Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Endaf Cooke ac Elwyn Edwards ynghyd â’r Cynghorydd Brian Jones (Aelod Lleol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol. Cofnod: (a) Datganodd y Cynghorydd Hefin Williams fuddiant personol, yn eitem 5.1 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0094/40/AM) oherwydd cysylltiadau busnes. Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitemau 5.6 a 5.7 ar y
rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C17/0100/46/LL a C17/0112/42/LL) am y
rhesymau a nodir: ·
Y Cynghorydd Dyfrig Wynn Jones oherwydd bod teulu ei wraig yn cadw maes carafanau yn Llangwnnadl; ·
Y Cynghorydd Gruffydd Williams
oherwydd bod ei dad yn berchen parc carafanau wedi ei leoli llai na chwe
milltir o’r safle; ·
Y Cynghorydd Owain Williams
oherwydd ei fod yn berchennog parc carafanau wedi ei leoli llai na chwe milltir
o’r safle. Roedd yr Aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a
gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a nodir. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r
eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Anwen J. Davies,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.1, 5.3 a 5.10 ar y
rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C17/0094/40/AM, C17/0016/33/LL a
C17/0156/33/LL); ·
Y Cynghorydd W. Gareth
Roberts, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/1373/30/LL); ·
Y Cynghorydd Anne Lloyd Jones,
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C17/0041/09/LL); ·
Y Cynghorwyr Dylan Fernley a
Nigel W. Pickavance, (nad oeddent yn aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn
eitem 5.5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0084/11/LL); ·
Y Cynghorydd Simon Glyn, (oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C17/0100/46/LL); ·
Y Cynghorydd Sian Wyn Hughes
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C17/0112/42/LL). Ymneilltuodd yr
Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac
ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor
hwn, a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2017, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2017 fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth
Adran Rheoleiddio. Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol
i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion
y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C17/0094/40/AM - Tir ger Bodelen, Siop yr Efail, Efailnewydd PDF 244 KB Cais amlinellol i godi tŷ fforddiadwy AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais amlinellol i godi tŷ fforddiadwy. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais,
gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2017 er mwyn cynnal
ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r
aelodau wedi ymweld â’r safle
cyn y cyfarfod. Tynnwyd sylw y derbyniwyd llythyr gan berchennog
dŷ cyfochrog
yn datgan pryder cryf ynglŷn
ag effaith y bwriad ar eiddo cyfochrog
ers cyhoeddi’r rhaglen. Mynegwyd
pryder sylweddol ynglŷn â’r datblygiad, ystyriwyd bod y bwriad yn or-ddatblygiad
o’r safle cyfyng ac ni ystyriwyd
bod y bwriad yn dderbyniol o agwedd Polisi B23 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG) oherwydd y byddai’n achosi niwed arwyddocaol
i fwynderau’r gymdogaeth leol, yn or-ddatblygiad o safle cyfyng ac yn lleihau gofod
amwynder y ddau dŷ presennol drwy ddefnyddio'r ardd fel llain
ar gyfer y tŷ bwriadedig. Pwysleisiwyd nad
oedd y ffaith mai’r ymgeisydd oedd yn berchen
dau o’r tai cyfagos, yn goresgyn
pryderon am or-ddatblygu’r safle cyfyng. Tynnwyd sylw y gwrthodwyd cais blaenorol am yr un datblygiad
dan hawliau dirprwyedig. Nodwyd nad oedd
y bwriad cyfredol yn lleihau'r pryderon
cynllunio sylweddol ynglŷn â’r bwriad ac fe argymhellwyd
i wrthod y cais. (b) Gwnaed y prif bwyntiau
canlynol gan yr aelod lleol
(nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn):- ·
Bod y safle o fewn ffin
datblygu’r pentref; ·
Byddai’r datblygiad yn
galluogi person ifanc lleol i aros yn ei gynefin; ·
Bod y gymdogaeth o blaid y
datblygiad; ·
Bod ceisiadau cynllunio am dai
mewn gerddi o faint tebyg wedi eu caniatáu; ·
Bod yr ymgeisydd yn barod i
drafod efo’r Gwasanaeth Cynllunio o ran maint ac uchder y tŷ. Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, eglurodd y Rheolwr Cynllunio er mai
cais amlinellol ydoedd roedd rhaid i’r ymgeisydd nodi uchafswm a lleiafswm o
ran mesuriadau ac nid oedd yn bosib negodi ar y mesuriadau wedi i ganiatâd
amlinellol gael ei roi. (c) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais. Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau: ·
Y byddai’r bwriad yn arwain
at ymwthiad gormesol a niweidiol i fwynderau
trigolion eiddo preifat cyfagos; ·
Dim ond un unigolyn oedd wedi
gwrthwynebu’r bwriad; ·
Dylid croesawu’r bwriad, angen tai i bobl
leol gyda phobl ifanc yn
gadael yr ardal; ·
Bod yr ymgeisydd yn barod
i drafod efo’r Gwasanaeth Cynllunio o ran maint ac uchder y tŷ. Dylid caniatáu’r cais ac yna cynnal
trafodaeth. (ch) Cynigwyd gwelliant i ohirio’r
cais er mwyn
cynnal trafodaeth bellach efo’r ymgeisydd
o ran maint ac uchder y tŷ. Nododd y Rheolwr Cynllunio na
fyddai lleihau maint y tŷ yn goresgyn pryderon
o ran gor-ddatblygiad oherwydd
o ganlyniad i leihau’r maint, byddai’n debygol y byddai uchder y tŷ yn gorfod
cynyddu gan wneud yr adeilad
yn fwy gormesol. Eiliwyd y
gwelliant. Pwysleisiodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio er bod y safle o fewn y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1 |
|
Cais Rhif C16/1373/30/LL - Tir rhwng Y Ddol a Penllech Bach, Lon Deunant, Aberdaron PDF 365 KB Datblygiad preswyl o 5 tŷ fforddiadwy ynghyd â mynediad gerbydol newydd a lôn stâd. AELOD LLEOL: Cynghorydd W. Gareth Roberts Dolen
i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datblygiad
preswyl o 5 tŷ fforddiadwy ynghyd â mynediad cerbydol newydd a lôn stad. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir
y cais, gan nodi bod y safle yn ei gyfanrwydd
wedi ei leoli
y tu allan
ond yn union gerllaw ffin datblygu
pentref Aberdaron. Nodwyd bod polisi C1 o’r CDUG yn datgan
y caniateir cynigion am dai fforddiadwy
ar safleoedd gwledig addas oedd
union ar ffin pentrefi a chanolfannau lleol fel eithriad
i bolisïau tai arferol os gellir
cydymffurfio gyda’r holl feini prawf
a gynhwysir yn y polisi. Eglurwyd bod y bwriad yn cydymffurfio efo’r meini prawf
o dan y polisi hwn oherwydd: ·
Bod y wybodaeth a gyflwynwyd yn y Datganiad Tai Fforddiadwy ac ymateb yr Uned
Strategol Tai yn cadarnhau bod angen yn yr ardal
am unedau fforddiadwy; ·
Y byddai’r safle yn ffurfio
estyniad rhesymegol i ffurf adeiledig
y rhan yma o bentref Aberdaron ac na fyddai’n ffurfio
estyniad annerbyniol i gefn gwlad; ·
Y cyfyngir meddiannaeth y tai fel tai fforddiadwy drwy gytundeb 106 tai fforddiadwy ar gyfer angen lleol
cyffredinol. Cadarnhawyd bod y tai yn cyd-fynd
gyda gofynion Canllaw Cynllunio Atodol: Tai Fforddiadwy o ran maint. Adroddwyd y derbyniwyd gwybodaeth am bris marchnad agored y tai gyda’r prisiad
yn nodi y byddai pris y tai ar y farchnad agored
rhwng £230,000 a £250,000. Nodwyd
o ystyried y prisiau a dderbyniwyd a sylwadau’r Uned Strategol Tai yr ystyriwyd y dylai disgownt o werth pris marchnad
agored y tai fod o leiaf 40%. Nodwyd bod yr Uned Drafnidiaeth
yn fodlon gyda’r bwriad os
caniateir y cais efo amodau o ran y fynedfa a pharcio. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b) Cefnogwyd y cais gan yr aelod
lleol (nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn), nododd ei fod yn
estyniad rhesymegol i’r pentref a dylid
cefnogi pobl ifanc leol yn
eu hymgais i gael cartref. (c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. Nododd
aelod ei fod yn croesawu’r
cais ond yn pryderu o ochr
fforddiadwyedd y tai, nid oedd yn
amlwg bod yr Uned Strategol Tai yn hollol fodlon
efo’r hyn a gynigir. Roedd yn synnu nad oedd cymysgedd o dai ac o’r farn bod angen
rhoi cyfle i bobl ifanc
oedd angen tŷ 2 neu 4 ystafell wely. Mewn
ymateb, nododd y Rheolwr Cynllunio bod y Datganiad Tai Fforddiadwy yn nodi bod y tai
yn cyfarch anghenion 5 teulu penodol. Nododd
aelod ei fod wedi ei
argyhoeddi’n llwyr fod angen lleol
a bod y bwriad yn cyfarch anghenion cyplau ifanc a
oedd eisiau byw’n lleol. PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr
Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau cytundeb
106 yn clymu’r tai fel tai fforddiadwy angen cyffredinol. Amodau: 1. Amser 2. Cydymffurfio gyda chynlluniau 3. Llechi ar y to 4. Cytuno deunyddiau waliau allanol. 5. Tynnu hawliau datblygiadau a ganiateir |
|
Cais Rhif C17/0016/33/LL - Tŷ Cynan, Rhydyclafdy, Pwllheli PDF 336 KB Creu safle carafanau teithiol ar gyfer 10 carafan yn cynnwys bloc toiledau / cawod, lleiniau caled a tanc septig. AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J. Davies Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Creu
safle carafanau teithiol ar gyfer 10 carafán yn cynnwys bloc toiledau / cawod,
lleiniau caled a thanc septig. (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan
nodi bod safle’r cais wedi ei leoli y tu allan i ffin datblygu’r pentref a dros
60 medr oddi wrth y tai preswyl agosaf. Nodwyd ni ystyriwyd y byddai’r bwriad
yn achosi niwed arwyddocaol i fwynderau’r gymdogaeth leol. Tynnwyd sylw y derbyniwyd llythyr yn gwrthwynebu’r bwriad
ers cyhoeddi’r rhaglen. Roedd y bwriad gwreiddiol yn cynnwys bwriad i gysylltu
draeniau'r toiled i danc septig newydd. Fodd bynnag, derbyniwyd cynllun
diwygiedig gan yr ymgeisydd yn dangos bwriad i gysylltu’r toiledau i’r
garthffos gyhoeddus oedd yn rhedeg drwy’r safle.
Nodwyd bod yr argymhelliad wedi ei ddiwygio, bellach argymhellir dirprwyo’r
hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i gytuno ar
union ddull gwaredu carthffosiaeth. Nodwyd oherwydd graddfa’r cais a’i leoliad ynghyd â’i nodweddion naturiol presennol ni ystyriwyd fod y safle
yn ymwthiol yn y dirwedd ac ni ystyriwyd ei fod yn debygol o gael effaith
niweidiol arwyddocaol ar fwynderau gweledol Ardal Gwarchod y Dirwedd. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad
nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod nifer helaeth o goed wedi eu plannu
ar y safle i wella sgrinio; ·
Y byddai lleihau uchder y gwrych yn y fynedfa
yn gwella gwelededd; ·
Y byddai’r bwriad yn darparu
incwm ychwanegol i ddiogelu tŷ
ei deulu; ·
Dyluniwyd y bwriad yn ofalus
er mwyn lleihau’r
effaith ar y gymuned; ·
Bod cefnogaeth leol i’r bwriad. (c) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. Nododd
aelod er bod sylw yn y wasg
o ran ei safbwynt ar feysydd carafanau
teithiol, nid oedd yn erbyn
y cais ac roedd yr ymgeisydd wedi
gwneud ymdrech i guddied y safle. PENDERFYNWYD
dirprwyo’r hawl i’r
Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r
cais yn ddarostyngedig
i gytuno ar union ddull gwaredu carthffosiaeth. Amodau: 1.
5 mlynedd 2.
Unol â chynlluniau a gyflwynwyd 3.
Nifer o unedau ar y safle ar unrhyw
un adeg i’w cyfyngu i 10 4.
Amodau cyfnod gosod carafanau/cyfnod gwyliau/symud y carafanau pan ddim mewn defnydd 5.
Dim storio
ar y tir 6.
Rhestr cofnodi 7.
Tirlunio 8.
Gwella gwelededd mynedfa cyn defnyddio’r safle 9.
Cyflwyno manylion adeiladu clawdd ar hyd
terfyn gogleddol a gorllewinol y safle a’i weithredu cyn
defnyddio'r safle |
|
Cais Rhif C17/0041/09/LL - Tir gyferbyn Glan y Môr, Tywyn PDF 108 KB Codi dau deras o naw annedd (pedwar o'r anheddau ar gyfer angen lleol fforddiadwy). AELODAU LLEOL: Y Cynghorwyr Anne Lloyd Jones a Mike Stevens Dolen
i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cadeiriwyd y drafodaeth ar y cais hwn gan y Cynghorydd
Michael Sol Owen. Codi dau deras o naw annedd (pedwar o’r anheddau ar
gyfer angen lleol fforddiadwy). (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y bwriad
yn ddatblygiad preswyl ar safle tu mewn i ffin datblygu tref Tywyn gyda thai
preswyl wedi’u lleoli ar dir gerllaw’r safle i bob cyfeiriad. Nodwyd y byddai gostyngiad o 20% ym mhris y tai fforddiadwy gan ddod a’r
pris i lawr i oddeutu £128,000 o gymharu â phris marchnad agored o oddeutu
£160,000. Tynnwyd sylw nad oedd safle’r cais wedi ei leoli o fewn ardal lifogydd ond
bod pryder y gallai’r ffordd fynediad i’r safle o
Marine Parade gael ei heffeithio gan lifogydd. Nodwyd
yn wreiddiol roedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bryderon sylweddol, ond yn
dilyn diwygiadau i gynnwys yr Asesiad Canlyniadau Llifogydd derbyniwyd
cadarnhad fod CNC yn hapus gyda’r diwygiadau cyn belled
bo amodau yn cael eu cynnwys ar unrhyw ganiatâd cynllunio yn nodi fod llwybr
dihangfa i gyfeiriad Ffordd Warwig (i’r dwyrain) yn
cael ei ddarparu cyn i’r datblygiad gael ei anheddu, a bod lefelau llawr
gorffenedig y datblygiad yn 7.1 medr Uwchlaw Seilnod
Ordnans. Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn
yr adroddiad. (b) Nododd yr aelod lleol
(oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), ei bod yn
fodlon efo’r argymhelliad. (c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. Mewn ymateb i
sylw gan aelod bod pris y tai fforddiadwy yn uchel o ystyried cyflogau yn ardal
Meirionnydd, nododd y Rheolwr
Cynllunio bod yr Uned Strategol Tai wedi cadarnhau eu bod yn fforddiadwy.
PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r
ymgeisydd gwblhau cytundeb cyfreithiol o dan Adran 106 o’r Ddeddf Cynllunio
1990 er mwyn sicrhau fod 4 tŷ allan o gyfanswm o
9 tŷ yn fforddiadwy yn y lle cyntaf ac am byth. Amodau: 1.
5 mlynedd i gychwyn y datblygiad. 2.
Yn
unol â’r cynlluniau a gyflwynwyd. 3.
Llechi naturiol. 4.
Deunyddiau allanol i’w cytuno. 5.
Gwaith tirlunio, plannu a gwelliannau i
fioamrywiaeth i’w cwblhau o fewn amserlen benodol 6.
Amodau priffyrdd perthnasol. 7.
Amod tynnu hawliau a ganiateir i ffwrdd. 8.
Lefelau llawr gorffenedig yr anheddau i fod o 7.1m
Uwchlaw Seilnod Ordnans 9.
Sicrhau bod llwybr troed yn cael ei ddarparu i
gysylltu’r safle a Ffordd Warwig ar gael cyn i’r tai
cael eu meddiannu, rhaid cadw’r llwybr yn glir a di-rwystr yn ystod oes y
datblygiad. 10.
Amod
cyflwyno a chytuno manylion ffiniau’r safle. 11.
Amod dim dŵr wyneb i gael
ei waredu i’r garthffos gyhoeddus. 12.
Dim
amharu ar adnoddau Dŵr Cymru sydd yn croesi neu gerllaw safle’r cais |
|
Cais Rhif C17/0084/11/LL - Maesgeirchen Social Club, 90, Penrhyn Avenue, Bangor PDF 375 KB Dymchwel clwb cymdeithasol presennol a chodi adeilad tri llawr gyda siop (yn cynnwys caffi, arwyddion ffasgia a pheiriant talu arian) ar y llawr gwaelod a 10 fflat un llofft ar y lloriau uwch ynghyd â dau gynhwysydd storio (ail gyflwyniad o gais C16/0157/11/LL) AELODAU LLEOL: Y Cynghorwyr Dylan Fernley a Nigel W.
Pickavance Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel
clwb cymdeithasol presennol a chodi adeilad tri llawr gyda siop (yn cynnwys
caffi, arwyddion ffasgia a pheiriant talu arian) ar y llawr gwaelod a 10 fflat un
llofft ar y lloriau uwch ynghyd â dau gynhwysydd storio (ail gyflwyniad o gais
C16/0157/11/LL). (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir
y cais, gan nodi bod safle'r cais wedi ei
leoli tu mewn i ffin
datblygu Canolfan Isranbarthol Bangor. Nodwyd bod polisi CH38 o’r
CDUG yn ceisio diogelu cyfleusterau cymunedol presennol. Wrth dderbyn bod cyfleuster cymunedol wedi ei golli o'r
safle hwn oherwydd problemau gyda hyfywdra'r busnes blaenorol, byddai'r adeilad newydd hefyd yn
gyfleuster cymunedol ynddo'i hun, a thrwy ddarparu ystod fwy eang
o wasanaethau, roedd potensial i sicrhau
dyfodol mwy sicr i'r safle. Eglurwyd bod polisïau'r Cynllun Datblygu Unedol yn gefnogol o'r
egwyddor o geisio sicrhau datblygiadau cadarnhaol ar safleoedd
ail-ddatblygu oedd o fewn ffiniau datblygu
trefol. Nodwyd
y byddai’r adeilad a fwriedir yn sylweddol
uwch na'r adeilad presennol, ac yn wir fe fyddai'n uwch na'r holl
adeiladau eraill sydd yn y cyffiniau.
Tynnwyd sylw bod sawl adeilad tri llawr mewn rhannau
eraill o Faesgeirchen, gan gynnwys blociau
o fflatiau o faint cyffelyb,
ac ni ystyriwyd
y byddai’r adeilad yn wahanol ei
naws i adeiladau
eraill yn y stad. Nodwyd
er y gwerthfawrogir pryderon lleol am y bwriad, roedd rhaid
ystyried y cynllun yng nghyd-destun lleoliad trefol y safle yn ogystal
â’i ddefnydd blaenorol. Ni chredir y byddai'r datblygiad yn cael effaith
niweidiol arwyddocaol ychwanegol ar fwynderau
trigolion cyfagos ac y byddai’r datblygiad yn gydnaws gyda
Pholisïau B23 a B33 o’r
CDUG a oedd yn anelu at amddiffyn
mwynderau trigolion lleol. Tynnwyd
sylw bod yr Asesiad Marchnad Dai a gyflwynwyd gyda'r cais yn honni
bod diffyg yn y farchnad dai
yn lleol ar gyfer unedau
un llofft ar gyfer unigolion neu gyplau a oedd
am gymryd eu camau cyntaf yn
y farchnad dai. Nodwyd yn gyffredinol
ystyriwyd bod y safle yn addas ar
gyfer unedau byw a byddai’r fflatiau yn cwrdd
â galw lleol mewn modd a
oedd yn fforddiadwy.
Roedd
y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod angen am lety a siop ym
Maesgeirchen; ·
Bod galw am lety 1 ystafell wely nad oedd
yn cael ei
ddiwallu; ·
Bod ganddo brofiad o ddatblygu eiddo o’r fath. (c) Gwrthwynebwyd y cais gan y Cynghorydd Nigel Pickavance, aelod lleol (nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddo:- ·
Bod nifer uchel o
wrthwynebiadau i’r bwriad; ·
Y byddai’n or-ddatblygiad
o’r safle; ·
Bod problemau gwrthgymdeithasol
mewn bloc o fflatiau a oedd 4 milltir i ffwrdd o’r safle ac o ystyried na
fyddai rheolaeth o’r safle yma ei bryder y byddai problemau cyffelyb yn codi; · Ei bryder y byddai’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.5 |
|
Cais Rhif C17/0100/46/LL - Hirdre Ganol, Edern, Pwllheli PDF 337 KB Ymestyn safle carafanau teithiol presennol gan gynyddu niferoedd carafanau teithiol o 11 i 22. AELOD LLEOL: Cynghorydd Simon Glyn Dolen
i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ymestyn
safle carafanau teithiol presennol gan gynyddu niferoedd carafanau teithiol o
11 i 22. (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan
nodi bod safle’r cais wedi ei leoli yng nghefn gwlad ac o fewn Ardal Gwarchod y
Dirwedd. Er bod y safle neu rannau o’r safle yn weladwy o ardaloedd uwch
ymhellach i ffwrdd ni ystyriwyd y byddai’r bwriad o ymestyn y safle o ran ei
arwynebedd a’i niferoedd yn debygol o greu nodwedd ymwthiol nac amlwg yn y
dirwedd. Tynnwyd
sylw bod y safle wedi ei leoli oddeutu 225 medr oddi wrth Ardal Cadwraeth
Arbennig (ACA) Corsydd Llyn a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Cors Hirdre. Nodwyd y
derbyniwyd sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar y bwriad ac roedd y sylwadau yn
ystyried oherwydd natur y datblygiad ei bod yn annhebyg o effeithio ar y
nodweddion, cyfanrwydd ecolegol neu ymarferoldeb unrhyw safleoedd statudol o
ddiddordeb ecolegol, daearegol a/neu geomorffolegol. Roedd y datblygiad yn dderbyniol
o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b) Cefnogwyd y cais gan yr aelod
lleol (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd bod y safle yn addas
ar gyfer y nifer a ofynnir amdanynt a bod y maes
carafanau yn cael ei reoli’n
gyfrifol. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1.
Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2. Unol â chynlluniau a gyflwynwyd. 3. Nifer o unedau teithiol ar y safle ar
unrhyw un adeg i’w cyfyngu
i 22. 4. Cyfyngu tymor
i rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref. 5. Defnydd gwyliau
yn unig. 6. Cadw cofrestr. 7. Dim storio carafanau
teithiol ar y safle. 8. Cyflawni’r cynllun tirlunio. |
|
Cais Rhif C17/0112/42/LL - Gwynant, Lôn Cae Glas, Edern, Pwllheli PDF 67 KB Cynyddu nifer carafanau teithiol o 25-35 a gwelliannau amgylcheddol. AELOD LLEOL: Cynghorydd Sian Wyn Hughes Dolen
i’r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cynyddu
nifer carafanau teithiol o 25-35 a gwelliannau amgylcheddol. (a)
Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli tua
350 medr tu allan i ffin datblygu Edern ac o fewn Ardal Gwarchod y Dirwedd. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Nodwyd oherwydd graddfa’r cais a’i leoliad ynghyd â’i nodweddion naturiol presennol ni ystyriwyd fod y safle
yn ymwthiol yn y dirwedd ac nid oedd yn debygol o gael effaith niweidiol
arwyddocaol ar fwynderau gweledol Ardal Gwarchod y Dirwedd. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Cefnogwyd y cais gan yr aelod
lleol (nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddi:- ·
Bod yr ymgeisydd yn gwneud
bywoliaeth o’r maes carafanau; ·
Bod cwsmeriaid sefydlog a
rhestr aros am lain; ·
Nad oedd y safle yn weledol; ·
Nid oedd yr Uned Drafnidiaeth
yn gwrthwynebu cynyddu’r nifer, roedd amryw o lefydd pasio ar y ffordd. (c) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. Nododd aelod nad oedd yn gwrthwynebu’r bwriad
ond roedd yn pryderu o ran yr effaith cronnus ar yr ardal. Nododd aelod ei fod yn hanfodol i ddenu
twristiaid i’r ardal. Ychwanegodd aelod y byddai’r bwriad yn cynyddu incwm
lleol. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1.
Cychwyn
o fewn 5 mlynedd. 2. Unol â chynlluniau a gyflwynwyd. 3. Nifer o unedau teithiol ar y safle ar
unrhyw un adeg i’w cyfyngu
i 35. 4. Cyfyngu tymor
i rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref. 5. Defnydd gwyliau
yn unig. 6. Cadw cofrestr. 7. Dim storio carafanau
teithiol ar y safle. 8. Cyflawni’r cynllun tirlunio. |
|
Cais Rhif C17/0116/08/LL - Gweithdai, Portmeirion, Penrhyndeudraeth PDF 330 KB Cais llawn i godi adeilad gwasanaethau cynnal newydd i gynnwys storfeydd, gweithdai, tŷ golchi a swyddfeydd ynghyd â phlannu coedlan newydd ar dir cyfagos. AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Thomas Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais
llawn i godi adeilad gwasanaethau cynnal newydd i gynnwys storfeydd, gweithdai,
tŷ golchi a swyddfeydd ynghyd â phlannu coedlan newydd ar dir cyfagos. (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais, gan nodi bod y safle tu mewn i
ffin Ardal Gadwraeth ac o fewn ardal a ddynodwyd yn Ardal Gwarchod
y Dirwedd. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Cydnabuwyd bod yr adeilad yn
sylweddol ac o ymddangosiad
‘diwydiannol’ o fewn ardal sensitif o ran dynodiadau ac edrychiad. Er hynny, credir
y byddai’r bwriad yn gyfle i
dwtio’r safle. Nodwyd y byddai’r gorffeniadau allanol terfynol i’w cytuno drwy
amod ffurfiol. Ni chredir y byddai’r adeilad oherwydd ei faint, dyluniad a gorffeniad yn cael
ardrawiad ar nodweddion na
chymeriad yr ardaloedd gwarchodedig. Nodwyd bod y datblygiad arfaethedig yn golygu torri
rhai coed presennol o fewn y safle, roedd sylwadau
a dderbyniwyd gan yr Uned Bioamrywiaeth
yn datgan y dylid cynnal gwaith
torri coed y tu allan
i gyfnod nythu adar ac o gwblhau’r datblygiad na ddylid goleuo’r
safle i raddau
ble fyddai’n amharu ar goedlan
hynafol. Awgrymwyd cynnwys amodau
perthnasol er mwyn sicrhau y byddai’r gofynion uchod yn cael
eu bodloni. Adroddwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal rhwng
Uwch Swyddog yr Uned Bioamrywiaeth
a’r ymgeisydd er mwyn cytuno
ar fesurau priodol i liniaru
effaith y golled o goed ar y safle. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi
cynnig plannu coedlan gyda rhywogaethau
cynhenid ar dir gerllaw a bod manylion cynllun tirlunio pellach yn cael ei
yrru er cytuno
ar gyfer ardaloedd eraill i blannu coed. Roedd y datblygiad yn dderbyniol
o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Ei fod wedi cyflwyno lluniau
i’r Gwasanaeth Cynllunio; ·
Ei fod yn berchennog llety
hunanarlwyo o safon gyda’r ardd yn
edrych yn uniongyrchol ar yr adeilad biomas; ·
Nad oedd yn gwrthwynebu’r bwriad o ran egwyddor ond roedd polisïau
lleol a cenedlaethol yn cefnogi llety
yn ogystal; ·
Yr angen i’r ymgeisydd gyflwyno
cynllun plannu coed manwl; ·
Yr angen i gynnal asesiad
effaith gweledol. (c) Yn manteisio ar
yr hawl i
siarad nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod y datblygiad yn allweddol
i gynaliadwyedd Portmeirion; ·
Y byddai’r bwriad yn gwella’r
adnoddau; ·
Yn barod i gydweithio efo’r
swyddogion. (ch)
Mewn ymateb i sylwadau’r gwrthwynebydd,
nododd y Rheolwr Cynllunio: ·
bod y Gwasanaeth wedi derbyn
lluniau ganddo a oedd yn dangos perthynas ei eiddo â’r
safle. Ystyriwyd na fyddai effaith annerbyniol.
·
bod Uwch Swyddog o’r Uned
Bioamrywiaeth wedi bod yn cynnal trafodaethau efo’r ymgeisydd ac argymhellir
gosod amod tirlunio. ·
O’r farn
nad oedd angen asesiad effaith gweledol gan fod y safle yn eithaf cuddiedig o
fewn safle Portmeirion ac ystyrir na fyddai effaith niweidiol sylweddol weledol
yn deillio o’r bwriad. (d) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. Yn ystod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.8 |
|
Cais Rhif C17/0144/23/LL - Tir tu cefn i 1 Tai Trefor, Ceunant, Llanrug PDF 323 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi sied amaethyddol. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir
y cais, gan nodi bod y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn bennaf yn cyfeirio
at ddefnydd presennol y safle, maint a lleoliad y sied mewn perthynas ag eiddo cyfagos ac effaith trafnidiaeth a gynhyrchir gan y defnydd ar gyflwr
y ffordd breifat a oedd yn arwain
i’r safle ynghyd â chefn y tai teras cyfagos. Nodwyd bod dyluniad y sied yn syml
ei naws ac o fath a fyddai’n ddisgwyliedig ar gyfer sied amaethyddol
a bod y math yma o adeilad yn nodwedd arferol
a oedd i’w weld mewn ardal wledig
felly ni ystyriwyd
y byddai’r sied yn sefyll allan
yn amlwg yn y dirwedd ehangach.
Cydnabuwyd y byddai’r sied yn hollol
weladwy o gefnau’r tai cyfagos a’i
gerddi ond oherwydd gosodiad y sied gyda’i thalcen
yn wynebu’r tai a’i bellter rhyngddynt,
ni ystyriwyd y byddai’r effaith yn ormesol nac
yn sylweddol niweidiol ar eu
mwynderau preswyl. Amlygwyd bod defnydd y tir fel
rhan o uned amaethyddol eisoes yn bodoli. Cydnabuwyd bod gweithgareddau
amaethyddol yn debygol o gynhyrchu effeithiau ond roedd yr effaith
eisoes yn bodoli boed sied
yn bodoli ar y safle neu
beidio. Adroddwyd bod ymweliad o’r safle
wedi amlygu nad oedd
gan yr uned
lle priodol i storio peiriannau
ac offer a bod hynny yn ei hun yn
creu effaith gweledol negyddol. Ystyriwyd y byddai caniatáu sied storio
briodol ar y safle yn ffordd
o wella effaith gweledol y safle trwy gadw’r offer oddi fewn y sied.
Ni ystyriwyd y byddai’r sied yn cynyddu’r
effaith ar drigolion cyfagos gan na fyddai’n golygu dwysau defnydd amaethyddol y safle, roedd y sied yn
ymateb i’r defnydd ac anghenion presennol. Cydnabuwyd pryder a godwyd gan wrthwynebwyr
am gadw da byw yn y sied, ond
roedd y bwriad yn gofyn am sied
i storio offer a pheiriannau a phorthiant yn unig. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Nodwyd
yr ystyrir y datblygiad yn addas a derbyniol ar gyfer y safle
a’i fod yn cydymffurfio gyda’r polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a
nodwyd yn yr adroddiad. (a)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd asiant yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Nad oedd gan yr
ymgeisydd ffermdy nac adeiladau cysylltiol
i storio offer. Roedd hyn yn
cyfyngu ar allu’r ymgeisydd i ddatblygu’r fferm; ·
Bod yr ymgeisydd yn cydnabod
pryderon y gwrthwynebwyr ond fe fyddai’r
bwriad yn welliant gan dacluso’r
safle; ·
Bwriad yr ymgeisydd i wella’r
trac mynediad. (c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau: ·
Cwestiynu’r angen i osod
amod i atal
storio tail a slyri o fewn yr adeilad
o ystyried ei fod yn erbyn
polisïau amaethyddol i’w storio tu
allan; ·
Y dylid ystyried peidio gosod yr amod; · Bod darn o’r trac ym mherchnogaeth yr ymgeisydd gyda rhan ohono yn gwasanaethu 7 o dai a’i fod yn bwysig ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.9 |
|
Cais Rhif C17/0156/33/LL - Tir ger Bryn Hyfryd, Rhydyclafdy, Pwllheli PDF 363 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu adeilad ffram portal
ar gyfer ail leoli busnes trwsio cerbydau ynghyd â gwella mynedfa, llawr caled
allanol, draenio a thirlunio (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais,
gan nodi bod polisi D7 o’r CDUG yn datgan y caniateir
cynigion ar gyfer gweithdai neu unedau diwydiannol
/ busnes ar raddfa fach y tu
allan i ffiniau
datblygu os gellir dangos mai
safle’r datblygiad oedd y lleoliad mwyaf addas i
gyflenwi’r angen ac os gellir cydymffurfio
gyda meini prawf yn y polisi.
Nodwyd yr ystyriwyd fod y datblygiad o ran ei faint yn un ar
raddfa fach. Roedd gofyn hefyd
fod y safle yn cael ei
gyfiawnhau fel yr un mwyaf
addas i gyflenwi’r
angen. Adroddwyd y cyflwynodd yr ymgeisydd
wybodaeth am nifer o safleoedd roedd wedi ei ystyried
ac nad ydynt
yn addas neu ddim ar
gael am amrywiol resymau. O’r wybodaeth
a gyflwynwyd ymddengys fod ymdrech wedi
ei wneud i geisio safle
neillog, gan gynnwys safleoedd ar neu ger
stadau diwydiannol presennol, ac nad
oedd safle neillog addas ar
gael. Eglurwyd bod y bwriad yn cydymffurfio efo’r meini prawf
o dan y polisi hwn oherwydd: ·
Bod y safle wedi ei leoli
yn union gerllaw ffin ddatblygu’r pentref. Er y byddai
peth wahaniad oddi wrth yr
adeilad agosaf tua’r dwyrain ystyriwyd
bod y bwriad wedi ei leoli yn
gymharol agos at adeiladau yn y pentref a pan fyddai’r tai oedd gyda chaniatâd
cynllunio byw ar eu cyfer
ar yr ochr
ddeheuol o’r ffordd sirol yn
cael eu hadeiladu
byddai’r bwriad yn ymddangos fel
ei fod wedi
ei leoli o fewn grŵp o adeiladau. ·
Bod graddfa’r bwriad yn dderbyniol
ar gyfer y safle; ·
Y byddai’r tirlunio arfaethedig yn digolledu yn
erbyn y golled o’r clawdd presennol
er mwyn creu
mynedfa addas. Gellir gofyn hefyd
fel rhan o’r manylion tirlunio
am gynllun rheoli tymor hir ar
gyfer y tirweddu; ·
Ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn achosi niwed
arwyddocaol i’r gymdogaeth leol o ran ei raddfa, math a dyluniad. Tynnwyd sylw bod y safle o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli. Nodwyd o ran ei leoliad a’i
faint ystyriwyd mai yn lleol y byddai
effaith y bwriad ac na fyddai’n
cael effaith ehangach ar y dirwedd
hanesyddol. Nodwyd
yr ystyrir y datblygiad yn addas a derbyniol ar gyfer y safle
a’i fod yn cydymffurfio gyda’r polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a
nodwyd yn yr adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd asiant yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod archwiliad safleoedd posib i ail leoli’r busnes
yn dangos diffyg safleoedd addas heblaw am y safle dan sylw; ·
Byddai ymestyn cyfyngiad cyflymder 30mya y pentref tu hwnt
i’r safle yn gwella diogelwch
ffordd; ·
Byddai’r bwriad yn diogelu
busnes a oedd yn cyflogi 3 llawn
amser a 4 rhan amser; ·
Byddai’r bwriad yn diogelu
gwasanaeth pwysig yng nghefn gwlad; · Bod y bwriad yn cydymffurfio â pholisïau’r CDUG; ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.10 |
|
Newid defnydd tir ar gyfer creu safle carafanau teithiol ac estynnu adeilad presennol i greu toiledau a chodi adeilad ar gyfer gwaredu gwastraff. AELOD LLEOL: Cynghorydd Annwen Daniels Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ôl-weithredol i newid defnydd tir ar gyfer creu safle carafanau
teithiol ac estynnu adeilad presennol i greu toiledau
a chodi adeilad ar gyfer gwaredu gwastraff. (a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli
o fewn ffin ddatblygu Blaenau Ffestiniog. Roedd y safle yn
dir gwag tu cefn i
rhesdai Gwynedd, gyda nifer o dai
ar wasgar o gwmpas y safle. Adroddwyd bod gwaith eisoes wedi
cychwyn ar y safle gyda rhan
fwyaf o’r lleiniau ffurfiol yn eu lle,
a’r llystyfiant wedi ei blannu.
Yn ystod yr ymweliadau
safle roedd carafán deithiol a charafán modur wedi eu lleoli
ar y safle. Roedd yr ymgeisydd yn
ymwybodol o’r sefyllfa gynllunio, gyda’r Uned Gorfodaeth
wedi bod yn trafod y mater gydag ef eisoes. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Nodwyd bod y Swyddog Carafanau wedi cadarnhau nad
oedd gosodiad y safle yn bodloni
amodau trwydded (Safonau Model 1983) o ran dwysedd
safle. Ystyriwyd nad oedd
gosodiad y safle yn addas ar
gyfer ei ddefnydd bwriedig fel safle teithiol.
Tynnwyd sylw nad oedd
mannau agored wedi eu cynllunio
i mewn i’r
safle, ac er bod yna lecynnau agored
union gerllaw, nid oedd unrhyw le i blant chwarae
o fewn diogelrwydd y safle ei hun. Nodwyd bod y safle wedi ei
leoli oddi ar Ffordd Baltic (ffordd ddi-ddosbarth) a’r fynedfa i’r
ffordd yma oddeutu 80m i ffwrdd
o gyffordd Ffordd Baltic gyda’r Gefnffordd A470. Dyma’r ffordd fwyaf
uniongyrchol i mewn ac allan
o’r safle. Roedd mynedfa newydd eisoes wedi ei
chreu i’r safle o Ffordd Baltic. Nid oedd gwrthwynebiad penodol i’r fynedfa
yma ar ei
ben ei hun. Nodwyd bod yr Uned
Drafnidiaeth wedi cadarnhau fod rhwydwaith
ffyrdd o’r fynedfa yma i’r
dde tua’r A470 neu i’r chwith
tua Ffordd Glanypwll o led ddigonol i ymdopi a traffic cyffredinol ddwy ffordd, ond ni
ystyrir fod y gyffordd naill ochr i Ffordd
Baltic (h.y cyffordd gyda’r A470 na’r gyffordd gyda Ffordd
Glanypwll) yn addas ar gyfer
y math o draffig a ddisgwylir
mewn perthynas â safle carafanau teithiol. Yn ogystal,
roedd yr Uned Cefnffyrdd wedi cadarnhau nad oedd
defnyddio cyffordd Ffordd Baltic a’r A470 yn dderbyniol. Adroddwyd bod y Swyddog Achos Gorfodaeth a’r Uned Drafnidiaeth
wedi datgan yn glir na fyddai mynedfa i’r safle
oddi ar Ffordd
Baltic yn dderbyniol petai cais yn
cael ei gyflwyno
ar gyfer y safle. Roeddent wedi awgrymu o bosib y byddai defnyddio’r fynedfa bresennol heibio eiddo’r ymgeisydd ac a adnabyddir fel
Ty’n y Coed yn gallu bod yn
dderbyniol. Nid oedd y fynedfa
yma yn ffurfio
rhan o’r cais, ac nid oedd
wedi ei asesu
gan yr Uned
Cefnffyrdd. Nodwyd yr ystyrir bod y datblygiad yn annerbyniol a’i fod yn groes i’r
polisïau perthnasol fel y nodwyd yn yr adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.11 |