ond ni chafwyd unrhyw weithrediad. Yn 2008 disgynnodd y
wal i’r môr ynghyd a gerddi trigolion ·
Yn Rhagfyr 2015, y
pontwn wedi datgysylltu ac yn arnofio yn yr Harbwr · Nid oes unrhyw gyfeiriad at ‘grac fertigol’ sydd yn y wal ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1 |
|
Cais Rhif C15/0807/20/CR Menai Marina, Hen Gei Llechi, Y Felinheli PDF 629 KB Cais ol-wethredol i gadw pontwn o fewn y cei Aelod Lleol:
Cynghorydd Gareth Griffith Dolen
i’r dogfennau cefndirol perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ôl weithredol i gadw
pontwn o fewn y cei (a) Gofynnwyd i ohirio’r cais yn unol â’r hyn a adroddwyd ar y cais uchod. PENDERFYNWYD gohirio’r
cais. |
|
Cais Rhif C16/0329/18/LL Tir gyferbyn Post Office, Clwt y Bont, Caernarfon PDF 814 KB Codi tri tŷ annedd deulawr ar wahân a datblygiadau cysylltiedig Aelod Lleol:
Cynghorydd Elfed Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi tri tŷ annedd deulawr
ar wahân a datblygiadau cysylltiedig Roedd yr Aelodau wedi ymweld
â’r safle (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y cais wedi cael ei ohirio yn
y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 4 Gorffennaf 2016 er mwyn cynnal ymweliad safle
ac i’r swyddogion wirio ffigyrau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor. Atgoffwyd yr aelodau mai cais ydoedd i godi tri tŷ deulawr ar wahân ar
safle tir llwyd o fewn ffin datblygu pentref Clwt y Bont. Amlygwyd y byddai’r
tai pedair llofft ar gyfer y farchnad agored gyda mynedfa ar wahân i’r tri
eiddo ac fe fyddai pob un yn arwain at ffordd ddi-ddosbarth sy’n gwasanaethu
nifer o anheddau. Nodwyd mai’r brif ystyriaeth oedd polisi CH4 o’r CDUG a oedd
yn caniatáu cynigion i adeiladu tai newydd ar safleoedd na ddynodwyd ac oedd o
fewn ffiniau datblygu pentrefi os gellir cydymffurfio â holl bolisïau
perthnasol y CDUG a’r 3 maen prawf a oedd yn ffurfio rhan o’r polisi. Tynnwyd
sylw bod maen prawf 1 yn ymwneud gyda chael cyfran o bob uned sydd ar y safle yn
rhai fforddiadwy oni bai na fyddai’n briodol darparu tai fforddiadwy ar y
safle. Eglura’r Datganiad Cynllunio Cefnogol (wedi ei gefnogi gan y Cyfrifiadau
Hyfywdra) nad ydyw’n hyfyw i gynnig elfen fforddiadwy fel rhan o’r cynllun.
Amlygwyd bod yr ymgeiswyr wedi dangos gwerth y farchnad o hyd at £200,000 am
bob annedd ac yn unol ag Astudiaeth Hyfywdra Tai Fforddiadwy Cynghorau Sir
Gwynedd ac Ynys Môn Ionawr 2013, derbynnir bod y ffigwr yma o £200,000 yn
rhesymol a phriodol ar gyfer Clwt y Bont. Roedd pryderon hefyd wedi eu derbyn o safbwynt effaith ar fwynderau preswyl
ond eglurwyd nad oedd hyn yn cael ei ystyried yn annerbyniol yn ddarostyngedig
i amodau cynllunio priodol. Nodwyd bod sawl gwrthwynebydd
wedi honni fod y tir yn ansefydlog ac wedi ei lygru gan wastraff megis hen
geir. Adroddwyd bod polisi B30 yn awgrymu gwrthod ceisiadau ar dir sydd wedi ei
lygru heb wybodaeth i dangos triniaeth dderbyniol o’r safle. Fodd bynnag, nid
oedd unrhyw dystiolaeth gadarn wedi ei chyflwyno i gefnogi'r honiadau o ansefydlogrwydd
y tir nac o unrhyw beryglon llygredd ac nid oedd unrhyw un o'r asiantaethau
swyddogol a ymgynghorwyd a hwy wedi codi'r materion hyn. Pe caniateir y cais
argymhellir gosod amod ychwanegol er mwyn sicrhau bod archwiliad desg i asesu
risg o lygredd ar y safle yn cymryd lle ac os oes gwir angen gweithrediad
pellach bod sicrwydd bod hyn yn digwydd cyn datblygu’r safle. (b)
Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn):- Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol: ·
Bod gosodiad y safle yn golygu
effaith ar fwynderau trigolion cyfagos ·
Bod y tir wedi ei godi ac nid
yn addas ar gyfer datblygu – hyn yn groes i B28 o’r CDUG; · Ni chynhwysir elfen fforddiadwy yn y bwriad ac nid oedd digon o dystiolaeth wedi ei gyflwyno i beidio cynnwys tŷ fforddiadwy; ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3 |
|
Cais Rhif C16/0460/15/LL Maes Carafanau Llanberis , Llanberis PDF 846 KB Amrywio amodau 16, 17, 18 a 26 o ganiatâd
cynllunio C13/1136/15/LL er mwyn galluogi ymestyniad i’r tymor (1 Mawrth hyd 10
Ionawr yn y flwyddyn ganlynol ) a defnydd / meddianiad y 2 llety warden trwy'r flwyddyn gan bersonau sy’n gyflogedig mewn rheolaeth
y safle carafanau teithiol a’u dibynyddion Aelod Lleol: Cynghorydd Trevor Edwards Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Amrywio amodau 16, 17, 18 a 26 o ganiatâd cynllunio
C13/1136/15/LL er mwyn galluogi ymestyniad i’r tymor (1 Mawrth hyd 10 Ionawr yn
y flwyddyn ganlynol) a defnyddio / meddianiad y 2 llety warden trwy’r flwyddyn
gan bersonau sy’n gyflogedig mewn rheolaeth y safle carafanau teithiol a’u
dinasyddion (a) Yn dilyn trafodaethau gyda’r ymgeisydd er mwyn ceisio goresgyn pryderon a
amlinellir yn yr adroddiad presennol, argymhellwyd gohirio'r penderfyniad. (b) Cynigwyd ac
eiliwyd i ohirio’r cais. PENDERFYNWYD
gohirio’r cais. |
|
Cais C16/0590/42/AM Tir ger Penrhos, Morfa Nefyn PDF 599 KB Adeiladu annedd a creu llefydd parcio Aelod Lleol:
Cynghorydd Sian Wyn Hughes Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu annedd a chreu llefydd parcio (a)
Nodwyd, er mwyn gallu asesu'r
manylion diwygiedig a’r ymatebion i’r ail-ymgynghori fel rhan o’r adroddiad
Pwyllgor argymhellwyd gohirio'r penderfyniad. (b)
Cynigwyd ac eiliwyd i ohirio’r cais. PENDERFYNWYD gohirio’r
cais |
|
Cais Rhif C16/0603/09/LL Tir yn Penmorfa, Tywyn PDF 728 KB Cais llawn i godi 5 tŷ deulawr fforddiadwy, creu safle mwynderol a gwelliannau i'r ffordd stad bresennol Aelod Lleol: Cynghorydd Ann Lloyd Jones a Cynghorydd Mike Stevens Dolen
i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn i godi 5 tŷ deulawr fforddiadwy, creu safle mwynderol a
gwelliannau i’r ffordd stad bresennol Cadeiriwyd yr eitem gan
yr Is Gadeirydd Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi ei
fod yn gais llawn i godi 5 ty annedd deulawr
fforddiadwy gyda dwy ystafell wely wedi eu gosod allan ar ffurf teras o dair
uned ac yna par o dai. Nodwyd bod y safle yn un
gwastad oddi fewn i ffin datblygu tref Tywyn yng Nghynllun Datblygu Unedol
Gwynedd ac eisoes wedi ei baratoi ar gyfer ei ddatblygu. Eglurwyd bod tai
stadau preswyl eraill yn ffinio’r safle gyda ffordd stad eisoes wedi ei
darparu. Ategwyd bod bwriad darparu gwelliannau i’r ffordd stad bresennol
ynghyd a 12 llecyn parcio a man troi. Yng nghyd-destun mwynderau gweledol nodwyd bod y bwriad yn golygu
datblygiad o dai sydd yn gymharol draddodiadol o ran eu ffurf a’i osodiad gyda gerddi
i’r blaen a’r cefn sydd yn dilyn ffurf stad Penmorfa yn bresennol. Nodwyd mai
Cartrefi Cymunedol Gwynedd oedd yr ymgeisydd a bod paratoi tai yn rhan o’u
dyletswydd statudol. Amlygywd bod nifer o lythyrau wedi eu derbyn gan unigolion yn nodi pryderon am
faterion yn ymwneud a diogelwch a thraffig ond ystyriwyd bod y bwriad yn
cynnwys gwelliannau parhaol i’r ffordd stad bresennol. Roedd pryderon hefyd
wedi eu derbyn o safbwynt effaith ar fwynderau preswyl ond eglurwyd nad oedd
hyn yn cael ei ystyried yn annerbyniol yn yr achos hwn. Ategwyd bod materion llifogydd, bioamrywiaeth a darpariaeth addysgol yn
dderbyniol ac yn dilyn ystyriaeth lawn i’r holl faterion cynllunio perthnasol,
bod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig i amodau. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad
nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Derbyniwyd y byddai
aflonyddwch tebygol yn ystod y cyfnod datblygu ac felly amlygywd
bod cyfnod rheoli traffig yn cael ei gynnig ·
Y byddai addasiadau i’r ffyrdd
yn welliannau hir dymor i bawb ·
Llecyn gwyrdd yn cael ei gadw ·
Gyda thystiolaeth gadarn am yr
angen am dai fforddiadwy yn Nhywyn -
nodwyd bod y bwriad yn ymateb i’r angen. (c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r
cais. PENDERFYNWYD caniatáu y
cais Amodau: 1.
Amser 2.
Cydymffurfio gyda chynlluniau; 3.
Deunyddiau waliau
allanol i’w cytuno; 4.
Llechi a’r doeau’r
anheddau a samplau i’w cyflwyno cyn cychwyn datblygu; 5.
Cyflwyno manylion
tirlunio i’w cyflwyno er cymeradwyaeth; 6.
Cyfnod gweithredu
cynllun tirlunio; 7.
Amodau Dwr Cymru Dim adeiladu o fewn 3 medr o’r garthffos gyhoeddus; 8.
Gwelliannau i’r ffordd
stad i’w gweithredu cyn cychwyn ar unrhyw waith o adeiladu’r tai, rhaid i’r
gwelliannau gael eu cadw yn barhaol yn dilyn hynny; 9.
Cwblhau'r mannau parcio cyn yr anheddir y datblygiad. 10.
Datblygiad yn unol â Chynllun Rheolaeth Traffig a gyflwynwyd. 11. Datblygiad yn unol ag argymhellion Adroddiad Ecolegol diwygiedig dyddiedig Awst 2016 ac unrhyw amod perthnasol yn ymwneud â hyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru/Uned Bioamrywiaeth – i gynnwys Cynllun Gwella Bioamrywiaeth ac amodau yn ymwnued gyda moch ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.6 |
|
Cais Rhif C16/0724/20/AM Tir gen Canolfan Iechyd, Ffordd Glan y Mor, Y Felinheli PDF 664 KB Cais amlinellol gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl i godi 11 tŷ newydd, creu mynedfa cerbydol newydd a ffordd stad, darparu tir agored cyhoeddus Aelod Lleol:
Cynghorydd Gareth Griffith Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais amlinellol gyda rhai
materion wedi eu cadw yn ôl i godi 11 tŷ newydd, creu mynedfa gerbydol
newydd a ffordd stad, darparu tir agored cyhoeddus. (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais amlinellol ydoedd i godi
11 tŷ, creu mynedfa gerbydol a ffordd stad ynghyd a darparu tir agored
cyhoeddus gyda rhai materion wedi eu cadw yn ôl i’w cynnwys oddi fewn i gais
manwl ar faterion a gadwyd yn ôl (pe caniateir y cais amlinellol). Adroddwyd
mai'r unig fater oedd yn ffurfio rhan o’r cais amlinellol oedd y fynedfa
arfaethedig gyda’r materion oedd wedi eu cadw yn ol
yn ymwneud a thirweddu, edrychiadau cynllun a graddfa. Nodwyd mai’r brif ystyriaeth oedd polisiau C1 -
Lleoli Datblygiad Newydd a pholisi Ch7 - tai fforddiadwy ar safleoedd eithrio
gwledig sy’n union ar gyrion pentrefi a chanolfannau lleol. Eglurwyd bod y
safle yn ymylu’r ffin datblygu sydd yn rhedeg gyda Ffordd Glan y Môr ac wrth
ystyried yr agwedd yma, fe all y safle fod yn safle eithrio gweledig. Er hynny,
mae'r polisi ond yn caniatáu
datblygiadau am dai fforddiadwy yn unig, lle mae’r angen wedi ei brofi, ond amlygywd mai'r bwriad yma yw cynnig 3 tŷ fforddiadwy
yn unig sydd felly yn groes i bolisi CH7. Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad, amlygwyd bod yr Uned
Trafnidiaeth wedi argymell i’r ymgeisydd gyflwyno Asesiad Effaith Traffig
oherwydd byddai’r bwriad yn ychwanegu yn arwyddocaol at y lefel trafnidiaeth ar
hyd y Ffordd Glan y Môr. Yn ogystal, amlygywd bod yr
Uned wedi mynegi pryder ynglŷn â lleoliad y fynedfa arfaethedig oherwydd
presenoldeb mynedfa i’r feddygfa gerllaw gyda phryder y gallai un fynedfa
amharu ar welededd ddefnydd y llall. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd digon o
wybodaeth na thystiolaeth wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd i gadarnhau bod y
bwriad yn dderbyniol ar sail diogelwch ffyrdd ac felly yn groes i ofynion polisiau. Tynnwyd sylw bod CADW yn amlygu pryder am ddiffyg asesiad priodol o effaith
y datblygiad ar osodiad heneb gofrestredig Ystyriwyd nad oedd y bwriad yn dderbyniol ar sail egwyddor o ddarparu tai
marchnad agored tu allan i ffin datblygu a bod diffyg gwybodaeth yn atal
asesiad llawn o’r datblygiad. (b)
Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn): ·
Ei fod yn gwrthwynebu y cais ·
Bod cais tebyg wedi ei
gyflwyno yn Ebrill 2015 - rhywfaint o newidiadau i’r cais arfaethedig, ond er
yn wahanol, nid yw’r polisiau wedi newid ·
Bod y safle tu allan i’r
ffin datblygu ·
Gwybodaeth ychwanegol, angenrheidiol heb ei gyflwyno ·
Tynnu sylw at y rhesymau gwrthod yn yr adroddiad (c)
Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y
cais yn unol â’r argymhelliad. (ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol: ·
Bod y bwriad yn groes i nifer
o bolisïau ·
Bod y safle tu allan i’r
ffin datblygu · Dim digon o dai fforddiadwy yn cael eu cynnig fel rhan o’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.7 |
|
Cais Rhif C16/0770/38/AM Glynllifon, Llanbedrog PDF 941 KB Creu 16 llety gwyliau deulawr gyda parcio cysylltiedig ac ardal amwynderol Aelod Lleol: Cynghorydd Angela Russell Dolen
i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Creu 16 llety gwyliau deulawr
gyda pharcio cysylltiedig ag ardal amwynderol (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan mai cais amlinellol ydoedd gyda’r holl
faterion wedi eu cadw yn ol. Dengys y cynlluniau y
byddai’r unedau arfaethedig yn ddeulawr ac oddeutu 6.8m mewn uchder wedi eu
rhannu rhwng pedwar teras. Amlygywd bod y safle wedi
ei leoli ar gyrion Llanbedrog, gryn bellter tu allan i’r ffin datblygu. Saif
mewn dyffryn coediog o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Tirwedd
Hanesyddol Gofrestredig Llyn, a rhwng dwy heneb Gofrestredig Pen y Gaer a Nant
y Castell. Nodwyd hefyd bod coed aeddfed ar ochr orllewinol y safle sydd yn
destun Gorchymyn Gwarchod Coed ac mae’r llethrau sydd i’r dwyrain wedi eu
hadnabod fel Safle Bywyd Gwyllt Lleol. Ymddengys hefyd o waith LANDMAP fod
cyffiniau y cais wedi ei adnabod fel ardal weledol Mynydd Tir y Cwmwd sydd o
safon weledol ‘uchel’ ac felly'r safle yn cael ei
ystyried yn dirlun sensitif iawn. Nodwyd nad oedd ymateb Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd wedi ei
dderbyn wrth ysgrifennu'r adroddiad, ond tynnwyd sylw at y sylwadau hwyr a
dderbyniwyd. Er mai cais amlinellodd oedd yn cael ei gyflwyno, nid oedd manylion llawn o
ddyluniad yr unedau wedi ei gynnwys, fodd bynnag, ystyriwyd y byddai'r
datblygiad o faint a graddfa fyddai yn sicr o gael ardrawiad gweledol
annerbyniol gan arwain at ddatblygiad trefol ei naws mewn dyffryn tawel. Mewn ymateb i faterion trafnidiaeth a mynediad, amlygywd
bod y datblygiad yn dangos bwriad i ddefnyddio’r fynedfa bresennol i
wasanaethu’r unedau gwyliau ynghyd a’r eiddo presennol. Nodwyd bod y Cyngor
Cymuned wedi datgan pryder am sefyllfa’r fynedfa bresennol gan fod nifer o
ddamweiniau wedi digwydd yn y gorffennol oherwydd diffyg gwelededd. Ar sail
diffyg gwelededd, ni ystyriwyd bod y bwriad yn cwrdd â gofynion polisi CH33 gan
na ellid darparu mynedfa gerbydol ddiogel i wasanaethu’r datblygiad. Cydnabuwyd
bod modd datrys rhai manylion gan mai cais amlinellol oedd wedi ei gyflwyno,
fodd bynnag ystyriwyd na ellid goresgyn y mater o ddiffyg gwelededd o’r fynedfa
ac y byddai gofyn am newidiadau eraill yn ychwanegu at y ffaith y byddai’r
bwriad yn creu edrychiad trefol annerbyniol o’r safle cefn gwlad yma. Wrth bwyso a mesur y bwriad yn erbyn gofynion y polisiau
lleol a chenedlaethol perthnasol, ystyriwyd nad oedd y bwriad, sydd ar safle
mewn cefn gwlad agored yn dderbyniol mewn egwyddor ac yn groes i bolisïau
lleoli sydd yn ymwneud a lleoli datblygiadau a chreu unedau hunanwasanaeth
newydd. Ail fynegwyd y byddai’r datblygiad tu allan i’r ffin datblygu, yn
drefol ei naws ac yn gwbl anaddas i’w osodiad o fewn tirlun sensitif. Nodwyd
bod y farn wedi ei rannu mewn ymholiad cyn cais ar
gyfer datblygiad tebyg o ran lleoliad a graddfa, fodd bynnag dewis yr ymgeisydd
oedd parhau i gyflwyno cais er gwaethaf derbyn cyngor anffafriol. (b)
Amlygwyd bod yr Aelod Lleol,
er wedi ymddiheuro nad oedd yn bresennol, yn gefnogol i’r argymhelliad ac i
sylwadau'r Cyngor Cymuned. (c) Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.8 |
|
Cais Rhif C16/0725/13/AM Cyn safle Grey Garage, Lon Newydd Coetmor, Bethesda PDF 906 KB Cais amlinellol i godi 18 uned anheddol (gan
gynnwys 4 uned fforddiadwy) ynghyd a chreu mynedfa gerbydol newydd, ffordd stad
fewnol a llwybr troed ar gyfer cerddwyr (cynllun diwygiedig i’r hyn a
ganiatawyd ar apel cyf C13/0766/13/LL – Apel APP/Q6810/A/14/2215839 Aelod Lleol:
Cynghorydd Ann Williams Dolen
i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais amlinellol i godi 18 uned
anheddol (gan gynnwys 4 uned fforddiadwy) ynghyd a chreu mynedfa gerbydol
newydd, ffordd stad fewnol a llwybr
troed ar gyfer cerddwyr (cynllun diwygiedig i’r hyn a ganiatawyd ar apêl cyf
C13/0766/13/LL - Apêl APP/Q6810/A/14/221539). (a)
Adroddwyd bod llythyrau hwyr wedi ei derbyn
yn ceisio cyfiawnhau y datblygiad Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan
atgoffa'r aelodau bod y safle yn un lle gwrthodwyd cais blaenorol ar gyfer
datblygiad preswyl i godi 24 uned byw (gan gynnwys 16 uned fforddiadwy), ond a
dderbyniwyd caniatâd yn ddiweddarach o ganlyniad i benderfyniad gan Arolygydd
Cynllunio ar Apêl. Derbyniwyd cais diweddarach i amrywio’r cynllun fel bod
cyfanswm yr unedau yn lleihau o 24 i 18 gyda 11 o’r tai a ganiatawyd yn dai
fforddiadwy. Amlygywd bod y cais cyfredol yn un
amlinellol ar gyfer 18 annedd, ond bod y gyfran tai fforddiadwy wedi lleihau o
11 i 4. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli yn rhannol oddi mewn i ffin datblygu
Bethesda sydd wedi ei ddynodi fel Canolfan Lleol yng Nghynllun Datblygu Unedol
Gwynedd. Ategwyd bod y safle yn hanesyddol wedi bod fel modurdy/depo loriau.
Nodwyd bod y defnydd yma wedi dod i ben a’r safle bellach wedi ei glirio o
adeiladau a safai yno yn y gorffennol. Ystyriwyd bod y safle yn dir sydd wedi
ei ddatblygu eisoes ac felly yn cael ei ddiffinio fel safle Tir Llwyd. Ategwyd bod angen sylweddol am dai fforddiadwy
yn yr ardal
ac felly anodd derbyn nad yw hyn
yn cael ei
gyfarch yn y cais diwygiedig Tynnwyd sylw at y sylwadau
ychwanegol a dderbyniwyd (b)
Yn manteisio
ar yr hawl
i siarad nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:- ·
mai datblygiad preswyl ydoedd am 18 o dai marchnad agored
a 4 tŷ fforddiadwy ·
cais wedi ei ganiatáu yn dilyn
apêl ddilys ·
derbyn bod rhan o’r safle tu
allan i’r ffin datblygu ·
cyfiawnhad mai tir sydd yma
sydd eisoes wedi ei ddatblygu (tir llwyd) ac felly caniatâd wedi ei gyfarch ar
gyfer y safle i gyd ·
nad oedd gan Cyngor Gwynedd
gyflenwad tir am 5 mlynedd ·
yn unol â chanllawiau dylunio
- y tai fforddiadwy wedi eu
hintegreiddio gyda thai marchnad agored ·
cyfiawnhad digonol ar gyfer y
cais arfaethedig (c)
Cynigiwyd i ganiatáu y cais yn
groes i’r argymhelliad. Disgynnodd y cynnig (ch) Cynigiwyd
ac eiliwyd i wrthod y cais yn unol â’r argymhelliad (d)
Gwnaed cais i’r Uwch Reolwr ymateb i sylwadau'r
asiant. Amlygodd yr Uwch Reolwr bod angen tystiolaeth bellach cyn ystyried y cais yn llawn - pam cyfiawnhau
tai marchnad agored tu allan i ffin datblygu lleol? Amlygwyd bod materion
sylfaenol dros wrthod y cais i) egwyddor y datblygiad, ii)
nid yw’r polisiau yn caniatáu datblygu tu allan i’r
ffin datblygu ac iii) mae tystiolaeth gadarn i
awgrymu bod angen dwys am dai fforddiadwy ym Methesda.
Nodwyd bod caniatâd eisoes ar gyfer 11 tŷ fforddiadwy, pam felly cwtogi
hyn i 4. (e) Yn ystod y drafodaeth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.9 |