Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr W. Tudor Owen a John Wyn Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: (a) Datganodd y Cynghorwyr Anne Lloyd-Jones a Michael Sol Owen fuddiant
personol, yn eitem 5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/1021/08/LL) oherwydd eu bod yn aelodau o Fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd. Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a
gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r
eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Sian Wyn Hughes,
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C16/1089/42/LL); ·
Y Cynghorydd Dyfrig Wynn Jones, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C16/0823/13/LL); ·
Y Cynghorydd Eirwyn Williams,
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C16/0941/35/LL); ·
Y Cynghorydd Gareth Thomas,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C16/1021/08/LL); ·
Y Cynghorydd Charles Wyn Jones
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C16/1108/23/AM); ·
Y Cynghorydd R. H. Wyn Williams
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C16/1226/39/LL); ·
Y Cynghorydd Dilwyn Lloyd (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C16/1250/17/LL). Ymneilltuodd yr
Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac
ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2016, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2016
fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio. Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol
i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion
y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C16/1089/42/LL - Tir rhan o Fferm Bryn Rhydd, Edern PDF 576 KB Adeiladu adeilad newydd i gynhyrchu hufen ia, siop/caffi hufen ia a chynyrch lleol, adnodd addysgiadol, newidiadau i fynedfa, gwaith allanol cysylltiedig a mynedfa amaethyddol newydd AELOD LLEOL: Cynghorydd
Sian Wyn Hughes Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu adeilad newydd i gynhyrchu hufen
ia, siop/caffi hufen ia
a chynnyrch lleol, adnodd addysgiadol, newidiadau i fynedfa,
gwaith allanol cysylltiedig â mynedfa amaethyddol newydd. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2016 er mwyn cynnal
ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn
y cyfarfod. Tynnwyd
sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Nodwyd ni ystyrir bod dymuniad yr ymgeisydd i leoli’r busnes
ar dir o fewn ei berchnogaeth mewn cyrraedd hwylus i’r fferm, yn ddigon i
gyfiawnhau’r lleoliad. Nid oedd y Cyngor wedi ei argyhoeddi fod gwir angen
sefydlu busnes cymysg o’r fath ar safle’r cais heb anghenion lleoli arbennig
nac amgylchiadau eithriadol i gyfiawnhau caniatáu’r cais yng nghefn gwlad.
Ychwanegwyd nad oedd yn ymddangos bod unrhyw ystyriaeth wedi ei roi i geisio darganfod adeilad/safle tir brown addas o fewn ffin
y pentref neu mewn safle gwahanol. Nodwyd nad yw’r bwriad i godi adeilad busnes
cymysg o’r fath ar dir gwyrdd yn cydymffurfio ac egwyddorion lleoli busnesau
polisïau C1, CH37, D5, D7, D8, D13 na D30 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd
(CDUG). Credir y byddai adeiladu adeilad newydd
mewn lleoliad ynysig a datgymalog o’r fath yn cael effaith andwyol ar ffurf a
chymeriad y pentref a’r dirwedd, oedd wedi ei ddynodi’n Ardal Gwarchod y
Dirwedd. Nodwyd nad oedd y buddion o ran twf economaidd, mentrau
gwledig a chyflogaeth yn gorbwyso’r niwed sy’n debygol o gael ei achosi i
gymeriad y dirwedd ac edrychiad yr ardal, a’r angen i sicrhau bod y datblygiad
newydd wedi ei leoli mewn lle cynaliadwy. Ystyrir bod y bwriad yn groes i
bolisïau’r CDUG ac nad oedd dewis ond i argymell gwrthod y cais. (b) Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod y cais a sylwadau ychwanegol yr asiant yn
dangos pa mor bwysig oedd y cais
i’r busnes hufen ia a busnes
fferm presennol; ·
Bod prisiau llaeth yn ansefydlog
a bod y datblygiad yma er mwyn datblygu’r
busnes hufen ia ymhellach ac i gadw’r fferm
yn hyfyw; ·
Bod y bwriad yn creu swyddi
o safon i bobl leol; ·
Deall bod pryder o ran lleoliad ond nid
oedd yn bosib
lleoli’r cais ar y fferm; ·
Y byddai ysgolion yn elwa
o ddefnyddio’r adnodd addysgiadol; ·
Y byddai’n darparu adnodd o safon i dwristiaid
yn ogystal ac i bobl leol; ·
Eu bod yn barod i weithio
efo’r Gwasanaeth Cynllunio i wneud
y bwriad yn dderbyniol gydag amodau perthnasol; ·
Eu bod efo gweledigaeth
glir ac yn frwdfrydig; ·
Bod llwyddiant
a dyfodol Glasu, swyddi presennol, swyddi newydd a’u
bywoliaeth o’r fferm yn dibynnu
ar y penderfyniad felly gofynnir i ganiatáu’r
cais. (c) Cefnogwyd y cais gan yr aelod
lleol (oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) a gwnaed
y prif bwyntiau canlynol ganddi:- · Y byddai’r bwriad yn sicrhau dyfodol i’r fferm ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1 |
|
Cais Rhif C16/0823/13/LL - Austin Taylor Communications Ltd, Bethesda PDF 825 KB Newid defnydd cyn ffactori'n gyfleuster masnachwr adeiladu gan gynnwys cownter masnachu, storfeydd a menter dosbarthu. AELOD LLEOL: Cynghorydd Dyfrig W. Jones Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd cyn ffactori'n
gyfleuster masnachwr adeiladu gan gynnwys
cownter masnachu, storfeydd a menter dosbarthu. (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi ni fwriedir
gwneud unrhyw newidiadau strwythurol i’r adeilad ar
wahân i rai addasiadau i ffenestri
a drysau er hwylustod a diogelwch. Nodwyd bod safle’r cais wedi
ei leoli o fewn ffin datblygu
Bethesda ond nid oedd wedi ei
ddynodi ar gyfer unrhyw ddefnydd
penodol. Amlygwyd bod rhan fwyaf
o safle’r cais wedi ei leoli
o fewn parth llifogydd C2. Nodwyd bod y datblygiad yn cwrdd â holl feini prawf polisïau C3 a C4 o’r
CDUG gan ei fod yn ail-ddefnyddio safle a ddefnyddiwyd o’r blaen o fewn ffin
datblygu bresennol gan gadw ac ail-ddefnyddio adeiladau presennol at ddefnydd
sy’n addas i’r lleoliad. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Adroddwyd y derbyniwyd cadarnhad gan Adran
Priffyrdd Llywodraeth Cymru eu bod yn
fodlon i'r Cyngor benderfynu ar y cais ynghyd
â chadarnhad gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) nad
oedd ganddynt wrthwynebiad o ran materion llifogydd. Nodwyd bod yr Uned Polisi
Cynllunio ar y Cyd wedi asesu'r
Datganiad Cymunedol ac Ieithyddol a gyflwynwyd fel rhan o’r
cais a’u bod o’r farn nad yw natur
na graddfa'r datblygiad yn debygol
o gael effaith niweidiol ar yr
iaith Gymraeg. O ganlyniad, roedd yr argymhelliad wedi newid i’r
hyn a nodwyd yn yr adroddiad
a bellach argymhellir caniatáu’r cais efo amodau. (b) Cefnogwyd y cais gan yr aelod
lleol, (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd ei
fod yn croesawu’r
datblygiad a’i fod yn falch
bod yr adeilad yn dod yn ôl i
ddefnydd. Nododd aelodau eu cefnogaeth i’r cais a fyddai’n ddefnydd cydnaws i’r
lleoliad. PENDERFYNWYD caniatáu’r
cais. Amodau: 1. Amser 2. Yn unol â’r
cynlluniau 3. Rhaid cyflwyno a chytuno archwiliad desg i asesu’r risg o lygredd. Pe byddai’r archwiliad desg yn dangos fod angen gweithrediad pellach, bydd angen cytuno unrhyw fesurau rhagofalus ac/neu adferol cyn dechrau’r datblygiad. |
|
Cais Rhif C16/0941/35/LL - Ynys Hir, Morannedd, Cricieth PDF 632 KB Diwygiad i ganiatad C15/0711/35/LL ar gyfer codi tŷ newydd. AELOD LLEOL: Cynghorydd Eirwyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Diwygiad i ganiatâd C15/0711/35/LL ar gyfer codi
tŷ newydd. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan
nodi bod y safle eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer codi tŷ
annedd o dan gyfeirnodau C14/0702/35/LL a C15/0711/35/LL gyda’r gwaith adeiladu
wedi cychwyn ond bod oediad ar hyn o bryd. Nodwyd bod y cynlluniau gerbron yn dilyn lleoliad, ol-troed, maint a chynllun llawr y caniatadau.
Eglurwyd bod y dyluniad gerbron yn wahanol i’r caniatadau
blaenorol gyda tho mansard yn hytrach na tho pits traddodiadol. Nodwyd bod toeau amrywiol iawn i’w gweld
o fewn stad Morannedd ac fe ystyrir bod y dyluniad ac
edrychiad allanol y bwriad yn cydweddu gyda chymeriadau’r tai presennol o fewn
y stad. Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn achosi niwed arwyddocaol o
safbwynt colli preifatrwydd, golau na chysgodi. Nodwyd bod pryderon
gwrthwynebwyr wedi derbyn ystyriaeth lawn. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b) Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol,
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn). Mewn ymateb i sylw
gan yr aelod
lleol, nododd y Rheolwr Rheolaeth Datblygu y cynghorwyd yr ymgeisydd i
oedi â’r gwaith, ond os
oedd yr ymgeisydd
wedi parhau efo’r gwaith adeiladu,
ei fod yn
gwneud hynny ar risg ei
hun. Nododd aelodau eu cefnogaeth i’r cais a oedd yn welliant o ran gwelededd
oherwydd bod lefelau (llawr a chrib) y tŷ oddeutu 2 medr yn is na’r caniatadau presennol. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. Unol â’r cynlluniau a gyflwynwyd 2. Llechi
ar y to 3. Tynnu
hawliau dirprwyedig a ganiateir gan gynnwys ffenestri 4. Amodau dŵr Cymru |
|
Cais Rhif C16/1021/08/LL - Meusydd Llydain, Bryniau Hendre, Penrhyndeudraeth PDF 933 KB Cais diwygiedig i C16/0314/08/LL ar gyfer codi 9 ty sy'n cynnwys 3 ty farchnad agored a 6 ty fforddiadwy ynghyd a gwaith draenio, gwaith tir a creu mynedfeydd. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cadeiriwyd y drafodaeth ar y cais hwn gan
yr Is-gadeirydd. Cais diwygiedig i C16/0314/08/LL ar gyfer codi 9 tŷ
sy'n cynnwys 3 tŷ farchnad agored a 6 tŷ fforddiadwy ynghyd â gwaith draenio, gwaith tir a chreu
mynedfeydd. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y 6 tŷ fforddiadwy ar dir sydd y tu
allan ond yn ymylu a’r
ffin datblygu tra bod y 3 tŷ marchnad agored yn bennaf o fewn
y ffin. Nodwyd bod nifer o’r gwrthwynebiadau
a dderbyniwyd yn cyfeirio at bryderon yn ymwneud a’r
ffordd gyfagos ag effaith y datblygiad ar ddiogelwch y ffordd a symudiadau ar ei hyd. Cydnabyddir
fod y ffordd yn gul mewn
mannau ond o ystyried fod rhan
o’r safle wedi ei ddefnyddio
yn y gorffennol fel gwaith argraffu
masnachol ni ystyrir y byddai effaith ychwanegol annerbyniol yn deillio o’r bwriad. Adroddwyd yn dilyn derbyn
sylwadau gan yr Uned Drafnidiaeth
y diwygiwyd y cais i ddarparu trefn
newydd i fynedfeydd y tai marchnad agored gan gynnwys
darparu troedffordd newydd ar hyd
blaen y safle a threfniant mewnol y stad. O ganlyniad, roedd yr Uned
Drafnidiaeth yn fodlon gyda’r hyn
a gynigir. Derbyniwyd cadarnhad gan yr
Uned Strategol Tai bod y wybodaeth a gyflwynwyd yn gyson gyda’r
wybodaeth i law am yr angen lleol
am unedau fforddiadwy. Credir fod y cymysgedd
o dai a gynigir yn briodol ar
gyfer diwallu galw cyffredinol am dai fforddiadwy. Nodwyd y byddai angen sicrhau
bod unedau a oedd yn diwallu gwahanol
ddeiliadaeth (h.y. tai marchnad agored a thai fforddiadwy) yn cael eu
datblygu ar y cyd ac nad oes
posibilrwydd mai dim ond y tai marchnad agored fydd yn
cael eu datblygu.
Yn yr achos
yma, roedd Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) yn bartneriaid yn y cynllun ac fel sydd yn
arferol mewn achosion ble nad
ydyw Cymdeithas Tai yn berchen y tir
neu’n ymgeisydd (pan yr ystyrir y cais),
mi fyddai angen llunio Cytundeb 106 safonol i sicrhau
fod y tai yn cael eu trosglwyddo
i’r Gymdeithas i sicrhau fod
yr unedau yn dod ar
gael i ddiwallu
angen lleol. Tynnwyd sylw y derbyniwyd cadarnhad gan yr
Uned Bolisi Cynllunio ar y Cyd ynglŷn â chasgliadau’r asesiad ieithyddol a gyflwynwyd gan ddatgan: “Ar
y cyfan, ni chredir fod natur
na graddfa’r datblygiad arfaethedig yn debygol o gael
effaith andwyol ar yr iaith
Gymraeg. Mae’r cais yn golygu
bydd 6 o’r 9 tŷ arfaethedig yn rai fforddiadwy, fe ddylai ddiwallu
anghenion lleol ar gyfer tai a helpu cadw’r boblogaeth
bresennol yn y gymuned”. Roedd
y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd
yn yr adroddiad. (b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd asiant yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Ei fod yn ddatblygiad tai cymysg gyda 3 tŷ marchnad agored a 6 tŷ fforddiadwy ar gyfer CCG; · Bod y tai ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.4 |
|
Cais Rhif C16/1108/23/AM - Ty'r Ysgol, Llanrug PDF 854 KB Cais amlinellol i godi 2 dy a creu mynedfa cerbydol newydd. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Charles Wyn Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais amlinellol i godi
2 dŷ a chreu mynedfa gerbydol
newydd. (a) Ymhelaethodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais, gan nodi bod y safle tu fewn i
ffin datblygu’r pentref a gan mai
cais amlinellol ydoedd yr unig
faterion yr ystyrir yw’r egwyddor
o ddatblygu’r safle, mynediad a lleoliad y tai o fewn y safle.
Adroddwyd y derbyniwyd gwrthwynebiadau yn codi pryder
am greu mynedfa ychwanegol yn agos
i’r ysgol, colled o le ar ochor y lon i
barcio a chasglu plant a hefyd effaith y datblygiad yma ar gynllun arall
a ganiatawyd a oedd yn cynnwys
cylchfan a mesuriadau rheoli traffig newydd. Tynnwyd sylw nad
oedd gan yr Uned Drafnidiaeth
wrthwynebiad i’r bwriad ond eu
bod yn gofyn am amodau i sicrhau
fod ceir yn gallu mynd
i mewn ac allan o’r safle
mewn gêr blaen a hefyd darparu’r
lle parcio a throi cyn meddiannu’r
tai ac ystyrir fod hyn yn creu
sefyllfa dderbyniol. Ychwanegwyd y derbyniwyd gwrthwynebiadau
yn cyfeirio at golli preifatrwydd. O’r wybodaeth sydd
wedi ei gyflwyno,
ystyrir fod y safle yn gallu
darparu dau dŷ heb
achosi gor-edrych a cholli preifatrwydd gyda defnydd o driniaethau ffin addas a dylunio gofalus a phriodol i’r safle. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio
gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod y safle o fewn y ffin datblygu
ac roedd angen lleol am y math o dai; ·
Nid oedd tystiolaeth y byddai’n amharu ar fwynderau; ·
Gofyn am gefnogaeth y Pwyllgor. (c) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod lleol
(nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn):- ·
Bod Pennaeth yr ysgol bellach
yn derbyn y byddai’r effaith ar yr ysgol yn fach; ·
Y byddai’n ddelfrydol cadw’r
sefyllfa'r 'run fath ar gyfer stad Glan Ffynnon ond nid oedd yn bosib; ·
Bod yr amodau yn cyfarch y
gwrthwynebiadau ac yn cynnig ffordd ymlaen. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. Amser cychwyn y datblygiad a chyflwyno materion a gadwyd yn ôl. 2. Deunyddiau a gorffeniadau. 3. Mynediad a pharcio. 4. Tirweddu – cadw’r coed onnen
bresennol lle sy’n bosib, gwaredu’r
safle o goed ymledol a phlannu coed cynhenid. 5. Cyflwyno cynllun draenio tir cyn cychwyn
unrhyw waith ar y safle. 6. Dŵr Cymru – dŵr wyneb. 7. Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd. 8. Tynnu hawliau datblygu cyffredinol a ganiateir. 9. Angen cadw’r wal ffin
garreg naturiol. 10. Cwblhau gwaith clirio’r safle tu allan i’r tymor nythu adar. 11. Darparu blychau nythu i adar. |
|
Cais Rhif C16/1226/39/LL - Castellmarch, Abersoch PDF 582 KB Sefydlu safle carafanau teithiol i 15 carafan. AELOD LLEOL: Cynghorydd R.
H. Wyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Sefydlu safle carafanau teithiol i 15 carafán. (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan
nodi bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad a thu mewn i Ardal Gwarchod y
Dirwedd a’r Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Ynys Enlli.
Nodwyd bod y safle yn cael ei ddefnyddio ers sawl blwyddyn ar gyfer lleoli 5
carafán deithiol gyda chlybiau carafán ble nad oes angen caniatâd cynllunio
ffurfiol. Nodwyd oherwydd graddfa’r cais a’i leoliad ynghyd â’i nodweddion naturiol presennol ni ystyrir fod y safle yn
ymwthiol yn y dirwedd ac ni ystyrir ei fod yn debygol o gael effaith niweidiol
arwyddocaol ar fwynderau gweledol Ardal Gwarchod y Dirwedd. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Nodwyd
bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi asesu'r Datganiad Cymunedol ac
Ieithyddol ac yn nodi nad oedd natur a graddfa’r datblygiad arfaethedig yn
debygol o gael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg. O ganlyniad, roedd yr
argymhelliad wedi newid i’r hyn a nodwyd yn yr adroddiad a bellach argymhellir
caniatáu’r cais efo amodau. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio
gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Cefnogwyd y cais gan yr
aelod lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) a gwnaed
y prif bwyntiau canlynol ganddo:- ·
Bod y safle yn safle carafanau
yn bresennol; ·
Nad oedd yn or-ddatblygiad; ·
Y dylai’r iaith fod yn rhan o
bolisïau; ·
Bod y bwriad yn rhoi dilyniant
i’r teulu a oedd yn rhan o’r gymdeithas leol; ·
Bod yr ymgeisydd yn barod i
dderbyn awgrymiadau ychwanegol o ran tirlunio. (c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r
cais. Nododd aelod na
ofynnwyd i’r Uned AHNE am sylwadau ar y cais, er
yn cydnabod bod y safle tu allan
i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn (AHNE), roedd polisi B8 o’r CDUG yn gwarchod
golygfeydd i mewn ac allan o’r
AHNE. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. Cychwyn o fewn
5 mlynedd. 2. Unol â chynlluniau
a gyflwynwyd. 3. Nifer o unedau ar y safle
ar unrhyw un adeg i’w
cyfyngu i 15. 4. Amodau cyfnod gosod carafanau/cyfnod gwyliau/symud y carafanau pan ddim mewn defnydd. 5. Dim storio ar y tir. 6. Rhestr cofnodi. 7. Tirlunio. 8. Diogelu llwybr
cyhoeddus 43 a 43A Llanengan. 9. Dŵr wyneb
a / neu ddraeniad tir ddim i
gysylltu i’r garthffos gyhoeddus. Nodiadau: 1. Copi o sylwadau
Dŵr Cymru. 2. Copi o sylwadau’r Uned Rheoli Risg Llifogydd ac Erydiad Arfordirol. |
|
Cais Rhif C16/1250/17/LL - Fferm Tanyffordd, Cilgwyn, Carmel, Caernarfon PDF 689 KB Codi adeilad amaethyddol aml bwrpas. AELOD LLEOL: Cynghorydd Dilwyn Lloyd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi adeilad amaethyddol aml bwrpas. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi mai cais ydoedd
i godi adeilad
amaethyddol aml bwrpas ar gyfer
storio offer, peiriannau, gwair/bwyd a rhoi
lloches i anifeiliaid ar dir ger Fferm
Tanyffordd sydd wedi ei leoli
ar gyrion pentref Carmel. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd yn cefnogi’r cais a oedd yn cadarnhau
pryderon y swyddogion. Nodwyd bod polisi D9 o’r CDUG yn gefnogol i
godi adeiladau ac adeiladwaith ar gyfer dibenion amaethyddol os ydynt yn amlwg
yn rhesymol angenrheidiol at ddiben amaethyddiaeth ac os gellir cydymffurfio gyda meini prawf
penodol ynghlwm a’r polisi. Amlygwyd y caniatawyd estyniad i stablau o dan
gyfeirnod C11/0511/17/LL i greu sied amaethyddol.
O gynnal archwiliad safle, ymddengys fod yr hyn
a godwyd ar y safle yn fwy
ac o ffurf wahanol i’r hyn a ganiatawyd
a bod sied sylweddol wedi ei chodi
yn hytrach na’r estyniad fel
y caniatawyd. Nid oedd ychwaith yn ymddangos fod
defnydd y sied mewn cysylltiad â gwir ddefnydd amaethyddol
fel yr awgrymwyd
ar yr adeg. Nodwyd o ystyried maint y daliad, ni
chredir fod gwir gyfiawnhad i godi sied
amaethyddol newydd o ystyried fod modd
defnyddio'r sied bresennol (a oedd yn anawdurdodedig yn ei ffurf
bresennol o safbwynt maint/dyluniad a’i ddefnydd) yn
ogystal â siediau eraill oedd eisoes
wedi eu codi
ar y safle. Nodwyd bod lleoliad y sied arfaethedig yn amlwg o fewn y dirwedd leol
oherwydd ei ffurf a maint a’i lleoliad dyrchafedig, credir felly y byddai hyn
yn amharu ar fwynderau gweledol yr ardal gyfagos gan gynnwys ardal Tirwedd o
Ddiddordeb Hanesyddol Dyffryn Nantlle sydd yn groes i ofynion perthnasol
polisïau B12, B22 a B23. (b) Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol,
(nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn), a gwnaed y prif
bwyntiau canlynol ganddo: ·
Bod yr ymgeisydd yn rhentu tir
yn ychwanegol i safle’r cais; ·
Yr angen am sied bwrpasol i
fab yr ymgeisydd er mwyn iddo allu paratoi defaid i’w arddangos mewn sioeau
amaethyddol; ·
Mai amaeth oedd yr unig opsiwn
o ran bywoliaeth mewn ardaloedd yng Ngwynedd; ·
Y dylid
cefnogi’r ymgeisydd. Nododd yr aelod lleol nad oedd yn teimlo ei fod wedi derbyn gwrandawiad
teg. Mewn ymateb, nododd y Cadeirydd ei bod yn gwerthfawrogi ei gyflwyniad. (c)
Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol,
nododd yr Uwch
Reolwr Gwasanaeth Cynllunio:- ·
Mai prin iawn oedd yr
achosion lle nad oedd y Cyngor
yn cefnogi cais am sied amaethyddol; ·
Ni dderbyniwyd tystiolaeth bod yr ymgeisydd gyda thir ychwanegol nac fod angen
y sied ar gyfer paratoi defaid
i’w arddangos; ·
Credir bod yr adeiladau presennol yn cyfarch yr
angen felly nid oedd cyfiawnhad am sied arall; ·
Nid oedd y Cyngor yn ymwybodol
o’r tir a rentir. (ch) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais. Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed yr achos gorfodaeth, nododd yr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.7 |