Lleoliad: Neuadd Dwyfor - Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorydd Angela Russell (Aelod Lleol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: (a) Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol am y rhesymau a nodir: ·
Y Cynghorydd Dilwyn Lloyd, yn
eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0366/17/LL) oherwydd ei fod efo cysylltiad agos gyda’r ymgeisydd; ·
Y Cynghorydd Gruffydd
Williams, yn eitem 5.7 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0656/42/LL) oherwydd ei fod wedi holi am randir i gwmni Knights. Roedd yr Aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a
gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a nodir. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r
eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.1 a 5.2 ar y
rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C17/0159/39/LL a C17/0437/22/LL); ·
Y Cynghorydd Elwyn Edwards,
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C17/0459/04/LL). Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Nodwyd bod y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 24 Gorffennaf 2017 wedi penderfynu
cefnogi penderfyniad yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio i ofyn i Lywodraeth
Cymru ail-agor y gwrandawiad ar gyfer apêl cais cynllunio rhif C13/1143/11/AM -
Tir ym Mhen y Ffridd, Bangor, er mwyn rhoi ystyriaeth i’r Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd (CDLl) oedd i’w ystyried ar gyfer ei fabwysiadu gan y Cyngor
Llawn yn ei gyfarfod ar 28 Gorffennaf 2017. Adroddwyd y derbyniwyd cadarnhad gan Lywodraeth Cymru bod y gwrandawiad
wedi ei ail-agor a byddai’r gwrandawiad ffurfiol yn dechrau ar 15 Tachwedd
2017. Mewn ymateb i gwestiwn
gan aelod, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio y byddai’r
gwrandawiad yn ystyried materion yn ymwneud gyda’r CDLl a fabwysiadwyd gan y
Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 28 Gorffennaf. |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor
hwn, a gynhaliwyd ar 4 Medi 2017, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Medi 2017, fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd. Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C17/0159/39/LL - The Shanty, Pen Bennar, Abersoch, Pwllheli PDF 277 KB Dymchwel tŷ presennol ac adeiladu tŷ 3 llawr yn ei
le. AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi Wyn Roberts Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel
tŷ presennol ac adeiladu tŷ 3 llawr yn ei le. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a
gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf 2017 er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r
aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod ac eglurwyd yr edrychwyd ar y
safle o gyfeiriad Lôn Pont Morgan yn ogystal. Nodwyd bod y safle ar benrhyn Abersoch, y tu allan i ffin
datblygu'r pentref a thu mewn i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn
(AHNE). ‘Roedd gwrthwynebiadau wedi eu derbyn yng nghyswllt dyluniad y tŷ
a’r effaith ar yr AHNE. Cydnabuwyd pryderon y gwrthwynebwyr, fodd bynnag teimlir nad oedd hynny ynddo’i hun yn golygu y byddai'r bwriad
yn cael effaith niweidiol ar gymeriad yr ardal. Sylweddolir bod y dyluniad yn
gwneud defnydd helaeth o derasau a ffenestri sylweddol, fodd bynnag noder o’r
lluniau a gyflwynwyd gyda’r cais bod tai eraill gerllaw'r safle hefyd yn rhannu
nodweddion pensaernïol o’r fath. Teimlir bod y lluniau, a gyflwynwyd fel rhan o’r
cais, yn dangos na fyddai’r adeilad yn creu datblygiad ymwthiol yn y tirlun ac
er bod edrychiad y tŷ yn wahanol, ni ystyrir y byddai’n achosi niwed
arwyddocaol i dirwedd ac arfordir yr AHNE. Ystyrir fod y bwriad yn addas i’w
leoliad a’i gyd-destun ac na fyddai’n cael effaith andwyol ar yr AHNE. Hefyd,
oherwydd y lleoliad yn erbyn cefndir adeiledig Abersoch ni ystyrir y byddai’r
bwriad yn amharu’n sylweddol ar olygfeydd i mewn ac allan o’r AHNE. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan Cyd-Bwyllgor
Ymgynghorol AHNE Llŷn. Cadarnhawyd bod y
ddarpariaeth parcio yn dderbyniol ac nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth
wrthwynebiad i’r bwriad. Nodwyd bod Llwybr Cyhoeddus gerllaw’r safle a bod
angen ei ddiogelu yn ystod ac ar ddiwedd y datblygiad a gellir gwneud hyn drwy
amod ar y caniatâd cynllunio. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Pryder o ran yr effaith ar y llwybr cyhoeddus; ·
Bod y datblygiad yn enfawr ac yn ymdebygu i westy; ·
Byddai’n weladwy o’r môr a byddai’r datblygiad yn
amharu ar yr olygfa o’r Llwybr Arfordir; ·
Pryder o ran effaith datblygiadau mawr ar yr Iaith
Gymraeg; ·
Pryder o ran egwyddor dymchwel a chodi tŷ; ·
Bod y datblygiad yn groes i bolisi TAI 5 Tai
Marchnad Leol o’r CDLl; ·
Y cyflwynwyd y cais cyn mabwysiadu’r CDLl. Mewn ymateb i
sylwadau’r aelod lleol, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod
penderfyniadau ar geisiadau cynllunio ers 31 Gorffennaf 2017 yn unol â’r CDLl.
Nodwyd bod yr adroddiad yn ystyried y cais yng nghyd-destun polisïau’r CDLl.
Eglurwyd bod polisi TAI 5 yn ymwneud â thai newydd lle nad oedd tŷ eisoes
yn bodoli ar y safle. (c) Cynigwyd i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddogion oherwydd byddai’r bwriad yn or-ddatblygiad o’r safle amlwg ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1 |
|
Gosod mast telethrebu 21m o uchder gan gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet offer, cyfarpar offer cysylltiedig ynghyd a ffens diogelwch 1.8 o uchder AELOD LLEOL: Cynghorydd
Judith M Humphreys Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosod
mast telathrebu 21m o uchder gan gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet
offer, cyfarpar offer cysylltiedig ynghyd â ffens diogelwch 1.8 o uchder. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor
a gynhaliwyd ar 4 Medi 2017. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli ar gyrion Penygroes i gefn safle
cyfnewidfa ffôn a oedd yn cynnwys
adeilad unllawr parhaol. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Nodwyd bod gofynion cyffredinol Polisi PS3 o’r CDLl yn
caniatáu cynigion isadeiledd oedd yn ceisio estyn
neu wella cysylltiadau trwy gyfrwng y technolegau cyfathrebu presennol a rhai a oedd
yn cael eu
datblygu. Eglurwyd bod Polisi Cynllunio Cymru yn datgan yn glir mewn perthynas â
goblygiadau datblygiad arfaethedig o’r fath i iechyd mai barn Llywodraeth Cymru
oedd na ddylid bod angen i awdurdodau cynllunio lleol ystyried ymhellach unrhyw
effeithiau iechyd na’r pryderon amdanynt wrth brosesu cais am ganiatâd cynllunio
neu gymeradwyaeth o flaen llaw os oedd y datblygiad yn bodloni gofynion y
Comisiwn Rhyngwladol ar Amddiffyn rhag Ymbelydriad Anïoneiddiol (ICNIRP). Derbyniwyd gwybodaeth gan yr ymgeisydd yn dangos
cydymffurfiaeth gyda’r safonau yma. Nodwyd ei fod yn anorfod y byddai’r prif strwythur
arfaethedig yn rhannol weladwy o fannau cyhoeddus oherwydd yr angen
iddo fod mewn lleoliad weddol
agored er mwyn sicrhau y byddai’n gweithio i’w gapasiti llawn.
Ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn annhebygol
o gael effaith
amlwg hir dymor ar fwynderau
gweledol yr ardal leol. Adroddwyd
y derbyniwyd gwrthwynebiad hwyr o ran effaith y datblygiad ar heneb
Caer Engan, ymgynghorwyd efo CADW ac fe dderbyniwyd
cadarnhad nad oedd ganddynt wrthwynebiad
i’r bwriad. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan aelod oedd
yn gweithredu fel aelod lleol
(nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Bod y gymuned leol yn pryderu
am effaith negyddol y datblygiad ac yn awyddus i’w ail-leoli; ·
Bod dyletswydd i bwyllo yn
unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 gyda’r angen i
sicrhau anghenion tymor byr a hir dymor; ·
Cyfeirio at astudiaethau ac
apeliadau oedd yn dangos effeithiau ymbelydredd electro
magnetig ar iechyd. Cydnabod nad oedd materion iechyd yn ystyriaeth o ran
penderfynu ar y cais; ·
Pryder o ran yr effaith
weledol a’i effaith ar fusnes Pant Du a oedd yn atyniad ar gyfer pobl leol ac
ymwelwyr; ·
Pryder y byddai mast newydd
diwydiannol amlwg yn effeithio ar gais Llechi Cymru am statws Safle Treftadaeth
y Byd (UNESCO); ·
Bod Grŵp Cynefin efo
cynllun i ddatblygu tai ger y safle a’u bod yn gwrthwynebu’r bwriad. Gallai
caniatáu’r cais atal y cynllun; ·
Yn unol â diwylliant Ffordd
Gwynedd dylid gwrando ar sylwadau trigolion a gwrthod y cais yn y lleoliad yma.
(c) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch Gyfreithiwr ei fod yn gwerthfawrogi sylw’r aelod bod y Pwyllgor yn y cyd-destun cynllunio wedi eu clymu o ran materion iechyd. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2 |
|
Cais Rhif C17/0366/17/LL - Tir, Y Fron, Caernarfon PDF 246 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosod
1 grid gwartheg (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod yr
ymgeiswyr yn egluro mai’r bwriad
oedd cau bwlch yn y rhwystrau
presennol o amgylch Comin Uwchgwyrfai er atal defaid
a gwartheg rhag crwydro oddi ar
y Comin i bentrefi, ffyrdd a thiroedd cyfagos. Nodwyd mai’r prif bolisi
cynllunio a oedd yn ymwneud â newidiadau
i'r rhwydwaith cludiant oedd Polisi
TRA 1 o'r CDLl. Eglurwyd bod y polisi hwn yn caniatáu
gwelliannau i isadeiledd ffyrdd presennol os gellir
cwrdd gyda chyfres o feini prawf gan gynnwys
bod y safle a ddewisir yn cael yr
ardrawiad lleiaf posib ar yr
amgylchedd adeiledig a naturiol, y dirwedd ac eiddo. Ystyriwyd oherwydd maint eithaf bychan y datblygiad hwn, ynghyd a'i leoliad
mewn ardal amaethyddol ei naws, ni
fuasai'r grid ei hun na'r ffensys,
giât a waliau a fyddai o'i amgylch
yn ymddangos fel nodweddion anghydnaws yn y dirwedd. Cyfeiriwyd at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd. Nodwyd na
chredir y byddai'r lefelau sŵn a ddeilliai o'r grid yn debygol o fod
yn arwyddocaol wahanol i'r hyn
a gynhyrchir gan drafnidiaeth arferol o safbwynt ei effaith
mwynderol. Fe ystyrir felly
bod y cynnig yn cwrdd gyda gofynion
Polisi TRA 1 o ran amddiffyn
eiddo lleol a hefyd PCYFF 2 o ran amddiffyn iechyd, diogelwch a mwynderau trigolion lleol. Tynnwyd sylw nad oedd gan yr Uned
Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i'r bwriad o safbwynt diogelwch y briffordd er yn pwysleisio
ei fod yn
angenrheidiol derbyn caniatâd ychwanegol trwy orchymyn dan
Adran 82 o’r Ddeddf Priffyrdd 1980. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad
nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Ei fod yn cynrychioli trigolion a oedd yn pryderu o ran effaith y datblygiad; ·
Nid oeddent yn erbyn yr
egwyddor ond yn gwrthwynebu’r lleoliad a’i ddyluniad; ·
Pryder o ran diogelwch cerddwyr. (c) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Ei fod yn Gadeirydd Cymdeithas
Pori Uwchgwyrfai, ‘roedd y gymdeithas wedi ei gydnabod gan
Lywodraeth Cymru a bod yr aelodau wedi
arwyddo i gadarnhau y byddent yn cydymffurfio â’r gofynion; ·
Bod cynnydd o ran defnydd cerddwyr o’r Tir Comin
yn hel stoc
i lawr gan
greu trafferth o ran rheoli stoc; ·
Byddai’r grid yn atal stoc
rhag crwydro tuag at bentrefi Carmel a Groeslon. (ch) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. Cynigwyd
gwelliant i gynnal ymweliad safle. Nododd aelod
bod angen datrysiad gyda’r angen i
ystyried beth fyddai’r ateb gorau.
Eiliwyd y gwelliant. Pleidleisiwyd
ar y gwelliant ac fe syrthiodd. Pleidleisiwyd
ar y cynnig gwreiddiol i ganiatáu’r
cais ac fe
gariodd. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. Amser 2. Cydymffurfio gyda chynlluniau 3. Cytuno ar union leoliad, deunyddiau a dyluniad y ffensys / waliau / giât ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3 |
|
Cais Rhif C17/0459/04/LL - Parc Carafanau Llawr y Betws, Glan yr Afon, Corwen PDF 354 KB Cais llawn i ddiwygio gosodiad allan maes carafanau er mwyn lleoli cyfanswm o 92 o garafanau sefydlog, i gynnwys 30 o garafanau sefydlog (8 wedi eu adleoli o fewn y safle) i gymeryd lle 35 o garafanau teithiol, lleihad mewn dwysedd y carafanau sefydlog, a gwellianau amgylcheddol. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Elwyn Edwards Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais
llawn i ddiwygio gosodiad maes carafanau er mwyn lleoli cyfanswm o 92 o
garafanau sefydlog, i gynnwys 30 o garafanau sefydlog (8 wedi eu hadleoli o fewn y safle) i gymryd
lle 35 o garafanau teithiol, lleihad mewn dwysedd y carafanau sefydlog, a
gwelliannau amgylcheddol. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod caniatâd yn bodoli ar
hyn o bryd ar gyfer 70 o garafanau
sefydlog, a 35 o garafanau teithiol a bod y carafanau teithiol a’r carafanau
sefydlog wedi eu lleoli ar
ddau gae gwahanol o fewn y safle, ni fyddai’r
cais hwn yn golygu ymestyn
ffiniau’r safle. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli
mewn dyffryn cul naturiol, gyda
choed a gwrychoedd aeddfed ar hyd
y terfynau. Nodwyd yr ystyrir
bod cynnydd o 10% yn yr unedau statig
yn dderbyniol. Yn ogystal ystyrir
amnewid 35 uned deithiol gyda 15 uned statig ychwanegol
yn welliant i’r safle penodol
yma; gan y byddai’n golygu llai o lif traffig
cyffredinol ar hyd y ffyrdd cefn
cul a oedd
yn arwain i’r safle. Tynnwyd
sylw na
fyddai’r bwriad yn achosi effaith
weledol ychwanegol, a byddai safon y ddarpariaeth a gynigir yn welliant mawr. Nodwyd y byddai’r bwriad yn gwella gosodiad
y safle gan ei wneud yn
fwy trefnus ac atyniadol o gymharu â’i ffurf bresennol
oedd yn fwy
cyfyng a dwys, yn ogystal ystyrir
y byddai’r gwaith tirlunio a phlannu a fwriedir yn
welliant sylweddol i’r sefyllfa bresennol. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd y byddai’r bwriad yn golygu gwella
mwynderau a lleihau dwysedd y safle. (c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. Mewn
ymateb i gwestiwn gan aelod,
cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio bod yr amod “Rhaid cyflwyno
manylion goleuo’r safle er cymeradwyaeth,
a gweithredu’r cynllun o fewn amserlen benodol”
yn unol â’r
amod a argymhellwyd
gan Cyfoeth Naturiol Cymru. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1.
5
mlynedd i gychwyn y datblygiad; 2.
Unol
a’r cynlluniau a ganiatawyd; 3.
Defnydd
gwyliau yn unig 4.
Cyfyngu
nifer y carafanau sefydlog ar y safle i 92 yn unig, dim carafanau teithiol; 5.
Rhaid
cyflwyno manylion goleuo’r safle er cymeradwyaeth, a gweithredu’r cynllun o
fewn amserlen benodol; 6.
Cynllun
tirweddu a phlannu i’w weithredu o fewn y tymor plannu cyntaf yn dilyn
cwblhau’r datblygiad neu cyn y meddiannir y carafanau sefydlog sydd yn destun y
caniatâd hwn (p’run bynnag ddaw gyntaf); 7.
Cyflwyno
manylion ar gyfer y man chwarae o fewn mis o gychwyn gwaith, a’i gwblhau cyn y
meddiannir y carafanau sefydlog sydd yn destun y caniatâd hwn; 8.
Y datblygiad i gael ei
ymgymryd ag ef yn gaeth unol a’r mesurau ac argymhellion yr adroddiad ecolegol
a gyflwynwyd; 9. Lliwiau'r carafanau sefydlog i’w cytuno yn ysgrifenedig cyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.4 |
|
Cais Rhif C17/0557/38/LL - Tir ger Ffordd y Traeth, Llanbedrog, Pwllheli PDF 270 KB Adeiladu tŷ fforddiadwy. AELOD LLEOL: Cynghorydd Angela Russell Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu tŷ fforddiadwy. (a) Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi bod mapiau cynigion CDLl ar gyfer
pentref Llanbedrog yn dangos bod y safle yn gorwedd
y tu allan
i ffin datblygu'r
pentref ac ystyrir bod y bwriad cyfystyr a chodi tŷ newydd
yng nghefn gwlad. Er gwaethaf
dadleuon yr ymgeisydd nid oedd
swyddogion wedi eu hargyhoeddi, ar sail y wybodaeth a gyflwynwyd, bod y safle yn ffurfio estyniad
rhesymegol i ffin datblygu'r pentref. Nodwyd
y cyflwynwyd manylion a thystiolaeth i ddangos fod yr
ymgeisydd mewn angen tŷ fforddiadwy
ac yn cadarnhau bodlonrwydd i dderbyn
rhwymedigaeth drwy gytundeb cyfreithiol Adran 106 yn cyfyngu
daliadaeth a phris y tŷ pe’i gwerthid
yn y dyfodol er mwyn sicrhau
ei fod yn
parhau yn dŷ fforddiadwy. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd a nodwyd bod yr ymgeisydd wedi
cyflwyno cynlluniau diwygiedig a oedd yn lleihau arwynebedd
llawr y tŷ i 100m2. Nodwyd
ei fod yn
debygol na
fyddai codi tŷ ar y safle
yn creu datblygiad
a fyddai yn cael effaith niweidiol
sylweddol ar y tirlun ehangach. Eglurwyd bod y safle yn bresennol yn
rhan o gae amaethyddol mwy a oedd yn ymestyn
at yr arfordir gerllaw ac yn cynnig
preifatrwydd a llonyddwch i ddeiliaid y ddau
dŷ presennol
gerllaw. Roedd
yn ymddangos bod y llain bwriedig ynghyd a’r tŷ
bwriedig wedi ei wasgu cyn
agosed i’r ffin datblygu a phosibl er ceisio
cyfarfod gofynion polisi gan greu
safle cyfyng a datblygiad annerbyniol ac ystyrir na
fyddai’n creu estyniad rhesymegol i’r anheddle. Teimlir
felly y byddai caniatáu’r cais yn achosi
elfen o aflonyddwch ar y cymydog oherwydd
gweithgareddau defnydd preswyl eiddo newydd
a mynd a dŵad i mewn ac allan o’r llain felly roedd y bwriad yn groes
i bolisi PCYFF 2 a PCYFF 3 o’r CDLl. Nodwyd
bod y cynllun yn dangos y bwriedir creu mynedfa gerbydol
i’r gogledd ar hyd terfyn
y safle er mwyn cysylltu gyda
ffordd mynediad preifat o fewn ystâd o 12 o Dai Fforddiadwy cyfagos. Ni ystyrir y byddai defnyddio ffordd yr ystâd
fel mynediad i wasanaethu un
tŷ ychwanegol yn amharu ar
ddiogelwch ffyrdd. Argymhellwyd
y dylid gwrthod y cais ar sail: ·
Bod y bwriad yn groes i
PCYFF 1 o’r CDLl a oedd yn ymwneud
â bod y safle yn ffurfio estyniad rhesymegol i ffin
datblygu'r pentref; ·
Byddai caniatáu’r cais yn achosi
aflonyddwch annerbyniol gan gael
effaith niweidiol ar fwynderau trigolion
cyfagos. (b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Ei bod yn cytuno efo sylwadau’r
swyddogion a’u bod wedi cyflwyno adroddiad
i’r Gwasanaeth Cynllunio a oedd yn dod i’r
un darganfyddiadau a’r swyddogion; ·
Nad oedd tystiolaeth o ran yr angen am dŷ fforddiadwy; ·
Cwestiynu a fyddai’r tŷ yn fforddiadwy oherwydd ei faint, lleoliad a’i ddyluniad; ·
Cwestiynu prisiad o £250,000 o’r
tŷ wedi ei gwblhau. (c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.5 |
|
Cais Rhif C17/0603/43/LL - Capel Bethania, Pistyll, Pwllheli PDF 262 KB Newid defnydd ac ymestyn capel i greu uned wyliau yn cynnwys newid defnydd tir amaethyddol o amgylch y capel i greu ardal mwynderol a gosod tanc trin (cais diwygiedig). AELOD LLEOL: Cynghorydd
Aled Wyn Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd ac ymestyn capel i greu
uned wyliau yn cynnwys newid defnydd tir amaethyddol o amgylch y capel i greu
ardal mwynderol a gosod tanc trin (cais diwygiedig). (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod safle’r cais wedi ei leoli o fewn yr AHNE
a hefyd o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llyn ac Ynys
Enlli. Tynnwyd sylw at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod y
cyfnod ymgynghori cyhoeddus yng nghyswllt diogelwch ffyrdd ac oriau gwaith
adeiladu. Nodwyd bod polisi TWR 2 yn datgan y caniateir cynigion ar gyfer
trosi adeiladau presennol yn unedau
gwyliau hunan wasanaeth os ydynt
o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad. Ystyrir fod graddfa’r bwriad
yn addas ar gyfer y safle
a’r lleoliad gydag ond un uned
wyliau yn cael ei chreu.
Nodwyd hefyd bod y lleoliad yn gyfleus
gyda mynediad yn union oddi ar
y ffordd sirol ddosbarth 2. Nodwyd bod dyluniad yr estyniad
yn eithaf cyfoes, fodd bynnag,
ystyrir y byddai’r estyniad yn dderbyniol
ar gyfer y safle ac ystyrir bod y deunyddiau yn rhai
derbyniol. Yn dilyn derbyn gwrthwynebiad
gan yr Uned
Drafnidiaeth oherwydd nad oedd lle
i gerbyd aros oddi ar
y ffordd tra agorwyd giât i’r
safle a gosodiad y fynedfa, derbyniwyd cynllun diwygiedig gyda’r giât wedi
ei osod fwy
mewn i’r trac mynediad fel
bod modd i gerbyd aros i’r
giât agor oddi ar y ffordd
sirol. Nodwyd yn sgil derbyn
y manylion yma derbyniwyd sylwadau pellach gan yr
Uned Drafnidiaeth yn datgan fod
y bwriad i ail-leoli’r giât ymhellach
i mewn i’r
safle yn dderbyniol ac yn goresgyn rhan helaeth
pryderon priffyrdd. Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn amharu
ar ddiogelwch ffyrdd. Nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol
ar sail egwyddor, lleoliad, defnydd, dwysedd, dyluniad, deunyddiau, mwynderau gweledol, mwynderau preswyl a diogelwch ffyrdd ac yn cydymffurfio
gyda pholisïau a chyngor cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol. (b) Yn manteisio ar
yr hawl i
siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Ei fod yn awyddus i gadw edrychiad
yr adeilad fel capel a disodli’r festri a oedd ddim yn strwythurol gadarn efo
estyniad modern gyda chyferbyniad rhwng yr hen a’r newydd; ·
Ni chysylltir i’r garthffos
gyhoeddus; ·
Ei fod wedi prynu tir
ychwanegol er mwyn galluogi symud y fynedfa i wella gwelededd; ·
Bod darpariaeth parcio ar y
safle. (c) Cynigwyd ac eiliwyd i
ganiatáu’r cais. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau: ·
Bod y cais yn gyfle perffaith
i ddiogelu’r adeilad; ·
Pryder o ran diogelwch ffyrdd gyda cheir
yn parcio ar y ffordd ar
ochr y teras gyferbyn â’r safle.
Problemau goryrru ar y ffordd yma
ac yn anodd pasio’r ceir ar
y ffordd; · Nifer o geisiadau lle'r oedd unedau gwyliau a oedd wedi derbyn caniatâd cynllunio yn troi wedyn i fod yn dŷ. A fyddai’n bosib gosod amod i gyfyngu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.6 |
|
Cais Rhif C17/0656/42/LL - Maes y Garn, Stryd Fawr, Nefyn PDF 289 KB Adeiladu 5 o dai unllawr gyda un i fod yn dŷ fforddiadwy. AELOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu
5 o dai unllawr gydag un i fod yn dŷ fforddiadwy. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais,
gan nodi bod tir cyffiniol i’r gorllewin, oedd hefyd ym
mherchnogaeth yr ymgeisydd, eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio i adeiladu 10
o dai annedd deulawr. Eglurwyd fel rhan o’r caniatâd
roedd bwriad i gadw safle’r cais presennol fel 16 o randiroedd a bod amod ar
ganiatâd cynllunio C12/1372/42/LL i sicrhau fod y tir yma yn cael ei ddefnyddio
fel rhandiroedd. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli tu mewn i ffin
ddatblygu Nefyn a’i fod wedi ei glustnodi fel llecyn agored / cae chwarae i’w
warchod yn y CDLl gyda’r safle yn y gorffennol wedi
ei ddefnyddio fel rhandiroedd. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a
dderbyniwyd. Nodwyd yr ystyriwyd y bwriad o ran Polisi ISA 4 o’r CDLl
a oedd yn ymwneud â diogelu llecynnau agored presennol. Adroddwyd fel rhan o’r
cais cyflwynwyd dogfen Crynodeb o Dystiolaeth ar Lecyn Agored. Roedd yr asiant
hefyd fel rhan o’r cais wedi crynhoi’r wybodaeth a gasglwyd fel rhan o’r
Datganiad Cynllunio, Dyluniad a Mynediad. Cafodd y wybodaeth yma eu paratoi gan
yr asiant ac roedd yn crynhoi’r broses ac ymdrechion yr ymgeisydd i ganfod
tystiolaeth o’r galw am randiroedd yn Nefyn. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi gwneud arolwg o’r
rhandiroedd yn Y Ddôl er mwyn asesu faint o’r 21 oedd mewn defnydd yn Medi 2016.
O’r wybodaeth a gyflwynwyd dim ond 10 allan o’r 21 rhandir gyda chaniatâd
cynllunio oedd yn cael eu defnyddio. Gan fod yr ymgeisydd wedi cael ar ddeall drwy lythyr gan Gyngor Tref Nefyn
fod problemau draenio ar safle rhandiroedd Y Ddôl bu iddo geisio mynediad i
safle’r Ddol i asesu’r anghenion draenio ac i weld os oedd modd eu datrys.
Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi datgan ei fod yn parhau i fod yn barod i asesu
draeniad y tir i weld os gall gynorthwyo i wella’r rhandiroedd ar safle’r Ddôl
petai’r cyfle yn codi. Gellir gweld fod y sefyllfa o ran rhandiroedd yn
Nefyn wedi newid ers i’r cais am y 10 tŷ gael ei ganiatáu gyda chaniatâd
cynllunio wedi ei roi ar gyfer 21 o randiroedd ar safle’r Ddol. Ymddengys o’r wybodaeth a gyflwynwyd nad oedd
y rhandiroedd yma wedi eu llenwi ac er bod o bosibl resymau dros hyn roedd
potensial yma ar gyfer 21 o randiroedd. Deallir fod y tir yma ar les i Gyngor
Tref Nefyn gan Gyngor Gwynedd am 15 mlynedd o Hydref 2014. Nodwyd bod cynnwys Nodyn Cyngor Technegol 16 yn
nodi na ellir cael yr un math o warchodaeth i randiroedd mewn perchnogaeth
breifat ac a fyddai ar gyfer rhai oedd yn cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol.
Ystyrir fod ymdrech deg wedi ei wneud gan yr ymgeisydd i geisio gwybodaeth am
yr anghenion o safbwynt darpariaeth rhandiroedd yn Nefyn a hefyd i geisio
cyfrannu tuag at wella’r cyfleusterau ar safle’r Ddol. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi datgan y byddai’n fodlon arwyddo cytundeb 106 yn clymu un o’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.7 |