Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: (a) Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol am y rhesymau a nodir: ·
Y Cynghorydd Huw G. Wyn Jones,
yn eitemau 5.3 a 5.8 ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C17/0159/39/LL a
C17/0438/18/LL) oherwydd ei fod yn adnabod cynrychiolydd Cadnant Planning; ·
Y Cynghorydd Judith Humphreys, yn eitem 5.7 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C17/0437/22/LL) oherwydd ei bod yn Lywodraethwraig Ysgol Gynradd Bro Lleu; ·
Y Cynghorydd Catrin Wager, yn
eitem 5.8 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0438/18/LL) oherwydd ei bod yn
ffrindiau gyda gwrthwynebydd. Roedd yr Aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau a
oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a
nodir. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn
aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Sian Wyn Hughes,
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C17/0185/42/LL); ·
Y Cynghorydd W. Gareth
Roberts, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.5, 5.6 a
5.7 ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C17/0221/30/LL, C17/0237/30/LL a C17/0437/22/LL); ·
Y Cynghorydd Judith Humphreys (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn), yn eitem 5.7 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0437/22/LL); ·
Y Cynghorydd Elfed Williams
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.8 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C17/0438/18/LL). Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2017, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2017, fel rhai cywir yn ddarostyngedig i ychwanegu enw’r Cynghorydd Edgar Wyn Owen i’r rhai a oedd yn bresennol. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth
Adran Rheoleiddio. Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol
i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion
y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C17/0325/38/LL - Tir ger 2 Bryn Goleu, Llanbedrog, Pwllheli PDF 270 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu tŷ deulawr. (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2017 er mwyn rhoi cyfle i swyddogion yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd baratoi cynllun
ar gyfer y pwyllgor yn dangos lleoliad y tŷ bwriadedig
mewn perthynas i ffin datblygu'r pentref fel y dynodwyd o fewn Cynllun Datblygu
Unedol Gwynedd (CDUG) a Chynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl).
Roedd y cynllun wedi ei gynnwys yn y rhaglen ac amcangyfrifir y byddai 60% o
arwynebedd llawr y tŷ tu allan i’r ffin datblygu. Nodwyd mai’r prif fater
cynllunio oedd egwyddor y datblygiad. Eglurwyd oherwydd bod rhan helaeth o’r
safle ynghyd â’r tŷ wedi
eu lleoli tu allan
i’r ffin datblygu roedd y bwriad cyfystyr a chodi tŷ newydd
yng nghefn gwlad ac yn groes
i bolisi C1, CH4 a CH9 o’r CDUG. Nodwyd bod y swyddogion yn parhau
i bryderu ynglŷn ag effaith
andwyol y bwriad ar sail gor-edrych, colli preifatrwydd a chreu strwythur gormesol gan gael
effaith negyddol ar ddeiliaid tai cyfagos. Wedi ystyried yr holl faterion
perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol, y sylwadau a’r wybodaeth a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd, ni
ystyriwyd fod y datblygiad yn dderbyniol. (b) Cynigwyd ac eiliwyd i gynnal ymweliad safle. Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau: ·
Wedi derbyn gohebiaeth gan yr ymgeisydd,
roedd yn anghytuno o ran lleoliad y ffin datblygu; ·
A fyddai canran uwch o arwynebedd
llawr tu fewn y ffin yn
gwneud gwahaniaeth? ·
Bod nifer o geisiadau aflwyddiannus wedi eu cyflwyno
yng nghyswllt y safle; ·
Cyngor Cymuned Llanbedrog wedi tynnu eu
sylwadau yn ôl; ·
Nid oedd y bwriad yn
cydymffurfio â’r polisïau gan ei
fod tu allan
i’r ffin datblygu ac fe fyddai’n amharu ar fwynderau preswyl
tai cyfagos; ·
Er mwyn dangos tegwch
i’r ymgeisydd dylid cynnal ymweliad
safle; ·
Ddim yn gweld diben
cynnal ymweliad safle; ·
Wedi cynnig cynnal ymweliad
safle er mwyn asesu agosatrwydd
y tŷ at y gweithdy ac effaith y bwriad ar y lôn a’r
fynedfa. (c) Mewn
ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion: ·
Y derbyniwyd cadarnhad gan yr
Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd bod y ffin datblygu yn y CDUG a’r CDLl yr un peth ac oherwydd y drafodaeth yn y Pwyllgor
blaenorol fod sleid wedi ei ddarparu i’r Pwyllgor er mwyn dangos y sefyllfa
ynglŷn â’r ffin a lleoliad y tŷ arfaethedig
yn glir. ·
Ei fod yn fater o egwyddor,
dim ond mewn rhai sefyllfaoedd eithriadol y caniateir tŷ marchnad agored
tu allan i’r ffin datblygu. Nid oedd amgylchiadau y cais hwn yn eithriadol
felly ni welir diben mewn cynnal ymweliad safle. Pleidleisiwyd ar y cynnig i gynnal ymweliad
safle, syrthiodd y cynnig. (ch) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais. Holodd aelod a oedd yr ymgeisydd wedi trafod efo’r swyddogion yng nghyswllt ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1 |
|
Cais Rhif C17/0059/03/LL - Pencae Fucheswen, Blaenau Ffestiniog PDF 319 KB Cais i ddymchwel sied bresennol a chodi estyniad yn ei le. AELOD LLEOL: Cynghorydd R. Glyn Daniels Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais
i ddymchwel sied bresennol a chodi estyniad yn ei le. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir
y cais, gan nodi bod yr estyniad
bwriadedig o faint a dyluniad
a oedd yn
cydweddu gyda’r prif eiddo. Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn debygol
o gael effaith
andwyol ar fwynderau uniongyrchol preswylwyr cyfagos o ran preifatrwydd na gor-edrych. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Nodwyd bod yr Uned
Llwybrau wedi cadarnhau y dylid cadw’r llwybr cyhoeddus
a oedd yn
rhedeg heibio blaen y safle yn
glir ar unrhyw
adeg. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad
nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Y byddai’r estyniad o’r un ôl troed a’r
sied bresennol ac fe fyddai’n gwella’r
edrychiad o’r llwybr; ·
Ni fyddai’r datblygiad yn amharu
ar fynediad i’r llwybr cyhoeddus; ·
Bod y cyn berchennog wedi derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer
estyniad o’r fath yn 2010 ond
nid oedd wedi gweithredu ar y caniatâd. (c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. Nododd
aelod ei phryder o ran effaith y datblygiad ar y llwybr cyhoeddus a’r angen i
dderbyn sicrwydd y gwarchodir y llwybr. Tynnodd aelod sylw at yr
argymhelliad i osod amod i
warchod y llwybr pe caniateir y cais. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. Amser 2. Cydymffurfio gyda chynlluniau 3. Cytuno ar orffeniadau 4. Llechi 5. Gwarchod llwybr |
|
Cais Rhif C17/0159/39/LL - The Shanty, Pen Bennar, Abersoch, Pwllheli PDF 284 KB Dymchwel tŷ presennol ac adeiladu tŷ 3 llawr yn ei le. AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi Wyn Roberts Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel
tŷ presennol ac adeiladu tŷ 3 llawr yn ei le. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle ar benrhyn Abersoch,
y tu allan i ffin datblygu'r
pentref a thu mewn i Ardal
o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn (AHNE). Nodwyd bod y safle ar amrywiol
lefelau ac wedi ei leoli mewn ardal breswyl ac ymysg amryw o dai
eraill a oedd wedi eu lleoli ar glogwyn uwchben y môr. Adroddwyd y cyflwynwyd
lluniau gyda’r cais yn dangos y tŷ bwriadedig yn
y tirlun ehangach; gweler o’r lluniau bod y tŷ yn weladwy o’r môr yn
bennaf a’r eiddo cyfochrog i’r de a gogledd o’r safle. Ychwanegwyd y byddai’r
to, peth o wal gefn y modurdy a wal derfyn y safle i’w gweld o’r llwybr
cyhoeddus cyfochrog. Tynnwyd
sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan gyfeirio at ymateb yr Uned
AHNE i’r cynlluniau diwygiedig. Nodwyd bod yr Uned o’r
farn na
fyddai’r bwriad yn amharu ar yr AHNE. Yn dilyn
derbyn sylwadau gan wrthwynebydd yng nghyswllt rhoi
statws adeilad rhestredig i’r strwythur presennol, trafodwyd y sylwadau gydag Uwch Swyddog
Cadwraeth y Cyngor ac fe gadarnhaodd
nad oedd yr adeilad presennol
o werth hanesyddol na phensaernïol ac nid oedd yn
cyfiawnhau statws rhestredig. Nodwyd bod Polisi CH13 o’r CDUG, sef y prif bolisi
wrth asesu egwyddor y datblygiad, yn datgan y caniateir
cynigion i ddymchwel tŷ mewn cyflwr gwael
yng nghefn gwlad ac i ddatblygu
unedau byw newydd os cydymffurfir
a’r 5 maen prawf perthnasol. Nodwyd yr ystyrir fod
dyluniad yr eiddo o edrych arno o’r
môr yn gweddu
gyda’r safle oherwydd ei fod
yn dilyn siâp, gosodiad a phroffil y safle a defnyddir deunyddiau a oedd yn creu
dyluniad ysgafn. Teimlir bod y lluniau, a gyflwynwyd fel rhan o’r cais,
yn dangos na fyddai’r
adeilad yn creu datblygiad ymwthiol yn y tirlun
ac er bod edrychiad y tŷ yn wahanol,
ni ystyrir y byddai’n achosi niwed arwyddocaol i dirwedd ac arfordir
yr AHNE. Nodwyd bod Llwybr Cyhoeddus gerllaw’r safle a bod angen ei ddiogelu
yn ystod ac ar ddiwedd y datblygiad
a gellir gwneud hyn drwy amod
ar y caniatâd cynllunio. Nodwyd bod lleoliad, dwysedd, cynnydd mewn maint
yn rhesymol a’r dyluniad a’r
deunyddiau yn welliant i safle
agored o’r fath. O gofio bod tŷ ar y safle’n bresennol,
a sawl tŷ arall bob ochr i’r safle, ni fyddai newid arwyddocaol i dirlun a golygfeydd
o, ac ar draws yr AHNE nac effaith sylweddol
arwyddocaol ar fwynderau’r trigolion cyfagos. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad
nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod y datblygiad wedi ei ddylunio
i gyd-fynd efo amlinell/ffurf
y tir; · Bod y dyluniad yn ceisio cael cydbwysedd o ran preifatrwydd cymdogion a’r dyhead am ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3 |
|
Cais Rhif C17/0185/42/LL - Caffi Porthdinllaen, Lôn Golff, Morfa Nefyn, Pwllheli PDF 337 KB Cais rhannol ôl-weithredol ar gyfer gwelliannau i gaffi presennol i gynnwys amnewid adlen gyda ffenestri pren, creu llwyfan bren, caban gwerthu hufen ia, a darpariaeth toiledau newydd AELOD LLEOL: Cynghorydd
Sian Wyn Hughes Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais rhannol ôl-weithredol ar gyfer gwelliannau i gaffi
presennol i gynnwys amnewid adlen gyda ffenestri pren, creu llwyfan bren,
storfa a darpariaeth toiledau newydd (a) Adroddwyd bod y cais wedi ei dynnu’n
ôl. |
|
Cais Rhif C17/0221/30/LL - Penrhyn Canol, Aberdaron, Pwllheli PDF 330 KB Estyniad ochr, gosod tanc septig ac adeiladu ffordd fynediad newydd. AELOD LLEOL: Cynghorydd W. Gareth Roberts Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Estyniad
ochr, gosod tanc septig ac adeiladu ffordd fynediad newydd. (a) Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi bod safle'r cais wedi
ei leoli yng nghefn gwlad
o fewn yr AHNE a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Nodwyd
bod yr estyniad o ran ei ddyluniad, graddfa
a maint yn dderbyniol ac yn gymesur gyda’r eiddo presennol. Tynnwyd
sylw bod yr Uned AHNE wedi nodi bod yr estyniad
a fwriedir yn gweddu’n dda i’r
adeilad gwreiddiol ac nad oedd pryderon
o ran yr effaith ar yr AHNE. Nodwyd
yn dilyn derbyn sylwadau gan yr Uned
AHNE yng nghyswllt y trac mynediad, fe argymhellir gosod amod, pe
caniateir y cais, ar gyfer cyflwyno
manylion tirlunio ar gyfer y trac
ac yn benodol ar gyfer y ffin
ddwyreiniol. Roedd
y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd cynrychiolydd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Ei fod yn siarad ar
ran teulu Fferm Bryn a oedd yn denantiaid
amaethyddol i’r ymgeisydd; ·
Nad oedd yr ymgeisydd wedi
ymgynghori efo’r tenantiaid cyn cyflwyno’r cais; ·
Bod y fferm oddeutu 100 acer a byddai colli ychydig o dir yn cael
effaith gan fygwth hyfywdra'r fferm; ·
Bod y perchennog wedi cadarnhau ar lafar efo’r
tenantiaid na fyddai’r safle yn cael ei
werthu; ·
Byddai’n well lleoli’r estyniad tu cefn i’r
tŷ, yn hytrach na’r ochr,
er mwyn osgoi’r
tir amaethyddol; ·
Bod angen cyflwyno adroddiad o ran ystlumod a’r dylluan
wen a oedd yn cynefino yn yr
adeiladau allanol. (c) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd asiant yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt cynllunio; ·
Materion tenantiaeth ddim yn berthnasol o ran cynllunio; ·
Nid oedd yr Uned Bioamrywiaeth,
Uned AHNE, Cyngor Cymuned na Chyfoeth
Naturiol Cymru yn gwrthwynebu’r bwriad. (ch) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol
(nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Bod yr estyniad yn gweddu i’r
adeilad presennol; ·
Ei fod yn cytuno efo’r
sylwadau yn yr adroddiad o ran yr angen i godi clawdd gan ddefnyddio'r pridd a godir i wneud y trac mynediad; ·
Bod angen cynnal archwiliad i
gadarnhau os oedd ystlumod yn bresennol cyn gwneud y gwaith. (d) Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod, nododd y Rheolwr Cynllunio bod yr Uned Bioamrywiaeth wedi cadarnhau mai isel oedd
risg presenoldeb ystlumod yn yr
adeilad ac y byddai’n afresymol gofyn am arolwg llawn. Ychwanegodd,
pe caniateir y cais, yn unol
â’r arfer fe roddir nodyn
ar y cais yn nodi’r rheidrwydd
i atal gwaith
os oedd ystlumod
yn bresennol. Roedd hyn yn
cael ei reoli
tu allan i’r drefn cynllunio. (dd) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r
cais. Nododd aelod ei fod ddim yn deall pam y gofynnir am drac mynediad newydd yn yr AHNE pan fo mynediad i’r safle ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.5 |
|
Cais Rhif C17/0237/30/LL - Bryn Llan, Rhoshirwaun, Pwllheli PDF 239 KB Ymestyn maes carafanau teithio. AELOD LLEOL: Cynghorydd W.
Gareth Roberts Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cynyddu
nifer carafanau teithiol o 10 i 17 ar safle presennol. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod safle’r cais wedi ei leoli
rhwng pentref Pengroeslon a Rhydlios a thu mewn i
Ardal Gwarchod y Tirlun. Nodwyd bod polisi D20 o’r CDUG yn caniatáu cynigion
i gynyddu nifer y lleiniau ar safleoedd carafanau
teithiol presennol, cyhyd a bod y cynnig yn ffurfio rhan
o gynllun a fyddai’n arwain at welliannau amgylcheddol a gweledol o ran lleoliad, gosodiad, dyluniad a gwedd y safle a’i le yn
y dirwedd o’i amgylch gan ystyried
unrhyw effaith gronnol safleoedd carafanau teithiol presennol. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Nodwyd bod hawl cynllunio am 10 carafán teithiol yn bodoli ar
y safle yn ystyriaeth cynllunio o bwys wrth ystyried
y cais presennol. Ystyriwyd na
fyddai’r bwriad yn amharu yn
sylweddol ar fwynderau gweledol yr ardal, diogelwch
ffyrdd na mwynderau trigolion cyfagos. Roedd y datblygiad yn dderbyniol
o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol
(nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn):- ·
Nid oedd y gymuned leol yn
hapus efo’r bwriad; ·
Bod y safle carafanau yn hynod
o weladwy o’r lôn ac nad oedd llawer o sgrinio; ·
Nid oedd y tirlunio a gynigir yn mynd i gael effaith, fe ddylid plannu coed brodorol; ·
Bod angen tirweddu ar hyd ochr
y safle gyda’r trac mynediad a dim y cae ochr arall
i’r trac, cryfhau’r clawdd ochr Porthor a thirlunio ar hyd
y ffin gyda’r ffordd gyhoeddus. (c) Mewn ymateb i sylwadau’r aelod
lleol, nododd yr Uwch Reolwr
Gwasanaeth Cynllunio gellir gofyn i’r ymgeisydd symud y llinell tirlunio fel ei
fod yn mynd o amgylch y safle yn ogystal. Ychwanegodd y gellir
ystyried dwysedd y tirlunio a defnydd o goed a oedd yn gynhenid i’r ardal. (ch) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau: ·
Dylai’r ymgeisydd ymgymryd â’r tirlunio
cyn ehangu’r safle; ·
Bod y safle presennol yn hollol
amlwg yn y tirlun ac fe ddylid
gofyn i’r ymgeisydd i blannu
coed cyn cyflwyno cais i
ehangu’r safle; ·
A oedd amod ar y caniatâd
cynllunio gwreiddiol o ran tirlunio? ·
Ni dderbyniwyd gwrthwynebiad yn dilyn yr ymgynghoriad
cyhoeddus. (d) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion: ·
Y dylid rhoi ystyriaeth
i effaith y cynnydd mewn nifer o garafanau ar y dirwedd. Fe argymhellir, pe
ganiateir y cais, i osod amod tirlunio ac fe sicrheir bod y cynllun tirlunio yn
cyd-fynd â gosodiad y safle; ·
Caniatawyd y cais
cynllunio gwreiddiol 1986 ac nid oedd rheidrwydd bod amod tirlunio wedi ei
osod. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. 5 mlynedd 2. Unol â chynlluniau a gyflwynwyd 3. Nifer o unedau ar y safle ar
unrhyw un adeg i’w cyfyngu i
17 4. Amodau cyfnod gosod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.6 |
|
Gosod mast telathrebu 21m o uchder gan gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet offer, cyfarpar offer cysylltiedig ynghyd a ffens diogelwch 1.8 o uchder. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Judith Humphreys Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosod
mast telathrebu 21m o uchder gan gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet
offer, cyfarpar offer cysylltiedig ynghyd â ffens diogelwch 1.8 o uchder. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli ar gyrion Penygroes i gefn safle
cyfnewidfa ffôn a oedd yn cynnwys
adeilad unllawr parhaol. Eglurwyd bod tai preswyl yr ochr
bellaf i’r ffordd gyhoeddus i gyfeiriad y gogledd,
gorllewin a’r dwyrain gyda’r canlynol gerllaw, Ysgol Gynradd Bro Lleu, Ysgol Uwchradd
Dyffryn Nantlle a Chanolfan Hamdden Plas Silyn. Nodwyd bod polisi CH20 o’r CDUG yn caniatáu cynigion
ar gyfer seilwaith newydd ac offer telathrebu yn ddarostyngedig
i ystyriaeth lawn o feini prawf penodol.
Adroddwyd bod yr ymgeisydd wedi nodi o fewn dogfennau’r
cais cynllunio y rhesymau pam fod y lleoliad yma wedi
ei ddewis ar gyfer y datblygiad,
gan nodi ei fod yn
rhan o amcan y Llywodraeth i ledaenu
signal ffon 4G i lefydd ble nad
oedd yn bodoli’n
barod, ac yn benodol ardaloedd gwledig. Derbyniwyd gwrthwynebiad ar sail pryder am effaith y datblygiad ar iechyd,
ac yn benodol ar iechyd plant yn yr Ysgol
Gynradd gerllaw. Nodwyd bod maen prawf rhif 3 o bolisi CH20 yn sicrhau bod datblygiadau arfaethedig yn bodloni canllawiau’r Comisiwn Rhyngwladol ar Amddiffyn rhag
Ymbelydriad Anïoneiddiol
(ICNIRP). Derbyniwyd gwybodaeth
yn dangos cydymffurfiaeth gyda’r safonau yma. Er
y cydnabuwyd fod pryder wedi ei
godi ynglŷn ag effaith posib, ni ystyriwyd fod
y bwriad yn groes i’r polisïau
cenedlaethol na’r Cynllun Unedol ac nid oedd angen
rhagor o wybodaeth i asesu effaith
posib y datblygiad. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Nodwyd ei fod yn anorfod y byddai’r prif strwythur
arfaethedig yn rhannol weladwy o fannau cyhoeddus oherwydd yr angen
iddo fod mewn lleoliad weddol
agored er mwyn sicrhau y byddai’n gweithio i’w gapasiti llawn.
Roedd y tai preswyl agosaf rhwng oddeutu
50m a 90m i ffwrdd o safle’r cais i gyfeiriadau
gwahanol, cydnabuwyd y byddai’r math yma o ddatblygiad yn anorfod yn cael
rhywfaint o effaith weledol ar y tai agosaf yma, ond
ni ystyriwyd y byddai’r effaith yn sylweddol yn
yr achos yma. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Ei fod yn Bennaeth Ysgol
Bro Lleu a bod pryder o ran
agosatrwydd y mast i’r ysgol a’r effaith
y gallai gael ar y plant; ·
Byddai’r stad ddiwydiannol yn gallu cuddied
y bwriad yn well; ·
Ddim yn ymwybodol o wir effaith datblygiad o’r fath, a oedd
datblygiadau tebyg wrth ymyl ysgolion
eraill? ·
Bod rhieni yn pryderu gyda
rhai yn bygwth
symud plant o’r ysgolion; ·
Bod Cartrefi Cymunedol Gwynedd ar fin gwneud cais cynllunio
ar dir wrth
ymyl ac yn bygwth tynnu allan
os caniateir y datblygiad yma; · Pryderu o ran effaith ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.7 |
|
Cais Rhif C17/0438/18/LL - Tir ger Teras Fictoria, Deiniolen, Caernarfon PDF 274 KB Diwygio amod 2 o ganiatâd cynllunio rhif C09A/0396/18/AM ar gyfer datblygiad preswyl er mwyn ymestyn y cyfnod o 3 mlynedd er mwyn galluogi cyflwyno cais caniatáu materion a gadwyd yn ôl. AELOD LLEOL: Cynghorydd Elfed Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Diwygio
amod 2 o ganiatâd cynllunio rhif C09A/0396/18/AM ar gyfer datblygiad preswyl er
mwyn ymestyn y cyfnod o 3 mlynedd er mwyn galluogi cyflwyno cais caniatáu
materion a gadwyd yn ôl. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi bod y bwriad yn parhau i
olygu datblygu’r safle ar gyfer
27 o dai (a oedd yn cynnwys
5 tŷ fforddiadwy ar gyfer angen
lleol cyffredinol) ynghyd â chreu mynedfa newydd. Roedd y cais gwreiddiol
yn destun cytundeb cyfreithiol o dan Adran 106 er
mwyn darparu elfen o dai
fforddiadwy. Nodwyd y byddai angen diweddaru’r
cytundeb 106 gan fod ei gynnwys
yn parhau i fod yn
ddilys er gwaethaf cyflwyno’r cais diweddaraf hwn. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Cyfeiriwyd at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn dilyn yr
ymgynghoriad cyhoeddus.
Nodwyd bod yr egwyddor o ddatblygu’r
safle ar gyfer datblygiad preswyl eisoes wedi ei dderbyn
o dan gais amlinellol rhif C09A/0396/18/AM
ac nid oedd newid wedi bod yn nhermau natur
a manylion y bwriad nac ychwaith yng
nghyd-destun polisïau a chanllawiau cynllunio lleol a chenedlaethol ac er bod y Cynllun Datblygu Lleol yn debygol o gael
ei fabwysiadu yn fuan, byddai’r
safle yn parhau i fod
o fewn ffin datblygu Deiniolen yn ogystal â’i
ddynodi ar gyfer datblygiad preswyl yn y cynllun.
Eglurwyd nad oedd
y cais diweddaraf hwn yn golygu
unrhyw newid i’r cynlluniau oedd eisoes wedi
derbyn caniatâd. Nodwyd bod y gwrthwynebiadau i’r cais cyfredol hwn
ar gyfer ymestyn yr amser
er mwyn cyflwyno
materion a gadwyd yn ôl wedi
derbyn ystyriaeth lawn ac ar sail yr asesiad
yn yr adroddiad
credir bod y bwriad yn parhau i
fod yn dderbyniol
yn ddarostyngedig i gynnwys amodau
perthnasol fel y cynhwyswyd o fewn y caniatâd amlinellol blaenorol. (b) Yn manteisio ar
yr hawl i
siarad nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:- ·
Nid egwyddor o ddatblygu’r
safle ar gyfer tai oedd dan ystyriaeth, yr egwyddor o ymestyn yr amser i
gyflwyno cais materion a gadwyd yn ôl a oedd yn berthnasol; ·
Bod gwelliannau i’r llwybr
eisoes wedi eu gwneud; ·
Bod y tir wedi ei ddynodi yn y
CDUG a’r CDLl ar gyfer datblygiad preswyl. Fe allai’r cyfran o dai fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad o
dan y CDLl fod yn llai. (c) Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod
lleol (nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddo:- ·
Nid oedd y cais yn ymateb i’r
galw am dai gyda 3 safle arall a oedd wedi derbyn caniatâd cynllunio am
ddatblygiad preswyl ddim wedi eu datblygu; ·
Bod yr adroddiad yn rhoi
llawer o sylw i bolisïau’r CDUG ond gan fod y CDLl ar
fin cael ei fabwysiadu roedd perygl nad oedd yr adroddiad yn rhoi ystyriaeth
ddigonol o ran polisïau’r CDLl. Dylid gohirio’r cais
tan roedd sefyllfa'r cynllun newydd yn gliriach; · Bod Ysgol Gwaun Gynfi yn agos at gapasiti llawn, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.8 |
|
Cais Rhif C17/0448/39/LL - Maes Carafanau Fron Hyfryd, Sarn Bach, Abersoch, Pwllheli PDF 355 KB Adeilad gwasanaethu newydd, amrywiol waith peirianyddol ynghyd a chynyddu lleiniau teithiol o 18 i 24. AELOD LLEOL: Cynghorydd
John Brynmor Hughes Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeilad gwasanaethu newydd, amrywiol waith peirianyddol ynghyd â chynyddu
lleiniau teithiol o 18 i 24. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir
y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli
yng nghefn gwlad rhwng Sarn
Bach a Bwlchtocyn a thu mewn i AHNE Llŷn
yn ogystal â Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Nodwyd ni
ystyriwyd fod y safle’n amlwg nac
ymwthiol yn y dirwedd gan fod
ffiniau’r caeau wedi eu hamgylchynu
a gwrychoedd a choed a oedd yn gweithredu
fel sgrin. Ychwanegwyd bod lleoliad y safle a’i osodiad
yn y dirwedd hefyd yn golygu
nad oedd
y lleoliad yn sefyll allan yn
weledol amlwg. Nodwyd bod yr Uned AHNE yn
cyd-weld ac yn nodi oherwydd natur
y safle, y tirlunio naturiol a’r dwysedd
isel credir y gellir ymgorffori'r cynnydd mewn nifer
o unedau heb amharu ar yr
AHNE. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Nodwyd oherwydd graddfa’r cais a’i leoliad ynghyd
a’i nodweddion naturiol presennol ni ystyrir
fod y safle yn ymwthiol yn
y dirwedd ac ni ystyrir ei fod
yn debygol o gael effaith niweidiol
arwyddocaol ar fwynderau gweledol yr AHNE. (b) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r
cais. Mewn ymateb i sylw gan aelod
yng nghyswllt cysylltu i’r system carthffosiaeth gyhoeddus, eglurodd y
Rheolwr Cynllunio bod y safle presennol wedi ei gysylltu i’r system
carthffosiaeth gyhoeddus. Holodd aelod o ran gosodiad y safle mewn perthynas
gyda’r parth llifogydd. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Cynllunio y cyflwynwyd cynllun diwygiedig yn symud
y llain yn gornel fwyaf gogledd
dwyreiniol y safle er mwyn sicrhau
bod y safle yn gyfan gwbl y tu
allan i’r
parth llifogydd. Cadarnhaodd bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn fodlon
yn dilyn y diwygiad. Nododd aelod bod yr adeilad
gwasanaethau newydd i’w groesawu. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2. Unol â chynlluniau a gyflwynwyd. 3. Nifer o unedau teithiol ar y safle ar unrhyw
un adeg i’w cyfyngu i 24. 4. Cyfyngu tymor i rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref. 5. Defnydd gwyliau yn unig. 6. Cadw cofrestr. 7. Dim storio carafanau teithiol ar y safle. 8. Byrddau pren ar waliau allanol yr adeilad
gwasanaethau i gael ei adael i hindreulio yn naturiol. 9. Lliw to’r adeilad gwasanaethau i fod o liw
llwyd BS 18 B 25. 10. Cyflwyno a chytuno Cynllun Rheolaeth
Cynefinoedd. 11. Cyflwyno a chytuno cynllun goleuo safle. 12. Cyflwyno a chytuno Cynllun Rheolaeth Amgylcheddol Adeiladu. |